English

Dylai ysgolion barhau i wneud y canlynol:

  • cysoni gwaith hunanwerthuso â gwaith gwella ysgol fel proses integredig
  • datblygu diwylliant dysgu sy'n hyrwyddo gwelliant parhaus gyda'r nod o wireddu'r pedwar diben
  • defnyddio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn arloesi a gwella
  • bod yn fyfyriol, yn agored ac yn onest
  • myfyrio ar weithgareddau hunanwerthuso a'u mireinio
  • gwerthuso'r ysgol a'i dysgwyr, a gwerthuso ar eu cyfer
  • cynnwys yr holl staff, dysgwyr, rhieni/gofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill a gwrando arnynt
  • defnyddio amrywiaeth dda o ddulliau er mwyn casglu tystiolaeth ddibynadwy
  • defnyddio data yn gymesur ochr yn ochr â thystiolaeth o lygad y ffynnon
  • rhannu arferion effeithiol o fewn ysgolion a rhyngddynt
  • cynnal arferion effeithiol sydd eisoes yn bodoli ac adeiladu arnynt
  • cadw golwg ar gynnydd o ran cyflawni'r blaenoriaethau gwella yn rheolaidd
  • gweithio gyda chymheiriaid er mwyn cefnogi eu harferion nhw ac eraill

Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, dylai ysgolion osgoi:

  • canolbwyntio ar ansawdd gwaith papur yn unig
  • gwneud hunanwerthuso yn ddigwyddiad (yn hytrach na phroses barhaus)
  • cadw hunanwerthuso ar wahân i brosesau gwella ysgol eraill
  • canolbwyntio ar ystod gyfyngedig o ddata
  • gwneud hunanwerthuso yn gyfrifoldeb i uwch-arweinwyr yn unig
  • barnu popeth
  • gwneud i bethau ymddangos yn well nag ydyn nhw
  • gweithio er budd cynulleidfa allanol yn unig

Wrth gwrs, ni fydd systemau hunanwerthuso ar eu pen eu hunain yn arwain at welliant oni fydd yr ysgol yn gwneud y canlynol:

  • dadansoddi a chyfuno canfyddiadau o amrywiaeth eang o weithgareddau er mwyn ‘triongli'r’ dystiolaeth
  • defnyddio ei chasgliadau er mwyn pennu blaenoriaethau penodol ar gyfer gwella
  • cynllunio camau gweithredu yn ofalus er mwyn sicrhau gwelliannau yn y meysydd hyn ac ystyried yn ofalus sut a phryd y bydd yn monitro ac yn gwerthuso cynnydd
  • sicrhau bod ganddi ddarlun clir o'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni
  • defnyddio ei phrosesau hunanwerthuso i werthuso'r cynnydd a wneir yn erbyn ei blaenoriaethau gwella

Ni ddylid ystyried mai dau weithgaredd ar wahân yw hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau;  nodweddion integredig o fewn prosesau gwella ysgol ydyn nhw.

Gweithgareddau rhyngweithiol


    • Mae hyn yn dweud wrth yr ysgol bod gweithgareddau penodol yn cael eu cynnal, ond nid faint o effaith y maent yn ei chael ar y dysgu.
    • Mae'n creu ‘diwylliant o gydymffurfio’ lle mae'n rhaid dilyn dulliau penodol (e.e. sesiynau llawn byr neu hunanasesu) ni waeth pa mor berthnasol neu briodol ydyn nhw.
    • Gall hyn hyrwyddo'r disgwyliad y dylid cynnwys popeth (e.e. pedwar diben y cwricwlwm, llythrennedd, rhifedd, datblygu'r Gymraeg ac ati) ym mhob gwers.
    • Nid yw hyn yn helpu'r ysgol i nodi meysydd penodol i'w datblygu nac anghenion dysgu proffesiynol.
    • Nid yw hyn yn helpu'r ysgol i werthuso effaith yr addysgu ar y dysgu.
    • Gall annog y staff i wneud sioe o'r addysgu a chynnwys elfennau deniadol ychwanegol nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu dysgu hirdymor.
    • Nid yw hyn yn helpu'r ysgol i ddeall pa mor effeithiol yw ei darpariaeth mewn ffordd eang a chywir.
    • Nid yw'n cefnogi gweithgarwch dysgu proffesiynol unigolion, adrannau na'r ysgol gyfan yn ddigon da.
    • Gall wneud y gweithgareddau hyn yn rhai lle mae llawer yn y fantol a chael effaith negyddol ar les y staff.
    • Gall hyn greu drwgdeimlad a chael effaith negyddol ar les y staff, ac nid yw'n cefnogi diwylliant cadarnhaol o ddatblygu a gwella.
    • Gall olygu bod yr ysgol yn canolbwyntio ar y ddogfennaeth ei hun ar draul ei gwerthusiad o'r dysgu.
    • Gall olygu bod llai o amser yn cael ei dreulio ar weithgareddau mwy gwerthfawr i gefnogi gwelliant.
    • Nid yw hyn yn galluogi'r ysgol i feithrin dealltwriaeth glir o'r cryfderau penodol na'r meysydd penodol i'w datblygu yn yr addysgu a'r dysgu, sy'n ei gwneud hi'n anodd cynllunio'n effeithiol ar gyfer gwella.
    • Gall hyn olygu bod yr ysgol yn canolbwyntio'n ormodol ar un math o weithgaredd gwerthuso yn hytrach nag ystyried amrywiaeth ddigon eang o dystiolaeth am y dysgu.
    • Nid yw'n cefnogi gweithgarwch dysgu proffesiynol yn ddigon da.
    • Mae'n bosibl nad yw'n adnabod gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud.
    • Gall wneud gweithgareddau gwerthuso yn rhai lle mae llawer yn y fantol a chael effaith negyddol ar les y staff.
    • Gall hyn roi darlun anghywir i'r ysgol o effaith ei darpariaeth.
    • Nid yw'n helpu'r ysgol i nodi meysydd penodol i'w datblygu nac anghenion dysgu proffesiynol yn ddigon da.
    • Mae'n ei gwneud hi'n anodd i'r ysgol gynllunio'n effeithiol ar gyfer gwella.