English

Nid oes unrhyw genhedlaeth ers yr Ail Ryfel Byd wedi wynebu’r fath amharu ar addysg ag y mae’n plant a’n pobl ifanc yn ei weld ar hyn o bryd, ac mae hyn yn arbennig o wir am ddysgwyr sy’n paratoi ar gyfer eu cymwysterau. Er bod dysgu o bell wedi dod i fod yn ‘normal newydd’, gyda’r holl heriau sydd ynghlwm â hynny, mae dysgwyr mewn blynyddoedd arholiad yn wynebu anghenion brys ar hyn o bryd. Mae’r ddogfen hon felly yn nodi ein disgwyliadau gan ysgolion mewn perthynas â’r dysgwyr hynny wrth iddynt ddysgu o bell; dylid ei darllen wrth ochr y canllawiau.

Rydym yn hyderus bod pob ysgol mewn cysylltiad rheolaidd â’u dysgwyr drwy ddulliau digidol a/neu ddulliau eraill nad ydynt yn ddigidol, gan ddarparu cyfleoedd dysgu pwrpasol, o ansawdd uchel sy’n ysgogi ac yn ennyn diddordeb dysgwyr ar draws cyfres eang a chytbwys o destunau. Mae’r canllawiau hyn yn benodol ar gyfer blynyddoedd arholiadau, yn sgil yr amharu sylweddol ar eu haddysg ar adeg hanfodol bwysig yn eu cynnydd. 

Ar gyfer dysgwyr mewn blynyddoedd arholiad yn 2021, gallai’r amharu ar eu haddysg gael effaith sylweddol ar eu deilliannau, ac rydym i gyd yn ceisio lliniaru hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi adnoddau sylweddol mewn ysgolion, rhanbarthau ac Awdurdodau Lleol i gefnogi dysgu byw, cyfunol ac o bell. Mae’r prosiect Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau wedi galluogi ysgolion i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi dysgwyr. Mae buddsoddiadau ychwanegol yn cael eu gwneud mewn meddalwedd, caledwedd a chysylltedd.

Rydym am ddiolch i’r holl athrawon ac arweinwyr am y cynnydd a wnaed ers mis Mawrth 2020 wrth ddarparu cyfleoedd dysgu i ddisgyblion a myfyrwyr dan amodau anodd eithriadol, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd, a dyna pam rydym yn gosod y disgwyliadau clir isod.

Mae’r gyfres o ddisgwyliadau sy’n cael eu mynegi yma yn benodol ar gyfer y cyfnod pan fydd dysgwyr ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn gorfod dysgu o bell, ac ar gyfer tymor y gwanwyn hyd at y gwyliau hanner tymor. Byddwn yn adolygu’r disgwyliadau hyn ym mis Chwefror. Mae’r disgwyliadau’n gymwys pan nad oes modd i ddysgwyr fynychu safleoedd ysgolion ac ar hyd y cyfnod y byddant yn absennol o’r dosbarth.

  • Rydym yn disgwyl i’r ysgol gadw mewn cysylltiad dyddiol â’r grŵp hwn o ddysgwyr, i’w cefnogi o ran dysgu, ysgogiad a lles. Rydym yn disgwyl iddynt gael pedair awr o ddysgu ystyrlon y dydd, a fydd yn gyfuniad difyr o ddysgu a chymorth cydamserol ac anghydamserol, gan ddefnyddio dulliau digidol a dulliau heb fod yn ddigidol fel sy’n briodol i’r grŵp a’r pwnc. Nid ydym yn gosod disgwyliadau ar lefel fanylach – athrawon ac arweinwyr sy’n adnabod eu hysgolion a’u dysgwyr orau, a nhw ddylai wneud penderfyniadau manwl am gynlluniau dysgu eu disgyblion a’u myfyrwyr.
  • Rydym yn disgwyl i adnoddau dysgu sy’n cael eu darparu gan ysgolion fod o ansawdd digon da i alluogi dysgwyr i symud ymlaen mor agos â phosibl i’r hyn fyddai wedi digwydd yn y dosbarth. Rydym yn disgwyl i’r adnoddau a’r gweithgareddau gyfeirio at gynnwys sydd ar gael drwy ystod eang o ffynonellau fel Hwb, CBAC, BBC, S4C a Phrifysgolion, a’u gosod mewn cyd-destun.
  • Rydym yn disgwyl i ysgolion helpu dysgwyr sydd wedi’u hallgau’n ddigidol i gyrraedd at gyfleoedd dysgu o bell drwy ddosbarthu dyfeisiau ysgol gyda chytundebau priodol i’r defnyddiwr. Os oes problemau wrth ddosbarthu dyfeisiau, neu heriau o ran cysylltedd, rhaid i ysgolion hysbysu arweinydd Technoleg Addysg eu hawdurdod lleol.
  • Rydym yn disgwyl i ysgolion fod yn ymwybodol o gysylltiad y dysgwyr gyda’r cynnig dysgu o bell, a chofnodi hynny.

Er mwyn cyflawni’r disgwyliadau hyn, mae ysgolion ac Awdurdodau Lleol wedi gofyn i ni edrych eto ar rai o’r canllawiau a osodwyd yn y gorffennol. Rydym wedi gwneud hyn, ac rydym yn gwneud dau newid i’r canllawiau ffrydio byw a fideo-gynadledda. Nid yw darpariaeth addysg gydamserol - gwersi byw ar-lein er enghraifft - yn cael ei ddisgrifio bellach fel rhywbeth gwirfoddol, ond yn hytrach dylai fod yn rhan o ddull gweithredu’r ysgol i’w ddefnyddio yn ôl crebwyll yr arweinwyr. Hefyd, mae’r canllaw bod angen i ddau oedolyn fod yn bresennol mewn sesiynau cydamserol, byw o bell wedi’i ddileu, er mwyn galluogi arweinwyr ysgolion i ddefnyddio athrawon i ddysgu fel sy’n briodol yn eu barn nhw.