English

Mae’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd bron yn gwbl weledol y dyddiau hyn, felly mae plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad yn gyson â chynnwys (fel lluniau a fideos) a allai ddylanwadu ar eu canfyddiadau o ddelwedd y corff. Gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor enfawr yn eu bywydau, gan gynnwys eu profiad o'r ysgol/coleg, mae'n hanfodol bod ymarferwyr yn deall yr effaith y gall hyn ei chael ar eu hunan-barch a'u lles corfforol ac emosiynol.

Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r ffyrdd y gall cyfryngau cymdeithasol effeithio ar agweddau plentyn neu berson ifanc at ddelwedd y corff a hunan-ddelwedd, a’r hyn y gallwch ei wneud i’w helpu i osod ffiniau ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd iach a chadarnhaol.


Canfu Ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg (Saesneg yn unig) y gall cyfryngau cymdeithasol ddylanwadu ar blant mor ifanc â phump oed i feddwl am fynd ar ddeiet ac ildio i bwysau i fod yn ‘denau’. Felly, mae’n bwysig treulio amser yn trafod materion sy’n ymwneud â delwedd y corff a’r cyfryngau cymdeithasol gyda’ch dysgwyr, waeth beth yw eu hoedran. Gallwch eu helpu i ddeall risgiau’r hyn maen nhw’n ei weld ar-lein a’u galluogi i feithrin gwytnwch, adnabod cynnwys go iawn neu ffug a gwneud dewisiadau cadarnhaol.


Mae bod ar gyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o fywydau llawer o ddysgwyr, felly mae’n bwysig trafod gyda nhw beth maen nhw’n ei ddeall am faterion yn ymwneud â delwedd y corff ar-lein.

Gall sut mae dysgwyr yn diffinio’r termau ‘delwedd y corff’ a ‘hunan-ddelwedd’ newid gydag oed a phrofiad. Er enghraifft:

  • gall dysgwyr iau gyfeirio at ddelwedd y corff fel edrych yn ‘hardd’, ‘cyhyrog’ neu ‘cŵl’
  • efallai y bydd dysgwyr hŷn yn siarad mwy am greu hunaniaeth neu ‘frand’ penodol ar-lein sy’n cynnwys y dillad maen nhw’n eu gwisgo, y math o gynnwys maen nhw’n ei bostio a’r arddull maen nhw’n ei defnyddio wrth bostio
  • i rai pobl ifanc, gall ymddygiadau neu ystumiau rhywiol eu natur hefyd fod yn rhan o’r ‘brand’ hwn.

Helpwch ddysgwyr i adnabod a deall y pwysau maen nhw’n gallu eu hwynebu sy’n gallu dylanwadu ar argraffiadau pobl o ddelwedd y corff. Mae’r pwysau hyn yn disgyn yn fras i ddau gategori:

  • pwysau gan enwogion a diwylliant y cyfryngau
  • pwysau gan gyfoedion.

Canfu Ymchwil gan YMCA (Saesneg yn unig) fod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yn dweud bod diwylliant enwogion ar-lein yn creu ymddangosiad ‘delfrydol’ yr oedden nhw’n teimlo dan bwysau i anelu ato. Roedden nhw hefyd yn teimlo bod eu grwpiau cyfoedion yn atgyfnerthu disgwyliadau ynghylch ymddangosiad, ac y gallai eu henw da ar-lein gael ei niweidio os nad oedden nhw’n bodloni’r disgwyliadau hynny.

Yn yr un modd, canfu prosiect ymchwil 'Life in Likes' (Saesneg yn unig) hefyd fod plant iau rhwng 10 a 12 oed yn teimlo dan bwysau i ymddangos mewn ffordd benodol a chynnal yr ymddangosiadau hynny ar-lein er mwyn cael eu ‘hoffi’ ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mae helpu dysgwyr i ddeall sut gallai cyfryngau cymdeithasol effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles yn hanfodol er mwyn eu harfogi â’r sgiliau i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gadarnhaol ac yn ddiogel.

Canfu ymchwil gan y Gymdeithas Frenhinol dros Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) fod defnyddio rhai o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn gallu arwain at effeithiau negyddol fel gorbryder, iselder, ‘Ofn Colli Allan’ (neu FOMO) a materion yn ymwneud â delwedd y corff, yn enwedig i ferched a menywod ifanc.

Fodd bynnag, mae effeithiau cadarnhaol yn deillio o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Ar wahân i gefnogi addysg a dysgu, gall:

  • ddarparu mynediad at wybodaeth iechyd
  • rhoi cefnogaeth emosiynol
  • caniatáu hunanfynegiant
  • helpu dysgwyr i feithrin perthynas gadarnhaol ag eraill.

Gall archwilio’r cyfryngau cymdeithasol a’i broblemau gyda dysgwyr eu helpu i ganfod yr achosion a’r pwysau sy’n arwain at effeithiau negyddol. Helpwch ddysgwyr i greu profiad mwy cadarnhaol ar-lein drwy ystyried strategaethau gyda’i gilydd i wrthsefyll pwysau gan eraill a chymryd rheolaeth dros yr hyn maen nhw’n ei weld ar-lein.

Manteisiwch ar gyfleoedd i ddangos enghreifftiau neu ymgyrchoedd i ddysgwyr sy’n annog derbyn a gwerthfawrogi cyrff o bob siâp, maint ac ymddangosiad.

Canfu ymchwil gan Cohen et al (2019) (Saesneg yn unig) fod negeseuon cadarnhaol am gyrff (BoPo) ar gyfryngau cymdeithasol wedi arwain at welliannau ym modlonrwydd a gwerthfawrogiad merched ifanc o’u cyrff. Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol BoPo yn y dyfodol.  

  • Mae rhywfaint o gynnwys ar-lein yn atgyfnerthu stereoteipiau ynghylch delwedd y corff, yn enwedig o ran rhywedd (fel y syniad y dylai pob merch fod yn denau ac y dylai pob bachgen fod â bol cyhyrog (‘six pack’). Os yw plant a phobl ifanc yn credu bod angen iddyn nhw fynd ar drywydd a chyflawni’r hyn y credan nhw sy’n ‘gorff perffaith’, gall hyn achosi niwed corfforol ac emosiynol iddyn nhw a’u hannog i gael perthynas anodd â bwyd, ymarfer corff a’u hunan-werth eu hunain am flynyddoedd i ddod.
  • Gall rhai mathau o gynnwys ar-lein hyrwyddo ymddygiadau neu gyflyrau niweidiol fel anhwylderau bwyta (anorecsia, bwlimia neu orfwyta mewn pyliau) ac arferion peryglus o ran mynd ar ddeiet neu ymarfer corff. Mae’n bwysig bod eich dysgwyr yn sylweddoli pa mor niweidiol yw’r cynnwys hwn, a bod rhai pobl yn postio cynnwys o’r fath ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r bwriad o ddylanwadu’n negyddol ar eraill. Anogwch eich dysgwyr i ystyried o ddifrif y mathau o gyfrifon maen nhw’n eu dilyn a sut mae’r cynnwys hwn yn gwneud iddyn nhw deimlo.

Cofiwch, er ei bod yn hanfodol addysgu dysgwyr am gynnwys problemus ar-lein, mae’n rhaid i chi gymryd camau i ddiogelu dysgwyr agored i niwed drwy sicrhau nad yw gwersi, gweithgareddau na siaradwyr gwadd yn darparu gwybodaeth am hunan‑niweidio nac yn darparu ysbrydoliaeth ar ei gyfer.

Dysgwch eich dysgwyr i gwestiynu’r cynnwys maen nhw’n ei weld drwy edrych ar wahanol ffyrdd mae delweddau wedi cael eu trin.

Gallwch egluro i’ch dysgwyr:

  • fel y mae cynnwys ar-lein gan enwogion a dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol yn aml yn defnyddio llawer o dechnegau i bortreadu cyrff delfrydol neu ‘berffaith’, er enghraifft defnyddio onglau camera sy’n rhoi golwg well, tynnu lluniau lluosog i ddewis yr un gorau, a hyd yn oed defnyddio dulliau trin digidol (addasu siâp y corff a llyfnhau croen)
  • faint o bobl ifanc sydd hefyd yn cymryd camau i olygu eu hedrychiad cyn rhannu llun – canfu ymchwil gan Ganolfan Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y DU (Saesneg yn unig) fod 81 y cant o bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed wedi dweud iddyn nhw newid neu olygu llun cyn ei rannu.

