English

Mae astudio yn y chweched dosbarth neu'r coleg yn gyfle allweddol i bobl ifanc ddatblygu sgiliau astudio annibynnol a sgiliau bywyd. Mae'n debyg bod ysgol neu goleg eich plant eisoes wedi cysylltu â nhw ynghylch sut i reoli eu dysgu a pha weithgareddau i'w gwneud tra bo addysgu wyneb yn wyneb wedi'i ohirio. Os oes angen cyngor arnoch chi neu eich plant, neu os ydynt yn teimlo bod eu gwaith yn eu llethu, cysylltwch â'u hysgol neu goleg. Bydd yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth. 

Cofiwch nad oes gofyn i chi addysgu eich plant, dim ond helpu i gefnogi eu dysgu. Gallwch wneud hyn drwy eu hannog a bod yn gwmni iddynt a thrwy ddarparu amgylchedd dysgu addas. Dewch o hyd i ardal gyfforddus a thawel lle gallant drefnu mynediad rhwydd at eu nodiadau, deunyddiau ar-lein ac adnoddau defnyddiol eraill.

Dyma rai ffyrdd eraill y gallwch helpu i gefnogi dysgu eich plant.

  • Anogwch nhw i sefydlu eu strwythur eu hunain ar gyfer y diwrnod gyda ffiniau clir rhwng dysgu ac ymlacio. Mae pobl ifanc yn amrywio a byddant yn rheoli eu dysgu mewn ffyrdd gwahanol; byddant yn gwybod beth sy'n gweithio orau iddynt. Nid yw'n hawdd dod o hyd i'r cydbwysedd cywir, ond mae eu hamddiffyn rhag gwneud gormod o waith ysgol yr un mor bwysig â'u hannog i ddysgu.
  • Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn colli eu ffrindiau. Byddant wedi arfer dysgu a chymdeithasu gyda nhw a byddant yn defnyddio ffyrdd gwahanol o gadw mewn cysylltiad. Byddant yn cael budd o drafod eu gwaith a chydweithio â'u ffrindiau, ond efallai y byddwch hefyd am drafod â'ch gilydd sut i nodi pan fydd cyfathrebu â'u ffrindiau yn dechrau tynnu eu sylw.
  • Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn bryderus ynghylch yr hyn y gall y sefyllfa hon ei olygu i'w canlyniadau a'u dyfodol, neu efallai eu bod yn ei chael hi'n anodd cymell eu hunain i ymgysylltu â'u dysgu ar ôl cael gwybod na fydd eu harholiadau na'u hasesiadau yn digwydd fel arfer mwyach. Dylech eu sicrhau na fyddant dan anfantais oherwydd y sefyllfa bresennol ac y bydd y gwaith y maent wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, yn ogystal â'r sgiliau a'r wybodaeth maent yn eu datblygu, yn werthfawr ar gyfer eu hastudiaethau neu waith yn y dyfodol. Os oes angen cyngor a chymorth arnoch, siaradwch ag ysgol eich plant gyntaf. Gellir cael rhagor o wybodaeth am raddau a sut y cant eu dyfarnu'r haf hwn ar wefan Cymwysterau Cymru a gellir dod o hyd i gyngor gyrfaoedd ar opsiynau ôl-16, gan gynnwys gwybodaeth am gyrsiau galwedigaethol, ar wefan Gyrfa Cymru.
  • Bydd angen i rai pobl ifanc gael eu hasesu o hyd er mwyn cyflawni eu cymwysterau eleni. Bydd cyrff dyfarnu'n penderfynu sut y caiff asesiadau eu cynnal ac maent wrthi'n llunio canllawiau yn hyn o beth ar hyn o bryd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am wybodaeth ganddynt a sicrhewch fod eich plant yn cysylltu â'r ysgol neu'r coleg yn rheolaidd. Os yw trefniadau asesu'n golygu bod angen i'ch plant fynd yn ôl i'r coleg neu'r ysgol a bod gennych bryderon am hyn, mae'n bwysig eich bod yn eu mynegi i'r ysgol neu'r coleg.
  • Mae amrywiaeth o adnoddau dysgu o bell ar gyfer disgyblion ôl-16 ar gael ynghyd ag adnoddau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 13 sy'n bwriadu mynd ymlaen i brifysgol neu addysg uwch. Mae'r adnoddau yn cynnwys nifer o ddarlithoedd ar-lein defnyddiol, dosbarthiadau meistr a thiwtorialau a ddatblygwyd gan brifysgolion, colegau a sefydliadau eraill i helpu pobl ifanc i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain. Mae gwybodaeth fwy cyffredinol am fywyd yn y brifysgol ar gael hefyd.

Dylech gysylltu ag ysgol neu goleg eich plant os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i gefnogi dysgu eich plant. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, efallai y bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol.

Gwybodaeth am arholiadau a sut y caiff graddau eu dyfarnu'r haf hwn

Gwybodaeth am ddechrau mewn prifysgol neu goleg yn yr hydref

  • Ewch i wefannau prifysgolion neu golegau unigol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae llawer yn cynnal diwrnodau agored rhithwir a sesiynau sgwrsio byw i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych yn ogystal â darparu profiadau dysgu a digwyddiadau ar-lein er mwyn helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch.
  • Gall Cyllid Myfyrwyr Cymru helpu pobl ifanc i ganfod pa gymorth sydd ar gael, p'un a ydynt yn astudio ar hyn o bryd neu'n bwriadu mynd i'r brifysgol neu'r coleg yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Adnoddau eraill

Adnoddau Hwb a gwybodaeth am fywyd yn y brifysgol a pharatoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch.

Adran gyrfaoedd ar BBC Bitesize

Mae UCAS yn cynnig cyngor ar yrfaoedd a chymorth ar gyfer addysg uwch a pha opsiynau amgen sydd ar gael. 

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn cynnig cyngor ar ddewis Mathemateg Bellach, adolygu, ceisiadau i brifysgolion, deunyddiau a gweithgareddau cyfoethogi a dysgu. 

Ystyriwch ddysgu sgìl newydd neu parhewch â'ch astudiaethau gyda'r Brifysgol Agored, sy'n ddarparwr Dysgu o Bell o'r radd flaenaf.