English

Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud i'ch plant yw eu cadw'n ddiogel ac yn hapus. Lles eich teulu yw'r flaenoriaeth bob amser. Nid oes disgwyl i chi ail-greu'r ysgol yn eich cartref nac ymgymryd â rôl athro eich plant, ond mae ffyrdd y gallwch gefnogi eu dysgu.

Dylech gysylltu ag ysgol eich plant os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i gefnogi dysgu eich plant. Bydd yn gallu eich cefnogi neu roi cyngor i chi ar y ffordd orau o gael cymorth i ddiwallu eich anghenion chi a'ch plant, gan gynnwys sut i gefnogi eu gwaith i ddysgu Saesneg a/neu Gymraeg.

Bydd eich ysgol neu eich awdurdod lleol hefyd yn gallu cynnig cyngor os bydd eich plant yn cael:

Mae llawer o ffyrdd o ddysgu ac ni fydd pob math o ddysgu'n cynnwys technoleg neu wersi gan athro. Gall plant ddysgu drwy chwarae, siarad a gwneud gweithgareddau ymarferol pob dydd, e.e. coginio, garddio a glanhau. Gallant hefyd ddysgu drwy ddulliau mwy ‘ffurfiol’, megis cwblhau gweithgareddau dysgu, naill ai â llaw neu ar-lein.

Gall dysgu drwy iaith eich cartref a siarad am ddysgu yn iaith eich cartref fod yn fuddiol i'ch plant. Gallech roi cynnig ar:

  • siarad am yr hyn sy'n digwydd a gweld pethau o safbwynt eich plant, gallent fod yn cael trafferth ymdopi neu'n methu deall y sefyllfa Mae'r llyfrau canlynol ar gael i helpu plant i ddeall y sefyllfa.
  1. Mae COVIBOOK – cefnogi a thawelu meddyliau plant ym mhedwar ban byd ar gael yn Gymraeg, Español, English, Italiano, Português (Brasil a Portiwgal) Français, Polskie, עברית, Bahasa indonesia, Deutsch, Türkçe, Pусский, عربي مصري, عربى, ρουμανικός, Magyar, Ελληνικά, Dansk, Српски, Hrvatski, 日本語, 中文, Nederlands, فارسی,
  2. Mae Ti yw fy arwres ar gael mewn llawer o ieithoedd.
  • annog eich plant i chwarae a thrafod yn iaith eich cartref ac yn iaith eu hysgol
  • gofyn i'ch plant esbonio'r gweithgareddau mae'r ysgol wedi'u gosod yn iaith eich cartref – gall hyn eu helpu i ddeall y gweithgaredd hefyd. Os yw eich plant yn rhy ifanc i wneud hyn neu os ydych yn cael trafferth i ddeall y gweithgareddau gyda'ch gilydd, cysylltwch ag ysgol eich plant – bydd yn gallu cynnig cymorth pellach.

Os ydych yn cael trafferth ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch i ymdopi â'r sefyllfa yn ystod y cyfnod hwn, gellir cael cymorth o'r ffynonellau canlynol. 

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Caerdydd – 02920 489 800                      

Casnewydd – 01633 266 420

Abertawe – 07918 403 666                       

Wrecsam – 07977 234 198

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru

The Traveller Movement

  • Cymraeg pdf 57 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Czech pdf 341 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Romanian pdf 339 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Slovak pdf 343 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath