English

Mae Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu: Datganiad polisi parhad dysgu yn cydnabod bod COVID-19 yn cyflwyno heriau gwirioneddol a difrifol i iechyd a lles oedolion a phlant.

Mae’r perygl o ddal yr haint, y posibilrwydd o golli rhywun annwyl, a’r cyfyngiadau ar adael y cartref yn rhoi straen ar ein hiechyd corfforol a meddyliol ac ar ein perthynas â’n gilydd. Gallai diffyg trefn, y tarfu ar y broses ddysgu a’r angen i gadw pellter oddi wrth ffrindiau effeithio ar blant yn arbennig.

Mae’r datganiad polisi yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a’i holl bartneriaid ar draws y system addysg, yn ystod y cyfnod hwn pan na all y rhan fwyaf o ddysgwyr fynychu ysgolion a lleoliadau yn gorfforol. Blaenoriaeth allweddol fydd cefnogi iechyd a lles corfforol a meddyliol  ein holl ddysgwyr a’n gweithlu addysg.

Lluniwyd y cyngor yn yr adran hon i ddarparu fframwaith i benaethiaid, athrawon, cynorthwywyr addysgu ysgolion a lleoliadau ar gyfer cefnogi lles corfforol a meddyliol yn ystod y cyfnod hwn o newid a tharfu digyffelyb.

At ddibenion y cyngor yn yr adran hon, mae ‘lleoliadau addysg’ yn cynnwys ysgolion, lleoliadau’r blynyddoedd cynnar a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) eraill.

Mae’r cyngor hwn yn seiliedig ar y Pum Ffordd at Les. Cafodd y model ei ddatblygu gan y Sefydliad Economeg Newydd, ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a MIND. 

Yn 2008, roedd y Sefydliad Economeg Newydd wedi adolygu dros 400 o bapurau gwyddonol i bennu’r pethau allweddol sy’n cyfrannu at ein lles a allai gael eu defnyddio gan unigolion fel ffordd o ymgorffori lles yn eu bywyd bob dydd. Roedd y pum cam gweithredu allweddol a nodwyd yn ymwneud â’r themâu canlynol, sef cysylltu’n gymdeithasol, bod yn egnïol, cymryd sylw, dal ati i ddysgu a rhoi. Bydd cyfuno’r pethau hynny’n helpu i wella lles unigolion, a gall hefyd sicrhau strwythur cyffredinol ar gyfer trefn feunyddiol y cyfnod hwn.

Cysylltu

Mae meithrin cysylltiadau cadarnhaol yn bwysig i’n lles meddyliol. Gallai’r cysylltiadau hynny helpu i ddatblygu ymdeimlad o berthyn. Gallan nhw gynnig cyfleoedd i rannu profiadau a hwyluso rhoi a derbyn cymorth emosiynol. Mae lleoliadau addysg yn fannau cymdeithasol dros ben. Felly, dylai fod yn flaenoriaeth i ddod o hyd i gyfleoedd i staff a dysgwyr ymgysylltu â’i gilydd yn ystod y cyfnod hwn, tra bo lleoliadau addysg ar gau a thra bo angen cadw pellter cymdeithasol.

Bod yn egnïol

Mae bod yn gorfforol egnïol nid yn unig yn dda i’ch iechyd corfforol ac ichi gadw’n heini, mae’r dystiolaeth yn dangos y gall hefyd wella eich lles meddyliol. Mae diwrnod arferol mewn ysgol neu leoliad yn cynnwys digon o gyfleoedd i ddysgwyr fod yn egnïol, gan gynnwys teithio i’r lleoliad ac yn ôl, symud rhwng dosbarthiadau neu weithgareddau, amserau egwyl, a gwersi addysg gorfforol. Felly, mae cynnig cyfleoedd i annog dysgwyr i symud yn ystod y dydd yn bwysig, a rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i weithgarwch corfforol.

Cymryd sylw

Gall rhoi sylw i’r hyn sy’n digwydd ‘yn y fan a’r lle’ ein helpu i beidio â phoeni am bethau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth – ac mae hynny’n dda i’n lles meddyliol. Mae bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’n hamgylch, gan werthfawrogi’r foment, yn gallu cynnwys: defnyddio’r pum synnwyr i wella ein hymwybyddiaeth o’r byd o’n cwmpas a chymryd amser i ystyried yr hyn yr ydyn ni’n ei deimlo’n gorfforol ac yn emosiynol.

Dal ati i ddysgu

Mae dysgu rhywbeth newydd neu ddysgu rhywbeth yn well yn gwneud ichi deimlo’n falch o fod wedi cyflawni rhywbeth buddiol, sy’n dda i’ch lles meddyliol. Yn ystod y cyfnod hwn tra bo lleoliadau addysg ar gau, gallai fod yn anodd i rai dysgwyr barhau i fod yn frwdfrydig am ddysgu. Felly, mae bod yn greadigol ac yn hyblyg yn bwysicach nag erioed wrth gynllunio gweithgareddau dysgu.

Rhoi

Gall gwneud rhywbeth caredig yn rheolaidd a ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ wella lles unigolion a’u cymuned ehangach. Dylech chi beidio â diystyru pwysigrwydd annog eich dysgwyr i fod yn garedig, gan awgrymu ffyrdd y gallan nhw wneud hynny.

  • Mae cadw mewn cysylltiad ag eraill ac ymdeimlad o berthyn yn sbardunau allweddol ar gyfer lles.

    Mae lleoliadau addysg yn cynnig amgylchedd cymdeithasol iawn, ac felly maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ymdeimlad o berthyn ac o gysylltedd yn eu dysgwyr. Mae hynny’n digwydd wrth rhyngweithio mewn sawl ffordd wahanol yn ystod y dydd mewn ysgol neu leoliad, ac nid dim ond yn yr ystafell ddosbarth. Mae lleoliadau addysg yn mynd ati i ysgogi ymdeimlad o berthyn ac o gysylltedd mewn nifer o ffyrdd, sy’n cynnwys:

    • drwy feithrin cyberthynas gadarnhaol â chyfoedion a rhwng staff a dysgwyr
    • drwy sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, bod pobl yn gwrando arnynt a bod eu lleisiau’n cael eu clywed
    • drwy gynnig cyfleoedd i ddysgwyr weithio ar y cyd at ddiben dysgu rhywbeth penodol
    • drwy ddatblygu ymdeimlad o gymuned.

    Yn ystod y cyfnod hwn tra bo lleoliadau addysg ar gau, un o’r pethau pwysicaf y gall lleoliadau ei wneud i hybu lles yw helpu eu dysgwyr i deimlo eu bod yn perthyn o hyd i’w cymuned dysgu, a bod y cysylltiad yno o hyd. Er bod parhau i gadw mewn cysylltiad o fudd i bob dysgwr yn gyffredinol, gallai rhai dysgwyr neu grwpiau o ddysgwyr weld eisiau hynny’n fwy na rhai eraill ar hyn o bryd.

    Bydd ceisio cadw cydberthynas ag eraill a hybu cadw mewn cysylltiad tra bo lleoliadau addysg ar gau hefyd yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i ddarpariaeth addysg ffurfiol.

    Pethau allweddol i’w hystyried

    Nid yw cadw mewn cysylltiad yr un peth â chysylltu â phobl. Yr hyn sydd wrth wraidd cadw mewn cysylltiad yw hybu ymdeimlad o berthyn a meithrin cydberthynas pobl â’i gilydd.

    Dylai lleoliadau addysg wneud eu gorau glas i ymgysylltu mewn ffordd deg â phob un o’u dysgwyr, a dod o hyd i amrywiaeth o ffyrdd i gysylltu â nhw, all-lein ac ar-lein. Mae cadw mewn cysylltiad â dysgwyr sy’n agored i niwed ac sydd dan anfantais yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod hwn.

    Mae’r offer ar-lein a ddarperir ar Hwb yn un o’r ffyrdd y gellir hybu ymdeimlad o gydberthynas tra bo’r ysgol ar gau. Mae’r offer hyn yn cynnig yr hyblygrwydd i addasu a gwahaniaethu eich ffordd o weithio wrth gynllunio cyfleoedd i ddysgwyr weithio, rhannu, rhyngweithio a dysgu ar y cyd.

    Mae angen ystyried yn ofalus y ffordd y mae’r rhyngweithio ar-lein yn cael eu hwyluso. Dylai ysgolion gydymffurfio â’u polisïau diogelu a dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar egwyddorion ac arferion diogelu ffrydio byw ar gyfer ymarferwyr addysg.  

    Canllawiau ar sut i ddefnyddio gwahanol offer Hwb i gefnogi cadw mewn cysylltiad a chydweithredu.

    Sut gallwn ni helpu dysgwyr i gadw mewn cysylltiad â gwahanol oedolion yn ein lleoliad addysg?

    Yn ystod y diwrnod mewn ysgol neu leoliad, bydd dysgwyr yn rhyngweithio mewn sawl ffordd ag amrywiaeth o oedolion. Mae dod o hyd i ffyrdd i gynnal y cysylltiadau hynny a’r gydberthynas â’i gilydd yn cefnogi lles dysgwyr.

    Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

    • anfon negeseuon drwy fideo sydd wedi’i recordio ymlaen llaw gan nifer o oedolion, e.e. y pennaeth, athro/athrawes, tiwtor dosbarth, staff cymorth a staff cynorthwyol ehangach
    • creu recordiadau sgrin i gyd-fynd â’r gwaith a osodir fel ei bod yn ymddangos bod yr athro/athrawes yn ‘bresennol’
    • recordio sylwadau ac adborth am dasgau/aseiniadau a gwblhawyd
    • darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ar y cyd, fel cynnal gwasanaeth, darllen cerddi a storïau yn uchel
    • negeseuon personol drwy neges destun neu sianel gyfathrebu arall sydd ar gael
    • galwadau ffôn
    • anfon llythyrau, cardiau post, cardiau pen-blwydd, ac ati.

    Bydd cynnig cyfleoedd sy’n annog dysgwyr i ymateb i’r ffyrdd hyn o ryngweithio yn eu helpu i deimlo eu bod ‘mewn cysylltiad’ â’r bobl hynny, ac nid dim ond bod y bobl hynny ‘wedi cysylltu’ â nhw.

    Wrth i’r tymor hwn fynd rhagddo, dylai lleoliadau addysg ystyried sut y gallan nhw sicrhau bod cysylltiadau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer tymor yr hydref.

    Sut gallwn ni helpu ein dysgwyr i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd?

    Yn ystod y diwrnod mewn ysgol neu leoliad, bydd dysgwyr yn rhyngweithio mewn sawl ffordd â’u cyfoedion. Bydd dod o hyd i ffyrdd i gynnal y cysylltiadau hynny a’r gyberthynas â’i gilydd yn cefnogi lles dysgwyr.

    Er y gallai nifer o ddysgwyr fod wedi aros mewn cysylltiad â’u ffrindiau pennaf, gallen nhw fod yn gweld eisiau rhai o’r cyfleoedd ehangach hynny i rwydweithio.

    Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

    • cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gysylltu â’i gilydd yn gymdeithasol, ar-lein ac all-lein. Cofiwch y gallai dysgwyr berthyn i nifer o grwpiau yn yr ysgol y tu allan i’r ystafell ddosbarth, e.e. timau chwaraeon, clybiau allgyrsiol, grwpiau llais
    • annog dysgwyr i rannu eu profiadau mewn perthynas â’r Pum Ffordd at Les, er enghraifft:
      • sut maen nhw’n cysylltu ag eraill?
      • sut maen nhw wedi cadw’n gorfforol egnïol?
      • beth maen nhw wedi’i sylwi am y ffordd y maen nhw’n teimlo?
      • a ydyn nhw wedi dysgu rhywbeth newydd?
      • beth maen nhw wedi’i wneud i fod yn garedig i eraill?
    • rhannu atgofion o ddigwyddiadau pan oedden nhw gyda’i gilydd, e.e. lluniau o deithiau ysgol, hen ffotograffau o ddosbarthiadau, mabolgampau, dramâu a dathliadau’r ysgol, ac ati.

    Sut gallwn ni helpu ein dysgwyr i gadw mewn cysylltiad drwy weithgareddau pwrpasol a chydweithredol?

    Yn ystod y diwrnod mewn ysgol neu leoliad, bydd dysgwyr yn cael nifer o gyfleoedd i gydweithredu â’i gilydd. Bydd dod o hyd i ffyrdd creadigol i ddarparu’r cyfleoedd hynny yn ystod y cyfnod hwn tra bo lleoliadau addysg ar gau yn helpu i gefnogi llesiant dysgwyr.

    Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

    • gosod gweithgareddau sy’n annog grwpiau o ddysgwyr i weithio ar y cyd gan ddefnyddio’r swyddogaeth rhannu sy’n rhan o offer Hwb
    • cynnig cyfleoedd i ddysgwyr weld profiadau dysgu ei gilydd ac ymateb yn gadarnhaol iddynt – a hynny ar gyfer gweithgareddau a osodir gan y lleoliad a rhai sy’n hunangyfeiriedig
    • cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gyfrannu at ddarn o waith a gynhyrchir gan y dosbarth, e.e. cyflwyniad, gwaith celf, collage o ffotograffau
    • annog dysgwyr i drafod eu tasgau/gweithgareddau drwy rith ystafelloedd dosbarth a gefnogir ar Hwb.

    Mae gweithgareddau grŵp ar y cyd yn caniatáu i ddysgwyr gael ymdeimlad o gymuned, a gall eu helpu i deimlo eu bod yn cyflawni rhywbeth buddiol a’u hysgogi i gyflawni tasgau. Ond, mae’n bwysig i athrawon ystyried yn ofalus y ffordd y mae’r tasgau cydweithredol yn cael eu gosod, fel eu bod yn rhai cynhwysol. Dylai athrawon sicrhau nad yw eu ffordd o weithio’n rhoi dysgwyr dan anfantais am na allant gymryd rhan, neu am eu bod yn anfodlon cymryd rhan, am ba reswm bynnag.

    Sut gallwn ni helpu ein dysgwyr i deimlo eu bod yn cael eu parchu, bod pobl yn gwrando arnynt a bod eu lleisiau’n cael eu clywed?

    Yn ystod y diwrnod mewn ysgol neu leoliad, bydd dysgwyr yn cael nifer o gyfleoedd i leisio’u barn a gwrando ar leisiau eraill. Bydd dod o hyd i ffyrdd i sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael yn cefnogi lles dysgwyr.

    Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

    • rhoi adborth sy’n gwneud i ddysgwyr deimlo eu bod yn cael eu parchu, bod eraill yn gwrando arnynt, a’u bod yn cael eu clywed. Gellid gwneud hynny drwy gynnwys cyfeiriadau clir at briodoleddau a rhinweddau personol y dysgwr
    • cynnig cyfleoedd i ddysgwyr rannu eu syniadau, eu meddyliau, eu safbwyntiau, ac iddynt gynnig adborth a gofyn cwestiynau
    • cael barn y dysgwr am ‘y cam nesaf’ o ran gwaith dysgu
    • dod o hyd i gyfleoedd i ddathlu cynnydd pob dysgwr.
  • Nid yn unig y mae gwneud ymarfer corff yn dda ar gyfer iechyd a ffitrwydd corfforol, mae tystiolaeth yn dangos ei fod hefyd yn dda ar gyfer lles meddyliol. Mae wythnos mewn ysgol neu leoliad addysg yn cynnwys digon o gyfleoedd i ddysgwyr wneud ymarfer corff, gan gynnwys: teithio i’r lleoliad addysg ac adref, symud rhwng dosbarthiadau neu weithgareddau, dysgu drwy chwarae, amseroedd egwyl, gwersi addysg gorfforol a gweithgareddau allgyrsiol.

    Yn ystod y cyfnod hwn o ddysgu o bell, mae angen i ymarferwyr annog cyfleoedd i wneud gweithgarwch corfforol ac i symud drwy gydol y dydd. 

    Mae gweithgarwch corfforol yn cadw dysgwyr yn heini, yn rhoi hwb i’w lefelau egni ac yn gwella ansawdd eu cwsg. Mae hefyd yn gwella sut mae dysgwyr yn teimlo a gall helpu i feithrin agwedd a meddylfryd cadarnhaol, drwy leddfu straen a gorbryder. Heb ymarfer corff rheolaidd, gall dysgwyr golli cryfder, stamina a hyder ac efallai y byddan nhw’n ei chael hi’n anoddach canolbwyntio.

    Ystyriaethau allweddol  

    Dylech annog pob dysgwr i fod yn egnïol drwy gydol y dydd drwy sicrhau bod cyfleoedd i symud ac i wneud ymarfer corff yn cael eu cynnwys mewn amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu. Dylid annog gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored lle y bo’n bosibl.

    Wrth gynllunio gweithgareddau, dylech ystyried cymhelliant, hyder a chymhwysedd corfforol y dysgwyr gan y bydd hyn yn cefnogi’r rhesymeg dros y gweithgaredd y maen nhw’n bwriadu ymgymryd ag ef.

    Dylech ystyried cynnwys gweithgareddau sy’n gallu datblygu sgiliau a ffitrwydd corfforol mewn lleoedd cyfyng gan na fydd gan bob dysgwr ddigon o le dan do nac yn yr awyr agored i wneud rhai gweithgareddau corfforol.  

    Dylech ystyried cynnwys gweithgareddau sy’n golygu defnyddio eitemau bob dydd sydd i’w cael o amgylch y cartref i ddatblygu sgiliau, gan na fydd gan bob dysgwr offer chwaraeon. 

    Mae dysgwyr sydd â pherthynas gadarnhaol â gweithgarwch corfforol yn fwy tebygol o fod yn frwdfrydig, yn hyderus ac yn gymwys yn gorfforol.  

    Sut y gallwn gymell dysgwyr i fod yn egnïol yn gorfforol?

    Gellir meithrin cymhelliant drwy annog a chynllunio gweithgareddau corfforol sy’n:

    • rhoi amrywiaeth o awgrymiadau i ddysgwyr, o ran y math o weithgaredd a lefel yr her. Gall hyn arwain at fwy o fwynhad, ymgysylltiad ac ymdrech
    • gynhwysol ac sy’n cynnig lefelau priodol o her sy’n caniatáu i ddysgwyr wneud cynnydd gweladwy. Gall cael profiad o lwyddo a datblygu ymdeimlad o gymhwysedd gynyddu cymhelliant
    • gwneud i ddysgwyr deimlo eu bod yn rhan o’u cymunedau dysgu drwy rannu eu profiadau. Gall ymdeimlad o berthyn a chael eich gwerthfawrogi gefnogi cymhelliant.

    Sut y gallwn feithrin hyder dysgwyr i fod yn egnïol yn gorfforol?

    Gellir meithrin hyder drwy gynllunio gweithgareddau corfforol sy’n: 

    • bodloni angen y dysgwyr i bennu lefel yr her eu hunain. Gall hyn ennyn mwy o ddiddordeb gan y dysgwyr a’u hannog i wneud mwy o ymdrech
    • darparu gweithgareddau addas i ddysgwyr, a lefel o her sy’n golygu eu bod yn gallu llwyddo. Mae ymdeimlad o gyflawniad yn helpu i ddatblygu hyder
    • gwneud llwyddiant yn amlwg i’r dysgwr drwy osod nodau a thargedau clir. Bydd gallu gweld y cynnydd y maen nhw’n ei wneud yn helpu dysgwyr i fagu mwy o hyder.

    Mae cysylltiad yn aml rhwng hyder dysgwyr a’u barn am eu gallu i gyflawni heriau.  

    Sut y gallwn annog dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd corfforol?

    Mae cymhwysedd corfforol yn cyfeirio at elfennau ffitrwydd a sgiliau corfforol trosglwyddadwy. Bydd cymhwysedd corfforol dysgwyr yn amrywio’n sylweddol ar draws pob agwedd ar sgiliau a ffitrwydd corfforol. Rhaid ystyried anghenion y dysgwyr a’r hyn sy’n briodol o ran lefel yr her.  

    Gellir meithrin cymhwysedd corfforol drwy gynllunio gweithgareddau sy’n datblygu: 

    • sgiliau symud, fel rhedeg, hercian, sgipio
    • sgiliau rheoli’r corff, fel balans a chryfder craidd
    • sgiliau llawdrin, fel rholio, taflu, dal a tharo
    • ffitrwydd corfforol, fel cryfder, stamina a hyblygrwydd.

    Gellir amrywio’r her gan ddefnyddio strategaethau i amrywio pa mor anodd yw’r weithgaredd, y canlyniad, yr offer, hyd y dasg, pa mor egnïol y mae’n rhaid bod a’r amser adfer.

