English

Hwb

Cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm

  • Cyswllt

    Stefan Jenkins
    admin.pdcs@pembrokeshire.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gynradd (adrannau meithrin, babanod ac iau) i blant rhwng 3 ac 11 oed yw Ysgol Gymunedol Doc Penfro. Fe'i lleolir yn Noc Penfro, Sir Benfro, ac mae'n ysgol cyfrwng Saesneg a lywodraethir gan y gymuned. Mae ganddi 650 o ddisgyblion, y mae 26% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ar y cyfan, mae gan 21% o'n disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

    Trosolwg ymholiad

    Fel ysgol rydym wedi nodi targedau drwy ein hunanwerthusiad ac un o'r targedau hyn yw: Cyflwyno ein cwricwlwm drwy brofiadau dysgu cymysg mewn cyd-destun dilys, go iawn.

    Hoffem ddatblygu ein profiadau dysgu fel bod ein plant yn dysgu mewn ffordd ddilys, go iawn. Fel rhan o'n hymholiad, hoffem wneud y canlynol:

    • Canfod pa gyfleoedd a phrofiadau y mae ein disgyblion yn eu cael ar hyn o bryd;
    • Canfod beth yw dealltwriaeth ein staff o ddysgu dilys, go iawn;
    • Deall unrhyw ofynion dysgu proffesiynol er mwyn meithrin gwell gwybodaeth a dealltwriaeth o ddysgu dilys, go iawn;
    • Canfod unrhyw effaith a gaiff dysgu dilys, go iawn ar agweddau at ddysgu a lefelau diddordeb;
    • Nodi unrhyw arferion da a rhannu effaith yr arferion da hynny.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gellir cefnogi’r staff er mwyn sicrhau bod profiadau dysgu dilys yn cael eu cynnig i’r disgyblion yng nghyd-destun y cwricwlwm cenedlaethol newydd?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Wrth ymateb i’r cwestiwn ymchwil hwn, bydd yn bwysig ystyried safbwyntiau amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys staff addysgu, arweinwyr canol, uwch-arweinwyr, yn ogystal â disgyblion.Fel llinell sylfaen, caiff arolwg ei anfon at bob aelod o’r staff addysgu i wneud ymholiadau cychwynnol am eu canfyddiadau o ddysgu dilys. Drwy’r arolwg hwn, caiff data ansoddol eu casglu a gaiff eu dadansoddi er mwyn datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol i’r staff o bosibl.Bydd yr arolwg hefyd yn gofyn i’r staff ystyried:- Beth yw profiad dysgu dilys?
    - Y profiadau dysgu dilys y maent wedi’u cynnig yn eu hystafell ddosbarth
    - Yr hyn y byddent yn disgwyl ei weld o bosibl petaent yn cerdded i mewn i wers sy’n llawn profiadau dysgu dilys.Bydd yr arolwg yn gofyn i’r staff ystyried y datganiadau canlynol gan ddefnyddio ‘graddfa Likert’:- Eu hyder o ran eu dealltwriaeth o ystyr y term dysgu dilys
    - A yw profiadau dysgu dilys yn bwysig i safonau a lefelau ymgysylltu?
    - Eu hyder wrth gynnig profiadau dysgu dilys ac a oedd angen sesiynau datblygu dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â dysgu dilys.Yn seiliedig ar yr arolwg cychwynnol hwn, bydd cyfleoedd sy’n gysylltiedig â phrofiadau dysgu dilys yn cael eu datblygu a’u cynnig i’r staff.Ar ôl hyn, cesglir data mewn ffyrdd eraill. Bydd hyn yn cynnwys trafodaethau grŵp â chroestoriad o staff o Ysgol Gymunedol Doc Penfro. Bydd y drafodaeth grŵp hon yn gofyn i’r staff ystyried: sut y gwnaethant gynnig profiadau dysgu dilys, gan gynnwys y prosesau cynllunio, gweithredu ac adfyfyrio; effeithiolrwydd ac effaith cynnig y profiadau hyn; unrhyw anawsterau a gawsant wrth gynnig profiadau dysgu dilys.Bydd yr arolwg cychwynnol hefyd yn cael ei ailanfon at bob aelod o’r staff er mwyn mesur unrhyw effaith y mae’r cyfleoedd dysgu proffesiynol wedi’i chael ar gynnig profiadau dysgu dilys.Cynhelir trafodaeth ‘book look’ ag amrywiaeth o ddisgyblion ym Mlwyddyn 5 a 6 er mwyn i’r disgyblion drafod eu profiadau dysgu, gyda chwestiynau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u profiadau dysgu dilys. Hefyd, defnyddir arolwg i gasglu gwybodaeth gan amrywiaeth o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6.Ar ôl i’r wybodaeth gael ei chasglu, bydd yn bwysig triongli’r wybodaeth a gasglwyd gan y disgyblion a’r staff: Dadansoddi ymatebion y staff er mwyn gweld gwelliant ar raddfa Likert, yn ogystal ag ymatebion gan y staff i ddangos gwell dealltwriaeth o ddysgu dilys. Hefyd, bydd dadansoddi ymatebion y disgyblion i’w profiadau dysgu dilys yn darparu gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd y profiad.

    Ystyriaethau moesegol

    Mae’n hanfodol rhoi sylw i ystyriaethau moesegol holl gyfranogwyr yr ymholiad ymchwil hwn.Byddwn wedi cael cydsyniad gan rieni’r disgyblion sy’n rhan o’r trafodaethau ‘book look’ a rhoddir gwybodaeth iddynt am nod y gweithgaredd, yr hyn y gofynnir i’r disgyblion ei wneud, yr hyn y bwriedir ei wneud â’r wybodaeth, a hawl y disgyblion i dynnu’n ôl yn ogystal â’u hawl i anhysbysrwydd a chyfrinachedd. Hefyd, byddwn yn cael cydsyniad y disgyblion cyn dechrau’r gwaith ymchwil.Bydd y staff sy’n rhan o’r trafodaethau a’r arolwg hefyd yn rhoi cydsyniad, a byddant yn ymwybodol y gallant dynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl unrhyw bryd. Bydd y staff yn cael gwybod am eu hawl i anhysbysrwydd a chyfrinachedd.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Cafodd y llenyddiaeth ganlynol ddylanwad ar ein gwaith ymchwil:‘Students are more engaged and more interested when learning is grounded in real-world examples. Bringing the outside world into the classroom (or students out into the world!) allows learners to see the why of what they are learning. They can engage with topics and movements that are relevant to their interests, and build critical skills like problem-solving, researching and collaborating’ (Real world, Hands on, Project based, Harbara, 2019)

    ‘Experiences that do not encourage the children to make meaning from their learning will quickly be forgotten. Any learning experience should aim to instil authenticity into every task, lesson and unit to ensure that ‘students are [able] to develop problem solving skills and confidence in their own learning abilities’ (Nicaise, Gibney a Crane, 2000)

    ‘Authentic learning aims to equip students with these essential life skills, to show the connection between learning and real-life and to give students the problem solving abilities that they require for life beyond school’ (Pearce, 2016)

    Awgryma Lombardi, 2007, fod 10 elfen ddylunio sy’n cynrychioli ‘hanfod’ dysgu dilys ym marn ymchwilwyr dysgu. Yn ôl yr ymchwilwyr hyn, dylai pob profiad dysgu fodloni’r gofynion hyn:

    1. Bod yn berthnasol i fywyd go iawn – Gweithgareddau a thasgau sy’n cynrychioli’r rhai a gyflawnir gan weithiwr proffesiynol mor agos â phosibl.
    2. Problem wedi’i diffinio’n wael - Heriau sy’n anodd eu datrys, neu rai nad oes ateb amlwg iddynt. Gall fod angen cwblhau haenau o dasgau er mwyn datrys y broblem.
    3. Ymchwilio parhaus – Prosiectau a thasgau y mae angen buddsoddi llawer o amser ynddynt ac na ellir eu datrys mewn munudau neu oriau yn unig.
    4. Ffynonellau a safbwyntiau niferus – Gall adnoddau fod yn ddamcaniaethol neu’n ymarferol, a gall fod angen i’r dysgwyr wahaniaethu rhwng gwybodaeth ddefnyddiol a gwybodaeth amherthnasol.
    5. Cydweithio – Ni all unigolion lwyddo ar eu pen eu hunain. Bydd angen cysylltiadau cymdeithasol ar brosiectau a thasgau.
    6. Adfyfyrio – Bydd y dysgwyr yn adfyfyrio ar eu dysgu eu hunain ac yn gwneud dewisiadau ac yn pennu targedau yn unol â hynny.
    7. Safbwynt rhyngddisgyblaethol – Nid yw prosiectau wedi’u cyfyngu i un pwnc neu set o wybodaeth, ond byddant yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau o wahanol bynciau.
    8. Asesu integredig – caiff asesu ffurfiannol ei blethu’n ddi-dor i mewn i dasgau a gweithgareddau a’i ddefnyddio’n bwrpasol gan ddysgwyr ac athrawon fel ei gilydd.
    9. Cynhyrchion caboledig – Bydd gweithgareddau a thasgau’n arwain at greu cynnyrch.
    10. Mwy nag un dehongliad a chanlyniad – Mae llawer o ddatrysiadau ac atebion posibl i’r broblem.

    Fel y cyfryw, bydd y sesiynau dysgu proffesiynol yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn canolbwyntio ar ddatblygu’r elfennau hyn er mwyn datblygu profiadau dysgu dilys.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Rhan gyntaf y dull ymholi hwn oedd cael gwybod beth oedd canfyddiadau’r staff am ddysgu dilys. Anfonwyd arolwg at bob aelod o staff addysgu yn yr ysgol.Adborth o’r arolwg (19 o ymatebion)

    • Pan ofynnwyd am ymateb i’r datganiad ‘Rwy’n hyderus fy mod yn gwybod ac yn deall beth yw ystyr profiadau dysgu dilys, go iawn’
      1 – Ddim yn hyderus, 2 – Ychydig bach yn hyderus, 3 – Hyderus i raddau, 4 – Gweddol hyderus, 5 – Hyderus
      Yr ymateb cyfartalog gan y staff oedd 4.16. Felly, roedd y mwyafrif o’r staff a ymatebodd yn teimlo’n weddol hyderus ac yn teimlo eu bod yn gwybod beth yw ystyr dysgu dilys a sut beth ydyw.
    • Pan ofynnwyd iddynt ymateb i’r datganiad ‘Mae profiadau dysgu dilys, go iawn yn bwysig iawn er mwyn gwella safonau a lefelau ymgysylltu’
      1 – Ddim yn bwysig, 2 – Ychydig bach yn bwysig, 3 – Pwysig, 4 – Gweddol bwysig, 5 – Pwysig iawn
      Yr ymateb cyfartalog oedd 4.95m sy’n golygu bod bron pob aelod o’r staff o’r farn bod hyn yn bwysig iawn.
    • Pan ofynnwyd iddynt ‘Pa mor hyderus ydw i’n teimlo wrth gynnig profiadau dysgu dilys, go iawn yn fy ystafell ddosbarth?’
      1 – Ddim yn hyderus, 2 – Ychydig bach yn hyderus, 3 – Hyderus i raddau, 4 – Gweddol hyderus, 5 – Hyderus
      Yr ymateb cyfartalog gan y staff oedd 4, sy’n golygu bod y mwyafrif o’r staff yn teimlo’n weddol hyderus.
    • Pan ofynnwyd iddynt ymateb i’r datganiad ‘Byddai dysgu proffesiynol pellach ar ddysgu dilys, go iawn yn bwysig ar gyfer fy natblygiad’
      1 – Ddim yn bwysig, 2 – Ychydig bach yn bwysig, 3 – Pwysig, 4 – Gweddol bwysig, 5 – Pwysig iawn
      Yr ymateb cyfartalog gan y staff oedd 4.47, sy’n golygu bod y mwyafrif o’r staff o’r farn ei fod yn weddol bwysig neu’n bwysig iawn.

    Fodd bynnag, yr hyn a oedd yn ddiddorol iawn oedd yr ymatebion i’r cwestiwn am yr hyn sy’n gwneud profiad yn bwrpasol ac yn ddilys. Dyma rai o’r ymatebion a restrwyd yn yr arolwg:Addas i’r oedran, diddorol, bywyd go iawn, cysylltiad â’r gymuned, cymhwyso sgiliau, ystyrlon, y plentyn yn gallu uniaethu â’r profiad, profiad ymarferol, sgiliau i’w defnyddio yn y dyfodol, problem go iawn, tasg go iawn, pwnc sy’n gysylltiedig â mater lleol, cenedlaethol neu fyd-eang, trosi gwaith i amgylchedd go iawn. Roedd yr ymatebion i ‘Petaech yn cerdded i mewn i ystafell ddosbarth lle bo dysgu dilys go iawn yn digwydd – beth y byddech yn disgwyl ei weld o bosibl?’ hefyd yn ddiddorol, gan gynnwys y canlynol:Annibyniaeth, dysgu yn yr awyr agored, plant yn datrys problemau yn annibynnol, lefelau ymgysylltu a brwdfrydedd, cynnwys cyfredol a phrofiadau go iawn o lygad y ffynnon, cydweithio a dysgwyr sy’n llawn cymhelliant, creadigrwydd a datrys problemau, cyffro yn yr ystafell ddosbarth, llawer o drafod, gweithgareddau ymarferol.Roedd yr ymatebion hyn yn dangos bod y staff yn deall yn glir bod dysgu dilys yn gysylltiedig â thasg go iawn a bod sgiliau’n cael eu meithrin y gellir eu defnyddio yn y dyfodol neu eu trosglwyddo. Byddai’r staff hefyd yn disgwyl gweld cydweithio, profiadau o lygad y ffynnon a chynnwys sy’n gyfredol ac yn berthnasol. Fodd bynnag, nid oedd yr ymatebion eraill yn cyd-fynd â’r elfennau dysgu dilys (y cyfeiriwyd atynt uchod yn yr adolygiad o lenyddiaeth) a oedd yn awgrymu bod angen mewnbwn dysgu proffesiynol.

    Cyfyngiadau

    Cyfyngiadau posibl anfon arolwg dienw at y staff yw cofnodi pa staff sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Gyda Graddfa Likert, er bod anhysbysrwydd a chyfrinachedd yn cael eu parchu, mae’n bosibl na fydd y staff am ymddangos yn brin o hyder neu fel petai ganddynt ddealltwriaeth gyfyngedig o ddysgu dilys, felly mae’n bosibl na fydd eu hymatebion yn ddibynadwy.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Yr argymhellion allweddol hyd yma fyddai treulio amser yn trafod yr arolwg â’r holl staff ac yn mynd drwy’r cwestiynau er mwyn sicrhau bod pawb yn deall yr hyn sy’n cael ei ofyn ac nad ydynt yn dehongli’r cwestiynau’n wahanol i’w gilydd.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Cyfeiriadau:
    Harbara, 2019. Real world, Hands on, Project based: An instructors guide to authentic learning
    https://cdn2.hubspot.net/hubfs/1546484/E-Books/Real-world,%20Hands-on,%20and%20Project-based%20Authentic%20Learning%20Guide.pdf
    Nicaise, M, Gibney, T, Crane, M, 2000 ‘Toward an Understanding of Authentic Learning: Student Perceptions of an Authentic Classroom’, Journal of Science Education and Technology, cyf. 9, rhif 1, tt. 80
    Sarah Pearce, Ebrill 2016. ‘Authentic learning: what, why and how?’, E-teaching http://www.acel.org.au/acel/ACEL_docs/Publications/e-Teaching/2016/e-Teaching_2016_10.pdf
    Lombardi, M 2007, Argraffiad 1af. [e-lyfr], https://net.educause.edu/ir/library/pdf/ELI3009.pdf

  • Cyswllt

    Liz Durrant
    romillyps@valeofglamorgan.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Romilly yn y Barri o fewn awdurdod lleol Bro Morgannwg. Ysgol tair ffrwd yw hon, ac mae 741 o blant ar y gofrestr. Mae 12% o'r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim ac mae gan 10% Anghenion Dysgu Ychwanegol. Arwyddair yr ysgol yw “Dysgu a Thyfu gyda'n Gilydd”.

    Trosolwg ymholiad

    Sut y gallwn gynllunio profiadau dysgu sy'n cefnogi'r Pedwar Diben? (Bwriedir mai hyn fydd ffocws eleni)
    Ymholiad 1 – Gweithio gyda dosbarthiadau Blwyddyn 2-3, 90 o blant.
    Ymholiad 2 – Ysgol gyfan (ymgysylltu ag ysgolion eraill, yn barod i gydweithio)
    Ymholiad 3 – Ysgolion eraill

    Trosolwg o'r ymholiadau
    Sut y gallwn sicrhau bod y Pedwar Diben wrth wraidd ein cwricwlwm?
    Sut y gallwn sicrhau bod y Pedwar Diben yn weladwy yn ein hysgol?
    Sut y gallwn wreiddio'r Pedwar Diben yn llwyddiannus yn ein cwricwlwm?

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gallwn sicrhau mwy o ymrwymiad gan y staff fel eu bod yn croesawu ac yn gwreiddio'r dibenion ym mhob rhan o'r cwricwlwm?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Nod y cwestiynau ymholi oedd sicrhau dealltwriaeth lawn o'r pedwar diben fel bod bwriad y dibenion wrth wraidd yr hyn a wnawn a'r rhesymau dros wneud hynny. Teimlwyd y byddai dychwelyd atynt yn sicrhau y byddai diben y cwricwlwm newydd yn cael ei wreiddio mewn penderfyniadau yn y dyfodol, ac y byddai unrhyw waith o ran dylunio'r cwricwlwm yn seiliedig ar y pedwar diben. Roeddem hefyd yn gobeithio y byddai dychwelyd atynt yn cryfhau ymrwymiad, gan sicrhau bod y dysgu a gynigir i'n disgyblion yn gyson â'r athroniaeth sy'n sail i'r pedwar diben.
    Cyflwynwyd y dull i bob aelod o staff ond fe'i lluniwyd drwy broses dreialu mireinio ymlaen llaw, fel bod sgyrsiau a thrafodaethau o bob profiad yn llywio'r cam nesaf.
    Mabwysiadwyd methodoleg ansoddol oherwydd roeddem am wybod beth oedd barn y staff am y cwestiwn ac, yn hanfodol, pam roeddent yn arddel y farn honno. Roedd y broses hon hefyd yn galluogi pawb i rannu eu syniadau a'u barn.
    Cyflwynwyd yr ymholiad fesul cam:

    • sgwrs â ffocws gyda grŵp blwyddyn
    • sgwrs â ffocws gyda'n grŵp gwella ysgol (SIG) newydd
    • HMS ar gyfer pob aelod o staff
      Fi sy'n gyfrifol am arwain yr ymholiad yn yr ysgol hon (fel Arloeswr Dysgu Proffesiynol), ar y cyd â'm cydweithiwr sy'n Arloeswr Cwricwlwm a'n pennaeth sy'n ymhel â'r ddau faes!

    Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn ystod y sesiwn HMS yn deillio o'r sgyrsiau â ffocws a gynhaliwyd ar raddfa lai, a gwnaethom ofyn yn syml i'r staff drafod eu hatebion, eu cofnodi ac yna rannu agwedd â gweddill y staff. Defnyddiwyd dulliau gweledol i gasglu syniadau a meddyliau'r staff oherwydd roeddem am iddo fod mor benagored â phosibl. Dyma'r dull a ddefnyddir gennym i rannu syniadau â nifer mawr o staff a sicrhau bod lleisiau'r rhanddeiliaid i gyd yn cael eu clywed. Caiff y wybodaeth ei thrafod ar lafar a'i chofnodi'n weledol. Fel gydag unrhyw sesiwn HMS lle y dymunir clywed llais pawb, cafodd grwpiau eu creu er mwyn sicrhau bod cydbwysedd o ran swyddi, profiad, agweddau a brwdfrydedd!
    Y cwestiynau a ofynnwyd a'r themâu a drafodwyd yn ystod y sesiwn HMS oedd:

    • Beth yw pwrpas y Pedwar Diben?
    • Beth yr hoffem ei gael o'r Pedwar Diben?
    • Cwblhewch ddadansoddiad SWOT ar gyfer y Pedwar Diben
    • Beth rydym yn ei wneud ar hyn o bryd i gyflawni/croesawu'r Pedwar Diben?
    • Beth mae angen i ni ei wneud i wella?
    • Ymrwymiad i weithredu – gwarantu rhywbeth y bydd eich grŵp blwyddyn yn gweithio arno yn ystod yr hanner tymor hwn

    Ystyriaethau moesegol

    Roedd yr ymholiad yn dilyn y canllawiau moesegol a amlinellwyd gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.
    Roedd y grwpiau ffocws cyntaf yn ymwybodol y byddai eu trafodaethau a'u safbwyntiau yn llywio'r sesiwn HMS. Roedd yr ail grŵp ffocws yn ymwybodol o hynny hefyd a gwnaethom ofyn a fyddem yn gallu treialu'r cwestiynau gyda nhw. (Y fantais oedd y byddent hefyd yn gallu defnyddio'r cwestiynau gyda'u haelodau o staff eu hunain at ddibenion HMS pe baent am wneud hynny.) Felly, y grŵp SIG oedd y treial ar gyfer y sesiwn HMS.
    Soniwyd gennym yn ein sesiwn HMS y byddai trafodaethau ar lafar a dulliau gweledol yn cael eu defnyddio yn yr ymholiad hwn ond y byddai pob ymateb yn ddienw. Gan mai ar ddiwrnod hyfforddi staff y cafodd y sesiwn HMS ei chynnal, roedd pob aelod o staff yn bresennol ac felly cafodd pob un ohonynt y cyfle i fod yn rhan o'r ymholiad. Cafodd pawb eu gwahodd i gymryd rhan ond gallent fod wedi aros yn dawel neu fod wedi peidio ag ysgrifennu unrhyw beth pe baent wedi gwrthwynebu bod yn rhan o'r gwaith.
    Efallai fod ymholiad moesegol yn cael mwy o flaenoriaeth. Gofynnwyd i arloeswyr dysgu proffesiynol ymgymryd â'r dasg o gyflwyno dull ymholi yn eu hysgolion eu hunain a thu hwnt er mwyn helpu i ddatblygu dull cenedlaethol. Bydd y canfyddiadau yn hanfodol wrth bennu ffordd ystyrlon o wneud hynny mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae'r system gyfredol yn nodi y dylem gyflwyno ein canfyddiadau yn enw ein hysgol ein hunain, ac y bydd y wybodaeth hon ar gael ar lwyfan cyhoeddus. Fy mhryder i yw, os yw'r ymholi yn wirioneddol onest ac adfyfyriol, a bod y canfyddiadau yn cael eu trafod heb duedd, sawl ysgol fydd yn barod i rannu'r da a'r drwg? Mae posibilrwydd enfawr mai dim ond ymholiadau sy'n dangos llwyddiant ac a gyflwynir mewn modd canmoliaethus y byddwn yn eu derbyn. Neu efallai mai dim ond os yw'r canlyniad yn hysbys eisoes y bydd ysgolion yn ymgymryd ag ymholiadau. Rydym yn aml yn sôn wrth ein dysgwyr bod mwy yn cael ei ddysgu o gamgymeriadau a byddai darllen ymholiadau cyfoethog am yr anfanteision sydd ynghlwm wrth wneud pethau yn helpu ysgolion i symud ymlaen. Fodd bynnag, nid yw ysgolion yn mynd i wneud hynny. Yn hytrach, byddant yn ymgymryd ag ymholiadau mwy diogel a fydd yn canolbwyntio ar fân newidiadau yn hytrach nag addasiadau sylweddol a newidiadau dewr oherwydd y mesurau atebolrwydd a allai ddeillio o'u canfyddiadau.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Y neges gyffredinol yn adolygiad Dyfodol Llwyddiannus (2015) yw bod y pedwar diben wrth wraidd y cwricwlwm cyfan ac y dylai 'strwythur y cwricwlwm adlewyrchu'r dibenion cwricwlwm yn uniongyrchol a'u hyrwyddo' (t.35). Ym marn Dauncey (2015), mae hyn yn awgrymu, heb ddibenion clir a chytûn, na fydd y gweithlu yn deall pam ein bod yn addysgu disgyblion, nac yn gwybod beth i'w wneud na sut i wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol.
    Mae Lyakhova et al. (2019) yn ein hatgoffa bod y cwricwlwm yn cael ei ddiwygio am ddau reswm; cynnydd academaidd annigonol ac oherwydd nad yw myfyrwyr yn cael eu paratoi'n ddigonol i gyfrannu at ffyniant economaidd y wlad. Os mai'r cwricwlwm yw'r rheswm go iawn am hynny, dyna'r ffordd gyflymaf a hawsaf o ddatrys y broblem. Ond beth os nad oes a wnelo'r pryderon fawr ddim â'r cwricwla a mwy ag addysgu gwael, agweddau gwael ymhlith myfyrwyr, y ffaith bod cymdeithas yn tanbrisio addysg, asesiadau lle mae llawer yn y fantol a phrinder adnoddau? Os yw hyn yn gywir neu'n rhannol gywir, nid yw'r diwygiadau sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru yn mynd i newid pethau'n sylweddol na chael effaith gadarnhaol gan nad ydym yn mynd i'r afael â'r materion allweddol am na thybiwyd eu bod yn berthnasol i'n system addysg.
    Mae'n werth nodi bod Macdonald (2013) yn hyrwyddo'r cysyniad o raddoliaeth fel 'middle way between reformism and revolutionism seeking to change something or achieve a goal gradually rather than quickly or violently'. Efallai fod hon yn ymagwedd ddoeth tuag at y broses ddiwygio o ystyried cymhlethdodau systemau addysg.
    Yn ôl fframwaith llythrennedd iechyd Awstralia, "students will need to be equipped with the skills and dispositions as lifelong problem solvers, critically appraising information and making informed decisions" (Kemmis 1986, White a Wyn 2008). Y pedwar diben yw'r hyn yr hoffem i'n myfyrwyr sy'n gadael addysg ei etifeddu. Os ystyriwn y Gemau Olympaidd yn Llundain, rhan o fesur eu llwyddiant oedd yr etifeddiaeth a adawyd ar eu hôl. Y manteision a'r effeithiau hirdymor a ddeilliodd ohonynt – o safbwynt yr economi, chwaraeon, hyfforddi/gwirfoddoli ac adfywio. Felly, oedd, roedd cyfanswm y medalau a enillwyd yn ddangosydd ond roedd a wnelo llwyddiant y Gemau hefyd â'r hyn a fyddai'n digwydd yn y dyfodol – faint o bobl a benderfynodd gymryd rhan mewn chwaraeon ar ôl hynny, faint o bobl a roddodd o'u hamser i hyfforddi, sut y cafodd y cyfleusterau a'r adeiladau eu defnyddio ar ôl diwedd y Gemau.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Arweiniodd y trafodaethau cyntaf a oedd yn seiliedig ar y cwestiynau ymholi at sgwrs broffesiynol estynedig a gonest iawn, a oedd yn rhywbeth eithaf anghyffredin yn fy marn i. Erbyn hyn, mae dysgu proffesiynol yn rhoi llawer o bwys ar dasgau ac efallai nad ydym yn cael sgyrsiau y mae canlyniadau cytûn yn deillio ohonynt yn aml iawn. Roedd cael sgwrsio am addysg wir yn teimlo fel moethusbeth.
    Ymhlith yr anawsterau sydd ynghlwm wrth y pedwar diben yn eu barn nhw yw bod pobl yn eu hystyried yn amcanion dysgu y gellir nodi eu bod wedi'u cyflawni pan fydd gweithgarwch wedi'i gwblhau, neu fod pobl yn troi'r nodweddion yn brosiectau bach a bod y cwricwlwm yn deillio o hynny. Gwnaethant sôn am yr angen i gredu, i fod yn ymrwymedig, i weld y canlyniadau a rhannu'r wybodaeth gymdeithasol y mae'r pedwar diben yn ceisio'i sicrhau. Gwnaethant hefyd sôn am y ffaith eu bod yn barod i fwrw ati mewn sesiynau HMS ac yn barod ac yn awyddus i newid, ond bod gofynion bywyd ysgol yn gwanhau'r brwdfrydedd hwnnw a'n bod, yn hanfodol, yn gofyn mwy a mwy gan ein gweithlu ond byth yn cymryd unrhyw beth oddi arnynt nac yn rhoi llai iddynt i'w wneud.

