English

Mae'r adran hon ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n cael trafferth cefnogi dysgu eu plant. Os ydych yn blentyn ac mae eich rhieni neu ofalwyr yn cael trafferth cefnogi eich dysgu, gall y wybodaeth isod eich helpu i ddod o hyd i gymorth.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd llawer o rieni a gofalwyr yn ceisio helpu eu plant i ddysgu gartref, ond efallai na fyddwch yn gallu gwneud hyn bob amser. Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud i'ch plant yw eu cadw'n ddiogel ac yn hapus, lles y teulu yw'r flaenoriaeth. Cofiwch nad ydym yn disgwyl i chi droi eich cartref yn ysgol nac yn disgwyl i chi fod yn athro.

Dylai rhywun o'r ysgol fod mewn cysylltiad â'r dysgwyr a'u teuluoedd. Maent yn ceisio helpu'r holl blant, gan gynnwys:

  • plant sydd â chyfrifoldebau gofalu
  • plant sy'n cael cymorth ychwanegol neu y mae angen cymorth ychwanegol arnynt
  • plant nad ydynt yn byw gyda'u teulu
  • plant sy'n ei chael hi'n anodd dysgu.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd helpu i gadw eich plant yn ddiogel neu'n cael trafferth wrth eu helpu i ddysgu, siaradwch â'ch ysgol – nid oes rhaid i chi aros i'r ysgol gysylltu â chi.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth a all fod yn ddefnyddiol i chi am blant a phobl ifanc yn ystod pandemig y coronafeirws, gan gynnwys gofalwyr ifanc.

Ysgol eich plant, y lleoliad lle maent yn dysgu neu'r awdurdod lleol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf a bydd yn gallu eich cefnogi neu gael cymorth ar gyfer anghenion eich plant. Bydd hefyd yn gallu cynnig gweithgareddau a thasgau i chi a'ch plant roi cynnig arnynt gyda'ch gilydd. 

Bydd eich ysgol neu eich awdurdod lleol hefyd yn gallu cynnig cymorth os yw eich plant:

yn ei chael hi'n anodd defnyddio dyfeisiau electronig neu weithgareddau ar-lein, neu gael gafael arnynt – siaradwch ag ysgol eich plant neu eich awdurdod lleol, mae cymorth ychwanegol wedi cael ei ddarparu i gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae sawl ffordd o ddysgu, nid gyda thechnoleg neu athro'n unig. Gall plant ddysgu drwy chwarae, siarad a gwneud gweithgareddau pob dydd megis coginio, garddio a glanhau. Gallant hefyd ddysgu drwy ddulliau mwy ‘ffurfiol’, megis cwblhau gweithgareddau ar-lein neu ar bapur. Dyma rai syniadau i helpu gyda dysgu ac ymddygiad.

  • Ceisiwch gael cydbwysedd rhwng dysgu ac ymlacio, gan ddod o hyd i drefn sy'n cyd-fynd â'ch teulu.
  • Ceisiwch siarad am yr hyn sy'n digwydd a gweld pethau o safbwynt eich plant, gallent fod yn cael trafferth ymdopi neu'n methu deall y sefyllfa.
  • Siaradwch am yr hyn sy'n digwydd ac am fynd yn ôl i'r ysgol, symud dosbarth, newid athro neu drefniadau ar ôl iddynt adael eu lleoliad dysgu presennol. Bydd ysgolion yn gallu helpu gyda hyn.
  • Os oes gan blant hŷn bryderon am sut y caiff graddau eu dyfarnu'r haf hwn, gellir dod o hyd i wybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru a gellir dod o hyd i gyngor gyrfaoedd ar opsiynau ôl-16 ar wefan Gyrfa Cymru
  • Ceisiwch helpu eich plant i reoli eu hymddygiad a'u gorbryder.
  • Defnyddiwch brofiadau ar-lein megis teithiau tywys rhithwir o sŵau ac amgueddfeydd.
  • Gweithgareddau a chymorth dysgu ar gyfer plant 3 i 7 oed, 7 i 11 oed, 11 i 16 oed, 16 oed a throsodd.
  • Rhowch gynnig ar weithgareddau ymlacio.
  • Ceisiwch gadw mor heini â phosibl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, archwiliwch y cartref ac unrhyw ardal awyr agored sydd gennych a chwaraewch gemau.
  • Lle y bo'n bosibl, cadwch mewn cysylltiad ag athrawon neu unigolion sy'n eich cefnogi chi a'ch plant. Os yw eich plant yn cael cymorth ychwanegol yn yr ysgol, siaradwch â'r ysgol i ddeall yr hyn sy'n gweithio iddynt yno.

Os nad ydych eisoes mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gwasanaethau uchod ac rydych yn credu y dylech fod, siaradwch ag ysgol eich plant a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau yn eich ardal leol.

Gallwch hefyd gael cymorth o'r sefydliadau canlynol

Carers UK0808 808 7777 (Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am 6pm)

Gall Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal

Childline – 0800 1111  

Meic Cymru – 0808 8023 456 (Bob dydd 8am-12pm)

Y Samariaid - 116 123 (24/7). Llinell Cymraeg: 0808 164 0123

NSPCC0808 800 5000 (Dydd Llun i ddydd Gwener: 8am 10pm/Penwythnosau: 9am 6pm)
Mind Cymru – 0300 123 3393
Byw Heb Ofn0808 80 10 800 (24/7)
SNAP Cymru – 0808 801 0608

Adoption UK (Llinell gymorth Cymru) – 02920 230319 - Yn cynnig cyngor ar rianta a mabwysiadu.

Y Rhwydwaith Maethu – cymorth i ofalwyr maeth.

Galw Iechyd Cymru 111 (ar gael yn ardaloedd y byrddau iechyd canlynol ar hyn o bryd – Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe – gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr). Os ydych chi'n byw y tu allan i'r ardaloedd hyn, ffoniwch 0845 46 47 (2c y funud).

Mewn argyfwng, dylech bob amser ffonio 999.

  • Taflen wybodaeth pdf 81 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Czech pdf 394 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Romanian pdf 580 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Slovak pdf 575 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath