English

Trosolwg

Mae’r meysydd uchod, sy’n ymwneud â dysgu proffesiynol staff, wedi’u cysylltu mor agos â’i gilydd fel eu bod yn cael eu trin fel un o fewn y daith ddysgu broffesiynol.

Mae mwy o fanylion am ddysgu proffesiynol staff i’w gweld yn yr adrannau eraill ar ddatblygiad proffesiynol ar Hwb.

Meysydd i’w hystyried

Rhai meysydd y gallai ysgolion eu hystyried yn y maes hwn yw:

  • creu cyfleoedd dysgu parhaus i staff
    • diwylliant o ddysgu proffesiynol parhaus
    • strwythurau dysgu proffesiynol a dull cyfunol
    • archwiliad o sgiliau a dewisiadau staff
    • darparu amser a chyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol
  • dysgu mewn tîm a chydweithio
    • rhwydweithio
    • hyfforddi/mentora
    • ymholiad gweithredu
    • ethos o onestrwydd a rhannu
  • creu systemau ar gyfer casglu a chyfnewid gwybodaeth ar gyfer dysgu
    • safonau proffesiynol a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol
    • strwythur ac adnoddau ar gyfer dysgu proffesiynol mewn ysgolion
    • triawdau/parau – cydweithredu yn yr ysgol a’r clwstwr
    • ‘TeachMeets’ a chefnogaeth ranbarthol.

Adnoddau cysylltiedig

Mae’r adnoddau rhestr chwarae isod yn dangos sut mae rhai ysgolion wedi mynd i’r afael â rhai neu fwy o’r agweddau uchod.