English

Hwb

Dysgu proffesiynol a hyfforddi

  • Cyswllt

    Catrin Bennett
    cb@ygbm.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ysgol cyfrwng Cymraeg ddynodedig, a gaiff
    ei chynnal gan Gyngor Sir Bro Morgannwg. Unodd Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
    ag Ysgol Nant Talwg ym mis Medi 2015 i greu ysgol sy'n darparu addysg i ddisgyblion 3 i 19 oed. Mae cyfanswm o 1,120 o ddisgyblion ar y gofrestr; 238 o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 1-6 ac 882 ym Mlynyddoedd 7-13. Mae 128 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae'r ysgol yn nhref y Barri.
    Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o gefndiroedd ethnig gwyn ac mae 7.3% yn gymwys
    i gael prydau ysgol am ddim, sy'n llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Daw 39% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg, ond mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.
    Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o'r ystod allu lawn. Mae gan 13% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae canran y disgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig yn llai nag 1%.

    Mae'r ddau ffigur yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

    Trosolwg ymholiad

    Diben yr astudiaeth yw ymholi i weld sut i sicrhau bod mwy o staff yn cymryd rhan mewn gwaith ymholi

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gallai dull mwy strwythuredig sicrhau bod mwy o staff yn cymryd rhan mewn gwaith ymholi?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Cefndir
    Caiff yr ymholiad hwn ei gyflawni'n fewnol, mewn ymateb i'r ffocws cynyddol ar waith ymholi gan athrawon yn y safonau addysgu proffesiynol, ac i waith a gwblhawyd mewn sesiynau HMS yn ystod blwyddyn academaidd 2017-18.
    Yn ystod sesiynau HMS a ddechreuodd ym mis Medi 2017, roedd adborth gan staff yn cynnwys ymatebion cymysg i'r gofyniad i gymryd rhan mewn gwaith ymholi. Meddyliais tybed a oedd digon o strwythur i'r prosiect, gan fod y fenter yn un newydd yn ein hysgol.
    Yn ystod un o'n sesiynau gyda Phrifysgol Met Caerdydd, lluniais y cwestiwn ymholi uchod. Wedyn, yn dilyn cyfarfod â fy mentor o Brifysgol Met Caerdydd, cafodd rhestr o gwestiynau grŵp ffocws ei llunio a'i hanfon i'r Brifysgol er mwyn cael adborth arni. Roedd nifer o gyfarfodydd eraill wedi cael eu cynnal â'r mentor, a fu o gymorth mawr drwy roi arweiniad gwerthfawr. Yn ystod un o'r cyfarfodydd hynny, lluniwyd y cwestiwn ymholi a chanllaw grŵp ffocws o ganlyniad i ddarllen llenyddiaeth berthnasol a thrafodaethau â fy mentor o Brifysgol Met Caerdydd.
    Cynllun
    Oherwydd natur yr ymholiad, roedd yn ymddangos bod angen dull ansoddol ac, i'r perwyl hwnnw, penderfynais ddechrau gyda grŵp ffocws. Dewisais wyth aelod o staff o wahanol oedrannau, cyfrifoldebau ac arbenigeddau, gan gynnwys cynrychiolydd o'n sector cynradd.
    Gan mai fi sy'n gyfrifol am hyfforddiant staff, penderfynwyd y gallai grŵp ffocws fod yn fwy gwrthrychol petai'n cael ei hwyluso gan aelod arall o'r Uwch Dîm Arwain. Mae gan yr athro penodol hwn brofiad o hyfforddi a chafodd ei friffio'n llawn ar y canllawiau ar gyfer grwpiau ffocws. Cynhaliwyd y grŵp ffocws ar ddiwrnod HMS pan fyddai hanner y staff allan mewn digwyddiadau hyfforddi mewn ysgolion eraill, felly dewiswyd aelodau'r grŵp ffocws o blith yr aelodau o staff a oedd yn weddill. Dim ond pum aelod o staff a gymerodd ran (heb gynnwys yr hwylusydd a fi) oherwydd salwch ac ymrwymiadau eraill. Roeddwn o'r farn eu bod yn dal i fod yn gynrychiolaeth deg o'r staff addysgu. Parodd y sesiwn am awr a chafodd ei recordio a'i thrawsgrifio ar y pryd.

    Ystyriaethau moesegol

    Dilynais ganllawiau moesegol yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Anfonwyd neges e-bost gychwynnol, yn amlinellu'r ymholiad a'i ddiben, at yr aelodau o staff a wahoddwyd i fod yn rhan o'r grŵp ffocws. Nodwyd yn glir iawn fod hyn yn wirfoddol. Ar ddechrau'r sesiwn grŵp ffocws, esboniais gefndir yr ymholiad gan ganolbwyntio ar y pwyntiau canlynol:

    • Diben y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol
    • Natur trefniadau'r grŵp ffocws
    • Sut y byddai eu cyfraniadau'n cael eu cofnodi
    • Sut y bydd eu cyfraniadau'n cyfrannu at yr ymholiad (yn anhysbys ac ati)
    • Cyfrinachedd
    • Beth fydd yn digwydd i adroddiad yr ymholiad

    Pwysleisiwyd natur wirfoddol eu cyfranogiad, a'u hawl i dynnu'n ôl o'r grŵp ffocws.
    Rhoddwyd taflen wybodaeth i'r cyfranogwyr a gwnaeth pob un ohonynt lofnodi'r ffurflen gydsynio.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Gwaith DeLuca et al (2015) oedd fwyaf perthnasol i fy ymholiad. Roedd gen i ddiddordeb yn y ffocws ar ymatebion myfyrwyr i gyfarwyddyd, sy'n creu cyswllt naturiol â gwella arferion yn yr ystafell ddosbarth yn benodol, ynghyd â newidiadau i'r addysgu. Roedd yn ymddangos bod y dull hwn yn un defnyddiol a all apelio at addysgwyr prysur a allai gwestiynu diben gwaith ymholi o ran gwella'r ffordd y mae disgyblion yn dysgu. Wrth ystyried sut i sicrhau bod mwy o staff yn cymryd rhan, roeddwn hefyd yn hoff o'r syniad o fframio ymholiad fel dysgu a rennir ynglŷn â chwestiwn neu bwnc cyffredin, a nodais fod prosiectau naill ai'n cael eu dewis gan yr athrawon neu yn unol â blaenoriaethau systemig (sydd ill dau yn ffyrdd o weithredu y tynnwyd sylw atynt yn ein gwaith yn 2017). Yr hyn a oedd yn arbennig o berthnasol i fy ymholiad oedd y disgrifiad o'r broses gylchol (o broses 3 cham i gynifer ag 11) a'r tair nodwedd strwythurol graidd a chydgysylltiedig, sef rhannu deialogaidd, gweithredu ac adfyfyrio. Mae'r ail gam, sef gweithredu, wedi'i wreiddio o fewn cyd-destunau dysgu ac addysgu a gwelais ei fod yn ddull addawol i'w ddilyn gyda chydweithwyr.
    Nodais fod angen i hwyluswyr fodelu'r sgiliau sydd eu hangen, ond bod angen annog eraill i gymryd perchenogaeth dros eu hymholiad eu hunain wedyn. Bydd yn bwysig cofio hyn yn nes ymlaen yn fy ymholiad, pan fydd aelodau eraill o staff yn cael eu cynnwys.
    Fel arweinydd ysgol, roeddwn yn awyddus i nodi pwysigrwydd darparu'r adnoddau sydd eu hangen a darparu model datblygiad proffesiynol wedi'i wreiddio lle y caiff y dysgu ei rannu'n ochrol. Roedd yn ymddangos i mi fod hwn yn rhywbeth i adfyfyrio arno yng ngwaith HMS 2017-18. A oedd model digonol ar gyfer rhannu'r dysgu, a pha adnoddau pellach y gellid bod wedi'u rhoi?
    Yn hollbwysig, nodwyd sawl gwaith bod angen sicrhau ymlaen llaw bod digon o amser a lle. Yn ddiddorol ddigon, mae'r erthygl hefyd yn nodi llwyddiant gwaith grŵp lle y caiff ymholwyr mwy profiadol eu rhoi i weithio gyda rhai sy'n fwy newydd i'r arfer. Mae hefyd yn nodi ei bod yn bwysig bod staff yn perchenogi'r broses a bod y diwylliant cywir yn cael ei greu. Anhawster pellach yw p'un a yw athrawon yn ddigon llythrennog o ran data i allu dadansoddi unrhyw ddata a gaiff eu casglu a'u llunio mewn modd ystyrlon ai peidio.
    Yng ngwaith Drew et al (2016) roedd gen i ddiddordeb yn y cwestiwn ynghylch rheolaeth, sef pwysigrwydd gofyn ‘ymholiad pwy?’ er mwyn creu perchenogaeth. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd cyfnodau amser a chymorth parhaus, gan ei fod yn cyfeirio at brosiectau sydd wedi ffynnu i ddechrau ond sydd wedi chwythu eu plwc wedyn ar ôl i'r cymorth gael ei dynnu'n ôl.

    Canfyddiadau cychwynnol

    C1: Cwricwlwm i Gymru – ble rydym ni arni?
    Dechreuodd y grŵp ffocws drwy drafod effaith ein gwaith i dreialu elfennau o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Diben y cwestiwn oedd agor y drafodaeth er mwyn annog pwyntiau ynglŷn â gweithredu yn y dosbarth drwy dreialu syniadau newydd. Rhoddwyd dalen o bapur i'r cyfranogwyr nodi (ar ffurf map meddwl) sut y gallent werthuso llwyddiant, neu ddiffyg llwyddiant, ein gwaith.
    Canfyddiadau:
    Ystyriwyd mai llais y disgybl oedd y prif ddull o werthuso ar ddiwedd y tymor cyntaf o dreialu. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â natur ailadroddus bosibl gwaith thematig, ynghyd â phrinder amser i werthuso'n llawn. Cytunwyd bod angen cynllunio'n ofalus iawn er mwyn osgoi ailadrodd.
    C2: Beth mae ‘ymholi’ yn ei olygu i chi?
    Dechreuodd y cyfranogwyr lunio map meddwl newydd i gasglu syniadau. Gwnaethant drafod eu profiad eu hunain o waith ymholi, o'r ymholiad a gyflawnwyd gan ddisgyblion fel rhan o'r cwrs Safon Uwch, i'w natur chwilfrydig eu hunain a'r ffordd y maent yn cymhwyso syniadau newydd yn yr ystafell ddosbarth yn sgil hynny.
    Canfyddiadau:
    Roedd rhai cyfranogwyr o'r farn mai dim ond rhan o waith y myfyrwyr oedd ymholi, tra soniodd eraill am ddarllen academaidd. Ni wnaed cysylltiad â'r hyn rydym wedi'i dreialu gyda'r Meysydd Dysgu a Phrofiad i ddechrau.
    C3: Sut y gall yr ysgol gynorthwyo'r broses ymholi/beth yw'r rhwystrau?
    Trafodwyd gwaith yr ysgol mewn triadau a nodwyd bod llawer mwy o bwys yn cael ei roi ar waith ymholi erbyn hyn yn y safonau proffesiynol newydd. Trafodwyd agweddau at waith ymholi mewn gwledydd eraill, yn ogystal â'r amser ychwanegol a roddir i athrawon gymryd rhan. Rhoddwyd llawer o bwyslais ar ddarllen academaidd yn hytrach na threialu unrhyw beth yn yr ystafell ddosbarth.
    Canfyddiadau:
    Amser yw'r prif rwystr i waith ymholi. Roedd pawb yn gweld gwaith ymholi fel ‘rhywbeth ychwanegol’ nad oedd ganddynt amser i gymryd rhan ynddo, a hynny ar draul eu dosbarthiadau. Hefyd, soniodd rhai am elfen o ofn a bod angen bod yn ddewr i roi cynnig ar ffyrdd newydd o addysgu. Roedd argaeledd llenyddiaeth (nad yw ar gael yn hawdd ar y rhyngrwyd), yn enwedig yn y Gymraeg, yn cael ei weld fel her.
    C4: Strwythur ar gyfer ymholi?
    Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r math o gymorth, os o gwbl, y gallai'r ysgol ei roi o ran darparu strwythur ar gyfer ymholi.
    Canfyddiadau:
    Er bod rhai athrawon o'r farn bod darparu strwythur yn amharu ar yr annibyniaeth sydd ei hangen mewn gwaith ymholi, teimlid y gallai strwythur fod yn opsiwn gwerthfawr.

    Cyfyngiadau

    Gan fod cyfle i dreulio amser yn trafod y safonau proffesiynol newydd a'r gwaith a wnaed mewn Meysydd Dysgu a Phrofiad, cafwyd sesiwn grŵp ffocws fywiog a buddiol. Roedd y cyfranogwyr yn barod iawn i rannu eu barn ac, er i'r drafodaeth ar rai cwestiynau grwydro ychydig, casglwyd llawer o wybodaeth werthfawr.
    Oherwydd maint y grŵp ffocws, nid oedd o reidrwydd yn cynrychioli'r staff cyfan. Mae pwysau o ran amser ac amserlenni mewn ysgol uwchradd yn ei gwneud hi'n anodd cwrdd fel grŵp, felly defnyddio amser HMS oedd y ffordd fwyaf ymarferol o gynnal y grŵp ffocws.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    O'r grŵp ffocws, mae'n amlwg mai'r rhwystr mwyaf i waith ymholi a chyfranogiad staff yw amser. Yn hynny o beth, mae darparu strwythur realistig, yn ogystal â strwythur clir, yn rhywbeth yr hoffwn ei archwilio ymhellach yn ystod y cam nesaf.
    Ar gyfer ymholiadau yn y dyfodol, rwy'n argymell strwythur y grŵp ffocws gan fod llawer iawn o wybodaeth werthfawr wedi cael ei chasglu ac am fod y staff yn teimlo'n gyfforddus. Argymhellir hwylusydd mwy annibynnol hefyd.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    DeLuca, C., Shula, J., Luhanga, U., Shula, L.M., Christou, T., a Klinger, D.A. (2015) Collaborative inquiry as a professional learning structure for educators: a scoping review, Professional Development in Education, 41:4, 640-670, DOI: 10.1080/19415257.2014.933120
    Drew, V., Priestley, M. a Michael, M.K. (2016). ‘Curriculum development through critical collaborative professional enquiry’, Journal of Professional Capital and Community, (1):92-106
    Parker, A. , Bush, A. a Yendol-Hoppey, D. (2016 ) Understanding Teacher Candidates’ Engagement with Inquiry-Based Professional Development: A Continuum of Responses and Needs, The New Educator, 12, 3, 221–242 http://dx.doi.org/10.1080/1547688X.2015.1027978

  • Cyswllt

    Holly Middleton
    southallh@hwbcymru.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gynradd gymunedol yn y Fflint a ariennir gan Gyngor Sir y Fflint yw Ysgol Gwynedd. Mae ganddi 489 o ddisgyblion ar hyn o bryd, ac mae 30.47% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan 26.78% o'r disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae Saesneg yn iaith ychwanegol i nifer sylweddol o'r disgyblion ac mae mwy na 30 o'r disgyblion yn aelodau o gymuned y teithwyr.

