English

Hwb

  • Cyswllt

    Mrs Eira Williams
    WilliamsE1001@hwbmail.net
    School: 01792882383

    Mrs Cathryn Jones
    JonesC944@hwbmail.net
    School: 01792882383

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Pontarddulais yn nhref Pontarddulais, Abertawe. Mae i'r prif adeilad gynllun lled agored a chyfleusterau yn cynnwys campfa fawr, neuadd, caeau chwarae a gwarchodfa natur/coedwig.
    Mae 481 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 75 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarthiadau meithrin. Mae 16 o ddosbarthiadau un flwyddyn, gan gynnwys dau ddosbarth meithrin.
    Mae tua 21% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd fymryn yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. Noda'r ysgol fod gan 28% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Nifer bach iawn o'r disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae ambell ddisgybl yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Gwyn Prydeinig yw ethnigrwydd y rhan fwyaf o'r disgyblion, ac ychydig iawn o'r disgyblion sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae ambell ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref.

    Trosolwg ymholiad

    Gan adeiladu ar ein profiadau o flwyddyn beilot yr ymholiad proffesiynol, bydd y disgyblion yn dod yn ymchwilwyr gweithredol drwy gymryd rhan mewn ‘Grŵp Iechyd a Lles’. Bydd y disgyblion yn deall yr angen am ddata ansoddol a meintiol, gan greu holiadur ar ffurflenni sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm Iechyd a Lles newydd. Wedyn, bydd y disgyblion yn dysgu sut i goladu a dadansoddi eu canlyniadau cyn arwain trafodaeth grŵp ffocws gydag aelodau o bob dosbarth. Caiff materion moesegol eu trafod â'r plant er mwyn sicrhau eu bod yn deall y broses yn ei chyfanrwydd yn llawn. Bydd y Grŵp Iechyd a Lles yn llunio cynllun gweithredu gan ddefnyddio'r canfyddiadau o'r holiadur â'r grŵp ffocws. Caiff camau gweithredu eu cymryd, drwy Daith Ddysgu/Her Ffotograffau (Pecyn Adnoddau Profiad Disgyblion CAMAU) ar yr iard a chaiff effaith y camau hynny ei mesur yn ofalus. Hoffwn hefyd gynnal y broses hon fel rhan o'r gymuned ddysgu broffesiynol a datblygu disgyblion y clwstwr yn Ymchwilwyr Gweithredol.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gall gwaith ymchwil gweithredol dan gyfarwyddyd y disgyblion wella iechyd a lles disgyblion ar yr iard?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Gan adeiladu ar ein profiadau o Flwyddyn Beilot y Gwaith Ymchwil Gweithredol, byddwn nawr yn rhoi'r strategaethau ymchwil a ddefnyddiwyd ar waith, yn eu mireinio ac yn eu trosglwyddo i'r disgyblion. Bydd y disgyblion yn dod yn Ymchwilwyr Gweithredol drwy gymryd rhan mewn Grŵp Iechyd a Lles. Bydd y disgyblion yn deall yr angen am ddata ansoddol a meintiol, gan greu holiadur ar ffurflenni sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm Iechyd a Lles newydd. Wedyn, bydd y disgyblion yn dysgu sut i goladu a dadansoddi eu canlyniadau cyn arwain trafodaeth grŵp ffocws gydag aelodau o bob dosbarth. Caiff materion moesegol eu trafod â'r plant er mwyn sicrhau eu bod yn deall y broses yn ei chyfanrwydd yn llawn. Bydd y Grŵp Iechyd a Lles yn llunio cynllun gweithredu gan ddefnyddio'r canfyddiadau o'r holiadur a'r grŵp ffocws. Caiff camau gweithredu eu cymryd, drwy Daith Ddysgu/Her Ffotograffau (Pecyn Adnoddau Profiad Disgyblion CAMAU Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) ar yr iard a chaiff effaith y camau hynny ei mesur yn ofalus. Hoffwn hefyd gynnal y broses hon fel rhan o'r gymuned ddysgu broffesiynol a datblygu disgyblion y clwstwr yn Ymchwilwyr Gweithredol.

    Ystyriaethau moesegol

    Mae'n hanfodol ein bod yn ystyried goblygiadau moesegol yr holl weithgarwch sy'n gysylltiedig ag ymholiadau a wnawn mewn ysgolion. Yn fras, nod gwaith ymchwil moesegol yw sicrhau bod y gweithgarwch mor fuddiol â phosibl, gan sicrhau cyn lleied â phosibl o niwed. Mae moeseg yn golygu rheolau ymddygiad; fel arfer, cydymffurfio â chod neu gyfres o egwyddorion (Robson, 2002, t65). Ym myd addysg, pennir y cod hwn gan Gymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA).Canllawiau BERA: https://www.bera.ac.uk/researchers-resources/resources-for-researchers
    Byddwn hefyd yn defnyddio Adnoddau Moeseg Ymchwil Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Cyfres o gyflwyniadau PowerPoint yw'r rhain lle nodir enghreifftiau sy'n rhoi'r wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch i ddeall a dilyn canllawiau moesegol BERA yn eich prosiect eich hun.Mae Adnoddau Moeseg Ymchwil CGA ar gael yma: https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ystadegau-ac-ymchwil/ymchwil-ymarferwr/moeseg-ymchwil.html
    Byddwn yn gofyn am gydsyniad pob cyfranogwr ac yn ei gadw yn unol â gofynion BERA, CGA a GDPR.Caiff y tri maes canlynol eu hystyried:Sicrhau cyn lleied â phosibl o niwed;Cydsyniad ar sail gwybodaeth;Cyfrinachedd ac anhysbysrwydd.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Byddwn yn defnyddio Cronfa Ddata EBSCO, cronfa ddata'r Sefydliad Gwaddol Addysgol ac Estyn ar gyfer ein gwaith ymchwil.Mae'r dogfennau canlynol wedi cael eu nodi i ddechrau:

    • Putting Evidence to Work: A School’s Guide to Implementation Guidance Report, y Sefydliad Gwaddol Addysgol;
    • Metacognition and Self-regulated Learning Guidance Report, y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF)
    • Gweithredu ar Fwlio, Estyn 2014
    • Arloesi'r Cwricwlwm Mewn Ysgolion, Estyn 2018
    • Arfer Effeithiol o ran Gwella Presenoldeb Mewn Ysgolion Cynradd, Estyn 2015
    • Dysgu Gweithredol a thrwy Brofiad, Estyn 2017
    • Gwella Addysgu, Estyn 2018
    • Dyfodol Llwyddiannus, Donaldson, G. 2015
    • Chwarae a Dysgu Gweithredol: Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen, Estyn 2009
    • What Makes Great Pedagogy: Nine claims from Research, Coleg Cenedlaethol Arweinyddiaeth Ysgolion, Chris Husbands a Jo Pearce 2012
    • Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiynol: Cyflwyniad ar gyfer Ymholwyr Arweiniol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd 2019
    • EBSCO
    • Exploring Outdoor Play in the Early Years, gan: Waters, Jane; Maynard, Trisha. Maidenhead, Berkshire : McGraw-Hill Education. 2014. e-lyfr, Cronfa Ddata: Casgliad o e-lyfrau (EBSCOhost)
    • Using Outdoor Learning to Augment Social and Emotional Learning (SEL) Skills in Young People with Social, Emotional and Behavioural Difficulties (SEBD). Academic Journal, Alan Price
    • Improving School Attendance: Can Participation in Outdoor Learning Influence Attendance for Young People with Social, Emotional and Behavioural Difficulties? Academic Journal, Alan Price
    • OECD FUTURE OF EDUCATION 2030
    • Making Physical Education Dynamic and Inclusive for 2030, INTERNATIONAL CURRICULUM ANALYSIS

    Canfyddiadau cychwynnol

    Rydym yn y broses o roi ein cynlluniau ar waith a chasglu gwybodaeth ar hyn o bryd. Mae grŵp ymchwil y disgyblion wedi’i sefydlu ac wedi dechrau ar gamau cynnar y gwaith ymchwil. Mae’r plant wedi creu holiadur gan ddefnyddio ‘Forms’ a byddant yn dadansoddi’r data pan fydd pob dosbarth wedi cwblhau’r holiaduron. Bydd y canlyniadau’n galluogi’r grŵp i wneud mwy o ymchwil a nodi mwy o anghenion. Caiff y camau gweithredu eu monitro’n agos er mwyn cofnodi’r effaith. Maent wedi cynnal taith ffotograffau o’r ddarpariaeth bresennol a’r camau gweithredu a’r anghenion a nodwyd, a gaiff eu cynnwys yn y cynllun gweithredu y byddant yn ei greu ar sail eu canfyddiadau.O’r gwaith darllen cefndir, mae’r canfyddiadau a ddaw i’r amlwg o bapurau ymchwil amrywiol yn awgrymu bod cysylltiad cryf rhwng gwneud ymarfer corff a bod yn unigolion iach a hyderus, e.e. iechyd meddwl. Mae’r erthygl TES The key to good mental health? Physical activity, gan Tara Porter, 06 Mehefin 2019, yn nodi mai dod o hyd i weithgaredd corfforol y mae’r disgyblion yn ei fwynhau – ac y byddant yn cymryd rhan ynddo drwy gydol eu hoes – a allai fod y peth pwysicaf y bydd ysgolion yn ei wneud ar gyfer iechyd meddwl. Noda’r erthygl fod sawl rheswm pam mae ymarfer corff mor fuddiol i iechyd meddwl, ac mae’n ymddangos bod llawer o ffyrdd y gall gael effaith:

    • Mae pob math o ymarfer corff yn rhyddhau’r hormon endorffin, sy’n gysylltiedig â theimlo pleser, llawenydd a chyffro.
    • Mae pob math o ymarfer corff hefyd yn gwneud i’r corff ryddhau llai o gortisol ac adrenalin, sef ymateb straen yn y corff.
    • Cafwyd tystiolaeth bod chwaraeon ac ymarferion tîm yn cael effaith gadarnhaol iawn ar les meddyliol. Mae’n bosibl bod rhai o fuddiannau’r gweithgareddau hyn yn deillio o effaith cymdeithasu a pherthyn i rywbeth, sydd ill dau’n gysylltiedig ag iechyd meddwl cadarnhaol.
    • Gwelwyd bod ioga a cherdded hefyd yn cael effaith debyg, a hynny o bosibl oherwydd manteision ymwybyddiaeth ofalgar.
    • Roedd beicio, mynd i’r gampfa a mathau aerobig eraill tebyg o ymarfer corff hefyd yn wych ar gyfer iechyd meddwl, er bod pobl yn eu gwneud ar eu pen eu hunain ar y cyfan: ai effaith y gweithgaredd aerobig yn unig yw hyn? Neu a oes iddynt fantais sy’n gysylltiedig ag ymwybyddiaeth ofalgar? Neu a ydynt yn gwella hunan-barch drwy gyflawni nodau?

    OECD FUTURE OF EDUCATION 2030
    Making Physical Education Dynamic and Inclusive for 2030

    • Bydd plant heddiw yn etifeddu byd a briodolir gan gyfraddau newid nas gwelwyd erioed o’r blaen ym mhob agwedd ar fywyd. Ansicrwydd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd di-baid fydd eu realiti wrth iddynt dyfu’n oedolion ac ymuno â byd gwaith. Mae’r mathau o heriau a chyfleoedd y bydd y bobl ifanc hyn yn eu hwynebu yn 2030 a thu hwnt yn golygu y bydd gallu modelau cwricwlaidd traddodiadol i’w paratoi’n ddigonol ar gyfer eu bywydau fel oedolion yn cael ei gwestiynu – ac, yn wir, mae’r gallu hwnnw eisoes wedi cael ei gwestiynu.
    • Er mwyn ysgogi newid, mae cynllun Education 2030 yn cynnwys iechyd corfforol ac iechyd meddwl fel sylfeini craidd ei gwmpawd dysgu, yn ogystal â ffocws ar alluoedd cymdeithasol, corfforol a seicolegol y bydd eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn deall y byd yn y dyfodol (OECD 2019).

    Bydd y canfyddiadau hyn a ddaw i’r amlwg o waith ymchwil i iechyd a lles/ymarfer corff/iechyd meddwl ac ati yn ein helpu yn ein gwaith ymchwil a’n dealltwriaeth ein hunain o’r hyn a fydd yn gwella iechyd a lles plant ar yr iard.

    Cyfyngiadau

    Y cyfyngiadau posibl a welwn yw: Diffygion neu wendidau posibl a allai ddeillio o’r ffaith nad oes adnoddau ar gael, methodoleg ddiffygiol, camsyniadau’r ymchwilydd/cyfranogwyr, diffyg astudiaethau ymchwil blaenorol ar y pwnc/dim digon o ddata, tuedd ddiwylliannol a sampl sy’n rhy fach – sy’n arwain at gyfyngiadau ar yr astudiaeth a elwir yn ‘duedd sampl’ neu’n ‘duedd dethol’.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Nodwyd bod y gwaith ymchwil a wnaed ar gyfer cylchoedd 1, 2 a 3 yn enghraifft o arfer dda ac felly byddwn yn parhau i’w ddefnyddio ac yn ei ymestyn i gynnwys cyfranogiad disgyblion, e.e. Grwpiau Ffocws, holiaduron ‘Forms’. Ar gyfer y cylch ymchwil hwn, rydym wedi cynnwys strategaethau ymchwil ychwanegol yn ein methodoleg/pecyn ymchwil, h.y. Taith Ddysgu/Her Ffotograffau (Pecyn Cymorth Profiad Disgyblion CAMAU Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Pecyn Cymorth Profiad Disgyblion CAMAU Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    Strategaethau ymchwil Cylch 1, 2 a 3 Met Caerdydd
    EBSCO
    EEF
    Estyn
    OECD

  • Cyswllt

    Rhian Milton
    MiltonR@hwbmail.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri ym Mro Morgannwg. Ar hyn o bryd, mae 471 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 65 o ddisgyblion meithrin rhan-amser. Mae 14 o ddosbarthiadau un flwyddyn a phedwar dosbarth meithrin.
    Mae tua 36% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn gryn dipyn yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 19%. Noda'r ysgol fod gan tua 31% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%. Nid oes gan yr un disgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae ambell ddisgybl yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Gwyn Prydeinig yw ethnigrwydd bron pob un o'r disgyblion, a dônt o gartrefi lle mai Saesneg yw'r brif iaith. Mae ambell ddisgybl yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Nid oes yr un o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.
    Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn ysgol arloesi ac mae'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau mewn perthynas â'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol.

    Trosolwg ymholiad

    Addysgeg: y prif ffocws

    Cwestiwn: Sut y gallwn greu diwylliant o gydberthnasau iach drwy'r holl ysgol a'r gymuned a fydd yn gwella ansawdd y dysgu a'r addysgu?

    Nod: Newid diwylliant o reoli cydberthnasau ac ymddygiad i'w newid yn effeithiol

    Diben: Cynnwys pob rhanddeiliad yn yr ymholiad. Gweld a all canolbwyntio ar ein cydberthnasau â phawb newid y ffactorau sy'n ysgogi dysgu.

    Dulliau: Grwpiau ffocws gyda'r uwch dîm arwain, y staff, y rhieni a'r Llywodraethwyr, dogfennu'r broses mewn dyddiadur myfyriol.
    Cyfweld yr arbenigwr er mwyn ychwanegu dyfnder at y dysgu

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gallwn greu diwylliant o gydberthnasau iach drwy'r ysgol a'r gymuned a fydd yn gwella ansawdd dysgu ac addysgu?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Er mwyn galluogi ein holl blant a theuluoedd i ffynnu mae angen i ni newid system sy'n seiliedig ar un set o reolau i bawb a symud tuag at weledigaeth o drin pob plentyn a theulu yn gyfartal. Erbyn hyn, canolbwyntir ar addysgu cydberthnasau iach gydol oes, yn hytrach na rheoli ymddygiad.

    Gwneud newid cynaliadwy o fewn diwylliant ein hysgol â chydberchenogaeth a chydgyfrifoldeb. Bydd pob rhanddeiliad yn defnyddio gwaith ymchwil perthnasol er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o gydberthnasau dynol a'r angen i fod yn oddefgar, yn garedig a dangos parch. Gan ddefnyddio proses Ymholi Gwerthfawrogol, rwy'n datblygu dull athronyddol o ymdrin â Chydberthnasau Iach, a gyflawnir drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus i bawb.

    Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu dull athronyddol o ymdrin â Chydberthnasau Iach – 'Ffordd Tregatwg!'. Bydd hyn wrth wraidd ein hysgol ac yn ein galluogi i greu diwylliant cynaliadwy yn unol â gweledigaeth y cwricwlwm newydd. Bydd pawb yn cael yr un cyfle i lwyddo a bydd pawb yn cael ei drin mewn ffordd deg a chyfartal bob amser. Byddwn yn ymrwymo i addysgu cydberthnasau.

    Bydd pob rhanddeiliad yn ymwneud â dysgu proffesiynol ac yn defnyddio gwaith ymchwil perthnasol er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o gydberthnasau iach a'r angen i fod yn oddefgar, yn garedig a dangos parch tuag at ei gilydd. Byddwn yn datblygu strategaethau pwrpasol wedi'u teilwra, gan gynnwys:

    • Arferion Adferol – Parch, Cyfrifoldeb, Adfer, Ailintegreiddio
    • Hyfforddi a Mentora
    • Iaith gyffredin i bawb
    • Adfyfyrio ac adborth – amser a lle
    • Dulliau gweithredu seiliedig ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod – rheoli trawma er mwyn adfer
    • Symudiadol fel modd i asesu dysgwyr agored i niwed a chynllunio ar eu cyfer

    Ni fydd un ateb i bawb ond byddwn yn ymrwymo i wybod beth sydd ei angen ar ein plant a'n teuluoedd er mwyn iddynt ffynnu
    Darganfod:

    • Casglu a dadansoddi data gan chwilio'r llenyddiaeth a defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol
    • Llunio'r polisi cydberthnasau
    • Defnyddio nodau'r polisi i gyfleu'r weledigaeth i bob rhanddeiliad
    • Defnyddio grwpiau ffocws i nodi anghenion dysgu proffesiynol
    • Dylunio a chyflwyno dysgu proffesiynol wedi'i lywio gan ymchwil er mwyn troi polisi yn arfer
    • Nodi a defnyddio strategaethau i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed o ran datblygu cydberthnasau
    • Defnyddio sgyrsiau hyfforddi i herio a hyrwyddo gwaith ymchwil
    • Rhoi dulliau adferol ar waith a gwerthuso'r effaith gyda phob rhanddeiliad
    • Mae gwaith ymholi yn rhan annatod o reoli perfformiad
    • Adfyfyrio ar dystiolaeth o adborth a gwneud newidiadau i'r polisi
    • Rhannu'r daith hon â llwyfannau Rhanbarthol a Chenedlaethol

    Ystyriaethau moesegol

    Sicrhawyd bod holl ddeddfwriaeth GDPR a diogelu'r ysgol a'r fro yn cael ei dilyn.
    Cyn cynnal y prosiect ymchwil, sicrhawyd fy mod yn cynnal cyfarfod rhagarweiniol er mwyn bod yn glir ynghylch y diben, y nodau a'r broses y byddai pawb yn rhan ohoni. Roeddwn yn dryloyw ynghylch y ffordd y byddai'r data a gasglwyd yn cael eu rhannu.
    Yn y cyfarfod hwn, gwnaeth pawb a oedd yn cymryd rhan lofnodi ffurflen foeseg y gwaith ymchwil ac roeddent yn glir ynghylch y ffordd y byddai'r gwaith ymchwil yn cael ei ddefnyddio a'i rannu. Gwnaeth pawb gydsynio i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Rhoddais yr opsiwn iddynt, am unrhyw reswm ac ar unrhyw adeg, dynnu'n ôl a pheidio â chymryd rhan.
    Gyda phob rhanddeiliad dan sylw, gan gynnwys y staff, llywodraethwyr, rhieni a phlant, gwnaethom gytuno bod yn rhaid gweithredu mewn ffordd agored a gonest, a sicrhawyd eu bod yn teimlo'n gyfforddus o ran amgylchedd a pharamedrau'r prosiect.
    Pan rennir yr adroddiad a'r data, gwneir pob ymateb unigol yn anhysbys er mwyn diogelu hunaniaeth yn unol â chanllawiau GDPR.
    Ar ddechrau pob grŵp ffocws, sicrhawyd bod pawb yn dawel eu meddwl bod unrhyw beth sensitif a drafodwyd yn gyfrinachol ac y byddai'n aros yn breifat. Yn ystod y grwpiau ffocws, sicrhawyd yr ymdriniwyd ag unrhyw wybodaeth sensitif ar ôl y sesiwn yn unigol.
    Diogelwyd llesiant y staff drwy roi amser ychwanegol iddynt gyflawni gwaith ymchwil perthnasol, a sicrhawyd bod cymorth ychwanegol yn cael ei roi i unrhyw aelod o staff neu ANG os oedd ei angen.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Cwblheais Ddiploma 10 diwrnod mewn ymarfer a lywir gan Drawma ym mis Hydref 2019 ac, yn dilyn hyn, dechreuais ar yr ymholiad hwn. Er mwyn tywys staff ar y daith, cafodd pob rhanddeiliad yr amser a'r lle i wneud y gwaith darllen proffesiynol ac yna ei ddefnyddio i effeithio ar y polisi. Gallai pob aelod o staff gael gafael ar y llyfrau canlynol a defnyddiwyd penodau perthnasol yn ystod y dysgu proffesiynol.

    • The Deepest Well gan Dr Nadine Burke Harris 2018 – Drwy ddarllen y llyfr hwn bu modd meithrin dealltwriaeth fanwl o ddamcaniaeth pam a nodwyd yn yr adborth ei fod yn hynod berthnasol am fod y llyfr yn defnyddio astudiaethau achos.
    • Inside I’m Hurting gan Louise Michelle Bomber 2018 – Gwnaeth y llyfr hwn fwydo i mewn yn uniongyrchol i'r polisi gyda strategaethau ymarferol i gefnogi ein dulliau gweithredu cyffredin a phwrpasol.
    • Popular gan Mitch Prinstein 2017
    • Drive The surprising Truth about what motivates us Daniel H. Pick 2009
    • Narrowing the Attainment gap a handbook for schools gan Daniel Sobel 2016 – Rydym wedi defnyddio'r llyfr hwn i ailddylunio ein dull o gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed o ran dilyn y polisi a'r addysgeg. Gwnaeth ein galluogi i adolygu ein dull gweithredu ymarferol gyda damcaniaethau perthnasol. Mae ein Cynorthwywyr Cymorth Dysgu wedi defnyddio penodau o'r gwaith ymchwil hwn.
    • Changing Behaviour in schools promoting positive relationships and wellbeing gan Sue Roffey 2011
    • NFER – Dulliau ymchwil
    • Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiynol – Cyflwyniad ar gyfer Ymholwyr Arweiniol Met Caerdydd

    Mae ein holl staff UDA, athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu yn nodi eu gwaith ymchwil a'u hadfyfyrdodau ar y deunydd darllen mewn dyddiaduron adfyfyriol. Rhennir y dyddiaduron hyn ar adegau gwahanol o'r flwyddyn ac maent yn rhan annatod o waith rheoli perfformiad. Mae'r dyddiaduron yn dangos sut mae staff wedi herio a hyrwyddo'r hyn maent wedi'i ddarllen a chânt eu cyflwyno mewn ffyrdd gwahanol personol iawn, gan gynnwys ar ffurf ddigidol ac mewn llyfrau lloffion.

    Canfyddiadau cychwynnol

    • Mae gweithdai dysgu proffesiynol â gwaith ymchwil perthnasol wedi arwain at newid agweddau o ran materion perthynol ac ystyrir y pam, y sut, a beth mae 'Cydberthnasau Iach' yn ei olygu yn ein cyd-destun ni.
    • Erbyn hyn, mae 85% o CCDau, o gymharu â 70% yn flaenorol, yn teimlo'n fwy hyderus eu bod yn gwybod sut i gefnogi dysgwyr agored i niwed a gwnaethant briodoli hyn i'w dysgu proffesiynol drwy waith ymholi personol.
    • Rydym wedi gweld newid tuag at ddiwylliant yn seiliedig ar ymreolaeth, meistrolaeth a diben gydag amgylchedd sy'n gwneud i bobl deimlo'n dda am gymryd rhan a system ysgol sy'n gwybod beth sydd ei angen ar bob plentyn a phob teulu er mwyn iddynt ffynnu.
    • Mae 95% o athrawon yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac mae eu llesiant yn dda! Mae athrawon yn gadarnhaol am y dull hwn o weithredu ond mae angen dysgu a chymorth proffesiynol pellach arnynt o hyd.
    • Mae pob rhanddeiliad o'r farn bod y dull hwn yn cyfateb i weledigaeth a diwylliant yr ysgol, ond mae pawb yn realistig bod y daith yn un hir a bod angen newid athronyddol drwy'r ysgol gyfan o ran y dull o weithredu. Mae'r prosiect hwn yn benodol iawn i'n cyd-destun ac yn berthnasol i anghenion cymuned yr ysgol a'i holl gyfranogwyr.
    • Cynnwys 212 o rieni mewn gweithdai Cydberthnasau Dysgu Proffesiynol. Yn dilyn y gweithdai, dangosodd cyfres o grwpiau ffocws fod ideoleg a rennir yn dod i'r amlwg; y dylai pob plentyn gael ei drin fel unigolyn ac felly y dylai gwobrau a chanlyniadau gael eu teilwra. Mae hyn wedi arwain at lawer mwy o gwestiynau gan bawb y mae angen eu datblygu ymhellach.
    • Mae iaith gyffredin bellach yn cael ei defnyddio yn yr ysgol ac mae'r rhanddeiliaid wedi creu diffiniad o 'degwch'. Mae iaith gyffredin hefyd yn cael ei defnyddio'n effeithiol i reoli gwrthdaro mewn ffordd adferol ond mae wedi'i theilwra i'n cyd-destun ni.
    • Partneriaethau â gwahanol deuluoedd ac aelodau o'r gymuned: ymgysylltu'n rhagweithiol â theuluoedd, asiantaethau allanol, a'r gymuned ehangach er mwyn hyrwyddo cefnogaeth gyson i iechyd a lles plant a phobl ifanc. Cysylltiadau ag asiantaethau allanol a dysgu proffesiynol ar gyfer rhieni megis cysgu, strategaethau ymarfer adferol, a hyfforddiant ymwybyddiaeth o anhwylder ar y sbectrwm awtistig a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae dulliau adferol wedi'u hymgorffori ac mae grŵp craidd o blant bellach yn Arweinwyr Tosturiol. Mae bron pob aelod o staff yn teimlo'n hyderus yn gwneud hyn ac yn deall yr iaith i'w defnyddio a'r camau i'w cymryd. Cafodd un rhiant swydd fel CCD yn seiliedig ar ei gwaith gyda'n grwpiau teuluol a'i chred yn y dull hwn o weithredu.
    • O ganlyniad, roedd mwy o blant yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac ymdriniwyd â digwyddiadau mewn ffordd adferol.
    • Amlinellodd y cyfweliadau bwysigrwydd llesiant i bawb, gan gynnwys athrawon, a nododd bwysigrwydd cael ystafell ddosbarth pro-gymdeithasol er mwyn sicrhau eu hapusrwydd nhw eu hunain yn yr ysgol. Yr effaith ar y plant fu gwell lefelau o lesiant ac ymgysylltu â'r dysgu.
    • Nododd athrawon gynnydd o 75% i 90% o'r holl ddysgwyr a oedd yn barod i ddysgu ar ddechrau pob sesiwn newydd.
    • Mae lefelau presenoldeb ein dysgwyr agored i niwed wedi gwella 5% yn ystod y prosiect gan fod presenoldeb wedi dod yn rhan o'r polisi.