Drwy ddysgu eich dysgwyr i gwestiynu cynnwys o’r fath, gallwch eu helpu i ddeall y cymhellion dros ei greu. Bydd hyn yn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwell ynghylch a yw’r cynnwys yn realistig neu’n gyraeddadwy, ac yn eu hannog i wrthsefyll y pwysau i addasu eu hymddangosiad eu hunain.

Mae hefyd yn bwysig helpu dysgwyr i gydnabod nad yw cymharu eu cyrff eu hunain â chyrff pobl maen nhw’n eu gweld ar-lein yn ddefnyddiol yn aml. Atgoffwch y dysgwyr fod newidiadau enfawr i ddatblygiad corfforol a meddyliol yn digwydd drwy gydol plentyndod a blaenlencyndod, ac y gallai cymharu eu corff hwy sy’n datblygu ag unigolyn enwog arwain at ddiffyg hyder yn y corff.

Un o’r ffyrdd gorau o helpu dysgwyr i ddatblygu gwytnwch i faterion sy’n ymwneud â delwedd y corff ar-lein yw dysgu strategaethau iddyn nhw ar gyfer rheoli’r hyn maen nhw’n ei weld a’i brofi ar gyfryngau cymdeithasol. Gellir gwneud hyn drwy annog dysgwyr i wneud y canlynol:

  • newid ffocws eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn defnyddwyr ac enwogion sy’n postio cynnwys sy’n gwella lles
  • addasu’r hyn maen nhw’n ei weld ar gyfryngau cymdeithasol drwy addasu eu cyfrif neu eu gosodiadau preifatrwydd
  • defnyddio offer adrodd ar gyfryngau cymdeithasol i roi gwybod am gynnwys sy’n amhriodol, yn niweidiol neu a allai hyrwyddo ymddygiad niweidiol yn eu barn nhw
  • datblygu strategaethau i ddatgysylltu o’r cyfryngau cymdeithasol neu gyfyngu ar yr amser maen nhw’n ei dreulio ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn olaf, mae’n hanfodol bod dysgwyr yn gwybod beth i’w wneud os ydyn nhw’n teimlo bod ganddyn nhw ddelwedd negyddol o’r corff neu os ydyn nhw’n poeni am unrhyw beth maen nhw’n ei weld neu’n ei brofi ar-lein. Dylech bob amser annog dysgwyr i ofyn i oedolyn maen nhw’n ymddiried ynddo am gymorth a chefnogaeth. Mewn rhai achosion, efallai y byddan nhw hefyd yn dymuno gofyn am help gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol.


Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol. Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.

Mae canllawiau i helpu i ddatblygu Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y cwricwlwm, ar gael.


Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn elfen orfodol o’r cwricwlwm newydd ar gyfer dysgwyr rhwng 3–16 oed. Caiff canllawiau statudol eu cyhoeddi yn 2021 yn nodi beth ddylai gael ei gynnwys.

Bydd addysgu ACRh yn briodol i ddatblygiad y dysgwr, ac mae ganddo rôl bwysig i’w chwarae o ran cefnogi dysgwyr i adnabod cydberthnasau iach a diogel yn ogystal â deall a meithrin parch tuag at bobl a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Mae gan ysgolion rôl bwysig o ran atal ac amddiffyn, trafod ac ymateb i gwestiynau ac anghenion dysgwyr. Mae ganddyn nhw y potensial i greu amgylcheddau diogel a grymusol sy’n adeiladu ar ddysgu ffurfiol ac anffurfiol dysgwyr eu hunain, all-lein ac ar-lein.

Cyhoeddwyd y fframwaith diwygiedig ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020, a darparwyd manylion i ddangos sut dylid gwreiddio ACRh ar draws y cwricwlwm yn y dyfodol.


Mae rhagor o wybodaeth am gefnogi dysgwyr i ddeall sut y gall delwedd y corff gael ei siapio gan brofiadau ar-lein ar gael yn yr adnodd Cadw’n ddiogel ar-lein ‘Effaith insta: Delwedd y corff a hunan-barch mewn oes ddigidol’.


Mae Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb yn darparu amrywiaeth eang o gyngor, arweiniad ac adnoddau ynghylch cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.

I gael rhagor o gymorth, cyngor a chefnogaeth, ac i roi gwybod am gynnwys a phryderon, ewch i’r Gwasanaethau Cymorth ar Cadw’n ddiogel ar-lein.