    Trosolwg ymholiad

    Ar gyfer cylch 4, byddwn yn ymchwilio i hyder ymarferwyr wrth ddefnyddio dulliau addysgegol ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Rydym yn bwriadu defnyddio dulliau ansoddol a meintiol i gasglu a dadansoddi data. Ffocws yr ymholiad fydd gofyn a yw athrawon yn teimlo bod angen rhagor o hyfforddiant arnynt i deimlo'n hyderus i gyflwyno'r Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd, a sut beth fyddai'r hyfforddiant hwn.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y bydd magu hyder athrawon mewn addysgeg yn arwain at newid?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Rydym yn defnyddio data ansoddol a meintiol. Diben y cylch hwn yw darparu ymholiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ategir gan lais athrawon. Gwnaethom lunio holiadur ar Forms i ganfod lefelau hyder ymarferwyr yn yr ysgol mewn perthynas â'r chwe MDPh a'r deuddeg egwyddor addysgegol (Donaldson 2015). Roedd y cwestiynau yn amrywio ac yn cynnwys cwestiynau penagored a chaeedig yn defnyddio graddfa Likert rhwng 1 a 5.
    Dosbarthwyd yr holiaduron i'r 18 aelod o staff addysgu yn ein hysgol er mwyn cael darlun cywir o safbwyntiau yn hytrach na sampl o safbwyntiau dethol. Neilltuwyd amser yn ystod cyfarfodydd er mwyn i bob cyfranogwr gwblhau'r arolwg. Yna dadansoddwyd yr ymatebion.
    Wedyn, cynhaliwyd grwpiau ffocws yn ôl ymatebion thematig er mwyn casglu mwy o ddata sy'n gynrychioliadol o'r lefelau hyder amrywiol yn ein hysgol. Yna cynhaliwyd cyfweliadau er mwyn dod o hyd i strategaethau i godi hyder ymarferwyr.
    Wedyn, cafodd y strategaethau hyn eu treialu â'r holl staff.
    Bwriedir ailadrodd yr arolwg er mwyn mesur effaith y strategaethau penodol a nodwyd.

    Ystyriaethau moesegol

    Rhoddwyd gwybod i bob aelod o'r staff beth fyddai disgwyl iddo ei wneud. Gofynnwyd am gydsyniad ar sail gwybodaeth gan bob cyfranogwr a gwnaethant roi'r cydsyniad hwnnw gan wybod y gallent dynnu'n ôl ar unrhyw adeg heb roi rheswm. Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r holl ddata yn ddienw.
    Cymeradwyodd Pwyllgor Moeseg Prifysgol Bangor yr ymchwil.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Gwnaethom gulhau ein ffocws ar adolygiad o lenyddiaeth (gweler y cyfeiriadau isod) sy'n ategu pwysigrwydd strategaethau addysgu effeithiol, ac sy'n cysylltu â'r ymholiad o safbwynt egwyddorion addysgegol (Donaldson, 2011, 2015; Elmore, 2004; Hargreaves a Fullan, 2012; Hattie, 2009; Payne, 2008; OECD, 2005). Mae Donaldson (2015: 63) yn cyfeirio at ‘y gyd-ddibyniaeth sylfaenol rhwng dibenion y cwricwlwm ac addysgeg’ ac yn dweud bod addysgeg ‘wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud athro neu athrawes ragorol.’ Cyfeiriwyd at O'Keeffe et al. (2019) a Jackson (2011) wrth ystyried effaith hyder mewn effeithiolrwydd ym maes addysgu a dysgu.

    Cyfeiriadau:
    Donaldson, G. (2011) Teaching Scotland’s Future: Report of a review of teacher education in Scotland. Caeredin: Llywodraeth yr Alban.
    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Elmore, R. F. (2004) School Reform from the Inside Out: Policy, Practice And Performance. Caergrawnt, MA: Harvard Education Press
    Hargreaves, A. a Fullan, M. (2012) Professional Capital: Transforming Teaching in Every School. Efrog Newydd: Teachers College Press.
    Hattie, J (2009) Visible Learning: A Synthesis of Over 800 Meta-analyses Relating to Achievement. Llundain: Routledge.
    Jackson, Y. (2011) The Pedagogy of Confidence: Inspiring High Intellectual Performance in Urban Schools. Efrog Newydd: Teachers College Press.
    OECD (2005) Teachers Matter: Attracting, Developing and Retaining Effective Teachers. Paris: OECD. https://www.oecd.org/education/school/34990905.pdf
    O'Keeffe, L., Paige, K. ac Osborne, S. (2019) ‘Getting started: exploring pre-service teachers' confidence and knowledge of culturally responsive pedagogy in teaching mathematics and science. Asia-Pacific Journal of Teacher Education, 47:2, 152-175, DOI: 10.1080/1359866X.2018.1531386
    https://www.tandfonline.com/doi/pdf/10.1080/1359866X.2018.1531386?needAccess=true
    Payne, C. M. (2008) So Much Reform, So Little Change: The Persistence of Failure in Urban Schools. Caergrawnt, MA: Harvard Educational Press.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r data sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod y mwyafrif o'r staff yn teimlo'n hyderus iawn yn eu dealltwriaeth o'r deuddeg egwyddor addysgegol (Donaldson, 2015:63).
    Roedd y mwyafrif o'r staff yn teimlo na fyddai angen i'w harddulliau addysgu newid ond dywedodd traean ohonynt y byddai angen iddynt newid eu harddulliau o bosibl.
    Un o'r rhesymau a roddwyd am hyn oedd y gallai fod angen i wersi fod yn llai rhagnodedig a'u harwain yn fwy gan y dysgwyr a thynnodd un ymatebwr arall sylw at yr angen i'n hysgol ddefnyddio mwy o ddulliau dysgu digidol, a chyflwyno mwy o Gymraeg ar draws y cwricwlwm.

    Roedd angen rhywfaint o arweiniad ar y mwyafrif o'r staff cyn y byddent yn teimlo'n barod i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
    Roedd yr arweiniad a awgrymwyd yn cynnwys:
    Sut y bydd cam cynnydd 1 yn cefnogi'r cyfleoedd dysgu i'n dysgwyr ifanc;
    Mwy o gydweithio a hyfforddiant ar sut mae athrawon ac ysgolion eraill yn rhoi'r Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd ar waith;
    O bosibl, mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng pob adran - cyfle i edrych yn fanylach ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad a thrafod cyfleoedd i wneud cynnydd ym mhob cyfnod allweddol.
    Mae'r canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod athrawon yn ein hysgol yn teimlo'n weddol hyderus yn eu dulliau addysgegol, ond roeddent yn teimlo bod angen mwy o amser a chyfleoedd arnynt i edrych yn fanylach ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Rhoddwyd pwyslais ar feithrin dealltwriaeth o gynnydd o fewn y Cwricwlwm i Gymru, pwysigrwydd cydweithio â'u cydweithwyr yn gyntaf ac ymestyn hyn i'r grŵp clwstwr ehangach maes o law hefyd.

    Cyfyngiadau

    Cydnabyddir bod cyfyngiadau a'u bod yn gysylltiedig â chyfraddau ymateb a chynrychioldeb y data; bydd y rhain yn peri mwy o bryder pan gaiff y cylchoedd ymchwil eu hymestyn i grwpiau clwstwr ehangach.
    Mae camau lliniaru yn cael eu cymryd i oresgyn y cyfyngiadau hyn.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae argymhellion sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod HMS ychwanegol yn ddefnyddiol gan fod hyn yn rhoi amser i ymarferwyr edrych yn fanylach ar elfennau allweddol y Cwricwlwm i Gymru gan gynnwys y Meysydd Dysgu a Phrofiad, y Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig a'r Camau Cynnydd (Disgrifiadau Dysgu).
    Mae Canllawiau Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020) yn anelu at ‘ helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at pedwar diben y cwricwlwm.’ Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
    https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cyflwyniad/#a-vision-for-every-school%E2%80%99s-curriculum

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Elmore, R. F. (2004) School Reform from the Inside Out: Policy, Practice And Performance. Caergrawnt, MA: Harvard Education Press
    Hargreaves, A. a Fullan, M. (2012) Professional Capital: Transforming Teaching in Every School. Efrog Newydd: Teachers College Press.
    Hattie, J. (2009) Visible Learning: A Synthesis of Over 800 Meta-analyses Relating to Achievement. Llundain: Routledge.
    OECD, (2005) Teachers Matter: Attracting, Developing and Retaining Effective Teachers. Paris: OECD. https://www.oecd.org/education/school/34990905.pdf
    Payne, C. M. (2008) So Much Reform, So Little Change: The Persistence of Failure in Urban Schools. Cambridge, MA: Harvard Educational Press.

  • Cyswllt

    Melissa Calder-Matthews
    Melissa.Calder-Matthews@bvc.schoolsedu.org.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    • Ystod oedran 3-11 prif ffrwd
    • ALl Torfaen
    • 505 o ddisgyblion – dwy ffrwd
    • 28% prydau ysgol am ddim 35% ADY

    Trosolwg ymholiad

    Pa ffactorau sy'n effeithio ar gymhelliant staff wrth iddynt roi'r cwricwlwm newydd ar waith?

    Cwestiwn Ymholi

    Pa ffactorau sy'n effeithio ar gymhelliant staff wrth iddynt weithredu'r cwricwlwm newydd?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Er mwyn nodi barn gyffredinol a dealltwriaeth y staff ar ddechrau'r ymholiad hwn, ystyriwyd y byddai arolwg yn adnodd ymchwil cychwynnol effeithiol. Cafodd yr arolwg ei greu gan ddefnyddio porth ar-lein ac roedd yn cynnwys wyth cwestiwn. Un o fanteision defnyddio'r arolwg oedd ei bod yn hawdd i bobl gael gafael arno. Anfonwyd gwahoddiad dolen ar-lein at bob athro yn yr ysgol, ugain i gyd, yn gofyn iddynt ymateb yn onest. Drwy ddarparu'r arolwg ar-lein, bu modd i'r athrawon ei gwblhau ar adeg a oedd yn gyfleus iddynt. Gofynnwyd cymysgedd o gwestiynau. Roedd rhai yn gofyn am sgôr o ddim i bump, ac roedd eraill yn gofyn am ysgrifennu'r ateb neu ddewis opsiynau a oedd yn berthnasol. Defnyddiwyd y cwestiynau sgorio i ganfod teimladau'r athrawon ynghylch pa mor barod oedd yr ysgol a nhw eu hunain fel ymarferwyr i weithredu'r cwricwlwm newydd. Gofynnwyd i'r athrawon ddewis opsiynau yn dynodi unrhyw gymorth neu hyfforddiant a gafwyd wrth weithredu'r cwricwlwm newydd, yn ogystal ag unrhyw faterion y credwyd y byddent yn effeithio arnyn nhw a'r ysgol wrth iddi wneud cynnydd effeithiol o ran mabwysiadu'r cwricwlwm newydd. Gofynnwyd cwestiynau agored er mwyn canfod barn ac ymatebion mwy unigol ynghylch y ffactorau yr ystyriwyd eu bod yn effeithio ar gymhelliant staff o ran gweithredu'r cwricwlwm newydd.
    Dewiswyd cynnal arolwg am ei fod yn ddull effeithiol o gasglu llawer o ymatebion ar gam cynnar. Am ei fod yn cael ei gynnal ar-lein, bu modd i'r ymholwr arweiniol olrhain ymatebion mewn amser real, a defnyddio'r adnodd data ac ystadegau i ystyried anomaleddau a chyfartaleddau'r holl ymatebion a roddwyd. Er i'r staff gael eu hysbysu am ddiben cynnal yr arolwg drwy gyfarfod wyneb yn wyneb, roedd yr arolwg yn anhysbys er mwyn annog ymatebion dibynadwy a dilys.
    Bydd y cam nesaf o ran casglu data ar gyfer yr ymholiad hwn yn cynnwys cyfweliadau lled strwythuredig â phedwar aelod o staff yn y ddau gyfnod allweddol. Hefyd, bwriedir cynnwys un athro datblygiad proffesiynol cynnar yn y sampl hon. Cofnodir a thrawsgrifir hyn er mwyn nodi ffactorau neu faterion cyffredin sy'n effeithio ar gymhelliant wrth weithredu'r cwricwlwm newydd.

    Ystyriaethau moesegol

    Er mwyn gwneud gwaith ymholi llwyddiannus, roedd angen ystyried moeseg er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch a bod yr ymchwil yn cael ei chynnal mewn ffordd foesegol. At ddiben yr ymholiad hwn, penderfynwyd nad oedd angen cynnwys y disgyblion o'r cychwyn. Roedd yr ymholiad yn canolbwyntio ar gymhelliant y staff, sef athrawon, ac felly nid oedd angen ystyried plant hefyd ar y cam hwn. Er mwyn sicrhau bod tegwch a pharch yn glir i bawb yn yr ymholiad hwn, dilynwyd Canllawiau Moesegol BERA ar gyfer Addysg gan yr ymholwr arweiniol a'u rhannu â'r rheini y bwriadwyd iddynt gymryd rhan ar ddechrau'r cylch.
    Ceisiwyd cydsyniad gwirfoddol ar sail gwybodaeth a wnaeth alluogi'r bobl dan sylw i ddeall yr hyn y byddai angen iddynt ei wneud, sut y byddai eu data yn cael eu defnyddio, a pham roedd yr ymchwil hon yn cael ei chynnal. Esboniodd yr ymholwr arweiniol ei rôl ddeuol yn yr ymholiad fel yr unigolyn a oedd yn gyfrifol am gwblhau'r ymchwil a chyflawni rôl uwch-athro arweinydd yn yr ysgol. Er mwyn lleddfu unrhyw bryderon ynghylch cydberthnasau proffesiynol a sut y byddai'r data yn cael eu defnyddio, tanlinellwyd y byddai'r arolwg cychwynnol yn cael ei gwblhau'n anhysbys. Unwaith eto, atgoffwyd staff y gallent dynnu'n ôl ond gwnaeth y rhan fwyaf o'r staff gytuno i gwblhau'r agwedd hon ar yr ymholiad. Hefyd, treialodd yr ymholwr arweiniol yr arolwg gyda grŵp bach o ymarferwyr allanol er mwyn canfod yr amser a gymerwyd i'w gwblhau fel na fyddai'n anghyfleus i'r staff nac yn ychwanegu at eu 'baich biwrocrataidd'.
    Mae'r ysgol lle cyflawnir yr ymholiad hwn yn ffodus bod ganddi nifer mawr o staff â lefelau amrywiol o brofiad. Ystyrir hyn ar gam nesaf y cyfweliadau lledstrwythuredig. Bwriedir cwblhau hyn gyda phedwar aelod o staff yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol Dau, a bydd dynion a menywod yn cymryd rhan.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Nid yw newid cwricwlwm yn gysyniad newydd nac yn un sydd heb ei broblemau a'i ddiffygion posibl. Yng Nghymru, fel rhan o'r broses o weithredu'r cwricwlwm newydd, rhoddwyd cryn bwyslais ar weithgorau, ysgolion arloesi ac asiantaethau addysg yn llunio dogfennaeth sy'n amlinellu bwriadau'r cwricwlwm newydd. Mae adnoddau yn cael eu llunio, mae rhwydweithiau dysgu yn lledaenu gwybodaeth allweddol, ac mae rhywfaint o gymorth o ran datblygiad proffesiynol yn cael ei gynnig. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, ystyrir mai hyn yw elfen wannaf y gwaith o ddiwygio'r cwricwlwm yn y wlad. Mae'r cwestiwn ymholi yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n effeithio ar gymhelliant staff o ran sicrhau eu bod yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd fel y'i bwriadwyd, ac mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â dealltwriaeth ac addysgeg ymarferwyr.
    Dros hanner canrif yn ôl, cydnabu Miel (1946) elfen ddynol effaith wrth newid y cwricwlwm yn llwyddiannus:
    "To change the curriculum of the school is to change the factors interacting to shape that curriculum. In each instance this means bringing about changes in people—in their desires, beliefs, and attitudes, in their knowledge and skill. Even changes in the physical environment, to the extent that they can be made at all, are dependent upon changes in the persons who have some control over that environment. In short, the nature of curriculum change should be seen for what it really is—a type of social change, change in people, not mere change on paper."
    Mae hyn yn awgrymu, drwy gydol ein hanes, y bu'n hollbwysig ystyried sut y bydd ymarferwyr yn ymaddasu i'r newidiadau ac mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw. Rhoddir pwyslais ar ailaddysgu gweithwyr proffesiynol o ran gwybodaeth, sgiliau ac agweddau. Ac, o ystyried hyn i ddechrau, credir mai agwedd, ynghyd â hyder, a allai effeithio ar weithredu cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. A yw credoau personol, agwedd a phrofiad athro yn llywio'r ffordd mae'n ymgysylltu â'r gwaith diwygio?
    Mae Rogan a MacDonald (1985) wedi trafod i ryw raddau y syniad bod angen strwythur cadarn ar ymarferwyr i ddechrau cyn iddynt gael 'rhwydd hynt' i fabwysiadu ystod ehangach o addysgegau a dulliau o gyflwyno'r cwricwlwm newydd:
    “Curriculum developers . . . walk a tightrope on the issue of structure versus freedom. Initially, some structure is desirable, but unless relaxed as teachers grow professionally, it is likely to prove detrimental rather than beneficial.”
    Felly, unwaith eto, dychwelir at ffactorau profiad, agwedd a hyder a nodwyd gan Ross (1998) a Smylie (1990) lle trafodir sut mae credoau athrawon ynghylch eu heffeithlonrwydd proffesiynol unigol yn ymwneud yn sylweddol ag effeithiolrwydd eu harferion yn yr ystafell ddosbarth, dysgu myfyrwyr, a'r tebygolrwydd y byddant yn ymgysylltu â mentrau gwella ysgol ac ystafell ddosbarth.
    Daeth papur a ysgrifennwyd gan Leithwood, Steinbach a Jantzi (2002) i'r casgliad bod ymarferwyr, yn ogystal â ffactorau agwedd a phrofiad, hefyd yn ystyried pa adnoddau addas roedd eu hangen er mwyn cyflwyno'r cwricwlwm diwygiedig, goblygiadau newid, atebolrwydd fel gweithiwr proffesiynol ac arweinyddiaeth effeithiol fel materion allweddol i'w hystyried pan eir ati i ddiwygio'r cwricwlwm yn llwyddiannus.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r canfyddiadau cychwynnol hyn yn gwbl seiliedig ar yr ymatebion i'r arolwg a ddosbarthwyd. O blith cyfanswm o ugain o ymatebwyr posibl, cafodd 12 o arolygon eu cwblhau a'u cyflwyno.
    Gofynnwyd cwestiwn i'r ymatebwyr ystyried pa mor barod oedd yr ysgol am y cwricwlwm newydd. Roedd yr ymatebion a gafwyd yn gyson, gyda'r rhan fwyaf o'r farn bod yr ysgol wedi darparu ar gyfer y cwricwlwm newydd ond y byddai angen datblygu ymhellach. Ategwyd hyn yn eu hymatebion i'r cwestiwn am eu parodrwydd personol – dim ond dau a nododd eu bod yn teimlo'n gwbl barod i ymgysylltu â'r cwricwlwm newydd. Mae hyn yn awgrymu bod staff yr ysgol yn teimlo y gall fod angen datblygiad proffesiynol a chymorth pellach er mwyn ymgysylltu â'r polisïau addysg a'r cwricwlwm newydd cyn i'r staff deimlo'n hyderus o ran ei weithredu'n effeithiol.
    Cafwyd yr ymatebion mwyaf diddorol, a chraff o bosibl, i gwestiwn a ofynnwyd am ba mor 'gyffrous' roedd yr ymatebwyr yn teimlo am ymgysylltu â'r cwricwlwm newydd, a'i weithredu. Mae'r elfen ddynol yn chwarae rhan yn hyn am fod barnau ac agweddau'n amrywio cymaint. Dywedodd tri aelod o staff nad oeddent yn teimlo'n gyffrous o gwbl am y syniad o bolisïau newydd a'r cwricwlwm ac, i'r gwrthwyneb, dywedodd pedwar aelod o staff eu bod yn teimlo'n gyffrous iawn. Gallai hyn danlinellu ffactor a fyddai'n effeithio ar y staff i gyd os yw agweddau tuag at newid yn amrywio cymaint. Gall fod angen i arweinwyr, ar lefel ysgol ac ar lefel genedlaethol, ystyried y ffordd orau o gynnwys pob ymarferydd ar lefel a fydd yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol at ddiwygio addysgol. Mae angen iddo fod yn faes y mae pob gweithiwr addysg proffesiynol yn ei ystyried yn gyfle cadarnhaol.
    Cydnabu pawb gyfleoedd datblygu proffesiynol a chyfleoedd i ymgysylltu â'r cwricwlwm newydd yn ystod cyfarfodydd staff a diwrnodau HMS. Fodd bynnag, dynododd nifer bach, dim ond tri, fod cyfleoedd ar gael iddynt yn allanol, yr ymchwiliwyd iddynt ymhellach yn ystod eu hamser eu hunain, neu eu bod wedi bod ynghlwm wrth weithgareddau 'Arloesi' uniongyrchol. Mae hyn yn awgrymu bod angen gwneud mwy o waith i gynnwys y staff addysgu cyffredinol mewn cyfleoedd datblygu sy'n eu galluogi i ymgysylltu'n llawn â'r cwricwlwm newidiol. Gobeithio y bydd hyn yn sicrhau gwell 'perchenogaeth' a dealltwriaeth o sail resymegol y gwaith diwygio a'r newidiadau polisi.
    Rhoddwyd y cyfle i'r ymatebwyr ddewis y ffactorau a fyddai, yn eu barn nhw, yn effeithio ar eu hymgysylltiad effeithiol â'r cwricwlwm newydd. Y ffactor mwyaf perthnasol, a nodwyd gan 75% o'r ymatebwyr, oedd atebolrwydd. Yr ail ffactor mwyaf cyffredin, a nodwyd gan 67% o'r ymatebwyr, oedd yr amser roedd ei angen i wneud y newidiadau angenrheidiol. Y trydydd ffactor, a nodwyd gan 50% o'r ymatebwyr, oedd yr hyder i wneud newidiadau. Ystyrir bod y rhain yn ganlyniadau dibynadwy o'r ffactorau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar gymhelliant am fod y cwestiwn hwn yn seiliedig ar deimladau'r staff eu hunain a'u dehongliad nhw eu hunain.

    Cyfyngiadau

    Mae'r canlyniadau a gasglwyd hyd yma yn seiliedig ar sampl fechan o staff, 12 i gyd, er i'r arolwg gael ei rannu ag ugain o ymarferwyr. Mae'r canlyniadau a gasglwyd hefyd yn seiliedig ar ymatebion personol i arolwg y gallai ei gwmpas fod yn gyfyngedig o ran meithrin dealltwriaeth o'r ffactorau a ddynodwyd am nad oedd yn galluogi'r Ymholwr Arweiniol i holi am y rhesymau dros yr ymatebion hynny ymhellach.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    (i) Ystyriwyd bod arolwg yn ffordd effeithiol o sicrhau bod cynifer â phosibl yn ymateb. Roedd modd cael gafael arno'n hawdd, nid oedd yn gofyn am lawer o amser gan yr ymarferwyr, a gwnaeth alluogi'r Ymholwr Arweiniol i feithrin dealltwriaeth gychwynnol o themâu a ffactorau cyffredin. Yn y cylch nesaf, cwestiynir y materion cyffredin sydd wedi dod i'r amlwg ymhellach ac yn ystod cyfweliad lled-strwythuredig â sampl lai o gyfranogwyr.
    (ii) Gall fod yn fwy priodol neilltuo cyfnod o wythnos i staff gwblhau'r arolwg. Nodwyd bod y rhan fwyaf yn fwy na pharod i gymryd rhan, ond nad oeddent wedi llwyddo i gwblhau'r arolwg oherwydd cyfyngiadau llwyth gwaith. Gallai gosod dyddiad cwblhau annog ymateb mwy prydlon efallai. Nid oedd natur arolwg yn galluogi ymatebwyr i ymhelaethu ar yr ymatebion fel arfer. Roedd cyfleoedd iddynt ysgrifennu mewn adrannau byr ond dewisodd y rhan fwyaf beidio â gwneud hynny.
    (iii) Yn seiliedig ar drafodaeth anffurfiol a'i dybiaethau personol ei hun, cynigiodd yr Ymholwr Arweiniol restr o ffactorau posibl a oedd yn effeithio ar ymgysylltiad a chymhelliant cyfranogwyr i ddewis o'u plith fel y rhai a oedd fwyaf perthnasol i'w hymarfer eu hunain fel rhan o'r arolwg. Bu hyn yn effeithiol am fod ffactorau atebolrwydd, amser a hyder ymarferwyr eisoes wedi'u hystyried yn ffactorau allweddol, ac roedd canlyniadau'r arolwg yn dilysu hyn.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Miel, Alice, Changing the Curriculum, Efrog Newydd: Appleton-Century-Crofts. Inc., 1946, t. 10.
    Rogan, J. M., a Macdonald, M. A. (1985). The in-service teacher education component of an innovation: A case study in an African setting. Journal of Curriculum Studies, 17, 63 – 85.
    Leithwood, K., Steinbach, R. a Jantzi, D., 2002. School Leadership and Teachers’ Motivation to Implement Accountability Policies. Educational Administration Quarterly, 38(1), tt.94-119.

  • Cyswllt

    Jeremy Malessa-Thompson

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae 437 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 58 yn nosbarth meithrin yr ysgol. Mae'r disgyblion wedi'u rhannu'n 15 o ddosbarthiadau.
    Mae tua 8% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%. Mae ambell ddisgybl yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Mae ambell ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref. Mae ychydig o'r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, a dim ond ddiweddar iawn yr ymunodd llawer o'r disgyblion hyn â'r ysgol.
    Mae'r ysgol wedi nodi bod gan tua 12% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25%. Nifer bach iawn o'r disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.
    Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn ysgol arloesi ac mae'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau mewn perthynas â'r cwricwlwm a mathau eraill o ddysgu proffesiynol.

    Trosolwg ymholiad

    Sut y gall ysgolion wella datblygiad proffesiynol i staff?

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gall ysgolion wella datblygiad proffesiynol i staff?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Y dull methodolegol rydym yn ei ddefnyddio wrth gyflawni'r prosiect cylch un hwn ar ddysgu proffesiynol yw astudiaeth achos. Nodwyd o'r gwaith darllen bod gwaith ymchwil deongliadol a dull astudiaeth achos yn bartneriaid naturiol, am eu bod ill dau yn chwilio am ddealltwriaeth ddwys a chyfoethog o'r ffenomenau yr ymchwilir iddynt. Felly, bydd mabwysiadu dull sy'n defnyddio astudiaeth achos yn helpu i ateb fy nghwestiynau ymchwil yn effeithiol. Disgrifir astudiaeth achos fel y gallu i weld rhywbeth yn ei gyflawnrwydd. Drwy edrych ar ddysgu proffesiynol yn y ffordd hon, gallaf archwilio gwaith ymchwil o sawl ongl wahanol. Yn ogystal â hyn, mae astudiaeth achos yn fuddiol am fod y dull methodolegol hwn yn fodd i archwilio cwestiynau ‘ble’ a ‘pham’. Ar gyfer y prosiect hwn, mae hyn yn golygu y gall y lens a ddefnyddir i edrych ar ddysgu proffesiynol archwilio'r maes hwn i unrhyw ehangder a dyfnder – mae archwilio rhywbeth yn fanwl yn fodd i feithrin a gwella dealltwriaeth o'r term a'i effaith.
    Mae i ddull astudiaeth achos fanteision amlwg, gan gynnwys llawer o anhysbysrwydd i'r cyfranogwyr a chyfleoedd i wneud gwaith fel ‘grwpiau ffocws’. Yn aml, caiff astudiaethau achos eu gweld fel prosiectau ymchwil ansoddol, sy'n gallu dadansoddi data mewn ffordd ddeongliadol gan edrych ar y cyd-destun ac ystyried yr amrywiaeth eang o ystyron y mae cyfranogwyr yn eu cynnig. Oherwydd nod a hyd y prosiect, mae'n debygol mai astudiaeth achos ffiniedig a ddefnyddir.
    Wrth benderfynu ar y dull astudiaeth achos, ystyriwyd yr anfanteision posibl hefyd. Mae'n cyflwyno problemau fel cyfyngu ar y gallu i gyffredinoli'r gwaith ymchwil. Fodd bynnag, nid wyf am i'r broses ymholi hon gael ei chyffredinoli gan mai cyd-destun y gwaith ymchwil astudiaeth achos hwn yw helpu i lywio anghenion dysgu proffesiynol yr ysgol yn y dyfodol.

    Ystyriaethau moesegol

    Drwy gydol y gwaith ymchwil, cynhelir grwpiau ffocws a sesiynau holi. Bydd yn bwysig cael cydsyniad (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn unol â'r canllawiau a ddarparwyd. Gan y bydd y gwaith ymchwil hwn yn cael ei gyflawni yn fy ysgol, byddaf yn sicrhau fy mod wedi nodi risgiau fel ymchwilydd mewnol, megis tuedd. Rwy'n ymwybodol y bydd y gwaith ymchwil yn cydymffurfio â chanllawiau BERA (2018) er mwyn sicrhau y gallaf barhau â'm data yn foesol gan fod yn sicr nad wyf yn croesi unrhyw ffiniau moesegol.
    Gan y bydd staff yn cymryd rhan yn y gwaith ymchwil, byddaf yn defnyddio'r ffurflenni cydsynio priodol ac yn rhoi gwybodaeth glir ar drefniadau optio i mewn ac allan.
    Mae'n anodd sicrhau anhysbysrwydd llwyr am fod y sampl yn perthyn i un ysgol a grŵp o staff.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Ceir llawer o erthyglau, llyfrau a chyfnodolion sy'n disgrifio'r hyn sy'n gwneud addysgu gwych. Maent yn rhoi adborth ar sut i gynllunio, addysgu (Lemov., 2011) ac asesu gan roi adborth (Christodoulou, n.d.). Er hyn, ymddengys fod prinder gwaith ar ddatblygu systemau priodol ar gyfer datblygiad proffesiynol.

    Mae gwaith Bjork a Bjork (2007) ar adael lle a chymysgu dulliau (‘spacing and interleaving’ yn Saesneg) yn nodi mai dim ond ychydig bach o wybodaeth y gall bodau dynol ei dal mewn yn y cof byrdymor, a bod angen ei throsglwyddo i'r cof hirdymor i'w dysgu. Un ffordd o wneud hyn yw addysgu'r wybodaeth, gadael lle, ac yna atgyfnerthu'r wybodaeth drwy amrywiaeth o ddulliau. Caiff y dull hwn ei ddefnyddio gan ysgolion ar gyfer disgyblion, ond ni allwn ddod o hyd i dystiolaeth ohono'n cael ei ddefnyddio ar lefel broffesiynol. Gadael lle a chymysgu dulliau mewn datblygiad staff er mwyn atgyfnerthu a gwreiddio'r dysgu?
    Yn rhy aml, mae hyfforddiant ar y technegau uchod yn canolbwyntio ar syniad mewnblyg fel yr awgrymwyd gan Cain, S. (2012) yn ei gwaith. Rhaid i ddealltwriaeth o natur y proffesiwn a'i weithwyr fod yn sail i ddysgu proffesiynol, ond mae cael system sy'n ymddangos fel petai'n gwyro tuag at bobl allblyg a pherfformwyr yn peri i rywun feddwl am natur y swydd ac a yw cwricwlwm newydd yn gwyro'r mesurau atebolrwydd sy'n ei hategu yn yr un modd. O adfyfyrio ar hyn, a yw dysgu proffesiynol yn yr ysgol yn targedu angen y sefydliad neu'n rhoi adloniant allblyg, ac a yw dysgu proffesiynol fel 'adloniant rhyfeddod un diwrnod' yn gwella'r ysgol?

    Rhoddir mwy o sylw i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y tu allan i fyd addysg. Mae Gawande (2010) yn trafod systemau a phrosesau i hyfforddi a datblygu gweithwyr proffesiynol eraill, a'r hyn a ddysgir o'r gwallau a'r camgymeriadau a geir mewn diwydiannau a phroffesiynau eraill er mwyn gallu mireinio gwaith a datblygiad proffesiynol. Mae hyn yn codi mater diddorol o ran faint y caiff methiannau addysgol eu dogfennu ac i ba raddau yr ymchwilir iddynt, a sut y cânt eu defnyddio i hyfforddi staff eraill. Beth fyddai'r rhwystrau rhag rhannu methiant o fewn y gyfundrefn arolygu bresennol a beth fyddai angen digwydd er mwyn sicrhau y byddai systemau'n cael eu gwerthuso a'u rhoi ar waith yn genedlaethol?

    Canfyddiadau cychwynnol

    Ar ôl darllen am y maes pwnc, mae'n ymddangos bod ‘lle’ yn derm gwell ar gyfer deall y rhwystrau rhag gwella dysgu proffesiynol mewn ysgolion. Mae hyn nid yn unig yn cyfeirio at yr amser ar gyfer y gweithgaredd a'r gweithgaredd ei hun, ond hefyd at yr adnoddau mewn system addysg orlawn. Gan nad wyf wedi gweithio gydag uwch-arweinwyr, mae'n anodd canfod safbwyntiau penaethiaid a dirprwy benaethiaid ar hyn.
    Mae gan ganfyddiadau ym maes datblygiad staff mewn perthynas â dysgu proffesiynol hanes cymhleth. Mae hyn yn cyd-fynd ag amrywiadau mewn hyfforddiant a llwybrau hyfforddi, gan fod gan athrawon o wahanol lwybrau brofiadau a chysylltiadau tra gwahanol. Roedd yn ddiddorol nodi nad oedd yr holl hyfforddiant a gafwyd cyn ymuno â'r proffesiwn addysgu yn cael ei werthfawrogi, ac ni ffurfiwyd unrhyw gysylltiadau rhwng dulliau dysgu cyn ac ar ôl SAC, na'r gweithgareddau weithiau.
    O ran datblygiad a hyfforddiant mewn swydd, roedd yn ymddangos bod diffyg eglurder ynghylch a oes gan ysgolion ddealltwriaeth glir o'r rhain a'r ffordd y cânt eu defnyddio, nid yn unig yn ystod y flwyddyn ond dros y cylch o nifer o flynyddoedd. Mae athrawon yn ymwybodol o'r diwrnodau hyfforddiant, a'u ffocws o bosibl, am hyd at 12 mis efallai (un flwyddyn academaidd). Nid yw bob amser yn glir sut mae dysgu proffesiynol yn meithrin gallu athrawon i weithredu gan fod hyfforddiant gorfodol fel Amddiffyn Plant, Cymorth Cyntaf a mathau eraill o hyfforddiant sydd eu hangen ar yr ysgol gyfan yn aml yn rhan o HMS. Yn hanesyddol, cafodd rhai cyfleoedd dysgu proffesiynol eu colli oherwydd gweithgareddau fel cyfarfodydd â rhieni ac ysgrifennu adroddiadau. Yn ogystal â hyn, nododd athrawon fod y dyraniad amser uniongyrchol o 1265 awr yn cyfyngu ar y lle sydd ar gael yn y flwyddyn ysgol i ymgymryd â gwaith dysgu proffesiynol.
    Nid oedd y staff i gyd yn rhoi gwerth mawr ar ddysgu proffesiynol, am eu bod yn ei weld fel haen arall o dasgau a gweithgareddau nad oedd bob amser wedi'u gwahaniaethu yn unol â'u hanghenion. Roedd hyn yn ychwanegol at nodi bod cydberthynas gymhleth rhwng dysgu proffesiynol a'u swydd addysgu. Nid oedd consensws clir ynglŷn â'r amser gorau i ddysgu – cyn, yn ystod neu ar ôl y diwrnod ysgol neu fel HMS. Roedd manteision ac anfanteision dealladwy i bob un ohonynt. Roedd y cymhlethdod hwn hefyd yn bodoli i'r staff rhan-amser a'r rhai a oedd yn rhannu swyddi. Cafwyd ymateb cymysg i'r cwestiwn a fyddai dysgu proffesiynol achrededig yn gwella'r arlwy neu'n sicrhau bod mwy o staff yn cymryd rhan.

    Cyfyngiadau

    Oherwydd y cyfyngiadau amser a'r lefel dyfnder sy'n bosibl, mae'n bwysig cydnabod maint bach y sampl o gyfranogwyr a ddefnyddiwyd a'r amser ac ansawdd y data y gellir eu casglu o fewn y cyfnod yn seiliedig ar ehangder y materion a gododd.
    Mae hefyd yn bwysig nodi y byddai angen cyflawni gweithgareddau dilynol pellach i archwilio'r themâu a ddaeth i'r amlwg er mwyn cwblhau'r darn hwn o waith.
    Mae llawer o honiadau'n seiliedig ar niferoedd ystadegol gyfyngedig nad ydynt yn cynrychioli'r gweithlu ehangach o bosibl.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Methodd llawer o'r staff â nodi effaith y dysgu proffesiynol y maent wedi'i gael ac ni allent gyfleu ei effaith ar gynnydd disgyblion. Lle y nodwyd effaith, roedd yn gysylltiedig â datblygiad proffesiynol dros amser, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ac atgyfnerthu'r dysgu, ac wedi'i chefnogi gan le yn yr ysgol i adfyfyrio a gwneud newidiadau. Efallai fod cynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol hirdymor (aml-flwydd) yn bwysig ond, er mwyn gwneud hyn, byddai angen dull gwahanol mewn perthynas â'r lle sydd ar gael iddo.

    Gallai rhai o'r staff nodi'r effaith ar eu dealltwriaeth broffesiynol eu hunain, ond roedd hyn fel arfer mewn meysydd 'pwnc craidd' traddodiadol. Pa fath o athrawon sydd eu hangen ar y system addysg yng Nghymru, a pha mor sicr ydym ni o ran cyflawni hyn dros amser? A oes cynllun i ddatblygu pob gweithiwr proffesiynol, neu ddim ond grwpiau targed?

    Cyfeiriodd rhai o'r staff at ddysgu proffesiynol ar ffurf hyfforddiant allanol, ac roeddent o'r farn bod hyn wedi lleihau dros y 10 mlynedd diwethaf am nad oes cyrsiau'n cael eu cynnal mor aml. Awgrymodd hyn y gallai fod problem o ran iaith gyda'r derminoleg a ddefnyddir ar gyfer datblygiad proffesiynol ac y gallai'r staff ei weld fel digwyddiad yn hytrach na thaith.

    Roedd ymdeimlad bod llwyth gwaith yn rhwystr rhag dysgu proffesiynol gwell, a bod hyfforddiant diweddaru yn cymryd llawer o'r amser a neilltuir ar gyfer diwrnodau HMS.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    n/a

  • Cyswllt

    Paul Smith
    (supported by Matt Gilbert, Polly Davies, Donna Evans - SLT)

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Ynys y Barri yn gwasanaethu cymuned Ynys y Barri o fewn awdurdod lleol Bro Morgannwg.
    Mae'r ardal yn gymharol ddifreintiedig ac ar adeg yr arolygiad diwethaf gan Estyn roedd tua 20% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd hyn yn uwch na chyfartaledd yr awdurdod lleol ac yn agos at gyfartaledd Cymru. Mae'r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Ar adeg yr arolygiad roedd yr ysgol wedi nodi bod gan tua 7% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Ychydig iawn o'r disgyblion sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu Saesneg fel iaith ychwanegol. Ar adeg yr arolygiad,
    roedd 237 o ddisgyblion ar y gofrestr. Roedd 47 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin yn mynychu'r ysgol yn rhan-amser.

    Trosolwg ymholiad

    Cwestiwn ymholi drafft: “Sut mae cydgynhyrchu yn llywio addysgeg?”
    Is-gwestiynau

    • Beth yw dealltwriaeth y staff o ystyr y termau hyn?
    • A yw'n bodoli, a sut beth ydyw yn ein hysgol?
    • Ble y gallwn ei weld? (cynllunio / pethau gweledol / cwestiynau'r athro / gwaith thema?)
    • Beth yw'r canfyddiadau o werth cydgynhyrchu?

    Dau brif ffactor ysgogi: cydgynhyrchu ac addysgeg – hyn fydd yn ysgogi cwestiynau'r holiadur – rydym yn ceisio cael syniad o ddealltwriaeth gyda grŵp ffocws – astudiaeth beilot gychwynnol i brofi pa mor briodol/effeithiol yw'r holiadur; gwaith dilynol gyda grŵp ffocws o athrawon o bob cyfnod – a all dealltwriaeth well o'r cysyniadau hyn gyfoethogi addysgeg – creu sylfaen ar gyfer Cylch 2 lle y gallwn ystyried ble i fynd nesaf? Sut y gallwn effeithio ar ddysgu / ymarfer proffesiynol.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae datblygu ar y cyd yn llywio addysgeg?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae Sherrington (2012) yn awgrymu bod datblygu ar y cyd yn gwneud y canlynol: ‘enables students to develop the skills and confidence to become highly effective independent learners, taking ownership of their own learning; create an environment in which students can take risks with their learning; create an environment that unleashes teachers’ and students’ creative energy, as traditional roles are broken down and the teaching and learning processes merge’.

    Cafodd y nodau craidd hyn eu hystyried yn ofalus yng nghyd-destun ein lleoliad ysgol presennol a gwnaeth helpu i ddylunio ein hymholiad. Nodwyd nifer o is-gwestiynau yn seiliedig ar y prif gwestiwn ymholi. Ystyriwyd a oedd eglurder a chysondeb o ran dealltwriaeth y staff o'r term datblygu ar y cyd. 
Hefyd, sut mae'n edrych ar hyn o bryd yn ein lleoliad ysgol? Ble y gallwn ei weld a sut mae wedi'i gynrychioli? e.e. mewn gwaith cynllunio ffurfiol; drwy bethau gweladwy amgylchedd dysgu; drwy gwestiynau'r athro; mewn meysydd penodol fel gwaith pynciol; ac ati. Hefyd, gwnaethom ystyried a oedd canfyddiadau o werth cydadeiladu yn gyson drwy'r ysgol gyfan ac yn unol â disgwyliadau fel sefydliad dysgu.

    Penderfynwyd mynd ati i gasglu data mewn modd ansoddol. O ganlyniad i natur ffocws yr ymholiad, a oedd yn cynnwys nodi canfyddiadau, dealltwriaeth a dehongli adborth cyfranogwyr, mae'n anodd mesur data o'r fath mewn modd meintiol. Nodwyd dau sbardun allweddol ar gyfer yr ymholiad, sef datblygu ar y cyd ac addysgeg, a defnyddiwyd hyn fel sail ar gyfer cwestiynau cyfweliadau'r staff. Defnyddiwyd astudiaeth beilot gychwynnol er mwyn helpu i ddylunio cyfweliad a holiadur addas at y diben, gyda'r nod o wneud gwaith dilynol gyda grŵp ffocws wedi'i dargedu o'r tîm addysgu.

    Nod craidd dyluniad yr ymholiad oedd ceisio canfod dealltwriaeth o werth datblygu ar y cyd ac, yna, ystyried a ellir gwella addysgeg drwy feithrin gwell dealltwriaeth o'r cysyniadau hyn. Mae'r gwaith ymholi hefyd yn fodd i greu llwyfan ar gyfer gwaith ymchwil estynedig drwy gydweithio ag ysgolion eraill yn ehangach.

    Ystyriaethau moesegol

    Ar y cam hwn, yr unig gyfranogwyr oedd aelodau o'r tîm addysgu. Fel rhan o'r fethodoleg beilot, cynhaliwyd cyfweliadau a holiaduron, a chafwyd caniatâd gan y cyfranogwyr ymlaen llaw. Os caiff y gwaith ymchwil ei ddatblygu drwy ehangu'r cydweithio a chynnwys disgyblion fel cyfranogwyr, ailystyrir materion moesegol yn unol â chanllawiau Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Ffocws cychwynnol yr adolygiad oedd canfod tystiolaeth o werth datblygu ar y cyd, ceisio enghreifftiau o fodelau ysgol gyfan llwyddiannus, ac ystyried y rhwystrau posibl i lwyddo. Mae cryn dystiolaeth i awgrymu bod lefelau cymhelliant yn cynyddu pan 'ymgynghorir' â disgyblion (McIntyre, Pedder a Rudduck, 2005). Fodd bynnag, ystyrir hefyd sut y gall athrawon llawn cymhelliant ymroi i ymgynghori â disgyblion pan fo pwysau eraill arnynt. Un o'r canfyddiadau annifyr a ddaeth i'r amlwg oedd y gall athrawon, o ystyried y pwysau cyfredol, deimlo'n hawdd fod yn rhaid iddynt ddewis rhwng cydymffurfiaeth broffesiynol ac ymateb i'w disgyblion. Roedd rhai o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol o gynnwys syniadau'r disgyblion a welwyd gennym yn rhai a ddigwyddodd ar ddiwedd y tymor, pan fo'n gyfnod 'llai difrifol'.

    Mae gwaith ymchwil hefyd wedi ystyried 'ansawdd' datblygu ar y cyd a'i wahanol ffurfiau. Ystyriodd Gjems (2011) a yw athrawon yn rhoi cyfleoedd i blant brofi sut i ymestyn eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth drwy fynd ati i ddatblygu esboniadau ar y cyd. Arweiniodd hyn at ystyried pa 'frand' o ddatblygu ar y cyd sy'n bodoli yn ein lleoliad presennol?

    Mae Sherrington (2012) yn awgrymu 'proses' y gellir ei dilyn i ymgorffori dull ysgol gyfan, gadarn o ddatblygu ar y cyd. Fodd bynnag, gellir dadlau bod y brand hwn o ddatblygu ar y cyd yn dal i ganolbwyntio ar y 'wers gyfarwyddol' fel profiad craidd dysgu. Yna, ystyriwyd a yw'r fath broses neu fodel yn bodoli yn ein lleoliad presennol?

    Ar ôl adfyfyrio ymhellach, cododd is-gwestiynau ynghylch y ffordd mae staff yn canfod gwerth datblygu ar y cyd a'i effaith ar addysgeg. Edrychodd Flutter (2007) ar rôl strategaethau llais y disgybl wrth ddatblygu dysgu ac addysgu mwy effeithiol yn yr ystafell ddosbarth a noda, er i Bragg (2007) ystyried safbwyntiau athrawon ar fenter llais y disgybl mewn ysgol gynradd, gan nodi bod cefnogaeth oedolion i lais y disgybl yn hanfodol er mwyn i'r fenter lwyddo a bod yn gynaliadwy, ‘it is important to recognise the demands it places on teachers, for instance in changing their identities as professionals and their relations both with children and with other staff.'

    Felly, awgrymodd yr adolygiad o lenyddiaeth y dylem ailystyried man cychwyn yr ymholiad ymchwil, gan adfyfyrio'n fwy ar natur datblygu ar y cyd yn ein lleoliad ysgol cyfredol.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Cafwyd peth adborth diddorol yn sgil ein sgyrsiau cynnar â rhanddeiliaid allweddol a ddylanwadodd ar y gwaith o ddylunio ein hymholiad.

    Datgelodd cyfres o 'fini gyfweliadau' ag uwch-arweinwyr ac ymarferwyr profiadol ganfyddiadau amrywiol o enghreifftiau o ddatblygu ar y cyd drwy'r ysgol gyfan. Cytunwyd yn gyffredinol fod 'llais y disgybl' yn un o gryfderau ein hysgol. Pan ofynnwyd am enghreifftiau o lais y disgybl ar waith, cyfeiriodd llawer at lwyddiannau cyrff cynrychioli disgyblion fel Cyngor yr Ysgol, Eco-bwyllgor, Arweinwyr Digidol, e-Gadetiaid ac ati. Pan y'u heriwyd ymhellach i drafod y ffordd mae cynlluniau gweithredu yn cael eu dwyn ynghyd ar gyfer mentrau 'a arweinir gan y disgybl' yn y grwpiau hynny, roedd yn llai eglur.

    Hefyd, cafwyd sgyrsiau am y cwestiwn ymholi ymchwil a ddewiswyd, gan ganolbwyntio ar y ffordd mae datblygu ar y cyd yn effeithio ar addysgeg ac yn llywio ymarfer athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Unwaith eto, roedd y canfyddiadau a ddaeth i'r amlwg yn ddiddorol a chodwyd cwestiynau ynghylch a oedd dull cyson o gynnwys llais y disgybl ac a allai fod angen cynnal trafodaethau er mwyn ystyried dull gweithredu 'model ysgol gyfan'. Roedd yr ymatebion yn amrywiol: 'weithiau defnyddir sesiynau llawn i drafod yr hyn yr hoffai plant ei ddysgu nesaf', 'caiff gridiau KWL eu defnyddio ar ddechrau ac ar ddiwedd pynciau newydd', 'cynllunnir yn ofalus ar gyfer Llais y Disgybl ar ddechrau pwnc newydd pob hanner tymor', 'rydym yn defnyddio ein bwrdd llais y disgybl yn yr ystafell ddosbarth er mwyn nodi syniadau'r plant ar gyfer eu dysgu eu hunain'.

    Er ei bod yn amlwg bod dysgu wedi'i arwain gan y disgybl yn digwydd drwy'r ysgol gyfan, roedd yn llai clir a oedd yr hyn a wnaed a'r hyn a ddeallwyd yn gyson ymhlith y tîm addysgu cyfan. Hefyd, datgelodd sgyrsiau cynnar ei bod hi'n anodd darparu tystiolaeth o effaith mentrau amrywiol llais y disgybl y tu hwnt i deimlad cyffredinol bod gwaith ymgysylltu yn gwella ymhlith dysgwyr os cânt eu grymuso i bennu cyfeiriad eu dysgu eu hunain. Pan ofynnwyd iddynt ystyried sut mae cydadeiladu wedi dylanwadu ar eu hymarfer eu hunain, nododd llawer y byddai'n braf neilltuo amser i ystyried y cwestiwn hwnnw'n iawn, yn hytrach na mynd gyda'ch greddf.

    Datgelodd trafodaethau ynghylch 'mentro' er mwyn i'r holl ddysgu gael ei arwain gan y disgybl yn yr ystafell ddosbarth fod pawb yn cytuno bod angen bod yn ofalus; dyhead i ddal gafael mewn elfen o 'reolaeth'; achosion lle caiff disgyblion eu 'harwain' i ddatblygu eu syniadau yn unol â phrofiadau 'llais y disgybl' sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw. Awgrymwyd y gellid efallai ddatblygu 'prosiect' ysgol gyfan er mwyn cynnwys disgyblion yn y gwaith o ddatblygu profiadau dysgu ar y cyd.

    Bu'r trafodaethau cynnar hyn yn amhrisiadwy wrth nodi ein sefyllfa bresennol yn yr ysgol o ran rôl strategaethau llais y disgybl wrth ddatblygu prosesau dysgu ac addysgu mwy effeithiol yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae wedi dod i'r amlwg nad yw'r darlun yn glir yn sicr. Gan adlewyrchu ar y canfyddiadau hyn, penderfynwyd, cyn i ni geisio gwerthuso ein darpariaeth a'n mentrau presennol, y dylem fynd ati i ddatblygu model ysgol gyfan a all gael ei weithredu a'i werthuso'n gadarn.

    Mae'r prosiect hwn wedi darparu llwyfan i ddatblygu ac ymestyn yr ymholiad fel ysgol gyfan ac mae hefyd yn cynnig y cyfle i gydweithio'n ehangach o bosibl ag ysgolion partner.

    Cyfyngiadau

    O ganlyniad i flaenoriaethau newidiol yr ysgol, cyfyngwyd ar y cynnydd a wnaed o ran y gwaith ymholi i ryw raddau. Yn sicr, mae lle i ddatblygu'r gwaith ymhellach ac, o bosibl, gynhyrchu mwy o ddata ansoddol os ceir mwy o amser. Byddai'n ddiddorol datblygu'r gwaith ar y cyd ag ysgolion partner yn ehangach.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Gwnaeth rhai pethau ein synnu o ran ein canfyddiadau cyn yr ymholiad a'r canfyddiadau cynnar a ddaeth i'r amlwg. Roedd a wnelo'r syniadau cychwynnol â chynnwys y disgyblion wrth ymchwilio i effaith datblygu ar y cyd ar ddysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sgyrsiau cynnar â ffrindiau beirniadol. Drwy ddeialog gychwynnol a minigyfweliadau, newidiodd ffocws a chyfeiriad yr ymholiad. Roedd yn amlwg mai man cychwyn ein hymchwiliadau oedd nodi ein sefyllfa bresennol fel ysgol o ran ein 'brand' o ddatblygu ar y cyd. Ac, yn fwy hanfodol, a oedd pob aelod o staff yn deall y model yn yr un ffordd ac yn ei gyflwyno yn yr un ffordd?

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Nodwyd canfyddiadau'r prosiect hwn drwy gynnal trafodaethau cynnar a 'minigyfweliadau' â rhanddeiliaid allweddol.

  • Cyswllt

    Angela Jones
    JonesA1113@Hwbcymru.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn Nhrelái yn ne-orllewin Caerdydd. Yn ôl Llywodraeth Cymru (2018), mae 95% o ddisgyblion yr ysgol yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r ysgol yn gwasanaethu disgyblion o'r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) yn y safle cyntaf a'r ail, trydydd, pedwerydd, pumed a degfed safle allan o 214 o LSOAs yng Nghaerdydd am amddifadedd lluosog. Mae'r ardal yn y 24ain, 31ain, 39ain, 46ed a 47fed allan o 1909 o LSOAs yng Nghymru am amddifadedd lluosog. Ystyrir bod incwm, cyflogaeth, iechyd, diogelwch cymunedol a thai ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru

    • Mae 534 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.
    • Mae 56% o'n disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
    • Mae 38% o'r disgyblion ar y gofrestr Anghenion Addysgol Arbennig.
    • Daw 31% o'r disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
    • Mae 20% o'r disgyblion ar gofrestr pryderon yr ysgol, h.y. ar ôl ymyriad, yn cael cymorth gan asiantaethau allanol neu angen cymorth gan asiantaethau allanol.

    Trosolwg ymholiad

    Bydd y Cwestiwn Ymholi yn canolbwyntio ar effaith astudiaeth o wersi ar addysgu gweithgareddau/tasgau 20 munud o fewn sesiwn. Ymholi i weld effaith astudiaeth o wersi ar y dysgu yn ogystal â'r elfen hyfforddi i'r staff, ac yna edrych ar effaith sesiynau byrrach drwy gydol gwers ar lefel diddordeb a dysgu'r disgyblion.

    Rwyf wedi penderfynu defnyddio Blwyddyn 6 fel rhan o'm hymholiad a byddaf yn dewis dau neu dri disgybl ym mhob dosbarth yn ogystal â'r athrawon. Byddaf yn dechrau drwy ofyn i'r disgyblion a'r athrawon gwblhau'r holiaduron cyn yr ymholiad ac ar y diwedd. Rwyf hefyd yn ystyried arsylwi ar y disgyblion er mwyn canfod lefelau eu diddordeb.

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw rôl astudio gwersi er mwyn galluogi newid i arferion addysgegol yn y cwricwlwm newydd i Gymru?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Sail resymegol fy ymholiad oedd ein bod fel ysgol yn ystyried sut i ddatblygu hyfforddiant yn ein hysgol ac, ar ôl gwneud gwaith ymchwil a chydweithio ag ysgolion ac athrawon eraill, penderfynwyd bod astudio gwersi yn ddull a allai weithio ochr yn ochr â'r droell ymholi a oedd yn cael ei datblygu gennym a'i chwblhau gan bob aelod o'r staff. Gan fod yr athrawon yn dod yn fwy hyderus wrth ymgymryd ag ymholiadau â'u dosbarthiadau, penderfynais gynnwys tri athro Blwyddyn 6 a oedd eisoes yn trafod cwblhau ymholiad i wersi 20/20/20 a'u heffaith ar annibyniaeth a lefelau ymgysylltu mewn Mathemateg a Rhifedd. Fel ysgol, rydym wedi gwreiddio Rhifau Rhagorol yn llawn ac rydym wedi trafod sut y gallwn ymgorffori addysgeg lwyddiannus yn y Cyfnod Sylfaen ymhellach i fyny'r ysgol. Roeddwn o'r farn y byddai hyn yn gyfle gwych i ymholi i weld a allai astudio gwersi ategu arferion addysgegol. Methodoleg yr ymholiad hwn yw cynnal trafodaeth grŵp ffocws cychwynnol â'r athrawon er mwyn canfod faint y maent yn ei wybod a'i ddeall am astudio gwersi, rhoi amser iddynt ddarllen gwaith ymchwil/gwybodaeth gefndir, ac yna barhau â'r drafodaeth grŵp ynghylch goblygiadau/rhwystrau a meysydd o'r model i ymgymryd â nhw. Fel rhan o'r dull astudio gwersi (gall hyn newid), dewiswyd tri disgybl o un o'r dosbarthiadau i fod yn rhan o'r ymholiad fel disgyblion yr astudiaeth achos, ac arsylwir ar y tri disgybl hyn gan gwblhau profforma yn ystod y wers. Hefyd, rhagwelir yr arsylwir yn gyffredinol ar y dosbarth cyfan mewn perthynas ag annibyniaeth a lefelau ymgysylltu. Hefyd, cynhelir trafodaethau grŵp ffocws â'r disgyblion, yn benodol tri disgybl yr astudiaeth achos (yn unol â'r model astudio gwersi) yn ogystal â'r athrawon dosbarth. Caiff holiaduron eu rhoi i'r dosbarth cyfan hefyd, er mwyn cyflawni ymholiad grŵp (dosbarth) mwy mewn perthynas â'r arfer addysgegol.

    Ystyriaethau moesegol

    Yr ystyriaethau moesegol oedd yr un rhan o'r ymholiad hwn roedd angen i mi feddwl amdani'n ofalus ar y dechrau. Roedd angen i mi benderfynu p'un a fyddwn yn dilyn y model astudio gwersi ac yn canolbwyntio ar dri disgybl yr astudiaeth achos yn unig, neu'n edrych ar y dosbarth cyfan. Dewis tri disgybl astudiaeth achos fyddai'r opsiwn hawsaf yn wreiddiol, oherwydd gall fod yn anodd ar adegau cael llythyrau yn ôl wedi'u llofnodi, yn enwedig gan nad yw'r athrawon Blwyddyn 6 bob amser yn gweld y rhieni am fod y plant yn cerdded adref yn annibynnol. Unionwyd hyn gan y ffurflenni moeseg a grëwyd, gan eu bod yn dweud wrth y rhieni am gysylltu â'r arweinydd os nad oeddent yn dymuno i'w plentyn fod yn rhan o'r ymholiad. Felly, penderfynais anfon llythyrau adref gyda phob un o'r disgyblion yn y dosbarth, er mwyn i ni allu arsylwi ar y dosbarth cyfan mewn perthynas ag annibyniaeth, ymgysylltu a chynnydd, hyd yn oed. O ran y ffurflenni a lenwyd gan y disgyblion, gwnaethom benderfynu rhoi gwybodaeth am y prosiect iddynt ar lafar, yn hytrach na dosbarthu'r daflen wybodaeth. Y rheswm dros hyn oedd bod y disgyblion ychydig yn ansicr beth fyddai'r gwaith ymchwil yn ei olygu ac roeddem am roi tawelwch meddwl iddynt na fyddai cymryd rhan yn golygu eu bod yn gwneud unrhyw beth yn wahanol i'r hyn rydym eisoes yn ei wneud yn yr ysgol, fel gofyn cwestiynau a llenwi holiaduron, ond y byddai'r wybodaeth a gesglir yn cael ei chyhoeddi'n allanol heb fod yn anhysbys.
    Pan lenwodd y staff eu ffurflenni moeseg, yr un agwedd y gall fod angen ei hystyried y tro nesaf yw bod y ffurflen yn gofyn i'r staff roi croes yn y blwch yn hytrach na thic, ac ni sylwyd ar hyn.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    “Lesson Study, Step by Step” gan Catherine C Lewis a Jacqueline Hurd (2001) – Er bod y gwaith hwn wedi'i gyhoeddi fel llyfr, dim ond pennod 3 ar sut i sefydlu grŵp astudio gwersi oedd yr erthygl a ddarllenais i. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am yr amserlen gyffredinol ar gyfer un cylch astudio gwersi, gan drafod recriwtio aelodau'r grŵp a'r maint a'r cyfansoddiad gorau. Roedd yr erthygl yn esbonio sut i feithrin dealltwriaeth a rennir o astudio gwersi, yn ogystal â'r ymrwymiad amser a'r amserlen sydd eu hangen.
    Rhoddodd yr adolygiad hwn sylfaen o syniadau o ran sut i ddatblygu astudiaeth o wersi. Fe'i defnyddiwyd i hwyluso'r drafodaeth yn ystod y cyfweliadau cychwynnol â'r athrawon i drafod y goblygiadau a'r ffyrdd gorau o addasu'r model yn unol ag anghenion ein hysgol. Er enghraifft, mae'n debyg mai'r maint grŵp gorau yw pedwar i chwe athro, ac mae'n arferol i athrawon o'r un flwyddyn ffurfio grŵp am fod hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio ar bwnc ar yr un ystod oedran/lefel.
    “Lesson Study: a handbook” gan Pete Dudley (2011). Yn y llyfryn hwn, ceir canllaw ar gynnal astudiaeth o wersi er mwyn datblygu a mireinio'r addysgu, y dysgu a gwybodaeth am arferion athrawon. Mae'n esbonio sut i ddechrau astudiaeth o wersi yn eich ysgol, cynllunio, addysgu a dadansoddi'r wers ymchwil, cynnwys y disgyblion yn y wers, a sut i rannu'r wybodaeth newydd am arferion rydych wedi'i dysgu ag eraill. Mae'r llyfryn yn cynnwys modelau syml a phrofformas enghreifftiol er mwyn eich helpu i astudio gwersi.
    Roedd y llyfryn hwn yn awgrymu bod grŵp o dri athro yn gweithio'n dda ar gyfer astudio gwersi, sy'n wahanol i'r hyn a awgrymir gan Catherine C. a Jacqueline Hurd. Mae https://www.ncetm.org.uk/public/files/271343/Flyer.pdf yn nodi y gall grŵp cyfan o athrawon yn y grŵp ‘astudio gwersi’ arsylwi ar wersi. Yn Japan, gallai hyn olygu'r holl athrawon yn yr ysgol yn ogystal ag arsylwyr o'r brifysgol leol ac addysgwyr eraill – gallai fod cynifer â 30 neu 40 o arsylwyr yn yr ystafell. Mae'r ddwy ffynhonnell yn nodi bod cylch astudio dwy neu dair gwers yn ystod blwyddyn ysgol yn nodweddiadol i grŵp astudio gwersi.
    Ar gyfer yr ymholiad hwn, rwyf wedi penderfynu sefydlu grŵp astudio gwersi o dri athro o'r un grŵp blwyddyn sydd ag arbenigedd pwnc gwahanol. Bydd un athro yn addysgu tra bydd y ddau arall yn arsylwi ar dri disgybl yr astudiaeth achos yn ogystal â chadw golwg gyffredinol ar y dosbarth cyfan.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Yn ystod y cyfweliad cyntaf â'r athrawon, roedd pawb o'r farn bod llawer o fanteision i'r model hyfforddi o ran gwella dysgu ac addysgu, er enghraifft cael cyfle i fynd i ystafelloedd dosbarth ei gilydd, gwella technegau/strategaethau addysgu fel rheoli ymddygiad, yn ogystal â magu hyder a meithrin cydberthynas ag aelodau eraill o'r staff. Fodd bynnag, teimlid bod ein model hyfforddi wedi dod i ddiwedd ei oes ac wedi mynd braidd yn rhy ragnodol o ran pryd a phwy oedd yn y triawd hyfforddi, ac roedd treulio amser allan o'r dosbarth yn cael effaith ar les emosiynol y disgyblion gan fod athrawon cyflenwi allanol yn eu haddysgu, ac felly roedd pawb o'r farn bod angen newid. Hefyd, nododd pob un o'r athrawon, gan mai arsylwi ar yr addysgu oedd yr hyfforddiant, nad oedd rhai athrawon yn mwynhau'r broses a'u bod yn teimlo'n anghyfforddus pan fyddai athrawon eraill yn arsylwi arnynt.
    Nid oedd gan yr un o'r athrawon ddealltwriaeth wych o astudio gwersi cyn yr amser ymchwil a roddwyd yn ystod y cyfweliad.
    Roedd pob un o'r athrawon yn llawn cyffro ar ôl darllen y llenyddiaeth ar gyfer astudio gwersi ac roeddent yn teimlo bod hyn yn rhywbeth y byddai'n fuddiol ei archwilio. Roedd pawb yn gytûn y byddai'r ffaith bod yr astudiaeth o wersi'n canolbwyntio ar y disgyblion yn hytrach na'r athro wir yn fuddiol, gan y byddai mwy o'r staff yn teimlo'n gyfforddus, yn ogystal â'r syniad y byddai cydweithio'n agos a chynllunio ar y cyd yn sicrhau tegwch o ran cyfrifoldeb. Cytunai pawb â'r astudiaethau yn yr ystyr ei bod yn bosibl gwneud pethau heb feddwl amdanynt yn ystod diwrnod addysgu, a pheidio â sylwi ar anghenion rhai plant ac, felly, byddai'r dull hwn yn helpu athrawon i dargedu gwahanol alluoedd disgyblion yn eu dosbarth a gwneud newidiadau.
    Roedd pob un o'r athrawon o'r farn mai'r prif rwystr i'r dull hwn yw amser am eu bod yn teimlo bod angen cwblhau'r gwaith cynllunio a'r trafodaethau cyn ac ar ôl yr addysgu ac, er bod awgrym yn y llenyddiaeth y gellid gwneud hyn yn ystod amser CPA, na fyddai hyn yn ymarferol ac y byddai'n rhoi mwy o bwysau ar lwyth gwaith yr athro. Fodd bynnag, roedd pawb yn cytuno ei bod yn hollbwysig buddsoddi amser ac arian yn llwyddiant y dull astudio gwersi (a hyfforddi hefyd) er mwyn datblygu dysgu proffesiynol a gwella dysgu ac addysgu. Awgrymodd y rhan fwyaf o'r athrawon fod amserlennu'r cylchoedd yn bwysig, ac roeddent yn credu y byddai cynnal y cylchoedd yn agos at ei gilydd yn hytrach na dros dymhorau yn fwy llwyddiannus o bosibl gan fod cynifer o newidiadau/datblygiadau'n digwydd yn ystod tymor ysgol. Cwestiynwyd a fyddai'n fuddiol mai'r un athro sy'n addysgu'r holl wersi yn y cylch, oherwydd teimlid na fyddai hynny'n arwain at ganfyddiadau manwl gan fod pob dosbarth yn wahanol ac, felly, nid yw defnyddio un strategaeth mewn un dosbarth yn addas i bawb. Fodd bynnag, trafodwyd y byddai'r syniad o gael un aelod o staff i gytuno i addysgu o bosibl yn goresgyn y peryglon sy'n gysylltiedig â hyfforddi y soniwyd amdanynt yn gynharach, yn ogystal ag osgoi cymharu'r addysgu ac, felly, farnu.
    Ar y cyfan, roedd pob un o'r athrawon o'r farn y byddai dull astudio gwersi'n fuddiol yn ein hysgol ac y gellid ei addasu a'i roi ar waith fesul cam er mwyn gwireddu ei botensial.

    Cyfyngiadau

    Cyn dechrau'r ymholiad roedd y cyfyngiadau i'w gweld yn bennaf. Ystyriwyd llwyth gwaith/amser athrawon ac, felly, bu oedi cyn dechrau'r broses. O ganlyniad i hyn, newidiwyd y dull ymholi ar ddechrau'r ymholiad hefyd am fod amser a chyllideb yn ffactor o ran rhyddhau staff ar gyfer trafodaethau grŵp ffocws.
    Roedd y cyfyngiadau eraill yn ymwneud â'r gyllideb ar gyfer astudio gwersi oherwydd, er mai'r syniad gwreiddiol oedd y byddai'r gwaith cynllunio'n cael ei gwblhau'n rhannol yn ystod amser CPA, roedd angen trefnu athrawon cyflenwi ar gyfer yr amser ymchwil a'r sesiynau arsylwi ar athrawon.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Roedd yn hawdd penderfynu ar thema/maes cyffredinol fy ymholiad oherwydd anghenion naturiol yr ysgol. Fodd bynnag, roedd angen mwy o waith meddwl i lunio cwestiwn ymholi manylach er mwyn sicrhau bod y ffocws yn hydrin. Hefyd, roedd yn anodd i mi gadw fy syniadau/canfyddiadau ynghylch yr astudiaeth o wersi a'r arferion roeddwn yn ymholi yn eu cylch ar wahân.
    Yn wreiddiol, roeddwn yn bwriadu cynnal trafodaethau grŵp ffocws cychwynnol ag athrawon, ond cynhaliwyd cyfweliadau unigol yn lle hynny.
    Mae angen i mi sicrhau fy mod yn llithrddarllen y wybodaeth heb dreulio gormod o amser ar yr elfen ymchwil. Ni ddylid rhuthro ymholiadau, ac mae angen neilltuo amser i gyflawni ymholiadau effeithiol.
    Hefyd, wrth recordio gan ddefnyddio ffôn symudol, gall galwadau ffôn dorri ar draws y recordiad.
    Gwnaeth yr amser a neilltuwyd yn fy nghyfweliadau cychwynnol i fynd drwy'r ymholiad yn fanwl gan ateb cwestiynau helpu i wella agweddau at y broses. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddai cyfarfod ymlaen llaw wedi bod yn fuddiol.
    Drwy roi'r cwestiynau i'r athrawes edrych arnynt yn ystod ei hamser darllen gwaith ymchwil, roedd modd iddi aros ar y trywydd cywir o ran yr hyn roedd angen iddi ei lithrddarllen/darllen yn yr amser a oedd ar gael.
    Yn ystod amser ymchwil yr athrawon, ysgrifennais unrhyw gwestiynau pellach roeddwn am eu gofyn, a oedd yn gysylltiedig â'u hatebion cychwynnol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    https://www.ncetm.org.uk/public/files/271343/Flyer.pdf
    https://lessonstudy.co.uk/wp-content/uploads/2012/03/Lesson_Study_Handbook_-_011011-1.pdf
    http://lessonstudy.co.uk/wp-content/uploads/2012/03/new-handbook-revisedMay14.pdf
    http://moveandlearn.blogspot.com/2014/11/lesson-study.html
    https://tdtrust.org/what-is-lesson-study
    https://teacherhead.com/2013/11/16/getting-started-with-lesson-study-2/

  • Cyswllt

    Mrs Beth O'Sullivan, b.osullivan@aberteifi.ceredigion.sch.uk
    Miss Paula Davies, p.davies1@aberteifi.ceredigion.sch.uk
    Ysgol Uwchradd Aberteifi, Park Place, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AD
    01239612670

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol ddwyieithog 11-18 yn Aberteifi, Ceredigion, yw Ysgol Uwchradd Aberteifi. Mae gennym 614 o ddisgyblion ar y gofrestr ac, ar hyn o bryd, mae 15.3% o'n disgyblion yn gymwys i gael prydau ysol am ddim.

    Trosolwg ymholiad

    Rydym yn bwriadu cyflawni prosiect ymchwil weithredu ar sut i ddod yn ysgol dysgu proffesiynol. Byddwn yn sefydlu gweithgor i bennu nifer o brosiectau ymchwil weithredu, yn seiliedig ar amrywiaeth o feysydd bach y mae'r staff wedi'u nodi'n feysydd yr hoffent eu datblygu, gan ganolbwyntio ar addysgeg yn bennaf. Cyn dechrau ar y prosiect, rydym yn bwriadu cynnal arolwg o'r staff dan sylw er mwyn cael syniad o'u dealltwriaeth o sut i gynnal ymchwil weithredu. Wedyn, byddwn yn cefnogi'r staff drwy'r broses o gyflawni eu prosiect, gan ddechrau drwy nodi cwestiwn, gwneud gwaith ymchwil a rhoi eu syniad ar waith. Gwahoddir yr athrawon i gyhoeddi canfyddiadau eu hymchwil weithredu mewn ‘diweddariad dysgu proffesiynol’ i'r ysgol gyfan er mwyn rhannu eu canfyddiadau â'u cydweithwyr. Credwn y bydd datblygu'n ysgol dysgu proffesiynol yn ein helpu i baratoi ar gyfer gwreiddio'r cwricwlwm newydd yn ein rhaglenni dysgu.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gall Ysgol Uwchradd Aberteifi ddod yn ysgol ymholi proffesiynol? Pa hyfforddiant a chymorth y bydd eu hangen ar athrawon i gwblhau eu gwaith ymchwil gweithredol eu hunain?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae dull Ymchwil Gweithredol Cynllunio, Gweithredu, Arsylwi, Adfyfyrio wedi cael ei fabwysiadu. Gwnaeth dau Bennaeth Cynorthwyol sy’n arwain y prosiect gyfarfod i gynllunio sut y gallai’r gwaith ymchwil a wnaed yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol gael ei ymestyn i weddill yr ysgol. Roeddem yn awyddus i gynnwys mwy o aelodau o’r staff yn y Cylch Ymchwil Gweithredol, gyda’r aelodau o’r staff yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu prosiectau eu hunain, yn hytrach na bod yn rhan o brosiect a sefydlwyd gan yr uwch dîm arwain. Cytunwyd y gallai pob aelod o’r staff addysgu ddewis cymryd rhan yn y prosiect ond y byddai angen iddynt roi o’u hamser i fynychu cyfarfodydd gwirfoddol drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â chynllunio a chwblhau prosiect ar faes o’u dewis.Llenwodd pob aelod o’r staff holiadur gan ddefnyddio Forms ar ddechrau’r prosiect, gan nodi pa mor hyderus yr oeddent i gynnal prosiect ymchwil, a gofynnwyd iddynt nodi unrhyw bryderon a oedd ganddynt. Cododd llawer o aelodau’r grŵp bryder ynglŷn ag amser i gwblhau prosiect yn dda felly, er mwyn cefnogi’r staff, cafodd diwrnod HMS cyfan ym mis Hydref ei neilltuo i Ymchwil Gweithredol. Aed â’r grŵp drwy’r cylch Ymchwil Gweithredol, gan gynnwys casglu data a defnyddio Forms; pwysigrwydd cydsyniad a’r foeseg sy’n sail i hyn; defnyddio EBSCO ar gyfer gwaith ymchwil; yn ogystal â darparu llawer o lyfrau ar addysg a mynediad i’r rhyngrwyd i wneud gwaith ymchwil ar-lein. Erbyn diwedd y diwrnod HMS, roedd pob aelod o’r staff wedi llunio eu cwestiwn ymchwil ac wedi dechrau dylunio taflenni casglu data mewn perthynas â’u maes diddordeb.Hefyd, er mwyn sicrhau y caiff y staff eu cefnogi i gwblhau eu prosiectau i safon uchel, mae un o arweinwyr yr ymholiad wedi llunio Cylchlythyr Dysgu Proffesiynol er mwyn cefnogi’r gwaith o ddilyn trywydd gwahanol. Bob mis, caiff pob aelod o’r staff gopi o’r cylchlythyr sy’n cynnwys erthyglau o gyhoeddiadau addysgol ar thema benodol, a chyngor ar waith ymchwil gweithredol. Mae aelodau o’r grŵp wedi cael eu hannog i gyflwyno erthyglau i’r cylchlythyr ar yr hyn y maent yn ei wneud ac unrhyw ganfyddiadau yr hoffent eu rhannu.Ar ddiwedd y prosiect, dylai fod llawer o adroddiadau ymchwil gweithredol gan aelodau o’r staff ar amrywiaeth eang o bynciau. Hefyd, bydd holiaduron yn cael eu rhoi i aelodau’r grŵp ar ddiwedd y broses er mwyn gweld a ydynt o’r farn eu bod wedi llwyddo yn eu hymholiadau, pa agweddau ar y cymorth a roddwyd oedd fwyaf buddiol iddynt yn eu barn nhw, a pha gymorth arall y gellid ei gyflwyno yn y dyfodol.

    Ystyriaethau moesegol

    Yn un o gyfarfodydd y grŵp lle y cafodd y cylch ymholi ei esbonio, trafodwyd pwysigrwydd cydsynio. Mae gan y disgyblion hawl i beidio â chymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau y tu allan i’w profiadau ysgol arferol, er y byddai eu mewnbwn i’r broses o gasglu data fel rhan o’r prosiect yn werthfawr. Nid oeddent yn cael dewis peidio â bod mewn gwers a oedd yn rhan o astudiaeth gwersi, ond ni ellid tybio y byddent yn fodlon cael eu cyfweld am eu profiad yn y wers honno. Pwysleisiwyd i’r staff bod yn rhaid i’r disgyblion roi cydsyniad a bod ganddynt hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl unrhyw bryd. Cafodd y clip fideo o Ysgol yr Olchfa yn esbonio’r dull a ddefnyddiwyd yno i gael gydsyniad ei ddangos i aelodau o’r staff sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil. Lluniwyd llythyr i roi gwybod i’r rhieni y byddai’r ysgol yn cyflawni amrywiaeth o brosiectau ymchwil ac y byddai eu plant yn rhan o’r prosiectau hynny, gan esbonio ar ba ffurf y gallai hyn fod, ac y gallai’r rhieni ofyn i’r ysgol beidio â chynnwys eu plant wrth gasglu data. Mae’r holl staff dan sylw yn gwybod bod yn rhaid cael cydsyniad ychwanegol ar gyfer unrhyw weithgaredd na chafodd ei amlinellu yn y llythyr.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Fel y noda Donaldson yn ei adroddiad, Dyfodol Llwyddiannus: ‘Bydd y dasg o ysbrydoli, hyfforddi a chynorthwyo staff i wireddu’r posibiliadau newydd yn un hanfodol i arweinwyr… Bydd llwyddiant yn fwy tebygol os ceir mwy o gydweithio oddi mewn a rhwng ysgolion, cynllunio ar y cyd, rhannu arferion da’. Argymhelliad 60 yw: ‘Dylai blaenoriaeth gael ei rhoi i feithrin yr ymrwymiad, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ymysg arweinwyr i sicrhau llwyddiant y diwygiadau arfaethedig.’ Mae’n amlwg o adroddiad Donaldson y bydd datblygu dull cydweithredol a chefnogol o ymdrin â datblygiad proffesiynol o ran addysgeg a datblygu’r cwricwlwm newydd yn yr ysgol yn newid mawr o’r ‘rhagnodi a manylu helaeth sydd yn y cwricwlwm cenedlaethol, ynghyd â mecanweithiau atebolrwydd sy’n gynyddol bwerus, [sydd] wedi tueddu i greu diwylliant lle y mae rôl greadigol yr ysgol wedi’i lleihau a chyfraniad proffesiynol y gweithlu wedi’i danddatblygu’, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Mae’r adroddiad yn fan cychwyn gwych ar gyfer annog staff mewn ysgol i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil gweithredol lle y gallant nodi maes yr hoffent ei wella, ymchwilio iddo ac yna roi ymyriadau ar waith er mwyn gweld a ellir gwneud gwelliannau.Gan fod ein prosiect ymchwil gweithredol yn seiliedig ar hyfforddi a chefnogi grŵp o’n staff drwy’r broses o gyflawni gwaith ymchwil gweithredol, un ddogfen ddefnyddiol yw ‘Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiynol: Cyflwyniad ar gyfer Ymholwyr Arweiniol’, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019 gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Gwnaethom ddefnyddio’r ddogfen hon gyda’r grŵp ymchwil gweithredol er mwyn iddynt gael y wybodaeth roedd ei hangen arnynt am y camau amrywiol sydd eu hangen i gwblhau prosiect ymchwil gweithredol, o ddatblygu cwestiwn ymholi i ddatblygu’r dull ymholi. Mae’n cynnwys gwybodaeth arbennig o dda am y dulliau amrywiol y gall athrawon eu defnyddio i gasglu data a gwybodaeth berthnasol.Roedd pennod 11 yn y llyfr ‘Teacher Action Research: Building knowledge democracies’ gan Gerald J. Pine yn adnodd defnyddiol iawn i’r grŵp ymchwil gweithredol. Roedd pennod 11, ‘Conducting Action Research’, yn ddefnyddiol o ran tynnu sylw at fanteision cydweithio mewn ysgolion ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd nodi problem ar raddfa fach y maent am ymchwilio iddi. Mae’r bennod hon hefyd yn rhoi cyngor defnyddiol ar fethodoleg, gan gynnwys nodi cwestiynau ymchwil a chasglu data.Gan ein bod yn awyddus i newid arferion llawer o’r staff drwy’r ysgol i gyd er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, gwnaethom edrych ar ganllaw’r Sefydliad Gwaddol Addysgol ar sicrhau newid (gweler y ddolen isod).

    Canfyddiadau cychwynnol

    Rydym yn falch bod cynifer o staff yr ysgol wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y gweithgor ymchwil gweithredol. Mae tua 16 aelod o staff yn cymryd rhan mewn naw prosiect ymchwil gweithredol gwahanol yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae ymholiadau’n cael eu cynnal ym mhob un o’r meysydd dysgu a phrofiad, bron, ac ymhlith yr amrywiaeth o bynciau mae gwella llafaredd, marcio ac adborth, ennyn diddordeb grwpiau penodol o fechgyn a defnyddio ioga i wella lles. Mae hwn yn newid cadarnhaol iawn tuag at wneud Ysgol Uwchradd Aberteifi yn ysgol ymholi proffesiynol. Mae sawl aelod o’r staff wedi pennu targed rheoli perfformiad sy’n cyd-fynd â’u prosiect ymchwil gweithredol. Mae’r grŵp wedi cael dau gyfarfod byr ar ôl ysgol yn ystod y tymor cyntaf, gyda chyfranogiad da iawn ac ymateb cadarnhaol iawn i’r her o gyflawni gwaith ymchwil gweithredol unigol. Roedd y diwrnod HMS ym mis Hydref yn arbennig o fuddiol i bob aelod o’r grŵp ymchwil gweithredol. Gwnaeth yr arolwg staff a gwblhawyd dynnu sylw at eu pryderon ynglŷn â’r amser sydd ei angen i gynllunio eu gwaith ymchwil gweithredol a chynnal yr adolygiad o lenyddiaeth. Drwy strwythuro’r diwrnod HMS yn ofalus, roedd modd i ni ddynodi bloc pum awr pan fyddai’r staff yn cydweithio i ddylunio eu gwaith ymchwil gweithredol, gan ddefnyddio cyngor gan CGA i weithio ar yr ystyriaethau moesegol ac ymchwilio i’w dewis ymholiad, ar EBSCO ac o amrywiaeth o lyfrau a ysgrifennwyd am wella addysg a oedd ar gael i ni yn yr ysgol. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i’r diwrnod HMS; nid yn unig roedd y staff o’r farn bod yr hyfforddiant wedi mynd i’r afael â’u pryderon am y cyfyngiadau amser, ond gwnaethant hefyd fwynhau cymryd rhan yn eu hymchwiliad eu hunain, ac roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso drwy gymryd perchnogaeth dros ysgogi newid a gwelliant eu hunain. Mae rhai aelodau o’r staff hefyd yn awyddus i gyhoeddi eu canfyddiadau yng Nghylchlythyr Dysgu Proffesiynol yr ysgol, gan rannu eu canfyddiadau â gweddill yr ysgol. Caiff y Cylchlythyr ei lunio ar y cyd ag ysgol uwchradd gyfagos ac, felly, gallai olygu bod canlyniadau’r gwaith ymchwil gweithredol yn cael eu rhannu’n ehangach na’n sefydliad ni. Mae hyn yn fuddiol i’w datblygiad proffesiynol eu hunain. Hefyd, os byddant yn llwyddiannus, gellid rhoi rhai o’r strategaethau sy’n cael eu treialu ar waith ar lefel ysgol gyfan, a fydd yn ganlyniad gwych i’r aelod o staff dan sylw ac i’r ysgol gyfan.

    Cyfyngiadau

    Y cyfyngiad mwyaf a nodwyd gan y staff yw dod o hyd i’r amser i gynllunio newid, ymchwilio iddo a’i roi ar waith. Roeddem yn ffodus o allu clustnodi un sesiwn datblygiad proffesiynol parhaus gyfan i’r gweithgor a oedd yn golygu bod modd iddo gwblhau llawer o’r gwaith cynllunio. Hefyd, mae gennym awr o amser gwella cyfadran bron bob wythnos lle y gellir trafod a chynllunio’r prosiectau ymchwil gweithredol unigol. Mae gwaith ymchwil gweithredol yn rhywbeth cwbl newydd i lawer o athrawon, ac mae hyn yn her fawr. Gan mai ysgol uwchradd yw hon, nid dim ond yn ystod tymor yr haf y rhoddir blaenoriaeth i arholiadau sy’n arwain at gymwysterau. Cynhelir ffugarholiadau yn ystod tymor yr hydref, a gall y gwaith o ysgrifennu adroddiadau’r disgyblion hefyd dynnu ffocws yr athrawon oddi ar eu prosiectau ymchwil.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    (i) Y daith a ddilynwyd a pham y dewiswyd methodoleg neu ffordd benodol o weithredu:
    Drwy weithredu’r grŵp ymchwil gweithredol ar sail wirfoddol, rydym wedi gweld bod llawer o athrawon yn awyddus i gyfrannu at gynllunio ar gyfer datblygu’r cwricwlwm newydd. Er mwyn i’r staff deimlo’n hyderus yn eu gwaith, rydym wedi caniatáu i’r staff weithio mewn parau neu grwpiau bach ar yr un prosiect; a hynny o fewn meysydd pwnc a rhyngddynt fel bod gan staff sy’n llai hyderus gydweithwyr cyfeillgar i’w cefnogi.(ii) Agweddau i’w hystyried, peryglon i’w hosgoi: Dim hyd yma.
    (iii) Unrhyw weithdrefn neu ddull a weithiodd yn dda iawn, naill ai o ran deilliannau neu o ran gwella agweddau:
    Roedd diwrnod cyfan o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn rhoi amser i’r staff ddechrau ar eu prosiectau ond roedd hefyd yn dangos i’r staff bod yr ysgol yn ymrwymedig i’r dull ymchwil gweithredol.Gwnaeth y ffaith bod yr ymholwyr arweiniol wedi cael hyfforddiant ar EBSCO y gellid ei rannu â’r staff; y clipiau fideo a ddangoswyd o ysgolion eraill sydd wedi cymryd rhan mewn gwaith ymchwil gweithredol a’r gallu i rannu profiadau o ysgolion eraill a gawsom o’n cyfnod fel Ysgol Arloesi ddangos i’r staff bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i’r dull gweithredu hwn.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Adnodd EEF: https://educationendowmentfoundation.org.uk/tools/guidance-reports/a-schools-guide-to-implementation/

    https://www.sagepub.com/sites/default/files/upm-binaries/27031_11.pdf

  • Cyswllt

    Julian Lewis, LewisJ155@hwbmail.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Pen Coch yn ysgol gynradd arbenigol sy'n gwasanaethu Sir y Fflint. Mae gennym 100 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae gan bob un ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae gan bob un o'n disgyblion anghenion dwys, difrifol neu gymhleth, gan gynnwys rhai ag anghenion iechyd a gofal meddygol sylweddol. Mae 92% o'n disgyblion o gefndir ethnig gwyn Prydeinig. Mae 35% o'n disgyblion yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Mae 3 disgybl yn ymuno â ni i'w cynnwys o’u lleoliad prif ffrwd. Mae gennym 12 dosbarth ac un grŵp arddull maeth. Mae yna tua 60 staff yn y dosbarthiadau, gan gynnwys 13 swydd addysgu cyfwerth ag amser llawn. Mae gan yr ysgol frîff hefyd i ddarparu cefnogaeth allgymorth arbenigol i ysgolion cynradd eraill yn y sir. Rydym wedi bod yn Arloeswr Cwricwlwm (MDaPh Iechyd a Lles) ac yn Ysgol Arloeswyr Dysgu Proffesiynol.

    Trosolwg ymholiad

    Bydd ymholiad Cylch 4 yn edrych ar sut mae athrawon yn dehongli'r elfen addysgeg yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (SPAA) mewn perthynas ag addysgu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol. Bydd hyder athrawon sy'n defnyddio safonau addysgeg mewn addysg arbennig a ysgrifennwyd ar gyfer ymarfer prif ffrwd yn cael ei wella, bydd ganddynt fwy o hyder ym mherthnasedd eu haddysgeg i'r disgyblion y maent yn eu haddysgu ac wrth edrych ymlaen bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cynhyrchu blaenoriaethau unigol, cyfnod ac ysgol gyfan. blaenoriaethau ar gyfer dysgu proffesiynol. Os caiff ei adolygu fel model da ar gyfer datblygu arfer, bydd hwn yn cael ei gyflwyno trwy ddatblygu perfformiad i fynd i'r afael â'r meysydd eraill o fewn y safonau athrawon.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae athrawon yn dehongli elfen addysgeg y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth mewn ysgol arbennig?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru wedi'u hadolygu'n ddiweddar, ac mae'r fersiwn ddiweddaraf ar gael ar-lein:
    https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/safonau-proffesiynol/

    Mae 5 safon broffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth: Addysgeg, Cydweithredu, Dysgu Proffesiynol, Arloesi ac Arweinyddiaeth. Caiff y safon Addysgeg ei chyfleu mewn tair is-adran: i) Mireinio Addysgu, ii) Hyrwyddo Dysgu a iii) Dylanwadu ar Ddysgwyr. Caiff y safonau a'r is-adrannau eu rhannu'n elfennau – mae 32 ohonynt i gyd. Mae gan bob elfen dri disgrifydd sy'n adlewyrchu gwahanol lefelau o brofiad ac ymarfer, sef: i) Disgrifydd SAC, ii) Disgrifydd sefydlu a iii) Disgrifydd ymarfer hynod effeithiol parhaus. Caiff y dull teiran hwn o ymdrin â lefelau profiad addysgu ei egluro ymhellach yng nghanllawiau ar-lein Llywodraeth Cymru:
    Rhennir pob safon yn elfennau â disgrifyddion sy’n dangos enghreifftiau o sut y gall y safonau fod yn berthnasol i waith athro, yn ddibynnol ar ble mae’r athro hwnnw o ran ei rôl a gyrfa. Mae’r is ddisgrifyddion addysgu yn disgrifio’r disgwyliadau y dylid eu bodloni ar gyfer sicrhau dyfarniad Statws Athro Cymwysedig a chwblhau’r cyfnod ymsefydlu statudol yn llwyddiannus. Mae’r uwch ddisgrifyddion yn dangos enghreifftiau o arferion effeithiol iawn a pharhaus ac yn ffocws ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Mae’r is ddisgrifyddion ar gyfer arweinyddiaeth ffurfiol yn dangos y disgwyliadau ar gyfer rôl arweinyddol ffurfiol gyda’r uwch ddisgrifyddion yn dangos enghreifftiau o arferion effeithiol iawn mewn rôl arweinyddol ffurfiol.

    Gwnaeth cyfanswm o 11 o athrawon (cymysgedd o athrawon llawn amser a rhan amser) gymryd rhan yn y cylch ymholi proffesiynol hwn a oedd yn cynnwys ymarfer hunanwerthuso.

    Cafodd yr athrawon daenlen Excel (ffurflen hunanwerthuso) a oedd yn nodi'r Safon Addysgeg a'i chyd-elfennau, ynghyd â'r disgrifyddion ar gyfer Sefydlu ac Ymarfer hynod effeithiol parhaus. Gofynnwyd i'r athrawon werthuso eu perfformiad yn erbyn pob elfen ar ffurf coch (ychydig iawn o dystiolaeth o fodloni disgrifydd yr elfen, os o gwbl), oren (rhywfaint o dystiolaeth o fodloni disgrifydd yr elfen) neu wyrdd (tystiolaeth cryf o fodloni disgrifydd yr elfen).
    Roedd lle i'r athrawon nodi tystiolaeth i ategu eu gwerthusiad.

    Gwnaeth yr 11 o ymatebwyr gwblhau hunanwerthusiad yn erbyn disgrifyddion Sefydlu Addysgeg.
    Gwnaeth wyth athro, gan gynnwys pob un ar y raddfa gyflog uwch, gwblhau hunanwerthusiad yn erbyn disgrifyddion Ymarfer hynod effeithiol parhaus.
    Sgoriwyd y gwerthusiad er mwyn cynhyrchu data meintiol: coch = 1, oren = 2, gwyrdd = 3, gan ei gwneud yn bosibl i gyfrifo canrannau er mwyn dadansoddi'r garfan: ysgol gyfan, adrannol a gradd athro.

    Ystyriaethau moesegol

    Gwnaeth Pwyllgor Moeseg Prifysgol Bangor gymeradwyo'r gwaith ymchwil.
    Cafodd pawb eu gwneud yn ymwybodol o ofynion cymryd rhan. Ceisiwyd a chafwyd cydsyniad ar sail gwybodaeth gan bob unigolyn, a oedd yn deall eu hawl i dynnu'n ôl unrhyw bryd am unrhyw reswm, neu ddim rheswm o gwbl. Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r holl ddata yn anhysbys drwy gydol y broses.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae ein hadolygiad o lenyddiaeth yn canolbwyntio'n benodol ar ddiwallu anghenion dysgwyr, cyd-destun yr ysgol, a datblygu addysgeg i fynd i'r afael â'r sbardunau hyn. Defnyddiwyd tystiolaeth o'r ffynonellau canlynol am eu bod yn berthnasol i'r cylch ymholi proffesiynol hwn:

    Ceulemans, C., Simon, M. a Struyf, E. (2012) ‘Professional standards for teachers: how do they ‘work’? An experiment in tracing standardisation in-the-making in teacher education.’ Pedagogy, Culture and Society, 20:1, 29-47. DOI: 10.1080/14681366.2012.649414
    Clarke, S. (2005) Formative Assessment in Action: weaving the elements together. Llundain: Hodder Murray.
    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Estyn. Arfer Effeithiol. Ar gael yn: https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol
    Norwich, B. a Lewis, A. (2013) ‘Mapping a Pedagogy for Special Educational Needs.’ British Educational Research Journal, 27(3), 313-329.
    Torrance, D. a Forde, C. (2017) ‘Social Justice Leadership in Scottish Education’. Scottish Educational Review, 49(1), 51-66.
    Llywodraeth Cymru, (2017) Safonau proffesiynol. Ar gael ar-lein yn: https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/safonau-proffesiynol/

    Dynoda Llywodraeth Cymru (2017) mai diben Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yw:
    • 'nodi disgwyliadau clir o ran arferion effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, y cyfnod y bydd yn ymuno â’r proffesiwn
    • galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu harferion, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, yn erbyn safonau sy’n nodi arferion effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
    • cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach
    • rhoi cefndir i'r broses rheoli perfformiad.'

    At hynny, tanlinellir y ffaith bod y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn 'adlewyrchu arferion sy’n gyson â’r cwricwlwm newydd' a 'Pan fydd ymarferwyr unigol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol, dylent fod yn glir ynghylch sut y mae’n cefnogi eu gwaith mewn perthynas â’r safonau proffesiynol.'

    Canfyddiadau cychwynnol

    Ar lefel ysgol gyfan, roedd y canrannau'n ymwneud â'r disgrifyddion Sefydlu yn gryf, yn ôl y disgwyl,
    Roedd y staff yn teimlo fwyaf hyderus ynghylch yr elfennau 'Gwahaniaethu' a 'Thraws-gwricwlaidd', sy'n ddisgwyliedig o ystyried ein cyd-destun fel ysgol arbenigol gynradd.

    Ar lefel ysgol gyfan, roedd canrannau'n ymwneud â'r disgrifyddion Ymarfer hynod effeithiol parhaus yn is yn gyffredinol o gymharu â'r disgrifyddion Sefydlu. Cafwyd y sgoriau isaf ar gyfer 'Rheoli'r amgylchedd dysgu' (58%), 'Dysgwyr yn arwain y dysgu' (63%) a 'Pedwar diben ar gyfer dysgwyr' a 'Deilliannau dysgu a llesiant' (67% ill dau).
    Ynghylch 'Asesu' (88%) a 'Themâu traws-gwricwlaidd' (83%) roedd y staff yn teimlo'n fwyaf hyderus. Disgwylir y byddai ymarferwyr hynod brofiadol yn aseswyr effeithiol, ac mae gweithio drwy themâu traws-gwricwlaidd yn ymarfer sydd wedi'i ymgorffori yn yr ysgol.

    Cafwyd anawsterau yn dangos tystiolaeth ar gyfer targedau wrth weithio gyda dysgwyr ag ADY, yn enwedig yr elfen 'Dysgwyr yn arwain y dysgu'. Cymerodd yr ysgol ran yn y mentrau Asesu ar gyfer Dysgu, fel gweithdai Shirley Clarke, ond nid yw wedi nodi addysgeg na deunyddiau sy'n uniongyrchol addas eto.
    Rhan o waith parhaus athrawon mewn ysgolion arbenigol yw addasu'r hyn sydd ar gael.

    Cyfyngiadau

    Mae'r broses hunanwerthuso yn un oddrychol; gall athrawon fod yn or-hyderus neu'n dan hyderus, a chamfarnu eu perfformiad yn anghywir.
    Er y rhoddwyd sicrwydd i'r staff mai diben y cylch ymholi proffesiynol hwn yw cynhyrchu deilliannau datblygiadol, nid rheoliadol, gallai atebolrwydd fod yn ffactor na ellir ei osgoi yn yr ymatebion a ddychwelwyd.

    Nid oedd modd dilysu na thriongli'r dystiolaeth i ategu'r graddau am mai dim ond un dull meintiol a ddefnyddiwyd; ystyrir hyn mewn gweithgareddau ymholi proffesiynol yn y dyfodol.

    Roedd cyfyngiadau hefyd o ran maint y sampl; gallem ystyried ymestyn y cylch i ysgolion arbenigol eraill.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae'r cylch hwn o ymholi proffesiynol wedi bod yn ddefnyddiol iawn i uwch-arweinwyr er mwyn nodi anghenion dysgu proffesiynol yr ysgol gyfan; rhydd dystiolaeth i ategu'r canfyddiadau hyn, penderfyniadau am y defnydd o HMS, rheoli perfformiad, adnoddau eraill yr ysgol, a blaenoriaethu o fewn yr ysgol.

    Mae'r staff wedi dangos diddordeb mewn cwblhau eu hunanwerthusiad eu hunain, er bod yn rhaid i'r rheolwyr ystyried materion sensitif ynghylch sut y defnyddir eu gwerthusiad i ddatblygu perfformiad.

    Gallai methodoleg ymchwil wedi'i haddasu fod yn ddefnyddiol i Gynorthwywyr Addysgu a'u safonau proffesiynol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Ceulemans, C., Simon, M. a Struyf, E. (2012) ‘Professional standards for teachers: how do they ‘work’? An experiment in tracing standardisation in-the-making in teacher education.’ Pedagogy, Culture and Society, 20:1, 29-47. DOI: 10.1080/14681366.2012.649414

    Clarke, S. (2005) Formative Assessment in Action: weaving the elements together. Llundain: Hodder Murray.

    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

    Estyn. Arfer Effeithiol. Ar gael yn: https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol

    Norwich, B. a Lewis, A. (2013) ‘Mapping a Pedagogy for Special Educational Needs.’ British Educational Research Journal, 27(3), 313-329.

    Torrance, D. a Forde, C. (2017) ‘Social Justice Leadership in Scottish Education’. Scottish Educational Review, 49(1), 51-66.

    Llywodraeth Cymru, (2017) Safonau proffesiynol. Ar gael ar-lein yn: https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/safonau-proffesiynol/