English

5. Cynllunio eich cwricwlwm

Mae’r hyn yn rhoi arweiniad penodol i’w ddefnyddio wrth ymgorffori dysgu o fewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn eich cwricwlwm. Dylai gael ei ddarllen ynghyd ag adran gyffredinol Cynllunio eich cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu trwy bob maes dysgu a phrofiad.

Rhaid i gwricwlwm ymwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm. Isod, mae rhai egwyddorion allweddol y dylai lleoliadau/ysgolion eu hystyried wrth gynllunio dysgu ac addysgu yn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes).

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Llythrennedd

Dylai llythrennedd fod wrth wraidd y Maes hwn, ar draws pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Dylai sgiliau llythrennedd gael eu dysgu’n benodol yn y Maes hwn. Gall y rhain alluogi dysgwyr i fynegi’u hunain, deall a dehongli iaith lafar ac ysgrifenedig ynghyd â mynegi ystyr. Dylai lleoliadau ac ysgolion gynllunio ar gyfer cymhwyso a datblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm ar bob cam cynnydd.

Mae cwmpas eang i ddisgrifiadau dysgu y Maes hwn ac maen nhw’n cynnig cyfeirbwyntiau ar gyfer cynnydd. Ceir mwy o fanylion ar gyfer cynnydd mewn llythrennedd ar draws y cwricwlwm yn y Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol.

Rhifedd

Yn y Maes hwn mae cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau llythrennedd a rhifedd gyda’i gilydd, er enghraifft wrth ddatrys problemau ar ffurf geiriau. Dylai fod cyfleoedd hefyd i archwilio rhifedd mewn gwahanol ieithoedd, a gallai hyn atgyfnerthu dealltwriaeth gysyniadol.

Cymhwysedd digidol

Dylai dysgu yn y Maes hwn gynnig cyfleoedd i ddefnyddio gwahanol ddulliau o gyfathrebu digidol. Dylai dysgwyr ddysgu sut i gyfansoddi negeseuon clir a phriodol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, gan rannu, cydweithio, golygu ac addasu yn ôl y gofyn. Dylai cyfleoedd hefyd gael eu cynnig iddyn nhw gydweithio’n lleol a byd-eang drwy lwyfannau digidol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol ieithoedd a diwylliannau. Gall defnyddio technoleg wrth ddysgu am lenyddiaeth fod o gymorth i ddysgwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth y tu hwnt i’r testun o’u blaenau.

Sgiliau cyfannol

Creadigrwydd ac arloesedd

Dylai dysgu yn y Maes hwn gynnig cyfleoedd i arbrofi gyda, a defnyddio ieithoedd yn greadigol er mwyn rhoi’r hyder i ddysgwyr fentro, i fynegi barn ac i gynhyrchu syniadau ar draws ieithoedd. Gall hyn arwain at ganlyniadau arloesol. Gall dysgwyr ddatblygu eu creadigrwydd trwy gyfleoedd i greu a pherfformio llenyddiaeth. Gall mynegiant creadigol ddyfnhau dealltwriaeth dysgwyr o’r cysyniadau allweddol yn ogystal â dull y mynegiant ei hun.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Yn y Maes hwn dylai gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu fod yn sail i ddatblygu meddwl beirniadol a datrys problemau. Gellir mireinio’r sgiliau hyn drwy gyfathrebu gydag eraill er mwyn deall sefyllfaoedd a mynegi syniadau ac er mwyn datblygu ymatebion i broblemau.

Effeithiolrwydd personol

Dylai dysgwyr ddatblygu eu heffeithiolrwydd a’u hunanymwybyddiaeth personol wrth ddysgu a defnyddio eu hieithoedd, a bydd hyn yn ei dro yn cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm. Dylai cynnig awyrgylch sy’n ieithyddol gyfoethog gefnogi’r holl ddysgwyr i fyfyrio ar eu cryfderau eu hunain yn eu defnydd o iaith, ac adnabod eu meysydd datblygu eu hunain er mwyn datblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu yn gyson.

Cynllunio a threfnu

Dylai dysgu yn y Maes hwn alluogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau i ddethol a defnyddio ffynonellau a gwybodaeth briodol. Dylai hyn eu galluogi i drefnu syniadau, creu cynlluniau effeithiol a datblygu gweithiau creadigol. Drwy dderbyn y cyfle i ddefnyddio sgiliau llythrennedd er mwyn cyflwyno cynlluniau a gweithredu datrysiadau’n eglur, gall dysgwyr fyfyrio ar eu gwaith a chynllunio a gweithredu gwelliannau pellach.