  • Yn ystod y cyfnod ansicr hwn yn sgil COVID-19, efallai y bydd rhai dysgwyr yn poeni neu’n teimlo’n bryderus. Er ei fod yn naturiol i unigolion ymateb i'r materion sy'n achosi straen iddyn nhw drwy feddwl amdanyn nhw, mae tystiolaeth yn dangos y gall canolbwyntio ar y presennol helpu unigolion i roi’r gorau i boeni a bod yn dawel, sy’n dda ar gyfer lles meddyliol. Ystyr cymryd sylw yw cymryd saib, hyd yn oed am eiliad fer, i dreulio ychydig o amser mewn distawrwydd a myfyrio ar ein profiadau. Mae hefyd yn golygu codi ein pennau a chymryd sylw o’n sefyllfa bresennol a’r hyn sydd o’n blaenau. 

    Ystyriaethau allweddol ac awgrymiadau

    Cofiwch, gall bod yn llonydd a chanolbwyntio ar y presennol fod yn anodd iawn i rai dysgwyr. Efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw i arafu, i fod yn llonydd ac i sylwi ar yr hyn sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n dawel ac yn ddigynnwrf. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol neu strategaethau eraill i helpu rhai dysgwyr gyda hyn.

    Mae’n bwysig bod dysgwyr yn deall pam maen nhw’n cael eu hannog i gymryd sylw. Efallai y bydd ymarferwyr yn dymuno cysylltu â rhieni a gofalwyr, felly, i gefnogi’r ddealltwriaeth honno ac i egluro sut y gallan nhw helpu’r dysgwyr gyda hyn.

    Ymhlith yr awgrymiadau y mae annog dysgwyr i:

    • defnyddio amrywiaeth o strategaethau hunanofal, a all gynnwys technegau anadlu, treulio amser gydag anifeiliaid anwes, lliwio
    • sylwi ar y pethau cadarnhaol am eu diwrnod a meddwl am yr hyn a wnaeth iddyn nhw deimlo’n dda
    • rhannu eu meddyliau a’u teimladau; meddwl am sut maen nhw’n teimlo heddiw, e.e. dyddiadur, llun, bwrdd hwyliau.

    Mae canolbwyntio ar y presennol a chymryd sylw o’r byd o’u cwmpas yn rhywbeth y gall dysgwyr ei wneud yn ystod eu bywydau bob dydd. Mae eu hannog nhw i ddefnyddio eu synhwyrau yn ffordd effeithiol o’u helpu i ddysgu i ganolbwyntio ar y presennol a chymryd sylw.

    Ymhlith yr awgrymiadau y mae annog dysgwyr i:

    • edrych ar rywbeth y maen nhw’n ei weld drwy’r amser drwy ‘lygaid newydd’ a sylwi ar y manylion; ceisio sylwi ar rywbeth newydd amdano
    • sylwi ar lliwiau, gwead, siâp ac adlewyrchiad pethau o’u cwmpas
    • canolbwyntio ar y presennol; sylwi ar eu hanadlu, sylwi ar y synau y maen nhw’n eu clywed, teimlo’r ddaear o dan eu traed, gwrando ar eu meddyliau
    • blasu bwyd newydd ac yna sylwi pa mor wahanol y mae’n edrych, blasu a theimlo.  

    Mae bod yn ymwybodol o’r byd naturiol a thalu sylw iddo, a threulio amser yn yr awyr agored yn dda ar gyfer iechyd meddwl dysgwyr.

    Ymhlith yr awgrymiadau y mae annog dysgwyr i:

    • sylwi ar yr olygfa drwy’r ffenestr a gwylio sut mae’n newid dros amser
    • gwrando ar synau natur, fel gwynt, glaw, anifeiliaid, adar, ac ati
    • chwarae gemau sy’n eu hannog i ddefnyddio eu synhwyrau, sy’n ymwneud â’r byd naturiol, e.e. gwylio cymylau, syllu ar y sêr
    • defnyddio deunyddiau sain/gweledol sy’n gysylltiedig â’r byd naturiol
    • tynnu lluniau gyda chamera, gan ganolbwyntio ar ddal yr hyn sydd o’u blaenau
    • cymryd llwybr gwahanol wrth wneud eu hymarfer corff yn yr awyr agored.

    Cofiwch fod y Pum Ffordd at Les yn gyd gysylltiedig ac y gellir annog dysgwyr i gymryd sylw:

    • pan fyddan nhw’n cysylltu ag eraill a’r profiadau cadarnhaol y gallan nhw eu cael o’r cysylltiadau hyn
    • pan fyddan nhw’n dysgu rhywbeth newydd ac yn canolbwyntio ar eu llwyddiannau a’u cyflawniadau
    • pan fyddan nhw’n bod yn gorfforol egnïol ac yn meddwl am sut mae hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo
    • sut y gall y weithred o roi, waeth pa mor fach, wneud i’r unigolyn sy’n rhoi a’r unigolyn sy’n derbyn deimlo’n hapus a theimlo bod rhywun yn gofalu amdano.
  • Yn ystod y cyfnod pan fo lleoliadau addysg ar gau, rhaid i ddysgwyr addasu i ddysgu mewn ffyrdd newydd ac o dan amgylchiadau gwahanol iawn. Mae dysgu rhywbeth newydd, neu wneud rhywbeth yn well, yn medru cynnig synnwyr o bwrpas a llwyddiant. Gall hyn hybu hunanhyder a hunan-barch, sy’n dda iawn ar gyfer lles meddyliol. Mae’r sefyllfa bresennol yn cynnig cyfle i ymarferwyr ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddysgu mewn amrywiol ffyrdd. Efallai y bydd dysgwyr angen cymorth i ddeall eu bod yn parhau i ddysgu mewn nifer o ffyrdd.

    Byddwch wedi adolygu a chynllunio dysg eich dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed.  Byddant yn wynebu heriau a rhwystrau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’n bwysig ystyried yn fwy gofalus nag erioed beth yw’r ffordd orau o’u helpu i barhau i ddysgu. Ceisiwch weld y cyfleoedd sy’n codi drwy’r ffordd newydd hon o weithio, a defnyddiwch y cyfleoedd hynny i roi cyfarwyddyd a chymorth gwahanol i’r dysgwyr hyn. 

    Prif ystyriaethau ac argymhellion 

    Mae lleoliadau addysg yn fannau cymdeithasol tu hwnt. Mae’n bwysig cofio bod dysgu yn ymdrech gymdeithasol sy’n cael ei rhannu. Rhaid ystyried yn ofalus sut i gynnal perthynas sy’n hyrwyddo ac yn gwella’r dysgu yn ystod y cyfnod hwn o ddysgu o bell. Gallai cynnal perthynas a hyrwyddo cysylltiadau drwy ddysgu hefyd helpu dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol.  

    Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys: 

    • cymryd amser i ddysgu mwy am yr hyn sy’n ysgogi’ch dysgwyr. Ystyriwch sut y gallwch ddefnyddio hyn er mwyn helpu i ddatblygu cyfleoedd dysgu sydd wedi’u teilwra at eu diddordebau 
    • annog dysgwyr i adeiladu perthynas gyda’i gilydd drwy ddarparu cyfleoedd i rannu a dathlu eu dysgu ehangach drwy ffyrdd diogel ar-lein
    • darparwch cyfleoedd i ddysgwyr gynnwys aelodau o’r aelwyd yn eu profiadau dysgu. 

    Cofiwch fod pobl yn dysgu drwy eu profiadau o ddydd i ddydd. Ystyriwch sut gall dysgwyr gael eu hannog i adnabod a gwerthfawrogi’r cyfleoedd dysgu sy’n codi yn eu bywydau bob dydd. 

    Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys: 

    • annog dysgwyr i helpu gyda thasgau cyffredin bob dydd gan ddefnyddio eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn cyd-destun naturiol
    • darparu cyfleoedd addas ar gyfer profiadau dysgu go-iawn sy’n canolbwyntio ar yr awyr agored
    • annog dysgwyr i adnabod ac ystyried yr hyn y gallant ei ddysgu o’r cyfryngau o ddydd i ddydd. Cofiwch nad yw treulio amser ar-lein yn golygu bod rhaid treulio’r amser hwnnw yn amsugno cynnwys yn oddefol. Gall ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr fod yn greadigol, gan ddatblygu a defnyddio amrywiol sgiliau.  

    Gall cyfleoedd dysgu rheolaidd, ar ben y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan leoliad addysg, fod o gymorth o ran lles. Ystyriwch sut y gallwch annog dysgwyr i archwilio a datblygu eu hobïau a’u diddordebau. Mae dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed yn llai tebygol o gymryd rhan mewn dysgu y tu allan i’r lleoliad addysg, felly mae’n bosibl y bydd angen mwy o anogaeth a chymorth arnynt i barhau i ddysgu yn ystod y cyfnod hwn.

    Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys: 

    • ystyried beth sy’n ysgogi’ch dysgwyr ac sydd o ddiddordeb iddynt
    • dysgu rhywbeth newydd eich hun, gan ddangos sut i oresgyn unrhyw heriau
    • annog y dysgwyr i rannu eu hobïau a’u sgiliau drwy gyfryngau dosbarth ar-lein
    • rhoi cyfle i ddysgwyr addysgu eraill mewn sgiliau y maent yn hyderus ynddynt
    • sefydlu grwpiau o ddysgwyr i ddatblygu sgil newydd gyda’i gilydd.  

    Cofiwch, yn aml iawn gall ymarferwyr chwarae rhan allweddol yn arwain ac yn cefnogi dysgu o fewn lleoliad addysg. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ystyried sut y gallwch helpu dysgwyr i barhau i oresgyn heriau, gan fod hyn yn rhan bwysig o’r broses ddysguBydd dysgwyr difreintiedig neu agored i niwed angen eich cymorth a’ch anogaeth ychwanegol yn fwy nag erioed ar hyn o bryd.

    Ni ddylid edrych ar y cyngor hwn ar ei ben ei hun, gan ei fod yn rhan o gasgliad o ganllawiau sy’n edrych ar bob agwedd o iechyd a lles meddyliol a chorfforol y dysgwyr.

  • Yn ystod y cyfnod sydd ohoni, mae pobl wedi amlygu gwerth ‘rhoi’ drwy weithredoedd meddylgar a charedig a mynegi diolchgarwch fel unigolion ac fel cymuned. Diolch i’r GIG a gweithwyr allweddol drwy gymeradwyo’n wythnosol ac arddangos posteri o’r enfys mewn ffenestri yw’r ddwy enghraifft fwyaf amlwg o bosib.  

    Mae gweithredoedd caredig a ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ yn rheolaidd yn gallu gwella lles unigolion a’r gymuned ehangach. Does dim modd gorbwysleisio pwysigrwydd annog dysgwyr i wneud pethau caredig yn y cyfnod sydd ohoni, a chynnig syniadau am yr hyn y gellid ei wneud. Gall y camau hyn gael effaith gadarnhaol ar y sawl sy’n rhoi a’r sawl sy’n derbyn.

    Prif ystyriaethau ac argymhellion

    Wrth i’r cyfnod o gadw pellter cymdeithasol barhau, mae’n bwysig atgoffa dysgwyr bod modd iddynt gael effaith gadarnhaol ar eraill o hyd. Bydd dod o hyd i ffyrdd o gysylltu drwy weithredoedd bach caredig fel dweud ‘helo’ a chodi llaw ar gymydog yn ein helpu ni, a’r rhai sydd o’n cwmpas, i deimlo’n agosach at ein gilydd a’n bod yn perthyn i gymuned.

    Gall cymunedau dysgu helpu i ddatblygu’r synnwyr hwn o berthyn i gymuned ehangach drwy gynnig esiampl o garedigrwydd a bod yn feddylgar. Gall lleoliadau addysgol helpu i feithrin diwylliant sy’n gwerthfawrogi caredigrwydd a rhoi. Dylai ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr adnabod ffyrdd o gyfrannu at hyn.

    Anogwch ddysgwyr i ddeall bod rhoi yn fwy na rhannu gwrthrychau materol. Mae rhoi amser i helpu eraill yn ffordd effeithiol o gryfhau cysylltiadau cymdeithasol. Ystyriwch ffyrdd o annog dysgwyr i roi eu hamser i eraill. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o fod yn glust i wrando i helpu gyda thasg ymarferol. Nid yw plant fyth yn rhy ifanc na’n rhy hen i ddysgu am werth a llawenydd helpu eraill.

    Cofiwch fod rhoi, derbyn a bod yn ymwybodol o garedigrwydd yn rhoi synnwyr o bwrpas a hunan barch i ni. Mae helpu dysgwyr i fod yn ymwybodol o’u caredigrwydd eu hunain yn ogystal â sylwi ar yr hyn y maent yn ddiolchgar amdano yn medru hybu teimlad o hapusrwydd ac agwedd gadarnhaol. Er nad yw effaith gweithred garedig neu roi bob amser yn weladwy, chwiliwch am ffyrdd o atgoffa dysgwyr ei bod yno, ac yn bwysig.