    Cyfyngiadau

    Ar y cam hwn o'r cylch ymholi, mae'r canfyddiadau yn gadarnhaol iawn, ac mae'r staff, rhieni, llywodraethwyr a phlant yn mynd ati mewn ffordd weithredol ac adeiladol i herio agweddau ar y polisi. Mae angen i ni redeg cylch o grwpiau ffocws a gweithdai rhyngweithiol yn nhymor y gwanwyn, gan ychwanegu haen arall o ddyfnder at y cwestiynau a ofynnir, a dadansoddi rhai o ganfyddiadau allweddol rhan gyntaf yr ymholiad hwn. Nawr, mae angen i'r plant gael eu cynnwys yn fwy a dim ond pan welwn gynnydd dros gyfnod hwy y gallwn sicrhau bod y polisi yn newid hinsawdd a diwylliant yr ysgol yn effeithiol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    • Mae angen datblygu sgyrsiau hyfforddi ymhellach gyda rhywfaint o waith dysgu proffesiynol strwythuredig
    • Ystyrir ymhellach sut rydym yn gwerthuso effaith dysgu ac addysgu, a dangosir tystiolaeth o hyn yn ymholiadau unigol y staff
    • Mae'r gwaith o driongli holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws wedi gweithio'n effeithiol iawn er mwyn fy ngalluogi i feithrin dealltwriaeth fanylach a hefyd addasu'r dulliau fel eu bod yn gweddu i bob rhanddeiliad
    • Gwnaeth cysylltu'r grŵp ffocws â'r gweithdy er mwyn ymgysylltu â phob rhanddeiliad weithio'n effeithiol iawn
    • Gwnaeth roi cyd-destun i'r rhieni, ynghyd â rhywfaint o ddysgu proffesiynol gan ddefnyddio dulliau gweledol, eu helpu i ystyried eu syniadau ac iddynt siarad yn fwy rhydd
    • Nawr roedd grŵp ffocws y rhieni yn hapus i gael ei gofnodi felly gwnaeth defnyddio arsylwr i gymryd nodiadau weithio'n effeithiol iawn
    • Mae hwn yn ymholiad rheoli newid enfawr, y bydd yn cymryd blynyddoedd i'w ymgorffori'n effeithiol, ond mae'r adborth a'r her adeiladol wedi bod yn gadarnhaol iawn
    • Mae'r broses hon wedi ein galluogi i fireinio'r ffordd rydym yn hunanwerthuso ac yn gwella ein proses
    • I ddechrau, defnyddiais ddull arwain democrataidd ond nawr rydym wedi newid i ddefnyddio arweinyddiaeth ddosbarthedig; mae pob aelod o'r UDA yn arwain ar agweddau ar y polisi drwy ei ymholiadau ei hun
    • Mae'r staff yn cofnodi eu dysgu proffesiynol gan ddefnyddio dyddiaduron adfyfyriol sydd wedi bod yn gryfder mawr

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Bryant, Bolton, Fleming Cyf.7 (1) Ionawr 2015 Pupils’ Voices
    https://www.nfer.ac.uk/media/2120/resm00.pdf
    BERA – ethical considerations [adnodd ar-lein]

  • Cyswllt

    Mrs Rhonwen Morris
    Pennaeth Cynorthwyol Ysgol y Preseli
    rhonwen@ysgolypreseli.com 01239831406

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymunedol, benodedig ddwyieithog, 11-18 oed yw Ysgol y Preseli. Mae 807 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd gyda 160 yn y chweched dosbarth. Lleolir yr ysgol ym mhentref Crymych yng ngogledd y sir ac mae’n gwasanaethu dalgylch eang gwledig. Yn gyffredinol, daw disgyblion o ardaloedd nad ydynt yn ffyniannus nac ychwaith dan anfantais economaidd. Mae 4.5% o ddisgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim. Daw lleiafrif o’r disgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ac mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl. Caiff pob disgybl ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Derbynia’r ysgol ddisgyblion o’r ystod lawn o allu. Mae 15.95% o ddisgyblion ar gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol (19.78% treigl 3 mlynedd). Mae’r ysgol yn Ysgol Arloesol y Cwricwlwm, yn aelod o Rwydwaith Cenedlaethol y Dyniaethau ac yn Ysgol Arweiniol yr Athrofa, y Drindod Dewi Sant.

    Trosolwg ymholiad

    Pa effaith mae ymchwil gweithredol ysgol gyfan ar addysgeg yn cael ar annog dysgwyr gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain?

    Mae datblygu meddylfryd o dwf disgyblion yn flaenoriaeth. Mae holl randdeiliaid yr ysgol yn rhan o’r gwaith cynllunio gan gymryd rhan weithredol yn yr ymchwil, y cynllunio a’r myfyrio. Mae’r ysgol wedi ffurfio cymunedau dysgu proffesiynol MDaPh gan gydnabod yr angen i ddarparu amser digonol i athrawon medru cwrdd, ymchwilio, cyd gynllunio a myfyrio ar lefel ysgol ac o fewn ein clwstwr. Mae’r flwyddyn academaidd wedi’i rannu’n dri chyfnod sef y cyfnod ffocysu, ymyrryd a gwneud synnwyr. Mae’r cyfnod cyntaf wedi cychwyn gyda’r cymunedau dysgu proffesiynol wedi penderfynu ar faes ffocws a’r gwaith ymchwil damcaniaethol ar waith.

    Cwestiwn Ymholi

    Pa effaith mae ymchwil gweithredol ysgol gyfan ar addysgeg yn ei gael ar annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Ein nod yw mesur effaith ymchwil gweithredol ysgol gyfan ar addysgeg gyda’r ffocws ar annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain. Mae datblygu meddylfryd o dwf disgyblion yn flaenoriaeth. Cytunwyd i holl randdeiliaid yr ysgol fod yn rhan o’r gwaith cynllunio gan gymryd rhan weithredol yn yr ymchwil, y cynllunio, y gweithredu a’r myfyrio.

    Yn sgil hyn mae’r ysgol wedi ffurfio Cymunedau Dysgu Proffesiynol MDaPh. Mae’r ysgol wedi cydnabod yr angen i ddarparu amser digonol i athrawon fedru cwrdd, ymchwilio, cyd gynllunio a myfyrio ar lefel ysgol ac ar lefel clwstwr. Mae diffyg amser a diffyg cyllid yn rhwystro creadigedd, bwrlwm ac arloesedd athrawon sy’n barod i symud ymlaen a chynllunio’n gelfydd i ddylanwadu ar feddylfryd disgyblion. Mae’r ysgol wedi mynd ati i sicrhau bod hyfforddiant yn gyfle i athrawon gydweithio a chyd-gynllunio fel Cymunedau Dysgu Ymchwil Gweithredol Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh) fel bod eu gwaith ymchwil, cynllunio a myfyrio yn dwyn ffrwyth. O’r chwe diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd mae pump ohonynt wedi’u clustnodi ar gyfer gwaith ymchwil gweithredol. Yn oystal, mae staff dysgu wedi derbyn un gwers ymchwil gweithredol pob pythefnos ar eu hamserlenni er mwyn ymchwilio, cyd-gynllunio, arsylwi a rhannu canfyddiadau mewn cylchdro ymchwilio, profi a rhannu.

    Mae’r flwyddyn academaidd wedi’i rannu’n dri chyfnod sef y cyfnod cyntaf ar gyfer ffocysu ac ymchwilio, yr ail ar gyfer ymyrryd a phrofi ac yn olaf, y myfyrio a’r gwneud synnwyr. Mae’r cyfnod cyntaf wedi cychwyn gyda’r Cymunedau Dysgu Proffesiynol wedi penderfynu ar faes ffocws a’r gwaith ymchwil damcaniaethol ar waith. Yn ystod y tri cyfnod, mae’r Cymunedau Dysgu Proffesiynol yn cofnodi ac yn myfyrio ar waith ymchwil. Mae’r ymchwil yn gyfuniad o ymchwil eilaidd damcaniaethol ac ymchwil cynradd ar lawr yr ystafell ddosbarth trwy arsylwadau a thrwy wrando ar lais rhanddeiliaid yn cynnwys cyd-athrawon, disgyblion a rhieni.

    Ystyriaethau moesegol

    Yn ystod y cyfnod yma o ymchwilio a chyd-gynllunio prin yw’r ystyriaethau moesegol. Mae staff cyfan yn ymwybodol o’r angen i ddefnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol eilaidd sydd wedi’i gyhoeddi gan gyfeiriadu’r awdur a’r dyddiad cyhoeddi. Wrth symud ymlaen i’r cyfnod profi yn nhymor y gwanwyn bydd Cymunedau Dysgu Proffesiynol yn cydnabod yr angen i sicrhau cyfrinachedd a'r hawl i randdeiliaid (disgyblion/rhieni) fod yn anhysbys neu wrthod cymryd rhan. Bwriedir cwlhau'r ffurflenni moeseg er mwyn cydnabod materion moesegol yn cynnwys cydsyniad, caniatâd, cyfrinachedd, anhysbrwydd a diogelu a rheoli data, Bydd hyn hefyd yn sicrhau tryloywder ar ran defnydd y wybodaeth ansoddol a gasglwyd ar y testun dan sylw. Mae staff cyfan wedi derbyn hyfforddiant ar ystyriaethau moesegol fel rhan o ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd. Mae pob Maes Dysgu a Phrofiad yn barod i lunio holiaduron a chynnal trafodaethau gyda grwpiau ffocws wrth symud ymlaen gyda’r gwaith ymholi lle bydd llais rhanddeiliaid yn chwarae rhan annatod o’r cynllunio, arbrofi, gweithredu a myfyrio.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae’r gwaith ymholi yn canolbwyntio ar ddau faes penodol wrth adolygu'r llenyddiaeth sef dysgu proffesiynol a datblygu’r dysgwr annibynnol.

    Dengys cyfeiriadau cyson mewn cyfnodolion academaidd sy’n amlygu’r ffaith
    taw nid y seminarau neu ddarlithoedd traddodiadol hynny o'r brig i lawr sy’n llwyddo i argyhoeddi staff i gofleidio a chynnal y cyfarwyddyd arfaethedig o newidiadau, boed y rhain yn newidiadau ysgol gyfan neu’n newidiadau cenedlaethol (Valiandes a Neophytou, 2018).

    Dengys yr angen i drawsnewid dysgu proffesiynol. Fel arweinydd Dysgu Proffesiynol cefais fy ysbrydol gan yr ethygl addysgiadol, Transforming Schools: The Power of Teachers’ Input in Professional Development (Martin, Linda E et al. 2019) lle mae model Mezirow (2003) yn cael cydnabyddiaeth wrth anelu at drawsnewid meddylfryd staff er mwyn eu paratoi ar gyfer Cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus. Yn ôl y papur ymchwil,

    ‘In essence, professional development of teachers and administrators require them at times to change their personal belief systems and their teaching repertoires. Therefore, school systems could consider Mezirow’s transformative theory as a guide to reflect on the needs of educators in their schools and develop a professional development plan that will lead schools to success’ (Martin, Linda EM et al. 2019).

    Mae model Mezirow (2003) yn adnabod tri maes cyffredinol sy’n amlygu sut mae oedolion yn trawsnewid eu dysgu lle mae oedolion / athrawon yn:

    1. Archwilio eu credoau a’u profiadau;
    2. Defnyddio asesiad beirniadol myfyriol naill ai fel unigolyn neu gyda chyfoedion / cydweithwyr;
    3. Cymryd rhan mewn dis cwrs rhesymegol myfyriol sy’n arwain oedolion i weithredu a thrawsnewid credoau ac ymddygiadau.

    Ar sail y model yma, mae’r Ysgol wedi mynd ati i ffurfio Cymunedau Dysgu Proffesiynol er mwyn darparu cyfleoedd i athrawon archwilio’u profiadau, cynnal deialog broffesiynol a threulio amser yn myfyrio er mwyn trawsnewid credoau ac ymddygiadau dros gyfnod o amser.

    Mae’r ail lwybr ymchwil yn ffocysu’n benodol ar is-gwestiwn ymholi ysgol gyfan ar annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain. Mae pob Cymuned Dysgu Broffesiynol yn ymchwilio i’r is-gwestiwn ymholi yma yn y broses o gyd-gynllunio, arbrofi a myfyrio. Gyda phob Cymuned Dysgu Broffesiynol yn cymryd llwybr ymchwil gwahanol yn unol daw ymchwil ddamcaniaethol bellach yn eu gwaith fel Meysydd Dysgu a Phrofiad.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn datblygu fel Sefydliad sy’n Dysgu bu ymchwil i’r hyn sy’n gwneud datblygiad proffesiynol ysgol gyfan yn llwyddiannus ac effeithiol. Gan ddefnyddio’r ddogfen ‘Ysgolion yng Nghymru yn gweithredu fel sefydliadau sy’n dysgu’ fel sail, bu ymchwil pellach i ddatblygiad proffesiynol ysgol gyfan. Daethpwyd i’r amlwg yr angen i ddarparu amser er mwyn cynnal trafodaethau a disgwrs proffesiynol. Heb y buddsoddiad mewn amser, prin bydd cyfleoedd i drawsnewid credoau a meddylfryd dros gyfnod.

    Bu cyfle i gwblhau holiadur Ysgol fel Sefydliad sy’n Dysgu er mwyn adnabod cryfderau a gwendidau’r ysgol a gweithredu ar faterion a mwyn symud ymlaen fel corff o staff sy’n rhannu’r un weledigaeth. Dengys dadansoddiad o ganlyniadau’r holiadur, yn nhermau sefydlu diwylliant o ymchwilio, arloesi ac ymchwilio, bod staff yn derbyn cyfleoedd i arbrofi gydag arferion a sgiliau newydd yn ogystal ag yn cael eu hannog i gymryd menter. Er hyn, dengys rhai materion gweithredu gan gynnwys yr angen i staff drafod eu methiannau’n agored er mwyn dysgu ohonynt a’r angen i weld problemau fel cyfleoedd i ddysgu.

    Cytunwyd i ddarparu cyfle i bob Maes Dysgu a Phrofiad rannu eu canfyddiadau hyd yma yn ystod diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd mewnol a glustonwyd ar gyfer gwaith y Cymunedau Dysgu Proffesiynol. Bu hyn yn gyfle i drafod canfyddiadau a hyd yn oed methiannau’r cyfnod cynllunio’n agored gan weithredu ar faterion cyn symud ymlaen i’r cyfnod profi.

    Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd a disgwrs proffesiynol bu’r Cymunedau Dysgu Proffesiynol yn penderfynu ar faes ffocws ar gyfer eu hymchwil gweithredol i annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain. Cytunodd pob Cymuned Ddysgu Broffesiynol (CDdB) ar ‘anhawster’ mae disgyblion yn wynebu’n gyson sy’n eu hatal rhag bod yn fentrus ac yn ddysgwyr annibynnol. Cytunodd y GDdB Mathemateg a Rhifedd ar ‘Amser’ fel thema gan gydnabod yr anawsterau mae disgyblion yn cael gydag amser. Bu ymchwil i ddulliau addysgu Shanghai ar amser gydag erthygl gan yr NCETM yn sbardun i’w hymchwil a’u gwaith cynllunio.

    Yn yr un modd, daw ymchwil damcaniaethol i’r amlwg yng ngwaith ymchwil gweithredol y CDdB Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu gyda’r ffocws ar sut mae annog y disgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros wella ansawdd eu gwaith ysgrifenedig. Bu ymchwil damcaniaethol i waith David Didau - Slow writing; Weaver - Dysgu mewn cyd-destun; a Rosenshine - Deg strategaeth i athrawon; fel sail i’r gwaith cynllunio i ddulliau newydd ac arbrofol. Mae’r Gymuned Ddysgu yma’n barod i arbrofi gyda’r dulliau newydd yn ystod y cyfnod profi.

    Bu datblygu meta wybyddiaeth wrth wraidd gwaith ymholi a chynllunio’r GDdB Celfyddydau Mynegiannol, gyda’r disgyblion yn cael eu hannog i fod yn annibynnol ac yn fentrus. Yn seiliedig ar waith MacKinnon, Lachlan - The Move to Student - Centric Learning: Progress and Pitfalls yn ogystal â gwaith James Nottingham ar asesu ar gyfer dysgu mae’r CDdB wedi dechrau arbrofi. Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad wedi mabwysiadu’r HACA (Hunan, Amgylchedd, Cyfaill, Athro) yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â’r saith cam llwyddiant adborth wrth ddatblygu dysgwyr mwy annibynnol sy’n dysgu o’u camgymeriadau.

    Cyfyngiadau

    Bu natur archwiliadol gryf i’r cyfnod cynllunio gydag ymchwil ansoddol amlwg yn hytrach nag ymchwil meintiol. Bu rhai cyfyngiadau wrth benderfynu ar gwestiwn neu ffocws ymchwil nad oedd yn rhy benagored ond eto i gyd gyda digon o sgôp i ddylanwadu ar ddatblygiad proffesiynol staff yn ogystal â chynnydd dysgwyr. Roedd darparu’r ymreolaeth i gymunedau dysgu benderfynu ar faes ffocws oedd o ddiddordeb i’r Maes Dysgu a Phrofiad yn allweddol ond daw hynny gyda rhywfaint o anghysondeb o ran ffocws a thrywydd yr ymchwil.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Penderfynwyd cymryd taith a oedd yn darparu ymreolaeth i gymunedau dysgu weithio’n effeithiol fel Meysydd Dysgu a Phrofiad. Er hyn, bu’n rhaid darparu strwythur pendant i’r gwaith ymchwil cychwynnol er mwyn sicrhau bod pob Cymuned Ddysgu Broffesiynol yn ffocysu ar yr un prif gwestiwn ymholi. Gyda’r ymreolaeth yma, gwelwyd rhai cymunedau yn dysgu defnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol yn effeithiol fel sail i’w gwaith cynllunio. Roedd hyn yn caniatáu’r Cymunedau Dysgu Proffesiynol fireinio’u ffocws ymchwil er mwyn cyflawni deilliannau gwreiddiol. Er hyn, dengys yn gryf yr angen i ddarparu mwy o arweiniad cychwynnol cyn dechrau ar y gwaith ymchwil er mwyn sicrhau nad oedd cymunedau dysgu’n ffocysu’n ormodol ar faterion oedd yn amherthnasol neu’n eu tywys ar lwybr gwahanol i’r cwestiwn ymchwil gwreiddiol.

    Wrth fyfyrio ar y cyfnod cyntaf sef y cyfnod ymholi a chynllunio, bu’r cyfle i gwrdd yn gyson yn ystod sesiynau min nos yn llwyddiant er mwyn darparu cyfleoedd i staff gydweithio a pharhau gyda’u hymchwil. Er hyn, dengys rhai rhwystrau ar ran y calendr sesiynau min nos gyda rhai staff yn methu mynychu pob sesiwn am amryw resymau megis amserlen rhan amser, staff yn mynychu hyfforddiant neu gyfarfodydd eraill neu staff yn mynychu teithiau. Bu’r gwrthdaro yma’n rhwystro cynnydd ambell gymuned oedd yn awyddus i barhau gyda’r gwaith.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    The Move to Student-Centric Learning: Progress and Pitfalls (MacKinnon, Lachlan)

    Transforming Schools: The Power of Teachers’ Input in Professional Development (Martin, Linda E et al. 2019)

    James Nottingham - Y Pwll Dysgu: https://www.challenginglearning.com/learning-pit/

    Teaching telling the time: a non-standard approach: https://www.ncetm.org.uk/resources/53032

    David Didau: https://learningspy.co.uk/english-gcse/how-to-improve-writing/

    Principles of Instruction, Rosenshein: https://www.aft.org/sites/default/files/periodicals/Rosenshine.pdf

  • Cyswllt

    Adam Powell (adam.powell@ysgolystrade.org)

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Lleolir yr ysgol yn agos i’r arfordir ar gyrion gorllewinol hen dref ddiwydiannol Llanelli. Mae’r gan yr ysgol 1198 o ddisgyblion (Medi  2019)  gyda 186 yn y Chweched  Dosbarth. 
    Mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn ar hyd arfordir de-ddwyrain Sir Gaerfyrddin o’r Fforest a’r Hendy yn y dwyrain i Gydweli yn y gorllewin. Mae 10 ysgol gynradd yn bwydo’r Strade. Daw mwyafrif y disgyblion o dref Llanelli a’r pentrefi mawr o’i chwmpas gyda bron i chwarter o ddisgyblion yr ysgol yn dod o wardiau 20% mwyaf difreintiedig Cymru. Mae 7.9% o ddisgyblion yn hawlio prydau ysgol am ddim ac mae’r ysgol yn y grŵp meincnodi  hyd at 10% o ganlyniad. Mae 18 o’r disgyblion (tua 1.5% o ddisgyblion B7-13) ar ddatganiad o anghenion addysgol ychwanegol [ADY]. Eleni, mae 62 o ddisgyblion ar gam gweithredu ysgol o’r cod ymarfer AAA (7% o Fl 7-13) a 14 GY+ (tua 0.5% o Fl. 7-13).

    Trosolwg ymholiad

    Fe fydd yr ysgol yn mynd ati eleni i wreiddio Ymchwil gweithredol fel rhan o Reoli Perfformiad pob aelod o staff. Fe fydd pob athro yn cwblhau ymchwil gweithredol dros gyfnod o 2 dymor. Fe fydd y gwaith yma yn golygu pob aelod o staff yn dewis cwestiwn ymholi yn seiliedig ar ddatblygu elfen o Addysgeg o fewn y safonau proffesiynol. Yng nghalon y gwaith yma bydd y 12 egwyddor addysgeg gyda chwestiynau craff yn cael ei osod er mwyn cwrdd â’r dibenion yma. Prif fwriad y gwaith yma yw sicrhau bod lefel o her addas yn cael ei osod ym mhob dosbarth ar draws yr ysgol gan anelu i hyrwyddo’r 4 diben a chodi ymwybyddiaeth staff o’r hyn sydd yn bwysig wrth symud tuag at y cwricwlwm newydd. Fe fydd darganfyddiadau'r gwaith yma yn cael ei rhannu trwy greu llyfryddiaeth o ymchwil mewnol yn ogystal â ffair rhannu arfer (HMS) yn nhymor y Gwanwyn.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae meddylfryd o ymchwilio ac ymholi ymysg staff dysgu yn gallu cynyddu’r lefel o her ar lawr y dosbarth?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Yn dilyn arolwg gan ESTYN a chyfres o arsylwadau a chyfnodau craffu ar waith daeth i’r amlwg bod y lefel her o fewn y dosbarth ddim yn gwthio pob unigolyn i gyrraedd ei wir botensial. Yn y gorffennol rydym wedi mynd ati i ddarparu adnoddau i staff ond nid oedd hyn yn mynd i’r afael a’r ystod o allu sydd gennym yn yr ysgol. Felly, yn dilyn cyfnod o fyfyrio, arsylwadau gwersi a sgyrsiau gyda rheolwr cyswllt, penderfynwyd y bydd pob athro yn cwblhau ymchwil gweithredol dros gyfnod o 2 dymor. Golygai hynny y bydd pob aelod o staff yn gosod cwestiwn ymholi yn seiliedig ar ddatblygu elfen o addysgeg o fewn y safonau proffesiynol. Dewiswyd 6 maes penodol i ddatblygu o fewn yr ysgol sef Adborth, Codi cymhelliant, Dysgwyr Annibynnol, Gwahaniaethu, Medrau Meddwl, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Penodwyd aelod o’r tîm arwain yn gyfrifol am bob un o’r grwpiau yma er mwyn sicrhau atebolrwydd ac fel cyswllt i rhai o'r staff hynny sydd yn ymgymryd â gwaith o’r fath am y tro cyntaf.

    O fewn y 6 maes yma fe fydd staff yn gosod cwestiwn o dan arweiniad aelod o’r tîm arwain. Er mwyn ymgymryd â’r gwaith ymchwil yma fe fydd yr ysgol yn clustnodi cyfnodau HMS min nos ar gyfer y 2 dymor cyntaf at y gwaith yma. Fe fydd gan staff y cyfle i ddod at ei gilydd, ymchwilio’n annibynnol a defnyddio’r tîm arwain fel cymorth. Fe fydd gan athrawon gyfle i ymchwilio, cynllunio ac i arbrofi gyda strategaethau neu weithgareddau newydd yn ystod yr ail dymor. Yn ystod y cyfnod hyn fe fyddwn yn arsylwi pob aelod o staff yn unigol gan gynnig cryfderau a meysydd i wella yn hytrach na barn ffurfiol. Fe fydd hyn yn rhyddhau staff i arbrofi gyda strategaethau newydd yn hytrach na phoeni am y farn ar ddiwedd y wers. Fe fydd cyfnodau craffu hefyd yn ffocysu ar y meysydd hyn gydag adborth at y pennaeth adran drwy eu rheolwyr cyswllt. Yn ystod HMS Ebrill bwriedir cynnal Ffair Dysgu ac Addysgu er mwyn rhannu’r arferion a ddatblygir ar draws yr ysgol.

    Ystyriaethau moesegol

    Mae’r ysgol eisoes wedi derbyn caniatâd gan rheini ynglŷn â’r defnydd o ddata a gwaith disgyblion o fewn cyffiniau’r ysgol. Mae pob rhiant wedi llofnodi cytundeb cartref-ysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Mae pob aelod o staff yn deall ei rôl broffesiynol o fewn yr ysgol ac mae’r defnydd o unrhyw sylwadau neu farn disgyblion yn gyfrinachol. Maent wedi derbyn cyflwyniad ar sail i’r prosiect yma ac mae pob un yn hapus i rannu arferion a gwaith yn agored ar 'PwyntPawb' staff dysgu’r ysgol.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Er mwyn gosod sail i’r gwaith ymchwil casglwyd a dadansoddwyd gwybodaeth gyd-destunol o fewn yr ysgol megis data cyrhaeddiad disgyblion, safonau dysgu ac addysgu (yn cynnwys arsylwadau a chraffu ar waith) a chasglu llais y dysgwyr i fesur i ba raddau maent yn teimlo eu bod yn cael eu herio. Yn dilyn hyn, trafodwyd gyda chydweithwyr mewn ysgolion cyfagos eu profiadau hwy wrth ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol wrth gynnwys pob aelod o staff dysgu yn y gwaith ymchwil gweithredol. Cynhaliwyd ymchwil personol drwy ddarllen Action Research: Improving Schools and Empowering Educators gan Craig A. Mertler ac erthyglau amrywiol o TES ac arbenigwr o brifysgolion ledled y wlad. Er mwyn hwyluso’r broses i staff dysgu datblygwyd banc o adnoddau fel cam gychwyn i athrawon gyda’r gobaith o annog rhai i fynd ati i chwilio ymhellach. Braf nodi bod y rhan fwyaf o staff wedi mynd tu hwnt i’r hyn a gyflwynwyd iddynt gan ehangu eu gwybodaeth a dealltwriaeth ymhellach nag addysg yng Nghymru. Mae rhai aelodau o staff wedi bod yn cynnal grwpiau ffocws gyda disgyblion a rhai yn defnyddio tystiolaeth gwaith blaenorol y plant er mwyn mesur cynnydd yn dilyn y gwaith ymchwil a gweithredu.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae’r canfyddiadau hyd yn hyn yn gyfyngedig gan fod y gwaith ymchwil yn parhau. Serch hynny, yn ystod cyfarfodydd athrawon a chyfarfodydd rhwng y gweithgorau mae cydnabyddiaeth i’r effaith mae gwaith ymchwil yn mynd i gael ar arferion ar lawr y dosbarth.
    Yn ystod trafodaethau cychwynnol, mae ymwybyddiaeth staff o’r broses ymchwilio ac argaeledd adnoddau wedi cynyddu ac yn gyffredinol maent yn nodi sylwadau positif am y gwaith. Cynhelir trafodaethau pwrpasol o ran y strategaeth a fedrwn gyflwyno i herio’r disgyblion ar bob lefel er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial. Gobeithir y bydd canfyddiadau cadarn i’w gweld erbyn y diweddariad nesaf.

    Cyfyngiadau

    Y prif rwystr yw darparu digon o gymorth i athrawon allu cynllunio cwestiwn ymholi realistig a phwrpasol heb hyfforddiant penodol yn y maes. Mae codi hyder yn allweddol er mwyn goresgyn hyn. Y rhwystr arall yw amser a rhoi cyfleoedd i bawb i ymchwilio a chynllunio’r ffordd ymlaen. Mae’n bwysig nad yw disgyblion ddim yn cael eu herio tu hwnt i'w gallu a theimlo pwysau wrth fethu cyflawni'r gwaith hynny.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Ar hyn o bryd, nid yw'r cyfyngiadau uchod yn ymwneud â’r prosiect yn uniongyrchol. Maent yn gyfuniad o’r pwysau sydd ar y proffesiwn yn gyffredinol. Unwaith ein bod wedi hyfforddi staff ac wedi gwreiddio ymchwil fel rhan annatod o gynllunio dysgu addysgu bydd nifer o’r cyfyngiadau yma yn cael eu goresgyn.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Fe fydd yr holl waith ymchwil yn cael ei osod ar Bwynt Pawb staff dysgu’r ysgol wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Ar ddiwedd y cyfnod fe fydd staff yn cwblhau astudiaeth achos un ochr A4 er mwyn eii chynnwys mewn ffolder arfer orau. Fe fydd gan bob aelod o staff dysgu’r ysgol fynediad i’r adnoddau yma.

  • Cyswllt

    Victoria Smith

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-18 yw Ysgol Uwchradd y Fflint, a daw ei disgyblion o dair ysgol gynradd yn y Fflint ac o ysgolion cynradd yn yr ardaloedd gwledig cyfagos. Mae 829 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, gan gynnwys 122 yn y chweched dosbarth. Mae tua 18% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd fymryn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 16.4%. Mae tua 22% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Daw bron pob un o'r disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. Mae tua 3% o'r disgyblion yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae gan tua 17% o'r disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol; 1.2% o'r disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.2%.

    Trosolwg ymholiad

    Ffocws ymholiad cylch 4 fydd ystyried sut y gall datblygu sgiliau ymholi athrawon lywio datblygiad y cwricwlwm ar lefel ysgol gyda ffocws ar gydweithio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad a'r 12 o egwyddorion addysgegol.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y bydd datblygu sgiliau ymholi proffesiynol yn newid y ffordd y mae athrawon yn mynd ati i ddatblygu'r cwricwlwm mewn ysgolion?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    O gylchoedd ymholi blaenorol y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol, roedd hi'n amlwg y byddai'r Cwricwlwm i Gymru, wrth newid y ffocws i sybsidiaredd a'r gofyniad i ysgolion a chlystyrau ddatblygu ymateb arbennig i'r cwricwlwm wedi'i deilwra i anghenion penodol eu dysgwyr, yn gofyn i ymarferwyr ddatblygu ffordd wahanol o weithio a defnyddio setiau sgiliau newydd. Y ddealltwriaeth oedd, er mwyn i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm yn llwyddiannus, y byddai angen i ymarferwyr ddatblygu sgiliau ymchwil cadarn a chyfoeth o ddulliau addysgegol. Byddai angen i arweinwyr ysgolion ystyried yn ofalus sut y byddant yn neilltuo'r amser a'r adnoddau i alluogi ymarferwyr i gynllunio eu cwricwlwm, ei dreialu a myfyrio arno er mwyn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

    Gyda hyn mewn golwg, roedd y cylch ymholi proffesiynol hwn a gynhaliwyd gan Ysgol Uwchradd y Fflint wedi canolbwyntio ar y broses o ymchwilio, cyd-gynllunio'r cwricwlwm, treialu a myfyrio; y systemau a'r prosesau sy'n ofynnol i gynllunio cwricwlwm lleol a dechrau'r broses o wella sgiliau ymarferwyr ym maes methodolegau ymholi proffesiynol.
    Dechreuodd yr ymholiad â holiaduron a chyfweliadau i fesur lefelau hyder a phrofiad presennol o ran defnyddio gwaith ymchwil i lywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm. Yn dilyn hyn, cafodd y cyfranogwyr hyfforddiant sylfaenol ar ymholi proffesiynol. Roedd llwyfan rhithwir yr ysgol yn cynnwys cyfeiriadau at adnoddau i gefnogi eu gwaith ymholi. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr gydweithio o fewn eu Meysydd Dysgu a Phrofiad i ddatblygu dilyniant dysgu a oedd yn defnyddio detholiad priodol o'r deuddeg egwyddor addysgegol, ac oedd â deilliannau dysgu a oedd yn gysylltiedig â phedwar diben y cwricwlwm. Penderfynodd y grwpiau ar yr addysgegau y byddent yn ymchwilio iddynt, a rhoddwyd mis iddynt wneud y gwaith ymchwil hwn cyn iddynt gyfarfod eto i benderfynu pa addysgegau y byddent yn eu treialu a'r deilliannau dysgu dymunol. Mae'r grwpiau bellach yn gweithio ar ddefnyddio eu hymchwil i lywio'r broses o gynllunio eu cwricwlwm a datblygu ac addasu adnoddau at ddibenion eraill.

    Caiff y cwricwlwm ei dreialu yn ystod tymor y gwanwyn. Wedyn, bydd gofyn i'r ymarferwyr lenwi holiaduron a chymryd rhan mewn cyfweliadau i weld a ydynt yn fwy hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau ymholi proffesiynol a chynllunio'r cwricwlwm, ac i adfyfyrio a gwneud argymhellion ar gyfer y camau nesaf yn y broses o gynllunio'r cwricwlwm.

    Ystyriaethau moesegol

    Oherwydd natur yr ymholiad proffesiynol, roedd y prif ystyriaethau moesegol yn ymwneud â chael cydsyniad y cyfranogwyr a sicrhau uniondeb y gwaith ymchwil. Felly, eglurwyd yr ymholiad yn glir i bob cyfranogwr ar ffurf ffurflenni cydsyniad ar sail gwybodaeth a thaflenni gwybodaeth, gan gynnwys sut y byddai'r canfyddiadau'n cael eu rhannu.
    Lluniwyd yr holiaduron a'r cwestiynau cyfweld i sicrhau nad oeddent yn dylanwadu ar y cyfranogwyr a'u bod yn gallu ymateb yn onest ac yn ddienw, os oeddent yn dymuno. Rhoddodd Prifysgol Bangor gydsyniad moesegol.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae Adroddiad Chwarterol - Cylch 3 Llywodraeth Cymru (2019) ar gyfer y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol yn cyfeirio at nifer o elfennau allweddol y gwnaethom eu hystyried fel rhan o'r cylch ymchwil hwn. Yn enwedig y pwyslais a roddir ar yr angen i wella sgiliau ymholi ymarferwyr; pwysigrwydd amser (nid yn unig ar gyfer ymchwilio a chynllunio'r cwricwlwm ond hefyd y gwaith blaengynllunio sydd ei angen) er mwyn caniatáu ar gyfer y newidiadau graddol mewn meddylfryd a diwylliant; a beth fydd y pedwar diben yn ei olygu yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r agweddau hyn wedi llywio ein cwestiwn ymholi. Wrth ystyried treialu'r cwricwlwm, gwnaethom ystyried y cwestiynau canlynol o'r adroddiad fel man cychwyn: 'Os yw'r pedwar diben yn cael eu datblygu yn y dosbarth, beth fyddech chi'n clywed disgyblion yn ei ddweud, beth fyddech chi'n gweld disgyblion yn ei wneud, pa fath o amgylchedd/awyrgylch fyddai'n cael ei greu gan y disgyblion?'

    Cynigiodd Gutierez (2019) fewnwelediad defnyddiol ar bwysigrwydd gwaith ymchwil gan ymarferwyr er mwyn diwygio'r cwricwlwm yn effeithiol. Yn ogystal, cyflwynodd fodel ar gyfer sgaffaldio ymchwil er mwyn helpu ymarferwyr nad oeddent yn hyderus yn cynllunio gwaith ymchwil i gyfrannu at agweddau ar ymchwilio i ymholiad. Mae Gutierez (ibid) hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd cydweithio i'r broses ymchwilio. Ystyriwyd pob un o'r agweddau hyn fel rhan o'r cylch ymholi hwn.

    Gwnaeth Dann et al. (2018) gynnwys rhai cwestiynau pwysig i'w hystyried wrth ddefnyddio ymchwil i ddatblygu'r cwricwlwm gan eu bod wedi awgrymu defnyddio dull systematig wedi'i rannu'n gamau, sy'n debyg i'r modelau rhesymeg rydym wedi'u defnyddio i ddatblygu ein hymholiadau cylch 4 yn rhanbarth GWE. Mae'n werth ystyried y ddau ddull, neu gyfuniad o'r ddau, fel adnodd i sgaffaldio ymholiadau yn y dyfodol er mwyn llywio gwaith i gynllunio'r cwricwlwm yn lleol.

    Mae Greville-Giddings (n.d.) yn ‘Collaborative Curriculum Design and Professional Growth’ yn amlinellu manteision cydweithio, nid yn unig ar gyfer cynllunio cwricwlwm effeithiol, ond hefyd er mwyn ysgogi'r broses datblygu proffesiynol a newid diwylliannol. Yr ystyriaethau allweddol a gymerwyd o'r erthygl hon oedd pwysigrwydd cynllunio digon o amser ar gyfer y broses o ymholi, creu'r cwricwlwm, arbrofi, adfyfyrio a mireinio.

    Canfyddiadau cychwynnol

    O'r cyfweliadau a'r arolygon cychwynnol, gellir nodi bod y mwyafrif o athrawon yn gwerthfawrogi cyfleoedd i wneud gwaith ymholi proffesiynol. Mae mwyafrif yr ymatebwyr (73%) yn gwneud gwaith ymchwil addysgol o leiaf unwaith bob tymor, gyda dros hanner ohonynt yn gwneud hynny unwaith y mis ac un o bob pump yn gwneud hynny unwaith yr wythnos. Y brif ffynhonnell ymchwil oedd y cyfryngau cymdeithasol a blogiau gyda dim ond 5% o'r ymatebwyr yn dod o hyd i ymchwil drwy lwyfannau academaidd fel EBSCO a 5% yn defnyddio gwefannau Llywodraeth Cymru / Estyn / y Consortia Rhanbarthol.

    Roedd 95% o'r ymatebwyr wedi gwneud gwaith ymholi proffesiynol cyn y treial hwn ond, yn achos 65% ohonynt, roedd hyn gryn amser yn ôl ac roeddent yn teimlo y byddai angen cymorth arnynt gyda'r broses. Roedd 30% o'r ymatebwyr, rhai ifanc sydd wedi ymuno â'r proffesiwn yn aml, wedi gwneud gwaith ymholi yn ddiweddar ac roedd ganddynt hyder yn eu sgiliau. Dywedodd llawer o'r ymatebwyr hyn eu bod yn teimlo y gallent helpu eraill gydag ymholi proffesiynol. Gellid dehongli hyn fel tystiolaeth o effaith a gwerth ymholi proffesiynol fel rhan annatod o raglenni hyfforddiant gyrfa cynnar. Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o'r adnodd gwerthfawr hwn a sicrhau eu bod yn gwneud cynlluniau i rannu'r wybodaeth a'r sylfaen sgiliau hyn yn effeithiol.

    Yn dilyn cyfweliadau â nifer dethol o gyfranogwyr, y consensws oedd y byddai ymholi proffesiynol yn ychwanegu gwerth at y broses o gynllunio'r cwricwlwm. Y buddiannau a nodwyd oedd y cyfle i ganolbwyntio ar strategaethau addysgu / addysgegau effeithiol a'r broses o gasglu tystiolaeth ac adfyfyrio. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn teimlo'n frwdfrydig ac yn optimistaidd am ddechrau mynd i'r afael â Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) a beth y gallai hyn ei olygu iddynt yn eu gwaith bob dydd.

    Fodd bynnag, mynegwyd pryderon am faint o amser fyddai'n cael ei neilltuo i wneud y gwaith hwn yn effeithiol a phryderon am yr effaith ar lwyth gwaith. Mae'r cyfranogwyr hefyd yn pryderu am oblygiadau tymor hwy'r cwricwlwm newydd o ran asesiadau allanol ac atebolrwydd. Mae'r pynciau craidd, yn enwedig, wedi mynegi pryderon bod y cynnwys a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer arholiadau allanol yn golygu nad oes rhyddid i roi cynnig ar ddulliau gweithredu newydd ac arloesol. Bydd mwy o wybodaeth am asesu ac atebolrwydd yn helpu ysgolion ac athrawon i ymdopi â'r newid hwn yn well ac yn fwy hyderus.

    Caiff y cylch ymholi proffesiynol hwn ei gwblhau yn ystod tymor y gwanwyn a bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfennaeth y Cwricwlwm i Gymru yn y cyfamser. Felly, bydd hi'n ddiddorol gweld yr effaith ar optimistiaeth a hyder ymarferwyr yn yr arolygon a'r holiaduron ar ddiwedd y cylch.

    Cyfyngiadau

    O ganlyniad i gyfyngiadau amser, treial cymharol fach oedd hwn a oedd yn defnyddio nifer cyfyngedig o ffynonellau data. Yn ogystal, er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau nad oedd cyfranogwyr o dan unrhyw ddylanwad i ymateb mewn ffordd benodol a'u bod yn cael eu hannog i ateb yn onest, mae'n bosibl y gallai cydberthynas waith y prif ymholwr â'r cyfranogwyr fod wedi dylanwadu ar rai ymatebion yn anfwriadol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Yr argymhellion sy'n deillio o'r ymholiad hwn yw:

    • Prosesau cyfathrebu effeithiol i sicrhau bod pob ymarferydd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae llawer o athrawon bellach yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn rhinwedd eu swydd. Gallai'r rhain fod yn adnoddau defnyddiol i rannu negeseuon allweddol a chyfeirio cynulleidfa ehangach at ymchwil ac adnoddau perthnasol;
    • Mynediad at waith ymchwil perthnasol a chyfoes gyda chyfleoedd rheolaidd i athrawon ymgymryd â gwaith ymholi proffesiynol a chydweithio o fewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad yn yr ysgol ac ar lefel ranbarthol a chenedlaethol;
    • Adnoddau hygyrch yn yr ysgol ac ar lefel ranbarthol a chenedlaethol er mwyn sicrhau y gall ymarferwyr ddefnyddio adnoddau a fydd yn hwyluso'r broses o bontio i'r Cwricwlwm i Gymru ac yn lleihau llwyth gwaith;
    • Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth mewn ffordd glir ac amserol er mwyn helpu ysgolion i flaengynllunio'n effeithiol;
    • Gwaith blaengynllunio effeithiol mewn ysgolion er mwyn datblygu'r cwricwlwm yn barhaus, fel nodwedd reolaidd o bob sefydliad sy'n dysgu ar ôl 2022;
    • Blaenoriaethu gwaith i lunio'r cwricwlwm fel rhan o gynlluniau datblygu ysgolion ac adrannau a phrosesau hunanwerthuso;
    • Neilltuo'r amser a'r gyllideb (amser 1265) a gyfarwyddwyd ac amser HMS i roi cyfleoedd rheolaidd i athrawon ymgymryd â gwaith datblygu'r cwricwlwm ac ymwreiddio'r broses 'ymholi - cynllunio - adfyfyrio - mireinio' fel ei bod yn dod yn norm diwylliannol wrth fynd ati i lunio'r cwricwlwm yn lleol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Dann, R., Czerniawski, G., Dixon, M. a Hanley, C. (2018) Teacher-As-Researcher: Shaping The Curriculum For Pupil Learning. Ar gael yn:
    https://impact.chartered.college/article/dann-teacher-researcher-shaping-curriculum-pupil-learning
    Donaldson, G., (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Greville-Giddings (n.d.) Collaborative Curriculum Design and Professional Growth. The Teacher Development Trust. Ar gael yn:
    https://tdtrust.org/collaborative-curriculum-design-and-professional-growth
    Gutierez, S.B. (2019) Learning from teaching: Teacher sense-making on their research and school-based professional development. Issues in Educational Research, 29(4), 1181-1200. http://www.iier.org.au/iier29/gutierez.pdf
    Llywodraeth Cymru (2019) Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) Adroddiad Chwarterol - Cylch 3. Ar gael yn:
    https://hwb.gov.wales/storage/1ebcda9d-e8d0-4eb7-95da-e8ba9d8c9a67/npep-cycle-3-summary-report-cy.pdf

  • Cyswllt

    Rhian Davies
    Daviesrh@khs.schoolsedu.org.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-19 cyfrwng Saesneg yn nhref marchnad y Fenni, Sir Fynwy, yw Ysgol Brenin Harri'r VIII. Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys y dref a'r ardaloedd gwledig cyfagos hefyd. Poblogaeth yr ysgol yw 994. Mae'n ysgol gyfun lawn ac mae'n darparu ar gyfer amrywiaeth eang o anghenion dysgu. Ar hyn o bryd mae 246 (24.7%) o ddisgyblion ar y Cod Ymarfer ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol gan gynnwys myfyrwyr ôl-16. Daw'r disgyblion o amrywiaeth eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a gwledig a chefnogir 13.5% o boblogaeth yr ysgol gan Grant Datblygu Disgyblion y llywodraeth. Y cyfartaledd treigl tair blynedd ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 11.4%; mae hwn wedi gostwng yn raddol dros y tair blynedd diwethaf ond gwelwyd cynnydd sydyn ym mis Medi 2019. O fewn Awdurdod Lleol Sir Fynwy, Ysgol Brenin Harri'r VIII sydd ag un o'r canrannau uchaf o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

    Trosolwg ymholiad

    ‘I ba raddau y mae athrawon o gefndir ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu wedi datblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi drwy gydweithio i wella agweddau ar lythrennedd myfyrwyr?’

