English

Hwb

  • Cyswllt

    Kelly Toshack/Becky Heavyside
    RhwsPS@valeofglamorgan.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol dwy ffrwd sydd â thua 420 o ddisgyblion ar y gofrestr yw Ysgol Gynradd Rhws. Mae tua 13% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r ysgol wedi nodi bod gan tua 18% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan ambell ddisgybl ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig. Ychydig iawn o'r disgyblion sydd o leiafrif ethnig. Mae'r ysgol ym mhentref y Rhws sydd mewn cyd-destun economaidd-gymdeithasol cymysg. Mae'r pennaeth presennol wedi bod yn y swydd ers mis Ionawr 2019.

    Trosolwg ymholiad

    Cam 1:
    Beth yw addysgeg y blynyddoedd cynnar?

    Sy'n arwain at ein cwestiwn ymholi:
    A all addysgeg y Cyfnod Sylfaen wella cynnydd disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2?

    Byddwn yn cynnal adolygiad o lenyddiaeth ac yna'n cynnal grwpiau ffocws yn sgil yr adolygiad o lenyddiaeth a rennir. Wedyn, byddwn yn cytuno ar ddiffiniad o ‘addysgeg y Cyfnod Sylfaen’, gan arwain at ymchwil yn yr ystafell ddosbarth gyda disgyblion ym Mlwyddyn 3.

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw Addysgeg y Cyfnod Sylfaen?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Gwnaethom ofyn i'r holl staff a hoffent gymryd rhan yn yr ymholiad proffesiynol hwn. Ar sail y diddordeb a ddangoswyd, dewiswyd grŵp o bedwar, gan gynnwys staff uwch-dîm arwain, CS a CA2, i fynychu cyfarfod rhagarweiniol. Y methodolegau a ddewiswyd oedd adolygiad o lenyddiaeth yn cynnwys rhai deunyddiau darllen y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ac yna grŵp ffocws, i drafod rhai cwestiynau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Y cwestiynau hyn oedd:

    • Beth yw addysgeg?
    • A yw addysgeg yn newid o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2? Os felly, sut/pam?
    • A yw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn newid o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2? Os felly, sut/pam?
    • Sut y byddech chi'n diffinio addysgeg y 'Cyfnod Sylfaen'?
    • Sut/pam y gwnaethoch benderfynu ar eich diffiniad?

    Ystyriaethau moesegol

    Gwnaethom rannu'r holl ffurflenni a chanllawiau moesegol wedi'u diweddaru â'r grŵp dethol o staff. Cafodd y staff amser di-gyswllt i wneud y gwaith darllen proffesiynol ar gyfer y grŵp ffocws er mwyn lliniaru'r effaith ychwanegol ar lwyth gwaith.
    Gwahoddwyd y staff i gyfarfod rhagarweiniol, lle rhannwyd dyluniad a methodolegau'r gwaith ymchwil. Cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau a chael mwy o wybodaeth am y broses ymholi. Yn y cyfarfod hwn y cafodd y staff wybod y gallent dynnu'n ôl o'r broses ymchwil ar unrhyw adeg, ac y byddai eu holl ymatebion yn aros yn anhysbys.
    Fe'u hysbyswyd y byddai cyfraniadau'r grŵp ffocws yn cael eu defnyddio i lunio adroddiad yn amlinellu'r prif ganfyddiadau. Fe'u gwnaed yn ymwybodol y gallai'r rhain gael eu rhannu â chydweithwyr o fewn y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol.
    Rhoddwyd ffurflenni cydsynio i'r staff yn y cyfarfod cychwynnol i'w llofnodi a'u cwblhau unwaith y cawsant gyfle i ystyried a oeddent yn hapus i barhau i gymryd rhan. Ceisiwyd cydsyniad gwirfoddol, ar sail gwybodaeth gan bawb dan sylw, ac fe'i rhoddwyd, cyn i'r gwaith ymchwil ddechrau.
    Rhoddwyd sicrwydd i'r unigolion, petai unrhyw faterion sensitif yn codi yn ystod y trafodaethau, yr eid i'r afael â nhw ar ôl i'r grŵp ffocws ddod i ben.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Gwnaethom ofyn i'r staff ddarllen y testunau a'r deunyddiau darllen canlynol:
    Llywodraeth Cymru, Hwb – Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen, Astudiaethau Achos
    Chris Taylor, Mirain Rhys a Sam Waldron, Implementing curriculum reform in Wales: the case of the Foundation Phase Revision (v3) Oxford Review of Education, t. 8-12
    Estyn, Blog – Esblygu arferion y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2...
    Llywodraeth Cymru, Fframwaith y Cyfnod Sylfaen (diwygiedig 2015), t.4-10
    Elizabeth Wood, Early Childhood Curriculum, Rhagarweiniad a Phennod 1
    Y themâu sy'n dod i'r amlwg o'r llenyddiaeth yw:

    • lle a pherthnasedd chwarae
    • annibyniaeth disgyblion a'u cymhelliant cynhenid
    • gwanhau'r Cyfnod Sylfaen oherwydd disgwyliadau wrth i ddisgyblion symud i Gyfnod Allweddol Dau
    • rôl yr athro fel cyd-anturiwr, hwylusydd
    • deall addysgeg drwy'r ysgol gyfan
    • ffurfioli profiadau dysgu wrth i ddisgyblion symud drwy'r lleoliad cynradd

    Roedd yr holl staff yn gytûn ei bod hi'n werth chweil treulio amser yn darllen ac yn adfyfyrio, a bod hyn yn eu cymell i roi blaenoriaeth i ddarllen proffesiynol yn fwy nag yn eu hymarfer cyfredol. Cytunwyd bod y llenyddiaeth yn adlewyrchu profiadau yn yr ystafell ddosbarth yn gywir. Er enghraifft, gwnaethom drafod yn fanwl y 'tensiynau' y mae Wood yn eu disgrifio yng Nghwricwlwm y Blynyddoedd Cynnar rhwng creu cyfleoedd i chwarae ac yna fod angen amharu ar y llif, a chanfod 'amcan addysgol' chwarae plant oherwydd rhwymedigaethau gorfodol.
    Hefyd, cadarnhaodd y llenyddiaeth ein hathronyddiaethau personol, hynny yw credwn yng ngwerth chwarae ac archwilio a arweinir gan blant. Hefyd, nodwyd, er bod y llenyddiaeth yn cydnabod cyfyngiadau'r systemau addysgol rydym yn gweithio ynddynt, mae hefyd yn annog ymarferwyr i fod yn greadigol ac yn eofn wrth ddefnyddio ymchwil addysgol i wneud newidiadau gwybodus i'n hymarfer.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Ymhlith amrywiaeth eang ac amrywiol o themâu, gwnaeth ein trafodaeth ganolbwyntio'n bennaf ar geisio deall yr addysgegau penodol sy'n unigryw i leoliadau'r Cyfnod Sylfaen. Rhaid nodi yma fod y grŵp yn cytuno ei bod yn ymddangos yn rhyfedd hyd yn oed drafod bod addysgeg yn 'wahanol' yn y Cyfnod Sylfaen i weddill yr ysgol. Gwnaeth y trafodaethau cychwynnol ganolbwyntio ar y rheswm pam mae hyn yn wir.
    Treuliodd aelodau'r grŵp ffocws amser yn ceisio diffinio addysgeg a chytunwyd y gallai edrych yn wahanol i bob aelod o staff. Cytunodd y grŵp fod angen gallu addasu addysgeg, a bod angen iddi fod yn gyfredol, a'i bod yn ymwneud â mwy na dim ond arddulliau dysgu ac addysgu. Mae a wnelo â rhannu gwybodaeth a hwyluso, gyda'r dysgwyr sydd yno gyda chi ar yr adeg benodol honno. Mae'n ddiddorol nodi bod pawb yn sicr na ellir ystyried addysgeg ar ei phen ei hun a heb adfyfyrio arni'n feirniadol.
    Cytunwyd bod addysgeg yn aml yn wahanol yn y Cyfnod Sylfaen, yn anghywir efallai, ac felly, o ganlyniad, roeddem yn teimlo bod y Cyfnod Sylfaen o bosibl yn cael ei wanhau oherwydd y disgwyliadau a'r lleoliadau sy'n bodoli yng Nghyfnod Allweddol Dau, ond hefyd fod natur fwy ffurfiol Cyfnod Allweddol Dau yn dechrau esgor ar waith archwilio wedi'i arwain yn fwy gan ddisgyblion, o ystyried ein ffocws newydd ar arddulliau dysgu sy'n seiliedig ar brosiect.
    Cafwyd trafodaeth ddiddorol ynghylch y ffordd mae gwaith asesu, yn arbennig asesu ffurfiannol a'r gofyniad am dystiolaeth, yn pennu'r dull dysgu mwy ffurfiol a welir ar lefel uwch yr ysgol. Cytunwyd y byddai treulio mwy o amser yn arsylwi ac yn cynnal asesiadau ffurfiannol anffurfiol yn mynd i'r afael â rhywfaint o'r tensiwn hwnnw. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng yr asesiadau diwedd cyfnod, tystiolaeth ac addysgeg.
    Trafododd y grŵp un gwahaniaeth sylfaenol rhwng y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol Dau sef meysydd darpariaeth barhaus ac uwch. A oes diffyg cyfleoedd i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol Dau atgyfnerthu, ymarfer a chymhwyso eu sgiliau mewn ffordd annibynnol, sy'n seiliedig ar chwarae? A yw'r amserlen yn cwtogi ar waith archwilio disgyblion?
    Canolbwyntiodd y drafodaeth ar heriau'r cwricwlwm newydd. Cydnabu pawb na fydd ymarferwyr yn 'athrawon Cyfnod Allweddol Dau', ond y bydd angen iddynt ddangos eu sgiliau ym mhob grŵp oedran. Hefyd, bydd angen i sgiliau a chynnydd disgyblion gael eu cyfnewid o fewn y grŵp oedran hefyd.
    Wrth orffen y trafodaethau, cytunodd aelodau'r grŵp y byddai mynd i'r afael â'r materion a drafodwyd yn y grŵp o fudd i lesiant y disgyblion. Mwy o amser i ganolbwyntio ar anghenion disgyblion unigol, meithrin cydberthnasau a hwyluso dysgu'r plentyn cyfan.

    Cyfyngiadau

    Er i sampl gynrychioliadol gymysg gael ei defnyddio ar gyfer tasg ymchwil y grŵp ffocws, rhaid nodi na chynrychiolwyd staff cymorth. Hefyd roedd rhestr ddarllen benodol; nid oedd y staff yn defnyddio ystod eang o lenyddiaeth.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    (i) Y daith a ddilynwyd a pham y dewiswyd methodoleg neu ffordd benodol o weithredu.
    (ii) Agweddau i’w hystyried, peryglon i’w hosgoi
    (iii) Unrhyw weithdrefn neu ddull a weithiodd yn dda iawn, naill ai o ran deilliannau neu o ran gwella agweddau

    Roedd y grŵp ffocws wedi ymlacio a chafwyd deialog broffesiynol gyfoethog. Roedd y staff yn gyfforddus i drafod a rhannu am eu bod wedi cael amser a deunyddiau wedi'u paratoi ymlaen llaw.

    O ganlyniad i brofiad blaenorol o grwpiau ffocws, gwnaethom ddarparu nodiadau gludiog a beiros fel bod modd nodi unrhyw syniadau neu gwestiynau nad aed i'r afael â nhw.
    Yn ogystal â chofnodi trafodaeth y grŵp ffocws, gwnaethom greu map meddwl o'n trafodaeth fel bod gennym gymhorthyn gweledol i'n helpu i hwyluso ein gwaith adfyfyrio wrth ystyried y themâu a oedd yn dod i'r amlwg a'r canfyddiadau.

    Roedd agweddau'r staff tuag at y broses ac, yn benodol, ddysgu proffesiynol yn galonogol iawn.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Rhestr ddarllen fel y nodir uchod.

  • Cyswllt

    Nadine Cushion
    sgbpa@caerphilly.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Santes Gwladys mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, yng ngogledd tref Bargod ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer 408 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, a hynny mewn 14 o ddosbarthiadau (dwy ffrwd o'r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6), yn ogystal â dosbarth meithrin amser llawn i 55 o ddisgyblion. Yn 2018/19, roedd 65 o ddisgyblion ar y gofrestr ADY: pum disgybl â datganiadau, 45 o blant yn destun Gweithredu gan yr Ysgol ac 16 yn destun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, tri phlentyn sy'n derbyn gofal, wyth plentyn y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt (SIY) a phedwar plentyn y nodwyd eu bod yn Ofalwyr Ifanc.

    Trosolwg ymholiad

    Beth yw addysgeg y Blynyddoedd Cynnar?
    Sy'n arwain at ein cwestiwn ymholi: Sut y gallwn ddilyn egwyddorion Froebel mewn perthynas â phlentyndod cynnar a gofal?
    Byddwn yn cynnal adolygiad o lenyddiaeth ac yna'n cynnal grwpiau ffocws yn sgil yr adolygiad o lenyddiaeth a rennir.
    Wedyn, byddwn yn cytuno ar ddiffiniad o ‘addysgeg y Blynyddoedd Cynnar’, gan arwain at ymchwil yn yr ystafell ddosbarth gyda disgyblion yn y Blynyddoedd Cynnar.

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw Addysgeg y Cyfnod Sylfaen?
    Sy'n arwain at gwestiwn ymholi yn y dyfodol: Sut y gallwn ddilyn egwyddorion Froebel mewn perthynas â phlentyndod cynnar a gofal?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Cefndir:
    Dros y degawd diwethaf, mae cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen (CS) wedi cael ei gyflwyno a'i roi ar waith yng Nghymru. Yn fwy diweddar, wrth i'r Cwricwlwm Newydd i Gymru gael ei gyflwyno ac yn sgil yr argymhellion a wnaed yn adolygiad Donaldson (2015), mae ysgolion wedi cael eu hannog i wreiddio arferion y CS ym mhob rhan o Gyfnod Allweddol 2 (CA2). Awgryma tystiolaeth mai dim ond 25% o ysgolion cynradd yng Nghymru sy'n dangos addysgeg CS dda (Estyn Rhag. 2017), sy'n codi cwestiwn o ran beth yw addysgeg CS effeithiol. Nodwyd ei bod yn hanfodol meddu ar ddealltwriaeth glir a chyffredin o hyn ar ddechrau taith ddysgu plant cyn bod modd datblygu arferion o'r fath yn llwyddiannus ym mhob rhan o'r cyfnod cynradd.
    Fel yr amlinellwyd yn Dyfodol Llwyddiannus, mae'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm a'r Safonau Proffesiynol yng Nghymru yn cydnabod bod ‘addysgeg’ yn allweddol. Ystyrir bod archwilio dealltwriaeth gyffredin o addysgeg y CS yn yr ysgol yn hanfodol er mwyn sicrhau dysgu ac addysgu hynod effeithiol wrth ddiwygio'r cwricwlwm yn llwyddiannus.
    Nod y gwaith ymchwil:
    Nod y gwaith ymchwil yw archwilio dealltwriaeth ymarferwyr o addysgeg y CS mewn modd beirniadol, yn enwedig yn y Blynyddoedd Cynnar, yn y cwricwlwm i ysgolion cynradd yng Nghymru. Byddai cyflawni astudiaeth ansoddol yn gyfle i ddilyn dull archwiliadol, gan ddefnyddio dulliau casglu data penagored (Hastie a Glotova, 2012), a chynnig cyfle i feithrin dealltwriaeth gyfoethocach ac nid dim ond casglu data.
    Casgliadau ac argymhellion y gwaith ymchwil yw y dylid meithrin dealltwriaeth gyfunol o addysgeg CS effeithiol. Bydd hyn, yn ei dro, o fudd i athrawon CA2 pan fyddant yn rhoi arferion ar waith, yn ogystal ag athrawon ledled Cymru wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
    Methodoleg:
    Fel rhan o ddiwrnod hyfforddiant dysgu proffesiynol (sefydlu prosiectau ymholi), gwahoddwyd y tîm Blynyddoedd Cynnar i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil gweithredol â ffocws ar addysgeg. Gwnaeth y tîm cyfan o 11 aelod o staff (tri athro ac wyth cynorthwyydd addysgu) fynegi diddordeb.
    Y methodolegau ansoddol a ddewiswyd oedd:

