English
  • Sut mae Hwb yn helpu fy mhlentyn i ddysgu?

    Mae Hwb yn wefan (neu blatfform ar-lein) sy’n helpu athrawon i addysgu a disgyblion i ddysgu. Mae’n cynnwys nifer o apiau a meddalwedd rhad ac am ddim, rhith ddosbarthiadau, a banc enfawr o adnoddau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein gyda’r disgyblion. Gellir ei ddefnyddio i rannu gwaith ysgolion ac i gysylltu gydag ysgolion eraill ar brosiectau. Fe gafodd Hwb ei lunio a’i adeiladu yng Nghymru, ac mae o safon fyd-eang.

    Sut mae athrawon yn defnyddio Hwb i addysgu?

    Gall athrawon sefydlu rhith ddosbarthiadau a defnyddio adnoddau fel Google Classroom a Microsoft Teams i osod cwestiynau a gweld yr atebion. Gallant ddefnyddio cyfarpar ac adnoddau Hwb i greu gwersi a gosod gwaith. Mae adnoddau ar gael fesul grŵp oedran ar draws pob maes pwnc.

    Sut bydd fy mhlentyn yn defnyddio Hwb?

    Mae ar y we, felly gellir defnyddio bron unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais llechen. Gall eich plentyn fynd i hwb.llyw.cymru a chlicio ar adnoddau a phori drwy’r hyn sydd o ddiddordeb, ond bydd yr ysgol wedi darparu enw defnyddiwr a chyfrinair i fewngofnodi i Hwb, ac wedi rhoi cyfarwyddiadau ynghylch lle bydd y gwaith yn cael ei osod (Google Classroom, Teams, J2e ac ati). O ganlyniad, dim ond eich plentyn chi fydd yn gweld y gwaith a’r wybodaeth benodol sy’n benodol ar ei gyfer.

    Sut fedraf i weld beth sydd ar Hwb?

    Gallwch edrych ar Hwb ar unrhyw adeg heb enw defnyddiwr na chyfrinair. Beth am ddechrau drwy edrych ar ‘Adnoddau’, sy’n dangos y math o enghreifftiau sydd ar gael? I weld y gwaith sydd wedi cael ei osod gan yr ysgol, bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch plentyn.

    Beth yw rhif y llinell gymorth a’r cyfeiriad e-bost?

    Defnyddiwch yr e-bost os oes modd, gan fod y tîm yn cael nifer aruthrol o alwadau ar hyn o bryd.

    hwb@llyw.cymru

    03000 25 25 25

    Sut all fy mhlentyn fewngofnodi?

    Bydd angen defnyddio’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair a gafwyd gan yr ysgol. Bydd y sgrin yn edrych fel hyn:

    Oes modd i mi lawrlwytho’r adnoddau a’r enghreifftiau sydd ar gael am ddim i’m cyfrifiadur er mwyn helpu fy mhlentyn? Sut mae gwneud hynny?

    Gallwch. Gall rhieni – neb arall – lawrlwytho amrywiaeth anhygoel o bethau i’w defnyddio yn y cartref. Gweler hwb.llyw.cymru/microsoft

    Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn cael trafferth mewngofnodi, neu os nad oes ganddo gyfrinair?

    Bydd yr ysgol wedi darparu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau. Bydd yr enw defnyddiwr yn gorffen gyda @hwbcymru.net Cysylltwch â’ch ysgol i ddechrau os oes problem.

  • Fel sy’n digwydd gyda gwaith ysgol arferol, mae’n rhaid i chi ofyn i’ch plentyn am gael gweld eu tasgau a’u gwaith. Mae gan eich plant gyfeiriad unigol i fewngofnodi, ond nid oes gan rieni fynediad ar wahân. Gosodir tasgau sy’n cael eu marcio gan athrawon drwy ddefnyddio offer ar-lein megis Google Classroom. Yn aml, mae ysgolion uwchradd yn defnyddio ap gwaith cartref i rieni a disgyblion allu tracio gwaith – bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i chi os ydynt yn gwneud hyn.

    Mae’r fideos isod yn dangos sut y mae dysgwyr yn cael mynediad i offer poblogaidd:

    Flipgrid

    Sut i gael mynediad ar ddyfais symudol

    Sut i gael mynediad ar gyfrifiadur

    Google Classroom

    Sut i gael mynediad i Google Classroom drwy HWB

    Office 365 – TEAMS

    Mynediad i Office 365 a Microsoft TEAMS trwy HWB

    J2e

    Mynediad i J2e trwy Hwb

  • Sut mae fy mhlentyn yn dod o hyd i Hwb ac yn mewngofnodi?

  • Mae ystod eang o raglenni ar gael i ddysgwyr sydd wedi mewngofnodi, a hynny drwy’r ddewislen ar lwyfan Hwb, yn cynnwys:

    • Office 365 (gellir gweld sut i lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o Microsoft Office yma)
    • Google for Education (apiau ar gyfer dyfeisiadau symudol ar gael yn App Store eich dyfais)
    • Adobe Spark (apiau ar gyfer dyfeisiadau symudol ar gael yn App Store eich dyfais)
    • Flipgrid (apiau ar gyfer dyfeisiadau symudol ar gael yn App Store eich dyfais)
    • Just2easy (apiau ar gyfer dyfeisiadau symudol ar gael yn App Store eich dyfais)
    • Encyclopaedia Britannica
    • Rhestrau Chwarae
    • Dosbarthiadau Hwb
    • Aseiniadau
    • Rheoli defnyddwyr (gall pob defnyddwyr, ar wahân i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd, ailosod eu cyfrineiriau)

    Lawrlwytho Microsoft Office 365

    Dyma gyflwyniad i Minecraft:

  • Mae ystod eang o adnoddau ar gael i gefnogi dysgu o bell. Dyma ddolenni i’r adnoddau sydd ar Hwb, a dolenni allanol defnyddiol:

    Adnoddau Hwb

    BBC Bitesize

    Adnoddau dysgu o bell Adobe

  • Yn y Strategaeth Parhad Dysgu mae'n hollbwysig bod tegwch i bawb. Rhan o'r ecwiti hwn yw sicrhau bod gan ddysgwyr ADY fynediad at yr offer Hwb perthnasol fel y gallant gymryd rhan yn eu dysgu trwy'r gwahanol lwyfannau digidol. Mae’r adran hon yn darparu canllawiau ‘sut i’ ar sut y gall rhieni / gofalwyr gefnogi plant ag ADY.

    Microsoft

    Defnyddio meddalwedd Microsoft i gynorthwyo darllen a ysgrifennu

    J2e5

    j2e - Nodwedd siarad - Rhieni/Gofalwr

    Encyclopedia Britannica

    Mynediad i Encyclopedia Britannica

  • Mae sawl ffordd o wneud hyn, ac mae’r enghreifftiau isod yn esbonio sut y gall hyn ddigwydd.

    MS Teams

    Cyflwyno aseiniad i athro a'r Microsoft Teams

    J2e

    Rhannu ffeil gyda rhywun y tu allan i'r ysgol

    MSTeams and Google Classroom

  • Yn yr argyfwng presennol mae lles ar flaen meddyliau pawb a dylai fod yn flaenoriaeth wrth gefnogi dysgwyr. Yn yr adran hon mae canllawiau ‘sut i’ i gefnogi rhieni / gofalwyr i helpu eu plant i gyflwyno gwaith a chael gafael ar adborth.

    Google Classroom

    Mynediad i Adborth yn Google Classroom

    J2e

    Mynediad i adborth o athro

    MS Teams

    Mynediad i adborth yn MS Teams