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y mae athrawon o gefndir ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu wedi datblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi drwy gydweithio i wella agweddau ar lythrennedd disgyblion?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae'r ymholiad yn seiliedig ar waith sy'n cael ei wneud ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad hwn yn cynnal ei brosiectau ymholi ei hun i ffyrdd o ddatblygu llafaredd yn eu meysydd pwnc penodol (Saesneg, Cymraeg ac ITM). Mae hyn yn rhan o brosiect trawsgyfnod gyda'n hysgolion cynradd clwstwr i ddatblygu strategaeth lafaredd 3-19 ar gyfer ysgolion clwstwr yn y Fenni.
    Mae'n rhan o 'gylch ymholi cyfoedion' yr ysgol sy'n brosiect datblygu proffesiynol ysgol gyfan i alluogi athrawon i ddod yn ymholwyr effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Ein nod yw gweld a yw'r grŵp o gyfranogwyr yn datblygu ei sgiliau ymchwilio drwy'r broses. Yn ogystal â mynd i'r afael â'n cwestiynau ymholi yn uniongyrchol, bydd hyn hefyd yn ein galluogi i adfyfyrio ar y cylch ymholi cyfoedion fel rhaglen datblygiad proffesiynol ac yn ein galluogi i nodi dysgu proffesiynol pellach sydd ei angen i ategu'r cylch ymholi cyfoedion a chefnogi pob un o'r meysydd dysgu a phrofiad yn llawn i gwblhau eu hymholiadau yn llwyddiannus.
    I ateb ein cwestiwn allweddol, rydym wedi penderfynu defnyddio fframwaith Guskey (2002) ar gyfer gwerthuso datblygiad proffesiynol fel adnodd i ddadansoddi datblygiad ein hathrawon Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Er bod fframweithiau mwy modern i'w cael (yn enwedig Timperley 2008 a Bubb ac Early 2010), mae'r fframwaith hwn yn canolbwyntio ar yr ymatebion (agweddau), y dysgu a'r defnydd o sgiliau newydd. Er mwyn dechrau dadansoddi datblygiad y staff, gwnaethom benderfynu ystyried defnyddio syniad Stake o hanes blaenorol (1967) fel bod gennym syniad o'r llinell sylfaen. I gyflawni hyn, aethom ati yn gyntaf i lunio holiadur ag atebion ar raddfa Likert er mwyn dechrau llunio darlun o ble roedd y cyfranogwyr arni yn eu datblygiad. Cafodd y data o'r holiadur hwn eu dadansoddi er mwyn pennu rhai meysydd allweddol ar gyfer trafodaethau grŵp ffocws.
    Rydym wedi cynnal trafodaethau grŵp ffocws â'r holl staff a gwblhaodd yr holiadur. Roedd y trafodaethau (fel y cwestiynau yn yr holiadur) yn seiliedig ar gwestiynau a oedd yn gysylltiedig â fframwaith Guskey er mwyn i ni allu barnu agweddau, dysgu a sgiliau'r cyfranogwyr ar gam cynnar yn y cylch ymholi cyfoedion.
    Mae cam nesaf y broses o gasglu data'n cael ei gynllunio ar hyn o bryd, gyda chyfweliadau â'r cyfranogwyr yn cael eu hystyried er mwyn gallu dadansoddi'r dysgu a'r sgiliau newydd gwirioneddol (yn ogystal â'r newid mewn agweddau) yn fanwl.

    Ystyriaethau moesegol

    Roedd ystyriaethau moesegol yn rhan allweddol o'r gwaith o gynllunio'r prosiect ymchwil hwn.
    Gan fod y gwaith ymchwil hwn yn rhan o ‘gylch ymholi cyfoedion’ yr ysgol, sy'n rhaglen datblygiad proffesiynol yn ogystal ag adnodd i sicrhau gwelliant parhaus yr ysgol gyfan, mae'n amlwg y byddai angen i bob cyfranogwr gael ei hysbysu'n llawn am ddiben ein gwaith ymchwil. Gan ystyried hyn, ceisiwyd cydsyniad ar sail gwybodaeth gan bob aelod o'r staff gan ddefnyddio dogfennaeth foeseg a ddarparwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Wilkinson (2001) yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau y caiff cydsyniad ar sail gwybodaeth ei roi'n wirfoddol ac nid ei gael drwy orfodaeth na grym. (t. 16 yn ‘Effective Evaluation of Professional Development, Clare Edwards). Mae pob cyfranogwr wedi dewis cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn o'i wirfodd ac wedi cael gwybod y gall dynnu'n ôl o'r broses unrhyw bryd.
    Un pryder cysylltiedig oedd y gellid gweld y broses fel un orfodol gan fod ymchwilydd arweiniol y prosiect hwn yn aelod o'r uwch dîm arwain. Er mwyn lliniaru hyn, ymunodd ail aelod o'r staff â'r prosiect er mwyn helpu i gasglu data (teimlid efallai y byddai'r staff yn fwy agored a gonest ag un o'u cymheiriaid).
    Mae cyfrinachedd ac anhysbysrwydd yn faterion moesegol pwysig i'w hystyried fel rhan o'r gwaith ymchwil hwn. Bydd pob cyfranogwr yn aros yn anhysbys ac ni fydd unrhyw ddyfyniadau a ddefnyddir yn cael eu priodoli i unigolion. Cymerir gofal i sicrhau na allir adnabod unigolion o ddatganiadau a safbwyntiau a gyflwynir yn yr adran ar ganfyddiadau yn y gwaith ymchwil. Gan y bydd data a gesglir o bosibl yn sensitif o ran safbwyntiau a sylwadau pobl ar arferion yn yr ysgol, mae pob un o holiaduron, recordiadau llais a thrawsgrifiadau'r grwpiau ffocws wedi cael eu storio ar wefan ddiogel (Hwb). Mae pob un o'r cyfranogwyr wedi cael gwybod yn llawn am eu hawl i dynnu'n ôl unrhyw bryd, a chaiff unrhyw ddata a ddefnyddir eu cymeradwyo gan y cyfranogwr ymlaen llaw.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Roedd yr adolygiad llenyddiaeth ar gyfer y prosiect hwn yn canolbwyntio ar nifer o agweddau.

    • Methodolegau ymholi a gaiff eu rhoi ar waith orau mewn cyd-destunau addysgol
    • Defnydd effeithiol o werthuso dysgu proffesiynol
    • Prosiect Oracy 21 i roi sylfaen wybodaeth gadarn i ymchwilwyr mewn perthynas â'r ymholiadau a gyflawnir ym maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

    Mae'r rhan fwyaf o'r llenyddiaeth yn cyfeirio at waith ymholi fel gwaith ymchwil gweithredol ond, er cysondeb, cyfeirir ato fel gwaith ymholi yn y papur hwn.
    Mae gwaith ymholi fel dull o gyflawni dysgu proffesiynol wedi bod yn tyfu'n raddol ac, fel y noda Burns, fe'i hargymhellir mewn rhai gwledydd fel rhan o'r datblygiadau polisi addysgol ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon. Cytuna'r llenyddiaeth fod gwaith ymholi fel dull dysgu proffesiynol yn fwy effeithiol na chwrs unigol a gaiff ei anghofio'n gyflym. Mae Mertler yn crynhoi'r syniad hwn yn dda: ‘The approach historically used for professional development for classroom educators is, quite simply outdated. Even in our ‘on demand’ world, where professional development modules can be purchased and viewed on line, the individualised professional development needs of teachers are not appropriately or accurately met. Classroom based action research – with its cyclical nature of systematic investigation of teaching and learning followed by data driven improvements resulting from outcomes of the investigations – provides not only viable, but also valuable, professional development alternative.’ Yn ôl McNiff, mae gwaith ymholi yn rhoi'r gallu i athrawon weithredu; yr ymarferydd sy'n rheoli'r broses. Nid yn unig y mae'r athrawon yn gofyn y cwestiynau ymchwil, ond maent yn profi eu hatebion eu hunain hefyd. Ar sail y llenyddiaeth, down i'r casgliad y gall gwaith ymholi fod yn ffordd o sicrhau dysgu proffesiynol unigol sy'n effeithiol ac a fydd, yn ei dro, yn cyfrannu at wella ysgolion.
    Mae llawer o'r llenyddiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi'r adnoddau a'r sgiliau sydd eu hangen ar athrawon i gyflawni eu hymholiad a fydd, os caiff ei gyflawni'n dda, o fudd i'r unigolyn, yr adran a chymuned yr ysgol. Yn eu hastudiaeth, daw Morales et al i'r casgliad, er bod athrawon wedi ei chael hi'n anodd cwblhau'r ymholiad, eu bod wedi gweld manteision y broses addysgiadol hon yng nghyflawniadau'r myfyrwyr. Ymhlith y manteision a nodwyd yn yr astudiaeth hon roedd grymuso athrawon i fod yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain, eu hannog i fod yn ymarferwyr mwy adfyfyriol, a'r ffaith bod athrawon yn gallu meithrin a mireinio eu cymeriad personol ac ehangu eu harferion proffesiynol. Rhai o'r rhwystrau a nodwyd gan Burns oedd dewis syniad cychwynnol, prinder ffynonellau / diffyg hyder wrth werthuso ffynonellau, casglu a dadansoddi data.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Dadansoddiad o'r holiadur
    Diben yr holiadur oedd canfod yr hanes blaenorol – hynny yw agweddau a sgiliau'r cyfranogwyr cyn y cylch ymholi cyfoedion. Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae:

    • Amrywiad sylweddol yn yr ymateb i bob cwestiwn, ond dim ond dwy sgôr ‘1’ a gafwyd (roedd llawer mwy o sgoriau ‘5’) – sydd efallai'n dangos tuedd gyffredinol gadarnhaol ym mhob cwestiwn gan fod ‘1’ yn dynodi anghytuno â'r datganiadau
    • Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn teimlo'n fwy cadarnhaol am ddefnyddio tystiolaeth o'r ystafell ddosbarth yn hytrach na llenyddiaeth
    • Mae'r lefelau hyder ar gyfer llenyddiaeth a thystiolaeth yn weddol (tua 3/4)
    • Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn rhoi mwy o werth ar dystiolaeth o'r ystafell ddosbarth na llenyddiaeth
    • Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn eu bod yn meddu ar y sgiliau i gyflawni gwaith ymchwil unigol

    Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â'r adolygiad llenyddiaeth o ran y rhwystrau canfyddedig roedd yr athrawon yn teimlo y byddent yn eu llesteirio wrth gynnal eu hymholiad.

    Dadansoddiad o'r grŵp ffocws
    Nod y grŵp ffocws oedd ein helpu i dreiddio'n ddyfnach i'r ymatebion i'r holiadur. Canfyddiadau allweddol:

    • Mae safbwyntiau ar y defnydd o lenyddiaeth yn tueddu i fod yn negyddol, gyda chyfranogwyr yn dweud bod y llenyddiaeth yn teimlo'n oeraidd, neu bod gwaith ymchwil yn cymryd gormod o amser. Mae rhai ymatebion cadarnhaol yn ymwneud â defnyddio blogiau neu ffocws penodol iawn, e.e. Voice 21 (llai o angen chwilio)
    • Mae hyn yn gysylltiedig â sylwadau negyddol am lefelau hyder – materion yn ymwneud ag amser a'r ffaith ei bod yn anodd cael gafael ar lyfrgell academaidd yn hytrach na'r broses ei hun (ble i gael gwybodaeth – cyfeiriwyd at Google Scholar fel adnodd chwilio)
    • Defnydd o dystiolaeth – ymatebion cymysg gyda phobl yn cwestiynu p'un a ddylid gwneud hynny'n ffurfiol, ac eraill yn nodi bod tystiolaeth yn y llyfrau. Cyfeiriwyd at y cylch ymholi cyfoedion fel ffordd dda o werthuso strategaeth ar y cyd (Voice 21 – yr arsylwad mwyaf cynhyrchiol rwyf wedi'i gael)
    • Sylwadau cadarnhaol iawn am y cylch ymholi cyfoedion o ran cynnig cyfleoedd i edrych ar ddatblygiad myfyrwyr drwy Voice 21 a'r potensial i'w ddefnyddio gyda grwpiau blwyddyn eraill, yn ogystal â'r cyfleoedd i weithio mewn triadau a chynnal arsylwadau arbenigol heb farnu (yn hytrach na'r uwch dîm arwain).

    Roedd trafodaethau eraill yn ymwneud â'r angen am fwy o amser i gydweithio, lledaenu a hyd yn oed edrych ar arferion mewn ysgolion eraill er mwyn rhannu a hyrwyddo arferion da (a sgiliau ymchwil)
    Crynodeb Cyffredinol

    • Mae'r agweddau at ddefnyddio tystiolaeth a llenyddiaeth i lywio arferion yn gadarnhaol i raddau helaeth (yn enwedig o blaid tystiolaeth), ond codir cwestiynau am amser ac adnoddau i wneud hynny'n effeithiol.
    • Mae'r ddwy set ddata yn dangos diffyg ffocws gwirioneddol ar y dysgu sydd wedi digwydd drwy gydol y cylch ymholi cyfoedion; rhoddir mwy o bwyslais ar y profiad a chyfleoedd
    • Rhoddir rhywfaint o bwyslais ar y sgiliau newydd, yn enwedig sut y gellid defnyddio Voice 21 gyda grwpiau blwyddyn eraill, ond ychydig o sôn sydd am y ffordd y gellid cymhwyso sgiliau ymchwil yr athro mewn cyd-destunau eraill.

    Cyfyngiadau

    Yn gyntaf, mae'r data sydd wedi'u casglu hyd yn hyn yn seiliedig ar ychydig wythnosau yn unig o weithio gyda'r cylch ymholi cyfoedion. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd barnu a yw'r broses ei hun yn arwain at ddysgu a defnyddio sgiliau newydd (Guskey, 2002). Felly, mae'r ail gam casglu data yn hanfodol er mwyn i ni allu dod i unrhyw gasgliadau.
    Yn ail, er mai'r bwriad oedd i'r data a gesglir roi darlun o'r hanes blaenorol, roedd y cyfranogwyr eisoes wedi dechrau ar eu hymholiadau eu hunain felly nid ydym wedi cael darlun o'u hagweddau a'u sgiliau cyn y cylch ymholi cyfoedion. Er nad yw'r mater hwn yn ein hatal rhag dadansoddi'r sgiliau, yr agweddau a'r dysgu sy'n digwydd (ac a fydd yn digwydd), gall effeithio ar ein gallu i adnabod faint o ddatblygu a achosir gan raglen y cylch ymholi cyfoedion ei hun gan na fydd datblygiad yr ymatebion cyn ac ar ôl ymwneud â'r rhaglen yn cael ei dracio.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Un ffocws clir i'n gwaith ymchwil o hyn ymlaen fydd cynllunio'r gwaith casglu data terfynol yn ofalus. Yn benodol, mae angen i ni sicrhau ein bod yn dylunio dull a fydd yn ein galluogi i gasglu data ar yr hyn y mae'r grŵp cyfranogwyr yn ei ddysgu a'u defnydd o sgiliau newydd. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein galluogi i adfyfyrio ar y cwestiwn ymholi ‘I ba raddau y mae athrawon o gefndir ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu wedi datblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi drwy gydweithio i wella agweddau ar lythrennedd disgyblion?’ a hefyd yn ein galluogi i adfyfyrio ar broses y cylch ymholi cyfoedion fel rhaglen datblygiad proffesiynol.
    O safbwynt ehangach, gall hefyd fod yn werth nodi bod y broses o gynnal ‘rhagbrofion’ ac ‘ôl-brofion’ sy'n sail i'n defnydd o'r profion ‘hanes blaenorol’ yn gofyn am waith cynllunio gofalus ymlaen llaw er mwyn gallu cynnal y rhagbrofion cyn i ymyriad ddechrau.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Anne Burns, Doing Action Research, What’s in it for teachers and institutions.
    Amy Gaunt ac Alice Stott (2019) Transform Teaching and Learning Through Talk, Rowman & Littlefield
    Catherine Dawson, (2019) Introduction to research Methods, 5ed argraffiad. A practical guide for anyone undertaking a research project, Robinson.
    Fiona King (2014), Evaluating the impact of teacher professional development: An evidence based framework
    Marie Paz E. Morales, Edna Luz R Abulon, Portia R. Soriano, Adonis P. David MA, Victoria C. Hermosisima a Maaribel G. Gerundio, Issues in Education research 2016, Examining teachers’ conception of and needs on action research.
    Llywodraeth yr Alban, Growing up in Scotland: Changes in Language ability over the Primary school Years.
    Craig A. Mertler, Journal of Pedagogic Development, Prifysgol Bedfordshire (UDA): Classroom-based action research: Revisiting the process as customisable and meaningful professional development.
    Jean McNiff 2002, Action research for professional development

  • Cyswllt

    Rachel Hanford
    rhanford@sjhs.newport.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gymysg wirfoddol a gynorthwyir 11-18 yng nghanol dinas Casnewydd ac o fewn Archesgobaeth Gatholig Caerdydd yw Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff. Mae 1,425 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 248 yn y chweched dosbarth. Mae ychydig dros 3% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru, sef 17%. Mae tua 36% o'r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae gan tua 18% o'r disgyblion angen addysgol arbennig, sy'n is na'r cyfartaledd ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru, sef 21.5%. Mae gan tua 2.0% o'r disgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig, sy'n debyg i'r ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru gyfan. Daw 22% o'r disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac mae bron i 20% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

    Trosolwg ymholiad

    '‘I ba raddau y mae athrawon wedi datblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi drwy gyflawni prosiect sy'n canolbwyntio ar wella sgiliau llafar disgyblion drwy siarad cydweithredol?’


    Amlinelliad:

    • Bydd pob aelod o'r staff yn ymgymryd ag ymholiad eleni fel rhan o'u targedau rheoli perfformiad
    • Bydd pob aelod o'r staff yn dewis maes ymholi erbyn diwedd mis Tachwedd
    • Bydd pob aelod o'r staff yn ysgrifennu ei gwestiwn ymholi personol ei hun yn seiliedig ar ei ddewis faes
    • RH i weithio gyda grŵp ffocws o 10 o staff o bob MDPh
    • Bydd y 10 aelod o staff yn cael holiadur cyn ymholi yn seiliedig ar eu dealltwriaeth bresennol a'u hyder yn eu sgiliau ymchwil
    • Wedyn bydd y grŵp yn dechrau ar ei ymholiad ei hun
    • Bydd y grŵp yn mynychu Seminarau Ysgol Uwchradd Sant Joseff ar sgiliau ymchwil a dysgu cydweithredol
    • Wedyn bydd y grŵp yn cymryd rhan mewn grŵp ffocws er mwyn canfod sut maent bellach yn teimlo am eu sgiliau ymchwil ac ymholi

    Cwestiwn Ymholi

    ‘I ba raddau y mae athrawon wedi datblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi drwy gyflawni prosiect sy'n canolbwyntio ar wella sgiliau llafar disgyblion drwy siarad cydweithredol?’

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Dyluniwyd y cwestiwn ymchwil i gyd-fynd â'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a gwerthuso effaith rhaglen dysgu proffesiynol yr ysgol. Dyluniwyd y rhaglen er mwyn cynnig cyfleoedd i bob aelod o staff ddatblygu nid yn unig eu harferion, ond hefyd eu gallu i ymgymryd ag ymholiadau yn yr ystafell ddosbarth. Golyga hyn felly y bydd yr ymholiad, yn y lle cyntaf, ond yn canolbwyntio ar staff addysgu a ddewisodd y cwestiwn ymchwil ar Lafaredd i'w gwblhau fel rhan o'u proses Rheoli Perfformiad.

    Ar gyfer fy ngwaith ymchwil, penderfynais gasglu data mewn modd ansoddol yn bennaf, am fod yr ymholiad yn canolbwyntio ar y ffordd y mae athrawon wedi datblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi.

    Dewiswyd aelodau'r grŵp yn seiliedig ar y cwestiwn ymholi roeddent wedi dewis ei gwblhau. Ceir grŵp o 10 o staff sy'n amrywio o ran profiad a chyfrifoldeb yn yr ysgol.
    I ddechrau, cwblhaodd y 10 aelod o staff holiaduron yn seiliedig ar eu dealltwriaeth a'u hyder wrth ymgymryd â gwaith ymholi, dylunio gwaith ymchwil ac adolygiadau o lenyddiaeth. Roedd yr holiadur yn fodd i mi gasglu gwybodaeth gan aelodau unigol o staff. Rhoddwyd yr un cwestiynau i bob aelod o staff er mwyn sicrhau cysondeb (Denscombe 2007).

    Roedd 15 o gwestiynau yn yr holiadur, gan gynnwys cymysgedd o gwestiynau agored a chaeedig. Nod y cwestiynau agored oedd sicrhau bod yr ymatebion yn adlewyrchu safbwyntiau'r ymatebwyr (Denscombe 2007). Defnyddiwyd yr holiadur fel man cychwyn gan fod y grŵp yn cynnwys cyfuniad o staff sydd wedi cyflawni ymholiadau a rhai eraill sy'n ymgymryd â'r broses am y tro cyntaf.

    Ar sail canfyddiadau'r holiaduron, roedd modd i mi osod y staff mewn grwpiau ffocws lle y gallwn holi'n ddyfnach a chasglu gwybodaeth fanylach yn seiliedig ar eu hymatebion i'r holiadur. Sefydlwyd y grwpiau ffocws yn seiliedig ar ganfyddiadau'r holiadur er mwyn sicrhau fy mod yn siarad â staff â'r un lefel o ddealltwriaeth a hyder (Denscombe 2007) mewn perthynas ag ymgymryd ag ymholiadau a rhoi strategaethau Llafaredd ar waith. Roedd ffocws y drafodaeth yn seiliedig ar yr hyn roedd ei angen arnynt o ran cymorth (BERA 2012) ac roedd hefyd yn gyfle i staff rannu eu syniadau a chymharu eu cyfraniadau (Denscombe 2007) er mwyn canfod gwir ystyr eu hymatebion.

    Ystyriaethau moesegol

    Noda BERA (2011:5) y dylai unigolion gael eu trin yn deg, yn sensitif, ag urddas a pharch ac yn rhydd rhag gwahaniaethu. O gofio hyn, gofynnwyd i'r holl staff a gymerodd ran yn yr ymholiad a oeddent yn hapus i gymryd rhan. Hefyd, gofynnwyd iddynt gydsynio i mi recordio'r trafodaethau grŵp ffocws a rhoddwyd gwybod iddynt y gallent dynnu'n ôl unrhyw bryd yn ystod y broses. At hynny, defnyddiais y daflen wybodaeth a'r ffurflenni cydsynio i gyfranogwyr a ddarparwyd gan Brifysgol Met Caerdydd.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Dywed King (2014) ei bod yn bwysig deall natur gymhleth dysgu a newid athrawon er mwyn gwybod sut i gefnogi'r cyswllt rhwng cyfranogiad athrawon mewn dysgu proffesiynol a deilliannau disgyblion. Felly, mae gwerthuso effaith ein harlwy dysgu proffesiynol ar ddisgyblion a staff yn rhan ganolog o'r ymholiad.

    Yn gyntaf, mae'r ffocws ar gyfranogiad athrawon a'r cymorth sydd ei angen er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau fel athrawon sy'n ymholi ac, o ganlyniad i hynny, rwyf wedi canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i'r athrawon ei wneud i ddatblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi. Wrth i'r ymholiad fynd rhagddo, rhoddir mwy o bwyslais ar werthuso effaith yr ymholiadau ar ddeilliannau disgyblion.

    O gofio hyn, bydd angen i mi ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o werthuso'r ddwy broses a ffurfio cysylltiadau rhyngddynt. Mae'r Ymddiriedolaeth Datblygu Athrawon (2017) yn dadlau bod y gwaith o ddylunio rhaglenni datblygiad proffesiynol yn cyd-fynd â'r broses addysgegol sy'n cael ei hyrwyddo a'r ffyrdd y mae'r dysgu proffesiynol wedi'i strwythuro. Er mwyn i ddysgu proffesiynol fod yn llwyddiannus, mae angen i staff ddadansoddi sail resymegol, tystiolaeth a data asesu ac adfyfyrio arnynt, sy'n bwysig er mwyn cyflwyno a gwreiddio newid mewn arferion.

    Mae OECD (2017) wedi nodi bod angen i athrawon ddatblygu eu gwybodaeth broffesiynol eu hunain yn gyson er mwyn i ysgolion ddod yn sefydliadau sy'n dysgu gwirioneddol. O gofio hyn, mae'n amlwg bod datblygiad a chymorth parhaus i bob aelod o staff yn hanfodol. Fodd bynnag, mae angen ffordd gadarn o werthuso dysgu proffesiynol a deilliannau disgyblion, a ffurfio cysylltiadau rhyngddynt.

    Mae'r Ymddiriedolaeth Datblygu Addysg (2016) yn awgrymu y bydd angen i'r rhai sy'n arwain gwaith ymchwil mewn ysgolion weithio'n galed i ddod o hyd i dystiolaeth sy'n berthnasol ac yn ddefnyddiol yn eu cyd-destunau ac y bydd angen iddynt fod yn fedrus wrth farnu ansawdd y gwaith ymchwil sy'n bodoli.

    Mae NFER (2018) yn cefnogi pwysigrwydd gwaith ymchwil ac ymholi fel ffordd o wella ysgol sy'n sicrhau bod gwaith ymholi systematig wrth wraidd dull yr ysgol mewn perthynas â datblygu sefydliadol.

    I grynhoi, mae'r llenyddiaeth sydd ar gael yn awgrymu bod angen i'r holl staff fod yn fedrus yn y maes hwn er mwyn i waith ymchwil ac ymholi ysgogi gwelliant mewn ysgolion.

    Canfyddiadau cychwynnol

    • Mae'r mwyafrif o'r grŵp wedi ymgymryd ag ymholiadau yn yr ystafell ddosbarth
    • Mae'r staff yn ymgysylltu â'r gwaith ymchwil a ddarperir
    • Mae rhai aelodau o'r staff yn gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain
    • Mae llawer ohonynt yn brin o hyder o ran ble i gael gafael ar waith ymchwil dibynadwy
    • Mae bron pob un ohonynt yn hyderus wrth greu cwestiwn ymchwil
    • Roedd mwy na hanner yn hyderus wrth gynllunio eu methodoleg
    • Roedd gwerthuso effaith yn faes allweddol i bob aelod o staff

    Cyfyngiadau

    Mae cyfyngiadau'r ymholiad hyd yn hyn yn deillio o'r ffaith bod y grŵp ffocws yn fach. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio'r un cwestiwn ymholi ar yr un pryd i werthuso effaith ein rhaglen dysgu proffesiynol ar staff sy'n ymgymryd â dwyn i gof ar gyfer eu hymholiad rheoli perfformiad. Hefyd, nid oes digon o amser wedi bod i werthuso ymholiad a ddyluniwyd i bara blwyddyn. At hynny, mae'r ymholiad wedi canolbwyntio'n gyfan gwbl ar ddata ansoddol yn y lle cyntaf. Wrth i'r ymholiad ddatblygu, bydd mwy o bwyslais ar ddata meintiol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Bydd yr ymholiad yn parhau nes Tymor yr Haf, felly mae'n gynnar iawn i wneud unrhyw argymhellion. Fodd bynnag, un thema allweddol sy'n debygol o ddod i'r amlwg erbyn diwedd yr ymholiad yw'r angen am ddull ymholi strwythuredig a chyson er mwyn sicrhau y gellir gwerthuso a mesur effaith yn effeithiol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    dd/g

  • Cyswllt

    Marisa Chadney
    Diane Stone
    Lisa James- Smith

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Canolfan Addysg Tai, Uned Cyfeirio Disgyblion, Rhondda Cynon Taf, 56 o ddisgyblion, 49% prydau ysgol am ddim, 47% â datganiad, 16% yn blant sy'n derbyn gofal. Ysgol Categori gwyrdd.
    Ysgol Arbennig Heronsbridge, 245 o ddisgyblion i gyd â datganiad, 42% prydau ysgol am ddim, 7% yn blant sy'n derbyn gofal a lleiafrifoedd ethnig. Ysgol Categori gwyrdd
    Tŷ Gwyn, ysgol arbennig, Caerdydd, 202 o ddisgyblion, 42% prydau ysgol am ddim, 2% yn blant sy'n derbyn gofal, 32% SIY, 49% BME, ysgol Categori Gwyrdd.

    Trosolwg ymholiad

    Deall canfyddiad athrawon o ymholi proffesiynol o fewn diwylliant o newid.

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw canfyddiad athrawon o ymholi proffesiynol o fewn diwylliant o newid?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Diben yr ymholiad hwn yw nodi'r canlynol:

    • Dealltwriaeth athrawon o ystyr ymholi yng nghyd-destun yr ysgol
    • Y diwylliant a'r strwythurau sydd eu hangen i ddatblygu proffesiwn seiliedig ar ymholi

    Cyflawnwyd y gwaith ymchwil gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:

    • Defnyddio dwy brif ffynhonnell Datblygu Proffesiynol o 'Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol' Llywodraeth Cymru, Schools as Learning Organisations (OECD, 2018) a Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (Llywodraeth Cymru, Medi 2017). Defnyddiwyd y ddwy ddogfen i lywio cwestiynau'r arolwg a'r cyfweliadau lled-strwythuredig
    • Llenyddiaeth gyfredol ar yr hyn a ddywed gwaith ymchwil am Ymholi Proffesiynol
    • dulliau cymysg, yn cynnwys arolwg ar-lein a chyfweliadau lled-strwythuredig manwl ag athrawon o dair ysgol wahanol o fewn tri awdurdod gwahanol. Defnyddiwyd y dull hwn er mwyn profi a oedd canfyddiadau'r arolygon yn berthnasol i un ysgol yn unig neu a oeddent yn cynrychioli cwmpas ehangach.

    Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein yn ystod mis Rhagfyr 2019. Cafwyd 50 o ymatebion i gyd o boblogaeth addysgu gyffredinol o 67 o'r ysgolion cyfunol. Cyflawnodd yr arolwg gyfradd ymateb o 75%. Anfonwyd yr arolwg at staff yr ysgol drwy neges e-bost uniongyrchol a dolen bwrdd gwaith gan olygu ei fod yn hygyrch i'r ardal ddaearyddol eang. Bu'n hawdd ei rannu fel hyn a darparodd ddata meintiol y gellid eu harchwilio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Roedd yr arolwg yn wirfoddol.
    Roedd cwestiynau'r cyfweliadau lled-strwythuredig yn fersiynau wedi'u haddasu o gwestiynau'r arolwg er mwyn cael gwybodaeth fanwl bellach am deimladau, canfyddiadau a safbwyntiau personol gan alluogi'r sawl a gyfwelwyd i geisio eglurder a dealltwriaeth. Unwaith eto, roedd hyn yn wirfoddol. Cynhaliwyd cyfanswm o naw chyfweliad lled-strwythuredig (13% o'r rhai a arolygwyd), gydag athrawon (8) ac uwch arweinydd (1). Cynhaliwyd y cyfweliadau gan ymchwilwyr arweiniol o bob ysgol gan ddefnyddio'r un canllaw cyfweld a ddarparodd set glir o gyfarwyddiadau i'r cyfwelwyr er mwyn cael data ansoddol dibynadwy a chymaradwy. O'r rheini a gymerodd ran, roedd rhwng 3 ac 20 mlynedd o brofiad addysgu rhyngddynt, ac roedd gan un athro PhD ac roedd gan un arall MA. Darparodd y cyfweliadau wybodaeth ansoddol ychwanegol a wnaeth gynnig naratif manwl mwy cyfoethog ar eu dealltwriaeth o'r broses ymholi, yn ogystal â sut beth oedd ymholi yng nghyd-destun eu hysgol. Roedd cyfweliadau hefyd yn cynnig hyblygrwydd ar yr ochr weinyddol a gallai'r sawl a gyfwelwyd holi am yr hyn a ofynnwyd iddynt a cheisio eglurder o ran ystyr. Roedd y ffaith eu bod yn lled-strwythuredig yn ei gwneud yn bosibl cael mwy o ddeialog rhwng y cyfwelydd a'r sawl a gyfwelwyd, yn ogystal â mynd i'r afael â chiwiau cymdeithasol fel iaith y corff.

    Ystyriaethau moesegol

    Cafodd holl staff y tair ysgol wybod beth oedd sail resymegol y gwaith ymchwil a wnaed cyn i'r arolwg gael ei ryddhau drwy gyfarfod staff. Roedd yn bwysig i'r tîm ymchwil osgoi gosod gofynion gormodol ar amser y staff ac osgoi gwneud i'r staff deimlo eu bod yn 'gorfod' cymryd rhan yn y gwaith ymchwil. Cymerwyd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol a gellid gwneud hynny dros gyfnod eang ac mewn lleoliad/amgylchedd a ddewiswyd gan yr unigolyn er mwyn lleihau unrhyw bwysau ychwanegol ar y staff. Cafodd yr unigolion dan sylw sicrwydd y byddai'r holl ganlyniadau yn anhysbys. Gallai un swyddog gweinyddol weld y data, a oedd wedi'u diogelu â chyfrinair. Dim ond y data a gynhyrchwyd oedd ar gael i'r ymchwilwyr eu dadansoddi. Cafodd y data eu cyflwyno ar ffurf siartiau cylch a thaenlenni.
    Dyluniwyd ein gwaith ymchwil moesegol i sicrhau cydsyniad ar sail gwybodaeth, gwneud i bawb deimlo'n gyfforddus, ac osgoi gosod gofynion gormodol arnynt, gyda dealltwriaeth lawn o'n dyletswydd gofal fel ymchwilwyr.
    Roedd a wnelo her arall a effeithiodd ar yr astudiaeth â'r gydberthynas gamfanteisiol o bosibl a allai fodoli rhwng yr ymchwilydd a'r sawl a oedd yn cymryd rhan – yn yr achos hwn, uwch-arweinydd yn cyfweld ag athro, natur yr anghydbwysedd o ran pŵer rhwng y ddau barti, a'r ffordd mae'r gydberthynas yn effeithio ar y cyfranogwyr, yn seicolegol, yn emosiynol ac yn bersonol.
    Er mwyn lleihau hyn, bu modd cymryd rhan yn wirfoddol, a chafodd pawb Ffurflen Gydsynio i Oedolion a oedd yn nodi'n glir bod y penderfyniad i gymryd rhan yn wirfoddol, bod hawl tynnu'n ôl a bod cymryd rhan yn golygu eu bod yn cytuno i ddyfyniadau anhysbys gael eu defnyddio.
    Yn ystod y cyfweliad, byddai'r cyfwelydd yn ymwybodol o duedd pŵer a rôl ddeuol yr ymchwilydd fel uwch-arweinydd, a byddai pob cam yn cael ei gymryd i dawelu meddwl y sawl a gyfwelwyd na fyddai sylwadau na safbwyntiau yn cael eu hystyried yn negyddol ac y byddai unrhyw sylwadau yn anhysbys, heb gyfeirio at enw nac ysgol.
    Dim ond at ddiben ymchwil y cesglid gwybodaeth ac ni fyddai'n cael ei defnyddio at unrhyw ddiben proffesiynol arall.
    Mae'r gwaith ymchwil yn dilyn canllawiau gwaith ymchwil moesegol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Wrth baratoi i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru, treuliwyd cryn dipyn o amser a gwnaed cryn dipyn o waith ymchwil yn paratoi'r gweithlu am y newid. Er mwyn gwireddu Cwricwlwm i Gymru,
    “professional learning is extremely important in the building of teacher agency particularly the engagement with professional enquiry which will be crucial in enabling teachers in Wales to develop their theories of knowledge to work with the new curriculum in innovative and constructive ways”. (Egan, 2018)
    Mae Dysgu Proffesiynol yn allweddol i ddiwygio'r cwricwlwm ac mae dwy ddogfen bellach yn gyffredin mewn ysgolion er mwyn eu helpu yn ystod diwylliant o newid. Mae'r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn nodi y rhoddir pwyslais ar alluogi pob athro i ymestyn ei hun o ran ei addysgeg drwy arloesi, cydweithio, dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth (Waters, 2017) ac mae model Ysgolion fel Sefydliad Dysgu OECD yn nodi'r canlynol:
    ‘’ A learning organisation is a place where the beliefs, values and norms of employees are brought to bear in support of sustained learning; where a ‘learning atmosphere’, ‘learning culture’ or ‘learning climate’ is nurtured and where ‘learning to learn’ is essential for everyone involved’. (Kools a Stoll, 2016 t 47)
    Ar gyfer ein gwaith ymchwil gwnaethom ganolbwyntio ar bapurau ymchwil gan Mark Priestley, The Role of Beliefs in Teacher Agency (2015), Mick Waters, Report on the Teachers’ Professional Learning and Education Enquiry (2017), a Schools as Learning Organisations and the Welsh Government Professional Standards (2018) gan David Egan.
    Mae gwaith Priestley yn ystyried y syniad o ‘gyfrwng athro’, “teachers’ active contribution to shaping their work and its conditions – for the overall quality of education” (Goodson, 2003; Nieveen, 2011; Priestley, 2011). Noda fod cyfrwng athro yn dibynnu'n fawr ar y rhinweddau personol y mae athrawon yn eu cyflwyno i'w gwaith, yn ogystal â'u gallu, gan gynnwys gwybodaeth broffesiynol, sgiliau a chredoau, ar y cyd â'r amgylchedd (diwylliant) a'r strwythurau cywir.
    (…)To promote teacher agency is therefore not only a matter of teacher education and professional development in order to increase teachers' capacity and capability, but also requires attention to cultures and structures. Without attention to the latter two levels as well, it is unlikely that the call for teachers to become agents of change will effect a real transformation of educational processes and practices. (Priestley, 2015)

    Canfyddiadau cychwynnol

    Cynhaliwyd yr arolwg er mwyn nodi lefelau hyder o ran dealltwriaeth a phrofiad o ymholi proffesiynol o fewn diwylliant o newid. Daeth y cwestiynau o Schools as Learning Organisations a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, am fod y rhain yn ddogfennau allweddol i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu Cwricwlwm i Gymru. Defnyddiwyd graddfa pum pwynt Lickert a rhoddwyd sgôr coch/melyn/gwyrdd i'r cwestiynau yn ôl lefelau hyder.
    Yn y tair ysgol cafwyd y canfyddiadau canlynol:
    Mae'r staff fwyaf hyderus am (gwyrdd):

    1. Deall y rhesymau dros gynnal ymholiad yn yr ysgol. (15.5%)
      Thema a ddaeth i'r amlwg ar gyfer hyn oedd perthnasedd gwella profiadau dysgu i'r plant.
      "Ie, ymchwilio a datblygu ymarfer er mwyn gwella safonau o ran y plant a dysgu"
    2. Yn barod i fentro ac arbrofi ac arloesi o ran fy ymarfer. (14.5%)
      Roedd brwdfrydedd i adolygu ymarfer yn thema a ddaeth i'r amlwg.
      "Ie, ar ddechrau'r flwyddyn hon rwyf wedi ailedrych ar fy null o weithredu ac mae fy ymarfer yn cynnwys dulliau gweithredu penodol iawn ar gyfer fy nisgyblion"
    3. Yn agored i feddwl a gwneud pethau'n wahanol (15%)
      Nododd ymatebion i'r cwestiwn hwn fod cydweithio yn beth cadarnhaol.
      "Ie, yn aml gall trafodaethau â staff yn yr ysgol, gweithwyr proffesiynol eraill ar y safle, neu hyd yn oed ymatebion y disgyblion lywio ymarfer yn y dyfodol"
    4. Gweld problemau a methiannau yn gyfleoedd i ddysgu (14%)
      Thema a ddaeth i'r amlwg: hunanadfyfyrio
      "Ie, er, o safbwynt disgybl, mae angen rheoli hyn yn sensitif, o safbwynt athro mae hunanadfyfyrio yn bwysig i ddatblygu ein hymarfer."

    Ac yn lleiaf hyderus o ran eu dealltwriaeth o (coch):

    1. Bod yn gyfarwydd ag adrannau 'Dysgu Proffesiynol' ac 'Arloesedd' y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (10%)
      Thema a ddaeth i'r amlwg: ymgysylltu pellach – mae'r safonau yn gymharol newydd
      "dealltwriaeth gymharol dda o'r hyfforddiant a ddarparwyd ar lefel yr ysgol. Byddaf yn parhau i feithrin y wybodaeth hon fel rhan o ysgol arloesi"
    2. Goblygiadau'r ymadrodd 'ceir ymgysylltu strwythuredig mewn cymuned gwaith ymchwil gweithredol a cheir tystiolaeth o ymarfer wedi'i lywio gan ddarllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil ar lefel genedlaethol a rhyngwladol'. (7%)
      Thema a ddaeth i'r amlwg – buddiannau gwaith ymchwil
      "ers ymuno â'r ysgol rwyf wedi gweld gwaith ymchwil (gweithredol) sydd wedi arwain at newid cadarnhaol"

    Cafwyd ymateb melyn i'r canlynol:

    1. Rwy'n cael fy nghefnogi a'm cydnabod am fentro a chymryd risgiau (12.2%)
      Thema a ddaeth i'r amlwg – diwylliannau'n datblygu i gefnogi gwaith ymholi
      "Rydym bob amser yn cael ein hannog i fentro a rhoi cynnig ar syniadau newydd yn y dosbarth a chawn ein cefnogi i roi cynnig ar ddulliau gweithredu newydd ac adfyfyrio ar ein hymarfer"
    2. Sut beth yw diwylliant ymholi, arloesi ac archwilio mewn ysgol (11.8%)
      Thema a ddaeth i'r amlwg – materion ymarferol/strwythurau
      "Rwy'n deall, ond mae natur ymarferol creu cyfleoedd a rhannu gwybodaeth ag eraill yn anodd."

    Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod staff yn ymwybodol o bwysigrwydd gwneud gwaith ymholi yn yr ystafell ddosbarth a threialu ffyrdd newydd o weithio a gwneud pethau. Fodd bynnag, erys pryderon y gellir eu nodi yn yr ymatebion melyn. Gall y meysydd coch, y cwestiynau 'geiriog', gael eu hegluro ymhellach o'r ddeialog a gafwyd yn ystod y cyfweliadau, lle gofynnwyd i'r cwestiwn gael ei ailadrodd ym mhob ysgol gan ddangos bod angen i'r disgrifiadau fod yn eglur.

    Cyfyngiadau

    Gall cydweithio, er yn fuddiol, fod yn llafurus o ran casglu'r data, a'u dadansoddi a'u gwerthuso.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Wrth adfyfyrio, teimlwn fel tîm ymchwil na chawsom yr holl atebion roedd eu hangen er mwyn cyflawni ein hail amcan: Y diwylliant a'r strwythurau sydd eu hangen i ddatblygu proffesiwn seiliedig ar ymholi Gwnaethom nodi bod ein hamgylcheddau yn datblygu'r diwylliant ond nad aed i'r afael â'r strwythurau angenrheidiol. Felly, oherwydd hyn, gwnaethom ychwanegu cwestiwn yn y cyfweliad – 'Ydych chi'n rhagweld unrhyw broblemau a fydd yn effeithio ar ysgol sy'n gwneud gwaith ymholi proffesiynol?'. Y themâu a ddaeth i'r amlwg yma oedd: Amser i ddatblygu eich gwybodaeth/ymchwil ymholi eich hun, cyfleoedd i wneud y gwaith ymchwil a'r effaith ar ddisgyblion a rhannu canlyniadau. Wrth archwilio'r ddwy ddogfen a nodir uchod, cyfeirir at 'waith ymchwil gweithredol' o hyd a holodd nifer o staff p'un a oedd yr un peth ag 'ymholiad' ai peidio. Mae angen defnyddio'r un ymadrodd drwyddi draw.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Gweler y cyfeiriadau yn y testun.