    • Adolygiad llenyddiaeth o ddeunyddiau darllen y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.
    • Trafodaeth grŵp ffocws yn seiliedig ar gwestiynau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw:
      • Beth yw addysgeg?
      • A yw addysgeg yn newid o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2? Os felly, sut?
      • A yw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn newid o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2? Os felly, sut?
      • Sut y byddech chi'n diffinio addysgeg y ‘Cyfnod Sylfaen’?
      • Sut/pam y gwnaethoch benderfynu ar eich diffiniad?
        * Noder: Recordiwyd y trafodaethau anffurfiol gan ddefnyddio dwy ddyfais
    • Ar ôl cyfarfod ychwanegol, cyn y grŵp ffocws, crëwyd ‘mapiau meddwl’ yn seiliedig ar y cwestiynau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw a oedd yn ategu trafodaeth y grŵp ffocws.

    Ystyriaethau moesegol

    Gwnaed pob ymdrech i lynu wrth y canllawiau moesegol a amlinellwyd ar gyfer gwaith ymchwil addysg (BERA, 2018) yn ystod yr astudiaeth hon, gan gydnabod y dylid sicrhau parch ac ymddiriedaeth wrth wneud gwaith ymchwil.

    • Hawl broffesiynol
      Achubwyd ar y cyfle i lansio ymholiad proffesiynol yn ystod Diwrnod Hyfforddiant Dysgu Proffesiynol, gan fagu hyder pob aelod o'r staff a meithrin eu gwybodaeth am y broses ymholi a'u sgiliau fel ymholwyr. Roedd hyn yn gyfle i'r staff ymwneud â'r safonau proffesiynol yn unol â'r ‘gwerthoedd ac ymagweddau’ cyffredinol (Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu, 2017).
    • Cydsynio drwy wneud penderfyniad gwirfoddol ar sail gwybodaeth
      Trefnwyd cyfarfod i roi gwybod i ddarpar gyfranogwyr beth roedd yr astudiaeth hon yn ei olygu. Trafodwyd dyluniad ymchwil a dulliau casglu data arfaethedig er mwyn meithrin dealltwriaeth o'r canlynol:
      • Y cynnig ymchwil
      • Dulliau i'w defnyddio
      • Sut y byddai gwybodaeth am gyfraniad y cyfranogwyr yn cael ei chasglu
      • Sut yr adroddir ar y data a ddadansoddir
      • Pwy fydd yn defnyddio'r data
    • Rhoddwyd cyfleoedd i ofyn cwestiynau a chadarnhau dealltwriaeth.
    • Rhannwyd ffurflenni cydsynio.
      • Hysbyswyd y cyfranogwyr y byddai cyfraniadau i'r grŵp ffocws yn cael eu defnyddio i lunio adroddiad yn amlinellu'r prif ganfyddiadau a'u rhannu fel rhan o'r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol.
      • Rhoddwyd sicrwydd iddynt, petai unrhyw faterion sensitif yn codi yn ystod y trafodaethau, yr eid i'r afael â nhw ar ôl i'r grŵp ffocws ddod i ben.
    • Cydnabod hawliau moesol y cyfranogwyr a'u diogelu

    Yn ystod y cyfarfod, rhoddwyd gwybod i'r staff bod ganddynt hawl i dynnu'n ôl o'r broses ymchwil unrhyw bryd, ac y byddai eu holl ymatebion hefyd yn cael eu tynnu'n ôl petaent am i hynny ddigwydd.
    Cytunwyd ar lafar y gallai'r staff roi gwybod i'r Ymholwr Arweiniol petaent yn teimlo'n anghyfforddus neu'n anfodlon cymryd rhan mwyach.
    Rhoddwyd sicrwydd y byddai unrhyw benderfyniad o'r fath yn cael ei barchu.

    • Cynigiwyd cymhellion i liniaru unrhyw effaith ychwanegol ar lwyth gwaith neu niwed posibl i lesiant
      Rhoddwyd amser digyswllt i'r cyfranogwyr wneud y canlynol:
      • cyflawni'r gwaith darllen proffesiynol gofynnol
      • ystyried cymryd rhan, cadarnhau eu bod yn deall ac, os ydynt yn cytuno, llenwi a llofnodi ffurflenni cydsynio *cafodd copïau eu cadw gan y cyfranogwyr a'r Ymholwr Arweiniol
      • cymryd rhan mewn deialog broffesiynol er mwyn llunio ‘mapiau meddwl’ gan ddefnyddio profiad personol, ynghyd ag ymatebion i'r gwaith darllen ymlaen llaw
    • Meithrin cydberthynas yn llawn ymddiriedaeth:
      • Sicrhawyd cyfrinachedd (barn/safbwyntiau a gwybodaeth bersonol) fel nad oedd y cyfranogwr yn gweld y broses fel un fygythiol.
    • Diogelu preifatrwydd drwy sicrhau'r canlynol:
      • bod yr holl wybodaeth a gesglir yn gwbl gyfrinachol
      • na ellir adnabod cyfranogwyr o unrhyw ffurflenni sy'n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol
      • bod yr holl ddata a gesglir yn cael eu dinistrio.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Deunyddiau darllen y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gyfer y grŵp ffocws:

    • Elizabeth Wood, Play, Learning and the Early Childhood Curriculum (3ydd argraffiad, 2013) -Rhagair a Phennod 1
    • Llywodraeth Cymru, Hwb – Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen, Astudiaethau Achos
    • Chris Taylor, Mirain Rhys a Sam Waldron, Implementing curriculum reform in Wales: the case of the Foundation Phase Revision (v3) Oxford Review of Education, t. 8-12
    • Estyn, Blog – Esblygu arferion y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2...
    • Llywodraeth Cymru, Fframwaith y Cyfnod Sylfaen (diwygiedig 2015), t.4-10

    Canfyddiadau cychwynnol

    Roedd yn anodd i'r cyfranogwyr roi diffiniad syml o'r term ‘addysgeg’, ond roeddent yn sylweddoli ei fod, yn fras, yn golygu ‘pam’, ‘beth’ a ‘sut’ ym maes dysgu ac addysgu. Cydnabuwyd ei fod yn golygu mwy na dulliau addysgu, ond hefyd y ffordd rydym yn addasu i ddiwallu anghenion newidiol y dysgwyr.
    Credid bod addysgeg yn gysylltiedig â thri phrif faes: athrawon/addysgu, plant/dysgu ac amgylchedd/profiadau, a'r rhyngweithio a'r cydberthnasau cydgysylltiedig rhyngddynt.
    Roedd y trafodaethau ynglŷn ag addysgeg y CS yn eang ac yn cwmpasu llawer o agweddau, ond cydnabuwyd mai'r themâu cyffredinol oedd:

    • Cyfranogiad
    • Rhyngweithio
    • Arsylwi
    • Darpariaeth
    • Amgylchedd

    Nodwyd bod tri llinyn annatod yn hanfodol, sef: ‘Cydberthnasau’, ‘Meithrin’ a ‘Chynwysoldeb’.
    Nodwyd mai ‘Chwarae’ oedd y prif gyfrwng ar gyfer cyflwyno themâu a llinynnau; credid ei fod yn hanfodol i ethos addysgeg y CS, gan hybu datblygiad iaith a sgiliau cymdeithasol, yn ogystal ag annibyniaeth a llesiant.
    Y farn oedd bod chwarae strwythuredig a chwarae annibynnol yr un mor bwysig â'i gilydd, gyda gwahaniaethau a buddiannau'r naill a'r llall yn cyfrannu at ddatblygiad y plentyn cyfan. Wrth i'r disgyblion symud drwy'r CS, teimlid bod y cydbwysedd yn symud i ffwrdd o chwarae annibynnol tuag at chwarae mwy strwythuredig.
    Roedd cyfranogiad gweithredol yn allweddol, am ei fod yn canolbwyntio ar sicrhau bod disgyblion yn arwain eu dysgu eu hunain, gan hybu annibyniaeth a dysgu annibynnol. Mae darpariaeth (wedi'i chyfoethogi a pharhaus) a'r amgylchedd dysgu yn hybu lefelau ymgysylltu ac yn rhoi'r rhyddid i ddisgyblion ddewis eu ffordd eu hunain o ddysgu a chyfrannu'n weithredol.
    Credid bod cydberthnasau cadarnhaol yn hollbwysig. Ystyrid bod cyfleoedd a gynigir drwy ryngweithio (rhwng disgyblion ac ymarferwyr, rhwng disgyblion a'i gilydd a rhwng disgyblion a'r amgylchedd dysgu) yn hollbwysig, am eu bod yn ceisio hybu sgiliau cymdeithasol a sgiliau cyfathrebu, ysbrydoli a herio'r dysgu, yn ogystal â meithrin dealltwriaeth o anghenion disgyblion unigol.
    Asesu ffurfiannol, drwy arsylwi, yw'r adnodd ysgogol a ddefnyddir i lywio gwaith cynllunio ac arferion. Y farn oedd bod arbenigedd ymarferwyr yn bwysig iawn o ran defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn effeithiol, e.e. ymyrryd yn briodol lle bo angen, gan lywio'r cam dysgu nesaf.
    Mae'r ddarpariaeth (cyfleoedd, profiadau ac adnoddau) wedi'i dylunio i ddiwallu anghenion a bodloni arddulliau dysgu'r plant. Mae'r profiadau hyn a arweinir gan oedolion a disgyblion yn annog rhyngweithio ac annibyniaeth ac yn hybu dysgu gweithredol, a hynny'n bennaf drwy chwarae a chyd-destunau bywyd go iawn.
    Ystyrid bod yr amgylchedd, gan gynnwys dysgu dan do ac yn yr awyr agored, yn hanfodol o ran hybu perchenogaeth disgyblion a llais y dysgwr.
    I grynhoi, credid bod addysgeg y CS, gyda'i ffocws ar gyfranogiad gweithredol, dysgu drwy brofiad, archwilio a chwarae, yn hybu ystafelloedd dosbarth hapus a phrysur sy'n seiliedig ar feysydd dysgu lle mae ethos o ddisgwyliadau uchel yn annog disgyblion i fagu hyder a meithrin creadigrwydd a dychymyg, gan fentro, ymgysylltu a chael eu herio ar yr un pryd. Nid yn unig y mae'r dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn annog perchenogaeth dros y dysgu, ond mae hefyd yn sicrhau bod rhyngweithio â'r disgyblion a rhyngddynt yn meithrin cydberthnasau ac yn datblygu ymddiriedaeth.
    Oherwydd diffyg profiad y cyfranogwyr o CA2, roedd yn anodd gwneud cymariaethau ystyrlon â'r addysgeg yn y cyfnod hwnnw. Ymhlith y canfyddiadau roedd diffyg pwyslais ar chwarae, a lleoliad mwy ffurfiol â llai o gyfranogiad gweithredol, yn enwedig yn yr awyr agored. Golygai hyn fod gan ddisgyblion lai o ryddid i ymgysylltu â'r amgylchedd a chyfleoedd cyfyngedig i atgyfnerthu sgiliau a ddysgwyd gan blant y CS drwy ddarpariaeth barhaus ac wedi'i chyfoethogi. Ystyrid bod y gymhareb oedolyn:disgybl gyfyngedig yn peri anawsterau o ran asesu'r disgyblion yn ffurfiannol.