    Yn seiliedig ar y canfyddiadau uchod, defnyddiwyd y grŵp SIG i fynd drwy'r cwestiynau HMS i weld a oeddent yn llifo ac a oedd y naws yn gywir. Roedd yn fwy o dreial mecanyddol. Ym mis Ionawr, byddwn yn cyfarfod i benderfynu ar ein camau nesaf felly rwy'n bwriadu cofnodi hynny fel cylch 3.

    Yr ymatebion i'r cwestiynau cyntaf: Beth yw pwrpas y Pedwar Diben a beth yr hoffem ei gael ohonynt? Cafwyd atebion a oedd yn dangos dealltwriaeth o'r pedwar diben:

    • "yr ateb i system (addysgol) sydd wedi dyddio, byd newydd, sgiliau newydd, mwy o uchelgais"
    • "sicrhau bod ein plant yn barod ar gyfer dyfodol ansicr drwy hyrwyddo sgiliau gydol oes"
    • "cyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas o ran bywyd a gwaith"
    • "gwneud cyfraniad gwerthfawr at gymdeithas a dangos uchelgais"
    • "sicrhau mai nhw yw'r fersiwn orau o'u hunain, bod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol"
    • "meithrin gwydnwch a gwella iechyd meddwl a llesiant"
    • "unigolion sy'n gallu datrys problemau mewn ffyrdd creadigol ac sy'n gallu dysgu o gamgymeriadau"
    • "gwneud y dewisiadau gorau mewn bywyd, bod yn ddyfeisgar ac yn ddewr, meithrin digon o sgiliau cymdeithasol i lwyddo yn y 21ain ganrif"

    Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r grŵp ffocws, aethom ati i gwblhau dadansoddiad SWOT a gofyn i bobl gyfnewid eu dadansoddiadau SWOT a dod o hyd i atebion i wendidau a bygythiadau SWOT timau eraill. Roeddem yn teimlo ei bod hi'n bwerus siarad am yr anawsterau sydd ynghlwm wrth y pedwar diben – efallai ein bod wedi anwybyddu'r anawsterau hyn yn y gorffennol gan ddisgwyl llwyddiant drwyddi draw. Drwy gydnabod y gwendidau a'r bygythiadau, roedd hi'n haws rheoli'r broses ac yn llawer haws dod o hyd i atebion. Yn ddiddorol ddigon, roedd pawb yn gallu dod o hyd i atebion i broblem rhywun arall. Gofynnwyd i'r grŵp cyfan ddod o hyd i atebion gwahanol i feysydd lle na chynigiwyd llawer o atebion.
    Gan symud ymlaen, aethom ati wedyn i siarad am yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd i groesawu'r pedwar diben a'r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn gwella

    Cyfyngiadau

    Un o'r cyfyngiadau oedd diffyg amser. Roedd fy ngrŵp treialu eisoes wedi dangos y manteision sydd ynghlwm wrth arafu pethau a chaniatáu i sgwrs broffesiynol ddatblygu. Pan oeddem yn barod i gynnal HMS, roedd hi'n amlwg ein bod wedi cynllunio gormod ac, os oeddem am gyflawni popeth, y byddai'n rhaid i ni ddweud ein bod yn cefnogi'r ymatebion, heb weithredu ar sail hynny. Er mwyn mynd i'r afael â'r cyflymder diangen hwn a'r gwaith ymgysylltu arwynebol, penderfynwyd hepgor y gweithgaredd olaf a chreu lle yn ein calendr HMS i gwblhau'r gweithgaredd mewn ffordd bwrpasol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Cynhaliwyd ein hymholiad gan ddefnyddio ein dull arferol o rannu syniadau mewn grŵp mawr. Roeddem am ddefnyddio'r dull hwn am fod y staff yn gyfarwydd ag ef a'i fod fel arfer yn arwain at gydweithio da.
    Mae sicrhau bod y grwpiau yn gytbwys yn dasg anodd ni waeth pa mor greadigol, systematig neu ddidostur ydych chi wrth wneud hynny. Efallai fod pobl â lleisiau uwch, barn fwy pendant neu hyd yn oed statws uwch yn dylanwadu ar y sgwrs? Mae'n anodd gwybod a fyddai sgyrsiau wedi mynd ar drywydd gwahanol pe bai'r grwpiau wedi cynnwys personoliaethau gwahanol.
    Roedd cwblhau'r SWOT yn werth chweil – roedd y staff yn teimlo ei fod yn eithaf rhyddhaol siarad am y problemau; rwy'n credu iddynt fwynhau'r didwylledd a oedd ynghlwm wrth drafod yr anawsterau'n gyhoeddus. Roedd cyfnewid y dadansoddiadau hyn ac yna ddod o hyd i atebion i'r gwendidau a'r bygythiadau yn bwerus ac yn syndod o lwyddiannus. Ymddengys ei bod yn hawdd ystyried problem mewn ffordd ymarferol yn hytrach na mewn ffordd emosiynol pan mai problem rhywun arall ydyw.
    Cafwyd ymatebion cymysg i'r gweithgarwch ymrwymiad i weithredu. Ceisiwyd cysylltu'r adduned â'r meysydd roeddem wedi penderfynu, fel ysgol, fod angen eu gwella, ond nid wyf o'r farn bod cydberthyniad rhwng yr adduned a'r gwelliannau.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Mae angen cysyniad Macdonald (2013) o raddoliaeth er mwyn i ni sicrhau gwell dealltwriaeth ac ymrwymiad cryfach. Mae dweud wrth bobl am wneud rhywbeth neu fynnu eu bod yn ei wneud ar unwaith yn creu panig a gofid ac yn arwain, yn y pen draw, at weithlu sy'n colli hyder yn ei allu.
    Bydd ysgolion sydd wedi canolbwyntio ar y pedwar diben ac addysgeg yn fwy parod i fynd i'r afael â'r meysydd dysgu newydd. Rydym eisoes yn gwybod beth yw diben y cwricwlwm newydd, sef cyflawni'r pedwar diben. Mae Donaldson yn nodi'n glir iawn, ni waeth pa gwricwlwm a gaiff ei ddylunio, fod angen i'r pedwar diben fod yn ganolog iddo.

  • Cyswllt

    Jamie Keir
    Keir.jamie@torfaen.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Stryd George yn Waunfelin ar gyrion tref Pont-y-pŵl yn sir Torfaen. Ar y gofrestr mae 466 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 62 sy'n mynychu'r dosbarth meithrin yn rhan-amser.
    Mae 30% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (19%). Gwyn Prydeinig yw ethnigrwydd llawer o'r disgyblion, a dônt o gartrefi lle mai Saesneg yw'r brif iaith. Daw tua 13% o'r disgyblion o gefndiroedd sipsiwn a theithwyr. Mae ambell ddisgybl yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae ambell ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref.

    Noda'r ysgol fod gan tua 19% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

    Trosolwg ymholiad

    Pa ffactorau sy'n effeithio ar hyder athrawon i gyflwyno cwricwlwm sydd â'r Pedwar Diben yn ganolog iddo?

    Cwestiwn Ymholi

    Pa ffactorau sy'n effeithio ar hyder athrawon i gyflwyno cwricwlwm â'r Pedwar Diben wrth ei wraidd?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Ar ddechrau'r gwaith ymholi, cytunwyd y dylai gael ei fframio o fewn Troell Ymholi, yn bennaf am fod y fframwaith yn annog yr "ysfa broffesiynol" i bob diben sy'n llywio'r gwaith ymchwil, sef bod dyluniad y cwricwlwm yn mynd ar goll drwy ffocws Pedwar Diben y cwricwlwm yn ddiweddar.
    Er mwyn annog trafodaeth anfonwyd arolwg at bob aelod o'r staff addysgu. Roedd yr arolwg yn cynnwys pum cwestiwn ar raddfa symudol gyda lle i adael sylwadau er mwyn cyfiawnhau atebion. Er bod hyn yn ddefnyddiol, roedd rhai o'r canfyddiadau meintiol yn ymddangos yn groes i'r sylwadau, ac felly roedd angen mwy o ddata ansoddol. Nododd rhai athrawon eu bod yn hyderus y gallent gyflawni'r Pedwar Diben ond nid oeddent yn teimlo y gallent adlewyrchu hyn wrth addysgu. Hefyd, cafwyd canfyddiadau gwahanol o ran beiusrwydd, yn ogystal â pha mor "rhydd" roeddent yn teimlo i weithredu newidiadau. Ystyriwyd bod y ddogfen cynllunio "pwnc" bresennol yn ddiangen, ac nad oedd o fudd i greu gweledigaeth ysgol gyfan.
    Arweiniodd hyn at greu grŵp ffocws a oedd yn cynnwys pum athro ag amrywiaeth o brofiad a rolau: Dirprwy Bennaeth (nad yw'n addysgu); arweinydd cyfnod; Athro Cyfnod Sylfaen profiadol, athro Cyfnod Allweddol Dau ac ANG diweddar, ac ANG presennol. Roedd hyder yn thema allweddol drwy'r trafodaethau ac, o'i hadolygu yn unol â'r llenyddiaeth a'r arolwg, dynododd ymhellach y ffyrdd niferus y gellir effeithio ar hyder athrawon. Yn wir, crybwyllwyd llawer o'r ffactorau a gyhoeddwyd sy'n effeithio ar hyder, neu cyfeiriwyd atynt, yn yr holiadur a'r grŵp ffocws.
    Fel rhan o agwedd 'Gweithredu' y Troell Ymholi, cytunodd y pedwar athro dan sylw y byddent, fel grŵp, yn adolygu eu gwaith cynllunio tymhorol fel bod pob pwnc yn gorffen gyda nod pendant, oherwydd teimlwyd bod hyn yn rhywbeth y gellid ei gyflawni, yn ogystal â bod yn ddull arloesol o sicrhau bod y Pedwar Diben wrth wraidd gwaith y plant. Byddai holl brofiadau'r disgyblion, lle y bo modd, yn cael eu cynllunio fel rhan o daith ddysgu tuag at gyflawni'r nod. Nid ystyriwyd bod y term "pwnc" yn ddefnyddiol, felly penderfynwyd defnyddio "prosiect". Er mwyn adlewyrchu'r newid hwn, cwblhaodd pob athro dempled cynllunio newydd lle cafodd gweithgareddau eu mapio yn erbyn y Pedwar Diben, gan ddarparu rhesymau yn cyfiawnhau eu cynnwys.
    Cynhaliwyd dau grŵp ffocws pellach, un i adfyfyrio ar y newidiadau cynllunio, a'r llall i drafod yr effaith ar addysgu mewn ystafelloedd dosbarth unigol.

    Ystyriaethau moesegol

    Cymerodd yr athrawon ran yn yr arolygon a'r grwpiau ffocws o'u gwirfodd. Ni wnaeth pob athro gwblhau'r arolwg o ganlyniad i hynny. Cafodd y sawl a gymerodd ran yn y Grŵp Ffocws eu gwahodd i ymuno â'r grŵp, a gwnaed yr hawl i dynnu'n ôl yn glir. Fodd bynnag, roeddent yn awyddus i gymryd rhan. Gan fod yr ymholiad hwn yn canolbwyntio ar hyder athrawon – maes a ddaeth i'r amlwg o'r arolwg a'r grŵp ffocws cychwynnol – byddai'r adfyfyrdodau a'r canfyddiadau o safbwynt yr ymarferwr yn hytrach na'r dysgwr. O ganlyniad, nid oedd angen cael cydsyniad ar sail gwybodaeth gan y disgyblion na'r rhieni y tro hwn.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae'r llenyddiaeth sydd ar gael yn awgrymu bod sawl rhan o'r proffesiwn yn cael effaith ystyrlon ar hyder ymarferwyr. Nododd Park et al (2018) fod hunaneffeithlonrwydd athrawon yn dibynnu'n fawr ar wybodaeth (boed hynny'n ymwneud â phwnc, addysgeg, deddfwriaeth), sgiliau, technegau a gallu yr ymarferwr. Gan ddechrau gyda gwybodaeth am bwnc, cydnabu Shulman (1987) po fwyaf lefel gwybodaeth athrawon am bwnc, y mwyaf eu hyder wrth gyflwyno'r pwnc hwnnw. Hefyd, bydd ymwybyddiaeth yr ymarferwr o dechnegau penodol yn esgor ar fwy o ddealltwriaeth, sef 'Gwybodaeth am Bwnc Addysgegol'. O ystyried hyn ochr yn ochr â 12 o Egwyddorion Addysgegol Donaldson (2015), nid yw'n syndod, gyda'r holl ddogfennau cwricwlaidd a deddfwriaeth newydd, fod effaith ar hyder athrawon o ran gwybodaeth am bwnc a gwybodaeth am bwnc addysgegol.
    O ystyried hyn, mae'n demtasiwn i athrawon fod am i Bedwar Diben y cwricwlwm newydd fod yn ganolbwynt i'w hystafelloedd dosbarth, ond noda Donaldson (2015; t64) eu bod yn nodau hirdymor ac nid yn bwyntiau cyfeirio dyddiol. Yn hytrach, bydd gwaith cynllunio effeithiol ac adolygu'r profiadau sydd ar gael yn gosod dibenion y cwricwlwm wrth wraidd yr addysgu. Bydd eu presenoldeb yn llai amlwg; ni chânt y sylw pennaf wrth ddysgu.
    Felly, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd datblygu'r cwricwlwm drwy'r ysgol gyfan. Mae Greener a Wakefield (2015) yn dadlau, wrth ddysgu ar ffurf "DIY" – ac mae'n deg dweud bod llawer o ysgolion yn gwneud hynny wrth arbrofi ag agweddau ar y cwricwlwm newydd – y gwelir bylchau o ran gwybodaeth athrawon, a bod cymorth cydweithwyr ac arbenigwyr pwnc yn hanfodol i gau'r bylchau hynny. Tanlinellodd damcaniaeth Lluniadaeth Gymdeithasol Vygotsky (1978) bwysigrwydd rôl y "more knowledgeable other" wrth dywys dysgwyr drwy eu Parth Datblygiad Procsimol; rhaid cydweithio er mwyn gwella lefelau dealltwriaeth ac, felly, hyder.
    At hynny, mae cysyniad Siraj-Blatchford o Feddwl Parhaus a Rennir (2009) yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio. Noda'r ddamcaniaeth, er mwyn i ddau neu fwy o unigolion ddatblygu damcaniaethau, cysyniadau a gweithgareddau penodol ar y cyd, y bydd angen iddynt berchenogi'r dasg yn wirioneddol, a chael amser, ymddiriedaeth a hyder, yn ogystal â rheoli'r amgylchedd. Nid yw'n gam yn rhy bell cydnabod pwysigrwydd y rhain i athrawon, yn ogystal â deall, petai unrhyw rai o'r rhain yn cael eu cyfyngu neu eu gwadu, y gallai gael effaith ddifrifol ar hyder wrth gyflawni Pedwar Diben y cwricwlwm.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Darparodd y grwpiau ffocws amrywiol gipolwg ar amrywiaeth o ffactorau sy'n effeithio ar hyder athrawon. Roedd y cysyniad o nod a thaith ddysgu yn ddefnyddiol iawn, ond roedd natur y model yn dal i'w gwneud yn hawdd dychwelyd at y "pynciau" traddodiadol. Fodd bynnag, ystyriwyd bod y templed cynllunio diwygiedig yn llwyddiant wrth droi "pynciau" yn "brosiectau". Deilliodd gweithgareddau a phrofiadau o'r templed cynllunio, gyda gwersi ystyrlon a chyfoethog yn datblygu'n naturiol. Nid oedd yn teimlo fel ymarfer ticio blychau ar gyfer y cwricwlwm mwyach (roedd yr hen ddogfen yn teimlo felly, yn ôl yr arolwg) ond yn hytrach teimlai fel bod cwricwlwm "seiliedig ar brosiect" yn cael ei greu mewn ffordd organig, llawn egni.
    Bu'n haws i rai dosbarthiadau nag eraill gynnwys eu prosiect fel rhan o'r cwricwlwm cyfan. Y demtasiwn o hyd oedd trin Llythrennedd a Mathemateg fel endidau ar wahân a addysgid yn y bore, gyda "phwnc" (y Dyniaethau yn y bôn) yn cael ei addysgu yn y prynhawn. Yr athrawon a deimlai mai eu prosiectau nhw oedd fwyaf dilys a chyfoethog o ran profiadau oedd y rhai lle roedd bron pob maes pwnc yn arwain at nod. Rhaid cydnabod bod rhai prosiectau yn fwy addas ar gyfer Llythrennedd neu Rifedd ond mater i'r ymarferwr yw edrych ar y flwyddyn gyfan, a'r holl brosiectau sydd yn yr arfaeth, er mwyn nodi pan fydd rhai sgiliau neu genres ysgrifennu yn gweddu orau i daith ddysgu benodol. Ni ddylid poeni am gynnwys rhai cyfrifoldebau cwricwlaidd penodol os nad ydynt yn gweddu i'r prosiect.
    Roedd pawb a gymerodd ran yn teimlo bod dull o'r fath wir yn rhoi'r Pedwar Diben wrth wraidd y cwricwlwm, ac yn gwella eu hyder o ran cynllunio a chyflwyno mwy o brosiectau fel hyn. Nodwyd nifer o resymau dros hyn. Yn gyntaf, roedd gallu cydweithio â chydweithwyr yn hynod fuddiol. Gall fod yn heriol canolbwyntio ar natur ddamcaniaethol dogfennau'r cwricwlwm, yn enwedig yn annibynnol, ond gwnaeth eistedd i lawr gyda chydweithwyr, gan greu dull a rennir, wir helpu a dileu camsyniadau. Roedd rhai athrawon o'r farn bod y prosiect â nod pendant wedi gwella eu hyder o ran troi damcaniaethau'r cwricwlwm yn ymarfer, yn ogystal â darparu amgylchedd lle, os na fu'r prosiect yn llwyddiannus, na fyddai ymarferwyr yn teimlo'n atebol ar yr amod bod y profiad yn cael ei ddefnyddio i barhau i ddatblygu dull yr ysgol o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae cael y gefnogaeth i roi cynnig ar rywbeth newydd, a chael yr amser i adfyfyrio ar ganlyniadau'r dull newydd hwn o weithredu, yn hanfodol wrth fagu hyder athrawon o ran cyflwyno cwricwlwm sy'n briodol iddyn nhw eu hunain a'r plant yn y dosbarth. Felly, rhaid cael athroniaeth ysgol gyfan, ond rhaid bod gan ymarferwr y rhyddid i deilwra'r dull o weithredu yn seiliedig ar anghenion y dysgwyr.
    Gwnaeth y dull cynllunio newydd alluogi'r athrawon i ganolbwyntio ar y nod, a dilyn y trywydd iawn. Arweiniodd hyn at newid eu meddylfryd o "ein pwnc yw" i "rydym yn dysgu hyn oherwydd..." Drwy gysylltu gwersi a phrofiadau â'r nod, bu gwelliant o ran hyder athrawon am iddo wneud iddynt ofyn pam eu bod yn gwneud pethau penodol. At hynny, gallai'r plant weld sut roedd yn berthnasol i'w dysgu, a gwellodd lefelau ymgysylltu yn sylweddol yn y dosbarthiadau lle roedd y ffordd hon o feddwl yn fwyaf nodedig.

    Cyfyngiadau

    Ni wnaeth pob athro fynd ati i gasglu data. Cwblhawyd tua 80% o arolygon ac roedd peth data ansoddol yn groes i agweddau eraill ar yr arolwg. Gallai model y grŵp ffocws fod wedi effeithio ar ba mor gyfforddus roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo i drafod eu profiadau a'u canfyddiadau. Dim ond pedwar dosbarth (allan o gyfanswm o 16 yn yr ysgol) a gymerodd ran yn y diwygiad "Nod", felly mae'r data yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Yn ystod tymor y gwanwyn caiff hyn ei gyflwyno i'r ysgol gyfan fel rhan o brosiect a thaith ddysgu ysgol gyfan. At hynny, bydd y gwaith o gynllunio'r prosiect hwn yn cynnwys pob aelod o staff, gan gynnwys CCDau.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Tybiwyd bod y Troell Ymholi yn fframwaith effeithiol i gyflawni'r gwaith ymchwil am ei fod yn amlinellu proses glir â phwyslais penodol a oedd yn annog adfyfyrio proffesiynol a syniadau mewn ffordd a oedd yn galluogi'r gwaith ymchwil i ddatblygu'n uniongyrchol o brofiadau gwirioneddol yn yr ystafell ddosbarth, ac effeithio arnynt wedyn.
    Tybiwyd mai prosiectau a oedd yn bwyntiau ffocws i bob "gwers" oedd fwyaf llwyddiannus. Dylai nodau gwirioneddol â diben gael eu cynllunio mewn ffordd lle mae bron pob gwers, ac nid dim ond sesiynau prynhawn "pwnc", yn rhan o'r daith ddysgu. Gall un llyfr prosiect ar gyfer pob gwers fod yn fuddiol.
    Bu'r dull nod dilys a thaith ddysgu o ddatblygu prosiect yn llwyddiannus iawn, ynghyd â'i ddatblygu gan ddefnyddio templed cynllunio newydd gyda chydweithwyr. Yn wir, bu'r fath gydweithio yn allweddol er mwyn rhoi'r hyder i athrawon gyflawni'r gwaith cynllunio a'r prosiect diwygiedig hwn. Awgrymodd y grwpiau ffocws a'r arolygon fod gweithio gyda chydweithwyr yn ffactor pwysig a effeithiodd ar hyder yr athrawon ac, os caiff hyn ei gyflwyno drwy'r ysgol gyfan, rhaid iddo fod yn brofiad gwirioneddol gydweithredol, neu fel arall gellid dychwelyd at "bynciau" confensiynol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Greener S a Wakefield C. “Developing confidence in the use of digital tools in teaching” The Electronic Journal of e-Learning Cyfrol 13 Rhifyn 4 2015 (tt260-267) ar gael ar-lein yn www.ejel.org
    Mi-Hwa Park, Dimiter M. Dimitrov a Do-Yong Park; Journal of Research in Childhood Education, 2018, Col.32, Rhif 2 -165-180 (testun A)
    Shulman, L.S. (1987) Knowledge and Teaching: Foundations of the new reform, Harvard Educational Review, 57 (1): tt 1-22.
    Siraj-Blatchford I. (2009) ‘Conceptualising progression in the pedagogy of play and sustained shared thinking in early childhood education: A Vygotskian perspective’ yn Educational and Child Psychology, 26, 2.
    Vygotsky, L. (1978) Mind in Society: The Development of Higher Psychological Processes. Caergrawnt, MA: Harvard University Press.

  • Cyswllt

    Jenny Ardle
    Jenny.ardle@millbrookprimary.co.uk
    Lindsey Watkins lindsey.watkins@millbrookprimary.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Millbrook yn ardal Betws yng Nghasnewydd. Mae'n darparu ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Ar hyn o bryd, mae 286 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 32 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin rhan-amser. Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn byw yn y stad o dai ger yr ysgol a gwyn Prydeinig yw ethnigrwydd bron pob un ohonynt. Nid oes yr un o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Mae'r ysgol yn addysgu ei disgyblion mewn 11 o ddosbarthiadau.
    Mae tua 30% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%. Noda'r ysgol fod gan tua 30% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25%.

    Trosolwg ymholiad

    Sut mae gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddibenion yn llywio'r broses o ddylunio'r cwricwlwm yn y dosbarth Bl.5/6 cymysg?
    Cwestiwn Ymholi: Cylch 1
    Beth: Sut mae gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddibenion yn llywio'r broses o ddylunio'r cwricwlwm yn y dosbarth Bl.5/6 cymysg?
    Pam: Athro yn ei ail flwyddyn o addysgu; rhoddwyd rhywfaint o hyfforddiant cychwynnol mewn gwaith cyn yr astudiaeth achos ar gwricwlwm a arweinir gan ddibenion.
    Pwy: Ffocws yr astudiaeth achos = athro Bl.5/6 a myfyrwyr Bl.5/6
    Ble: Ystafell ddosbarth Bl.5/6 cymysg
    Pryd: Ail hanner tymor yr hydref 2019

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddibenion yn llywio'r broses o ddylunio'r cwricwlwm mewn dosbarth Bl.3/4 cymysg?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Ffocws ein hymholiad oedd dylunio cwricwlwm. Cododd yr angen am hyn yn sgil gwerthusiad o'r dull cynllunio a ddefnyddiwyd y llynedd a'r angen i baratoi am y cwricwlwm newydd yng Nghymru. Canfu ymarfer pennu cwmpas ehangach cychwynnol fod 100% o'r staff yn cytuno bod angen newid.

    Nododd tîm yr ysgol yr arferion a fyddai'n hwyluso'r daith dysgu proffesiynol yn ein hysgol. Ymhlith yr arferion allweddol a nodwyd roedd: perchenogaeth, ymreolaeth, grymuso, ymgysylltu â gwaith ymchwil a chael cyfle i rannu'r hyn a ddysgir.

    Lluniwyd diffiniad o ddysgu proffesiynol drwy waith ymchwil, cydweithio a thrafodaeth â'r staff. Cafodd deialog broffesiynol ei hannog drwy fforwm yn llawn ymddiriedaeth a gonestrwydd er mwyn grymuso'r staff i fod yn ddigon dewr i rannu syniadau. Fel ysgol, gwnaethom ddychwelyd at yr hanfodion o ran diben ein gwaith cynllunio a'r dysgu.

    Lluniwyd map llwybr dysgu er mwyn dangos y daith newid yn Millbrook ac atgyfnerthu gweledigaeth ein hysgol. Cafodd ffurflen gynllunio gychwynnol ei llunio a'i chwblhau. Fodd bynnag, ni wnaeth hyn gyflawni'r diben bwriadedig, sef newid ein proses gynllunio i ddiwallu anghenion dylunio cwricwlwm 2020. Wedyn, treialwyd ail ddull cynllunio, â fformat llai caeth a ffocws ar y dysgu bwriadedig.

    Yn dilyn cyfnod o gydweithio â staff a threialu dull cynllunio newydd, roedd angen cymorth ar dri athro. Rhoddwyd y cymorth hwn ar ffurf hyfforddiant unigol, er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn trafodaethau addysgegol dyfnach am y dysgu bwriadedig.

    Wedyn, dewiswyd astudiaeth achos fel dull ymchwil er mwyn i ni ddysgu'n ddyfnach am y broses ddylunio.
    Cynhaliwyd astudiaeth achos yr ymholiad gydag athrawes brofiadol. Mae gan yr athrawes hon ymagwedd meddylfryd twf tuag at ddysgu proffesiynol ac mae wedi dangos diddordeb mewn newid ei dull cynllunio yn unol ag addysgeg y cwricwlwm newydd. Felly, ystyriwyd bod cyfranogiad yr athrawes Bl.3/4 a'i gallu i weithredu yn hollbwysig i lwyddiant y gwaith hwn.

    Ystyriwyd hefyd fod yr angen am sgyrsiau dyfnach a chyfoethocach am addysgeg ar gyfer y cwricwlwm newydd ymhlith yr holl staff yn bwysig. Roedd hyn yn hanfodol i gefnogi athrawes yr astudiaeth achos fel bod ganddi rywfaint o ddealltwriaeth sylfaenol o ofynion y cwricwlwm newydd. Mae pob aelod o staff wedi ymgymryd ag amrywiaeth o brofiadau deialog cydweithredol wyneb yn wyneb er mwyn ymchwilio'n ddyfnach i'r newid sydd ei angen i wireddu'r cwricwlwm newydd. Ystyriwyd bod angen i bawb gyfrannu at y trafodaethau hyn er mwyn iddynt ddeall y broses a'i pherchenogi.

    Ystyriaethau moesegol

    Roedd yr holl staff addysgu'n gwybod bod yr ymholiad yn cael ei gynnal.
    Cafwyd cydsyniad ar gyfer y cyfranogwyr a gymerodd ran yn y grŵp ffocws. Cynhaliwyd trafodaethau er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan ym mhroses ymchwil yr ymholiad.
    Defnyddiwyd y daflen wybodaeth gyda'r cyfranogwyr.
    Nid oedd yr un plentyn yn rhan o'r gwaith ymchwil ar yr adeg hon.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Roedd yr adolygiad llenyddiaeth hwn yn canolbwyntio ar waith ymchwil mewn perthynas â dylunio cwricwlwm.
    Stutt (2018) – mewn blog, mae Stutt yn trafod y ddau gategori bras o waith datblygu cwricwlwm ac yn dweud bod angen i waith dylunio cwricwlwm ymgorffori darganfyddiadau newydd er mwyn gwella profiad dysgu'r myfyrwyr mewn byd sy'n newid yn gyson.
    King (2014) – yn ei llyfr “Evaluating the impact of teacher professional development”, mae King yn cyfeirio at bwysigrwydd gallu athrawon i weithredu.
    Brene Brown (2017) – yn y llyfr “Braving the wilderness,” mae Brene Brown yn sôn am ymdeimlad bod dynol o berthyn ac mae'n defnyddio cyfatebiaeth – mae'n dadlau o blaid ceisio creu microgymuned ymhlith y staff yn seiliedig ar ymddiriedaeth a dewrder.
    Goodhall (2005): “Organisational culture in schools is made, not born – it is the result of the way people (all people involved in the school) work together within a given set of circumstances. Unless that culture is a supportive one, able to not only assimilate but embrace change, CPD cannot be as effective as it might otherwise be”
    Timperley (2014):
    Inquiry Cycle: What is the trigger for professional Learning?
    “To undertake this kind of change, teachers need opportunities to develop their knowledge as they delve into the evidence from student learning, evidence of the effectiveness of their own practice and evidence from research on effective practice.”
    Dywed Helen Timperley mai math o ddysgu dwfn yw dysgu proffesiynol ac mai credoau athrawon sy'n ysgogi ymholiad, a elwir yn aml yn “ysfa broffesiynol”. Mae ei model ymholi'n cynnwys adfyfyrio, sy'n cymryd amser. Mae'n gweld dysgu proffesiynol fel proses adfyfyriol ac mae deialog o safon yn rhan hanfodol o hyn sy'n cefnogi'r defnydd presennol o'r model ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu. Mae'n dadlau o blaid rhoi cynnig arni yn yr ystafell ddosbarth ac yna ymateb i'r canfyddiadau, y gellir eu mesur gan ddefnyddio deilliannau myfyrwyr.
    Amador (2019) – Yn ei blog, mae'n dadlau bod rhaid i ddysgu proffesiynol fod yn rhan ganolog o unrhyw brofiad addysgol llwyddiannus. Mae'n sôn am bwysigrwydd creu diwylliant o ymddiriedaeth, cydweithio a pharch.
    Joke M Voogt, Jules M Pieters, Adam Handelzalts (2016) – Gyda'i gilydd, maent yn dadlau bod cydweithio rhwng athrawon yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad proffesiynol a'r ffordd y caiff newidiadau cwricwlaidd eu rhoi ar waith am fod athrawon yn meithrin cymwyseddau ac yn datblygu perchenogaeth dros y newid.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Beth sydd wedi newid? Beth rydym wedi'i ddarganfod?

    • Rhaid i'r diben barhau i ysgogi'r gwaith o gynllunio syniadau dysgu. Mae'n hawdd dychwelyd at sefyllfa lle mae cynlluniau gwersi penodol i'r pwnc yn ysgogi'r broses o gymathu cynnwys a gwybodaeth.
    • Mae'r athrawes ddosbarth wedi creu cofnodlyfr cynllunio a ysgogir gan y diben ac sy'n cysylltu'r MDPh yn llac â syniadau dysgu sy'n adlewyrchu newid mewn addysgeg a gwaith dylunio cwricwlwm. Mae'r meysydd pwnc yn cael eu haddysgu yn unol ag eraill, nid ar eu pen eu hunain.

    “Roedd gen i fwy o ryddid am nad oeddwn i mor gaeth i'r pwnc, ac roedd y dysgu'n anelu at gyflawni'r diben bwriadedig.” (Sian Lloyd, 2019)
    Yn ystod y cyfweliad, dywedodd yr athrawes ddosbarth fod y cofnodlyfr cynllunio wedi rhoi cyfleoedd iddi fod yn greadigol ac yn arloesol wrth ddylunio'r cwricwlwm, a bod y ffurflenni cynllunio â blychau penodol i'r pwnc yn cyfyngu ar hynny o'r blaen.

    • Mae'r athrawes ddosbarth wedi sylweddoli pa mor bwysig yw cadw hanfodion addysgu sgiliau sylfaenol ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Mae'r sgiliau llythrennedd a rhifedd hyn wedi'u gwreiddio yn niben y dysgu ac fe'u hadlewyrchir yn y ffordd y caiff y cwricwlwm ei ddylunio.
    • Dywedodd yr athrawes ddosbarth fod ganddi fwy o allu i weithredu ac ymreolaeth, a defnyddiodd eiriau fel “rhyddid i gynllunio” yn ystod y trafodaethau grŵp ffocws. Er mai nod yr ymholiad oedd archwilio'r newid yn y broses, roedd y diwylliant a'r ethos yn gyfrwng hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Yn wir, mae hyn wedi dod yn ffactor arwyddocaol yn llwyddiant y broses gynllunio ac mae'r athrawes ddosbarth yn yr astudiaeth achos hon ac aelodau eraill o staff wedi cydnabod hyn.
    • Mae'r athrawes wedi cydnabod bod mynd ati i adfyfyrio, a neilltuo amser ar gyfer hynny, yn rhan hanfodol o'r broses dylunio cwricwlwm. At hynny, nododd yr athrawes fod angen bod yn ddewr i ymateb yn unol ag adfyfyrdodau a gwerthusiadau.

    Cyfyngiadau

    • Dim ond un dosbarth oedd yn rhan o'r ymholiad ar yr adeg hon.
    • Mae'r ymholiad wedi canolbwyntio ar y newid yn y broses gynllunio, heb gyfeirio fawr ddim at ofynion y MDPh newydd nac ymchwilio iddynt.
    • Byddai triongli data yn sicrhau bod yr ymholiad hwn yn fanwl gywir.
    • Rwyf wedi gweld lefelau uchel o ymgysylltu a pherchenogaeth ymhlith y plant ond mae angen ymchwilio i ddull addas o gasglu'r data hyn.
    • Nid arweiniodd yr ymholiad at unrhyw ddata meintiol ar yr adeg hon.
    • Mae'n bosibl bod y pwnc ysgol gyfan wedi llesteirio brwdfrydedd a diddordebau unigol yr athrawes ddosbarth.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    • Mae angen dealltwriaeth gyffredin glir o ddysgu proffesiynol ymhlith yr holl staff. Yn ddelfrydol, diffiniad cyffredin o'r hyn y mae'n ei olygu i'r tîm, ynghyd â gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu.
    • Rhaid i'r tîm arwain hwyluso a modelu ethos o ymchwil a chydweithio. Rhaid i bob aelod o staff gael ei werthfawrogi, ei rymuso a'i gefnogi i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol.
    • Rhaid nodi'r gwerthoedd craidd sy'n sail i'r broses newid. Mae'r broses newid yn gymhleth ac mae angen ei thrafod o fewn diwylliant o fod yn agored a'i hwyluso ag ymrwymiad i ddysgu proffesiynol.
    • Er mwyn cynllunio'n effeithiol, mae angen neilltuo amser ar gyfer pob cam o'r broses – mae angen i athrawon gael amser i adfyfyrio, sy'n elfen hollbwysig o'r broses hon. Mae hyn yn bwysig fel unigolion ac fel rhan o'r tîm cyfan. Un o allbynnau'r gwaith hwn yw bod athrawon bellach yn cael amser CPAA – Cynllunio, Paratoi, Asesu ac Adfyfyrio. Mae newid yn arwain at syniadau a chanfyddiadau newydd – mae angen trafod y rhain ac adfyfyrio arnynt er mwyn i arloesi ddigwydd.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    n/a

  • Cyswllt

    Annie James

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn Rhiwbeina yng ngogledd Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae 487 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 60 o ddisgyblion meithrin rhan-amser. Mae gan yr ysgol ddau ddosbarth ym mhob grŵp blwyddyn a chanolfan adnoddau dysgu sy'n darparu addysg i 13 o ddisgyblion ledled yr awdurdod lleol. Darperir ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu difrifol a chymhleth a disgyblion ag anghenion meddygol. Cyfartaledd treigl y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd diwethaf yw 7%. Mae hyn gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%. Noda'r ysgol fod gan tua 14% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd fymryn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%. Mae gan bob disgybl yn y ganolfan adnoddau dysgu ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o gefndir ethnig gwyn a Saesneg yw iaith gyntaf bron pob un ohonynt. Ychydig iawn o'r disgyblion sy'n siarad Cymraeg gartref.

    Trosolwg ymholiad

    Diben yr astudiaeth yw ystyried sut y gallwn ddyfnhau ac atgyfnerthu dealltwriaeth y staff o'r pedwar diben a sut y gallwn sicrhau ymroddiad gan y staff er mwyn iddynt groesawu a gwreiddio'r dibenion ym mhob rhan o'r cwricwlwm.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gallwn wella dealltwriaeth o'r pedwar diben?
    Sut y gallwn sicrhau bod staff yn ymrwymedig i groesawu ac ymgorffori'r dibenion wrth roi'r cwricwlwm ar waith?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Dyluniwyd ein cwestiwn ymholi gan ystyried y gwaith parhaus y mae'r ysgol yn ei wneud i wreiddio'r pedwar diben. Roedd dyluniad a methodoleg yr ymholiad yn cynnwys pob aelod o staff ac yn defnyddio dulliau gweledol yn seiliedig ar dystiolaeth ansoddol. Diben y sesiwn HMS oedd rhoi amser i'r staff adfyfyrio ar y gwaith o ddatblygu'r ddarpariaeth cwricwlwm ym mhob rhan o'r ysgol gyda'r pedwar diben wrth wraidd y gwaith hwnnw. Mewn grwpiau, gofynnwyd cyfres o gwestiynau penagored i'r staff (athrawon / cynorthwywyr addysgu o wahanol gyfnodau) a gwnaethant ymateb drwy amrywiaeth o dasgau, fel yr amlinellir.
    Cam 1
    Roedd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar yr athroniaeth a'r weledigaeth sy'n sail i'r pedwar diben er mwyn gwella dealltwriaeth.
    Aeth y staff ati mewn grwpiau i gwblhau gweithgaredd 'nodyn gludiog' gan ystyried y cwestiynau canlynol ac, yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd iddynt rannu eu tri phrif syniad.
    Beth yw pwrpas y Pedwar Diben? (Pam mae angen iddynt gael eu hystyried?)
    Beth yr hoffem ei gael o'r Pedwar Diben?
    Yn dilyn hyn, gofynnwyd i'r grwpiau ystyried beth y dylai'r pedwar diben ei olygu i ni fel oedolion ac i'r disgyblion. Diben y dasg oedd bod y staff yn mynd ati i ddadansoddi'r athroniaeth sy'n sail i'r pedwar diben ymhellach. Aethpwyd ati i wneud hyn ar ffurf tasg tynnu llun gydag amlinelliad o ddisgybl yn y canol a syniadau'n cael eu nodi mewn mannau penodol yn dibynnu ar b'un a oeddent yn gymwys i oedolyn neu blentyn.
    Cam 2
    Roedd yr ail gam yn canolbwyntio ar roi'r pedwar diben ar waith. Gofynnwyd y cwestiynau canlynol:
    Sut rydym yn rhoi athroniaeth y pedwar diben ar waith yn ein lleoliad ar hyn o bryd?
    Beth mae angen i ni ei wneud i wella er mwyn sicrhau bod y pedwar diben wrth wraidd popeth a wnawn o ddydd i ddydd?
    Trafodwyd y cwestiynau hyn ymhellach mewn grwpiau ac aeth yr hwyluswyr ati i fapio'r ymatebion i'r grŵp eu gweld wrth iddynt roi adborth.
    Er mwyn cyflawni'r dasg derfynol, gofynnwyd i'r staff weithio mewn timau yn eu grwpiau blwyddyn i ystyried yn fanylach beth roedd y pedwar diben yn ei olygu i ddisgyblion yn eu grŵp blwyddyn wrth iddynt gael eu rhoi ar waith. Gofynnwyd i'r staff ystyried y nodweddion a'r hyn y maent yn ei olygu i'w disgyblion. Defnyddiodd y grwpiau fapiau meddwl i nodi'r wybodaeth hon.
    Yna, cafodd y data gweledol a gasglwyd eu dadansoddi, nodwyd ymatebion a themâu allweddol a defnyddiwyd y canfyddiadau i lywio cam nesaf yr ymholiad.

    Ystyriaethau moesegol

    Cydymffurfiwyd â'r canllawiau moesegol a nodwyd gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd drwy gydol yr ymholiad. Roedd pob aelod o'r staff yn ymwybodol o ddiben a natur y gwaith o'r cyd-destun a roddwyd iddynt yn y sesiwn HMS ac yn meddu ar ddealltwriaeth glir o'r 'darlun ehangach' sy'n gysylltiedig â rôl ymholi arweiniol yr ysgol drwy'r ffrwd waith arloesi. Roedd y diwrnod HMS yn rhan o'n rhaglen dysgu proffesiynol. Mae gan bob aelod o'r staff yr hawl i fanteisio ar y cyfle hwn ac mae'n ofynnol i bob aelod fod yn rhan ohono felly cafodd risgiau moesegol eu lliniaru. Cafodd y dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu data eu hegluro i'r staff a chawsant wybod y byddent yn cyfrannu drwy wahanol ddulliau gweledol o gasglu data yn ogystal ag ar lafar drwy drafodaethau grŵp a grŵp cyfan. Mae datblygiad proffesiynol o'r fath yn arfer cyffredin yn ein hysgol; fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd i'r staff y byddai eu safbwyntiau a'u hymatebion ysgrifenedig yn ddienw at ddibenion yr ymholiad.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Yn Dyfodol Llwyddiannus (2015), noda Donaldson y dylai fod 'datganiad syml, parhaol am ddibenion cwricwlwm i Gymru' (t.21) ac y dylai strwythur y cwricwlwm 'adlewyrchu'r dibenion cwricwlwm yn uniongyrchol a'u hyrwyddo' (t.35). Cefnogir hyn gan Dauncey (2015) sydd o'r farn bod hyn yn awgrymu, heb ddibenion clir a chytûn, na fydd y gweithlu yn deall pam ein bod yn addysgu disgyblion, nac yn gwybod beth i'w wneud na sut i wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol.
    Mae cydnabyddiaeth anorchfygol bod angen diwygiadau ond, ar yr un pryd, ddealltwriaeth o'r anawsterau a allai ddeillio o wneud hynny. Mae Macdonald (2013), yng nghyd-destun y system addysg yn Awstralia, yn cwestiynu'r 'awydd am newid' a gallu rhanddeiliaid i groesawu diwygiadau. Byddai hyn yn cefnogi'r angen i gynnal yr ymholiad hwn a'r cyfeiriad rydym wedi'i gymryd.
    Mae Robinson (2010a) yn nodi'r broblem o geisio diwallu anghenion y dyfodol drwy wneud yr hyn rydym wedi'i wneud bob amser yn y gorffennol, tra bod Lyakhova et al. (2019) yn nodi diffygion lu y cwricwlwm cyfredol gan gynnwys ei fod yn amherthnasol, yn rhagnodol ond eto'n amwys, yn orlawn, yn ddarniog ac yn cyfyngu ar ymreolaeth athrawon.
    Hefyd, mae Robinson (2010b) yn nodi bod cymaint rydym yn ei gymryd yn ganiataol yn naturiol ym maes addysg fel 'y ffordd y mae hi' fel ei bod hi'n anodd rhyddhau ein hunain o'r delfrydau hyn os nad ydym hyd yn oed yn gwybod bod angen i ni wneud hynny. Mae'r pwyntiau hyn yn rhoi cyfiawnhad cryf iawn dros ein dewis o ddulliau ymchwil yn yr ymholiad hwn.
    Mae pob ffynhonnell yn cydnabod bod angen i ddisgyblion ddatblygu sgiliau a chymwyseddau, y bydd angen i bobl ifanc feddu ar gyfres eang ac addasol o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ac y bydd angen bodloni disgwyliadau newidiol cymdeithas a chyfrannu at greu cymdeithas fwy cynhyrchiol, cynaliadwy a theg (Macdonald, 2013). Fodd bynnag, mae Lyakhova et al. (2019) yn cydnabod bod angen sicrhau cydbwysedd rhwng dull sy'n seiliedig ar wybodaeth a'r tueddiadau a welir ar hyn o bryd wrth ddiwygio'r cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar yr angen i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau. Maent yn cydnabod bod hyn yn anodd ei gyflawni weithiau ac yn dadlau bod Dyfodol Llwyddiannus yn cael ei ysgogi fwy gan ddull yn seiliedig ar sgiliau y mae'r pedwar diben yn greiddiol iddo.
    Mae'n werth nodi bod Macdonald (2013) yn hyrwyddo'r cysyniad o raddoliaeth fel 'middle way between reformism and revolutionism seeking to change something or achieve a goal gradually rather than quickly or violently'. Mae hon yn ymagwedd ddoeth o ystyried cymhlethdodau systemau addysg.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r ymatebion i'r data gweledol yn dechrau cadarnhau bod y staff yn credu yn yr athroniaeth sy'n sail i'r pedwar diben. Ymatebion allweddol gan staff sy'n dangos eu bod yn cydnabod mai pwrpas y dibenion yw i ddisgyblion:

    • fod yn barod ar gyfer y dyfodol;
    • bod yn ddisgyblion cyflawn sy'n gyfrifol am eu dysgu eu hunain;
    • datblygu sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio drwy gydol eu bywydau;
    • datblygu unigoliaeth a gwydnwch;
    • bod yn ddysgwyr gydol oes y mae cyflogwyr am eu cyflogi;
    • meddwl yn annibynnol ac yn agored;
    • datblygu sgiliau gydol oes;
    • bod yn ddinasyddion byd-eang cynhyrchiol;
    • meddu ar lais moesol a gallu cwestiynu pethau y maent yn anghytuno â nhw;
    • meithrin hyder mewn sefyllfaoedd go iawn;
    • wynebu heriau ystyrlon;
    • meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i fyw mewn byd modern.

    Nid oedd yr ymatebion hyn yn peri syndod gan fod cryn dipyn o waith wedi'i wneud/pwyslais wedi'i roi ar weithio gyda rhanddeiliaid i nodi gwerthoedd yr ysgol sy'n ymgorffori'r pedwar diben ac sy'n ysgogi diwylliant ein hysgol.
    Pan ofynnwyd i'r staff ystyried beth ddylai'r pedwar diben ei olygu i ni fel oedolion ac i'r plant, nododd y rhan fwyaf o gyfranogwyr fod y pedwar diben yn golygu'r un peth i'r ddau. Nododd lleiafrif o'r staff fod rhai gwahaniaethau yn amlwg mewn cysylltiad â chamau datblygu disgyblion a bod angen eu tyfu a'u datblygu ar gyfer gwahanol lefelau o gymhlethdod.
    Cafwyd nifer o ymatebion gan y staff a oedd yn awgrymu ein bod yn gwneud cryn dipyn i roi'r athroniaeth sy'n sail i'r pedwar diben ar waith. Fodd bynnag, ar ôl mynd ati i gynnal dadansoddiad manylach o'r ymatebion, daethom i sylweddoli, er ein bod wedi cyflawni cryn dipyn o ran ein siwrnai diwygio, fod cryn dipyn i'w wneud o hyd cyn i ni allu dweud ein bod yn cyflawni'r pedwar diben yn gyson ac yn mynd i'w gwraidd. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried y cam nesaf o ran y gwaith y mae angen i ni ei wneud er mwyn i'r staff roi'r pedwar diben ar waith yn llawn wrth ddylunio'r cwricwlwm.
    Yn olaf, aeth y staff ati i ystyried beth roedd y pedwar diben yn ei olygu i blant ym mhob rhan o'r ysgol. Ymatebion athronyddol a gafwyd gan y staff i ddechrau a bu'n rhaid i ni ofyn iddynt feddwl am ddatganiadau ymarferol sy'n gysylltiedig â'r nodweddion. Cydnabu'r staff fod rhai o'r nodweddion yn haws mynd i'r afael â nhw nag eraill ond dangosodd hyn hefyd fod rhai nodweddion wedi'u tanddatblygu. Mae angen i'r staff barhau i feithrin eu dealltwriaeth o'r hyn y mae rhoi'r pedwar diben ar waith yn ei olygu er mwyn iddynt gynllunio cwricwlwm cyfan sy'n seiliedig ar y dibenion hynny.
    I gloi, nid oes amheuaeth ynghylch ymrwymiad y staff, ond mae angen i ni sicrhau eu bod yn deall yn llwyr yr hyn y maent yn ymrwymedig iddo; bod y dibenion yn fwy nag athroniaeth ac yn llawer mwy na chyfres o ddelfrydau; pedwar diben ydynt i'w hystyried, i'w gwireddu ac i adfyfyrio arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn rhedeg yn ddwfn ac yn bwrpasol.

    Cyfyngiadau

    Er i wybodaeth a dealltwriaeth gael eu creu drwy ddyluniad yr ymholiad a'r fethodoleg a ddewiswyd, mae rhai cyfyngiadau i'r dull hwn yn gyffredinol. Nid oes sicrwydd y caiff llais pawb ei glywed yn y broses hon. Hefyd, efallai na fydd pobl bob amser yn rhoi barn wirioneddol a gonest mewn fforwm cyhoeddus neu efallai y bydd barn pobl eraill yn dylanwadu arnynt. Mae angen neilltuo amser i gynnal trafodaethau manwl wrth ymgymryd â'r math hwn o weithgarwch ac, yn wir, bob dull ymholi, ac efallai fod hyn yn amlygu materion ehangach a wynebir wrth geisio newid diwylliant ym maes dysgu proffesiynol a sicrhau bod datblygiadau o ansawdd yn mynd rhagddynt

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Yn wreiddiol, bwriadwyd cynnal ymholiad er mwyn ystyried i ba raddau roedd y pedwar diben wedi'u gwreiddio yn ein darpariaeth cwricwlwm. Cymerwyd yn ganiataol gennym mai hwn oedd y cam roeddem wedi'i gyrraedd, ond drwy neilltuo amser a rhoi cyfle i adfyfyrio a chymryd cam yn ôl, gwnaethom gydnabod bod angen dealltwriaeth ddofn er mwyn sicrhau bod gennym sylfeini cadarn ar gyfer rhoi'r cwricwlwm ar waith. O ganlyniad, roedd gweithio gyda phob aelod o staff ar rywbeth mor hanfodol â dibenion y cwricwlwm yn hollbwysig. Drwy ddefnyddio model o gwestiynu ac adfyfyrio, roedd gwybodaeth a dealltwriaeth pawb yn amlwg yn cael eu meithrin a byddai'r effaith ar ddisgyblion yn cael ei hatgyfnerthu. Rydym yn cydnabod ein bod wedi bwriadu gwneud llawer gormod ar lefel arwynebol yn yr amser a oedd ar gael yn hytrach na gwneud llai gyda mwy o ddealltwriaeth a dyfnder. Gwnaethom danamcangyfrif pa mor fanwl y byddai rhai o'r trafodaethau a pha mor fanwl y byddai angen iddynt fod. Ni ellir tanamcangyfrif pwysigrwydd neilltuo amser i adfyfyrio er mwyn mynd ati go iawn i ddadansoddi effaith prosesau a chanfyddiadau fel ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith gywir ar y plant.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Fel gydag unrhyw agwedd ar y broses ddiwygio, mae'n hanfodol ein bod yn arafu pethau ac yn annog dyfnder o ran y gwaith rydym yn ei wneud er mwyn i newid ddigwydd. Mae perygl go iawn y caiff y pedwar diben eu hanwybyddu neu eu hystyried ar lefel arwynebol am fod ysgolion ar frys i ddylunio cwricwlwm newydd a sefydlu'r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Ni ellir cyrraedd cyrchfannau'n gyflym wrth ymgymryd ag unrhyw fath o waith diwygio ac, fel y nododd Macdonald, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio fesul tipyn ac yn parhau i gwestiynu a dadansoddi syniadau a gweithredoedd. Bydd hyn yn arwain at newidiadau cynaliadwy i'r cwricwlwm.

  • Cyswllt

    Clarissa Brind
    admin@rhydypenauprimaryschool.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gymunedol sy'n gwasanaethu ardal breswyl sefydledig yng ngogledd Caerdydd yw Ysgol Gynradd Rhydypennau. Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o gartrefi cymharol freintiedig, a daw rhai o gartrefi sydd dan anfantais yn economaidd.
    Mae gan yr ysgol 495 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys 50 o blant sy'n mynychu'r dosbarth meithrin yn rhan-amser. Mae'r ysgol naill ai'n llawn neu'n cael mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael ym mhob grŵp blwyddyn. Saesneg yw'r brif iaith a siaredir gartref. Ym mis Medi 2019, roedd 31.11% o'r disgyblion o gefndiroedd lleiafrif ethnig ac mae 21% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Saesneg yw'r brif iaith a ddefnyddir i gyfathrebu yn yr ysgol a chaiff y Gymraeg ei haddysgu fel ail iaith, ond caiff 18 o ieithoedd gwahanol eu siarad gartref. Ym mis Medi 2019, roedd 22 o ddisgyblion SIY, boed yn newydd i'r Saesneg neu ar y cam caffael cynnar. Mae 1.61% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim, nodwyd bod gan 4.84% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol (2.02% yn destun Gweithredu gan yr Ysgol; 2.02% yn destun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a 0.80% sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig)

    Trosolwg ymholiad

    Y diben yw gwreiddio diben craidd Unigolion Iach a Hyderus ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad. I ddechrau, byddwn yn casglu gwybodaeth o grŵp ffocws gyda'r athrawon er mwyn inni allu dyfnhau ein dealltwriaeth o athroniaethau ac arferion mewn perthynas â diben craidd Unigolion Iach a Hyderus yn ein cyd-destun presennol.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gallwn wreiddio diben craidd ‘unigolion iach a hyderus’ ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Dyluniwyd yr ymholiad er mwyn gwneud synnwyr o fframwaith y cwricwlwm, yn benodol sut y gall ysgolion wreiddio diben craidd ‘unigolion iach a hyderus’ ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiwn ymholi, dull ansoddol o gasglu data a ddefnyddiwyd yn bennaf. Roedd yr ymholiad yn seiliedig ar ddysgu am ddealltwriaeth athrawon o ddiben ‘unigolion iach a hyderus’. Casglwyd y data hyn drwy grwpiau ffocws o saith athro a oedd yn cynrychioli trawstoriad o'r ystod oedran ysgol gynradd, cynrychioliad gweledol a mapiau meddwl. Darparwyd ysgogiadau gweledol i sbarduno'r drafodaeth, gan gynnwys y llinynnau o fewn Diben Craidd ‘Unigolion Iach a Hyderus’, y Cynllun Gwella Ysgol a gweledigaeth yr ysgol. Gwahoddwyd pob un o'r athrawon i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil, pan gafwyd cydsyniad. Hefyd, atgoffwyd pob un ohonynt y gallent dynnu'n ôl ar unrhyw bryd a chawsant gymryd rhan yn anhysbys. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil dros gyfnod o dri mis.

    Ystyriaethau moesegol

    Cafwyd cymeradwyaeth foesegol gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Cafodd yr holl gyfranogwyr eu briffio ynglŷn â moeseg yr ymholiad, gan gynnwys eu hanhysbysrwydd a'u rhyddid i dynnu'n ôl. Rhoddwyd sesiwn friffio fer i'r athrawon a gymerodd ran, lle yr esboniwyd moeseg a diben y broses ymholi, a rhoddwyd llythyr cydsynio iddynt i'w lofnodi. Dim ond athrawon a gydsyniodd a gymerodd ran yn yr ymholiad hwn.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Yn ei gwaith ar ddiwygio'r cwricwlwm yn Awstralia, mae Macdonald (2013) yn adolygu Cwricwlwm Iechyd ac Addysg Gorfforol Awstralia gan nodi, ‘The HPE curriculum cannot address or be held accountable for the ever changing health and performance priorities of a nation. What it can endeavour to do is lay a foundation of knowledge that can be applied across ever-changing priorities contexts and life phases.’ Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwreiddio diben ‘unigolion iach a hyderus’ yn y cwricwlwm i bob dysgwr.
    Mae'n amlwg bod prinder ymchwil i'r pedwar diben yng Nghymru, yn enwedig ‘unigolion iach a hyderus’. Felly, mae'n bwysig bod ysgolion yn gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o'r pedwar diben ac mae'n bwysig cefnogi ysgolion wrth iddynt ddylunio cwricwlwm ar lefel ysgol a ategir gan y pedwar diben.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Roedd gan athrawon ddealltwriaeth dda o ddiben ‘unigolion iach a hyderus’ a chawsant drafodaeth fanwl am y priodoleddau y byddai'r dysgwyr yn eu harddangos. Gwnaethant gysylltu iechyd a hyder â gallu dysgwyr i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth, gan feddu ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud unrhyw benderfyniadau y mae angen eu gwneud o ran ffitrwydd, dewisiadau o ran ffordd o fyw, iechyd meddwl. Eu dealltwriaeth o'r diben hwn oedd ei fod yn codi ymwybyddiaeth ac yn ehangu ystyr y term ‘iechyd’ i gynnwys dewisiadau, cydberthnasau, emosiynau, gwydnwch yn ogystal â ffitrwydd ac ymarfer corff. Roeddent hefyd yn teimlo'n gryf nad bod yn hyderus o ganlyniad i wneud popeth yn dda oedd y diben ond, yn hytrach, eu dealltwriaeth oedd y byddai dysgwyr yn hyderus petaent yn llwyddo i ddangos ysgogiad ac i fentro. Ar ôl i'r diben gael ei roi iddynt, dywedodd yr athrawon nad oeddent wedi nodi'r gwerthoedd ‘yn wynebu heriau ac yn eu trechu’ nac ‘â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallant ac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas’. Gwnaethant drafod pwysigrwydd y ddau werth hyn, gan gydnabod bod hyn yn agwedd bwysig iawn ar y diben hwn.
    Roedd pob un o'r athrawon yn cytuno bod gweledigaeth a gwerthoedd ein hysgol yn adlewyrchu diben ‘unigolion iach a hyderus’. Fodd bynnag, teimlid y gellid aralleirio rhai o'r gwerthoedd i'w gwneud yn fwy penodol am eu bod yn rhy gyffredinol, a bod angen ymgorffori ‘yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas’ yn gliriach o fewn y weledigaeth a'r gwerthoedd. Roedd yr athrawon o'r farn bod angen gwneud mwy i hyrwyddo'r gwerth hwn yn yr ysgol a rhoi mwy o gyfleoedd i'r dysgwyr gael profiad o hyn.
    O gymharu â hynny, nododd yr athrawon yn glir nad oedd y Cynllun Gwella Ysgol yn gysylltiedig â'r diben. Cydnabuwyd, er bod y Cynllun Gwella Ysgol yn canolbwyntio ar godi safon y dysgu a'r addysgu, nad oedd llawer o gysylltiadau â diben ‘unigolion iach a hyderus’. Teimlai'r athrawon y byddai'r Cynllun Gwella Ysgol yn edrych yn wahanol iawn petai'r pedwar diben yn ategu'r dysgu a'r addysgu, er y byddai'r ffocws yn dal i fod ar flaenoriaethau'r ysgol. Gellid ystyried newid strwythur a threfniadaeth Cynlluniau Gwella Ysgol yn y dyfodol.
    Rhoddwyd amrywiaeth eang o enghreifftiau o'r ffyrdd rydym ni fel ysgol yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddod yn unigolion iach a hyderus, fel ein dull newydd o roi addysg seiliedig ar werthoedd sy'n gwreiddio cyfres o werthoedd yn yr ysgol i bob dysgwr, ein cyd-destunau ‘go iawn’ eang a diddorol, No Outsiders a chysylltiadau â'r gymuned a diwydiant. Roedd yn amlwg bod y cyfleoedd a gynigir ym mhob rhan o'r ysgol yn adlewyrchu dealltwriaeth dda'r athrawon o'r diben. Prin oedd y cyfleoedd i blant ddod yn aelodau gwerthfawr o'u cymdeithas, sy'n cyd-fynd â'r diffyg dealltwriaeth o'r gwerth hwn o fewn y diben.
    Roedd elfennau tebyg rhwng y geiriau/ymadroddion allweddol roedd athrawon drwy'r ysgol yn eu defnyddio i adnabod unigolion iach a hyderus yn ein hysgol. Mae hyn yn ategu dealltwriaeth athrawon o ddiben ‘unigolion iach a hyderus’ ymhellach, ac yn dathlu'r cyfleoedd a gaiff yr holl ddysgwyr drwy'r ysgol i ddod yn unigolion iach a hyderus.

    Cyfyngiadau

    Roedd amser yn gyfyngiad, felly mae'n bwysig ystyried pryd y caiff y grwpiau ffocws eu cynnal a faint o amser a neilltuir ar gyfer y grwpiau ffocws. Hefyd, mae angen ystyried trefniadau cyflenwi priodol pan gaiff athrawon eu rhyddhau, oherwydd effaith bosibl hyn ar y dysgu a'r addysgu ym mhob rhan o'r ysgol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Argymhellion ar gyfer yr ysgol:

    • Pwysigrwydd datblygu cyfleoedd i ddysgwyr fyw bywydau llawn boddhad fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, h.y. yng nghymuned eu hysgol.
    • Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr wynebu a threchu her.

    Argymhellion ar gyfer ymholiadau proffesiynol yn y dyfodol i athrawon:

    • Cynnal grŵp ffocws â phlant a chymharu eu dealltwriaeth o ddiben ‘unigolion iach a hyderus’ â dealltwriaeth yr athrawon, a chymharu dealltwriaeth gwahanol ystodau oedran.
    • Sicrhau bod plant yn ymgymryd â gweithgaredd priodol sy'n addas i'w hoedran er mwyn casglu gwybodaeth am eu dealltwriaeth o ddiben ‘unigolion iach a hyderus’.

    Defnyddiwyd grwpiau ffocws i gasglu data ar gyfer yr ymholiad hwn. Roedd ysgogiadau gweledol yn fodd i ofyn cwestiynau pellach a helpodd i gasglu gwybodaeth ychwanegol a dilyn trywyddau ymholi ychwanegol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y drafodaeth. Roedd y dull ymholi hwn yn hynod effeithiol am ei fod yn dangos dealltwriaeth a gwybodaeth yr athrawon mewn perthynas â diben ‘unigolion iach a hyderus’ yn glir. Drwy gydol y drafodaeth, roedd yr athrawon wedi ymlacio ac yn teimlo'n gyfforddus, a gwnaethant rannu gwybodaeth werthfawr a chraff. Gwnaeth agweddau at eu dealltwriaeth unigol o ddiben ‘unigolion iach a hyderus’ wella o ganlyniad i'r grŵp ffocws.

    Un perygl posibl yw y gallai ambell athro lywio'r sgwrs. Hefyd, gall y trafodaethau hyn gymryd llawer o amser. Mae'n bwysig ystyried faint o amser a neilltuir ar gyfer y grŵp ffocws er mwyn sicrhau bod modd cael sgyrsiau manwl ac osgoi rhuthro'r trafodaethau.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Doune Macdonald (2013) The new Australian Health and Physical Education Curriculum: a case of/for gradualism in curriculum reform?, Asia-Pacific Journal of Health, Sport and Physical Education.

  • Cyswllt

    Helen King
    rispa@caerphilly.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Rhisga yng Nglynebwy, ychydig i'r gogledd o Gasnewydd o fewn awdurdod lleol Caerffili. Ar hyn o bryd, mae 326 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 29 o ddisgyblion meithrin rhan-amser. Mae 12 o ddosbarthiadau gallu cymysg. Bob blwyddyn, mae'r ysgol yn derbyn tua 30 o ddisgyblion o ysgol fabanod leol ar ddechrau Blwyddyn 3.
    Cyfartaledd treigl tair blynedd y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 15%, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%. Mae bron pob disgybl yn siarad Saesneg gartref a phrin yw'r disgyblion y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt. Mae'r ysgol wedi nodi bod gan tua 11% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%. Mae gan ambell ddisgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.
    Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn ysgol arloesi ac mae'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau mewn perthynas â'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol.

    Trosolwg ymholiad

    Archwilio dylanwad y pedwar diben ar y dysgu a'r addysgu yn ein hysgol.

    Y cwestiwn ymholi:
    Ym mha ffyrdd y mae athrawon yn defnyddio'r pedwar diben i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm yn yr ystafell ddosbarth?

    Ymholiad Cychwynnol:

    Grwpiau ffocws cyfnod allweddol i wneud y canlynol:

    • ystyried a yw'r staff yn deall pam mae angen i'r pedwar diben fod wrth wraidd y cwricwlwm
    • canfod i ba raddau y mae'r staff yn deall y pedwar diben ar hyn o bryd
    • canfod a oes dealltwriaeth gyffredin o'r pedwar diben
    • ymholi i weld p'un a yw athrawon yn dechrau eu gwaith cynllunio tymor canolig a byrdymor gyda'r pedwar diben, neu'n cynllunio gwersi ac yn mynd ati wedyn i ystyried ble y gellid ymgorffori'r pedwar diben

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae'r staff yn dehongli'r pedwar diben wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Fel ysgol, gwnaethom ddarganfod, fel rhan o'n prosesau hunanwerthuso, fod angen i ni sicrhau bod y pedwar diben wir wrth wraidd ein gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Er mwyn gwneud hyn, byddai angen datblygu system glir o gynllunio, monitro a thracio er mwyn sicrhau bod y pedwar diben craidd yn rhan annatod o'r cwricwlwm. Felly, roedd angen i ni gynnal archwiliad o wybodaeth bresennol y staff am y pedwar diben ac arferion yn yr ysgol er mwyn pennu llinell sylfaen. Gan ddefnyddio'r dull llinell sylfaen hwn, byddem yn defnyddio canlyniadau ein hymholiad i lywio, datblygu a gwella ein harferion o ran paratoadau ar gyfer y cwricwlwm.

    Ar hyn o bryd, yn ein hysgol, caiff y pedwar diben eu hystyried mewn gwaith cynllunio tymor canolig a byrdymor, a thynnir sylw at y ffocws drwy dorri a gludo'r graffigyn perthnasol i mewn i'r cynlluniau. Un rhan o'r rôl arwain yw sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pob disgybl drwy fonitro a chasglu adborth. Ein ‘hysfa broffesiynol’ oedd bod y staff yn canolbwyntio ar y penawdau cyffredinol ar gyfer pob un o'r pedwar diben, heb roi sylw i'r elfennau islaw'r penawdau hynny yn y manylder roeddem yn anelu ato.

    Nod ein cwestiwn ymholi cyntaf oedd canfod dyfnder dealltwriaeth bresennol yr athrawon o'r pedwar diben er mwyn symud ymlaen. Gwnaethom benderfynu dechrau â grŵp ffocws peilot, gyda'r Uwch Dîm Arwain. Byddai defnyddio grŵp ffocws yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth fanwl am ganfyddiadau a dealltwriaeth o'r pedwar diben drwy ofyn cwestiynau mwy penagored i hwyluso'r drafodaeth. Byddai'r canfyddiadau'n llywio cam nesaf y broses ymholi.
    Cwestiynau'r Cyfweliad:
    Yn eich barn chi, beth yw pwysigrwydd y pedwar diben craidd sydd wedi'u datblygu ar gyfer y cwricwlwm?
    Beth yw eich dealltwriaeth o'r negeseuon allweddol wrth geisio datblygu plant:

    • yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog
    • yn unigolion iach a hyderus
    • yn gyfranwyr mentrus a chreadigol
    • yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus

    Ydych chi'n credu y gallem ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r pedwar diben?
    Sut rydych yn defnyddio'r pedwar diben wrth wneud eich gwaith cynllunio wythnosol?
    Sut mae'r pedwar diben yn cyd-fynd â gweledigaeth eich ysgol?
    Beth rydym am ei wneud yn ein hysgol i ddylanwadu ar y pedwar diben?
    Yn eich barn chi, sut y gallwn sicrhau ein bod yn cwmpasu holl elfennau'r dibenion craidd yng nghwricwlwm yr ysgol gyfan?
    Yn eich barn chi, beth yw dealltwriaeth y plant o'r pedwar diben?

    Ystyriaethau moesegol

    Gwnaethom ddilyn y canllawiau a ddarparwyd gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer yr ymholiad. Rhoddwyd amlinelliad o'r ystyriaethau moesegol i bob un o aelodau'r grŵp ffocws, a gofynnwyd iddynt lofnodi ffurflen gydsynio. Roedd pob unigolyn yn deall ei fod yn cymryd rhan yn wirfoddol, a chawsom gydsyniad a chytundeb pob un ohonynt i gymryd rhan yn yr ymholiad. Roedd y grŵp yn deall y byddai'r data o'r grŵp ffocws yn cael eu defnyddio i lywio adroddiad ar yr astudiaeth achos a fyddai'n cael ei gyhoeddi ar HWB. Ni fyddem yn cyfeirio'n benodol at unigolion yn y gwaith ymchwil. Byddem yn gofalu nad ydym yn rhoi unrhyw gliwiau a fyddai'n helpu rhywun i wybod pwy yw'r cyfranogwyr yn y grŵp, e.e. ‘dywedodd Arweinydd y Cyfnod Sylfaen’.
    Mae natur trafodaeth grŵp ffocws yn hytrach na chyfweliad un i un yn atal pobl rhag teimlo eu bod yn cael eu targedu neu eu bod dan bwysau i ‘wybod’ yr atebion. Mae'r dull hwn hefyd yn ysgogi trafodaeth, gan fod pobl yn teimlo'n fwy parod i gyfrannu eu syniadau wrth i rywun arall siarad. Roedd y grŵp yn deall y byddem yn recordio'r sain yn ddigidol ar gyfer yr ymholiad. Byddai'r recordiad hwn yn cael ei ddileu ar ôl i drawsgrifiad o'r sgwrs gael ei lunio.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    The Spiral Playbook Linda Kaser a Judy Halbert
    Write up your research www.nfer.ac.uk
    Roedd y dogfennau hyn, ynghyd â'r cymorth gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ddefnyddiol iawn o ran gwybod sut i gynnal ymholiad a chael cymorth ymarferol i'w ysgrifennu. Nid oeddem yn gyfarwydd â'r broses o ysgrifennu adroddiad ffurfiol ar astudiaeth achos i'w gyhoeddi fel hyn, ac felly roedd y canllawiau'n amhrisiadwy.
    Dyfodol Llwyddiannus Graham Donaldson
    Yn amlwg, mae'r ddogfen hon yn cynnwys manylion y Pedwar Diben ac roedd yn rhan hanfodol o'n hastudiaeth. Mae angen i ysgolion ddatblygu cwricwlwm newydd sydd wir yn adlewyrchu'r pedwar diben. Fel arweinwyr, mae angen i ni fonitro'r newidiadau a wneir ac adfyfyrio arnynt er mwyn symud ein hysgolion ymlaen. Er mwyn gwneud hynny, rydym yn cydnabod bod angen i ni ein hunain, fel arweinwyr, feddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r pedwar diben. At hynny, un rôl hanfodol yw sicrhau bod gan yr holl staff addysgu hefyd ddealltwriaeth wych o'r dibenion er mwyn llwyddo i greu cwricwlwm newydd effeithiol a ysgogir gan ddibenion sy'n seiliedig ar anghenion pob ysgol unigol.
    Designing a curriculum based on four purposes: let mathematics speak for itself
    Sofya Lyakhova, Marie Joubert, Mary Margaret Caparo a Robert M. Capraro
    Research Methods in Physical Education and Youth Sport
    Kathleen Armour a Doune Macdonald
    https://www.austrade.gov.au/edtech/the-australian-education-system/
    Practitioner initial thoughts on the role of the five propositions in the new Australian curriculum Health and Physical Education
    Karen Lambert
    Gwnaeth Prifysgol Met Caerdydd ein cefnogi a'n cyfeirio at lenyddiaeth er mwyn ein helpu gyda'n hymholiadau. Yn ein hymholiad, roedd yn hanfodol ein bod yn cyfeirio at lenyddiaeth mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm mewn gwledydd eraill. Yng Nghymru, rydym ar gam cymharol gynnar ar y daith i ddatblygu'r cwricwlwm, felly mae llenyddiaeth sy'n seiliedig ar ymholiadau ynglŷn â'n cwricwlwm cenedlaethol newydd yn gyfyngedig a dweud y lleiaf. Roedd y llenyddiaeth yn tynnu sylw at yr hyn sy'n debyg rhwng y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm a phrofiadau mewn gwledydd eraill a'r gwaith a wneir yng Nghymru. Daeth yn amlwg bod Cymru wedi defnyddio profiadau a gwersi a ddysgwyd yn y gwledydd eraill hynny wrth ddatblygu'r cwricwlwm yma dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Fel arweinwyr, roeddem yn cydnabod bod angen datblygu system fonitro er mwyn sicrhau bod y pedwar diben craidd yn cael eu cwmpasu wrth i ni ddatblygu ein cwricwlwm newydd.
    Trafododd yr uwch dîm arwain bwysigrwydd ymagwedd meddylfryd twf tuag at ddatblygu ‘dysgwyr uchelgeisiol, galluog’. Mae cynllunio gwersi cyffrous a chymhellol sy'n effeithiol o ran her a sgaffaldio yn allweddol, gyda chyfleoedd i feithrin annibyniaeth, sgiliau meddwl, gwydnwch a dyfeisgarwch i ddod yn ddysgwyr gydol oes.
    Dywedodd y grŵp fod dysgwyr, i ddechrau, yn tybio bod ‘unigolion iach a hyderus’ yn cyfeirio, yn syml, at fwyta'n iach a gwneud ymarfer corff. Yn hytrach, mae'n canolbwyntio ar ddatblygu disgyblion fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, sy'n gofalu amdanynt eu hunain o ran y corff a'r meddwl, ac yn gofalu am eraill a'r amgylchedd. Mae lle blaenllaw i lesiant yn ein hysgol: magu hyder a hunan-barch, creu amgylchedd diogel i wneud camgymeriadau er mwyn eu paratoi ar gyfer bywyd yn y dyfodol.
    I ni, mae ‘cyfranwyr mentrus a chreadigol’ yn gysyniad mwy newydd ac yn fwy o her. Mae prosiectau STEM a gwaith a arweinir gan ddisgyblion yn datblygu sgiliau cydweithio a sgiliau meddwl yn greadigol. Mae cyfyngiadau a phwysau'r cwricwlwm yn her o ran yr amser sydd ei angen.
    Er mwyn datblygu ‘dinasyddion egwyddorol a gwybodus’, mae angen i ni roi cyfleoedd i ddisgyblion feddwl, meddwl am yr hyn sy'n iawn ac yn anghywir a gallu gwneud penderfyniadau a datblygu barn. Mae a wnelo'r diben hwn â mwy na chynhesu byd-eang, am ei fod hefyd yn cwmpasu gwahaniaeth a chydraddoldeb gan ystyried materion lleol, cenedlaethol a byd-eang.
    Mae'r gwaith o ysgrifennu cwricwlwm newydd yn ymddangos yn hynod anodd ac mae dadelfennu'r dibenion yn dasg gymhleth. Drwy gyflawni gwaith ymchwil ac adfyfyrio drwy gydweithio, gellir dyfnhau dealltwriaeth. Mae ein strwythur staffio'n cefnogi ethos cryf o ran y pedwar diben yng ngweledigaeth ein hysgol.
    Er mwyn dylanwadu ar y pedwar diben, mae angen i athrawon fod yn wybodus tu hwnt. Mae angen i ddisgyblion ymgysylltu a deall nodweddion y dibenion er mwyn dysgu, adfyfyrio a gwneud cynnydd yn eu dysgu. Drwy wrando ar ddysgwyr, cawn wybod eu bod am wneud mwy o waith datrys problemau ymarferol. Mae'n bwysig peidio â gorlwytho'r cwricwlwm newydd â chynnwys er mwyn caniatáu amser ar gyfer dysgu ymarferol, a rhaid ei gynllunio'n dda; ymddengys fod hyn yn mynd yn groes i ethos y cwricwlwm newydd. Mae angen technegau Asesu ar gyfer Dysgu a chwestiynu effeithiol er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod beth mae'r plant eisoes yn ei wybod. Mae angen i dimau cwricwlwm gael amser i ystyried cysylltiadau, a rhaid i'r newid fod yn hydrin.
    Caiff pob un o'r pedwar diben eu hystyried wrth gynllunio pob gwers, a chaiff tystiolaeth ohonynt ei chynnwys mewn cynlluniau hirdymor gan ddefnyddio'r graffigau/eiconau. Mae'r gwaith cynllunio wedi datblygu i roi'r dysgu mewn cyd-destun, e.e. tasgau mathemateg cyfoethog, ysgrifennu estynedig a dysgu dilys. Mae angen i ddatblygiadau mewn gwaith cynllunio ysgrifenedig fod yn ystyrlon. Gallem wneud y canlynol:

    • amlygu'r elfennau sydd wedi'u cynnwys yn ein cynlluniau
    • rhifo pob elfen a chynnwys y rhifau yn y cynlluniau
    • eu rhoi yn y llyfrau a'u hamlygu
    • dangos un daflen wedi'i hamlygu ar gyfer y dosbarth
    • ystyried gweithgareddau allgyrsiol

    Mae angen dull gweithredu corfforaethol er mwyn sicrhau cwmpas a dealltwriaeth wrth ddatblygu gwaith cynllunio hirdymor ar gyfer y cwricwlwm. Gallem ystyried datblygu system dracio ac adolygu dulliau/strategaethau addysgegol fel sgoriau diemwnt, cytuno/anghytuno, er mwyn meithrin sgiliau meddwl.
    Mae hyn yn ddechrau ar broses tymor hwy i ddatblygu cwricwlwm newydd ein hysgol. Dangosodd y trafodaethau fod gan yr uwch dîm arwain ddealltwriaeth dda o'r elfennau sy'n sail i'r dibenion.
    Nesaf, byddwn yn defnyddio'r dull ymholi hwn â'r staff addysgu er mwyn cael gwybod beth yw eu dealltwriaeth.

    Cyfyngiadau

    Dim ond aelodau o'r Uwch Dîm Arwain oedd yn y grŵp ffocws peilot. Gall dealltwriaeth gweddill y staff a'r disgyblion fod yn wahanol. Roedd y Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth yn rhan o'r drafodaeth. Dylid ystyried cynnal y grŵp ffocws nesaf ag arweinydd gwahanol er mwyn sicrhau gonestrwydd yn y trafodaethau.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Hwn yw'r cam cyntaf o broses hwy. Rydym am i'r ymholiad fod yn berthnasol ac yn ystyrlon ac effeithio ar y cwricwlwm, ar ddysgu ac addysgu ac, yn y pen draw, effeithio ar safonau. Gweithiodd y dull grŵp ffocws yn dda ar gyfer y math o wybodaeth roeddem yn ei ystyried. Y cam nesaf fydd ailadrodd y weithdrefn â gweddill y staff addysgu ac yna'r disgyblion.
    Fel ysgol, credwn fod angen i'r ffocws fod ar elfennau'r pedwar diben, gan fod gan y staff ddealltwriaeth ragorol o'r rhain. Mae angen i'r staff gael amser i adfyfyrio ar arferion presennol, er mwyn ystyried goblygiadau'r cwricwlwm newydd a, thrwy hynny, ddatblygu cwricwlwm newydd effeithiol, ystyrlon a dilys sy'n bodloni'r gofynion newydd. Teimlwn y gallai fod yn anodd dangos tystiolaeth o gwricwlwm pedwar diben mewn llyfrau ac, felly, y gall monitro fod yn heriol. Wrth fonitro llyfrau, nid yn unig y mae angen i ni fwrw golwg dros ‘beth’ sy'n cael ei addysgu ond mae angen i ni hefyd ofyn ‘pam a sut’. Cwestiwn arall y gall fod angen ei ystyried yw, os yw elfennau'r pedwar diben wir wrth wraidd popeth a wnawn, a oes angen i ni fonitro pob elfen yn fanwl? Os ydym wir wedi newid yr ethos, yna ni fydd cwmpas yn broblem, does bosibl?

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Mae llawer o gwricwla newydd sy'n cael eu datblygu ledled y byd, gan gynnwys yr Alban, Awstralia a Chanada, a Chymru erbyn hyn, wedi canolbwyntio ar ddull seiliedig ar sgiliau (Priestly a Sinnema, 2014; Sinnema, 2017; Young, 2013). Cyfeiriodd Jones a Whitehouse (2017) at yr her o daro cydbwysedd rhwng sgiliau a gwybodaeth yn y cwricwlwm. Un broblem bosibl yw y byddai'r pedwar diben yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol mewn lleoedd gwahanol (Lambert a Penney, 2019). Er y gellid dadlau mai dyma yw hanfod y newidiadau i'r cwricwlwm yng Nghymru, sef rhoi ymreolaeth i ysgolion greu cwricwlwm wedi'i deilwra'n benodol i anghenion eu disgyblion, gall eraill ddadlau na fydd rhai ysgolion yn gallu creu eu cwricwlwm eu hunain. Mae rhai ysgolion yn ei chael hi'n anodd o dan y system bresennol lle y caiff cwricwlwm ei ysgrifennu ar eu rhan. Mae angen i'r broses ymchwil gofnodi a herio ein gwaith meddwl. ‘Individually we vary with regards to the discourses we draw upon and resources we have to engage with the propositions’ but ‘it is the value and ‘power’ of combining those discourses and resources in imaginative ways’ (Lambert a Penney, 2019). Mewn geiriau eraill, mae angen i athrawon ac ysgolion gydweithio'n onest ac yn agored er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr a'r cwricwlwm newydd.

  • Cyswllt

    Laura Davies
    admin@stphilipevansprm.cardiff.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Daw'r disgyblion o amrywiaeth eang o gefndiroedd, a daw'r mwyafrif o gartrefi sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae 16.8% o'r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Mae niferoedd y disgyblion yn parhau i gynyddu o 290 (2015) i 293 (2016), 303 (2017) a 309 (2018). Hefyd, mae gan yr ysgol ddosbarth Meithrin sydd â 64 o leoedd rhan-amser. Daw 35.5% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Saesneg yn ail iaith. Daw 48.2% o'r disgyblion yn yr ysgol o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Canran y disgyblion a oedd yn destun Gweithredu gan yr Ysgol yn 2016-2017 oedd 8.7%.

    Trosolwg ymholiad

    Cwestiwn Ymholi – Sut y gallwn wreiddio Diben Craidd ‘Unigolion Iach a Hyderus’?
    Nod yr ymholiad hwn yw gwreiddio Diben Craidd Unigolion ‘Iach a Hyderus’ ym mhob rhan o'r cwricwlwm. I ddechrau, byddwn yn defnyddio dull ymchwilio grŵp ffocws gydag athrawon er mwyn i ni allu dyfnhau ein dealltwriaeth o athroniaethau ac arferion mewn perthynas â Diben Craidd ‘Unigolion Iach a Hyderus’ yn ein cyd-destun presennol.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gallwn wreiddio Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus' ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Er mwyn mynd i'r afael â chwestiwn yr ymholiad, 'Sut y gallwn wreiddio Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus' ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad?', defnyddiwyd cwestiynau cyfweld ansoddol i feithrin dealltwriaeth fanwl o ganfyddiadau a dealltwriaeth athrawon o ddiben craidd 'Unigolion Iach a Hyderus' yn Ysgol Gynradd St Philip Evans. Gwnaeth y dull ymchwil hwn ein galluogi i gasglu data gan drawstoriad o athrawon a oedd yn cynrychioli pob grŵp yn y Cyfnod Cynradd. Yn ystod y sesiwn, rhoddwyd amser i'r athrawon weld y cwestiynau cyn i'r ymatebion gael eu recordio. Gofynnwyd iddynt ddefnyddio dulliau gweledol, gan gynnwys mapiau meddwl, i gynllunio eu hymatebion, ac fe'u defnyddiwyd hefyd fel tystiolaeth wrth grynhoi canfyddiadau allweddol. Darparwyd ysgogiadau gweledol i sbarduno'r drafodaeth, gan gynnwys y llinynnau o fewn Diben Craidd ‘Unigolion Iach a Hyderus’, y Cynllun Gwella Ysgol a gweledigaeth yr ysgol.

    Ystyriaethau moesegol

    Rhoddwyd cymeradwyaeth foesegol gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Rhannwyd diben ac egwyddorion dylunio'r prosiect â'r cyfranogwyr. Yna, rhannwyd gwybodaeth allweddol drwy gyfrwng taflen wybodaeth a ddarparwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Rhoddwyd gwybodaeth gefndirol am yr ymholiadau ymchwil i'r cyfranogwyr ac fe'u hysbyswyd am rôl Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Yna, soniwyd wrthynt beth yn union y byddai'r gwaith ymchwil yn ei olygu a'r dulliau ymchwil a fyddai'n cael eu defnyddio. Rhoddwyd sicrwydd iddynt y byddai dyfyniadau yn ddienw ac na fyddent yn cael eu defnyddio mewn dogfennau cyhoeddedig heb ganiatâd. Esboniwyd hefyd, pe bai cyfranogwr yn cydsynio i gymryd rhan ond yn penderfynu'n ddiweddarach nad oedd am wneud hynny mwyach, y byddai'r penderfyniad hwnnw'n cael ei barchu ac na fyddai ei ddata yn cael eu defnyddio. Rhoddwyd yr hawl i bob cyfranogwr dynnu ei gydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Hysbyswyd y cyfranogwyr y byddai'r holl wybodaeth a data yn gwbl gyfrinachol ac y byddai unrhyw ffurflenni yn cael eu dinistrio pan fyddai'r astudiaeth yn dod i ben. Yn olaf, gofynnwyd i'r cyfranogwyr roi eu cydsyniad drwy gwblhau'r Ffurflen Gydsynio i Oedolion a ddarparwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd pob un o'r rhai a gymerodd ran yn aelodau o'r staff addysgu, a chafwyd cydsyniad pob un ohonynt.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Yn ei gwaith ar ddiwygio'r cwricwlwm yn Awstralia, noda Macdonald bwysigrwydd annog plant i fod yn 'Unigolion Iach a Hyderus' mewn system addysgol sy'n newid yn gyson. Wrth adolygu Cwricwlwm Iechyd ac Addysg Gorfforol Awstralia, noda Macdonald (2013), 'The HPE curriculum cannot address or be held accountable for the ever changing health and performance priorities of a nation. What it can endeavour to do is lay a foundation of knowledge that can be applied across ever-changing priorities contexts and life phases.' Felly, mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwreiddio Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus' ym mhob maes dysgu a phrofiad, ac ym mhob cyfnod oedran.
    Mae'n amlwg bod prinder ymchwil i'r Pedwar Diben Craidd yng Nghymru yn benodol, yn enwedig Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus'. Mae hyn yn dangos ei bod yn bwysig bod ysgolion yn cynnal cylchoedd ymholi eu hunain er mwyn cefnogi a llywio'r broses o ddylunio a chyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
    Fel y noda Donaldson yn Dyfodol Llwyddiannus (2015), 'Un thema barhaus yn y dystiolaeth oedd pwysigrwydd lles, yn enwedig iechyd meddwl. Mae angen i ysgolion ofalu am anghenion corfforol ac emosiynol eu plant a’u pobl ifanc a’u helpu i gymryd cyfrifoldeb dros eu bywyd eu hunain, drwy ddeall pwysigrwydd deiet a ffitrwydd, er enghraifft, a bod yn hyderus wrth reoli eu materion eu hunain. Dylid meithrin annibyniaeth, hunanddibyniaeth a pharch at eraill drwy gydol y broses addysgu a dysgu.' Felly, mae'n allweddol bod athrawon yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus' a'r rheswm pam mae'r diben hwnnw wrth wraidd y cwricwlwm newydd i Gymru.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Rhoddwyd ystod eang o enghreifftiau o ddewisiadau ffordd iach o fyw, drwy weithgareddau yn yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol. Methodd y rhan fwyaf o'r athrawon â nodi pwysigrwydd gwydnwch wrth ddatblygu dysgwyr sy'n unigolion iach a hyderus. Nid yw hyn yn rhywbeth a gysylltir yn uniongyrchol â Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus'.
    Nid oes gan yr athrawon ddigon o ddealltwriaeth flaenorol o'r llinyn 'disgyblion yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol' a'r rôl y mae'n ei chwarae wrth ddatblygu dysgwyr sy'n unigolion iach a hyderus. Ychydig iawn o ddealltwriaeth flaenorol oedd ganddynt hefyd o'r llinynnau 'wynebu heriau a'u trechu' a 'credoau ysbrydol a moesegol' a'u pwysigrwydd wrth ddatblygu dysgwyr sy'n unigolion iach a hyderus.
    Unwaith y rhoddwyd y llinynnau sy'n berthnasol i 'unigolion iach a hyderus' i'r staff eu trafod, gallent roi enghreifftiau niferus o'r ffordd y caiff credoau ysbrydol a moesegol dysgwyr eu datblygu, gan gynnwys Rhinweddau Proffil Disgyblion Ysgol St Philip Evans, Ymweliadau Addysgol Aml-ffydd a rhaglen Addysg Grefyddol Gatholig 'Dewch i Weld' yr ysgol, y caiff y llinyn hwn ei wreiddio'n ddwfn ynddynt.
    Mae gan yr athrawon wybodaeth gadarn am bwysigrwydd disgyblion yn 'Cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol yn eu bywyd bob dydd.' Rhoddir nifer o enghreifftiau fel, 'Mae arweinwyr chwarae yn annog gweithgarwch corfforol ar yr iard chwarae a chaiff y plant eu hannog i wneud 16 munud o ymarfer corff bob dydd.' Fodd bynnag, methodd yr athrawon â sôn am gyfleoedd dysgu i ddisgyblion ddeall effaith deiet ac ymarfer ar eu hiechyd meddyliol yn eu bywyd bob dydd. Mae hyn yn agwedd ar 'Unigolion Iach a Hyderus' sy'n cael ei hanwybyddu ar hyn o bryd.
    Wrth ystyried dysgwyr sy'n 'Meithrin eu lles emosiynol drwy ddatblygu hyder', nododd yr athrawon fod ymyriadau (cymorth â llythrennedd a rhifedd), ar hyn o bryd, yn caniatáu i blant penodol sy'n agored i niwed ddatblygu eu lles emosiynol. Mae hyn hefyd yn rhan bwysig o'n darpariaeth Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn ein Cynllun Gwella Ysgol, mae angen datblygu cyfleoedd pwrpasol i ddysgu yn yr awyr agored ymhellach yn y Cyfnod Sylfaen er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gallu datblygu'n ddysgwyr hyderus, gwydn ac empathetig.
    Nifer cyfyngedig o enghreifftiau a roddwyd o'r cyfleoedd a roddir i ddisgyblion 'Wynebu heriau a'u trechu'. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r maes hwn wedi'i wreiddio'n fanwl nac yn gyson yn ein darpariaeth cwricwlwm bresennol.
    Mae'r athrawon wedi gallu nodi nifer o gyfleoedd o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles i wreiddio Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus'. Fodd bynnag, nifer cyfyngedig o gyfleoedd sydd ar gael i wreiddio Diben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus' yn y ddarpariaeth cwricwlwm bresennol ar gyfer y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Mathemateg a Rhifedd.
    Rhoddodd yr athrawon enghreifftiau penodol o bwysigrwydd gweithgareddau allgyrsiol a'r cyfleoedd pellach a gynigir ganddynt i ddisgyblion ddatblygu'n Unigolion Iach a Hyderus. Er enghraifft: 'Rydym yn cynnig cyfleoedd i'r disgyblion ddatblygu gwydnwch, o fewn yr ysgol a'r tu allan iddi. Rydym yn gweld hyn pan fyddwn yn mynd ar ymweliadau preswyl i Morfa Bay, lle rydym yn annog y plant i wthio'u hunain y tu hwnt i'w ffiniau arferol.'

    Cyfyngiadau

    Cynhaliwyd yr ymholiad yn ystod sesiwn brynhawn a chafodd yr athrawon eu rhyddhau am awr a hanner. Roedd yr amser yn brin felly rhuthrwyd drwy rai o'r cwestiynau, ac ni roddwyd digon o amser i drafodaeth ymlaen llaw cyn i'r athrawon gael eu recordio yn ateb y cwestiynau. Er bod goblygiadau costau ynghlwm wrth hyn – roedd angen staff i gyflenwi ar gyfer 50% o staff yr ysgol – er mwyn sicrhau bod digon o amser i drafod pob cwestiwn yn y dyfodol, teimlaf y byddai angen neilltuo mwy o amser i gynnal y sesiwn.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Cynhaliwyd archwiliad o'r cwricwlwm a nodwyd nad oedd y maes hwn wedi'i ddatblygu'n ddigonol ym mhob rhan o'r ysgol o gymharu â'r Dibenion Craidd eraill. Penderfynwyd y byddai ymholiad yn canolbwyntio ar 'Sut y gallwn wreiddio diben craidd 'Unigolion Iach a Hyderus' ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad? Yn gyntaf, aethpwyd ati i gasglu data am ganfyddiadau a dealltwriaeth athrawon o Ddiben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus'.
    Roedd y dull ymchwilio yn effeithiol iawn wrth nodi canfyddiadau athrawon a gwybodaeth am Ddiben Craidd 'Unigolion Iach a Hyderus'. Roedd yn arbennig o ddefnyddiol cael yr amser i ddatblygu fel ymarferwyr adfyfyriol a chasglu data sy'n nodi argymhellion allweddol a chryfderau allweddol o fewn ein darpariaeth gyfredol.
    Roedd yr athrawon yn teimlo bod eu barn a'u gwybodaeth yn cael eu gwerthfawrogi, ac roeddent yn deall pwysigrwydd bod yn agored ac yn onest. Mae hyn eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar forâl yr athrawon sy'n teimlo eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain a bod eu lleisiau'n cael eu clywed er mwyn iddynt fynd ati ymhellach i lywio'r Dysgu Proffesiynol a gynigir yn yr ysgol.
    Ar ôl defnyddio arolygon i gasglu data yn flaenorol, mae'r prosiect hwn wedi dangos i mi fod llawer mwy o fanteision ynghlwm wrth natur bersonol y grŵp ffocws o gymharu â'r data meintiol y gellir eu casglu drwy arolwg.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    n/a

  • Cyswllt

    Mr Gareth Williams - Pennaeth Cynorthwyol
    01792 872403

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gyfun Gwyr yn ysgol Gymraeg sy'n gwasanaethu dalgylch Gorllewin Abertawe yn cynnwys ardaloedd Pontarddulais, Gorseinon, Waunarlwydd, Penrhyn Gwyr ac ardal Sgeti, Dyfnant a Derwen Fawr o ddinas Abertawe. Mae'r ysgol yng nghategori Grwp 6 o ran nifer disgyblion ond yn codi i Grwp 7 yn 2021 wrth i niferoedd ei disgyblion gynyddu o'r 1057 presennol i dros 1200 o ddisgyblion. Dyfarnwyd yr ysgol yn Ysgol Rhagorol gan arolygiad Estyn yn Rhagfyr 2014 ac ers blwyddyn mae'r ysgol mewn categori Gwyrdd o ran Categori Cefnogaeth. Mae canran ei dysgwyr PYDs yn 5.2%; cyfartaledd dysgwyr gydag ADY yn 21.6% a 2.4% o'r rheini a Datganiad.
    Daw tua thraean o'r dysgwyr o gartrefi Cymraeg. Mae cyfartaledd presenoldeb yr ysgol tua 96% yn flynyddol.

    Trosolwg ymholiad

    Un o ffocysau ein Cynllun Gwella Ysgol eleni yw meithrin a dyfnhau balchder ein dysgwyr o'r Iaith Gymraeg a'u dealltwriaeth o bwysigrwydd perthyn i Gymru. I ba raddau felly, mae'n cynllunio arloesol a chyffrous ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022, yn diogelu lle canolog ac allweddol i Stori Cymru a hanes milltir sgwar Gwyr ac Abertawe wrth ddatblygu cwricwlwm y 6 Maes Dysgu a Phrofiad. I ba raddau mae ein dysgwyr yn gadael Ysgol Gyfun Gwyr yn ddinasyddion gwybodus a deallus am hanes, traddodiad, diwylliant Cymru a phwysigrwydd ei rol a'i lle hi o fewn Ewrop a'r byd ehangach.

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y paratoir ein ein dysgwyr i ddatblygu'n ddinasyddion gwybodus a deallus am 'Stori Cymru'o fewn pob Maes Dysgu a Phrofiad?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Y ddamcaniaeth gychwynnol a dybiwyd ydoedd y byddai mwyafrif athrawon y MDaPh, o gofio bod nifer ohonynt yn ddysgwyr a dderbyniodd addysg cyfrwng Cymraeg eu hunain a bellach yn arbenigwyr pwnc sy'n addysgu mewn ysgol Gymraeg, yn ddigon hyderus yn eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o 'Stori Cymru' a bod y dimensiwn Cymreig wrth wraidd eu cynllunio ar gyfer sefydlu Cwricwlwm i Gymru 2022. Tybiwyd hefyd pe canfuwyd diffyg hyder o fewn ein hathrawon ni fel Ysgol cyfrwng Gymraeg, y bydd ysgolion eraill ledled Cymru yn wynebu argyfwng tebyg. Penderfynwyd cynnal yr ymholiad cychwynnol trwy lunio holiadur i fesur gwybodaeth, dealltwriaeth a hyder y staff yn yr ysgol, sy'n ysgol gyfun Gymraeg yn ei hanfod, o ddimensiwn Cymreig eu MDaPh. Lluniwyd 16 o gwestiynau ar gyfer yr holiadur a darparwyd yr holiadur ar ffurf Microsoft Forms er mwyn hwyluso'r gwaith o gasglu'r data a'i ddadansoddi ar ffurf graffiau amrywiol. Cwblhawyd yr holiadur o fewn cyfnod HMS a roddwyd i Gymunedau Dysgu Proffesiynol y Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh) dan arweiniad Cydlynydd y MDaPh hwnnw. Mae'r ymateb a'r canlyniadau felly yn gonsensws o farn holl aelodau'r MDaPh hwnnw. Penderfynwyd derbyn 3 ymateb gan y MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a hynny o gofio bod gormod o amrywiaeth ym mhrofiad y Gymraeg, Saesneg a Ieithoedd Modern Tramor fel disgyblaethau, a bod y cyfleoedd i hyrwyddo 'Stori Cymru' mor eithafol o amrywiol o fewn yr Ieithoedd gwahanol i fedru dod i gonsensws barn deg.
    Yna dadansoddwyd yn eiriol y prif ganfyddiadau, y tueddiadau gan geisio cyfiawnhau a threiddio i fyrdwn y negeseuon a dderbyniwyd gan bob MDaPh.

    Ystyriaethau moesegol

    Ni chododd ystyriaethau moesegol hyd yn hyn gan y gofynnwyd i bob MDaPh lenwi holiadur fel Cymuned Ddysgu Broffesiynol dan arweiniad cydlynydd pob MDaPh. Felly gan fod y broses o lenwi'r holiadur yn un torfol, barn grwp o athrawon a gynrychiolwyd, wrth i arweinydd y tim ddod i gonsenws o'r farn honno. Gwendid hyn oedd y gallai negyddiaeth ambell aelod o staff effeithio ar y consensws barn hwnnw wrth iddynt geisio dod i gytundeb wrth ymateb i'r holiadur, megis 'Cwestiwn 3 - Sut fyddech chi'n disgrifio'ch dealltwriaeth o ddimensiwn Cymreig eich MDaPh?' Gallai barn un athro olygu'r gwahaniaeth rhwng ymateb "Boddhaol" neu "Dda".

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Defnyddiwyd adroddiad terfynol yr hanesydd, Dr Elin Jones, sy'n yn dwyn y teitl Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, fel sail ar gyfer yr ymholiad a chynnwys yr holiadur. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod rôl i'w chwarae gan bob pwnc (MDaPh) yn y gwaith o ddatblygu a chyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr o Gymru. Nodir "na ddylai Cwricwlwm Cymreig ystyried y gorffennol yn unig ond y dylai fod yn gyfrwng i gynorthwyo dinasyddion Cymru'r presennol a'r dyfodol i ddeall eu byd." Awgrymwyd yn gryf y dylai pob MDaPh 'lunio meini prawf i ddiogelu bod unrhyw waith ar y dimensiwn Cymreig yn:

    • rhan naturiol, ystyrlon acorganig o'r topig dan sylw;
    • pwysleisio'r dull gweithredol o ddysgu trwy brofi ac ymholi;
    • darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddadlau, herio a llunio eu barn eu hunain;
    • cynnig cyfle i ddeall a herio delweddau ystrydebol;
    • ymestyn gorwelion y dysgwy;
    • ystyried cefndir diwylliannol ac iethyddol y cymunedau mae'r dysgwyr yn rhan ohonynt.'

    Nodwyd hefyd mai'r gred ymysg rhai mai athrawon yw mai hanes Lloegr yw hanes "go iawn" ac yn amlach na pheidio mai hanes 'Prydeinig - Lloegr ganolog' a ddysgir gyda rhai ysgolion yn anghofio yn llwyr am hanes eu gwlad eu hunain. Sbardunwyd y cwestiwn ymchwil gan y dyfyniad canlynol, " Cymru yw cartref ein dysgwyr a dylai map o'u gorffennol fod mor gyfarwydd iddynt a'r ffordd adre o'r ysgol."

    Bu'r papurau canlynol yn ddefnyddiol wrth greu cwestiynau ar gyfer yr holiadur:

    • Hanes Cymru - Sut mae'n cael ei gynrychioli yn y cwricwlwm? - Ymchwil y Senedd
    • Erthygl gan Arwyn Thomas - Concerns pupils "deprived" of Welsh history teaching
    • Erthygl gan Sian Gwenllian AM - Curriculum for Wales: a grerat opportunity to modernise the Welsh curriculum
    • Cyflwyniad HMS Dr Mererid Hopwodd - Datblygu Stori Cymru

    Canfyddiadau cychwynnol

    Yng nghyd-destun gwybodaeth a dealltwriaeth o'r term Cwricwlwm Cymreig nododd 87% bod ganddynt ddealltwriaeth a gwybodaeth ddigonol neu gadarn. Er hynny, efallai bod y defnydd o'r term technegol Cwricwlwm Cymreig wedi lliwio'r ymateb. Yn gyffredinol, tra amlygwyd dealltwriaeth gadarn gan yr adran Gymraeg gwelwyd diffyg dealltwriaeth gan y MDaPh Mathemateg a Rhifedd. O ran dealltwriaeth o ddimensiwn Cymreig o fewn y MDaPh unigol, credai 50% o'r MDaPh Cymraeg, Saesneg, Ieithoedd Modern a Gwyddoniaeth a Thechnoleg bod eu dealltwriaeth yn gadarn neu'n dda. I'r gwrthwyneb, teimlai 3 o'r MDaPh fod eu dealltwriaeth yn foddhaol ac 1 MDaPh yn nodi annigonol. Gwelwyd amrywiaeth o ran hyder i addysgu'r dimensiwn Cymreig gyda 75% yn hyderus (bod yn weddol neu'n hyderus iawn) wrth addysgu dimensiwn Cymreig eu pwnc tra bod diffyg hyder yn y MDaPh Iechyd a Lles a Mathemateg. Yng nghyd-destun derbyn hyfforddiant pellach, credai rhai bod angen llawer o hyfforddiant, megis y Dyniaethau, tra nododd un nad oedd angen hyfforddiant pellach. Ymhlith yr hyfforddiant nodwyd y byddai hyfforddiant a 'gweithdai i fodelu plethu cwricwlwm lleol a chenedlaethol wrth ddatblygu thema traws-ddisgyblaethol' yn fanteisiol. Amrywiai'r hyder i drafod, cyflwyno, atgyfnerthu y dimensiwn Cymreig o fewn eu MDaPh, gyda'r MDaPh Gwyddoniaeth yn hyderus iawn a diffyg hyder gan y gweddill o'r MDaPh, yn cynnwys y Dyniaethau. Yng nghyd-destun hyder i gysylltu Cymru gyda'r cyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd, Byd-Eang, teimlai rhai MDaPh yn fwy hyderus nag eraill. O ran profiad a gaiff y dysgwyr o Stori Cymru, gwelwyd nad oedd y dysgwyr yn derbyn profiadau cyson o fewn pob MDaPh. Syndod oedd gweld bod y Dyniaethau o fewn y 3 MDaPh a oedd yn teimlo mai profiadau arwynebol, gyda tuedd iddynt fod yn 'add-on' a gaiff y dysgwyr. O ran nifer y cyfleoedd a dderbyniai'r dysgwyr i herio delweddau ystradebol a chynnig barn, nododd Cymraeg, eu bod yn derbyn profiadau 'cyson iawn', gyda gweddill y MDaPh yn nodi 'ar adegau' ag eithrio Mathemateg a nododd 'byth'. Ag eithrio, un MDaPh nid oedd ganddynt ymwybyddiaeth o gyfraniad CA2 i 'Stori Cymru'. Amlygwyd prinder adnoddau gan rai MDaPh hefyd, megis Gwyddoniaeth a Thechnoleg a'r Dyniaethau. Amrywiai'r pwyslais y dylid ei roi ar 'Stori Cymru' o fewn manylebau TGAU o dros 80% yn y Gymraeg a'r Saesneg i lai na 10% ym Mathemateg. Credai rhai yn ogystal mai atodiad yw Stori Cymru i Stori Lloegr.

    Cyfyngiadau

    Gallai fod geiriad rhai o'r cwestiynau yn ddryslyd, yn enwedig y termau technegol fel Stori Cymru. Byddai'n fanteisiol cynnal cyfarfod i osod cyd-destun yr holiadur ac ateb unrhyw gwestiynau cychwynnol. Rhaid derbyn hefyd bod gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth unigolion o'r Cwriwclwm Cymreig a stori Cymru fod yn seiliedig ar yr addysg a'r profiadau a dderbyniwyd fel disgyblion ysgol ac ymhellach gan feysydd llafur cwricwlai y gorffennol. Dibynna'r ymatebion ar barodrwydd staff i leisio barn, bod yn bositif eu hymateb gan fod unrhyw negyddiaeth yn sicr o effeithio'n ddirfawr ar y canlyniadau. Gall barn cryf un athro profiadol mewn MDaPh ddylanwadu'n gryf ar barodrwydd athrawon ifanc i ymateb yn onest.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Dyma rhai argymhellion: (i) Dychwelyd at y Cydlynwyr MDaPh a gofyn iddynt fapio Stori Cymru ar hyd CA3 yn eu MDaPh; (ii) Gofyn i bob Cydlynydd MDaPh ystyried ble mae'r gwendidau parthed Stori Cymru o fewn cwricwlwm eu MDaPh ac ystyried, ymchwilio, cynllunio i ddatblygu a chryfhau'r ddarpariaeth; (iii) ymchwilio am ymgynghorwyr, arweinwyr pwnc yn ERW, siaradwyr gwadd a fyddai yn barod i ddod i gyfarfodydd MDaPh i rannu syniadau ar sut i wreiddio Stori Cymru a'i integreiddio yn rhan naturiol o gwricwlwm arfaethedig y dyfodol; (iv) Cynnal grwpiau ymchwil o Lais y Dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 a 5, i fesur os yw eu profiad o Stori Cymru yn adlewyrchu canlyniadau'r holiadur; ac (v)Ystyried rhannu'r holiadur gydag ysgolion lleol i fesur os yw profiad a hyder eu MDaPh o'r Cwricwlwm Cymreig yn debyg.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Fe fydd canlyniadau a dadansoddiad o'r holiadur cychwynnol hwn wedi ei lanlwytho i ffolder diogel yr ysgol ar TEAMS.

  • Cyswllt

    Jai Lewabe

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-16 yn ardal Bôn-y-maen Winsh-wen yn Abertawe yw Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed. Mae gan yr ysgol chwe ysgol gynradd glwstwr sydd i gyd yn nwyrain Abertawe. Yn 2011, gwnaed gwaith adnewyddu gwerth £11m ar yr ysgol. Nifer y derbyniadau yw 810, ond mae gennym 842 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae mwy o ddisgyblion na nifer y lleoedd sydd ar gael mewn tri o'r pum grŵp blwyddyn.

    Mae 33.3% o'n disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Dyma'r seithfed uchaf yng Nghymru. Canran y disgyblion sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yw 56%. Ar y cyfan, mae 16.7% o'r disgyblion yn destun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy neu wedi cael datganiad o anghenion addysgol arbennig, ac ystyrir bod 2.7% o'n disgyblion yn ddysgwyr SIY.

    Trosolwg ymholiad

    Ar hyn o bryd, mae cyfadran y Dyniaethau yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn addysgu pynciau Daearyddiaeth, Hanes ac Addysg Grefyddol ar wahân. Bydd yr ymholiad yn canolbwyntio ar ddisgyblion Blwyddyn 9 cyn iddynt wneud eu dewisiadau gan fod nifer y disgyblion sy'n dewis Daearyddiaeth CA4 wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf. Drwy waith a hwylusir gan yr Ymarferydd Arweiniol, bydd adrannau a chyfadrannau'n archwilio'r cysylltiadau o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad a rhyngddynt. Ar gyfer y prosiect ymchwil hwn, bydd cyfadran y Dyniaethau yn creu uned thematig newydd o'r enw ‘Trosedd’ a fydd yn pwysleisio'r cysylltiadau rhwng pob un o bynciau ar wahân y Dyniaethau a rhoddir cyfle i'r dysgwyr wneud cysylltiadau penodol o fewn MDPh y Dyniaethau ac ar draws y cwricwlwm drwy ysgogiadau mewn gwersi a datblygu adnoddau cysylltu. Drwy gynnal holiaduron i'r disgyblion a'r staff cyn ac ar ôl yr ymyriad, ynghyd â chyfweliadau lled strwythuredig â'r disgyblion, caiff lefelau diddordeb a chymhelliant eu mesur ar gyfer Daearyddiaeth.

    Cwestiwn Ymholi

    I ba raddau y mae dull gweithredu thematig cyffredinol o fewn MDPh y Dyniaethau ym Mlwyddyn 9 yn effeithio ar ymgysylltiad disgyblion a'u cymhelliant ym maes Daearyddiaeth?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Nod yr ymholiad yw pennu strategaethau effeithiol i gynyddu lefelau yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4) drwy wella cymhelliant ac ymgysylltiad yn y pwnc. Bydd yr ymyriad yn cynnwys: darparu manylion penodol am yrfa; rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin cysylltiadau o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad a rhyngddynt; cyfeirio at y pedwar diben; uned newydd ar Droseddau; siaradwr gwadd o'r Gyfnewidfa Addysg Busnes a darlith prifysgol.
    Bydd yr ymyriad yn cynnwys carfan Blwyddyn 9 (157 o ddisgyblion) o 6 set. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys dyluniad cyn arbrofol: gwnaeth yr holl ddysgwyr a oedd ar gael gwblhau holiadur cyn yr ymyriad a byddant yn cwblhau un arall ar ôl iddynt ddysgu'r uned gyfan ar droseddau. Cynhelir yr ymyriad gyda'r 6 set heb unrhyw grŵp rheoli. Er y caiff y data o'r holiadur eu dadansoddi, bydd cryn dipyn o'r dadansoddiad yn dilyn trywydd ansoddol drwy gyfweliadau. Defnyddir sampl cwota bwrpasol ar gyfer y cyfweliadau â'r disgyblion er mwyn sicrhau bod pob set wedi'i chynrychioli. Cyfwelir â phob aelod o'r staff addysgu am mai dim ond dau aelod o staff sy'n addysgu carfan blwyddyn 9.
    Caiff y data eu triongli o holiaduron y disgyblion, cyfweliadau â'r disgyblion ac athrawon, ac arsylwi ar wersi. Er mwyn cael y disgyblion i ymgysylltu â Daearyddiaeth, bydd yr ymholiad hefyd yn cymharu lefelau CA4 pan fo dysgwyr yn gwneud eu dewisiadau rhwng 2018/19 a 2019/20.

    Ystyriaethau moesegol

    • Anfon llythyrau i'r cartref yn hysbysu rhieni/gofalwyr am y gwaith ymchwil sy'n mynd rhagddo
    • Rhoddwyd y cyfle i bob dysgwr dynnu'n ôl a pheidio â chwblhau'r holiadur a/neu gymryd rhan mewn cyfweliadau
    • Rhoddwyd y cyfle i bob dysgwr wrthod gadael i'w hymatebion gael eu defnyddio yn sgil arsylwi ar wersi

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae'n anodd pennu lefel ymgysylltu'r ysgol am nad oes unrhyw gytundeb cyffredin mewn llenyddiaeth ymchwil(1). Fodd bynnag, nododd Headden a McKay (2015) fod ymgysylltu yn aml-haenog a bod ffactorau mewnol ac allanol yn dylanwadu arno, fel nodweddion y dysgwr a'i brofiad addysgol. At hynny, noda Furlong a Christenson (2008) y dylai cynlluniau i wella lefelau ymgysylltu fod yn seiliedig ar nodweddion y dysgwr, yn ogystal â'r ffordd maent yn cysylltu ag addysgu'r cwricwlwm, ac amgylchedd cymdeithasol, emosiynol a ffisegol yr ysgol.
    Nododd Fishbein ac Ajzen (1975) fod yn rhaid i ddysgwyr werthfawrogi canlyniad y dasg a disgwyl llwyddo er mwyn ymgysylltu â hi. Hefyd, nododd Dunleavy a Milton (2009) fod y profiadau dysgu sy'n cefnogi ymgysylltu yn: datrys problemau go iawn; ymgysylltu â gwybodaeth bwysig; gwneud gwahaniaeth yn y byd; cael eu parchu; gweld sut mae pynciau'n rhyng-gysylltiedig; dysgu gan eraill ac ar y cyd; cysylltu ag arbenigwyr; a meithrin arbenigedd a phrofi her wybyddol.
    Yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) nodwyd ei bod hi'n hollbwysig bod gwersi yn cael eu hystyried yn berthnasol gan y dysgwyr y tu hwnt i'r ysgol ac argymhellwyd y dylai strwythur y cwricwlwm:

    • hyrwyddo dibenion y cwricwlwm a'u hadlewyrchu'n uniongyrchol;
    • hyrwyddo cydlyniant ac annog plant a phobl ifanc i greu cysylltiadau ar draws gwahanol agweddau ar eu dysgu.

    Mae nifer y dysgwyr sy'n astudio TGAU Daearyddiaeth yn yr ysgol wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf ac, yn sgil siarad â'r dysgwyr, gwelwyd bod teimlad cyffredinol, er bod dysgwyr yn mwynhau Daearyddiaeth ar y cyfan, ei fod yn bwnc sy'n berthnasol mewn ffordd haniaethol fel arfer. Er ei bod yn anodd mesur, mae'r ymholiad felly yn ceisio nodi a fydd defnyddio strategaethau ymyrryd yn gwella lefelau ymgysylltu a chymhelliant yn seiliedig ar argymhellion Dyfodol Llwyddiannus a llenyddiaeth ymchwil arall. Yn sgil y gwaith ymchwil, rhagwelir, drwy wneud cysylltiadau amlwg â'r pedwar diben a gadael i ddysgwyr ymchwilio i berthnasedd Daearyddiaeth i'r cwricwlwm ehangach, y dylid gwella lefelau ymgysylltu â'r pwnc. At hynny, defnyddir adnoddau'r Gymdeithas Ddaearyddol hefyd mewn ymgais i ddangos pa mor bwysig yw Daearyddiaeth a sut y gallai fod o fudd ym myd gwaith, yn ogystal â chreu uned newydd ar Droseddau sy'n ymgorffori'r profiadau dysgu a awgrymwyd er mwyn cefnogi lefelau ymgysylltu.

    (1)School Engagement: A review of learning from School Engagement Action Research (SEAR) in Perth and Kinross - Educational Psychology Service, Ebrill 2018

    Canfyddiadau cychwynnol

    Cyn ymyrryd:

    • roedd 77% o ddysgwyr yn cytuno'n gryf neu'n cytuno bod Daearyddiaeth yn bwysig.
    • gallai 52% o ddysgwyr wneud cysylltiadau o fewn y Dyniaethau bob amser neu'n aml.
    • gallai 51% o ddysgwyr wneud cysylltiadau rhwng Daearyddiaeth a phynciau mewn Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill bob amser neu'n aml.
    • roedd 43% o'r farn bod Daearyddiaeth yn eu helpu i wella eu sgiliau mewn Saesneg a Mathemateg.
    • dim ond 2% o ddysgwyr a nododd eu bod yn bendant yn mynd i astudio TGAU Daearyddiaeth ond cynyddodd hyn i 24% o gynnwys a oedd dysgwyr naill ai'n bendant yn astudio Daearyddiaeth neu'n debygol o astudio'r pwnc ar lefel TGAU.

    Cyfyngiadau

    • dylanwadau allanol ar ymgysylltu a chymhelliant;
    • cyd-destun;
    • dim ond carfan Blwyddyn 9 a ystyriwyd ar gyfer yr ymholiad hwn;
    • atebodd 127 o ddysgwyr allan o'r 157 yn y garfan yr holiadur cyn yr ymyriad;
    • cyfwelwyd â dau aelod o staff;
    • ystyriodd yr astudiaeth effaith lle roedd llawer yn y fantol ac effaith fyrdymor.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Defnyddir ymddygiadau Darllen, Ysgrifennu a Llafaredd fel strategaethau ymarferol i weithredu'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd disgyblion. Roedd yn syndod gweld mai dim ond 43% o ddysgwyr a oedd o'r farn bod Daearyddiaeth wedi eu helpu i wella eu sgiliau mewn Saesneg a Mathemateg. Gallai hyn fod oherwydd ymgorffori'r ymddygiadau yn naturiol mewn gwersi. Fodd bynnag, gan fod y pynciau hyn mor bwysig, bydd cyfweliadau dilynol yn ceisio nodi'r rheswm neu'r rhesymau dros yr ymateb hwn. Gallai sicrhau bod dysgwyr yn gallu nodi sut mae Daearyddiaeth yn helpu i wella eu sgiliau mewn Saesneg a Mathemateg gynyddu statws Daearyddiaeth o bosibl ym meddyliau dysgwyr Blwyddyn 9.
    i) Defnyddiwyd holiadur ar-lein i gael adborth yn syth a'i gwneud yn hawdd dadansoddi'r data. Defnyddiwyd cyfweliad i holi'r dysgwyr ymhellach, er mwyn ceisio meithrin gwell dealltwriaeth o ganfyddiad dysgwyr o Ddaearyddiaeth, yn ogystal â sut roeddent yn teimlo bod eu lefelau ymgysylltu a'u cymhelliant wedi newid ar ôl y strategaethau ymyrryd. At hynny, defnyddiwyd cyfweliadau ag athrawon i weld a oedd gwahaniaeth nodedig mewn agweddau cyn ac ar ôl yr ymyriad tuag at y pwnc.
    ii) Dd/G.
    iii) Roedd yr holiadur ar-lein yn darparu mynediad hawdd a chyflym at ganlyniadau.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    School Engagement: A review of learning from School Engagement Action Research (SEAR) in Perth and Kinross - Educational Psychology Service, Ebrill 2018
    Headden, S a McKay, S (2015) Motivation Matters: How New Research Can Help Teachers Boost Student Engagement.
    Fishbein, M., ac Ajzen, I. (1975) Belief, Attitude, Intention, and Behavior: An Introduction to Theory and Research. Reading, MA: Addison-Wesley.
    Dunleavy, J. a Milton, P. (2009) What did you do in school today? Exploring the concept of Student Engagement and its implications for Teaching and Learning in Canada. Toronto: Canadian Education Association (CEA), 1–22.
    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus

  • Cyswllt

    David Wilkins

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Bangor

    Consortiwm

    GWE

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-18 cyfrwng Saesneg a gynhelir gan awdurdod lleol Conwy yw Ysgol Bryn Elian. Mae 962 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 154 yn y chweched dosbarth. Mae tua 14.5% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Daw'r disgyblion o ochr ddwyreiniol Bae Colwyn a'r pentrefi cyfagos. Mae ychydig dros 20% o'r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Estyn 2015).
    Mae gennym tua 140 o staff, y mae 80 ohonynt yn staff addysgu.

    Trosolwg ymholiad

    Mae ein cydweithwyr yn yr ysgol wedi llunio pum cwestiwn mawr i ffurfio llwybrau drwy'r cwricwlwm newydd. Cwestiynau penagored yw'r rhain, sy'n galluogi'r disgyblion i hunanwerthuso eu datblygiad wrth iddynt symud ymlaen drwy'r ysgol a bywyd. Rydym yn cynllunio pynciau sy'n cyfateb i'r cwestiynau hyn er mwyn rhoi naws drawsgwricwlaidd i'r gwersi a addysgir mewn meysydd pwnc-benodol. Ar gyfer y cylch ymholi hwn, byddwn yn mynd ati i werthuso effeithiolrwydd y cwestiynau hyn o ran helpu staff i lunio cynlluniau tymor canolig sy'n archwilio'r Pedwar Diben, yr Hyn sy'n Bwysig a Chamau Cynnydd.

    Cwestiwn Ymholi

    A all 'Cwestiynau Mawr' alluogi ymarferwyr i roi profiadau dysgu dilys i ddysgwyr a mynd i'r afael â gofynion y Cwricwlwm i Gymru?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Gofynnwyd i'r staff addysgu lenwi holiadur yn nodi eu dealltwriaeth o ddogfennaeth y Cwricwlwm i Gymru (e.e. Donaldson, 2015 a chanllawiau ar-lein Llywodraeth Cymru), gyda phwyslais ar eu hyder mewn perthynas â'r 'Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig' a'r 'Camau Cynnydd' (Llywodraeth Cymru, 2019). Roedd cwestiynau ychwanegol yn ceisio asesu pa mor effeithiol fu'r Cwestiynau Mawr wrth ddatblygu eu gwaith cynllunio a'u hymdrechion i roi agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru ar waith yn yr ystafell ddosbarth. Yn olaf, gofynnwyd i gydweithwyr awgrymu pa rwystrau a wynebwyd ganddynt wrth weithredu neu ddefnyddio'r Cwestiynau Mawr yn effeithiol yn eu gwersi.

    Ystyriaethau moesegol

    Cafwyd cymeradwyaeth foesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil, Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, Prifysgol Bangor.
    Rhoddwyd gwybod i bob cyfranogwr am ddiben yr ymchwil a chafwyd cydsyniad ar sail gwybodaeth ganddynt.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Ysbrydolwyd y Cwestiynau Mawr (e.e. Sut mae technoleg yn dylanwadu ar fy myd? Sut 'alla i fod yn greadigol?) yn wreiddiol gan Donaldson (2015) a Harlen (2010).

    Mae Donaldson (2015:68) yn nodi 'dylid ymchwilio i ddulliau addysgegol sy’n rhoi’r gallu i greu cysylltiadau drwy gwestiynau, cysyniadau neu sgiliau cyffredin oddi mewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad.'

    Mae Harlen (2010:3) yn cyfeirio at ddiwygiadau addysgegol diweddar ym maes addysg gwyddoniaeth ac yn canolbwyntio ar ddull gweithredu ar sail ymholiad sy'n gwneud y canlynol: ‘leads to understanding and makes provision for regular reflection on what has been learned, so that new ideas are seen to be developed from earlier ones….Inquiry-based learning can lead to greater depth in understanding but as it takes more time the corollary is that the breadth has to be reduced. Thus identifying big ideas in science is a natural, and indeed necessary, accompaniment to promoting inquiry-based science education.’

    Mae Savage (2011:2) yn datgan ‘the creation of an enriching pedagogy for cross-curricular teaching and learning...can be achieved if teachers can reclaim some authority in curriculum development and delivery.’

    Mae Llywodraeth Cymru (2020) yn egluro y bydd angen i'r ymarferwyr sy'n cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru ddatblygu dull mwy integredig o addysgu a dysgu:
    'Dyluniwyd Fframwaith Cwricwlwm i Gymru i fod o gymorth i athrawon ddatblygu dull mwy integredig o ddysgu. Mae’r chwe Maes yn dwyn disgyblaethau cyfarwydd ynghyd, ac yn annog cysylltiadau ystyrlon a chryf ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Bydd y disgyblaethau unigol hynny’n parhau i chwarae rhan bwysig, yn arbennig wrth i ddysgwyr ddangos cynnydd a dechrau arbenigo. Yn ogystal â chydweithio mae’r canllaw yn annog dysgu ac addysgu traws-disgyblaethol, a hynny o fewn ac ar draws y Meysydd. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i fagu cysylltiadau ar draws eu dysgu ac i gyfuno gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau.'

    Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru (2020) yn darparu canllawiau ar gynllunio'r cwricwlwm mewn ysgolion ac yn egluro bod angen i ysgolion 'gynllunio eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain. Ar ei ben ei hun, nid yw’n rhaglen ‘oddi ar y silff’ ar gyfer cyflawni.' Ysgolion ac ymarferwyr 'yw’r rhai sydd yn y safle gorau i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion eu dysgwyr penodol nhw eu hunain, gan gynnwys pa destunau a gweithgareddau fyddai orau i gefnogi eu dysgu.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Ymatebodd cydweithwyr bod dealltwriaeth resymol o'r Cwricwlwm i Gymru yn nhermau 'Pedwar Diben y Cwricwlwm' a'r 'Meysydd Dysgu a Phrofiad', ond gwnaethant ddweud eu bod yn llawer llai hyderus gyda'r 'Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig' a'r 'Camau Cynnydd'. Nid yw'n syndod efallai mai'r rheini a oedd yn ymwneud fwyaf â'r gwaith cynllunio sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm a addysgir ym Mlwyddyn 7 (dysgwyr 12 a 13 oed) a sgoriodd eu hunain orau ym mhob agwedd. Cododd y rhan fwyaf o gydweithwyr faterion fel pwysau eraill ar eu hamser a'u hadnoddau, yn ogystal â meysydd ffocws eraill ar gyfer addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth fel rhwystrau i gyfranogiad.

    Cyfyngiadau

    Cafwyd ymateb gan ychydig dros draean o gydweithwyr ac efallai fod eu cymhelliant dros ymateb wedi dylanwadu ar yr atebion, boed yn negyddol neu'n gadarnhaol.

    Mae angen mwy o sesiynau dysgu proffesiynol i drafod dulliau addysgegol 'sy'n rhoi’r gallu i greu cysylltiadau drwy gwestiynau, cysyniadau neu sgiliau cyffredin...’ (Donaldson, 2015:68).

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae angen ail-lansio'r prosiect hwn, sy'n canolbwyntio ar gynllunio'r cwricwlwm ym Mlwyddyn Saith, yn yr ysgol er mwyn sicrhau mwy o ymgysylltiad gan y staff.
    Mae angen gwneud mwy o waith i lunio cysylltiadau rhwng adrannau er mwyn helpu i ymdrin â gwersi mewn ffordd fwy traws-gwricwlaidd, a thrafod priodoldeb y 'Cwestiynau Mawr' ymhellach.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Harlen, W. (Gol.) (2010) Principles and big ideas of science education. Hatfield: Y Gymdeithas Addysg Gwyddoniaeth.
    Savage, J. (2011) Cross-Curricular Teaching and Learning in the Secondary School. Abingdon: Routledge.
    Llywodraeth Cymru (2019) Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Llywodraeth Cymru (2020) Cwricwlwm i Gymru: cynllunio eich cwricwlwm. Ar gael ar-lein: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm

  • Cyswllt

    Huw James
    admin@treorchycomp.org.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun lawn, fawr (tua 1700 o ddisgyblion) 11-18 yng Nghwm Rhondda Fawr yw Ysgol Gyfun Treorci. Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 25%. Ysgol cyfrwng Saesneg yw hon. Gan ei bod yn Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer y Chweched Dosbarth, mae chweched dosbarth mawr yn Ysgol Gyfun Treorci. Mae'n ysgol sy'n ymrwymedig i ragoriaeth ac yn ddiweddar aeth ati i ailystyried ei gwerthoedd mewn perthynas â pharch, cyfrifoldeb ac uchelgais.

    Trosolwg ymholiad

    Sut mae'r ffordd y caiff y cwricwlwm ei ddylunio yn effeithio ar ddysgwyr agored i niwed ym Mlwyddyn 8 ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu?

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae'r ffordd y caiff y cwricwlwm ei ddylunio yn effeithio ar ddysgwyr agored i niwed ym Mlwyddyn 8 ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Diben y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio sut y gellid strwythuro'r cwricwlwm newydd er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr agored i niwed yn y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd. Ar ôl nodi maes ffocws, byddai modd nodi strategaethau effeithiol y gellid eu hymgorffori yn y cwricwlwm newydd i Gymru yn Ysgol Gyfun Treorci.

    Cyflawnwyd y gwaith ymchwil gweithredol gan ddefnyddio cyfuniad o adolygiad o lenyddiaeth, grŵp ffocws a holiaduron drwy ddilyn dull astudiaeth achos. Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i grŵp o athrawon o Faes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (un cynrychiolydd Saesneg, Cymraeg ac Ieithoedd Tramor Modern) mewn grŵp ffocws lled-strwythuredig er mwyn helpu i nodi'r materion presennol sy'n ymwneud â dysgwyr agored i niwed. Mae un aelod o'r grŵp ffocws hefyd yn athro pontio ysgol gynradd, a roddodd gipolwg gwerthfawr ar rôl y gwaith o ddylunio'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd er mwyn helpu i ennyn diddordeb dysgwyr agored i niwed.
    Wedyn, rhoddwyd holiadur i arweinwyr pob disgyblaeth Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn yr ysgol er mwyn cael eu safbwyntiau ar ddysgwyr agored i niwed, a chymerodd bob athro pwnc yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 ran mewn proses ‘Teach Meet’ yn seiliedig ar eu hadolygiad eu hunain o lenyddiaeth er mwyn nodi a rhannu arferion da y gellid eu hymgorffori yn y cwricwlwm newydd.
    Wrth gynhyrchu'r data ar gyfer yr ymholiad, safbwyntiau'r holl athrawon pwnc ac, yn fwy penodol, safbwyntiau'r athrawon yn y grwpiau ffocws o MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a gafodd eu hystyried. Roedd hyn yn gyfle i ddarganfod a oedd unrhyw safbwyntiau tebyg neu wrthgyferbyniol ymhlith y staff addysgu. Roedd canfyddiadau pob cyfranogwr yn ddilys iawn er mwyn cael gwybod sut maent yn nodi, cefnogi ac annog dysgwyr agored i niwed yn yr ystafell ddosbarth.
    Y rheswm dros gyflawni'r gwaith ymchwil drwy holiaduron a chyfweliad grŵp ffocws lled-strwythuredig, ac ymgorffori cymysgedd o ddulliau, oedd, fel y noda Ary et al. (2019, t. 517): “Mixed methods research combines qualitative and quantitative methods in different ways with each adding something to the phenomenon”. Yn yr achos hwn, roedd y data ansoddol yn cynnig canfyddiadau trwyadl a oedd yn seiliedig ar farn ac yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr drafod eu canfyddiadau yn fanylach. Hefyd, defnyddiwyd y canfyddiadau meintiol mewn fformat disgrifiadol er mwyn trefnu a chrynhoi'r data a dilysu'r canfyddiadau ansoddol (Holcomb, 2017).

    Ystyriaethau moesegol

    Cyn gwneud unrhyw waith ymchwil, ystyriwyd yr holl foeseg yn unol â chanllawiau BERA (2018). Yn gyntaf, cafwyd cydsyniad gwirfoddol ar sail gwybodaeth ar ddechrau'r astudiaeth a rhoddwyd gwybod i'r cyfranogwyr y gallent dynnu eu cydsyniad yn ôl unrhyw bryd. Yn ogystal â'r ffurflen gydsynio, rhoddwyd taflen wybodaeth i'r cyfranogwyr a ddarparwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd er mwyn sicrhau bod yr holl ddarpar gyfranogwyr yn deall, cystal â phosibl, yr hyn y mae'r astudiaeth yn ei olygu. Hefyd, roedd y daflen wybodaeth yn rhoi gwybod i'r cyfranogwyr am y ffordd y byddai eu data ymchwil yn cael eu cadw a'u rhannu, ac unrhyw ddefnydd eilaidd posibl a wneid ohonynt (BERA, 2018, t. 17).
    At hynny, cafodd anhysbysrwydd disgyblion, staff a'r sefydliad addysgol ei gydnabod drwy gydol y broses. Dywed y canllawiau y dylid ystyried mai trin data cyfranogwyr yn gyfrinachol ac yn anhysbys yw'r norm wrth gyflawni gwaith ymchwil (BERA, 2018, t. 21). Felly, wrth drafod disgyblion/staff penodol yn y gwaith ymchwil, cyfeiriwyd atynt fel Disgybl 1, Disgybl 2/Athro 1, Athro 2 ac yn y blaen. Yn ystod y gwaith ymchwil, cyfeiriwyd at y cyd-destun addysgol dan sylw fel Ysgol X.
    Yn olaf, mae BERA yn gofyn i ymchwilwyr gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol mewn perthynas â storio a defnyddio data personol, a roddwyd ar waith yn gaeth iawn ar ffurf y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) o fis Mai 2018 (BERA, 2018, t. 23). O ganlyniad i hynny, rhoddodd pob un o'r cyfranogwyr ganiatâd i ni ddatgelu eu data i drydydd partïon a rhoddwyd gwybod iddynt sut a pham roedd eu data personol yn cael eu storio cyn i'r gwaith ymchwil gael ei wneud.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae'r llenyddiaeth mewn perthynas â dysgwyr agored i niwed wedi awgrymu bod angen clir i ystyried dysgwyr agored i niwed wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei ddylunio a'i ddatblygu. Mae'n amlwg nad dim ond ymyriadau yn yr ystafell ddosbarth sy'n gallu helpu i gau'r bwlch cyrhaeddiad, ond bydd dysgwyr agored i niwed yn aml yn ymateb yn gadarnhaol i newidiadau yn y cwricwlwm sy'n gwella prosesau hyfforddiadol a dulliau addysgu ac yn codi dyheadau dysgwyr er mwyn sicrhau y cânt ddyfodol llwyddiannus.

    Mae G. Wilson a V. Allen wedi nodi pwysigrwydd gwella sgiliau llythrennedd dysgwyr agored i niwed er mwyn eu galluogi i fanteisio ar y cwricwlwm a ddarperir gennym. Wrth i ni ddatblygu cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae angen i ni sicrhau ei fod yn diwallu anghenion llythrennedd y dysgwr agored i niwed, yn hytrach na bod yn gyfres o dasgau llythrennedd a bennwyd ymlaen llaw y byddwn yn ceisio gorfodi'r dysgwr i'w derbyn: ‘When we assume something is wrong with a student, we seek to change the student rather than change the system around her, him, or them.’ Ar y cyfan, rhaid i ddyluniad y cwricwlwm newydd fod yn addas i'r diben yn yr ystafell ddosbarth ond, yn yr un modd, rhaid iddo fod yn berthnasol i'r dysgwr agored i niwed unigol.

    Yn ôl Blanford a Knowles yn eu hastudiaeth ar godi dyheadau dysgwyr agored i niwed, maent wedi dadlau mai llafaredd yw'r gonglfaen i ddysgwyr agored i niwed fanteisio ar y cwricwlwm ysgol. Os gall plant feistroli llafaredd, byddant yn magu hyder cyffredinol tuag at ddysgu. ‘Children who display a mastery orientation towards a difficult task remain confident in attitude and approach, whereas those who display a helpless-orientation lose focus and concentration and adopt an attitude of failure.’ Bydd angen i lafaredd gael ei gyflwyno mewn ffordd gyson ym mhob rhan o'r ysgol, felly rhaid gwreiddio dulliau cyffredin ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad.
    Mae Arnott yn ategu'r safbwyntiau hyn ynglŷn â phwysigrwydd llafaredd o ran helpu dysgwyr agored i niwed i fanteisio ar y cwricwlwm ysgol. ‘It is essential that constructive oracy in the classroom is continually employed if students are to develop critical thinking skills. While literacy has been a major focus in education, Children … need to talk, and to experience a rich diet of spoken language, in order to think and to learn. Reading, writing and number may be the acknowledged curriculum “basics” but talk is arguably the true foundation of learning’.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Roedd sawl thema gyffredin yng nghanfyddiadau'r sesiwn grŵp ffocws a'r holiadur a roddwyd i'r arweinwyr pwnc. Yn gyntaf, nodwyd yr hyn sy'n debyg rhwng dysgwyr agored i niwed yn y naill a'r llall, sef bod ‘dysgwr agored i niwed yn aml yn brin o sgiliau bywyd sylfaenol am fod ganddynt werthoedd isel, dyheadau isel ac ati. Mae llawer o agweddau gwahanol yn cyfrannu at hyn.’ Felly, mae angen strwythuro'r cwricwlwm newydd mewn ffordd sy'n rhoi hwb i hyder ac yn codi dyheadau, sy'n golygu bod angen i'r cwricwlwm fod yn berthnasol ac yn hygyrch i'r disgyblion.

    Gwnaeth y dulliau ymchwil hyn hefyd nodi tueddiadau cyffredin o ran agwedd, ymdrech ac ymddygiad disgyblion: ‘Maen nhw'n ofni addysg oherwydd dyheadau isel. Maen nhw'n gweld aelodau o'r teulu yn gwneud swyddi incwm isel a dyna'r meincnod i'r myfyrwyr. Mae llawer o'r plant yn methu â gwneud y gwaith sy'n cael ei roi iddyn nhw, maen nhw'n ymddieithrio ac wedyn maen nhw'n dangos anawsterau ymddygiadol o ganlyniad i hynny. Mae'r disgyblion yn crefu sylw, maen nhw am gael eu taflu allan o'r ystafell ddosbarth am fod hynny'n golygu y gallan nhw ymddieithrio oddi wrth y gwersi a dyma'r sylw negyddol maen nhw'n ei gael yn y pen draw. Maen nhw'n ofni gwaith a methiant.’

    Roedd canlyniad y gwaith nodi cychwynnol hwn yn golygu y gallai'r gwaith ymchwil gweithredol ddechrau ystyried pam mae dysgwyr agored i niwed yn ei chael hi'n anodd manteisio ar yr hen gwricwlwm, a beth y gellir ei wneud i newid hyn. Dangosodd y dystiolaeth o'r grŵp ffocws a'r holiadur mai lefelau llythrennedd isel oedd un o'r rhwystrau mwyaf sy'n atal plant rhag manteisio ar y cwricwlwm, ac mai'r sgìl mwyaf perthnasol i'w wreiddio yw llafaredd. ‘Siarad yw'r peth pwysicaf mewn ieithoedd. Er mwyn i ni wneud y cwricwlwm newydd yn fwy hygyrch a dilys i ddysgwyr modern, llafaredd yw'r elfen y bydd angen i ni ganolbwyntio arni. Mae dysgwyr yn dewis y pwnc am eu bod nhw am ddysgu siarad yr iaith fel bod ganddynt Gymraeg neu Ffrangeg llafar.’ Awgrymodd y grŵp ffocws a'r data o'r holiaduron fod angen dull cyson o addysgu, cyflwyno ac asesu llafaredd ym mhob MDPh. Byddai hyn, yn y pen draw, yn helpu dysgwyr agored i niwed i ymgysylltu â'r cwricwlwm newydd, yn enwedig ym MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

    Roedd y broses ‘teach meet’ yn gyfle i nodi arferion naill ai i ennyn diddordeb dysgwyr agored i niwed neu strwythuro'r ffordd y caiff llafaredd ei gyflwyno drwy un dull cyffredin. Mae hyn wedi galluogi'r ysgol i ddewis amrywiaeth o strategaethau yr hoffai eu hymgorffori yn y cwricwlwm newydd. Hefyd, mae'r cydlynydd llythrennedd wedi llwyddo i gasglu'r wybodaeth hon er mwyn datblygu dull cyffredin a argymhellir ar gyfer llythrennedd a gaiff ei ymgorffori yn y gwaith o ddylunio'r cwricwlwm ym mhob MDPh a bydd hefyd yn ein galluogi i weithio ochr yn ochr â'n hysgolion cynradd clwstwr er mwyn i'r dull cyffredin hwn gael ei ddilyn ym mhob un o gyfnodau allweddol y cwricwlwm newydd. Bydd staff MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu nawr yn dechrau ymgorffori'r strategaethau a argymhellir yn eu cynlluniau gwaith Blwyddyn 8, er mwyn i ni allu dechrau mesur ac asesu effaith y dull newydd hwn ar sgiliau llafaredd dysgwyr agored i niwed.

    Cyfyngiadau

    Wrth ystyried cyfyngiadau'r ymholiad hwn, roedd yn amlwg bod dwy broblem sylfaenol wedi codi. Yn gyntaf, y cyfyngiadau o ran nodi strategaethau effeithiol i wella llafaredd dysgwyr agored i niwed a'u rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth. Y brif broblem yma yw'r diffyg amser sydd ar gael i ganfod strategaethau effeithiol i wella llafaredd dysgwyr agored i niwed, eu datblygu, eu rhoi ar waith a'u gwerthuso.
    Yn ail, mae rhai cyfyngiadau'n gysylltiedig â'r data cychwynnol a gasglwyd. Wrth gynnal y grŵp ffocws o MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, roedd yr adborth yn seiliedig ar safbwyntiau tri chyfranogwr yn unig, ac nid oedd digon o amser i weld a oedd eu harsylwadau a'u hargymhellion yn seiliedig ar eu harferion gwirioneddol. Hefyd, roedd angen llawer o amser ac adnoddau i gwblhau proses y grŵp ffocws.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    (i) Mae'r ymholiad wedi ymgorffori safbwyntiau athrawon yn y lle cyntaf am ein bod yn awyddus i goladu a gwerthuso safbwyntiau'r rhai sy'n gyfrifol am ddylunio'r cwricwlwm newydd, ei ddatblygu a'i roi ar waith. Mae'n amlwg bod yn rhaid i ni ddibynnu ar roi strategaethau ar waith sydd eisoes yn bodoli mewn sefydliadau addysgu ledled y byd, ond nid ydym wedi cael amser i'w rhoi ar waith ac asesu eu llwyddiant eto.

    (ii) Er mwyn atgyfnerthu'r gwaith ymchwil hwn, bydd angen i ni gyfathrebu â phob rhanddeiliad gan gynnwys myfyrwyr, athrawon ysgol gynradd a staff uwchradd. Hefyd, mae'n rhaid i ni ddefnyddio diwrnod HMS ym mis Chwefror i hyfforddi a hysbysu'r holl staff addysgu o ran sut i ddefnyddio'r strategaeth lafaredd gyffredin a'i rhoi ar waith mewn modd cyson ac effeithiol. Yn amlwg, caiff y strategaeth hon ei hadolygu a'i gwerthuso er mwyn gweld pa mor llwyddiannus ydyw.

    (iii) Mae'r ffaith bod yr holl staff wedi cymryd rhan yn y gwaith ymchwil gweithredol wedi bod yn fuddiol iawn am fod pob aelod o'r staff wedi cyfrannu at ddylunio'r cwricwlwm newydd i gefnogi dysgwyr agored i niwed. Mae'n amlwg y rhagwelir y bydd y gwaith gyda'r ysgolion cynradd clwstwr yn sicrhau cysondeb yn y ffordd y caiff llafaredd ei gyflwyno o'r cyfnod cynradd i'r cyfnod uwchradd.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Allen, V. (2017) Supporting Behaviour by Building Resilience and Emotional Intelligence, Critical Publishing
    Ary, D., Jacobs, C. L., Irvine, S. K. C. a Walker, A. D. (2019) Introduction to Research in Education. 10fed argraffiad. UDA: Nelson Education Ltd.
    BERA (2018) Ethical Guidelines for Educational Research. 4ydd argraffiad. Ar gael yn: https://www.bera.ac.uk/wp-content/uploads/2018/06/BERA-Ethical-Guidelines-for-Educational-Research_4thEdn_2018.pdf [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2019].
    Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus. Ar gael yn: https://gweddill.gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-cy.pdf
    Pinkett, M. a Roberts, M., Boys Don’t Try
    Wilson, G. (2016), 100 Ideas for Primary Teachers – Raising Boys’ Achievement, Bloombury Press
    Reichert, M. a Hawley, R., Reaching Boys, Teaching Boys
    Tallent, L. a Wilson, G., Boys Will Be Brilliant, How We Can Help Get it Right for Boys in Early Years, Featherstone Press
    Wilson, G., Breaking Through Barriers to Boys Achievement: Developing a Caring Masculinity, Bloomsbury Press

  • Cyswllt

    Clare Raine
    clare.raine@porthcawlschool.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Rydym yn ysgol gyfun gymysg 11-18 â 1400 o ddisgyblion a ddaw yn bennaf o'r dref arfordirol rydym wedi'i lleoli ynddi ger Pen-y-bont ar Ogwr. Ni yw'r unig ysgol wladol yn y dref. Rydym yn falch o fod yn ysgol gyfun. Mae gennym 160 o staff, ac mae tua 80 ohonynt yn staff addysgu. Mae cymorth cadarn yn yr adran ADY a chymorth i fyfyrwyr. Mae nifer y disgyblion Prydau Ysgol am Ddim yn is na chyfartaledd Cymru.

    Trosolwg ymholiad

    Beth fu effaith ein prosiect trawsgwricwlaidd cyntaf?
    NOD 1: Sut mae'r prosiect wedi datblygu dysgwyr mewn perthynas â'r pedwar diben?
    NOD 2: Sut mae'r prosiect wedi newid y ffordd rydym yn gweithio?

    Cwestiwn Ymholi

    Beth fu effaith y prosiect trawsgwricwlaidd cyntaf ar Ysgol Gyfun Porthcawl?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Er bod sawl un o'n Meysydd Dysgu a Phrofiad wedi llwyddo'n flaenorol i ddylunio a rhedeg prosiectau yn seiliedig ar y cwricwlwm newydd, mae prosiect trawsgwricwlaidd 'Ein Byd' wedi teimlo fel newid enfawr.
    Y rheswm cyntaf am hyn oedd union natur y prosiect – roedd y gwersi wedi'u hysgogi gan ddibenion yn hytrach na chael eu harwain gan y cwricwlwm neu ganolbwyntio ar arholiadau. Yr ail reswm oedd bod y cwricwlwm wedi'i ddyfeisio gan grŵp o 30 o aelodau o staff a wirfoddolodd a olygai, mewn rhai achosion, fod angen i aelodau o staff iau ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb; a'r trydydd rheswm oedd ein bod wedi neilltuo pedwar mis o amser addysgu i gyflawni'r un prosiect hwn.
    Mae'r athrawon wedi buddsoddi llawer iawn o'u hamser eu hunain yn y prosiect hwn. Gall ein cynlluniau traddodiadol ganolbwyntio i raddau helaeth ar feithrin sgiliau sylfaenol a sylfaen wybodaeth ar gyfer TGAU; un o'r rhesymau pam mae athrawon wedi treulio cymaint o'u hamser ar y prosiect hwn yw eu hawydd i geisio sicrhau bod y cwricwlwm yn gyfoeth o wybodaeth a sgiliau, a hynny'n rhannol o leiaf gan y bydd ein dysgwyr cyfredol yn dal i sefyll cymwysterau TGAU cyfoes, gan sicrhau bod digon o gyfle i ymgymryd â dysgu dilys, bod mwy o ddewis i'r dysgwr a mwy o gyfle i ofyn y 'cwestiynau mawr'.
    Datblygwyd 'Grŵp Ymholiad' a oedd yn cynnwys saith aelod: un aelod o staff o bob Maes Dysgu a Phrofiad ac athro TG ychwanegol i'n helpu gyda'r hanfodion technegol. Mae'r grŵp hwn yn cynrychioli amrywiaeth o brofiadau addysgu ac ymchwil.
    Yn ein sesiwn gyntaf, gwelais fod y staff yn fwyaf cyfforddus yn ystyried llwyddiant y prosiect o ran y pedwar diben craidd. Y dibenion hyn oedd ein prif ffocws gan fod y prosiect wedi'i ddyfeisio pan oedd y cwricwlwm newydd ar ffurf ddrafft.
    Aethom ati gyda'n gilydd i lunio holiadur i ddysgwyr. Mae'r holiadur hwn yn dibynnu i raddau helaeth ar broses hunangofnodi ar raddfa Likert mewn ymateb i ddatganiadau am y pedwar diben ac roeddwn o'r farn bod hyn yn wrthbwynt defnyddiol i'r broses o arsylwi ar athrawon.
    Ar sail ein canfyddiadau meintiol cychwynnol, roedd gennym fwy o gwestiynau i'w gofyn, felly aethom ati i ymchwilio'n ddyfnach drwy gyfrwng grŵp ffocws Blwyddyn 7 gan ddefnyddio pum cwestiwn sylfaenol i ysgogi trafodaeth fwy ansoddol.
    Ar sail canlyniadau'r holiadur sylfaenol a'r holiadur interim, a rhai pwyntiau diddorol iawn a gododd o'r grŵp ffocws, rydym bellach wedi dewis datblygu chwe ymholiad proffesiynol unigol.

    Ystyriaethau moesegol

    Rydym yn defnyddio ffurflen gydsynio gyffredinol ar gyfer ffotograffau a holiaduron ond, oherwydd natur grwpiau ffocws, roeddem yn teimlo bod angen cael caniatadau ychwanegol gan rieni neu ofalwyr, yn enwedig o ystyried y gallem fynd ati i ddefnyddio clipiau o'r fideo fel hyfforddiant yn y dyfodol. Rhoddwyd esboniad clir o'r prosiect i'r dysgwyr. Llofnododd pob gwarcheidwad ffurflen gydsynio fanwl cyn i ni gynnal y grŵp ffocws gyda blwyddyn 7. Gwnaethom yn siŵr ein bod yn dilyn y canllawiau ar geisio caniatâd oedolion a bennwyd gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Methodolegau ymchwil a cheisio symud i ffordd newydd o feddwl yw thema'r rhan fwyaf o'r deunydd darllen a ddefnyddiwyd. Gwnaeth y cysyniad o ymholi fel safbwynt, fel yr amlinellir gan Cochran-Smith a Lytle [1], argraff fawr arnaf. Yn ôl y ddwy, mae ymholi yn ffordd o wybod a bod yn rhan o'r byd ymarfer addysgol. Rwy'n dod yn ymwybodol bod rhai ysgolion erbyn hyn yn mabwysiadu gwaith ymholi proffesiynol fel safbwynt a methodoleg fel mater o arfer; p'un a ydynt yn ymgymryd â gwaith ymchwil gweithredol i addysgeg, yn datrys problem ymddygiadol, neu'n ceisio penderfynu ar y ffordd orau o ailddylunio cwricwlwm.

    Y ddwy brif fethodoleg a ddefnyddiwyd gennym oedd holiaduron i gasglu data meintiol a'r grŵp ffocws i archwilio'n ddyfnach i'r hyn y mae ffigurau'r arolwg yn ei olygu. A dweud y gwir, roedd y rhan fwyaf o'r sgiliau a ddefnyddiwyd gennym i lunio'r holiaduron naill ai'n deillio o'r cyngor a roddwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd [2], profiad ein huwch-reolwyr ein hunain o gynnal arolygon, y wybodaeth sydd gan ein hathro TG am raddfa Likert neu'r wybodaeth sydd gan yr athrawon hynny yn y grŵp ymholi sydd ag arbenigedd ar lefel Meistr. Roedd yr holiadur a ddeilliodd o'r cydweithio hwn yn llwyddiannus i raddau helaeth, ond roeddwn yn pryderu am un mater penodol: nid oedd ein dysgwyr erioed wedi cael eu hasesu ar sail y pedwar diben ac roeddwn yn teimlo, er mwyn i ni ddangos cynnydd, fod angen i ni ymgymryd â gwaith asesu cyn iddynt ddechrau'r prosiect, ac yna ar ddiwedd y prosiect.
    Cofiais am fethodoleg a ddefnyddir ar gyfer garddwriaeth therapiwtig, sef methodoleg rwyf wedi'i defnyddio fel ymarferydd awyr agored: defnyddio'r un holiadur fel holiadur sylfaenol, holiadur interim a holiadur terfynol. Drwy greu llinell sylfaen, gellir llunio cymariaethau i werthuso newidiadau mewn ymddygiad dros amser. [3] Teimlid mai'r unig anfantais o ran y dull gweithredu hwn oedd, er mwyn gallu gofyn yr un cwestiynau i 205 o ddysgwyr blwyddyn 7 deirgwaith, fod angen sicrhau nad oedd y cwestiynau yn llafurus, felly gwnaethom gyfyngu ein hunain i dri chwestiwn ar bob un o'r pedwar diben.
    Defnyddiwyd dau brif destun wrth ymchwilio i'r broses o gynnal grwpiau ffocws [4] a [5], gan fynd ati i lunio ein canllaw mewnol ein hunain ar sut i gynnal grŵp ffocws da wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Y prif fater a ddaeth i'r amlwg oedd tuedd: ‘distortion of judgement, prejudiced outlook and unfair influence.’ [5] A oeddem yn dylanwadu'n ormodol ar ganlyniadau oherwydd y dyhead i ganfod bod y prosiect wedi bod yn llwyddiant?

    Canfyddiadau cychwynnol

    Yn anecdotaidd, mae'r prosiect eisoes yn llwyddiant: mae rhieni wedi sôn am blant brwdfrydig yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn yr ysgol gartref; rydym yn cael llawer o adroddiadau am drafodaethau cyffrous yn yr ystafell ddosbarth ac mae rhai athrawon hyd yn oed wedi dweud ei fod wedi ailgynnau eu cariad tuag at addysgu!
    A dyma ble mae angen i ni fod yn ofalus.
    Weithiau, mae'n ymddangos bod casglu barn y rheini sydd fwyaf parod i siarad yn ffordd eithaf defnyddiol o brofi'r farn gyffredinol: er enghraifft, mae llawer o'r pryderon a'r gwerthoedd a ddisgrifiwyd gennyf ar y dechrau wedi'u casglu gan athrawon wrth iddynt drafod y prosiect newydd mewn cyfarfodydd staff.
    Fodd bynnag, pan fo cymaint yn y fantol, mae angen tystiolaeth arnom.
    Rydym wedi ceisio bod yn drwyadl drwy dreiddio i lawr drwy'r holiaduron, i'r grŵp ffocws ac yna i'r prosiectau gwaith ymchwil gweithredol unigol.
    Ar bob cam o'r ffordd, mae'r grŵp ymholi wedi trafod y camau nesaf. Rwy'n credu ein bod wedi ceisio defnyddio'r data sydd o'n blaenau ac wedi ceisio hwyluso trafodaethau grŵp yn hytrach na'u harwain. Fodd bynnag, fel athrawon, rydym yn gyfarwydd ag arwain, adfyfyrio a gwella (mae'r rhan fwyaf ohonom sy'n athrawon profiadol yn defnyddio ymarfer adfyfyriol yn reddfol bron, boed yn y modd a ddisgrifir gan Kolb [6] neu Gibbs [7]) ac felly rwy'n credu ein bod wedi symud i ffwrdd ychydig o farnu llwyddiant y prosiect newydd a thuag at ei guradu, er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddiannus. Mae hyn ynddo'i hun yn ganlyniad cadarnhaol i'n dysgwyr.
    Ac, mewn gwirionedd, mae ein trywyddau ymholi newydd yn seiliedig ar dystiolaeth gref:

    • Yn y grŵp ffocws, darganfuwyd nad oedd dysgwyr yn hyderus iawn yn mynegi eu syniadau, er gwaethaf yr hyn a nodwyd ganddynt yn yr holiadur, yn enwedig o ran materion moesegol. O ganlyniad, mae'r Dyniaethau yn gweithio gyda Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar yr hyn sy'n gyfystyr â gwaith grŵp da, ac mae Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ystyried ffyrdd gwahanol o roi dysgwyr mewn grwpiau
    • Mae Mathemateg a Rhifedd yn ystyried gwydnwch ar sail y broses o arsylwi ar wersi
    • Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ystyried arferion ymchwilio da ar ôl i'r staff godi pryderon ynghylch yr arfer o gopïo a gludo o Google
    • Mae Iechyd a Lles yn ymchwilio i'r 'perfformiwr hyderus' ar sail ein holiadur a'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
    • Mae'r Celfyddydau Mynegiannol yn ystyried barn pob un o'n dysgwyr ar greadigrwydd ac yn defnyddio gwaith ymchwil academaidd i ddarganfod sut y gallwn addysgu ein dysgwyr i fod yn greadigol

    Fodd bynnag, efallai y dylem sicrhau bod mwy o rwystrau a gwrthbwysau ar waith pan ddown i ddiwedd y prosiect ymhen mis:

    • Dylem ddosbarthu holiadur staff dienw fel bod pob athro sy'n gysylltiedig â'r gwaith o ddyfeisio'r prosiect yn cael cyfle i leisio ei farn ar y prosiect heb ofni y bydd yn ymddangos yn negyddol neu'n pechu cydweithwyr sydd wedi gweithio'n galed
    • Mae angen i ni ddosbarthu'r fersiwn derfynol o'n holiadur
    • Dylem wedyn gynnal grŵp ffocws arall i egluro rhai o ganlyniadau'r holiaduron, fel y negeseuon cymysg rydym yn eu cael ynghylch effaith materion amgylcheddol

    Cyfyngiadau

    Ni chafodd yr holiadur interim ei gwblhau gan bob un o'r 205 o ddysgwyr felly, er bod rhywfaint o arweiniad gennym ar gyfer y grŵp ffocws, nid yw'r data yn sefyll ar eu pennau eu hunain. Er mwyn sicrhau bod y broses yn gyson, mae angen sicrhau bod yr un 205 o ddysgwyr yn cwblhau ein holiadur terfynol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Rwy'n gobeithio y bydd y grŵp ymholi yn gallu gweithio gyda grŵp y cwricwlwm a'r uwch-reolwyr. Os awn ati i gydweithio, gan ystyried ymholi fel safbwynt ac edrych ar y data a chanlyniadau'r gwaith ymchwil, dylem allu gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth am y ffordd y dylem gynnal ein prosiect y flwyddyn nesaf er budd pennaf ein dysgwyr, os o gwbl.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    [1] MARYLIN COCHRAN-SMITH a SUSAN L LYTLE Inquiry as Stance: Practitioner Research for the Next Generation
    [2] PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD [ar y cyd â GCA a CCD] (2019) Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiynol
    [3] PATRICIA J. ZANDSTRA A Systematic Approach to Horticultural Therapy: Cyf. 3 (1988), tt. 15-24 Journal of Therapeutic Horticulture a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Therapi Garddwriaethol America
    [4] BELL a WATERS (2018) Doing Your Research Project: Gwasg Y Brifysgol Agored
    [5] DENSCOMBE, Martin (2007) The Good Research Guide: Gwasg Y Brifysgol Agored
    [6] KOLB Reflective writing: applying Kolb's (1984) learning cycle: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
    [7] GIBBS Reflective writing: applying Gibbs (1988) reflective cycle: Prifysgol Metropolitan Caerdydd

  • Cyswllt

    Angharad Bryn-Jones
    01874 623508
    angharad.bryn-jones@penmaes.powys.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Penmaes yn nhref Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn ne Powys yn ysgol brysur a blaengar sy'n darparu addysg arbenigol o safon uchel i ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed sydd ag amrywiaeth eang o anawsterau dysgu. Ymhlith yr anawsterau hyn mae anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Cynhelir yr ysgol gan Awdurdod Lleol Powys ac mae gan bob un o'r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.
    Mae 111 o ddisgyblion (68 o fechgyn a 43 o ferched) ar y gofrestr ar hyn o bryd. Saesneg yw'r brif iaith a siaredir gartref gan bron pob un o'r disgyblion. Ar y cyfan, mae 41 o'r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim ac mae 21 o'r disgyblion yn Blant sy'n Derbyn Gofal. Mae wyth athro amser llawn a phedwar athro rhan-amser. Mae gan yr ysgol 42 o gynorthwywyr addysgu sy'n amrywio o statws cynorthwyydd cymorth i HLTA ac mae cymysgedd o swyddi amser llawn a rhan-amser.

    Trosolwg ymholiad

    Beth mae'r Pedwar Diben yn ei olygu i ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth? Beth yw rhinweddau dysgwyr mewn ysgol arbennig sy'n “ddinasyddion gwybodus, egwyddorol; yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; yn gyfranwyr mentrus, creadigol ac yn unigolion iach, hyderus”? a sut y gallwn fesur cynnydd yn erbyn y Pedwar Diben i bob dysgwr ag anghenion dysgu cymhleth?

    • byddwn yn ystyried safbwyntiau rhieni a disgyblion; holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws.
    • archwiliadau o Dimau Meysydd Dysgu a Phrofiad; mesur/gwerthuso'r ffordd y caiff y Pedwar Diben eu cynnwys ar hyn o bryd ac ystyried pa gyfleoedd pellach y gellir eu cynnig i'w hybu ymhellach.

    Cwestiwn Ymholi

    Beth mae cymuned yr ysgol yn ei wybod a'i ddeall am y Pedwar Diben; gan gynnwys y ffordd y maent yn gymwys i bob disgybl ag anghenion dysgu cymhleth?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae gan yr ymholiad hwn ddwy brif thema – un yn ymwneud â beth mae cymuned yr ysgol yn ei wybod a'i ddeall am y Pedwar Diben; a'r llall yn ymwneud â'r ffordd y maent yn gymwys i ddisgyblion ag AAA/ADY. Er mwyn ateb y ddwy thema, caiff disgyblion, staff, rhieni a'r corff llywodraethu eu cynnwys yn yr ymholiad.

    Caiff y corff llywodraethu ei gynnwys, yn ogystal â rhieni, er mwyn nodi’r hyn y maent yn ei ddeall a'i wybod am y Pedwar Diben, a beth y maent yn ei olygu i ddisgyblion ag anghenion cymhleth. Gwneir hyn drwy rannu llyfryn gwybodaeth syml am y Cwricwlwm Newydd i Gymru 2022 a fydd yn amlinellu'r Pedwar Diben, cyn cwblhau holiadur.
    Disgwylir i staff yr ysgol gwblhau holiadur am yr hyn maent yn ei wybod am y Pedwar Diben, ond bydd hefyd yn fodd i feithrin dealltwriaeth o’r hyn y maent yn ei wybod am y ffordd y maent yn gymwys i ddisgyblion ag anghenion cymhleth. Bydd grŵp ffocws o ddisgyblion a fydd yn cynnwys cyngor yr ysgol, a gofynnir cwestiynau am yr hyn y maent yn ei wybod a'i ddeall am y Pedwar Diben a'r ffordd y maent yn gymwys iddynt – h.y. sut mae disgyblion yn eu dehongli ac yn eu trosi?

    Yn dilyn archwiliad o’r hyn a ddeellir am y Pedwar Diben, bydd staff yr ysgol hefyd yn mynd ati i gynllunio tasgau gwerthfawr a gynhelir bob hanner tymor. Bydd y rhain yn anelu at ddarparu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer y Pedwar Diben y nodwyd yr aed i'r afael â nhw leiaf oherwydd eu dehongliad, a beth mae hyn yn ei olygu neu sut maent yn edrych i rai disgyblion yn Ysgol Penmaes.

    Y gobaith yw y bydd gwerthusiadau o'r tasgau cyfoethog yn darparu data ar gwmpas y Pedwar Diben a nodwyd gyda staff ar ddechrau'r ymholiad, hygyrchedd y Pedwar Diben a nodwyd a sut maent yn gymwys i ddisgyblion gwahanol ag AAA/ADY. Y gobaith yw y bydd datblygu tasgau cyfoethog drwy gydweithio yn ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth, ac yn lleihau rhwystrau o ran mynd i'r afael â nhw/eu gwneud yn gymwys i ddisgyblion ag AAA/ADY cymhleth.

    Ystyriaethau moesegol

    • Gofynnir am gydsyniad pob rhiant, yn unol â gweithdrefnau cydnabyddedig.
    • Hefyd, gofynnir i bob aelod o staff a llywodraethwr yn yr ymholiad am gydsyniad cyn cymryd rhan.
    • Caiff pawb dan sylw wybod am eu hawliau o ran cyfrinachedd ac aros yn ddienw.
    • Mae natur agored i niwed y disgyblion sy'n rhan o'r ymholiad, oherwydd eu hanghenion dysgu cymhleth, yn ystyriaeth bwysig. Efallai y bydd angen ystyried ymddygiad y rhai mwy cymhleth yn ddangosydd bod angen iddynt roi'r gorau i'r ymholiad. Dylai fod modd i bawb dynnu'n ôl ar unrhyw adeg.
    • Sicrhau bod pawb dan sylw yn cael gwybodaeth hygyrch am yr ymholiad a sicrhau bod pawb yn deall beth sydd dan sylw – ystyrir sut i wneud hyn gyda'r llai abl.
    • Cydsyniad o ystyried galluoedd y sawl sy'n rhan o'r ymholiad – os bydd modd i ddisgyblion gydsynio ceisir hyn, ond os nad yw hyn yn bosibl ceisir cydsyniad/caniatâd y rhieni.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Cyfeiriwyd at y canlynol:
    https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/crynodeb-o-r-ddeddfwriaeth-arfaethedig/
    Amlinellir gofynion cyffredinol ar gyfer ysgolion a gynhelir sy'n mabwysiadu cwricwlwm ac felly rhaid i'r cwricwlwm a fabwysiedir fodloni rhai gofynion penodol megis: galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y Pedwar Diben; bod yn eang a chytbwys; bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau; darparu ar gyfer dilyniant priodol i ddysgwyr a chynnwys ystod o ddarpariaeth i sicrhau hyn (yn gysylltiedig ag oedrannau, galluoedd a doniau). Mae hyn yn gymwys i'r gwaith ymholi a wneir yn Ysgol Penmaes.
    Ymhlith y dogfennau pwysig eraill mae:
    https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm/datblygu-gweledigaeth-ar-gyfer-dylunio-cwricwlwm/
    https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/adroddiad-ar-ymatebion-i%E2%80%99r-sgwrs-fawr.pdf

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r ymholiad yn mynd rhagddo a phrin yw'r canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg ar y cam hwn. Yr unig ganfyddiadau sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd yw bod adborth un garfan yn dynodi gwybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig o'r Pedwar Diben a'u dehongliad i ddisgyblion ag ADY/AAA cymhleth. Bu'n anodd ymgysylltu â'r grŵp hwn; dychwelwyd pedwar holiadur allan o naw posibl ac, o'r rhain, roedd dau gan aelodau o staff yn y garfan a oedd yn meddu ar y lefel fwyaf o wybodaeth a dealltwriaeth.

    Cyfyngiadau

    Mae nifer o gyfyngiadau i'r ymholiad hwn, fel a ganlyn:

    • Cael cydsyniad rhieni: anfonwyd llythyrau adref yn ceisio cydsyniad, ond nifer bach iawn a ddychwelir sy'n lleihau faint o ddata y gellir ei gasglu.
    • Canfyddiadau, dealltwriaeth a dehongliadau amrywiol ymhlith cyfranogwyr o ran y Pedwar Diben.
    • Cydweithrediad ac ymgysylltiad cyfranogwyr.
    • Dealltwriaeth o'r cwricwlwm newydd i Gymru.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Ymhlith yr argymhellion allweddol sy'n dod i'r amlwg hyd yma mae'r angen i sicrhau bod y corff llywodraethu yn cael ei ymgysylltu a'i hyfforddi ymhellach o ran y cwricwlwm newydd.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Dd/G