Sylfaen Seren
- Rhan o:
- Dysgu cyfunol
Trosolwg: beth yw Sylfaen Seren?
Bwriedir Sylfaen Seren ar gyfer myfyrwyr ym mlynyddoedd 8-11 mewn ysgolion y wladwriaeth ar draws Cymru sy’n cefnogi datblygiad sgiliau gwerthfawr a gallu academaidd ar lefel TGAU.
Y bwriad yw darparu gwybodaeth cyngor ac arweiniad i alluogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu dewisiadau pynciau TGAU a Lefel A gyda’r amcan tymor hir o’u cynorthwyo i gyflawni eu huchelgeisiau addysg uwch a’u gyrfa.
Mae’r rhaglen yn darparu ysbrydoliaeth a chyngor ynglŷn â dewisiadau prifysgol a chyrsiau gradd, y cysylltiadau i yrfaoedd ar draws ystod eang o sectorau, a’r llwybrau arfaethedig sydd ar gael iddynt
Mae Seren yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu sgiliau defnyddiol sydd eu hangen ar gyfer TGAU a Lefel A megis meddwl yn ddadansoddol a beirniadol, rhesymu, datrys problemau a thechnegau adolygu
Am ragor o fanylion am raglen Sylfaen Seren a’r gefnogaeth a gynigir, lawr lwythwch ein prosbectws os gwelwch yn dda
Prosbectws Sylfaen Seren 2021 i 2022
- Sylfaen Seren: rhaglen 2021 i 2022 pdf 961 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Rhaglen Genedlaethol Sylfaen Seren
Trwy gydol y flwyddyn bydd dysgwyr yn gallu cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau pwnc-benodol ac allgyrsiol wedi'u teilwra i bob grŵp blwyddyn penodol, gan gynnwys:
- Cynhadledd Genedlaethol ar-lein
- Sesiynau seiliedig ar yrfa ar ddod yn filfeddyg neu feddyg
- Cyrsiau 'Llwybrau at Iaith'
- Gweithdai wedi’u harwain gan Lysgenhadon MIT, er enghraifft ‘Cyfreithiau Mudiant’ a ‘Newid yn yr Hinsawdd’
- Cystadlaethau cenedlaethol ysgrifennu traethawd ac ysgrifennu creadigol
- Gweithdai Ymestyn gyda Her
- Dosbarthiadau Meistr pwnc-benodol, tiwtorialau a sesiynau H&A i roi hwb i’ch astudiaethau
- Teithiau rhithiol prifysgol ac amgueddfeydd
- Arweiniad a chyngor gyrfa
- Adnoddau ar-lein i ddatblygu eich angerdd am bynciau
Mae dysgwyr hefyd yn derbyn dyddiadur ystyriaethau i’w galluogi i deilwra eu profiad Seren eu hunain a llunio llwybr i’r dyfodol.
Ynglŷn â Seren
Menter gan Lywodraeth Cymru yw Seren i helpu myfyrwyr disgleiriaf Cymru
i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chefnogi eu llwybr addysg I brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU a thramor.
Mae rhaglen Seren ar gael i fyfyrwyr Blwyddyn 8 i 13 o ysgolion y wladwriaeth a cholegau addysg bellach ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol neu leoliad.
Trwy ddarparu profiadau astudio allgyrsiol a gweithgareddau cyfoethogi uwch-gwricwlaidd sy'n gwella ac yn mynd y tu hwnt i'r cwricwlwm, mae Seren yn cefnogi dyheadau ac uchelgeisiau'r dysgwyr mwyaf talentog a galluog, gan gynorthwyo i ehangu eu gorwelion, a datblygu angerdd gydol oes dros ddysgu.
Mae'r gefnogaeth yn cynnwys dosbarthiadau meistr pwnc-benodol, gweithdai, tiwtorialau, canllawiau astudio, cyngor ac arweiniad, mentora, cymorth i ddatblygu datganiadau personol, ffug gyfweliadau, a chynadleddau ar-lein.
Mae Seren yn gwahodd y myfyrwyr mwyaf disglair o ysgolion talaith Cymru a cholegau addysg bellach i ymuno â'r rhaglen ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
Caiff dysgwyr Seren Sylfaen eu hadnabod gan eu hysgolion priodol ac arweinwyr Seren yn seiliedig ar y meini prawf cymhwystra fel y'u pennwyd gan Lywodraeth Cymru ac y cytunwyd arnynt gyda, a chan, bob un o'r 12 canolfan.
Canolfannau Seren
Wedi’i rhannu’n 12 canolfan ranbarthol, mae rhaglen Seren yn cwmpasu pob cwr o Gymru.
Arweinir y canolfannau gan gydlynwyr Seren ymroddedig sy'n dylunio ac yn trefnu calendr o ddigwyddiadau. Mae yna hefyd ddigwyddiadau traws-ganolfan sy'n caniatáu i fyfyrwyr fynychu ystod ehangach fyth o weithgareddau.
Mae pob cydgysylltydd yn hyrwyddo digwyddiadau cenedlaethol Seren i’r holl ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan, yn ogystal a threfnu calendr o weithgareddau i ysgolion yn eu rhanbarth.
Lawr lwythwch ein rhestr gyswllt ar gyfer y canolfannau i ddarganfod eich cydlynydd Seren rhanbarthol os gwelwch yn dda.
Canolfannau rhanbarthol: manylion cyswllt ar gyfer ysgolion, rhieni a gofalwyr
- Canolfannau rhanbarthol: manylion cyswllt ar gyfer ysgolion, rhieni a gofalwyr pdf 274 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Adnoddau: Cyfnod allweddol 3 a 4
Fe lansir ystorfa o ddeunyddiau dysgu o bell rhyngweithiol yn Ionawr 2022, gan gynnwys ystod eang o ddigwyddiadau ar-lein byw, gweminarau, fideos a phodlediadau, pob un wedi'i gynllunio i ymestyn a herio o fewn meysydd pwnc penodol.
Bydd yr adnoddau’n cynnwys:
- Adnoddau astudio pwnc benodol
- Adnoddau uwch gwricwlaidd a chyfoethogi
- Adnoddai partneriaid gan brifysgolion blaengar
- Adnoddau cyngor ac arweiniad ar gyfer dysgwyr
- Adnoddau cyngor ac arweiniad ar gyfer athrawon, rhieni a gofalwyr
Academi Seren
Mae Sefydliad Seren yn llwybr i Academi Seren sydd ar gael i fyfyrwyr blwyddyn 12 a 13 o ysgolion y wladwriaeth a cholegau addysg bellach ledled Cymru, waeth beth fo'u cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol, neu eu lleoliad.
Caiff dysgwyr Academi Seren eu dewis gan eu hysgolion a'u colegau perthnasol yn dilyn eu canlyniadau TGAU yn yr haf, yn seiliedig ar y meini prawf cymhwystra fel y'u pennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cyfryngau cymdeithasol
Connect with us and stay up to date with all the latest resources, news, events, and activities.
Facebook: /serennetwork
Twitter: @RhwydwaithSeren
Instagram: @SerenNetwork
Blog: rhwydwaithseren.blog.llyw.cymru
Gwefan: llyw.cymru/rhwydwaith-seren