    Cyfyngiadau

    • Cynhaliwyd y grŵp ffocws ar ôl ysgol, gan olygu nad oedd modd i gynorthwywyr addysgu fod yn rhan o'r gwaith casglu data, a effeithiodd ar gynrychioliad y sampl
    • Maint y sampl a dynameg y grŵp: roedd y grŵp yn cynnwys pum athro (Meithrin-Bl.1) ac ystod o rolau a phrofiad: ANG, athrawon/arweinwyr canol ac uwch-arweinydd. Nid oedd y sampl yn cynrychioli'r cyfnod cynradd cyfan, yn enwedig cynorthwywyr addysgu a CA2.
    • Gwendid y sefyllfa: dynameg y cyfranogwyr a'r ymchwilydd. Gall presenoldeb uwch-arweinwyr fod wedi dylanwadu ar adfyfyrdodau a sylwadau personol y cyfranogwyr.
    • Amser: darllen canfyddiadau ac adfyfyrio arnynt.
    • Rhestr ddarllen benodol: cyfyngu ar yr amrywiaeth o lenyddiaeth.
    • Diffyg profiad o addysgeg CA2 mewn perthynas â'r CS.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Y cyfranogwyr:

    • roeddent yn croesawu'r amser a roddwyd i drafod, adolygu ac adfyfyrio mewn fforwm proffesiynol
    • gwnaethant ddangos ymddiriedaeth a pharch, gan werthfawrogi'r cyfle i rannu syniadau a herio eu meddyliau eu hunain
    • roeddent o'r farn bod y gweithgarwch dysgu proffesiynol yn werthfawr er mwyn meithrin dealltwriaeth a rennir o addysgeg y CS a chydweithio i ffurfio consensws barn o fewn y lleoliad
    • i ddechrau, roeddent yn bryderus ynglŷn â'r broses am fod y sesiwn yn cael ei recordio ac oherwydd ehangder yr ymholiad
    • roeddent yn gwerthfawrogi cael gweithio mewn grŵp bach, gan fod cyfle i bawb gyfrannu
    • roeddent yn teimlo'n gyfforddus o fewn cydberthnasau cadarnhaol a oedd eisoes wedi'u sefydlu, gan sicrhau naws anffurfiol lle y gallai pawb ymlacio
    • roedd y gydberthynas rhwng aelodau'r grŵp yn annog trafodaeth gyfoethog ond roedd tuedd i ddisgrifio profiadau personol. Roedd y dull hefyd yn golygu nad oedd y cwestiynau o reidrwydd yn cael eu trafod mewn modd llinol
    • roeddent yn gyfforddus i drafod gan eu bod wedi cael amser i feithrin dealltwriaeth o'r ymholiad, ymgyfarwyddo â'r deunyddiau darllen ac adfyfyrio ar eu ffordd bresennol o feddwl
    • roeddent o'r farn bod yr amser paratoi (creu mapiau meddwl) cyn sesiwn recordio'r grŵp ffocws yn fuddiol am ei fod yn hwyluso gwaith adfyfyrio ac yn helpu i nodi themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg - cydweithio a dysgu proffesiynol ar y cyd
    • roedd eu hagweddau cadarnhaol at y broses yn galonogol ac yn cefnogi diwylliant a datblygiad yr ysgol fel sefydliad sy'n dysgu.

    Y camau nesaf:

    • Cyfweld arbenigwr allanol
    • Ailgynnal y grŵp ffocws â CA2

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    • Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain, Ethical Guidelines for Educational Research (2018)
    • Met Caerdydd, GCA, CCD, Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiynol – Cyflwyniad ar gyfer Ymholwyr Arweiniol (2019)
    • Llywodraeth Cymru, Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain (2017)
    • Yr Athro Graham Donaldson CB, Dyfodol Llwyddiannus – Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru (2015)
    • Hastie a Glotova, Analysing qualitative data (2012)