English

Cynulleidfa

Uwchradd (11 i 16 oed)

Amser

60 munud

Deiliannau dysgu

Bydd dysgwyr yn gallu:

  • gwerthuso’r wybodaeth sydd ganddyn nhw’n barod am seiberddiogelwch
  • ystyried risgiau seiberdroseddu iddyn nhw eu hunain ac i eraill
  • edrych ar strategaethau i ddiogelu data a dyfeisiau personol
  • ystyried strategaethau pwysig sy’n meithrin arferion da o ran seiberddiogelwch

Geirfa allweddol

Seiberdroseddu, seiberddiogelwch, data, diogelwch, cyfrinair, risgiau, sgam, gwe-rwydo, adfer, mur cadarn, copïau wrth gefn, rheoli cyfrifon, diweddariadau, system weithredu, maleiswedd, feirws

Adnoddau

Sleidiau PowerPoint, sisyrnau, dis.

Paratoi

  • Darllenwch ‘Canllaw i ymarferwyr addysg ar seiberddiogelwch’ sydd ar ‘Byddwch yn gall ar y we er mwyn osgoi seiberdroseddu’ i sicrhau bod gennych chi ddealltwriaeth glir o’r maes.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â pholisi a gweithdrefnau diogelu eich ysgol, yn ogystal â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, os bydd datgeliad neu bryderon am ddiogelwch neu les dysgwr. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau diogelu statudol ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’.
  • Argraffwch gopïau o’r 4 gweithgaredd carwsél (sleidiau 8 i 16) – un copi i bob pâr/grŵp bach.
  • ‘Gweithgaredd 3: Paru maleiswedd’ (sleidiau 12 i 14) – mae angen i’r cardiau gael eu torri allan yn barod ar gyfer gweithgaredd trefnu.
  • Argraffwch ‘Cyngor campus’ (sleid 17) – un copi i bob dysgwr.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Mae’r adnodd hwn yn gallu cefnogi’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles neu’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac mae’n gysylltiedig â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Cwestiynau allweddol (i’w defnyddio fel awgrymiadau neu i ddechrau trafodaeth)

  • Beth yw seiberdroseddu? Beth yw risgiau seiberdroseddu?
  • Beth yw seiberddiogelwch? Sut ydych chi'n diogelu eich gwybodaeth bersonol ar-lein?
  • Beth sy’n gwneud cyfrinair da?
  • Beth yw sgam ar-lein? Sut ydych chi’n gallu sylwi ar un? Beth yw gwe-rwydo a SMS-rwydo?
  • Beth yw maleiswedd? Pa fathau rydych chi’n ymwybodol ohonyn nhw, a beth maen nhw’n ei wneud?
  • Sut gallwch chi ddiogelu eich dyfeisiau rhag seiberdroseddwyr?
  • Beth fyddech chi’n ei wneud pe byddai rhywun yn dwyn eich cyfrinair neu’n hacio eich cyfrif?
  • Beth yw eich cyngor campus i fod yn seiberddiogel ar-lein?

Gan ddefnyddio’r sleidiau PowerPoint sy’n gysylltiedig â’r cynllun gwers hwn, dechreuwch drwy ofyn i’r dysgwyr:

  • beth yw seiberdroseddu?

Casglwch syniadau gan y dysgwyr ac yna rhannu’r 2 fath o seiberdroseddau ar sleid 3.

Esboniwch y bydd y wers hon yn canolbwyntio ar droseddau sy’n ddibynnol ar y we fel dwyn hunaniaeth, dwyn data, hacio a maleiswedd.

Gan ddefnyddio sleid 4, gofynnwch i’r dysgwyr ystyried effeithiau seiberdroseddu ar ddefnyddwyr unigol, fel nhw eu hunain, ac ar fusnesau neu sefydliadau. Trafodwch a rhannu syniadau. Cliciwch ar y sleid i ddatgelu rhai awgrymiadau.

Ar sleidiau 5 a 6, gofynnwch y cwestiynau amlddewis byr am seiberddiogelwch gan ofyn i’r dysgwyr godi eu dwylo ar gyfer pob ateb cywir.

Dangoswch yr atebion cywir ar y sleidiau a thrafodwch y rhain gyda’r dysgwyr. Efallai y bydd eu hymatebion yn eich annog i’w cyfeirio at weithgareddau penodol yn y carwsél yn gyntaf.

Esboniwch i’r dysgwyr y byddan nhw’n gwneud gwahanol weithgareddau cyflym i ddysgu sut mae diogelu eu gwybodaeth a’u dyfeisiau ar-lein. Bydd pob gweithgaredd yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Efallai y byddwch chi am gynnal y 4 gweithgaredd sydd ar gael neu ddewis y gweithgareddau a fyddai fwyaf buddiol i’ch dysgwyr.

Os bydd y 4 gweithgaredd yn cael eu cynnal, rhannwch y dosbarth yn 4 grŵp a chreu 4 ardal yn yr ystafell ddosbarth, un ar gyfer pob gweithgaredd. Bydd pob grŵp yn dechrau ar un gweithgaredd, yna ar ôl 10 munud byddan nhw’n symud i’r gweithgaredd nesaf, nes bydd pob grŵp wedi cwblhau’r holl weithgareddau sydd ar gael. Rhoddir cyfarwyddiadau gyda phob gweithgaredd ar y sleidiau, ac mae’r holl ddeunyddiau sydd i’w hargraffu ar gael ar y sleidiau.

Dyma grynodeb o bob gweithgaredd.

