English

Mae'r adran hon ar gyfer rhieni neu ofalwyr sydd â phlant ag anghenion addysgol arbennig (AAA) (y'u gelwir yn anghenion dysgu ychwanegol weithiau) a/neu a gaiff eu haddysgu mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Mae'n bosibl bod eich plant yn cael eu haddysgu mewn ysgol arbennig, uned cyfeirio disgyblion, Canolfan Adnoddau Dysgu, ysgol brif ffrwd neu mewn lle arall y tu allan i'r ysgol. Yn yr adran hon mae ‘darparwr addysg’ yn cyfeirio at yr holl leoliadau uchod.

Darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed

Er nad yw darparwyr addysg yn agored fel arfer, bydd gan bob awdurdod lleol ddarpariaeth ar gyfer plant cymwys. Gallai hyn fod drwy ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion neu hybiau. Mae'n bosibl y clustnodwyd lle ar gyfer rhai plant sydd â gweithiwr cymdeithasol neu ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (ond nid pob un ohonynt).

Mae gan Lywodraeth Cymru ragor o wybodaeth am hyn, yn ogystal â gwybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol i chi: plant a phobl ifanc agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dysgu yn y cartref

Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud i'ch plant yw eu cadw'n ddiogel ac yn hapus. Lles eich teulu yw'r flaenoriaeth bob amser. Nid oes disgwyl i chi ail-greu'r ysgol yn eich cartref nac ymgymryd â rôl athro eich plant, ond mae ffyrdd y gallwch gefnogi eu dysgu.

Bydd darparwr addysg eich plant neu eich awdurdod lleol (pan nad yw eich plentyn yn mynd i ddarparwr addysg) yn gallu eich cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn a bydd yn ddefnyddiol cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r gwasanaeth. Er mai chi fydd yn gwybod anghenion llawn eich plant orau, bydd darparwr addysg eich plant neu eich awdurdod lleol yn gallu cefnogi dysgu sy'n briodol i'w hanghenion. Byddant yn gallu rhoi gweithgareddau a thasgau priodol i chi sy'n addas i'ch plant eu harchwilio a'u cwblhau, neu gyngor ar y ffordd orau o gael gafael ar gymorth sy'n addas i'w hanghenion. Bydd eich darparwr addysg neu eich awdurdod lleol yn gallu cynnig cyngor os bydd eich plant:

  • wedi caeldatganiad o anghenion addysgol arbennig – cysylltwch â'r darparwr addysg neu'r awdurdod lleol i ganfod sut y gall barhau i'ch cefnogi. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, ni fydd systemau cymorth yn gallu gweithredu yn eu ffyrdd arferol a defnyddir dull gweithredu ymarferol a hyblyg
  • yn cael cymorth ychwanegol – gall y cydlynydd AAA (a elwir yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol weithiau) neu weithiwr allweddol eich plant eich helpu gyda syniadau gwahanol a mathau o weithgareddau y gallwch eu gwneud gartref
  • yn cael prydau ysgol am ddim – mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar sut i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn a gallwch ganfod pa drefniadau sydd ar waith yn eich awdurdod lleol yma
  • yn cael anawsterau wrth ddefnyddio dyfeisiau electronig, neu gael gafael arnynt, neu broblemau cysylltu â'r rhyngrwyd er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein – cysylltwch â darparwr addysg eich plant neu eich awdurdod lleol, mae cymorth ychwanegol wedi cael ei ddarparu i gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn
  • yn bryderus am fynd yn ôl i'r darparwr addysg – siaradwch â'ch darparwr addysg neu eich awdurdod lleol. Efallai y bydd yn awgrymu syniadau i helpu, er enghraifft sgwrs ddyddiol am bynciau perthnasol megis mynd yn ôl i'w darparwr addysg, symud dosbarth neu newid athro. Mae'n bosibl y bydd hefyd yn gallu cefnogi eich plant drwy rannu lluniau â nhw fel y gallant weld sut bydd yr adeiladau, yr ystafelloedd a'r staff yn edrych
  • yn bryderus am yr hyn y gall y sefyllfa hon ei olygu i'w dyfodol – siaradwch â'ch darparwr addysg neu eich awdurdod lleol os oes angen cyngor a chymorth arnoch a cheisiwch eu sicrhau na fyddant dan anfantais oherwydd y sefyllfa bresennol a bod y gwaith y maent wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, yn cael ei werthfawrogi. Os oes gan blant hŷn bryderon o ran sut y caiff graddau eu dyfarnu yr haf hwn, gellir dod o hyd i gyngor ar wefan Cymwysterau Cymru. Gellir dod o hyd i gyngor gyrfaoedd ar opsiynau ôl-16, gan gynnwys gwybodaeth am gyrsiau galwedigaethol, ar wefan Gyrfa Cymru.

Mae sawl ffordd o ddysgu. Ni fydd pob math o ddysgu'n cynnwys technoleg neu wersi gan athro. Gall plant ddysgu drwy chwarae, siarad, canu a gwneud gweithgareddau ymarferol pob dydd, e.e. coginio, garddio a glanhau. Gallant hefyd ddysgu drwy ddulliau mwy ‘ffurfiol’, megis cwblhau gweithgareddau dysgu, gan gynnwys gweithgareddau ar-lein. Dyma rai awgrymiadau i helpu i gefnogi dysgu o bell.

  • Lle y bo'n bosibl, cadwch mewn cysylltiad ag athrawon neu unigolion sy'n cefnogi eich plant.
  • Ceisiwch ddarganfod pa adnoddau gweledol – megis siartiau, teganau neu weithgareddau – mae eich plant yn eu defnyddio yn yr ysgol i'w helpu i wybod pa weithgareddau y mae angen iddynt eu cwblhau a beth sy'n dod nesaf yn ystod y diwrnod (siart nawr a nesaf).
  • Ceisiwch gael cydbwysedd rhwng dysgu ac ymlacio, gan ddod o hyd i drefn sy'n cyd-fynd ag anghenion eich teulu.
  • Defnyddiwch ystod o weithgareddau, gan gynnwys profiadau ar-lein megis teithiau tywys rhithwir o sŵau ac amgueddfeydd.
  • Rhowch gynnig ar weithgareddau ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar – siaradwch am yr hyn y gallant ei weld neu ei glywed ac ati.
  • Byddwch mor heini ag y gallwch ac archwiliwch y cartref (a'r ardal awyr agored os oes gennych un), chwaraewch gemau – os oes gan eich plant anawsterau corfforol ac mae angen cymorth arnoch ar sut i'w cadw i symud, ceisiwch gyngor gan ddarparwr addysg a therapydd iechyd eich plant.
  • Siaradwch am yr hyn sy'n digwydd ac am ddychwelyd i'w darparwr addysg presennol neu ddarparwr newydd. Bydd darparwyr addysg yn gallu helpu i gefnogi'r drafodaeth hon.
  • Ceisiwch helpu eich plant i reoli eu hymddygiad a'u gorbryder.
  • Efallai y dewch o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yn adrannau'r grwpiau oedran eraill hefyd.

Mae llawer iawn o wybodaeth, cymorth a chyngor ar gael i'ch helpu i gefnogi eich plant er mwyn Dal ati i Ddysgu.

Gall y dolenni canlynol i adnoddau fod yn ddefnyddiol i chi a'ch plant. Ar gyfer adnoddau a chyngor penodol sydd wedi'u teilwra i anghenion eich plentyn, dylech gysylltu â'ch darparwr addysg neu eich awdurdod lleol.

 

BBC Bitesize

Mae CAMHS Resources wedi dod ag adnoddau defnyddiol ynghyd o ffynonellau amrywiol ar y rhyngrwyd i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr.

Gellir cael gafael ar ragor o weithgareddau a chymorth dysgu ar gyfer grwpiau oedran penodol yma – 3 i 7 oed, 7 i 11 oed, 11 i 16 oed16 oed a throsodd. 

Er mai darparwr addysg eich plant neu eich awdurdod lleol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf bob amser, mae'n bosibl y bydd angen cyngor neu ganllawiau ychwanegol arnoch yn ystod y cyfnod hwn. Gallech ddod o hyd i'r atebion rydych yn chwilio amdanynt drwy gysylltu â'r canlynol.

  • Adran addysg – gwasanaeth cynhwysiant addysgol eich cyngor lleol.
  • Gofal cymdeithasol – gweithiwr cymdeithasol allweddol eich plant neu'r cyngor lleol.
  • Gwasanaethau gofal iechyd – ymwelydd iechyd neu weithiwr iechyd allweddol eich plant neu'r bwrdd iechyd lleol.
  • Iechyd meddwl a gwasanaethau cwnsela – os yw eich plant yn cael gwasanaeth cwnsela drwy eu darparwr addysg ar hyn o bryd er mwyn helpu i gefnogi eu hiechyd meddwl, dylent allu parhau i gael gafael ar y cymorth hwn. Siaradwch â'ch darparwr addysg neu eich awdurdod lleol am hyn.
  • Cymorth a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

I gael cymorth ar gadw'n ddiogel, edrychwch ar yr adran ‘Cadw Cymru'n Ddiogel’ yn y canllawiau hyn. Mae cymorth a chyngor gan linellau cymorth eiriolaeth a gwybodaeth ar gael hefyd.

SNAP Cymru 0808 801 0608 (gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau.

Contact – 0808 808 3555 – elusen genedlaethol sy'n cefnogi teuluoedd plant sydd ag anghenion addysgol arbennig. 

Anabledd Dysgu Cymru

Carers UK 0808 808 7777 (Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am 6pm)

Gall Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal

Childline0800 1111

Meic Cymru – 0808 8023 456 (bob dydd 8am – 12pm)

Mind Cymru – 0300 123 3393
Byw Heb Ofn0808 80 10 800 (24/7)

Y Samariaid - 116 123 (34/7). Llinell Cymraeg: 0808 164 0123 (7pm - 11pm)

NSPCC0808 800 5000 (8am 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener/9am 6pm ar benwythnosau)

Galw Iechyd Cymru

Mewn argyfwng, dylech bob amser ffonio 999.