Y rhaglen gymorth draws-ranbarthol
Yn 2019, dechreuodd y pedwar consortia rhanbarthol (CCyD, GCA, GwE ac ERW) gydweithio ar 9 prosiect trawsranbarthol.
Yn y gwaith ar Gwricwlwm i Gymru, datblygwyd y rhaglenni isod ar gyfer arweinwyr uwch a chanol. Nodir y rhain hefyd yn erbyn cydrannau perthnasol y Daith Ddysgu Proffesiynol yn y graffig rhyngweithiol ar y dudalen lanio.
Uwch-arweinwyr
- Datblygu gweledigaeth a rennir.
- Beth yw cwricwlwm pwrpasol?
- Gwaredu'r camdybiaethau.
- Addysgeg arweiniol (trafodaeth, egwyddorion ac ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu).
- Ymgysylltu â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru.
- Arwain diwylliant o newid (dealltwriaeth).
- Addysgeg arweiniol (cymunedau dysgu proffesiynol, ymholi ac arwain cydweithio).
- Cyflwyniad i ddylunio'r cwricwlwm.
- Arwain diwylliant o newid (cyfathrebu).
- Dylunio a datblygu'r cwricwlwm.
- Creu amser a lle ar gyfer dysgu proffesiynol.
Rheolwr canol ac Athrawon
- Beth yw cwricwlwm sy’n seiliedig ar ddibenion?
- Gwaredu'r camdybiaethau.
- Datblygu'r cwricwlwm fel sefydliad sy’n dysgu.
- Ymgysylltu â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru.
- Datblygu'r cwricwlwm fel sefydliad sy’n dysgu.
- Archwilio addysgeg.
- Deall cynllunio ar gyfer dilyniant.
- Cynllunio tymor canolig a thymor hir.
- Asesu.
- Sgiliau trawsgwricwlaidd.
- Themâu trawsbynciol.
Mae'r gwaith hwn yn parhau trwy'r cynigion dysgu proffesiynol y consortia rhanbarthol. Cysylltwch â'ch consortiwm rhanbarthol i gael mwy o wybodaeth am y rhaglenni dysgu proffesiynol i gefnogi'ch paratoad ar gyfer cwricwlwm i Gymru. Mae'r eiconau isod yn cysylltu â'r tudalennau perthnasol ar wefannau'r consortia.
Noder: mewn rhai o’r dolenni mae angen dilysu mynediad trwy i weld y tudalennau a dim ond ysgolion yn y rhanbarth hwnnw gall gyrchu’r tudalennau hynny.
- Rhan o:
- Cyhoeddwyd gyntaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf: