English

Hwb

  • Cyswllt

    Dafydd Charles, Dirprwy Bennaeth
    d.charles@bropedr.ceredigion.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    • Ysgol Gydol Oes (3-19), Dwyieithog, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, (SA48 7BX)
    • 1000 o ddisgyblion ( 350 Cynradd, 650 Uwchradd)
    • PYDd - 13%
    • ADY - 25%
    • SIY - 14%
    • Uned Sgiliau ac Uned Arbennig ar y safle.

    Trosolwg ymholiad

    Fel ysgol rydym newydd ddechrau treialu dull newydd o roi adborth i ddisgyblion ar eu gwaith. Felly i gyd redeg â hyn, byddwn yn edrych i ddarganfod 'beth yw effeithiolrwydd ein dull adborth newydd'. Bydd hyn yn ein caniatau i benderfynnu, ar sail yr ymchwil mewnol / data / tystiolaeth wedi'i gasglu, a ydi hi werth parhau gyda'r dull newydd neu beidio. Bydd grŵp o athrawon (rhai sydd wedi mynegi didordeb mewn gwaith ymholi) yn cyd-weithio ar y prosiect. Bydd y prosiect yn gweithio gyda disgyblion CA2/3.

    Cwestiwn Ymholi

    Pa mor effeithiol yw’r dull newydd mae'r ysgol yn ei dreialu o roi adborth ar waith ysgrifenedig disgyblion?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae’r Ysgol wedi mabwysiadu dull newydd o roi adborth ar waith ysgrifenedig disgyblion. Bwriad yr ymchwil yw cynorthwyo'r ysgol i benderfynu, ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, os ydyw am barhau i ddefnyddio'r dull newydd a fabwysiadwyd ar gyfer rhoi adborth ysgrifenedig ai peidio. ganiatáu yr Ysgol i benderfynu, ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, a ydym ni am barhau gyda’r dull newydd neu beidio.
    Penderfynwyd ffocysu ar grwpiau o ddisgyblion o CA2/3. Mae’r ymrwymiad i’r dull newydd o roi adborth yn amrywio o adran i adran yn yr Uwchradd, gyda rhai yn fwy brwdfrydig nau gilydd. Mae’r sector Iau yn ei ddefnyddio yn fwy cyson na’r sector Uwchradd.

    Targedwyd disgyblion CA2 a CA3 ar gyfer y grŵp targed. Defnyddiwyd dulliau ansoddol yn bennaf i gasglu data. Bwriedir yn defnyddio grwpiau ffocws/cyfweliadau gyda’r disgyblion/athrawon. Penderfynwyd yn ogystal anfon holiaduron syml at rhieni a fydd yn cynhyrchu data meintiol yn ogystal ag ansoddol. Mae’n bwysig bod rhieni yn gweld gwerth i’r dull newydd o roi adborth, felly y bwriad yw casglu eu barn a fydd yn eu tro yn cyfrannu tuag at lywio penderfyniad terfynol yr ysgol i fabwysiadu’r dull newydd yn llawn neu beidio.

    Ystyriaethau moesegol

    Wrth gynnal yr ymchwil rhaid cydnabod ystyriaethau moesegol. Byddwn yn sicrhau ein bod yn derbyn caniatâd a chydsyniad yr holl gyfranogwyr ymchwil, yn cynnwys y disgyblion a’u rhieni a'r athrawon a fydd yn cymryd rhan, cyn dechrau’r ymchwil. Rhoddir gwybodaeth i'r cyfranogwyr hefyd am eu hawliau i adael y prosiect ar unhryw adeg ac nid oes rhaid iddynt roi rheswm am wneud hynny. Wrth gynnal y cyfweliadau gyda'r athrawon a'r grwpiau ffocws rhaid sicrhau bod y cyfranogwyr yn teimlo'n gyfforddus ac nid o dan bwysau i gyfrannu, a bod y gwaith ymchwil ddim yn cynyddu eu pwysau gwaith yn ormodol. Ystyriwyd cyfrinachedd wrth sicrhau na ellir adnabod unrhyw un o'r cyfranogwyr o ganlyniadau ac adborth y gwaith ymchwil. Gwneir hyn drwy sicrhau y bydd unrhyw ddata (ansoddol a meintiol) yn cael ei gasglu yn ddi-enw.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Price, M., K. Handley, J. Millar and B. O’Donovan. 2010 “Feedback:all that effort, but what is the effect?” Assessment & Evaluation in Higher Education 35 (3): 277 – 289

    Murtagh L.. 2014 “The motivational paradox of feedback: teacherand student perceptions” The Curriculum Journal 25 (4) 516 - 541

    O’Donovan B., C. Rust and M. Price. 2016 “A scholarly approach to solving the feedback dilemma in practise” Assessment & Evaluation in Higher Education 41 (6): 938 - 949

    Wrth gynllunio'r ymchwil ac hefyd wrth ystyried beth yw dulliau effeithiol o roi adborth bu'r llenyddiaeth uchod yn ddefnyddiol iawn.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael cyfle i ddechrau ar y gwaith ymchwil gyda’r disgyblion / athrawon / rhieni. Mae llythyron caniatâd wedi cael eu hanfon allan ond araf, ar y cyfan, yw’r ymateb oddi-wrth y rhieni. Er eu bod wedi nodi ar lafar eu bod yn hapus i’w plentyn gymryd rhan yn y prosiect, nid ydym wedi cychwyn yr ymchwil gan ein bod angen caniatâd ysgrifenedig er mwyn cydymffurfio â'r gofynion moesegol.

    Gwelwyd nifer o'r papurau ymchwil yn trafod rhinweddau, neu ddiffyg rhinweddau y gwahanol ddulliau o roi adborth, ac yn eu dosbarthu yn ôl eu math, megis “phatic; evaluative; descriptive” (Murtagh, 2014). Yn gyffredinol ceir cytundeb bod mesur effeithiolrwydd yn anodd, gan bod sawl newidyn yn gallu lliwio barn am hyn. Gobeithir trafod hyn ymhellach yn yr adroddiad terfynol.

    Y gofid ar hyn o bryd, yw y byddaf yn cael trafferth i ddod i farn ar y cwestiwn ymholiad, sef ‘pa mor effeithiol yw’r dull newydd o roi adborth ar waith ysgrifenedig disgyblion’, gan na fyddaf wedi gallu rheoli’r newidynnau allanol cymaint ac y byddwn wedi ei hoffi. Yn ogystal â hyn, byddwn hefyd yn dibynnu yn helaeth ar ddata ansoddol, a all wrth gwrs, gael ei ddehongli mewn sawl ffordd.

    Roedd penderfynu pryd i gynnal yr ymchwil yn yr ysgol yn heriol. Bwriadwyd dechrau cynnal y cyfweliadau / grwpiau ffocws gyda’r disgyblion (CA2 a CA3) a'r athrawon cyn y Nadolig ond bu hyn yn anodd am nifer o resymau yn cynnwys Sioe Ysgol ac Eisteddfod Ysgol (ymarferiadau yn cymryd disgyblion o wersi beth bynnag ac athrawon ddim eisiau mwy o darfu ar wersi; blinder diwedd tymor (staff a disgyblion) a phawb yn rhuthro i dorri cefn gwaith y flwyddyn cyn y Nadolig.

    Cyfyngiadau

    A fydd y dull o fesur effeithiolrwydd, hynny yw, mesur effaith (impact) yr adborth, yn cael ei effeithio gan newidynnau allanol sydd allan o’m rheolaeth? Bydd y berthynas rhwng yr athro ar disgybl yn lliwio’r ffordd y bydd y disgybl yn ymateb i’r athro, ac felly’n lliwio effaith yr adborth?
    Nid yw pob disgybl yn berchen ar lythrennedd pedagogaidd ddigon aeddfed a fyddai’n eu caniatáu i fanteisio ar yr adborth sydd yn cael ei gyflwyno.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Y gwaith darllen cefndirol – y gwaith ymchwil sydd wedi’i gyhoeddi – wedi cymryd llawer mwy o amser na’r hyn oeddwn wedi’i ystyried (chwilio am ymchwil berthnasol a chwynnu’r papurau amherthnasol). Felly angen gosod digon o amser o’r neilltu i ddarllen.

    Bod yn glir / realistig wrth adnabod y grŵp targed – efallai fy mod wedi bod yn rhy uchelgeisiol gyda’r niferoedd o ddisgyblion roeddwn wedi gobeithio defnyddio yn y man cyntaf (wrth geisio cael rhif uwch a byddai wedi bod yn fwy cadarn yn ystadegol)

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    dd/g

  • Cyswllt

    Mr Michael Hunter (Deputy Head)
    HunterM6@hwbcymru.net

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Rydym yn un o ysgolion cynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Abertawe, ac mae gennym 157 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Mae 18.2% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 38.9% o'r disgyblion, a siaredir 24 o ieithoedd gwahanol. Ar y cyfan, mae 47.8% o'r disgyblion yn perthyn i'r categori Gwyn/Prydeinig. Rydym yn trefnu ein hysgol yn ddwy uned, sef uned y Cyfnod Sylfaen ac uned Cyfnod Allweddol 2. Yn uned Cyfnod Allweddol 2, mae'r athrawon yn arbenigo mewn meysydd pwnc ac mae'r disgyblion yn dilyn amserlen gan symud o ddosbarth i ddosbarth ac o faes i faes. Mae ein grwpiau addysgu wedi'u trefnu ar sail ‘Cam nid Oedran’, ac rydym hefyd wedi creu sesiynau dysgu annibynnol dyddiol sy'n ein galluogi i leihau maint dosbarthiadau er mwyn addysgu'n fwy effeithiol. Cafodd y dull hwn ei dreialu yn ein huned Cyfnod Sylfaen yn ddiweddar hefyd.

    Trosolwg ymholiad

    Gan edrych ar ‘Asesu ar gyfer Dysgu’, byddwn yn ystyried pa ddulliau o roi adborth (llafar neu ysgrifenedig) sy'n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae'r disgyblion yn dysgu cysyniadau mathemategol allweddol.

    • Fel rhan o Gynllun Datblygu'r Ysgol, rydym yn ystyried pwysigrwydd meithrin sgiliau allweddol mewn mathemateg, gan alluogi ein disgyblion i wneud cynnydd a chyrraedd lefelau uwch ar ddiwedd CA2.
    • Byddaf yn dewis ein grŵp ffocws o blith ein disgyblion ‘Canolig’, gan ein bod o'r farn mai hyn fydd yn arwain at yr effaith fwyaf.
    • Byddaf yn defnyddio asesiad sylfaenol o'u dealltwriaeth a'u sgiliau mathemategol, gan gynnwys data eraill a gesglir.
    • Caiff y grŵp ffocws ei brofi eto ar ddiwedd yr astudiaeth er mwyn gweld pa ddull sydd wedi cael effaith. Byddaf hefyd yn edrych ar eu hagwedd at ddysgu ac a yw wedi newid mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i'r math o adborth a gawsant.

    Cwestiwn Ymholi

    Pa fath o adborth a gaiff yr effaith fwyaf ar y disgyblion o ran dysgu cysyniadau mathemategol allweddol – adborth llafar neu adborth ysgrifenedig?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Roedd angen i fy ymholiad fod yn seiliedig ar rywbeth a oedd o ddiddordeb i mi, a rhywbeth nad oeddwn wedi ffurfio ateb gwirioneddol iddo yn barod. Roedd angen iddo fod yn rhywbeth a oedd â chysylltiad agos â chynllun datblygu'r ysgol, ond hefyd yn rhywbeth a fyddai'n ddefnyddiol i mi yn bersonol ac a fyddai'n cael effaith ar fy addysgu.Yn ein hysgol ni, dros y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi bod yn arloesi ffordd o addysgu sy'n canolbwyntio ar ‘gam nid oedran’, a Mathemateg sydd o ddiddordeb penodol i mi.Penderfynais astudio dau grŵp gallu canol, yn hytrach na'r grwpiau gallu uwch neu is, sy'n cynnwys cymysgedd o ran oedran a rhywedd. Dewisais weithio gyda'r grwpiau hyn am fy mod o'r farn mai'r rhain yn aml yw'r grwpiau a all lithro drwy'r rhwyd heb gael unrhyw fath o ymyriad.Roedd angen i mi ganfod ffordd hawdd ond dibynadwy o fesur eu cynnydd – rydym eisoes yn defnyddio ‘Incerts’ yn yr ysgol i dracio’r disgyblion a pharatoi adroddiadau i'r rhieni – drwy greu grŵp a chasglu asesiad sylfaenol gan athrawon, yn hytrach na phrawf neu asesiad ysgrifenedig. Wedyn, cafodd yr asesiad hwn ei droi'n werth degol. Yn seiliedig ar hyn, roedd modd i mi greu gwerth degol cyfartalog ar gyfer y grŵp cyfan. Caiff y ddau grŵp eu hasesu gan athrawon eto ar ddiwedd y tymor, wedyn caiff y gwerthoedd degol eu casglu a chaiff gwerth degol cyfartalog ei gyfrifo.Caiff y ddau grŵp eu trin yn wahanol pan roddir adborth iddynt – dim ond adborth ysgrifenedig, ar ffurf enghreifftiau o ffyrdd ymlaen (cyfrifiadau estynedig, a elwir yn waith ‘Gwyrdd’), a gaiff un grŵp. Caiff yr adborth hwn ei ysgrifennu ar ôl pob darn o waith er mwyn i'r disgybl ymateb iddo ar ddechrau'r wers nesaf. Bydd y grŵp arall ond yn cael adborth llafar ar ei waith ar ddechrau'r wers nesaf.Dim ond yn eu sesiynau Mathemateg yn ystod yr wythnos y gwneir hyn, ac ni fydd disgwyl i'r athrawon eraill sy'n gweithio gyda'r grwpiau hyn ddilyn yr un broses. Dyma pam rwyf wedi dewis canolbwyntio ar gysyniadau Mathemategol, sef gwaith y gallaf ei asesu.

    Ystyriaethau moesegol

    Roedd hwn yn faes diddorol iawn y bu angen i mi ei drafod yn fanwl â'm cydweithwyr. Beth petai un dull yn cael effaith negyddol? A ellid gwrth-droi hyn? Neu beth petai un grŵp yn gwneud cynnydd cyflymach? Sut y gallem wneud yn siŵr nad oedd y grŵp arall ar ei hôl hi?O ystyried faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyflawni'r astudiaeth, bydd digon o amser ar gyfer unrhyw ymyriad sydd ei angen. Roeddwn hefyd am fod mor agored â phosibl â'r rhieni, a gallent dynnu eu plentyn allan o'r astudiaeth unrhyw bryd. Hefyd, rhoddwyd fy nghyfeiriad e-bost iddynt er mwyn gallu trafod unrhyw gwestiynau pellach neu ofyn sut roedd yr astudiaeth yn mynd yn ei blaen.Esboniwyd bod hwn yn gyfle gwych ac y byddai'r gwaith ymchwil hwn yn cael ei rannu'n genedlaethol er mwyn gwella a chefnogi dysgu ac addysgu.Esboniais hefyd y byddai unrhyw ganfyddiadau'n cael eu cyhoeddi'n genedlaethol a bod y broses genedlaethol gyfan wedi’i harchwilio o ran moeseg. Rwyf wir yn teimlo ei bod yn bwysig sicrhau eich bod mor agored a gonest â phosibl bob amser.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Er bod enghreifftiau o bapurau ymchwil sy'n dangos pwysigrwydd adborth effeithiol i gefnogi dysgwyr a'u symud ymlaen, mae'n ymddangos bod llawer ohonynt yn canolbwyntio ar roi adborth ar lafar a chefnogi ymddygiad. Nid yw'n ymddangos bod llawer o waith ymchwil sy'n cymharu adborth llafar ac adborth ysgrifenedig a'u heffaith yn uniongyrchol.Yn wir, mae pwysigrwydd adborth ysgrifenedig yn cael ei gwestiynu fwyfwy. Yn ôl adroddiad y Sefydliad Addysg yn 2016, ‘A marked improvement?’, yn aml, nid yw adborth ysgrifenedig yn cael yr effaith ofynnol ar ddysgwyr, er ei fod yn hawlio rhan sylweddol o lwyth gwaith dyddiol athrawon. Mae angen canolbwyntio ar ‘farcio'n well’ ac ystyried ffyrdd o symud y dysgwr yn ei flaen. A oes rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig?O drafodaethau â chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, ymddengys mai'r consensws cyffredinol yw bod angen i adborth gael ei roi ar unwaith a bod yn gysylltiedig â'r camau nesaf. Felly, bydd effeithiolrwydd adborth llafar neu adborth ysgrifenedig yn adlewyrchu hyn. Rwyf wedi dewis grŵp o blant rwyf yn eu hadnabod yn dda, ac rwy'n gwybod beth mae angen iddynt ei wneud er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran eu dealltwriaeth fathemategol. Drwy ddewis rhoi adborth mewn un ffordd yn unig, bydd yn ddiddorol gweld a fydd cynnydd y naill grŵp neu'r llall yn cyflymu o gwbl – neu'n arafu, hyd yn oed.Elliott, Victoria. a Baird, Jo-Anne. a Hopfenbeck, Therese. ac Ingram, Jenni. ac Usher, Natalie. a Zantout, Mae. a Thompson, Ian. a Richardson, James. a Coleman, Robbie. (2016). A marked improvement? A review of the evidence on written marking. 10.13140/RG.2.1.2224.7280.

    UCL Verbal Feedback Project Report
    https://www.ucl.ac.uk/widening-participation/sites/widening-participation/files/2019_verbal_feedback_project_final_4_print.pdf

    Blog – Mark Quinn: When teachers use good verbal feedback strategies, it saves them time and boosts pupils’ engagement.
    https://ioelondonblog.wordpress.com/2019/10/17/when-teachers-use-good-verbal-feedback-strategies-it-saves-them-time-and-boosts-pupils-engagement/

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'n dal i fod yn rhy gynnar i ddweud, ond mae wedi bod yn anodd iawn gwneud yn siŵr mai dim ond un dull rwy'n ei ddefnyddio'n gyson; byddaf fel arfer yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gefnogi'r dysgu ac mae cyfyngu'r broses i ddim ond un wedi bod yn her.Bydd angen archwilio hyn ymhellach pan gaiff y gwaith ymchwil ei gwblhau.

    Cyfyngiadau

    A allaf ddod i unrhyw gasgliadau yn seiliedig ar grŵp astudiaeth mor fach, sy'n cael adborth mewn pynciau eraill mewn amrywiaeth o ffyrdd?Er fy mod yn canolbwyntio ar Fathemateg, rydym yn addysgu sgiliau Mathemateg drwy wahanol feysydd yn y cwricwlwm, a gaiff eu haddysgu ym mhob rhan o'r cwricwlwm mewn gwahanol grwpiau drwy gydol yr wythnos. Bydd hyn yn golygu y byddant yn cael adborth mewn ffyrdd eraill.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Ddim wir yn barod i gwblhau'r adran hon eto. Ymholiad yn dal i fynd rhagddo.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Ymchwil – gwaith darllen cefndir (fel y nodwyd yn yr adolygiad o lenyddiaeth):Elliott, Victoria. a Baird, Jo-Anne. a Hopfenbeck, Therese. ac Ingram, Jenni. ac Usher, Natalie. a Zantout, Mae. a Thompson, Ian. a Richardson, James. a Coleman, Robbie. (2016). A marked improvement? A review of the evidence on written marking. 10.13140/RG.2.1.2224.7280.

    UCL Verbal Feedback Project Report
    https://www.ucl.ac.uk/widening-participation/sites/widening-participation/files/2019_verbal_feedback_project_final_4_print.pdf

    Blog – Mark Quinn: When teachers use good verbal feedback strategies, it saves them time and boosts pupils’ engagement.
    https://ioelondonblog.wordpress.com/2019/10/17/when-teachers-use-good-verbal-feedback-strategies-it-saves-them-time-and-boosts-pupils-engagement/

  • Cyswllt

    Llŷr Evans
    l.evans4@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Consortiwm

    ERW

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Lleolir Yr Ysgol Gymunedol Gymraeg ar gyrion tref glan y môr Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Mae 404 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 51 oed meithrin rhan-amser.

    Tua 2% o’r disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn sylweddol is na’r canran cenedlaethol. Mae llawer o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref ac ychydig iawn sydd o gefndir lleiafrifol ethnig. Mae’r ysgol wedi adnabod 21% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ond ychydig iawn sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

    Trosolwg ymholiad

    Sylwyd fod blwyddyn 6 eleni yn or ddibynnol ar arweiniad oedolion er mwyn symud eu dysgu ymlaen i’r cam nesaf. Mae disgwyliad bod ysgolion yn ystyried y 12 egwyddor addysgeg wrth fynd ati i gynllunio ar gyfer dyfodiad y Cwricwlwm i Gymru 2022. Un o’r egwyddorion hynny yw ‘Annibyniaeth a dysgu i ddysgu’. Ein bwriad fel ysgol felly yw i ddatblygu strategaethau i ddatblygu’r egwyddor addysgeg hwn, ac yn sgil hynny, datblygu yr egwyddor ‘Asesu ar Gyfer Dysgu’. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd ag un o flaenoriaethau Cynllun Gwella’r Ysgol am eleni, sef ‘Ymgyfarwyddo gyda chynnwys Cwricwlwm Cymru ac ystyriaeth ei effaith ar gynllunio’.

    Rydym am amserlennu sesiynau wythnosol a fydd yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion ddysgu yn annibynnol ac i ddatblygu yn ddysgwyr gweithredol. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn bwriadu rhoi’r rhyddid i’n disgyblion greu prosiect am bwnc penodol, gan ddefnyddio’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad fel ffocws.

    Byddwn fel ysgol yn awyddus i weld os yw cynyddu cyfleoedd dysgu annibynnol yn arwain at brofiadau dysgu cyfoethocach a deilliannau uwch.

    Cwestiwn Ymholi

    Pa effaith mae cynyddu cyfleoedd ‘dysgu annibynnol’ yn ei gael ar allu dysgwyr i herio eu dysgu eu hunain?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Er mwyn ateb y cwestiwn ymchwil yn llawn, penderfynwyd y byddai’n syniad da defnyddio cyfuniad o ymchwil ansoddol a meintiol. Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi canlyniadau manylach a mwy dibynadwy er mwyn asesu effeithiolrwydd y gwaith ymchwil. Cefnogir hyn gan Anderson (2004), sy’n awgrymu ei fod yn arfer dda i ymchwilwyr ddefnyddio cyfuniad o fwy nag un o'r dulliau ymchwil hyn mewn astudiaeth.

    “Different kinds of complementary data are thus used to research a particular problem, issue or situation with the aim of producing a more rounded interpretation of the evidence.” Anderson (2004). Ategir hyn gan Saunders et al (2003), sy’n nodi bod defnyddio cyfuniad o ddulliau ymholi yn rhoi darlun fwy cynhwysfawr o’r canfyddiadau.

    Er mwyn mesur llwyddiant y prosiect ymholi, penderfynwyd defnyddio’r dulliau canlynol:

    1. Yn gyntaf, cyn dechrau ar y prosiect ymchwil, gofynnwyd i’r disgyblion gwblhau holiadur ar-lein (Forms) yn gofyn eu barn am y gwersi a’r profiadau addysgol maent yn ei gael yn yr ysgol. Dewiswyd y dull hwn am ei fod yn ddull hwylus i gasglu a dadansoddi data. Yn yr arolwg, dewiswyd cyfuniad o gwestiynau amlddewis a chwestiynau ateb ysgrifenedig i alluogi’r cyfranogwyr i gynnig eu barn yn glir.
    2. Ar ddiwedd y prosiect ymholi, byddwn yn gofyn i’r disgyblion gwblhau yr un holiadur eto er mwyn mesur llwyddiant y prosiect.
    3. Ein bwriad hefyd yw i gynnal grwpiau ffocws gyda’r disgyblion i gael darlun gwell o’u hagweddau tuag at ddysgu a’u cymhelliant i ddyfalbarhau yn annibynnol er mwyn goresgyn unrhyw anawsterau maent yn ei gael gyda’u gwaith yn gyffredinol yn y dosbarth.
    4. Arsylwadau anffurfiol yn y dosbarth wrth iddynt gyflawni eu gwaith prosiect.

    Byddwn hefyd yn dilyn argymhellion Gershon (2014), sy’n awgrymu dulliau y gellid eu defnyddio ar lawr dosbarth i ddatblygu dysgwyr i weithio’n fwy annibynnol. Penderfynwyd defnyddio cyfuniad o’r dulliau gwahanol hyn er mwyn gweld sut effaith maent yn ei gael ar allu’r disgyblion i weithio’n fwyfwy annibynnol. Ar ôl cytuno ar thema addas o’u dewis nhw, bydd y cyfranogwyr yn defnyddio amrywiaeth o’r dulliau mae Gershon yn cyfeirio atynt er mwyn datblygu eu gallu i weithio’n fwy annibynnol.

    Ystyriaethau moesegol

    Awdurdodwyd yr ymchwil hwn gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Yn ôl Pecyn Cymorth Profiadau Disgyblion CAMAU, mae yna dair ystyriaeth foesegol hanfodol y bydd yn rhaid i ni fel ysgol fynd i'r afael â nhw cyn dechrau ar waith ymchwil o’r fath:

    1. Lleihau niwed (e.e. hawliau'r cyfranogwyr; sicrhau bod y gweithgaredd wedi'i fwriadu er budd yr unigolion sy'n cymryd rhan; sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed; ac ystyried unrhyw ganlyniadau negyddol a allai godi);
    2. Caniatâd/cydsyniad gwybodus; a
    3. Cyfrinachedd ac anhysbysrwydd.

    Er mwyn sicrhau ein bod yn ateb gofynion y dair ystyriaeth foesegol hyn yn llawn, rhoddwyd taflen wybodaeth i'r holl ddarpar gyfranogwyr a'u rhieni yn manylu ar oblygiadau'r gwaith ymchwil. Roedd y daflen wybodaeth hefyd yn rhoi'r wybodaeth berthnasol i gyfranogwyr wneud penderfyniad hyddysg ynghylch a oeddent yn barod i roi caniatâd i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Pwysleisiwyd y byddai’r holl wybodaeth a gafwyd gan gyfranogwyr yn gwbl gyfrinachol. Cymerwyd camau gofalus i sicrhau na ellid adnabod unigolion o unrhyw un o'r ffurflenni, a phwysleisiwyd y bod gan unrhyw gyfranogwr yr hawl i dynnu yn ôl o'r gwaith ymchwil ar unrhyw adeg.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mwy o wybodaeth i ddilyn

    Canfyddiadau cychwynnol

    Prif ganfyddiadau’r holiadur cychwynnol

    Nododd 84% o’r disgyblion eu bod yn dymuno cael mwy o gyfleoedd i weithio’n annibynnol a chael dewis beth maent yn ei ddysgu yn y dosbarth. Doedd yr 16% arall ddim yn siŵr, a ni chafwyd unrhyw un yn gwrthwynebu cael mwy o gyfleoedd i weithio’n annibynnol.

    Roedd 80% o’r disgyblion eisiau cael cyfle i weithio’n annibynnol ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt, ac ar ôl gofyn beth sydd bwysicaf er mwyn gwella safon eu gwaith, roedd 86% o’r farn mai cael yr amser a'r rhyddid i ymchwilio am wybodaeth eu hunain oedd bwysicaf. Yn ogystal â hyn, dymuniad 84% o’r disgyblion oedd cael y rhyddid i drefnu amserlen gwaith eu hunain.

    Roedd canlyniadau’r holiadur cychwynnol felly yn gadarnhaol iawn. Roedd y mwyafrif o’r disgyblion yn croesawu’r cyfle i gael gweithio’n annibynnol ar thema o’u dewis nhw.

    Ers dechrau ar y prosiect, mae'r athrawon wedi sylwi bod agweddau’r disgyblion tuag at eu gwaith wedi bod yn hynod o bositif. Maent yn cwblhau tasgau ychwanegol gartref a theimlwn fel ysgol bod y cyswllt rhwng y cartref a'r ysgol wedi ei gryfhau ymhellach ers dechrau ar y prosiect ymholi hwn.

    Ymateb y Rhieni

    Mae sawl rhiant wedi nodi bod brwdfrydedd eu plant tuag at eu gwaith ysgol wedi cynyddu. Maent wedi sylwi bod eu plant yn fwy parod i gwblhau tasgau ychwanegol adref a’u bod yn mwynhau cael y cyfle i ymchwilio i bwnc sydd o wir ddiddordeb iddynt. Nododd y rhieni eu bod yn teimlo eu bod nhw hyd yn oed yn fwy ymwybodol o’r gwaith mae eu plant yn ei gyflawni yn yr ysgol.

    Ymweliad y Gweinidog Addysg

    Ymwelodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, â’r ysgol ym mis Ionawr 2020 ac fe holodd hi am farn y disgyblion ynglŷn â’r prosiect ymholi. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan y disgyblion ac roedd y Gweinidog Addysg yn canmol y prosiect a’r gwaith sydd wedi ei gyflawni hyd yn hyn yn fawr iawn.

    Cyfyngiadau

    Ar ôl siarad gyda'r athrawon dosbarth, un cyfyngiad posib yw ceisio sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei gyflawni yn ystod y sesiynau prosiect o'r un ansawdd â'r gwaith maent yn ei gyflawni yn y dosbarth fel rheol.

    Gall hyn arwain at athrawon yn arwain yn ormodol ar y prosiectau ac yn atal y disgyblion rhag cael gweithio'n annibynnol.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Cyn dechrau ar brosiect o’r fath, teimlwn ei bod hi’n allweddol cysylltu gyda’r rhieni er mwyn rhannu prif amcanion y prosiect.

    Mae angen sicrhau bod y disgyblion yn cynllunio'u prosiectau yn drwyadl cyn dechrau ar y gwaith. Rydym wedi gweld gwerth mewn rhoi 'Dewislen Dasgau' i'r disgyblion gydag opsiynau posib ar gyfer cyflawni o leiaf un dasg safonol ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad yn seiliedig ar eu thema. Ar ôl dewis pa faes o fewn y chwe MDaPh maent am ganolbwyntio arnynt, roedd yn rhaid iddynt gynllunio tasgau addas i gyflawni eu gwaith gorau posib. Rhoddodd hyn ffocws clir i’r disgyblion ac roedd yn gyfle iddynt ddechrau ar y gwaith yn fwy hyderus. Rydym hefyd yn monitro'r llyfrau yn ofalus ac am ofyn i'r llywodraethwyr adael sylwadau ar waith y disgyblion.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Am fwy o wybodaeth am argymhellion Gershon (2014) ar sut i ddatblygu dysgwyr annibynnol: https://www.j2e.com/ysgol-gymraeg-aberystwyth/AlunE/Argymhellion+Gershon+2014/

  • Cyswllt

    Andrea Roberts
    mrsroberts@glanuskprimary.co.uk
    When on Maternity Leave
    Joanne Peters
    mrspeters@glanuskprimary.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Mae Ysgol Gynradd Glan Usk yn ninas Casnewydd. Mae'n darparu addysg i 683 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 64 sy'n mynychu'r dosbarth meithrin yn rhan-amser.
    Mae 22 o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol.
    Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 16%. Mae'r ffigur hwn wedi lleihau'n ddiweddar ac mae bellach yn is na chyfartaledd Cymru, sef 19%. Mae tua 20% o'r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae'r ganran hon wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rhyngddynt mae'r disgyblion yn siarad 16 o ieithoedd gwahanol yn ogystal â Saesneg, ond nid yw'r Gymraeg yn iaith gyntaf i'r un o'r disgyblion.
    Mae'r ysgol wedi nodi bod gan tua 22% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy'n gyson â chyfartaledd Cymru. Mae ambell ddisgybl yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
    Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn ysgol arloesi ac mae'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau mewn perthynas â'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol.

    Trosolwg ymholiad

    Ein nod yw datblygu defnydd a dealltwriaeth y disgyblion o adborth o fewn y profiad dysgu.

    Cwestiwn Ymholi

    Beth yw effaith gwaith ymholi proffesiynol ar hunaniaeth athrawon?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Pan oeddwn yn dechrau ar fy mhrosiect ymholi, ac ar ôl darllen y llenyddiaeth a helpodd i bennu ffocws fy ymholiad, roedd angen i mi ofyn i mi fy hun beth roeddwn yn gobeithio ei gyflawni drwy ymgymryd â phrosiect o'r fath. Credaf mai ein dyletswydd ni fel gweithwyr addysg proffesiynol yw meithrin ein galluoedd fel athrawon ac y gall gwaith ymchwil gweithredol ac ymholi gyflawni hyn. Yn y pen draw, caiff hyn effaith gadarnhaol ar ffocws ein haddysgu, sef y disgyblion. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen newid y ffordd y mae'r staff a minnau'n rhyngweithio â'r cwricwlwm a bydd hefyd angen i'r staff addysgu gael y wybodaeth a'r adnoddau i allu bod yn weithwyr proffesiynol seiliedig ar ymholi.
    I ddechrau, penderfynais ei bod yn bwysig gofyn pum cwestiwn: Pam wyf yn gwneud y prosiect hwn? Beth yw fy ngwaith ymchwil? Pwy yw'r cyfranogwyr? Ble rwy'n gwneud y gwaith ymchwil? Yn olaf, pryd byddaf yn gwneud y gwaith ymchwil? Fy nghasgliad oedd bod y prosiect yr un mor berthnasol i'm datblygiad proffesiynol ag yr oedd i'r staff a'r disgyblion. Yn ôl Daly (2013) t.1, mae rhwymedigaeth broffesiynol ar athro i feddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am syniadau sy'n datblygu ym maes dysgu ac addysgu, a chael ei hysbysu'n feirniadol am ddatblygiadau mewn arferion. Mae hyn yn galluogi'r athro i ddefnyddio arferion arloesol a chreadigol sydd wedi'u trwytho mewn ymchwil wrth addysgu. Dyma'r union reswm pam mai dysgu seiliedig ar ymholi yw ffocws y prosiect hwn.
    Y cam cyntaf wrth ddatblygu'r prosiect ymholi oedd sicrhau bod y tasgau a gyflawnir yn bwrpasol i'r staff. Cysylltu'r cwestiynau ymholi â'r trefniadau rheoli perfformiad oedd y cam cyntaf i sicrhau y byddai hyn yn cynnig mantais a chymhelliant i athrawon ymgymryd â'r gwaith ymchwil. Ar ôl gwneud hyn, rhoddwyd amser i'r athrawon drafod eu prosiect a datblygu maes penodol roeddent am ymchwilio iddo. Rhoddwyd arweiniad ar sut i ddatblygu cwestiwn â ffocws pendant. Rhoddwyd amser i'r athrawon drafod gwahanol ddulliau casglu data ac ymchwilio iddynt, gan ddogfennu manteision ac anfanteision defnyddio un math penodol o ddata er mwyn dod i gasgliad. Yn dilyn hyn, roedd modd i'r athrawon ddwyn llenyddiaeth berthnasol ynghyd i gefnogi eu cwestiwn ymholi. Roedd hyn yn fodd i'r athrawon feithrin eu gallu ym maes ymchwil.

    Ystyriaethau moesegol

    Bydd y cyfranogwyr (staff a disgyblion) a fydd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth hon yn gyfranogwyr gweithredol (Anderson 2004, t.100) felly cânt eu cynnwys ym mhob rhan o'r prosiect ymholi. Felly, roedd yn hanfodol bod gwybodaeth yn cael ei rhoi iddynt am yr astudiaeth, ynghyd â ffurflen gydsynio lle y gallent ddewis cymryd rhan ai peidio. Caiff y broses ei hesbonio'n llawn i'r staff cyn iddynt ymgymryd â phob rhan o'r ymholiad, a chânt ragor o wybodaeth am ble y caiff y canfyddiadau eu cyflwyno (gan y byddant yn cael eu cyhoeddi ar lwyfan cyhoeddus). Bydd hyn hefyd yn berthnasol i'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth.
    Drwy gydol yr astudiaeth, byddaf yn glynu wrth bolisïau'r ysgol, canllawiau BERA (2011) a'r Ddeddf Diogelu Data wrth ddefnyddio unrhyw wybodaeth a gesglir gan unrhyw gyfranogwr. Caiff yr holl wybodaeth a data a gesglir eu cadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, a dim ond at ddibenion y prosiect ymchwil y cânt eu defnyddio. Caiff holl egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data eu dilyn drwy gydol y broses hon. Caiff yr holl ddata a gesglir, boed yn electronig neu ar ffurf copi caled, eu storio'n ddiogel gan ddefnyddio cypyrddau storio â chlo arnynt a/neu mewn ffeiliau cyfrifiadur a ddiogelir gan gyfrinair.
    Y materion moesegol posibl a all godi o'r prosiect ymholi hwn yw defnyddio enw disgybl ar gam arsylwi'r ymholiad. Byddaf yn sicrhau anhysbysrwydd pob disgybl drwy ddefnyddio blaenlythrennau ffug. Caiff y gwaith ei gwblhau a'i gadw gan ddefnyddio cof bach USB y bydd angen mewngofnodi i'w ddefnyddio. Dyma ble y caiff trawsgrifiadau a ffotograffau eu storio. Mae'r cyfranogwyr wedi cael gwybod am yr ystyriaethau moesegol sy'n gysylltiedig â chynnwys yr holl ddisgyblion yn yr astudiaeth. Felly, caiff pob disgybl ei gynnwys.
    I gefnogi'r broses foesegol, rwyf wedi defnyddio'r canllawiau moesegol a ddarperir gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r Brifysgol wedi ein helpu drwy ddarparu dogfennaeth rydym wedi'i defnyddio er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn gyfforddus i gymryd rhan yn y broses.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Ar ôl darllen erthygl yn y Guardian, “Highly trained, respected and free: why Finland's teachers are different”, adfyfyriais ar y gwahaniaeth rhwng hunaniaeth athrawon yng Nghymru o gymharu â'r Ffindir. Y prif wahaniaeth yw'r ymreolaeth a'r rhyddid a gaiff athrawon yn yr ystafell ddosbarth, a hynny am fod yr athrawon dan sylw'n cael eu gweld fel “athrawon sy'n ymchwilio”. Maent yn treulio eu hamser yn ymchwilio i ddamcaniaethau addysgol newydd ac yn eu rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth gyda chymorth gan brifysgolion cysylltiedig. Yn yr Alban, mae Carroll (2009) yn dadlau bod datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) wedi cynyddu yn y proffesiwn ac mae Drew, Priestly a Michael (2015) yn atgyfnerthu'r ffaith bod yr Alban wedi gweld newid ym mhwysigrwydd athrawon, gan ddarparu hyfforddiant i athrawon newydd gymhwyso, cymwysterau lefel meistr a gweithio'n agosach gyda phrifysgolion. Mae Forde et al., (2006, t. 128) yn dadlau y dylai DPP gael ei weld fel rhwymedigaeth a chyfrifoldeb proffesiynol ar ran yr unigolyn a'r cyflogwr, er mwyn cynnal a datblygu eu harferion proffesiynol drwy gydol eu gyrfaoedd, gan adolygu arferion, caffael sgiliau a gwybodaeth newydd, rhannu arferion da a phrofiad â chydweithwyr a newydd-ddyfodiaid i'r proffesiwn.
    Mae Elliott (2007) yn trafod y Norwich Area Schools Consortium (NASC) a'r ffaith ei fod wedi dwyn athrawon ynghyd sy'n ymwneud â datblygu'r cwricwlwm mewn cyfnodau addysg gwahanol ac mewn meysydd pwnc gwahanol. Roedd angen i'r cyfranogwyr gytuno ar y gwahanol ddulliau ymholi, ond roedd cryn dipyn o wahaniaeth barn ynglŷn â'r hyn sy'n cyfrif fel ymholi. Er gwaethaf y gwahaniaeth barn hwn, y consensws cyffredinol ar gyfer ymholi oedd y gallu i gael amser hunangyfeiriedig wrth ddysgu. Mae Elliott yn dadlau bod dysgu annibynnol yn fuddiol o ran cyflawni nodau addysgol hirdymor, a bod addysgu strwythuredig yn wrthgynhyrchiol. Casgliad y prosiect oedd bod 25 allan o'r 40 o athrawon wedi meithrin y gallu i gyflawni gwaith ymchwil ar eu hysgogiad eu hunain. Daethpwyd i gasgliad tebyg yn y prosiect ymholi hwn, a gaiff ei drafod yn nes ymlaen.
    Themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr adolygiad o lenyddiaeth:
    1: Mae “hunaniaeth” athrawon yn dechrau newid yng Nghymru.
    2: Mae addysg yng Nghymru yn symud tuag at fethodolegau ymholi proffesiynol cydweithredol.
    3: Mae dysgu annibynnol sy'n seiliedig ar ymholi yn cael effaith gadarnhaol ar arferion yn yr ystafell ddosbarth oherwydd dylai eu galluogi i ofyn cwestiynau gwell wrth geisio deall cymhlethdodau'r problemau addysgegol a wynebir ganddynt. (Elliott 2007)

    Canfyddiadau cychwynnol

    Mae'r staff yn gyfarwydd â gwaith ymholi proffesiynol yn ein hysgol ac maent wedi cael cyfle i weithio mewn triadau ar nifer o brosiectau gwahanol, dan arweiniad yr uwch dîm arwain. Yr adborth o flynyddoedd blaenorol oedd bod y staff am ei wneud yn fwy pwrpasol i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a'u harferion yn yr ystafell ddosbarth. Eleni, mae'r prosiect ymholi wedi bod yn seiliedig ar dargedau rheoli perfformiad aelodau o'r staff. Yn ystod cyfarfodydd rheoli perfformiad, edrychodd y staff ar y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu gan ddefnyddio'r fframwaith rhagoriaeth addysgu a gwnaethant drafod pa faes roeddent am ganolbwyntio arno ar gyfer datblygu eu perfformiad. Wedyn, cafodd y staff eu grwpio yn ôl y safonau roeddent wedi'u dewis, a ffurfiwyd triadau yn unol â hynny.
    Y camau cyntaf
    I ddechrau, dewisodd y staff bwnc y byddai ganddynt ddiddordeb ynddo ac a fyddai o fudd i'w harferion yn yr ystafell ddosbarth. Aethant ati i drafod pam roeddent am astudio'r maes hwn a sut y byddai o fudd yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â phryd a ble y byddai'r ymholiad yn digwydd. Wedyn, creodd y staff ffolder o ddeunydd darllen y gallent ei ddefnyddio i gefnogi eu hymholiad, gyda chymorth gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Ochr yn ochr â hyn, aed i'r afael ag ystyriaethau moesegol a sut i gynnal ymholiad gan ystyried y broses foeseg. Wedyn, gwnaethant ymchwilio i'r gwahanol ddulliau o gasglu data a pha rai a fyddai o fudd i'w hastudiaeth.
    Dangosodd y canfyddiadau cychwynnol fod cysylltu'r prosiect ymholi â thargedau rheoli perfformiad wedi cymell y staff ac wedi sicrhau bod mwy o'r staff wedi “perchenogi” dilysrwydd y prosiect. Ar ôl archwilio'r nodiadau parhaus, gwelir bod bron pob aelod o'r staff wedi gwneud y gwaith darllen a bod ganddynt syniadau arloesol ynglŷn â sut i ddatblygu eu hymholiadau unigol ymhellach. Mae'r holl syniadau ar gyfer ymholiadau yn gysylltiedig â thargedau rheoli perfformiad ac mae llawer ohonynt wedi cysylltu eu targedau â'r Cynllun Datblygu Ysgol, sy'n gwneud diben y prosiect ymholi yn fwy dilys fel cymorth cadarnhaol i arferion yn yr ystafell ddosbarth.
    Grŵp ffocws
    Roedd canfyddiadau'r grŵp ffocws yn cadarnhau fy syniadau fy hun ynglŷn â phrosiectau ymholi sydd wedi cael eu cyflawni o'r blaen. Roedd bron pob aelod o'r grŵp ffocws o'r farn nad oedd ymholiadau blaenorol yn berthnasol i'w targedau datblygiad proffesiynol eu hunain a bod hynny wedi eu rhwystro rhag neilltuo eu holl amser i'r prosiect. Dywedodd bron pob un ohonynt fod cysylltu'r prosiect â'r targedau rheoli perfformiad wedi rhoi mwy o gymhelliant iddynt i ymchwilio i syniadau a rhoi cynnig arnynt yn yr ystafell ddosbarth. Dywedodd un cyfranogwr, “hoffwn ymchwilio i'r pwnc hwn yn fy amser fy hun am fy mod yn ymddiddori ynddo ac am roi cynnig ar fy syniadau gyda'r plant.”
    Camau gweithredu yn y dyfodol
    Oherwydd y data cyfyngedig sydd gennym i edrych arnynt mor gynnar yn y prosiect ymholi, mae'n ymddangos bod y lefelau ymgysylltu'n uchel oherwydd y maes ymholi y mae'r staff yn ei astudio.

    Cyfyngiadau

    Er bod canfyddiadau cadarnhaol yn yr adroddiad hwn, mae rhai cyfyngiadau i'r ymholiad o hyd a fydd yn helpu i lywio'r cymorth y mae angen ei roi ar waith ar gyfer cyfranogwyr yn y dyfodol.
    Yn gyntaf, dangosodd y grŵp ffocws fod angen neilltuo amser i gwblhau'r tasgau ar gyfer y prosiect ymholi er mwyn eu cyflawni'n effeithiol. Roedd y cyfranogwyr o'r farn bod ystyriaethau eraill yn cael mwy o flaenoriaeth ac roeddent am allu neilltuo amser i'r gwaith.
    Cyfyngiad arall a ddaeth i'r amlwg yn y grŵp ffocws yw nad yw pob athro'n gweld dilysrwydd y dysgu seiliedig ar ymholi. Fel y trafodwyd gan Elliott (2007), ni fydd pob athro'n awyddus i newid ei arddull addysgu. Nododd nad oedd 15 allan o'r 40 o athrawon a wirfoddolodd i fod yn rhan o'r ymholiad yn gallu ymgymryd â gwaith ymchwil gweithredol ar eu hysgogiad eu hunain. Mae hyn yn gyson â'r canfyddiadau o'r grŵp ffocws.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae angen cwblhau sesiynau dysgu proffesiynol pellach er mwyn i gyfranogwyr gael amser i ganolbwyntio ar eu hymholiad. At hynny, mae grant wedi cael ei roi i'r ysgol er mwyn rhoi amser i gyfranogwyr allu gweithio gyda grwpiau bach o blant. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â'r grŵp ffocws er mwyn casglu data ar y ffordd y mae hunaniaeth athrawon yn newid drwy gydol y prosiect ymholi. Mae'r staff wedi llenwi holiadur Google Forms ar ddechrau'r prosiect a gaiff ei anfon eto ar ddiwedd y prosiect er mwyn gweld a oes unrhyw wahaniaeth.
    Caiff canfyddiadau'r holl ymholiadau eu dwyn ynghyd ac, ar ddiwedd y prosiect, caiff ‘marchnad’ ei chynnal er mwyn arddangos canfyddiadau'r ymholiadau unigol.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Rhestr gyfeirio
    Hwb (Llywodraeth Cymru) Ar gael yn https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/dull-cenedlaethol-ar-gyfer-dysgu-proffesiynol Cyrchwyd 2 Ionawr 2020
    Elliott, J. (2007) Assessing the quality of action research, Research Papers in Education, 22:2, 229-246
    Carroll, M. (2009) Chartered Teachers and the process of professional
    enquiry: the experience of five Scottish teachers, Professional Development in Education, 35:1,23-42,
    Drew, Priestly a Michael (2015) Curriculum development through critical collaborative professional enquiry. Ysgol Addysg Prifysgol Stirling, Stirling, y DU
    Guardian (2016) Ar gael yn (https://www.theguardian.com/education/2015/jun/17/highly-trained-respected-and-free-why-finlands-teachers-are-different) Cyrchwyd 7.1.20
    Canllawiau BERA (2011) https://www.bera.ac.uk/wp-content/uploads/2014/02/BERA-Ethical-Guidelines-2011.pdf?noredirect=1
    Daly, C. (2013), Teachers as Inquirers (Addaswyd o erthygl ar gyfer The Secondary English Magazine (Cyf 10 Rhif 1 Hyd 2006)).

  • Cyswllt

    Jonathan Jones jj@stjuliansprimary.com
    Lowri Welsh lwelsh@stjuliansprimary.com

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gynradd fawr o fewn awdurdod lleol Casnewydd yw Ysgol Gynradd St Julian. Mae gan yr ysgol 685 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 75 o ddisgyblion sy'n mynychu'r dosbarth meithrin yn rhan-amser. Mae 23 o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol. Mae tua 18% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn gyson â'r cyfartaledd cenedlaethol. Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o gartrefi lle mai Saesneg yw'r brif iaith. Noda'r ysgol fod gan tua 20% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy'n gyson â'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys 18 o ddisgyblion sydd â datganiadau o anghenion addysgol. Mae ambell ddisgybl yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

    Trosolwg ymholiad

    Ein nod yw datblygu defnydd a dealltwriaeth y disgyblion o adborth o fewn y profiad dysgu.

    Cwestiwn Ymholi

    Datblygu defnydd disgyblion o adborth o fewn y profiad dysgu

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    I ddechrau, gwnaethom anfon holiaduron at bob aelod o staff er mwyn archwilio eu defnydd a'u dealltwriaeth o adborth o fewn y profiad dysgu. Rhannwyd ein nod, sef datblygu defnydd disgyblion o adborth o fewn y profiad dysgu. Ar ddechrau 2020, byddwn yn cynnal grŵp ffocws â sampl o athrawon yn yr ysgol. Gwnaethom benderfynu samplu'r athro arweiniol o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6. Yn dilyn y cynllun peilot hwn, byddwn yn cydweithio ag Ysgol Gynradd Glan Usk, sef ysgol o fewn ein clwstwr, ac yn cynnal grŵp ffocws â sampl o'i hathrawon.

    Ystyriaethau moesegol

    Rydym yn ymwybodol o'r angen i ystyried moeseg wrth gyflawni'r gwaith ymchwil hwn. Rydym yn defnyddio'r ffurflen foeseg a ddarparwyd gan Met Caerdydd ar gyfer holl gyfraniadau ein staff. Os bydd angen, gwnawn anfon llythyrau caniatâd at rieni i'w hysbysu o'n gwaith ymchwil wrth weithio gyda phlant.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae Dylan Wiliam (2011) yn dadlau, pan fydd athro yn addysgu, ni waeth pa mor dda y gall ddylunio ei wers, na ellir darogan yr hyn a ddysgir gan blentyn. Ni fydd plant yn dysgu'r hyn a addysgwn bob amser. Dyna pam nad ar ddiwedd y dysgu y gwneir y gwaith asesu pwysicaf – mae'n digwydd wrth ddysgu, pan fo amser i wneud rhywbeth â'r wybodaeth o hyd.


    Mae astudiaethau o adborth yn dueddol o ddangos effeithiau mawr iawn ar ddysgu. Fodd bynnag, mae iddo hefyd ystod fawr iawn o effeithiau, ac mae rhai astudiaethau'n dangos y gall adborth gael effeithiau negyddol, a gwneud pethau'n waeth. Felly, mae'n bwysig deall buddiannau posibl a chyfyngiadau posibl adborth fel ffordd o ddysgu ac addysgu. Yn gyffredinol, mae dulliau seiliedig ar ymchwil, sydd â'r nod penodol o roi adborth i ddysgwyr, fel 'dysgu meistrolaeth' Bloom, yn dueddol o gael effaith gadarnhaol.

    Mae adborth yn cael effaith ar bob grŵp oedran. Mae'r ymchwil mewn ysgolion wedi canolbwyntio'n benodol ar ei effaith ar Saesneg, mathemateg ac, i raddau llai, wyddoniaeth. Roedd tystiolaeth ymchwil ynghylch adborth yn rhan o resymeg Asesu ar gyfer Dysgu. Dynododd un gwerthusiad o Asesu ar gyfer Dysgu fod modd cyflawni effaith o hanner gradd TGAU fesul myfyriwr fesul pwnc, a fyddai'n unol â'r dystiolaeth ehangach ynghylch adborth.

    Dynoda astudiaethau eraill lle adroddir effaith lai ei bod hi'n heriol gwella ansawdd adborth yn yr ystafell ddosbarth. Gwelwyd hyn hefyd mewn astudiaeth beilot ddiweddar gan yr EEF, lle ceisiodd athrawon gymhwyso'r dystiolaeth ar adborth drwy waith ymchwil gweithredol.


    Ceir nifer sylweddol o adolygiadau a meta-ddadansoddiadau o effeithiau adborth. Mae astudiaethau addysgol (yn hytrach na rhai seicolegol neu ddamcaniaethol) yn dueddol o nodi buddiannau cadarnhaol, os mai nod adborth yw gwella deilliannau dysgu mewn darllen neu fathemateg, neu wrth ddwyn gwybodaeth i gof. Dynoda meta-ddadansoddiad diweddar o astudiaethau yn canolbwyntio ar asesu ffurfiannol mewn ysgolion y gall yr enillion fod yn fwy cymedrol, gan awgrymu y gellir cyflawni gwelliant o ryw dri mis o gynnydd ychwanegol mewn ysgolion, neu bron i bedwar mis pan ategir hyn gan ddatblygu proffesiynol. Fodd bynnag, gall rhai meysydd cwricwlaidd elwa'n fwy ar adborth nag eraill. Dynoda meta-ddadansoddiad diweddar o effaith asesu ffurfiannol ar ysgrifennu y gellir cyflawni enillion o 8 mis o gynnydd, sy'n fwy cyson ag ymchwil arall yn ymwneud ag adborth.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Daw’r canfyddiadau canlynol i'r amlwg o'r holiadur:

    • Roedd pob ymatebydd yn cytuno mai diben adborth yw symud dysgu yn ei flaen.
    • Ymdriniwyd ag adborth mewn ffordd glir a chyson drwy'r ysgol gyfan.
    • Noda pob athro mai rhoi adborth ar lafar sydd fwyaf effeithiol.
    • Roedd athrawon o'r farn bod angen rhoi mwy o amser i ddysgwyr ymateb i'r adborth a roddwyd.
    • Hoffai athrawon gael y cyfle i ddatblygu syniadau drwy roi adborth mewn ffordd ddigidol e.e. gan ddefnyddio SeeSaw.

    Cyfyngiadau

    Mae amser a logisteg o fewn yr ysgol wedi bod yn her wrth geisio cyflawni'r gwaith ymholi.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    I ddechrau, roeddem am gynnal grŵp ffocws. O ganlyniad i amser a logisteg, fodd bynnag, gwnaethom benderfynu anfon holiadur er mwyn nodi dealltwriaeth gychwynnol athrawon a'u defnydd o adborth.

    Mae wedi bod yn ddefnyddiol cydweithio ar hyn gan ein bod ni yn ysgol mor fawr. Mae Lowri yn gweithio yn y CS ac rwyf innau yn CA2 uwch. Mae hyn wedi ein helpu i feithrin dealltwriaeth eang o adborth yn nau ben yr ysgol. Rydym hefyd wedi gallu rhannu llwyth gwaith yr adolygiad o lenyddiaeth.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    n/a

  • Cyswllt

    Rhian Evans
    rhian.evans@newport.gov.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gynradd Gymraeg a lleolir yn nwyrain dinas Casnewydd ac yn gweini ardaloedd Ringland, Alway, Lliswerry, Somerton, St Julians. Mae 377 o ddisgyblion sy'n cynnwys 52 yn y meithrin (sesiwn bore a phrynhawn) a 2 ddosbarth ym mhob blwyddyn. Mae'r PYDd tua 20% ac mae'r ADY tua 20%. Ychydig iawn o ddisgbylion sy'n deillio o gartrefi gyda'r Gymraeg (tua 2%). Mae'r ysgol yn y band 'gwyrdd' ac wedi cael beirniadaeth 'Rhagorol Rhagorol' gan Estyn ym mis Mawrth 2017. Mae'r ysgol wedi bod yn arloeswr cwricwlwm ers Ebrill 2016 ac yn gweithio gyda MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae'r ysgol hefyd wedi bod yn arloeswr Dysgu Proffesiynol ers 2016. O fewn y GCA, mae'r ysgol yn STEM LNS ac yn rhoi cyfle i athrawon ddod am ddiwrnodau agored STEM yn ystod y flwyddyn. Ers Ebrill 2019 mae Ysgol Gymraeg Casnewydd wedi bod yn ysgol Braenaru'r Cwricwlwm.

    Trosolwg ymholiad

    I ymchwilio sut gall Asesu ar gyfer Dysgu cynorthwyo dysgwyr wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol yn eu dealltwriaeth o gynnydd.
    I ddechrau, bydd 2 grwp ffocws - un gyda'r UDRh a'r llall gyda cymysgedd o staff. Bydd y ffocws yn seiliedig ar ddealltwriaeth o gwestiynu effeithiol a phrosesau A ar gyfer D ac os mae hyn wedi cael effaith ar y dysgu a'r addysgu yn ystod yr hanner tymor diwethaf. Mi fydd yr atebion wrth gymharu ymateb y ddau grwp yn sail i'r trywydd ymchwil newydd ar y ffordd orau i barhau yn yr ysgol.

    Cwestiwn Ymholi

    I ymchwilio sut gall Asesu ar gyfer Dysgu cynorthwyo dysgwyr wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol yn eu dealltwriaeth o gynnydd.

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Yn ystod tymor yr haf 2019, dechreuon ni ail-edrych ar ein hegwyddorion fel ysgol – beth oedd yn ganolog i’n meddylfryd wrth gynllunio ac adeiladu ein cwricwlwm? Penderfynon ni rhoi Asesu Ffurfiannol fel un Damcaniaeth ein Cynllunio gan ei fod yn annatod i broses cynllunio a meddylfryd Cwricwlwm i Gymru a’r safonau proffesiynol newydd ac felly i’n cynllunio a’n meddylfryd ni fel ysgol. Daeth hwn yn sylfaen cryf i’n staff wrth gynllunio ynghyd â’r 4 Diben.

    Er ein bod ni wedi ymchwilio a dechrau trafod strategaethau cwestiynu ac asesu effeithiol, roedd dal angen monitro’r sefyllfa a gofyn: oedd ein newidiadau yn rhy arwynebol ac oedd dealltwriaeth ddigonol gan y staff o’r strategaethau effeithiol er mwyn gweld effaith yng nghynnydd y dysgwyr? Roedd hwn, felly, yn sbardun clir i’r llwybr ymholi a fydd yn rhoi’r cyfeiriad nesaf i ni fel ysgol.

    Wrth drafod, daeth i’r amlwg fod methodoleg ansoddol yn angenrheidiol i’r gofynion er mwyn casglu data i gael gwerthoedd a barnau aelodau staff yn lle ffeithiau rhifol. Yn sgil hyn, cynnal grwpiau ffocws oedd y ffordd orau ymlaen er mwyn rhoi sail wybodus i’r effaith ar gwestiynu ac ymateb ers ein newidiadau ym mis Medi o safbwynt yr UDRh a’r staff addysgu eraill. Trafodwyd hefyd fod angen i’r ffocws fod ar gwestiynu yn lle edrych ar asesu ffurfiannol yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau dyfnder.

    Recordiwyd dau grŵp ffocws – un gyda’r UDRh (Pennaeth, Arweinydd CS, Arweinydd CA2, Arweinydd Medrau a Dirprwy); un yn cynnwys 6 athro amrywiol o ran profiad, oedran, cefndir a datblygiad.

    Roedd y cwestiynau a drafodwyd yn ymwneud gyda: sut oedd ein hasesu yn cyd-blethu gyda’n hegwyddorion a’r 4 diben; beth oedd llwyddiannau neu heriau'r cynllunio newydd a beth oedd ein cam nesaf; oedd dysgwyr yn ymateb i'r adborth llafar a strategaethau asesu yn yr un modd a’r marcio ysgrifenedig. Rhoddwyd pecyn wybodaeth gyda’r cwestiwn ymholi, y cwestiynau, ein hegwyddorion a’r 4 diben cyn y drafodaeth i’r ddau grŵp ffocws.

    Er mwyn rhyddhau 6 aelod o’r staff dysgu, trefnwyd sesiwn ganu ysgol gyfan yn y Neuadd. Roedd trafodaeth y grŵp wedi para 25 munud ac roedd pob aelod wedi cyfranogi yn dda ac yn hyderus gydag enghreifftiau a syniadau.

    Er mwyn cynnal y grŵp ffocws gyda’r UDRh, defnyddiwyd cyfarfod UDRh ar ôl ysgol. Trafododd y grŵp am 35 munud, eto gyda phawb yn cyfranogi gydag enghreifftiau a syniadau am sut i ymestyn neu symud ymlaen.

    Ystyriaethau moesegol

    Rhoddwyd cymeradwyaeth foesegol gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd (CSESP) a Phrifysgol a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

    I ddechrau, roedd angen meddwl am hierarchaeth o fewn y grwpiau ffocws. Os roeddwn i’n mynd i gynnal y drafodaeth, fel Dirprwy, a fydd rhai o’r athrawon yn ofni dweud pethau a aeth yn anghywir neu deimlo ni ddylen nhw anghytuno gyda’r ysgol? A fyddwn yn gallu sicrhau dibynadwyaeth i’r ymateb? Yn ail, roedd angen sicrhau fod pawb yn ymwybodol o’u hawliau ym mhroses yr ymholiad, sut y bydd y wybodaeth yn cael eu defnyddio, fod y broses yn hollol ddi-enw ac y gallant newid eu meddwl ar unrhyw adeg.

    Cefais drafodaeth gyda’r aelodau gan roi’r llythyr wybodaeth o Brifysgol Met Caerdydd a thaflen caniatâd. Esboniais y broses, beth roedden ni’n ymholi a pham, a’u hawliau nhw i dynnu allan ar unrhyw adeg. Trafodais hefyd am bwysigrwydd rhoi barn a safbwynt onest er mwyn cael tystiolaeth ddibynadwy i adnabod sut i symud yr ysgol ymlaen ar ein taith. Llofnodwyd y daflen gan bawb a chytunodd pawb i gymryd rhan.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Ymchwiliwyd i strategaethau, cwestiynu effeithiol a syniadau asesu ar gyfer dysgu a thrafodwyd y rhain mewn diwrnod hyfforddiant mewn swydd er mwyn defnyddio ym mis Medi. Yn ogystal i hyn, ail-edrychon ni ar ein cynllunio a rhoddwyd blwch ‘asesu’ ymhob cynllun. Trafodwyd gyda’r staff am bwysigrwydd meddwl o flaen llaw am yr hyn roedden ni am weld y plant yn cyflawni, pwysigrwydd y llwybr dysgu a dilyniant a chwestiynau i symud dysgu’r plant i’r cam nesaf.

    Gan fod asesu yn ffocws cryf yn barod, dyma oedd craidd fy syniad am ymholiad ymchwiliol. Wrth ddarllen erthygl Tom Sherrington ‘Revisiting Dylan Wiliam…’ meddyliais os oedd dyfnder i’r ymateb rhwng dysgwyr ac athrawon neu oedden ni’n fod yn rhy arwynebol a ddi-bwrpas gyda’n newidiadau: Sadly, my sense is that the wisdom at the heart of Wiliam’s ideas about responsive teaching/formative assessment gets washed out...by the delusion that the strategies are already embedded in day-to-day practice...by the sense that this is a box ticked. 

    Edrychwyd ar elfennau addysgeg ac asesu yn Dyfodol Llwyddiannus a’r Cynigion Asesu fel Sail i Ddatblygu Canllawiau Statudol er mwyn meddwl yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru. Defnyddiwyd elfennau o lyfrau yn ymwneud gydag asesu ac asesu i ddysgu er mwyn datblygu’n wybodus o ran cysyniadau ac ymchwil meddwl.

    O ran darllen cyhoeddiadau academaidd, darganfuwyd dau a oedd o ddiddordeb i'r pwnc ymholiad. Er roedd y gwaith a wneir yn ‘assessment is for learning: supporting feedback’ yn ddiddorol ac yn codi rhai syniadau, nid oedd yn berthnasol i'r ymholiad yma gan ei fod yn canolbwyntio ar ddefnydd e-bortffolio yn yr Alban. Ond cododd‘Student perspectives on assessment for learning’ y pwynt yma:

    “While it was known that AfL practices were commonly implemented across these students’ classrooms..., Harris et al. found students typically viewed assessment as an individual activity...As a result, the authors concluded, ʻstudents may view these practices simply as part of teaching and learning and not as “assessment” per se’.”

    Dechreuodd y dyfyniad yma i mi feddwl am argraff y disgyblion tuag at adborth o’r athro – a oedden nhw’n gweld fod asesu yn cynnwys cwestiynu, strategaethau addysgeg ac ymateb ar lafar oddi wrth eraill, neu’n gweld marcio’r athro fel y rhan bwysig? Daeth hyn i fod yn drywydd ymholi o fewn y grŵp ffocws ac mi fydd yn parhau wrth i ni gynnwys ymateb y dysgwyr yn yr ymholiad nesaf.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Wrth feddwl sut roedd asesu ar gyfer dysgu yn cyd-blethu gyda’n hegwyddorion a’r 4 Diben, roedd cytundeb yn y ddau grŵp yn enwedig wrth roi ffocws ar greu dysgwyr uchelgeisiol. "Ni’n annog nhw i fod yn uchelgeisiol gyda thargedau, ...mae’r ffordd ni’n cwestiynu wedi newid fi’n meddwl, fel athrawes fi’n meddwl ‘pam fi’n neud e’? “

    Cytunwyd fod yr egwyddorion yn cyd-blethu gan feddwl am ymrwymiad a gofyn iddynt feddwl am strategaethau amrywiol er mwyn codi ymwybyddiaeth wrth sicrhau cynhwysiad pob plentyn. “Pan da ni’n cynllunio da ni’n meddwl yn fwy am sut ydan ni’n mynd i asesu a da ni’n meddwl yn fwy am y dosbarth yn gyfan fel bo pawb yn gallu ateb rhywffordd neu’i gilydd so dwi’n gweld bo hwnna’n gweithio’n dda.”

    Roedd hefyd cytundeb o ran yr effaith ar ymarfer yr athrawon. Roedd pob aelod o’r ddau grŵp yn gytûn fod yr angen i feddwl a chynllunio'r trywydd dysgu a chwestiynu o flaen llaw yn lle ymateb yn oeraidd yn y dosbarth wedi galluogi gwell addysgeg, dealltwriaeth o’r llwybr cynnydd, a’r hyblygrwydd i addasu a chymryd cam yn ôl os nad oedd dealltwriaeth. "Mae’n rhoi mwy o ddyfnder i beth maen nhw gwneud na just un cwestiwn pob hyn a hyn a chi’n gallu mynd i lawer mwy o fanylder gyda’r plant, mae e wedi gwneud gwahaniaeth fi’n meddwl”

    Roedd y ddau grŵp hefyd yn trafod sut roedd ffurfio cwestiynau effeithiol ar gyfer symud y dysgu ymlaen a marcio cau’r bwlch wedi gwella a dod yn haws i’r athrawon oherwydd y meddwl o flaen llaw. “I stopio ac wedyn gofyn cwestiwn i weld lle maen nhw yn ystod y dasg ac weithiau chi’n mynd ‘ok, ni angen mynd cam yn ôl’ neu gam ymlaen weithiau, so hwnna’n gweithio’n dda i fi.” “Ni’n herio nhw gyda’r marcio cau’r bwlch yn fwy, fi’n meddwl yn fwy pwrpasol nawr”

    Hefyd, teimlodd athrawon uwch i fyny’r ysgol fod y plant yn fwy awyddus i ymateb i’r gwaith yn estynedig i gymharu gyda llynedd. “Sai’n gweld bo ots da nhw mynd nôl i newid gwaith, fi’n gweld bo nhw’n lot fwy hyblyg yn newid, ail-ddrafftio, a so nhw’n meddwl hwnna yw’r diwedd, fi’n gweld nhw’n ddigon parod i newid, i wella.”

    Teimlodd yr UDRh fod ymateb ar lafar yn rhywbeth a oedd wedi ei dreiddio trwy’r ysgol ac felly doedd y plant ddim yn rhoi mwy o bwysigrwydd i’r marcio mewn llyfr “mae plant yn gweithio’n annibynnol a gweithio heb athro yn un o’n cryfderau ni ac mae cwestiynu a thrafod yn rhan annatod o hynna”

    Cyfyngiadau

    O ganlyniad i'r ymholiad yma daeth y cyfyngiadau canlynol i'r golwg:

    • Trefnu amser digyswllt ar gyfer amrywiaeth o athrawon oherwydd natur gweithio mewn ysgol gynradd
    • Darganfod ardal dawel heb aflonyddwch er mwyn trafod a recordio
    • Gorfod ail-drefnu oherwydd natur ysgol a phethau yn codi
    • Amser tawel di-dor i feddwl, darllen ac adlewyrchu ac yna ysgrifennu adroddiad

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Meddyliwch a thrafodwch o fewn yr ysgol am beth sy’n bwysig i chi – beth sydd angen amser ac ymchwil i symud yr ysgol ymlaen o ran eich targedau ysgol– peidiwch ddilyn eraill neu wneud rhywbeth er mwyn ‘ticio’r blwch’.

    Cadwch bethau’n syml, peidiwch or-gynllunio neu geisio gwneud gormod o dan yr amodau amser/staffio yn eich ysgol chi.

    Rhowch ffocws ar elfen benodol – peidiwch fod yn rhy benagored - er mwyn sicrhau dyfnder a safon.

    Rhowch amser i'r cyfranogion edrych ar y cwestiynau a meddwl ymlaen llaw.

    Meddyliwch am y foeseg o flaen llaw.

    Byddwch yn greadigol wrth ryddhau aelodau staff – mae arian mor brin.

    Byddwch yn onest gyda’ch canlyniadau ac yn barod i deimlo siom – ni ellir symud a datblygu os ydych chi'n anwybyddu gwiredd anghyffyrddus.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Dyfodol Llwyddiannus– Professor Graham Donaldson
    Cynigion asesu fel sail i ddatblygu canllawiau statudol
    Assessment for Learning without limits – Alison Peacock
    Perfect Assessment for Learning – Claire Gadsby
    What is Assessment for Learning – Cambridge Assessment International Education
    Christopher DeLuca, Allison E. A. Chapman-Chin, Danielle LaPointe-McEwan & Don A. Klinger (2018) Student perspectives on assessment for learning, The Curriculum Journal, 29:1, 77-94, DOI: 10.1080/09585176.2017.1401550
    Assessment is for learning: supporting feedback - Susan V. McLaren
    What if everything you knew about Education was wrong – David Didau

  • Cyswllt

    Simon White

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    EAS

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gynradd ym mhentref Oakdale yng Nghaerffili yw Ysgol Rhiw Syr Dafydd. Mae mwy na 600 o ddisgyblion, rhwng 3 ac 11 oed, a 22 o ddosbarthiadau. Mae tua 12% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Rydym yn ysgol werdd o dan system categoreiddio ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae Ysgol Rhiw Syr Dafydd yn ysgol arloesi dysgu proffesiynol. Yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu MDPh Mathemateg a Rhifedd. Mae hyn wedi golygu cyflawni cyfres o ymholiadau gweithredol gyda holl athrawon Rhiw Syr Dafydd ac ysgolion clwstwr. Mae'r ysgol gyfan wedi symud tuag at gwricwlwm meistrolaeth, gan ddefnyddio cynllun y Rhosyn Gwyn i gefnogi addysgu a dysgu'r athrawon, ac wedi cynyddu'r amrywiaeth o gynrychioliadau diriaethol, darluniadol a haniaethol a ddefnyddir i feithrin sgiliau mathemategol disgyblion ym mhob un o'r galluoedd amrywiol a nodir yn y cwricwlwm newydd.

    Trosolwg ymholiad

    Sut y gellir defnyddio asesu ffurfiannol i ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog drwy ddysgu mewn ffordd drawsgwricwlaidd?
    Un agwedd allweddol ar addysgeg effeithiol, ym mhob gwers ac ym mhob rhan o'r cwricwlwm, yw'r gallu i asesu dealltwriaeth dysgwyr o gysyniad neu faes penodol yn y cwricwlwm, wedyn defnyddio adborth neu addasu dull addysgegol penodol i sicrhau bod pob plentyn yn gwneud cynnydd ac yn deall beth mae angen iddo ei wneud nesaf. Bydd asesu ffurfiannol yn rhan bwysig o'r broses o roi'r cwricwlwm newydd ar waith a'i hwyluso. Fel y dywed Donaldson (2015, t.76), “Mae’n bwysig bod asesu ffurfiannol yn rhan annatod a naturiol o’r broses addysgu ac nid yn elfen a ychwanegir.” Bydd yr ymholiad yn ceisio archwilio sut y gall asesu ffurfiannol ddatblygu ‘dysgwyr uchelgeisiol a galluog’ a hefyd yn ystyried sut mae'r lleoliad (CA2 a'r Cyfnod Sylfaen) yn newid addysgeg, a sut mae hyn yn effeithio ar ddulliau asesu ffurfiannol athrawon.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut y gall asesu ffurfiannol gael ei ddefnyddio i ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog drwy ddull trawsgwricwlaidd o addysgu?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Dilynodd y gwaith ymholi drywydd ansoddol, o safbwynt lluniadaethol, a strwythur 'troell ymholi', fel yr amlinellir yn Kaser a Halbery (2017). Roedd yn cynnwys grŵp ffocws athrawon, arsylwi ar ymddygiad y disgyblion (Creswell, 2014), a chyfweliadau lled-strwythuredig ag athrawon.
    Ar ddechrau'r broses, yn ystod cyfarfod staff wythnosol, gwahoddwyd y staff i gymryd rhan mewn gwaith ymholi ar y ffordd y gellid defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgegol i ddatblygu'r pedwar diben. Cytunodd dau aelod o staff o'r Cyfnod Sylfaen a thri o Gyfnod Allweddol Dau i gymryd rhan, gan ffurfio grŵp ffocws yr ymholiad.
    Ar y cam "sganio" (Kaser a Halbert, 2017, t.25), trafododd yr athrawon y pedwar diben ac adfyfyriwyd ar y cwestiynau canlynol: beth yw addysgeg addysgu? Sut mae addysgeg yn wahanol yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol Dau? Pa gamau gweithredu a allai gael yr effaith fwyaf ar ddatblygu'r pedwar diben? Sut rydym yn defnyddio prosesau asesu ffurfiannol ar hyn o bryd? Sut y gallai prosesau asesu ffurfiannol gyfrannu at y pedwar diben? A fydd yn edrych yn wahanol yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol Dau? Sut olwg sydd ar ddysgwr uchelgeisiol, galluog yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol Dau?
    Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol, dechreuodd yr athrawon ystyried sut y defnyddir asesu ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth a'r ysgol gyfan ar hyn o bryd, a nodi ffyrdd posibl o'i ddefnyddio i ddatblygu "dysgwyr uchelgeisiol galluog" (Donaldson, 2015, t.29). Cafodd pob aelod o'r grŵp lyfr neu ddarn o ymchwil yn ymwneud â'r defnydd effeithiol o asesu ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth a chrynodeb o waith ymchwil perthnasol arall a amlinellir yn yr adolygiad o lenyddiaeth isod. Gan ddefnyddio'r gwaith ymchwil, a thrafodaeth broffesiynol, nododd yr athrawon strategaethau asesu ffurfiannol i'w treialu yn eu dosbarth.
    Ar gam "gweithredu" (Kaser a Halbert, 2017, t.33) yr ymholiad, treialodd yr athrawon y strategaethau yn eu hystafell ddosbarth ac mewn gwahanol feysydd dysgu. Arsylwodd yr athrawon ar ymatebion y dysgwyr i'r gweithgareddau a gwnaed nodiadau ar daflen arsylwi a wnaeth eu hannog i roi sylwadau cryno ar y gweithgareddau a ddefnyddiwyd, eu diben, lefelau ymgysylltu'r disgyblion, a ph'un a gyflawnwyd y deilliannau dysgu a fwriadwyd ai peidio. Cafodd yr athrawon eu cyfweld fesul dau ac fe'u holwyd am effaith y strategaethau ac a oeddent yn teimlo eu bod yn cyfrannu at ddatblygu 'dysgwyr uchelgeisiol/galluog'.

    Ystyriaethau moesegol

    Cafodd pawb a gymerodd ran daflen wybodaeth yn amlinellu eu rôl yn y broses. Gwnaeth pawb gwblhau ffurflen gydsynio foesegol a chawsant wybod y gallent dynnu'n ôl unrhyw bryd.
    Cafodd yr holl blant yr un gwersi â dosbarthiadau eraill yn eu grwpiau blwyddyn, ac adeiladodd y strategaethau asesu ffurfiannol ar ddulliau addysgegol presennol, ond gan osgoi gwrth-ddweud polisïau'r ysgol neu newid cynnwys y cwricwlwm roedd y plant yn ei ddilyn.
    Cadwyd pawb, ynghyd â'u sylwadau, yn anhysbys drwy gydol yr adroddiad.
    Cafodd yr adroddiad ei rannu â phawb a gymerodd ran. Cyflwynwyd trosolwg o'r canfyddiadau i holl staff yr ysgol.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Mae'r ymholiad wedi canolbwyntio ar dri thestun: ‘Responsive Teaching - Cognitive Science and Formative Assessment in Practice’ (Fletcher-Wood, 2018), ‘Embedded Formative Assessment’ (Wiliam, 2018) a ‘Sut i ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth’ (2010) gan Lywodraeth Cymru.
    Mae Llywodraeth Cymru (2010) yn canolbwyntio ar dri phrif faes ar gyfer datblygu strategaethau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer Asesu ar gyfer Dysgu: y dechneg gwestiynu, rhoi adborth i ddysgwyr, ac asesu cyfoedion a hunanasesu. Rhydd nifer o strategaethau ar gyfer pob un o'r meysydd hyn y gall athrawon eu gweithredu. Noda Donaldson (2015, t.76) rôl bwysig y testun hwn wrth bennu nodweddion asesu ffurfiannol effeithiol ac ysgrifenna y dylai asesu ffurfiannol fod yn rhan annatod a naturiol o’r broses addysgu ac nid yn "elfen a ychwanegir".
    Amlinella William (2011) ddulliau gweithredu o dan y penawdau penodau canlynol: egluro, rhannu a deall bwriadau dysgu a meini prawf llwyddiant; dod o hyd i dystiolaeth o ddysgu; darparu adborth sy'n symud y dysgu ymlaen; gwneud dysgwyr yn adnoddau cyfarwyddiadol i'w gilydd; a gwneud dysgwyr yn berchenogion eu dysgwyr eu hunain. Mae Fletcher-Wood (2018) yn mabwysiadu strwythur tebyg yn ei lyfr ac mae'n adlewyrchu bod myfyrwyr yn dysgu mwy pan ddeuir o hyd i dystiolaeth o'u dysgu a phan gaiff ei ei dehongli a'i defnyddio gan athrawon, dysgwyr neu eu cyfoedion er mwyn gwneud penderfyniadau am gamau nesaf eu dysgu. Mae'n dadlau mai'r effaith fwyaf ar gyflawniad myfyrwyr yw gallu athrawon i addasu cyfarwyddiadau er mwyn diwallu anghenion myfyrwyr ac, yn bwysig, noda fod addysgu effeithiol yn canolbwyntio ar egwyddorion asesu ffurfiannol ac nid y technegau.
    Yn y model ymarfer bwriadol, mae Christodoulou (2016) yn tynnu sylw at bwysigrwydd dadansoddi cysyniad newydd yn rhannau ac addysgu pob rhan ar wahân. Mae'r model hwn yn sicrhau bod asesu ffurfiannol yn fwy cywir ac effeithiol am fod tasgau yn fwy penodol, ac mae'r camau bach yn darparu mwy o gyfleoedd i hunanasesu a chynnal asesiadau gan gyfoedion oherwydd gall disgyblion nodi'r bwriadau dysgu a'r meini prawf llwyddiant ar gyfer pob cam.
    Dywed Clarke (2014, t.10) mai dim ond gyda “true learning culture” a fabwysiedir drwy'r ysgol gyfan a gyda “staff empowered as a group, fully owning decision making, not being told what to do, but always experimenting, moving forward and making policy together” y gall strategaethau a thechnegau asesu ffurfiannol fod yn wirioneddol effeithiol. (2014, t.179). Noda Hattie fod ymreolaeth athrawon yn rheswm allweddol pam mae athrawon yn parhau i addysgu (2012, t.174). Noda hefyd fod asesu ffurfiannol effeithiol yn cael effaith fawr iawn ar gyflawniad dysgwyr am gost isel iawn.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Ar y cam sganio, cytunodd yr athrawon fod addysgeg effeithiol yn cynnwys nodi hynt dysgwyr o ran amcanion dysgu ac ymateb drwy addasu technegau addysgu i ddiwallu anghenion disgyblion; defnyddio adborth i symud dysgu yn ei flaen; a gwneud dysgwyr yn berchenogion eu dysgu ac yn adnoddau cyfarwyddiadol i'r naill a'r llall.
    Trafododd aelodau'r grŵp ffocws sut beth oedd 'dysgwr uchelgeisiol, galluog' yng Nghyfnod Allweddol Dau a'r Cyfnod Sylfaen yn eu tyb nhw. Ymhlith sylwadau athrawon Cyfnod Allweddol Dau roedd "disgybl sydd wedi gorffen ei waith ac a fydd yn croesawu her arall" ac "maent yn dueddol o wthio eu hunain yn annibynnol". Nododd athrawon y Cyfnod Sylfaen fod 'dysgwyr uchelgeisiol, galluog' yn blant "sy'n agored i rannu syniadau a chyfiawnhau eu syniadau gan fod yn barod i ddysgu". Hefyd, roeddent o'r farn y gall y dysgwyr hyn nodi'r hyn maent wedi'i ddysgu, egluro eu hatebion a dangos eu dull pan fo'n briodol.
    Daeth athrawon Cyfnod Allweddol Dau o hyd i ddau ymarfer effeithiol yr un a oedd yn cyflawni eu canlyniadau bwriadedig ac yn ennyn diddordeb disgyblion. Defnyddiodd un ymarfer 'sedd boeth' i ddod o hyd i dystiolaeth o ddealltwriaeth bresennol disgyblion o gysyniad neu bwnc penodol drwy ddefnyddio techneg holi a chwestiynau dilynol, sef strategaeth y gellid ei defnyddio mewn gwersi drwy'r cwricwlwm cyfan; a chwestiynau gwir neu gau diagnostig er mwyn targedu camsyniadau cyffredin ac ystyried yr ymatebion ymhlith y dosbarth. Darparodd y ddwy strategaeth dystiolaeth o feddyliau a dealltwriaeth bresennol dysgwyr, galluogodd y disgyblion i ddysgu'n annibynnol ac oddi wrth eu cyfoedion, a rhoddodd adborth i'r athro a wnaeth lywio gwaith cynllunio. Roedd athro arall yn defnyddio techneg 'Eistedd, Swatio, Sefyll' i gadarnhau dealltwriaeth dysgwyr o gysyniad penodol cyn iddo weithio gyda disgybl ar lefel is er mwyn egluro'r cysyniad iddo, a 'Sesiynau Llawn ar Blât' er mwyn annog y disgyblion i adfyfyrio drwy amrywiaeth o weithgareddau gwahanol. Darparodd y strategaethau hyn gyfleoedd i nodi tystiolaeth o ddysgu'r disgyblion er mwyn llywio gwaith addysgu a gwnaed dysgwyr yn adnoddau cyfarwyddiadol i'w gilydd. Mewn mathemateg, gwnaeth y gweithgareddau hyn gefnogi'r gwaith o ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol y disgyblion.
    Gwnaeth y ddau athro o'r Cyfnod Sylfaen gyflwyno'r un strategaethau o ddogfen 'Sut i ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth' Llywodraeth Cymru (2010), gan gynnwys 'yr un gwahanol': ymarfer i ddod o hyd i dystiolaeth o ddysgu ac annog disgyblion i egluro eu sail resymegol; a 'theithiau dysgu', sef adnodd rhyngweithiol sy'n rhoi trosolwg o'r daith ddysgu ar gyfer pwnc penodol, yn egluro bwriadau dysgu a meini prawf llwyddiant, ac yn darparu cyfleoedd i blant wneud sylwadau ac ychwanegu eu hadborth. Hefyd, defnyddiwyd mapiau meddwl i nodi'r hyn roedd plant yn ei wybod am bwnc ac yna'r hyn roeddent am ddysgu amdano. Darparodd hyn dystiolaeth o ddealltwriaeth bresennol, gwnaeth y dysgwyr yn berchenogion eu dysgu eu hunain, a gwnaeth alluogi'r athro i gynllunio gwersi a oedd yn ymateb i gwestiynau'r dysgwyr.
    Nododd un athrawes fod plant y Cyfnod Sylfaen yn ei dosbarth yn ei chael hi'n anodd iawn mynegi'r hyn roeddent am ddysgu amdano yn ystod y dasg map meddwl, ac y gallai iaith fod yn rhwystr posibl i blant rhag chwarae rhan weithredol mewn prosesau asesu ffurfiannol. Roedd dau athro'r Cyfnod Sylfaen hefyd o'r farn bod cydweithio yn broblem yn ystod yr ymarferion gan ei gwneud hi'n anodd i'r plant ddysgu oddi wrth ei gilydd.

    Cyfyngiadau

    Amser oedd y prif gyfyngiad. Mae ail hanner tymor yr hydref yn un prysur i athrawon Cyfnod Allweddol Dau a'r Cyfnod Sylfaen ac mae ymarferion y cyngerdd Nadolig yn newid amserlen arferol yr ystafell ddosbarth ac yn cyfyngu ar faint o amser addysgu a gaiff athrawon gyda'u dosbarth. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i athrawon ddefnyddio strategaethau yn gyson, mewn nifer o feysydd cwricwlaidd, ac roedd hefyd yn ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i amser i gyfarfod yn rheolaidd fel grŵp. Roedd pob athro yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r amser i ddarllen llenyddiaeth a gwaith ymchwil.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    Mae'r 'troell ymholi' yn darparu strwythur ymholi syml a hygyrch i athrawon. Roedd athrawon yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r amser i ddarllen y llenyddiaeth ymchwil a dod o hyd i ffyrdd o oresgyn hyn, ac ystyrir gwneud llenyddiaeth yn fwy hygyrch fel rhan o'r ymholiad nesaf, efallai drwy ystyried neilltuo amser ar gyfer cyfarfodydd staff at ddibenion ymchwil a darllen. Roedd grŵp ffocws yr ymholiad yn gweithio'n arbennig o dda fel ffordd o rannu syniadau a nodi strategaethau addysgu effeithiol, er bod cyfyngiadau amser yn ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i'r amser i gwrdd.
    O ran y camau nesaf, teimlai'r grŵp ei fod am barhau i ganolbwyntio ar yr ymarferion a ddefnyddiwyd yn yr ymholiad ac y dylai'r gwaith hwnnw gynnwys mwy o aelodau o staff.
    Fel y nodwyd gan Fletcher-Wood (2018, t.8), mae'n bwysig canolbwyntio ar egwyddorion asesu ffurfiannol a diben ymarferion, a sicrhau bod athrawon yn cael gafael ar amrywiaeth o strategaethau er mwyn cwmpasu holl feysydd asesu ffurfiannol fel yr amlinellwyd gan Wiliam (2018). Mae perygl, os bydd athro yn canolbwyntio ar un maes asesu ffurfiannol ond yn methu â datblygu un arall, y bydd yn negyddu effeithiolrwydd dulliau o'r fath.

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Cyfeiriadau:
    Christodoulou, D. (2016) Making Good Progress? The Future of Assessment for Learning. Rhydychen: Oxford University Press.
    Clarke, S. (2014) Outstanding Formative Assessment: Culture and Practice. Llundain: Hodder Education.
    Creswell, J. (2014) Research Design. 4ydd argraffiad. Llundain: Sage publications.
    Donaldson, G (2015) Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r
    Trefniadau Asesu yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
    Fletcher-Wood, H. (2018) Responsive Teaching. Llundain: Routledge.
    Hattie, J. (2012) Visible Learning for Teachers. Rhydychen: Routledge.
    Kaser, L. a Halbert, J. (2017) The Spiral Playbook: Leading with an inquiring mindset in school systems and schools. C21 Canada. Ar gael yn: http://c21canada.org/playbook/ (Cyrchwyd: 20 Medi 2019).
    Llywodraeth Cymru (2010) Sut i ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Ar gael yn: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-cymru-2008/asesiad/sut-i-ddatblygu-meddwl-ac-asesu-ar-gyfer-dysgu-yn-yr-ystafell-ddosbarth (Cyrchwyd: 20 Medi 2019).
    Wiliam, D. (2018) Embedded Formative Assessment. 2il argraffiad. Bloomington: Solution Tree Press.

  • Cyswllt

    Catherine Falcus
    cf@cardiffhigh.co.uk

    Prifysgol Cyswllt

    Prifysgol Met Caerdydd

    Consortiwm

    CSC

    Cyd-destun ysgol/cefndir

    Ysgol gyfun gymysg 11-18 cyfrwng Saesneg yng ngogledd dinas Caerdydd yw Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 1,613 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 422 yn y chweched dosbarth. Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o ardaloedd preswyl cyfagos Cyncoed, Lakeside a'r Rhath. Mae tua 6% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r ysgol yn derbyn amrywiaeth eang o ddisgyblion. Saesneg yw iaith gyntaf y mwyafrif o'r disgyblion. Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 435 o'r disgyblion a daw tua 36% o'r disgyblion o gefndir lleiafrif ethnig. Cymraeg yw iaith gyntaf 1% o'r disgyblion. Canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yw tua 18%. Mae gan tua 2.4% o'r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau arbenigol sy'n gwasanaethu'r awdurdod lleol ar gyfer 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu penodol.

    Trosolwg ymholiad

    Bydd yr ymholiad hwn yn archwilio'r ffordd y mae cynnydd disgyblion yn sail i'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm ym Mlwyddyn 7.

    Cwestiwn Ymholi

    Sut mae athrawon yn defnyddio cynnydd i lywio gwaith cynllunio dysgu yng nghyfnod allweddol 3?

    Cynllun ymholiad a methodoleg

    Mae'r ymholiad hwn yn rhan o astudiaeth barhaus a'r nod oedd ymchwilio i ganfyddiadau athrawon o gynnydd o fewn y cwricwlwm presennol a sut mae hyn yn llywio gwaith cynllunio. Diben y gwaith ymholi cychwynnol hwn yw helpu'r ysgol i bennu ei hanghenion dysgu proffesiynol wrth baratoi i ddatblygu a gweithredu'r cwricwlwm newydd.
    Ar gyfer yr ymholiad hwn penderfynais ddefnyddio methodoleg ansoddol i gasglu data. Y rheswm dros hyn oedd fy mod am ymchwilio i agweddau athrawon tuag at gynllunio ar gyfer cynnydd mewn dysgu. Yn fy marn i, byddai wedi bod yn anodd creu dulliau meintiol dilys o ymchwilio i'r meysydd hyn. Bwriadwyd i'r ymholiad hwn fod yn waith ymchwil rhagarweiniol ar gynnydd mewn dysgu. Casglwyd data drwy gyfweld â dau athro gwyddoniaeth, yr oedd gan y ddau gyfrifoldebau o fewn eu hadran yn yr ysgol a phrofiad o gynllunio'r cwricwlwm, yn arbennig yng nghyfnod allweddol 3. Gwnaed nodiadau drwy gydol y cyfweliad ac ategwyd y rhain gan y recordiad o'r cyfweliad er mwyn dadansoddi'r ymatebion a chofnodi'r canfyddiadau. Roedd y cyfweliad yn lled-strwythuredig gyda chwestiynau yn canolbwyntio ar bwyntiau perthnasol. Rhoddwyd y rhain i'r sawl a gyfwelwyd y diwrnod cyn y cyfweliad er mwyn iddynt allu adfyfyrio arnynt ac ystyried eu hymatebion. Hysbyswyd yr unigolion y gallent dynnu’n ôl o’r gwaith ymholi unrhyw bryd. Yr eitemau a gyflwynwyd er mwyn cefnogi'r gwaith o graffu ar waith y disgyblion oedd cynllun cynnydd cyfnod allweddol 3. Darparwyd tystiolaeth ffotograffig o waith y disgyblion ynghyd â samplau gwirioneddol, a llywiodd y rhain ran o ymatebion y cyfweliadau a ddarparwyd. Craffwyd ar y rhain yn erbyn y cynllun cynnydd er mwyn gwerthuso i ba raddau y gellid nodi cynnydd yn y themâu dysgu ac unrhyw arsylwadau perthnasol eraill. Roedd y samplau o waith yn anhysbys am nad oedd angen enghreifftiau ag enwau at ddiben yr ymholiad hwn.

    Ystyriaethau moesegol

    Wrth gyflawni'r gwaith ymholi hwn ystyriwyd ansawdd y gwaith ymchwil a wnaed wrth sicrhau bod modd ei reoli. Cyflawnwyd hyn drwy ffocws cymharol gul o fewn y pwnc ymholi a ddewiswyd.
    Roedd yn bwysig sicrhau bod y sawl a gyfwelwyd yn barod i gydsynio a chymryd rhan mewn ffordd agored a chadarnhaol. Treuliwyd amser gyda phob person yn trafod nodau'r prosiect a'r dulliau y byddwn i'n eu defnyddio wrth wneud y gwaith ymchwil. Rhannwyd cwestiynau'r cyfweliad a chwmpas y drafodaeth cyn y sesiwn. Eglurwyd y ddogfennaeth gydsynio, a ddarparwyd gan CSEESP, cyn ei llofnodi. Sicrhawyd cyfrinachedd lle y bo'n briodol a chafodd yr unigolion wybod am eu hawl i dynnu'n ôl unrhyw bryd. Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau diogelu data, gwnaed gwaith y disgyblion a ddefnyddiwyd yn anhysbys.
    Cwestiynau'r ymholwyr eu hunain a ddefnyddiwyd ac roeddent yn seiliedig ar y cwestiwn ymholi a ddewiswyd. Fodd bynnag, cafodd y cyfweliad ei recordio, a dinistriwyd y dystiolaeth ddigidol ar ôl ei dadansoddi. Rhannwyd y canfyddiadau â'r sawl a gyfwelwyd er mwyn sicrhau cywirdeb ffeithiol.
    Mae'r ymholiad hwn yn dilyn canllawiau moesegol Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

    Adolygiad llenyddiaeth ymholi

    Bwriedir i egwyddorion cynnydd fod wrth wraidd y Cwricwlwm newydd i Gymru. Felly, rhaid sicrhau bod athrawon yn meddu ar ddealltwriaeth glir o ystyr cynnydd wrth ddysgu er mwyn cyflawni gwaith cynllunio cydlynol o ran y cwricwlwm. Yn seiliedig ar y syniad hwn, bydd yr astudiaeth hon yn canolbwyntio ar gynnydd dysgu ym maes gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3.

    Bwriedir i'r cwricwlwm cenedlaethol presennol ar gyfer gwyddoniaeth yng Nghymru fel y'i hamlinellir yng Nghwricwlwm Cymru 2008 ganolbwyntio ar y dysgwr ac ar sgiliau. Fe'i gweithredwyd yn sgil cyhoeddi Arolwg Sgiliau Generig Sgiliau Dyfodol Cymru 2003 a nododd mai diffyg sgiliau TG oedd y broblem fwyaf cyffredin a nodwyd gan gyflogwyr, a ddilynwyd gan sgiliau cyfathrebu, dangos mentergarwch, sgiliau datrys problemau a'r gallu i ddysgu.

    Ar y pryd, cefnogwyd hyn gan gonsensws o fewn addysg bod y gorchmynion pwnc presennol yn rhoi gormod o bwyslais ar wybodaeth fanwl am y pwnc. Arweiniodd hyn at ddatblygu Fframwaith Sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru a lywiodd gwricwlwm diwygiedig 2008 a'i drefniadau asesu. Rhagnododd y disgrifyddion lefel a gyhoeddwyd fframwaith ar gyfer cynnydd yn bennaf seiliedig ar ddatblygu sgiliau ym maes gwyddoniaeth a oedd yn dueddol o symud i ffwrdd o'r ffocws blaenorol ar gaffael gwybodaeth. Yn ei adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus' (2015), nododd Graham Donaldson fod y cwricwlwm presennol 'wedi cael ei orlwytho a’i gymhlethu ac mae rhannau ohono wedi dyddio'. Mae'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn wedi sbarduno fframwaith newydd Cwricwlwm i Gymru 2022 y bwriedir iddo newid ffocws gwaith cynllunio cynnydd dysgu i athrawon yn hytrach na'u bod yn dibynnu ar ddisgrifyddion rhagnodedig dysgu; bu hyn yn sail i'r astudiaeth hon wrth bennu sut mae'r argymhelliad hwn yn cymharu ag ymarfer presennol.
    Mae cynnydd clir yn gysylltiedig ag oedran yn un o egwyddorion cytûn cydlyniad cwricwlaidd (Myatt 2018). Ar lefel genedlaethol, dylai pob pwnc nodi ei gysyniadau craidd, ac ar lefel ysgol dylid rhoi ystyriaeth ofalus i fapio'r cwricwlwm a sut y trefnir dysgu. Yn bwysig ddigon, mae hyn yn golygu bod angen gwahaniaethu rhwng y cwricwlwm ac addysgeg.
    Diffinnir cynnydd fel y nodau sy'n dynodi syniadau i'w cyflawni ar gamau amrywiol gyda dealltwriaeth glir o sut mae un syniad yn dibynnu ar un arall a'r cysylltiadau rhwng syniadau gwahanol (Wynn Harlen 2010). Yn yr adroddiad ‘The Principles and Big Ideas in Science’ (2010), nodir, wrth ddatblygu cysyniadau, fod yn rhaid sicrhau dealltwriaeth glir o'r ffordd yr eir ati i ddysgu.

    Canfyddiadau cychwynnol

    Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar gwricwlwm gwyddoniaeth 2008 a'r arferion cyfredol o ran cynllunio'r cwricwlwm a'i asesu.
    Roedd y sawl a gyfwelwyd fel rhan o'r astudiaeth hon yn gytûn bod dogfennaeth bresennol y cwricwlwm cenedlaethol yn mapio'n glir gynnydd ar gyfer sgiliau yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. Mae'r canllawiau ategol a gyhoeddwyd wedi bod yn sail i'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm. Fodd bynnag, nododd yr unigolion fod y meini prawf lefel cwricwlwm cenedlaethol presennol yn fanwl ac yn rhagnodol. Teimlwyd bod hyn yn golygu bod y meini prawf lefel presennol wedi'u pennu'n rhy gaeth gan haenau. Fel y nododd cyfwelai un, o ganlyniad "roedd disgyblion blwyddyn 9 yn ei chael hi'n anodd cyfleu damcaniaeth wyddonol ond gallent dynnu tablau a graffiau gwych". O ganlyniad, oherwydd y gydberthynas agos iawn â sgiliau, roedd risg nad oedd digon o le i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol wyddonol wirioneddol disgyblion o fewn y datganiadau ystod. Gwaethygir hyn ymhellach gan y trefniadau asesu ac adrodd presennol, yn seiliedig ar ddatblygu sgiliau yn hytrach na gwybodaeth. Fel y nododd cyfwelai dau, "mae natur gaeth y fframwaith asesu yn cyfyngu ar gynnydd [canfyddedig] myfyrwyr". Felly, ystyriwyd bod hyn yn peri risg o anghydbwysedd rhwng y sgiliau ac ystod o fewn gwyddoniaeth yn y cwricwlwm presennol a gyhoeddwyd yn 2008.
    Er mwyn unioni'r sefyllfa, mae'r adran wedi llunio rhaglenni dysgu sy'n cysylltu sgiliau ac ystod. Roedd hyn yn golygu bod mwy o gydbwysedd rhwng caffael sgiliau a gwybodaeth drwy daith ddysgu disgyblion. Er enghraifft, meithrin gwybodaeth sylfaenol am asidau ac alcalïau a'u heffeithiau ym mlwyddyn 7 i effeithiau asidau ar yr amgylchedd drwy waith dadansoddi meintiol ym mlwyddyn 9. Fodd bynnag, er bod ystod eang o brofiadau dysgu drwy'r cyfnod allweddol i gyd, mae'r gwaith asesu a'r adborth a roddir i ddisgyblion yn canolbwyntio'n bennaf ar gaffael sgiliau o hyd. Mae hyn yn adlewyrchu gofynion y trefniadau asesu statudol presennol sy'n llywio'r camau a gymerir drwy'r cyfnod allweddol er mwyn cynhyrchu tystiolaeth ddilys i lunio dyfarniadau diwedd cyfnod.
    Nododd y sawl a gyfwelwyd fod y model yr hoffent ei weld o ran meithrin gwybodaeth wyddonol wedi'i ategu'n aml gan ddatblygu syniadau cadarn i gysyniadau mwy haniaethol. Ynghyd â hyn roedd annibyniaeth gynyddol o fewn dysgu'r disgyblion, gyda'r athro yn gorfod darparu llai o gymorth. Teimlwyd, ar hyn o bryd, mai un rhwystr i ddatblygu cynnydd ar gamau pontio pwysig o ran profiadau dysgwyr oedd y ffaith nad oedd digon o gyfle i weithio gyda chydweithwyr cynradd. Nodwyd y dyhead i gydweithio'n fwy yn y dyfodol. Teimlwyd y byddai hyn yn fodd i gytuno ar ddysgu priodol i oedran wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
    I gloi, mae'r gwaith ymholi hwn wedi tynnu sylw at y pwyntiau canlynol:

    • Ar hyn o bryd mae anghydbwysedd o ran ffocws yn y cwricwlwm gwyddoniaeth presennol o blaid caffael sgiliau yn hytrach na gwybodaeth
    • Caiff yr anghydbwysedd hwn ei lywio'n bennaf gan feini prawf asesu rhagnodol
    • Meithrin gwybodaeth o syniadau cadarn i wybodaeth haniaethol
    • Er mwyn datblygu trywyddau cynnydd effeithiol o fewn yr MDPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd, rhaid darparu mwy o gyfleoedd i gydweithio â chydweithwyr cynradd

    Cyfyngiadau

    Bwriadwyd i'r ymholiad hwn fod yn gyflwyniad i astudiaeth estynedig o'r pwnc. Mae'r pwnc hwn yn un eang ac un cyfyngiad sylweddol oedd pennu maint y prosiect er mwyn gallu ei reoli yn yr amser oedd ar gael. I ddechrau bwriadwyd cynnal astudiaeth gymharol mewn dau bwnc. Fodd bynnag, ni wnaeth amser ganiatáu hyn. Yn wreiddiol, bwriadwyd defnyddio sampl ehangach ar gyfer casglu tystiolaeth. Fodd bynnag, dim ond craffu ar sampl fechan, ond manwl, o waith disgyblion a fu'n bosibl fel rhan o gyfweliadau'r athrawon oherwydd cyfyngiadau amser yn ail hanner y tymor, ynghyd ag ymrwymiadau'r athrawon.

    Prif argymhellion/argymhellion cychwynnol

    • Bydd angen meithrin dealltwriaeth glir o beth yw cynnydd ym maes dysgu o ran y 'Disgrifiadau o Ddysgu' yn y cwricwlwm newydd er mwyn cynllunio'r cwricwlwm mewn ffordd gydlynol
    • Ar hyn o bryd mae anghydbwysedd o ran ffocws yn y cwricwlwm gwyddoniaeth presennol o blaid caffael sgiliau yn hytrach na gwybodaeth
    • Mae'r anghydbwysedd hwn yn bennaf seiliedig ar feini prawf asesu rhagnodol yn y cwricwlwm presennol sydd wedi effeithio ar y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm
    • Er mwyn datblygu trywyddau cynnydd effeithiol o fewn yr MDPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd, rhaid darparu mwy o gyfleoedd i gydweithio â chydweithwyr cynradd

    Mynediad i adnoddau ymholiad/gwybodaeth ychwanegol

    Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (2007). Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru. Ar gael: (https://dera.ioe.ac.uk//11297/)
    Graham Donaldson (2015). Dyfodol Llwyddiannus – Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Ar gael: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf
    Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Gwyddoniaeth: Canllawiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3. Ar gael: https://hwb.gov.wales/storage/44d86c6f-200a-4c81-a6d4-59cfba9c16cc/gwyddoniaeth-canllawiau-ar-gyfer-cyfnodau-allweddol-2-a-3.pdf
    Wynne Harlen (2010). Principles and Big Ideas in Science. Association for Science Education (ASE). Ar gael: https://www.ase.org.uk/bigideas
    Mary Myatt (2018). The Curriculum Gallimaufry to coherence. Woodbridge: John Catt Educational Ltd.