  1. Rholio dis i greu cyfrinair (sleid 8) – bydd dysgwyr yn defnyddio cysyniad Diceware (Saesneg yn unig) i rolio dis i gynnig geiriau ar hap i greu cyfrinair cryf. Bydd angen darparu o leiaf 4 dis i bob pâr/grŵp bach. Gofynnwch i’r dysgwyr ymweld â thudalen Dis EFF (Saesneg yn unig) i ddeall mwy pam mae ymadroddion cyfrin ar hap mor ddiogel.
  2. Sbotio’r sgamwyr (sleidiau 9 i 11) – bydd dysgwyr yn defnyddio taflen ganllawiau (sleid 10) i ddod o hyd i’r gwahanol ffyrdd mae sgamwyr yn ceisio twyllo defnyddwyr ar-lein i roi data personol fel enwau defnyddwyr a chyfrineiriau.
  3. Paru maleiswedd (sleidiau 12 i 14) – bydd dysgwyr yn paru gwahanol fathau o faleiswedd gyda’u diffiniadau.
  4. Cynllun gweithredu mewn argyfwng (sleidiau 15 i 16) – bydd dysgwyr yn ystyried y camau y gallan nhw eu cymryd i reoli cyfrineiriau a phwy sy’n gallu eu helpu os bydd rhywun yn dwyn neu’n amharu ar eu cyfrif. Byddan nhw hefyd yn ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf.

Dowch â’r dysgwyr yn ôl at ei gilydd a rhoi copi o’r daflen ‘Cyngor campus’ (sleid 17) iddyn nhw. Gofynnwch iddyn nhw ystyried popeth maen nhw wedi’i ddysgu o’r carwsél gweithgareddau i ysgrifennu rhestr o 3 o gynghorion a fyddai, yn eu barn nhw, yn helpu pobl ifanc neu aelodau eraill o’r teulu i fod yn seiberddiogel.

Gofynnwch i’r dysgwyr rannu eu cyngor campus a’u trafod ymhellach os oes angen.

Rhannwch sleid 18 gyda rhai awgrymiadau ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol i ddysgwyr.

Mae sleid 19 yn rhoi enghreifftiau o fathau o ymddygiad a fyddai’n torri’r Ddeddf Cyfathrebu Maleisus sy’n tynnu sylw at ba mor hawdd yw croesi’r llinell a bod yn rhan o weithgarwch troseddol. Mae heddluoedd yn defnyddio tacteg dargyfeirio seiber weithredol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’.

Yn olaf, ar sleidiau 21 i 22, trafodwch gyda’r dysgwyr at bwy y bydden nhw’n gallu troi am gymorth pe bydden nhw’n poeni am seiberddiogelwch. Gall hyn gynnwys oedolion yn yr ysgol, aelodau’r teulu ac adran Cyber Aware (Saesneg yn unig) ar wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).

Mae sleid 20 yn cynnwys manylion cynllun CyberFirst (Saesneg yn unig) y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) sy’n annog pobl ifanc dalentog i ddefnyddio eu sgiliau technegol mwy datblygedig i helpu i frwydro yn erbyn seiberdroseddu yn hytrach na’i gyflawni.

Hefyd, rhannwch y ddolen ActionFraud (Saesneg yn unig) ac atgoffwch y dysgwyr eu bod nhw hefyd yn gallu rhoi gwybod am faterion sy’n ymwneud â chyfrifon i ddarparwyr gwasanaeth apiau/gemau.

Mesurau uwch i ddiogelu cyfrifon

Gyda’r dysgwyr, edrychwch ar y dulliau mwy soffistigedig o ddiogelu cyfrifon a dyfeisiau ar-lein. Gallai’r rhain gynnwys defnyddio rheolwyr cyfrineiriau i storio manylion cyfrif yn ddiogel, dull dilysu aml-ffactor, neu wasanaethau mynediad dienw fel rhwydweithiau preifat rhithwir (VPN) sy’n atal defnyddwyr eraill ar-lein rhag olrhain neu gasglu data am unigolyn.

Cadw pethau’n breifat

Gan ddibynnu ar brofiadau eich dysgwyr ar-lein, efallai y byddai’n ddefnyddiol trafod ac archwilio gosodiadau cyfrif sydd ar gael ar yr apiau a’r gwasanaethau mae dysgwyr yn eu defnyddio er mwyn rheoli eu preifatrwydd. Gallai hyn gynnwys gosodiadau sy’n cyfyngu ar bwy sy’n gallu cysylltu â nhw, pwy sy’n gallu gweld gwybodaeth bersonol ar broffil eu cyfrif, ac adnoddau eraill a allai ganiatáu iddyn nhw flocio neu roi gwybod am ddefnyddwyr amheus.

Mae detholiad o restrau gwirio ar gael ar Hwb ac Internet Matters (mae cyfieithiad iaith ar gael ar y safle).

Cadw’n ddiogel ar-lein

Gellir defnyddio’r wers hon fel sbardun ar gyfer dysgu ychwanegol am sut mae cadw chi’ch hun ac eraill yn ddiogel ar-lein. Mae rhagor o adnoddau i gefnogi’r dysgu ar gael ar adran ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ ar Hwb.

Peidiwch â chamu at seiberdroseddu

Datblygwyd adnodd gwers am ddim gan SchoolBeat ac Uned Seiberdroseddu Rhanbarthol TARIAN sy’n tynnu sylw at y risgiau sy’n gysylltiedig â seiberdroseddu.