English

Yn darparu mwy o fynediad a hyblygrwydd, ac yn sicrhau bod dysgu wedi’i seilio ar arferion.

Wrth sôn am ddysgu proffesiynol ‘cyfunol’, rydym yn cyfeirio at gydbwysedd rhwng pedwar elfen.

  • Byw – dysgu cyfarwyddol neu gydweithredol, y tu allan i ddosbarth yr ymarferydd.
  • Electronig – ar-lein, gan ddefnyddio offer digidol i gael mynediad at gynnwys ac i gyfathrebu a chydweithio.
  • Dosbarth – dysgu ar sail arferion, a arweinir yn aml gan ymchwil weithredu neu ymchwil agos at arfer.
  • Dysgu hyfforddedig – gweithio’n agos â hyfforddwr, sy’n gallu canolbwyntio ar anghenion dysgu personol penodol yr ymarferydd.

Mae’r cyfuniad cywir o’r elfennau hyn yn sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i ymarferwyr ac arweinwyr.

Meddyliwch am fideo gan arbenigwr ar ddysgu cyfunol hyblyg yn trafod pwysigrwydd yr elfen hon yng nghyd-destun y dull gweithredu cenedlaethol ehangach.

Ymchwil

Ystyriwch ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail i’r elfen hon o’r dull gweithredu cenedlaethol.