Datblygu gweledigaeth ysgol gyfan a rennir
Trosolwg
Mae hwn yn fan cychwyn pwysig ar gyfer y daith ddysgu broffesiynol ac argymhellir i ysgolion dreulio amser yn sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth glir o ofynion Cwricwlwm i Gymru a bod gweledigaeth yr ysgol yn ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm. Mae darllen canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn fan cychwyn da.
Meysydd i’w hystyried
Rhai meysydd y gallai ysgolion eu hystyried yn y maes hwn yw:
- deall y pedwar diben
- gwerthusiad o’r weledigaeth ysgol gyfan bresennol
- sefydlu gweledigaeth ysgol gyfan glir gyda’r pedwar diben yn greiddiol iddi
- sefydlu diwylliant o newid
- ystyried polisïau a chynlluniau
- ymglymiad rhanddeiliaid
- cyfathrebu’r weledigaeth yr ysgol gyfan yn unol â hynny.
Adnoddau cysylltiedig
Mae’r adnoddau rhestrau chwarae isod yn dangos sut mae rhai ysgolion wedi mynd i’r afael â rhai neu fwy o’r agweddau uchod wrth ddatblygu neu ailddatblygu eu gweledigaeth ysgol gyfan.
- Allwedd i’r eiconau adnoddau pdf 327 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Rhan o:
- Cyhoeddwyd gyntaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf: