English

Sail dystiolaeth

Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r hawl dysgu proffesiynol, rydyn ni wedi cyfuno'r holl ffynonellau tystiolaeth yn ogystal â'r rhai sydd ar y dudalen adnoddau. Maen nhw'n amrywio o adolygiadau a gomisiynwyd o agweddau ar y system megis sefydlu athrawon newydd gymhwyso, i werthusiadau o gynlluniau penodol ac adolygiadau annibynnol o agweddau gwahanol ar ein system.

Ffynonellau tystiolaeth

Nod yr ymchwil hon yw deall profiadau a safbwyntiau athrawon newydd gymhwyso (ANGau) ar eu rhaglen sefydlu.

Ystyriaeth gan yr Athro Mick Waters yw hon o’r broses o sefydlu athrawon yn y proffesiwn addysgu er mwyn awgrymu ffyrdd y gallai fod yn fwy effeithiol i’r system a’r athrawon unigol.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad o Gynllun Sabothol y Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg.

Mae’r ymchwil hon yn gwerthuso effeithlonrwydd ac effeithiau disgwyliedig y safonau proffesiynol a’r modd maen nhw’n cael eu gweithredu, a’u gallu i gefnogi datblygiad gweithlu hynod fedrus.

Lluniwyd y papur gan ymchwilydd ar y Rhaglen Hyfforddiant Doethurol yn ystod hydref 2021. Mae wedi hysbysu ein dull o ddeall effaith Dysgu Proffesiynol ar ymarfer mewn ysgolion a deilliannau ar gyfer dysgwyr.

Mae’r papur hwn yn adolygiad strategol o gymorth ar gyfer arweinyddiaeth yng Nghymru sy’n cynnwys ystyried CPCP, y model cyllid ar gyfer cymorth arweinyddiaeth, cynllunio ar gyfer olyniaeth a’n disgwyliadau o rôl arweinyddiaeth wrth gyflawni’r cwricwlwm. Mae’n darparu adolygiad annibynnol critigol o rolau a chyfrifoldebau pob asiantaeth yn y system sy’n darparu cymorth ar gyfer arweinyddiaeth a sut maen nhw’n rhyngweithio i ganfod y datrysiadau gorau ar gyfer tîm arweinyddiaeth ysgol nodweddiadol, gan gynnwys Penaethiaid, Dirprwy Benaethiaid a Phenaethiaid Cynorthwyol.

Bu'r astudiaeth yn edrych ar y cyd-destun polisi sy'n cefnogi dysgu proffesiynol athrawon yng Nghymru, gan archwilio'r heriau, y cryfderau a'r datblygiadau arloesol.

Yn ystod cyfarfod Tachwedd 2020, cynhaliodd OECD ymweliad rhithwir ag amrywiaeth o randdeiliaid ac ymarferwyr yng Nghymru i gryfhau eu tystiolaeth.

Mae'r adroddiad wedi'i rannu yn 3 maes.

  • Persbectif system genedlaethol, creu system sy'n hyrwyddo dysgu proffesiynol parhaus.
  • Persbectif yr ysgol/ac arweinydd yr ysgol, ymgorffori dysgu proffesiynol mewn ysgolion.
  • Persbectif athrawon, ymgorffori dysgu proffesiynol mewn ymarfer addysgu.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd i'w hystyried/datblygu ymhellach ac yn dathlu'r gorchestion cadarnhaol yr ydym wedi'u cyflawni yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan dynnu sylw at y fframwaith polisi cynhwysfawr a'r ymrwymiad a rennir gan randdeiliaid sy'n rhan o system ysgolion Cymru a fydd yn darparu amodau rhagorol ar gyfer symud ymlaen.

Gweler copi o’r adroddiad ar wefan yr OECD.