English

Bydd dwy ran i’r cyfnod peilot, fydd yn dechrau yn nhymor yr hydref 2021 ac yn dod i ben ar ddiwedd tymor y gwanwyn 2022. Erbyn diwedd hydref 2021, bydd y gweithgor yn gwneud y canlynol:

  • nodi cryfderau a meysydd i'w gwella yn yr adnodd
  • gweithio gydag ysgolion i ddatblygu amrywiaeth o ddeunydd cymorth
  • pennu'r ffordd orau o gyflwyno'r Adnodd i ragor o ysgolion

Rydym yn rhagweld y bydd yr Adnodd ‘wedi'i gwblhau’ erbyn diwedd y flwyddyn academaidd ac y caiff y gyfres gyntaf o adnoddau ei chyhoeddi erbyn mis Ebrill 2022.