English

Cynulleidfa

Cynradd (7 i 11 oed)

Amser

60 munud

Deilliannau dysgu

Bydd dysgwyr yn gallu:

  • nodi risgiau seiberdroseddu iddyn nhw eu hunain ac i eraill
  • edrych ar strategaethau i ddiogelu data a dyfeisiau personol
  • ystyried strategaethau pwysig sy’n meithrin arferion da o ran seiberddiogelwch

Geirfa allweddol

Seiberdroseddu, seiberddiogelwch, data, diogelwch, cyfrinair, risgiau, sgam, gwe-rwydo, adfer, mur cadarn, copïau wrth gefn, rheoli cyfrifon, diweddariadau, system weithredu, maleiswedd, feirws

Adnoddau

Sleidiau PowerPoint, sisyrnau, ffyn glud.

Paratoi

  • Darllenwch ‘Canllaw i ymarferwyr addysg ar seiberddiogelwch’ sydd ar ‘Byddwch yn gall ar y we er mwyn osgoi seiberdroseddu’ i sicrhau bod gennych chi ddealltwriaeth glir o’r maes.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â pholisi a gweithdrefnau diogelu eich ysgol, yn ogystal â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, os bydd datgeliad neu bryderon am ddiogelwch neu les dysgwr. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau diogelu statudol ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel.
  • Argraffwch gopïau o’r 4 gweithgaredd carwsél (sleidiau 7 i 17) – un copi i bob pâr/grŵp bach. Efallai yr hoffech chi argraffu sleid 9 (templed dis) ar gerdyn.
  • Argraffwch ‘Cyngor campus’ (sleid 18) – un copi i bob dysgwr.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Mae’r adnodd hwn yn gallu cefnogi'r gweithgareddau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles neu’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac mae’n gysylltiedig â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Cwestiynau allweddol (i’w defnyddio fel awgrymiadau neu i ddechrau trafodaeth)

  • Beth yw seiberdroseddu? Beth yw risgiau seiberdroseddu?
  • Beth yw seiberddiogelwch? Sut ydych chi'n diogelu eich gwybodaeth bersonol ar-lein?
  • Beth sy’n gwneud cyfrinair da?
  • Beth yw sgam ar-lein? Sut ydych chi’n gallu sylwi ar un? Beth yw gwe-rwydo a SMS-rwydo?
  • Sut gallwch chi ddiogelu eich dyfeisiau rhag seiberdroseddwyr?
  • Beth fyddech chi’n ei wneud pe byddai rhywun yn dwyn eich cyfrinair neu’n hacio eich cyfrif?
  • Beth yw eich cyngor campus i fod yn seiberddiogel ar-lein?

Gan ddefnyddio’r sleidiau PowerPoint sy’n gysylltiedig â’r cynllun gwers hwn, dechreuwch drwy ofyn i’r dysgwyr:

  • beth yw seiberdroseddu? (sleidiau 3 a 4)
  • beth yw risgiau seiberdroseddu?

Gan ddefnyddio sleid 4, ydy’r dysgwyr yn gallu dweud wrthych chi pa fath o seiberdrosedd mae’r 4 delwedd yn ei gynrychioli?

  1. Hacio – casglu gwybodaeth ddigidol yn anghyfreithlon gyda chaniatâd y perchennog
  2. Gwe-rwydo – twyllo rhywun i roi gwybodaeth i chi sy’n sensitif iddyn nhw
  3. Ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig (distributed denial of service attack (DDoS)) – defnyddio casgliad o ddyfeisiau (weithiau o bob rhan o’r byd) i ‘pingio’ gweinydd dro ar ôl tro, a hyn wedyn yn atal defnyddwyr cyfreithlon rhag cael mynediad i’r gweinydd
  4. Meddalwedd faleisus (maleiswedd) – mae’n cynnwys meddalwedd sy’n gallu ‘herwgipio’ ffeiliau a’u dal am bridwerth (meddalwedd wystlo) neu heintio dyfais sy’n achosi iddi ymddwyn mewn ffordd annisgwyl (feirws)

Efallai y bydd dysgwyr mwy hyderus yn gallu egluro’r rhain.

Yna, datgelwch y gwahanol effeithiau seiberdroseddu sydd ar sleid 5.

Gan ddefnyddio sleid 6, gofynnwch i’r dysgwyr awgrymu ffyrdd maen nhw eisoes yn gwybod amdanyn nhw am sut mae bod yn seiberddiogel ar-lein. Gall yr ymatebion gynnwys:

  • defnyddio cyfrineiriau ar gyfer cyfrifon neu ddyfeisiau ar-lein
  • cyngor am ba bryd a ble (a gyda phwy) y dylid rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein
  • defnyddio meddalwedd neu ddulliau eraill i ddiogelu cyfrifon a dyfeisiau

Esboniwch i’r dysgwyr y byddan nhw’n gwneud gwahanol weithgareddau cyflym i ddysgu sut mae diogelu eu gwybodaeth a’u dyfeisiau ar-lein. Bydd pob gweithgaredd yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Efallai y byddwch chi am gynnal y 4 gweithgaredd sydd ar gael, neu ddewis y gweithgareddau a fyddai fwyaf buddiol i’ch dysgwyr.

Os bydd y 4 gweithgaredd yn cael eu cynnal, rhannwch y dosbarth yn 4 grŵp a chreu 4 ardal yn yr ystafell ddosbarth, un ar gyfer pob gweithgaredd. Bydd pob grŵp yn dechrau ar un gweithgaredd, yna ar ôl 10 munud byddan nhw’n symud i’r nesaf, nes bydd pob grŵp wedi cwblhau’r holl weithgareddau sydd ar gael. Rhoddir cyfarwyddiadau gyda phob gweithgaredd ar y sleidiau, ac mae’r holl ddeunyddiau sydd i’w hargraffu ar gael ar y sleidiau.

Dyma grynodeb o bob gweithgaredd.

  1. Rholio dis i greu cyfrinair (sleidiau 8 i 9) – bydd y dysgwyr yn creu dis personol y gellir ei rolio i gynhyrchu geiriau ar hap i greu cyfrinair cryf.
    (Noder: efallai yr hoffech chi arbed amser drwy dorri’r templedi dis (sleid 9) cyn y wers.)
  2. Sbotio’r sgamwyr (sleidiau 10 i 12) – bydd dysgwyr yn defnyddio taflen ganllawiau (sleid 11) i ddod o hyd i'r gwahanol ffyrdd mae sgamwyr yn ceisio twyllo defnyddwyr ar-lein i roi data personol fel enwau defnyddwyr a chyfrineiriau.
  3. Doctor dyfeisiau (sleidiau 13 i 15) – bydd dysgwyr yn defnyddio taflen ganllawiau (sleid 14) i’w helpu i nodi ffyrdd o wella diogelwch dyfeisiau.
  4. Cynllun gweithredu mewn argyfwng (sleidiau 16 i 17) – bydd dysgwyr yn ystyried y camau y gallan nhw eu cymryd i reoli cyfrineiriau a phwy sy'n gallu eu helpu os bydd rhywun yn dwyn neu’n amharu ar eu cyfrif. Byddan nhw hefyd yn ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf.

Dowch â’r dysgwyr yn ôl at ei gilydd a rhoi copi o’r daflen ‘Cyngor campus’ (sleid 18) iddyn nhw. Gofynnwch iddyn nhw ystyried popeth maen nhw wedi’i ddysgu o’r carwsél o weithgareddau, ac yna gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu rhestr o 3 chyngor campus a fyddai, yn eu barn nhw, yn helpu plant neu aelodau eraill o’r teulu i fod yn seiberddiogel.

Gofynnwch i’r dysgwyr rannu eu cyngor campus a’u trafod ymhellach os oes angen.

Trafodwch gyda’r dysgwyr at bwy y bydden nhw’n gallu troi am gymorth pe bydden nhw’n poeni am seiberddiogelwch. Gall hyn gynnwys oedolion yn yr ysgol, aelodau’r teulu ac adran Cyber Aware (Saesneg yn unig) ar wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).

Mae’r sleid olaf (20) yn amlinellu ymddygiad a allai fod yn droseddol. Helpwch y dysgwyr i sylweddoli bod gallu gwneud rhywbeth ddim yn golygu y dylen nhw ei wneud. Os ydyn nhw’n cymryd, yn cael mynediad neu’n rhwystro mynediad at rywbeth ar-lein, mae siawns dda y gallai fod hyn yn weithred anghyfreithlon. Byddwch yn ofalus eich bod chi’n mynd i’r afael â hyn yn y ffordd iawn gyda’ch dysgwyr, gan ystyried eu hanghenion a’u profiadau eu hunain.

Mesurau uwch i ddiogelu cyfrifon

Gyda’r dysgwyr, edrychwch ar y dulliau mwy soffistigedig o ddiogelu cyfrifon a dyfeisiau ar-lein. Gallai’r rhain gynnwys defnyddio rheolwyr cyfrineiriau i storio manylion cyfrif yn ddiogel, dull dilysu aml-ffactor, neu wasanaethau mynediad dienw fel rhwydweithiau preifat rhithwir (VPN) sy’n atal defnyddwyr eraill ar-lein rhag olrhain neu gasglu data am unigolyn.

Cadw pethau’n breifat

Gan ddibynnu ar brofiadau eich dysgwyr ar-lein, efallai y byddai’n ddefnyddiol trafod ac archwilio gosodiadau cyfrif sydd ar gael ar yr apiau a’r gwasanaethau mae dysgwyr yn eu defnyddio er mwyn rheoli eu preifatrwydd. Gallai hyn gynnwys gosodiadau sy’n cyfyngu ar bwy sy’n gallu cysylltu â nhw, pwy sy’n gallu gweld gwybodaeth bersonol ar broffil eu cyfrif, ac adnoddau eraill a allai ganiatáu iddyn nhw flocio neu roi gwybod am ddefnyddwyr amheus.

Mae detholiad o restrau gwirio ar gael ar Hwb ac Internet Matters (mae cyfieithiad iaith ar gael ar y safle).

Cadw’n ddiogel ar-lein

Gellir defnyddio’r wers hon fel sbardun ar gyfer dysgu ychwanegol am sut mae cadw chi’ch hun ac eraill yn ddiogel ar-lein, yn enwedig o ran rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein. Mae adnoddau i gefnogi’r dysgu ar gael yn adran ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ ar Hwb.