English

Mae plant ifanc yn dysgu'n gyson o bopeth sy'n digwydd o'u cwmpas; bod gyda chi, brodyr a chwiorydd a phobl eraill yn eich cartref, siarad a gwrando, canu, helpu o gwmpas y tŷ, chwarae gemau cogio bach, cael hwyl a chadw'n heini. Pan fyddant yn cael hwyl mae plant yn dysgu orau.

Mae plant yn dysgu drwy fathau gwahanol o chwarae, gan gynnwys chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill. Chwarae yw'r ffordd y maent yn dysgu orau – felly gadewch iddynt wneud hyn cymaint â phosibl. Gallai hyn fod dan do neu yn yr awyr agored os oes gennych chi ardal tu allan y gallant ei defnyddio'n ddiogel.

Chi sy'n adnabod eich plant, felly dilynwch eu diddordebau a beth bynnag sy'n cyd-fynd â'u trefn ddyddiol. Dyma rai awgrymiadau.

  • Gwneud tasgau anogwch eich plant i wisgo eu hunain, helpu gyda thasgau fel tacluso, paratoi prydau, golchi llestri a gosod y bwrdd. Anogwch nhw i wneud y tasgau hyn yn dda. Bydd hyn yn rhoi ymdeimlad o gyfrifoldeb a chyflawniad iddynt.
  • Rhannu llyfrau â'ch gilydd siaradwch am y cymeriadau a'r lluniau. Mae llawer o ffyrdd o gael gafael ar straeon ar y we, gan gynnwys llyfrau electronig, darlleniadau a fideos a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
  • Chwarae gyda'ch gilydd anogwch gemau cogio bach, fel chwarae siop, mynd i'r caffi, esgus bod yn yr ysgol neu fod yn fforiwr. Gadewch iddynt gael hwyl gyda'u dychymyg a byddwch yn greadigol.
  • Chwarae ar eu pen eu hunain gadewch iddynt dreulio amser yn chwarae â'u teganau ar eu pen eu hunain, fel blociau, briciau, ceir, doliau, posau jig-so.
  • Bod yn greadigol os oes gennych bapur, pinnau ysgrifennu, creonau, pensiliau, sialc neu baent, gadewch i'r plant eu defnyddio i greu lluniau, arwyddion, rhestrau, mapiau neu ysgrifennu llythyrau. Gellir gwneud gweithgareddau dan do neu yn yr awyr agored. Mae plant ifanc wrth eu bodd yn cyfathrebu yn y ffordd hon; gallech anfon eu campweithiau ymlaen at deulu a ffrindiau fel ffordd o gysylltu.
  • Cadw'n heini – ceisiwch ddyfeisio gemau i annog eich plant i gropian, neidio, hopian, sgipio, cydbwyso a thaflu a dal yn hyderus. Bydd dysgu sgiliau cydsymud da a datblygu eu cryfder corfforol yn rhoi hyder iddynt.

Dylech gysylltu ag ysgol eich plant os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i gefnogi dysgu eich plant. Os oes angen rhagor o gymorth neu syniadau arnoch, rhowch gynnig ar y wybodaeth ganlynol.

Adnoddau Hwb

BBC Bitesize

Mae Cyw ac S4C wedi creu casgliad o raglenni Cymraeg i blant bach, gyda dolenni i gemau addysgol, straeon, ac ati i blant oed meithrin a phlant cynradd.

Mae Pori Drwy Stori yn cefnogi sgiliau llythrennedd a rhifedd plant.

Mae Plentyndod Chwareus yn cynnig cyngor a gweithgareddau er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a chymorth i blant chwarae gartref.

Mae'r Gymdeithas Chwarae Ryngwladol yn cynnig cymorth a gweithgareddau i gefnogi chwarae mewn llawer o ffyrdd gwahanol.

Mae Busy Feet Explorers yn cynnig gweithgareddau corfforol i gadw plant yn heini ac yn brysur