Mae’r pedwar datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn cyfeirio at Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Dylid ystyried y pedwar datganiad yn holistaidd wrth gynllunio cwricwlwm y lleoliad neu’r ysgol. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd, gyda phob un yn cefnogi datblygiad y tri arall. Gellir datblygu pob dull o gyfathrebu, gan gynnwys gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu, trwy lenyddiaeth a thrwy archwilio’r cysylltiadau rhwng ieithoedd, diwylliant a hunaniaeth. Mae pob datganiad yn cydnabod bod dysgu sgiliau a gwybodaeth mewn un iaith yn gallu cryfhau’r wybodaeth a’r dysgu am y sgiliau hynny ymhob iaith arall.

Egwyddorion allweddol wrth gynllunio eich cwricwlwm ar gyfer y Maes hwn

Bydd angen i leoliadau ac ysgolion gynllunio er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd priodol yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol. Mae’r cysyniad continwwm dysgu iaith yn sail i gynnydd yn y Maes hwn. Bydd dysgwyr yn datblygu o fod ag ychydig neu ddim sgiliau na gwybodaeth iaith i fod yn fedrus yn yr ieithoedd maen nhw’n eu dysgu yn yr ysgol. Bydd dysgwyr yn amrywio o ran gallu yn eu hieithoedd, ac wrth i’r lleoliad neu’r ysgol gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer yr ail iaith ac ieithoedd dilynol bydd angen ystyriaeth fanwl i’r camau cynnar, megis cyfatebiaeth graffem-ffonem.

Mae’r disgrifiadau dysgu ar gyfer ‘Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd’ yn gyffredin i bob dysgwr ymhob ysgol yng Nghymru.

Mae’r disgrifiadau dysgu ar gyfer y tri datganiad arall o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn cael eu cyflwyno i adlewyrchu’r cyflymder a’r dyfnder mewn gwahanol gyd-destunau dysgu iaith. Ar gyfer y Gymraeg bydd angen i leoliadau ac ysgolion ystyried y disgrifiadau dysgu sydd fwyaf addas ar gyfer eu dysgwyr. Yn ogystal â dysgwyr mewn lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg, bydd cyflymder a dyfnder y dysgu yn y Gymraeg a ddangosir yn y disgrifiadau dysgu Cymraeg/Saesneg yn fwy addas i rai dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, rhai sydd er enghraifft wedi mynychu cylch meithrin neu wedi symud o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg.

Dangosir cynnydd mewn iaith neu ieithoedd rhyngwladol yn y disgrifiadau dysgu o Gamau cynnydd 3, 4 a 5. Yn ogystal â’r Gymraeg a’r Saesneg, dylai’r holl ddysgwyr gael y cyfle i ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol yn yr ysgol ac i ddefnyddio ieithoedd cartref ac ieithoedd cymunedol eraill y maen nhw’n eu siarad. Dylai lleoliadau ac ysgolion annog dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau amlieithog a dylai dysgwyr ddeall gwerth gallu defnyddio gwahanol ieithoedd.

Dewis yr ysgol neu glwstwr yw pa ieithoedd rhyngwladol i’w cynnig. Efallai y bydd ysgolion yn dewis cynnig gwahanol ieithoedd rhyngwladol – mae sgiliau dysgu iaith yn drosglwyddadwy, a gall dysgwyr gyfoethogi eu hymwybyddiaeth ieithyddol a rhyng-ddiwylliannol trwy gael mynediad at sawl iaith. Gall lleoliadau ac ysgolion ddymuno cydweithio ag eraill, er enghraifft er mwyn cynnig dilyniant yn yr iaith a gynigir o un cam cynnydd i’r nesaf neu fel bod gan ddysgwyr fwy o ddewis o ieithoedd rhyngwladol. Gallan nhw ddewis ieithoedd a ddefnyddir gan staff yn yr ysgol neu yn y gymuned ehangach. Dylen nhw fanteisio ar gyfleoedd byd-eang, digidol ac yn y gymuned er mwyn atgyfnerthu dysgu ac addysgu ieithoedd.

