English

Sylfaen y cwricwlwm ar gyfer dysgu proffesiynol mewn safonau cyffredin ar draws pob rôl.

Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i adolygu’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon, arweinwyr ac ymarferwyr sy’n cynorthwyo addysgu mewn ysgolion.

Bwriad y safonau proffesiynol yw:

  • nodi disgwyliadau clir o ran arferion effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, y cyfnod y bydd yn ymuno â’r proffesiwn
  • galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu harferion, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, yn erbyn safonau sy’n nodi arferion effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
  • cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach
  • darparu cefndir i’r broses rheoli perfformiad.

Mae’r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn adlewyrchu arferion sy’n gyson â’r cwricwlwm newydd.

Pan fydd ymarferwyr unigol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol, dylent fod yn glir ynghylch sut y mae’n cefnogi eu gwaith mewn perthynas â’r safonau proffesiynol.

Meddyliwch am fideo gan arbenigwr arweiniol ar wella ysgolion yn trafod pwysigrwydd yr elfen hon yng nghyd-destun y dull gweithredu cenedlaethol ehangach.

Ystyriwch ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail i’r elfen hon o’r dull gweithredu cenedlaethol.

Safonau proffesiynol