English

Trosolwg

Bydd paratoi a gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn gofyn am newid sylweddol i’r arfer cyfredol. Gall hefyd gynnwys newid i bolisïau a strwythurau’r ysgol wrth i ysgolion ystyried y dull gorau o drefnu’r ysgol er mwyn gweithredu Cwricwlwm i Gymru orau.

Ar ôl datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer yr ysgol, mae angen gwireddu’r weledigaeth hon. Rhan bwysig o hyn yw rhannu gyda staff, dysgwyr, rhieni/gofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill.

Gyda chryn dipyn yn llai o gyfarwyddo penodol yng Nghwricwlwm i Gymru, dylid annog staff i fyfyrio ar arfer cyfredol, cymryd risgiau ar sail tystiolaeth ac arloesi wrth i’r ysgol archwilio llunio cwricwlwm yn seiliedig ar ddibenion a chynnydd. Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn darparu manylion ac arweiniad ychwanegol i’ch helpu chi yn hyn o beth.

Meysydd i’w hystyried

Rhai meysydd y gallai ysgolion eu hystyried yn y maes hwn yw:

  • gweledigaeth a rennir
  • diwylliant o ymholi a chymryd risg
  • arloesi.

Adnoddau cysylltiedig

Mae’r adnoddau rhestr chwarae isod yn dangos sut mae rhai ysgolion wedi mynd i’r afael â rhai neu fwy o’r agweddau uchod.