Canllawiau Staff cymorth ysgolion
Cynorthwywyr addysgu a staff cymorth
Er bod y mwyafrif o staff cymorth yn gweithio yn yr ystafell ddosbarth, gan gynorthwyo athrawon a gweithio'n uniongyrchol gyda dysgwyr, mae llawer yn cyflawni rolau cymorth gwahanol sy'n hanfodol bwysig i ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.
Mae cynorthwywyr addysgu (CAau) yn rhan werthfawr ac annatod o’r gweithlu addysg, gan chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi ein plant a’n pobl ifanc.
Yn Cenhadaeth ein Cenedl nododd Llywodraeth Cymru unwaith eto ei hymrwymiad i barhau i alluogi CAau i wella eu sgiliau a'u helpu i ymrwymo i ddysgu proffesiynol drwy hwyluso llwybrau dysgu cliriach, gan gynnwys llwybrau i ennill statws cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU).
Yn 2021 roedd mwy na 31,000 o weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion wedi'u cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ledled Cymru.
Cynorthwywyr addysgu lefel uwch
Cafodd statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) ei gyflwyno yn 2003 er mwyn cefnogi'r broses o ddiwygio'r gweithlu ysgol. Diffiniad cytûn CALU yw 'ategu gwaith proffesiynol athrawon drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan system o oruchwyliaeth y cytunwyd arni. Gallai hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflenwi gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu, yn y tymor byr, ar gyfer dosbarthiadau cyfan'. Drwy ennill y statws, er nad yw'n gymhwyster, cefnogir cynorthwywyr addysgu i gyflawni rôl benodol yn yr ystafell ddosbarth.
Mae cynllun CALU wedi cael ei redeg mewn partneriaeth ers 2005 ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cynnydd yn nifer y CALUau. Nid oes unrhyw reoliadau penodol ar gyfer CALU er bod effaith ar y Cytundeb Llwyth Gwaith.
Er mwyn ymuno â chynllun CALU, rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau llythrennedd a rhifedd priodol a chael cefnogaeth eu Pennaeth. Mae cynllun CALU yn gofyn i ymgeiswyr gwblhau tasgau ymlaen llaw a darparu tystiolaeth eu bod yn bodloni'r gofynion priodol ar gyfer y cynllun sy'n gysylltiedig â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu, ynghyd â'r hyfforddiant sydd ar gael, ewch i wefannau eich Consortia Rhanbarthol.
Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu
Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi bod o blaid datblygu dull cenedlaethol o ddatblygu Cynorthwywyr Addysgu ledled Cymru, a fydd yn helpu o ran cyflwyno’r cwricwlwm newydd a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu. Ar y cyd â'r Consortia Rhanbarthol, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu Llwybr Dysgu i Gynorthwywyr Addysgu, gyda'r nod o wneud y canlynol:
- cynyddu nifer yr ymgeiswyr CALU bob blwyddyn
- hyfforddi pob Cynorthwyydd Addysgu newydd
- hyfforddi aseswyr i gyflwyno rhaglen weithgareddau sy'n gyson â'r Dull Cenedlaethol o roi'r Fframwaith Dysgu Proffesiynol ar waith, gan gynnwys cyfleoedd i weithwyr cymorth dysgu ysgolion ennill cymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
- datblygu'r llwybr dysgu ar gyfer pob Cynorthwyydd Addysgu
- mae ein Llwybr Dysgu presennol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu yn cynnig y cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd eu hangen i gefnogi CAau drwy gydol eu gyrfa. Mae’r rhaglenni sydd ar gael ar hyn o bryd yn ymwneud â chynefino, ymarfer, darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, a Chynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch. Y rhaglen ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yw’r elfen o’r Llwybr Dysgu i Gynorthwywyr Addysgu a ddatblygwyd yn fwyaf diweddar. Caiff ei chyflwyno dros 4 diwrnod, gydag un diwrnod arall ar gyfer asesu i’r rheini sydd am ennill statws CALU
- cyflwynir y rhaglenni yn ddwyieithog, gan ddefnyddio dull hybrid, ac mae yna raglenni ar gael hefyd i helpu CAau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg
- I gael gwybod mwy am Lwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu, gweler gwefan eich Consortiwm Rhanbarthol
Efallai y bydd o gymorth ichi ymweld â thudalennau Trafod Addysgeg hefyd. Mae Trafod Addysgeg, Meddwl am Ddysgu yn cynnig gofod digidol i rannu addysgeg ac arferion a chefnogi cydweithio o fewn ac ar draws ein hysgolion.
Gweithgareddau i gefnogi’r rheini sy’n cynorthwyo addysgu
Ar 18 Chwefror, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Ddatganiad Ysgrifenedig yn amlinellu rhywfaint o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi’r rheini sy’n cynorthwyo addysgu.
Mae hyn yn cynnwys Grŵp Gorchwyl a Gorffen CLlLC sy’n ystyried sawl cwestiwn allweddol, gan gynnwys sut i ddefnyddio CAau; mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd datblygu proffesiynol; safoni rolau; a chyflog, fel ystyriaeth tymor hirach i awdurdodau lleol ar sail yr hyn a gyflawnwyd yn y meysydd eraill a nodwyd.
Rydym hefyd wedi sefydlu Grŵp Llywio Dysgu Proffesiynol er mwyn edrych ar bob cyfle dysgu proffesiynol i CAau yng Nghymru. Penaethiaid, ymarferwyr, consortia rhanbarthol ac undebau sydd ar y grŵp llywio. Nod y grŵp yw sicrhau’r un mynediad at hyfforddiant cyson, pwrpasol o ansawdd i bob un o’n CAau.
Mae is-grŵp i’r grŵp llywio wrthi’n datblygu adnoddau pellach i arweinwyr a llywodraethwyr ar sut i ddefnyddio CAau. Bydd y pecyn dysgu proffesiynol hwn, sy’n cael ei ddatblygu gan ymgynghori â phenaethiaid, CAau a staff rhanbarthol, ar gael i arweinwyr a llywodraethwyr ar gyfer dysgu cydamserol wyneb yn wyneb ac o bell.
Mae cysylltiad agos rhwng y grwpiau hyn, ac maent yn cydweithio i sicrhau dull cydlynol o ymdrin â’r gwaith hynod bwysig hwn.
Rydym eisoes wedi datblygu rhai rhestrau chwarae arfer da i helpu penaethiaid, sy’n dangos sut mae CAau wedi’u defnyddio dros y 2 flynedd ddiwethaf (gweler y ddolen isod).
Caiff adnoddau pellach a diweddariadau eu hychwanegu wrth iddynt ddod ar gael inni.
- Rhan o:
- Cyhoeddwyd gyntaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf: