English

Mae prosesau hunanwerthuso a gwella yn hanfodol i effeithiolrwydd ysgolion. Nod yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella yw helpu pob ysgol i ddatblygu a defnyddio amrywiaeth o ddulliau ac adnoddau er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bob dysgwr yng Nghymru. Fe’i datblygwyd drwy broses o gyd-awduro gan ymarferwyr addysg o bob cwr o’r wlad. Ymhlith y rhain mae arweinwyr ysgolion, Estyn, y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Hefyd, cafwyd mewnbwn gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wrth ddechrau’r gwaith o ddatblygu'r adnodd. Rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr.

Ochr yn ochr â datblygu’r adnodd cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion, sy’n nodi fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Gan gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, mae’r fframwaith yn pwysleisio cynnydd a llesiant dysgwyr, ac yn diffinio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion llwyddiannus.

O dan y fframwaith newydd, hunanwerthuso effeithiol yw’r man cychwyn ar gyfer gwaith gwerthuso a gwella, a chaiff perfformiad ysgolion ei werthuso trwy ddefnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth a gwybodaeth, sy’n cwmpasu ystod gyfan gweithgareddau ysgolion.

Bydd y strategaethau ymarferol a nodir yn yr adnodd cenedlaethol yn helpu ysgolion i roi ar waith yr egwyddorion o ran gwerthuso a gwella a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion.

Fel adnodd digidol, mae’r adnodd cenedlaethol yn cynnig llwyfan cryf ar gyfer datblygu system addysg hunanwella, gynaliadwy yng Nghymru. Mae’n cyd-fynd â mentrau cenedlaethol eraill ac yn eu hategu, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru a’i roi ar waith, y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, a’r daith dysgu proffesiynol genedlaethol. Nod yr adnoddau hyn yw helpu ysgolion i ddatblygu fel sefydliadau sy’n dysgu.

Mae’r adnodd cenedlaethol yn hyrwyddo diwylliant o fyfyrio proffesiynol, deialog a dysgu parhaus. Nid rhestr wirio o gwestiynau i’w gofyn na thasgau i’w cwblhau mohono. Mae’n cynnig rhestr o ddulliau, cwestiynau trafod ac adnoddau, wedi’u trefnu mewn strwythur hierarchaidd, hawdd ei ddefnyddio, er mwyn i ysgolion ddewis o’u plith, eu haddasu, a’u defnyddio yn eu cyd-destun eu hunain. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd prosesau gwerthuso a gwella ac yn gostwng statws dogfennaeth.

Yn dilyn cyhoeddi’r adnodd, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a gweithwyr proffesiynol ym myd addysg i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion, gan ei fireinio yn seiliedig ar yr adborth a gawn.

Fideo: rhaghysbyseb ar gyfer Yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella

Mae'r adnodd cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi ysgolion i ddatblygu'r cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd yn cefnogi ysgolion wrth iddynt ddatblygu i fod yn sefydliadau sy'n dysgu, gan ddarparu manylion ychwanegol i gefnogi prosesau hunanarfarnu sy'n sail i'r daith dysgu proffesiynol.

Bydd gwerthuso addysgu a dysgu yn effeithiol, wrth wraidd yr ail-wynebu, hefyd yn cefnogi ysgolion i ymgysylltu â'r sgwrs addysgeg drwy'r prosiect addysgeg cenedlaethol.

Mae gan yr adnodd cenedlaethol hefyd gysylltiadau agos â'r gwerthusiad dyfnach sy'n digwydd drwy ymholiad proffesiynol, a gefnogir drwy'r prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol (NPEP).

Mae'r elfennau hyn yn ategu'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac yn adlewyrchu dimensiynau a chategorïau Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu a'r Daith Dysgu Proffesiynol fel a ganlyn.

Dimensiwn Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu

Categori'r Daith Dysgu Proffesiynol

Cwestiynau trafod yr adnodd cenedlaethol

Datblygu gweledigaeth a rennir sy'n rhoi sylw i'r hyn y mae pob dysgwr yn ei ddysgu

Datblygu gweledigaeth ysgol gyfan a rennir

 

Arweinyddiaeth, Cwricwlwm

Modelu a datblygu arweinyddiaeth ym maes dysgu

Modelu arweinyddiaeth ym maes dysgu

 

Arweinyddiaeth, Cwricwlwm

Sefydlu diwylliant o ymchwilio, arloesi ac archwilio

Sefydlu diwylliant o newid ac arloesi

Cwricwlwm: Pennu Gweledigaeth

Creu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i bob aelod o'r staff

Creu cyfleoedd dysgu parhaus i'r staff

 

Dysgu ac addysgu: Dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithio

Hyrwyddo dysgu mewn tîm a chydweithio ymhlith pob aelod o'r staff

Dysgu a chydweithio mewn tîm

Dysgu ac addysgu: Dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithio

Ehangu defnydd o systemau ar gyfer casglu a chyfnewid gwybodaeth at ddibenion dysgu

Creu systemau ar gyfer casglu a chyfnewid gwybodaeth at ddibenion dysgu

 

Dysgu ac addysgu: Dysgu proffesiynol

Dysgu drwy'r amgylchedd allanol a'r system ddysgu ehangach

Dysgu drwy'r system ddysgu ehangach

 

Dysgu ac addysgu: Dysgu proffesiynol

 

Sefydlu diwylliant o ymchwilio, arloesi ac archwilio

Sefydlu diwylliant o ymchwilio ac archwilio

Cwricwlwm: dylunio, cynllunio a threialu