English

Pa rôl allwn ni ei chael er mwyn helpu plant i fod yn ddefnyddwyr beirniadol o’r newyddion a’r cyfryngau ac yn grewyr beirniadol ar eu cyfer?

Wrth i’r byd fynd i’r afael â heriau pandemig y coronafeirws, a’r helynt gwleidyddol a chymdeithasol parhaus sy’n cael ei sbarduno gan gamwybodaeth a rhwygiadau ar-lein, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn deall ym mhle y mae plant yn cael eu newyddion. Yn aml iawn, mae’r newyddion yn cyrraedd dyfeisiau digidol mewn llif diddiwedd, ac mae plant yn gosod eu safonau eu hunain ar gyfer y platfformau a’r bobl y maen nhw’n eu hystyried yn ffynonellau y gellid ymddiried ynddyn nhw.

Gyda 52% o blant bellach â’u ffonau clyfar eu hunain erbyn maen nhw’n 11 oed Common Sense Media (Saesneg yn unig), mae ganddyn nhw fynediad at gymaint o wybodaeth ar flaenau eu bysedd - ac mae llawer ohoni’n cael ei sbarduno gan gamwybodaeth, atgasedd neu raniadau.

Mewn adroddiad a gynhaliwyd gan Ofcom Plant a Rhieni: Adroddiad ar Agweddau a Defnydd o Gyfryngau 2019, mae hanner y plant deg oed bellach yn berchen ar eu ffôn clyfar eu hunain. Rhwng naw a deg oed, mae perchnogaeth ffonau clyfar yn dyblu - gan nodi carreg filltir bwysig yn annibyniaeth ddigidol plant wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd.

Yn yr Unol Daleithiau, mae ein gwaith ymchwil diweddaraf Teens and the News: The Influencers, Celebrities, and Platforms They Say Matter Most, 2020 (Saesneg yn unig), yn dangos nad yw pobl ifanc yn eu harddegau bellach yn dibynnu ar blatfformau newyddion traddodiadol, ac mae bron 80% yn cael eu newyddion o’r cyfryngau cymdeithasol. At hynny, er bod pobl ifanc yn eu harddegau yn dweud eu bod yn gweld gwerth mewn newyddion, maen nhw’n teimlo eu bod wedi’u datgysylltu oddi wrth ffynonellau sydd wedi hen ennill eu plwyf, ac mae llawer yn troi at ddylanwadwyr a selebs ar YouTube a phlatfformau eraill y cyfryngau cymdeithasol. 

Gwyddom hefyd fod platfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi llais i unigolion, grwpiau a sefydliadau nad ydyn nhw’n sefydliadau newyddion. Yn gynyddol, mae camwybodaeth, twyllwybodaeth a damcaniaethau cynllwyn yn cael eu lledaenu’n hawdd. Mae gan rieni, athrawon, gwneuthurwyr polisi a’r cyfryngau oll gyfrifoldeb i roi’r adnoddau i blant a fydd yn eu galluogi i fod yn ddinasyddion gwybodus.  

Yn Common Sense (Saesneg yn unig), rydyn ni’n rhoi gwybodaeth, cyngor ac adnoddau angenrheidiol ac y gellir ymddiried ynddyn nhw i deuluoedd ac athrawon fel y gallan nhw gefnogi plant mewn oes ddigidol. Isod fe welwch chi sawl darn o gyngor ar gyfer teuluoedd ac athrawon er mwyn helpu plant gyda llythrennedd newyddion.  

Cyngor i deuluoedd

O helpu plant i ddysgu sut i adnabod newyddion ffug, i addysgu sgiliau meddwl yn feirniadol a’u helpu i wahaniaethu rhwng ffeithiau a barn, mae cymaint y gall rheini ei wneud i helpu eu plant i lywio drwy’r byd swnllyd, rhagfarnllyd a rhanedig sydd ohoni.  Dyma ein prif gynghorion ar gyfer rhieni. Ewch ati i:

1. Annog amheuaeth iach

Ceisiwch eu helpu i ddadansoddi’r negeseuon sydd o’u cwmpas – o becynnau teganau i benawdau newyddion – a chwestiynu diben y geiriau a’r delweddau y maen nhw’n eu gweld.

