English

Mae ein strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, Cymraeg 2050, yn gosod targedau hirdymor ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a Chymraeg fel a ganlyn. Yn fras, rydym yn recriwtio nifer digonol o athrawon cyfrwng Cymraeg i'r sector cynradd i allu cyrraedd y targedau. Fodd bynnag, mae cyrraedd y targedau ar gyfer y sector uwchradd yn her. Mae angen ffocws penodol ar gynyddu nifer yr athrawon uwchradd a all addysgu Cymraeg fel pwnc ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Cychwynnodd cynllun pontio peilot ym mis Medi 2020 gyda 10 o athrawon, gyda 14 athro arall yn dilyn y cynllun yn 2021 i 2022 ac 20 arall yn 2022 i 2023. Yn sgil adborth cadarnhaol gan yr athrawon a’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan byddwn yn parhau gyda’r cynllun yn 2023 i 2024 a chynnig cyfle i 20 athro arall. 

Bydd y rhaglen yn cael ei darparu mewn partneriaeth rhwng ysgolion a darparwyr addysg gychwynnol athrawon (AGA) dros gyfnod o flwyddyn ysgol.

Bydd pedwar diwrnod o gefnogaeth yn cael eu darparu gan y darparwyr AGA ar y themâu canlynol:

  • rheolaeth dosbarth
  • rheolaeth Ymddygiad
  • lles yr athro a datblygu dycnwch
  • strategaethau Rheoli amser/llwyth gwaith
  • trosolwg technegau cynllunio gwersi
  • trosolwg o’r Cwricwlwm newydd
  • mewnbwn ieithyddol: yn ôl angen yr unigolion

Bydd ysgolion yn gyfrifol am ddarparu ystod o brofiadau a chefnogaeth a fydd yn darparu datblygiad proffesiynol i unigolion ar y canlynol:

  • mewnbwn pynciol
  • marcio ac adborth
  • cynllunio gwersi

Bydd disgwyl i bob unigolyn addysgu gwersi gydag amserlen yn cynyddu dros y flwyddyn. Bydd gan bob unigolyn fynediad i Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn gyfrifol am gynnal deialog proffesiynol am ddatblygiad gyda’r unigolyn bob pythefnos ac i fod yn cefnogi mewn gwers unwaith y pythefnos.

Edrychwn am 20 o unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Gwahoddwn geisiadau gan athrawon cymwys yn y categorïau canynol:

  • Athrawon cynradd yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn mewn ysgol uwchradd.
  • Athrawon cynradd sydd yn gweithio yn Lloegr ond am ddychwelyd i ddysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru.
  • Athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn ar ôl cyfnod o bum mlynedd neu fwy.

Bydd unigolion yn mynegi diddordeb i fod yn rhan o’r cynllun trwy Lywodraeth Cymru trwy lawrlwytho’r ffurflen ac e-bostio’r ffurflen gan ddefnyddio’r ddogfen isod. Bydd rhain yn cael eu rhannu gydag ysgolion partner i’w hystyried a symud y broses ymgeisio ffurfiol yn ei blaen.

Y dyddiad cau yw 11:59pm ar ddydd Llun 13 Mawrth 2023.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau’r Pasg.

Bydd pob unigolyn yn derbyn cyflog ar y raddfa briodol am flwyddyn ysgol. Bydd yr unigolion yn derbyn cytundeb ac yn cael eu talu gan yr ysgolion/awdurdodau lleol. Ni fydd gwarant swydd barhaol ar ddiwedd y rhaglen, ond bydd cyfle i unigolion ymgeisio am swyddi gweigion mewn ysgolion uwchradd.

Dogfennau

  • Ffurflen gais i unigolion (Cymraeg yn unig) docx 22 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Hysbysiad preifatrwydd pdf 191 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â thîm y Cynllun Pontio Cyfrwng Cymraeg ar AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru