Seren dysgu o bell
- Rhan o:
- Dysgu cyfunol
Trosolwg: beth yw Seren?
Menter gan Lywodraeth Cymru yw Seren i helpu myfyrwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chefnogi eu llwybr addysg I brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU a thramor.
Mae rhaglen Seren ar gael i fyfyrwyr Blwyddyn 8 i 13 o ysgolion y wladwriaeth a cholegau addysg bellach ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol neu leoliad.
Trwy ddarparu profiadau astudio allgyrsiol a gweithgareddau cyfoethogi uwch-gwricwlaidd sy'n gwella ac yn mynd y tu hwnt i'r cwricwlwm, mae Seren yn cefnogi dyheadau ac uchelgeisiau'r dysgwyr mwyaf talentog a galluog, gan gynorthwyo i ehangu eu gorwelion, a datblygu angerdd gydol oes dros ddysgu.
Mae'r gefnogaeth yn cynnwys dosbarthiadau meistr pwnc-benodol, gweithdai, tiwtorialau, canllawiau astudio, cyngor ac arweiniad, mentora, cymorth i ddatblygu datganiadau personol, ffug gyfweliadau, a chynadleddau ar-lein.
Mae Seren yn gwahodd y myfyrwyr mwyaf disglair o ysgolion talaith Cymru a cholegau addysg bellach i ymuno â'r rhaglen ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
- Prosbectws Seren 2021 i 2022 pdf 5.32 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Arolwg
Llenwch ein harolwg a gadewch i ni wybod pa adnoddau a chymorth eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys.
Cyhoeddiad e-Seren: Kirsty Williams, Gweinidog Addysg
Canolfannau Seren
Gan weithio drwy 12 o ganolfannau rhanbarthol ledled Cymru, mae rhaglen Seren yn cwmpasu Cymru gyfan. Mae pob un o ganolfannau Seren yn gwahodd myfyrwyr disgleiriaf ysgolion gwladol a cholegau addysg bellach Cymru i ymuno â’r rhaglen ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Dewisir y dysgwyr ar sail canlyniadau TGAU rhagorol.
Caiff y canolfannau eu harwain gan gydlynwyr penodol Seren a fydd yn llunio a threfnu calendr o ddigwyddiadau. Ceir digwyddiadau hefyd ar draws y canolfannau sy’n caniatáu i fyfyrwyr fynychu amrywiaeth ehangach o weithgareddau.
- Canolfannau rhanbarthol: manylion cyswllt ar gyfer ysgolion, rhieni a gofalwyr pdf 1.06 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Nod yr adnoddau dysgu o bell
Adnoddau i Ddysgwyr Academi Seren ym Mlynyddoedd 12 a 13 sydd wedi cael blaenoriaeth, ond bydd cymorth i ddysgwyr Seren Sylfaen o Flynyddoedd 8 i 11 yn dilyn dros dymor yr haf.
Ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 12 a 13
Mae’r adnoddau dysgu o bell wedi’u hanelu at gefnogi myfyrwyr Blwyddyn 12 Seren ar eu taith i astudio ym mhrifysgolion gorau Cymru, y DU a’r byd. Ceir amrywiol ddeunyddiau rhyngweithiol i ddysgu o bell, digwyddiadau byw ar-lein, gweminarau, fideos a phodlediadau, pob un yn ymestyn ac yn herio o fewn meysydd pynciau penodol, ac yn eich helpu i ddewis prifysgol ac i wneud cais.
Mae’r adnoddau yn galluogi myfyrwyr Blwyddyn 13 Seren i barhau i ddysgu yn eu pwysau, darllen yn eang o amgylch eu cwrs gradd dewisiedig, cael cyngor ac arweiniad am fywyd prifysgol, a chael blas ar astudio mewn prifysgol flaengar wrth iddynt symud o’r ysgol i addysg uwch.
Adnoddau pynciau penodol: tu hwnt i’r cwricwlwm
Ar gyfer athrawon
Gallwch helpu eich myfyrwyr Seren Blwyddyn 12 a 13 a’u cyfeirio at wybodaeth werthfawr wrth iddynt ystyried cyfleoedd addysg uwch, gan gynnwys cymorth i baratoi eu datganiadau personol wrth wneud cais i’r prifysgolion gorau yng Nghymru, y DU a’r byd. Bydd adnoddau eraill yn rhoi cyngor i chi ar gyfer paratoi’r geirda angenrheidiol i gefnogi ceisiadau prifysgol eich myfyrwyr.
Ar gyfer rhieni a gofalwyr
Ar adeg hanfodol bwysig yn addysg eich mab neu’ch merch, bydd yr adnoddau a’r canllawiau hyn yn eich helpu i barhau i’w cefnogi wrth symud o’r ysgol i addysg uwch.
Adnoddau partneriaid
Mae Seren wedi ffurfio partneriaethau gyda phrifysgolion gorau’r DU er mwyn cynnig profiadau astudio unigryw tu hwnt i’r cwricwlwm a gweithgareddau i gyfoethogi ac ymestyn yr hyn a ddysgwyd, gan gynnwys:
Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, Colegau Churchill, y Drindod, Sussex a Magdalene ym Mhrifysgol Caergrawnt, Coleg y Brenin, Llundain, a phrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor, Caerdydd, Caerfaddon, Bryste, Caerwysg, Lerpwl a Southampton.
Mae Seren hefyd wedi sefydlu partneriaethau gyda’r Fulbright and Sutton Trust US, Harvard, Yale Young Global Scholars, Prifysgol Chicago, The Social Mobility Foundation, The Brilliant Club, LEDLET, Cymru’r Gyfraith, y Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach, a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.
Mae’r rhain yn cynnig profiadau unigryw a llwybrau i bobl ifanc gyflawni eu huchelgais o astudio yn y prifysgolion gorau.
Edrychwch ar ein darpariaeth gyffrous o adnoddau partneriaid.
Ysgol Haf Coleg yr Iesu Rhydychen
Bob blwyddyn, mewn partneriaeth gyda Choleg yr Iesu Rhydychen rydym yn cynnig rhaglen ysgol haf unigryw, wythnos o hyd i fyfyrwyr Seren Blwyddyn 12. Cyfle anhygoel i gael blas ar astudiaethau, darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau meistr a llawer mwy yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU.
Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi, dilynwch ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.
Cyngor a chanllawiau
Pam mynd i brifysgol? Sut mae dewis pa brifysgol i fynd iddi, a pha gwrs gradd sydd orau i chi? Sut mae gwneud cais i fynd i brifysgol ac ysgrifennu’r datganiad personol gorau? Sut brofiad yw astudio a byw mewn prifysgol?
Mae amrywiaeth eang o gyngor a chanllawiau ar gael gan brifysgolion a myfyrwyr i helpu i roi cipolwg ar fywyd prifysgol, ac maent yn cynnig gwybodaeth werthfawr i ddysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr am ddewis prifysgol a’r broses ymgeisio.
Ceir awgrymiadau hefyd ar sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau a phrofion mynediad, a gallwch ddarllen astudiaethau achos am fyfyrwyr go-iawn.
Adnoddau cyfoethogi
Ehangwch eich astudiaethau a’ch dysg gydag amrywiol adnoddau cyfoethogi am bynciau penodol, sy’n ychwanegu at eich gwybodaeth, ymestyn eich meddwl a herio’ch dealltwriaeth! Bydd y cyfan yn eich helpu i barhau i ddysgu ac astudio.
Cefndir Seren
Mae Seren yn gydweithrediad rhwng ysgolion gwladol, colegau, prifysgolion, Alumni, Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio mewn partneriaeth i gefnogi myfyrwyr Seren.
Sefydlwyd Rhwydwaith Seren gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb uniongyrchol i’r angen i atal y dirywiad yn nifer y ceisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr Cymru i fynychu Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Yn ystod 2013, penodwyd Paul Murphy AS, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel Cennad Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt gyda Llywodraeth Cymru. Gofynnwyd iddo gynnal ymchwil i ddeall y ffactorau a oedd yn gyfrifol am y dirywiad, a llunio argymhellion i roi sylw i’r materion fyddai’n dod i’r amlwg.
Yn ei adroddiad terfynol a gyhoeddwyd fis Awst 2014, argymhellodd y Cennad y dylid sefydlu rhwydwaith genedlaethol o ganolfannau partneriaeth i sicrhau bod modd i ysgolion a cholegau ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu adnoddau i gefnogi eu myfyrwyr mwyaf galluog yn academaidd. Yr argymhelliad hwnnw osododd y sylfaen ar gyfer sefydlu Rhwydwaith Seren.
Darllen yr adroddiad gwreiddiol
Cytunodd y Gweinidog i weithredu’r argymhelliad hwn, gan lansio Rhwydwaith Seren yn swyddogol ym mis Ionawr 2015. Roedd y Rhwydwaith yn cynnwys un ar ddeg o ganolfannau. Lansiwyd tair canolfan beilot ym mis Ionawr 2015 ac fe sefydlwyd y naw canolfan arall yn ystod 2015/16, gyda’r olaf ym mis Tachwedd 2016.
Nawr mae 12 o ganolfannau, pob un yn cynnwys partneriaeth o ysgolion a cholegau addysg bellach lleol, yn cydweithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia addysg i gynnig gweithgareddau tu hwnt i’r cwricwlwm (i ymestyn a herio) yn ogystal â chanllawiau a chymorth i baratoi ar gyfer y brifysgol, o lenwi’r ffurflen gais hyd at y cyfweliad.
Sylfaen Seren
Bwriedir Sylfaen Seren ar gyfer myfyrwyr ym mlynyddoedd 8-11 mewn ysgolion y wladwriaeth ar draws Cymru sy’n cefnogi datblygiad sgiliau gwerthfawr a gallu academaidd ar lefel TGAU.
Y bwriad yw darparu gwybodaeth cyngor ac arweiniad i alluogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu dewisiadau pynciau TGAU a Lefel A gyda’r amcan tymor hir o’u cynorthwyo i gyflawni eu huchelgeisiau addysg uwch a’u gyrfa.
Cyfryngau cymdeithasol
Cysylltwch â ni er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf a holl newyddion a chyhoeddiadau Seren. Pan fydd adnoddau, digwyddiadau a gweithgareddau newydd ar gael ar-lein, chi fydd y cyntaf i glywed!
Facebook: /serennetwork
Twitter: @RhwydwaithSeren
Instagram: @SerenNetwork
Blog: rhwydwaithseren.blog.llyw.cymru
Gwefan: llyw.cymru/rhwydwaith-seren
Adnoddau Ôl-16
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phrifysgolion Cymru i greu profiadau a digwyddiadau dysgu ar-lein i ddysgwyr Blwyddyn 13. Datblygwyd yr adnoddau gan brifysgolion, colegau a sefydliadau, ac maent yn cynnwys darlithoedd, dosbarthiadau meistr a sesiynau tiwtora.