2. Chwarae “adnabod yr hysbyseb”

Pan fyddwch chi’n gweld hysbysebion, gofynnwch i blant geisio dyfalu beth mae’r hysbyseb yn ei werthu. Weithiau mae’n amlwg, dro arall ddim cymaint. Ewch ati i’w helpu i archwilio pam mae rhai lluniau, synau neu eiriau yn cael eu defnyddio i werthu cynhyrchion penodol.

3. Archwilio pob ochr i’r stori

Defnyddiwch enghreifftiau bywyd go iawn er mwyn helpu plant i ddeall sut gall pobl edrych ar yr un sefyllfa o safbwyntiau cwbl wahanol. Gall un plentyn ystyried bod y profiad o chwarae gêm benodol ar y cae chwarae yn rhywbeth hwyliog, tra gallai plentyn arall deimlo bod y rheolau’n annheg. Pan fo’n briodol, cysylltwch yr enghraifft hon â stori newyddion.

4. Trafod y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn  

Beth am gynnig ambell syniad a cheisio penderfynu pa rai sy’n ffeithiau a pha rai sy’n farn bersonol. Gofynnwch: Pa mor dal ydych chi? Beth yw’r bwyd gorau yn y byd? Ydy creigiau yn suddo neu’n arnofio? Ydych chi’n hoffi cwn? Nodwch fod ffeithiau a barn i’w gweld yn y newyddion, ond y caiff barn ei labelu fel arfer.

5. Dewis ffynonellau amrywiol

Dangoswch i blant sut rydych chi’n cael gafael ar newyddion a gwybodaeth o wahanol lefydd ac eglurwch sut rydych chi’n gwneud eich dewisiadau. Defnyddiwch eiriau fel “credadwy”, “hygrededd”, “gellir ymddiried ynddo”, “uchel ei barch” a “theg”. Wrth i blant fynd yn hyn, ceisiwch gyflwyno syniadau “rhagfarn”, “dychan” ac “abwyd clicio” iddyn nhw.

Adnoddau i Deuluoedd

Mae Common Sense yn darparu’r adnoddau canlynol sy’n rhad ac am ddim ac yn seiliedig ar waith ymchwil ar gyfer rhieni fel y gallan nhw helpu eu plant gyda’u cyfryngau a’u technoleg, yn cynnwys:

Cyngor i athrawon

Mae gan athrawon rôl bwysig yn helpu dysgwyr i wybod, o’r hyn maen nhw’n ei weld ar-lein, beth y gallan nhw ymddiried ynddo, a’u helpu i archwilio’r ffordd y gall dylanwad, perswâd a’r broses o lywio ffordd o feddwl rhywun effeithio ar eu penderfyniadau, eu safbwyntiau a’r hyn maen nhw’n ei rannu ar-lein. Os nad yw athrawon yn ymdrin â phynciau anodd yn yr ystafell ddosbarth, bydd dysgwyr yn troi at eu ffynonellau eu hunain. Ein gwaith ni yw helpu i’w harwain tuag at ffynonellau credadwy a safbwyntiau amrywiol fel y gallan nhw ddatblygu eu safbwyntiau gwybodus eu hunain. Credwn fod llythrennedd newyddion yn elfen graidd o fod yn ddinesydd digidol cytbwys, a dyna pam rydyn ni’n mynd i’r afael ag ef fel pwnc craidd yn ein gwersi Dinasyddiaeth Ddigidol (Saesneg yn unig). Mae’n rhaid i ni ddenu dysgwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon am y ffactorau cymdeithasol a diwylliannol sy’n cyfrannu at yr hinsawdd gymhleth, ranedig ar adegau, rydyn ni’n byw ynddi heddiw. Cyngor i athrawon: 

1. Tu Hwnt i Ffynonellau Credadwy

Mae’r byd cyfredol o newyddion y cyfryngau – y rhyngrwyd ac fel arall – yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gael llygad feirniadol, ond nid sinigaidd. Mae ein gwersi yn ceisio eu helpu i ddatblygu llygad feirniadol, ond nid drwy geisio diystyru’r wybodaeth a’r profiadau sydd ganddyn nhw eisoes. Gall profiadau personol helpu dysgwyr i barhau i ymgysylltu’n feirniadol, yn enwedig pan fo’r ffynhonnell dan sylw yn perthyn i’r cyfryngau cymdeithasol neu blatfform newyddion sydd â safbwynt penodol.

2. Tegwch

Mae gan bob un ohonom ein ffefryn o ran ffynonellau newyddion a chyfryngau adloniant. A gall y ffefrynnau hyn adlewyrchu pwy ydyn ni: ein personoliaeth, ein rhywedd, ein cefndir diwylliannol, ein hoedran. Mae angen i bobl ifanc ddod o hyd i’w hoff ffynonellau newyddion a chyfryngau a’u defnyddio’n fwy effeithiol a beirniadol. Mae ein gwersi’n mynd i’r afael â’r mater hwn heb greu neu awgrymu hierarchaeth o ffynonellau newyddion credadwy. Pan fydd dysgwyr yn sicr o’u dewisiadau – a phwy ydyn nhw – maen nhw’n llawer mwy tebygol o dyfu a dysgu.

3. Economeg y Rhyngrwyd

Un elfen bwysig o newyddion a llythrennedd y cyfryngau yw “agor y llen” ar ddiwydiant y cyfryngau a thechnoleg er mwyn helpu dysgwyr i ddeall sut mae’r cyfryngau yn cael eu creu a pham, a sut mae’r diwydiant yn gweithredu. Oherwydd bod llawer o’r diwydiant yn seiliedig ar refeniw hysbysebu, bydd deall hysbysebu mewn oes ddigidol yn agwedd bwysig ar y pwnc hwn. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, gwelwyd cynnydd eithriadol yn y dulliau newydd y mae hysbysebwyr yn eu defnyddio i dargedu plant, yn cynnwys drwy drochi, hysbysebu drwy gemau, negeseuon feiral, hysbysebion ar-lein wedi’u personoli a thargedu yn seiliedig ar leoliad. Mae angen canllawiau ar ddysgwyr er mwyn deall y dirwedd gymhleth o ran y ffordd y caiff eu data ei ddefnyddio a’r ffordd y mae hysbysebwyr yn eu targedu ar y rhyngrwyd. Maen angen iddyn nhw ddeall hefyd y gwahaniaeth rhwng hysbyseb, erthygl sy’n mynegi barn ac erthygl newyddion a ysgrifennwyd gan newyddiadurwr.  

Adnoddau i Athrawon

Mae Common Sense yn darparu’r adnoddau canlynol sy’n seiliedig ar waith ymchwil am ddim, er mwyn addysgu dysgwyr sut i lywio drwy’r byd swnllyd, rhagfarnllyd a rhanedig sydd ohoni, ac er mwyn cael teuluoedd i gymryd sylw o newyddion a llythrennedd y cyfryngau, yn cynnwys:

Mae gwersi Dinasyddiaeth Ddigidol Common Sense Education ar gael yn y Gymraeg ar Hwb. Eu nod yw meithrin sgiliau ac ymagweddau er mwyn helpu pobl ifanc i ffynnu yn ein byd rhyng-gysylltiedig, ac mae’r adnoddau eisoes yn cael eu defnyddio gan filiwn o addysgwyr ar hyd a lled y byd. 

Gyda’r cymorth iawn gan deuluoedd ac ysgolion, gall pobl ifanc ddysgu i fod yn feirniadol, heb fod yn sinigaidd, ynghylch y newyddion a’r wybodaeth maen nhw’n eu gweld ac yn eu rhannu.


 

Kelly Mendoza, PhD

Uwch Gyfarwyddwr Rhaglenni Addysg, Common Sense Education

Mae Dr. Kelly Mendoza yn goruchwylio cynnwys a strategaeth addysg dinasyddiaeth ddigidol ar gyfer Common Sense Education, yn cynnwys y Cwricwlwm Dinasyddiaeth Ddigidol, gemau rhyngweithiol, datblygiad proffesiynol ac ymgysylltu â rhieni.