Cynnig dysgu proffesiynol
Mae gan ymarferwyr fynediad at gynnig dysgu proffesiynol eang ac amrywiol i gefnogi eu datblygiad parhaus yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu (y safonau proffesiynol).
Wrth gynllunio eu taith dysgu proffesiynol dylai ymarferwyr geisio cynnwys dysgu proffesiynol ar:
- y Cwricwlwm i Gymru
- anghenion dysgu ychwanegol
- ymgorffori tegwch, lles a'r Gymraeg ar draws cymuned gyfan yr ysgol
Mae diwrnod HMS ychwanegol wedi cael ei gytuno ar gyfer ysgolion a lleoliadau hyd at ac yn cynnwys blwyddyn academaidd 2024 i 2025. Dylai’r diwrnod HMS ychwanegol ganolbwyntio ar ddysgu proffesiynol yn y meysydd blaenoriaeth a nodir uchod.
Cyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol cenedlaethol
Er mwyn cefnogi ymarferwyr addysg i ddeall ystod y dysgu proffesiynol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno ledled Cymru, rydym wedi mapio'r cyfleoedd a'r adnoddau dysgu proffesiynol sydd ar gael yn genedlaethol i'r 5 safon broffesiynol.
Mae'r consortia addysg a phrifysgolion yn bartneriaid allweddol sy’n cyflwyno ystod o raglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol sydd wedi cael eu datblygu'n genedlaethol ac sy’n cael eu cyflwyno'n rhanbarthol neu'n lleol.
Mae’r cyfleoedd a’r adnoddau ar gael i bob ymarferydd yn ôl yr angen a ceir gwybodaeth am sut i gael mynediad atynt yn y dogfennau canlynol:
Dysgu proffesiynol cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’n meysydd blaenoriaeth allweddol (pdf)
Dysgu proffesiynol cenedlaethol mewn meysydd eraill (pdf)
Yn ogystal, ceir gwybodaeth bellach ar wefan gweithio traws-rhanbarthol newydd.
Nid yw'r rhestr o gyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol cenedlaethol yn hollgynhwysfawr a bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Ceir gwybodaeth am ddysgu proffesiynol sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar y dudalen dysgu proffesiynol newydd.
Yn ogystal â'r cyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol, mae'r Hawl yn cynnwys ffordd i ymarferwyr addysg adeiladu ar eu dysgu trwy gydweithio. Er enghraifft, mae sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn rhoi cyfle i gymhwyso profiadau ymarferwyr a dysgu i heriau a chyfleoedd cenedlaethol ar y cyd, llywio barn genedlaethol ar gynnydd tuag at wireddu'r cwricwlwm, ac yn ei dro, pa gymorth, canllawiau a dysgu proffesiynol pellach sy'n ofynnol i fynd i'r afael â'r rhain wrth symud ymlaen.
Dysgu proffesiynol rhanbarthol neu leol
Mae'r consortia addysg ac awdurdodau lleol hefyd yn cyflwyno dysgu proffesiynol mwy lleol i fynd i'r afael ag anghenion penodol. Mae'r cyfleoedd dysgu proffesiynol rhanbarthol neu leol hyn yn amrywio ledled Cymru ond maent yn canolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr addysg i ddatblygu eu harferion mewn meysydd cyffredin. Ceir rhagor o fanylion ar wefannau'r consortia addysg ac yn y dogfennau isod a ddarparwyd gan awdurdodau lleol a chonsortia addysg.
Mae'r dysgu proffesiynol a gynigir gan y consortia addysg ar gael i bawb ac yn ymestyn dros y gweithlu cyfan. Caiff rhywfaint o'r dysgu proffesiynol ei ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa unigol benodol, caiff y dysgu proffesiynol arall ei gynllunio i bawb gyda chyfle i fyfyrio ar yr hyn y mae'n ei olygu mewn rôl benodol. Mae datblygu ar y cyd yn parhau i fod yn gydran greiddiol o'r ffordd y mae'r consortia addysg yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ymarferol. Rhan annatod o hyn yw'r gwaith gwerthuso sydd ar waith i fonitro effaith y cymorth a ddarperir ac yn dilyn hynny, mireinio'r arlwy fel y bo'n ofynnol.
Mae dysgu proffesiynol ym mhob consortia addysgu yn cwmpasu, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- lles a thegwch
- y Gymraeg
- addysgeg
- cynllunio'r cwricwlwm
- asesu a chynnydd
- elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys pontio
- hunanwerthuso gan gynnwys ymgysylltu a gweithio gyda chymheiriaid
- digidol
- coetsio
Bydd y modelau cyflawni yn amrywio, gyda rhai'n cael eu cyflawni gan ysgolion sy'n cydweithio trwy fodel clwstwr, ac eraill yn cael eu harwain gan ysgolion, arbenigwyr neu randdeiliaid penodol. Dyma'r dulliau cyflwyno dysgu proffesiynol cyffredin:
- dysgu proffesiynol byw (mewn person neu ar-lein)
- dysgu proffesiynol anghydamserol (rhestrau chwarae, aseiniadau neu adnoddau ar-lein)
- cyfarfodydd rhwydwaith
- gweminarau (fe'u cynhelir yn fyw ond caiff recordiadau eu rhannu)
- podlediadau
- astudiaethau achos
- blogiau
- prosiectau â ffocws (sy'n darparu dysgu proffesiynol i'r rheini sy'n cymryd rhan ac sy'n creu dysgu ar gyfer y system)
Dysgu proffesiynol dan arweiniad ysgol neu leoliad
Mae pob ysgol a lleoliad yn cael diwrnodau HMS. Caiff dysgu proffesiynol a gyflwynir fel rhan o HMS ei benderfynu yn lleol.
Yn ogystal â diwrnodau HMS, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddyrannu'r grant dysgu proffesiynol i ysgolion a lleoliadau. Dyrennir y grant i ysgolion neu leoliadau yn uniongyrchol drwy'r consortia addysg. Prif ddiben y cyllid yw caniatáu i ysgolion a lleoliadau greu amser a lle i ymarferwyr ac arweinwyr addysg gydweithio ym mhob ysgol, lleoliad a rhwydwaith er mwyn parhau i fynd at y cymorth angenrheidiol i ddatblygu eu harferion. Mae astudiaethau achos ar Hwb yn dangos ystod o ddulliau arloesol a ddefnyddir gan ysgolion i wneud y defnydd mwyaf o'r grant dysgu proffesiynol.