Dylid cyfeirio at y Model Pum Cam ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) neu Cymraeg fel iaith ychwanegol (CIY) a deunyddiau cymorth wrth ystyried cynnydd dysgwyr SIY mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dysgwyr CIY mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’r Pecyn cymorth caffael iaith: arolwg asesu anghenion i athrawon cynradd ac uwchradd ar gael ar-lein ar Hwb.

Pecyn cymorth caffael iaith: Arolwg asesu anghenion ar gyfer Cymraeg fel iaith ychwanegol: cynradd

Pecyn cymorth caffael iaith: Arolwg asesu anghenion ar gyfer Cymraeg fel iaith ychwanegol: uwchradd

Ystyriaethau allweddol wrth gynllunio eich cwricwlwm ar gyfer y Maes hwn

Wrth gynllunio eich cwricwlwm yn eich ysgol, dylid rhoi ystyriaeth i’r math o ddarpariaeth iaith yn ogystal â’r ystod o brofiadau ieithyddol a diwylliannol sy’n cael eu cynnig i’r dysgwyr. Dylai ysgolion hefyd gynllunio ar gyfer datblygu sgiliau ymhob iaith a gynigir a sicrhau ehangder a dyfnder wrth ddewis llenyddiaeth.

Ystyriaethau ar gyfer darpariaeth a phrofiadau
  • Beth yw tirwedd ieithyddol presennol eich ysgol a’ch clwstwr? Beth yw’r ffordd orau i chi ddefnyddio hyn i fod o gymorth i’ch dysgwyr wneud cynnydd yn eu holl ieithoedd?
  • Sut y byddwch chi’n dewis pa iaith neu ieithoedd rhyngwladol i’w dysgu? Sut y byddwch chi’n darparu ehangder a dyfnder mewn ieithoedd rhyngwladol?
  • Sut y byddwch chi’n darparu cyfleoedd addas a digonol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg, Saesneg ac iaith neu ieithoedd rhyngwladol mewn cyd-destunau pwrpasol?
  • Sut y byddwch chi’n creu awyrgylch sy’n annog dysgwyr i dynnu ar eu gwybodaeth o nifer o ieithoedd, gan gynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o fewn ieithoedd (acen, tafodiaithcywair, jargon, a phriodiaith) i hybu dealltwriaeth a gwella cyfathrebu wrth ymwneud ag eraill?
  • Sut y byddwch chi’n datblygu strategaethau i gynnwys ac adeiladu ar ieithoedd cartref a diwylliannau’r dysgwyr o fewn y dosbarth?
  • Sut y byddwch chi’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr siarad yn ddigymell yn ogystal â siarad mewn sefyllfaoedd wedi’u cynllunio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gydag ystod o gyfoedion ac oedolion?
  • Sut y byddwch chi’n cynnig ystod eang o lenyddiaeth i ddysgwyr, gan gynnwys testunau amlfodd a heriol ar ffurf papur, digidol, electronig a byw, gan feithrin mwynhad yn eu darllen a gwylio pwrpasol, a’u hannog i archwilio llyfrau a thechnolegau newydd?
Ystyriaethau ar gyfer datblygiad iaith
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn parhau i wneud cynnydd yn eu holl ieithoedd beth bynnag yw eu mannau cychwyn?
  • Sut y byddwch chi’n darparu cyfleoedd i gysylltu ag eraill mewn gwahanol rannau o’r byd i gynnig cyd-destunau dilys ar gyfer datblygiad ieithyddol a diwylliannol?
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau awyrgylch ieithyddol gyfoethog ar gyfer yr holl ddysgwyr gan gynnwys awyrgylch amlieithog, wyneb yn wyneb, trwy iaith/ieithoedd digidol neu ysgrifenedig, a hyn fel model ar gyfer gwella eu sgiliau iaith eu hunain?
  • Sut y byddwch chi’n darparu datblygiad systematig o ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig?
  • Sut y byddwch chi’n cefnogi datblygiad darllen ar gyfer yr holl ddysgwyr?
  • Pa ysgogiadau perthnasol, cyffrous, dilys a heriol allwch chi eu darparu er mwyn ysbrydoli a chynorthwyo i baratoi ar gyfer siarad ac ysgrifennu pwrpasol (dan do, tu allan trwy ymweliadau/teithiau, ac ati)?
  • Sut y byddwch chi’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud cynnydd wrth iddyn nhw ddysgu siarad yn ogystal â dysgu trwy siarad?
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau mewn un iaith yn cael eu trosglwyddo i ieithoedd eraill, ac yna’n cael eu datblygu?
Ystyriaethau wrth ddethol llenyddiaeth
  • Dylai dysgwyr brofi cyfoeth o lenyddiaeth sy’n darparu cyfleoedd i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
  • Dylai ysgolion greu diwylliant darllen cadarnhaol sy’n trochi dysgwyr mewn llenyddiaeth, ac sy’n yn adlewyrchu eu diddordebau a thanio eu brwdfrydedd.
  • Dylai dysgwyr gael mynediad at ystod amrywiol o brofiadau llenyddol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
  • Dylai dysgwyr cael eu cyflwyno i lenyddiaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth a diwylliannau yn lleol, yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd ehangach.
  • Dylai ysgolion ddewis llenyddiaeth sy’n ddigon cyfoethog a sylweddol i ddenu diddordeb dysgwyr yn ddeallusol ac emosiynol, ac sy’n gallu eu hannog i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a’u newid.
  • Dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn profi ystod o lenyddiaeth gyfoes a llenyddiaeth o wahanol gyfnodau yn y gorffennol.
  • Dylai dysgwyr gael y cyfle i brofi a dysgu am lenyddiaeth a llenorion/creuwyr sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol, boed yng Nghymru (Cymraeg/Saesneg), cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig ac/neu yn rhyngwladol (gan gynnwys llenyddiaeth Saesneg a llenyddiaeth mewn ieithoedd cartref ac ieithoedd rhyngwladol y dysgwyr). Gallai’r cyfraniad hwn fod yn nhermau maes o fewn llenyddiaeth, yn nhermau iaith neu yn nhermau diwylliant a threftadaeth.
Ystyriaethau addysgeg ar gyfer y Maes hwn

Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylid ystyried gwahanol addysgeg sy’n benodol ar gyfer y Maes hwn. Mae dysgu ac addysgu sgiliau megis gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn effeithiol yn gofyn am ddull gweithredu systematig ysgol-gyfan, felly hefyd sgiliau trawsieithyddol megis cyfryngu a thrawsieithu. Dylai ysgolion hefyd fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau rhwng caffael a dysgu iaith gyntaf, ail iaith ac ieithoedd eraill yn eu cyd-destunau, ac ystyried sut orau i sicrhau cynnydd ar gyfer yr holl ddysgwyr yn eu holl ieithoedd, er enghraifft trwy drochi, Dysgu Cynnwys ac Iaith yn Integredig (CLIL) neu weithgareddau lluosieithog.

Gellir cael mwy o wybodaeth yn:

Dulliau addysgu dwyieithog

Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth: Ymagweddau a Dulliau Addysgu Ail Iaith Effeithiol

Darllen

Yn y cyfnodau cynnar, mae dysgu darllen yn ddibynnol ar yr iaith lafar sydd gan ddysgwyr. Felly mae datblygu sgiliau gwrando a siarad da yn angenrheidiol i lwyddo wrth ddysgu darllen.

Gall dysgwyr ifanc fod yn gyfarwydd â llyfrau stori, hwiangerddi a phrint wrth iddyn nhw ddechrau addysg ffurfiol. Bydd rhai wedi dechrau adnabod llythrennau unigol a geiriau. Bydd gan eraill, fodd bynnag, brofiad mwy cyfyng o ddefnyddio iaith, rhannu straeon, caneuon a rhigymau gydag oedolion. Mewn rhai achosion, gallai dysgwyr fod ag anghenion dysgu cyffredinol neu benodol. Byddan nhw hefyd efallai yn dysgu darllen mewn iaith sy’n wahanol i’w hiaith lafar. Mae’r pwyntiau cychwynnol a phrofiadau gwahanol hyn yn golygu y dylai lleoliadau ac ysgolion wneud penderfyniadau gwybodus am sut y byddan nhw’n rhoi cymorth i ddysgwyr ddod yn ddarllenwyr llwyddiannus.

Dylai dysgwyr feithrin sgiliau darllen cynnar o fewn awyrgylch sy’n gyfoethog o ran iaith, lle mae gweithgareddau’n ystyrlon, dychmygus ac amrywiol. Dylai’r gweithgareddau hyn hybu diddordeb dysgwyr mewn mwynhau darllen, darllen i ddibenion dychmygus a darllen ar gyfer dysgu.   

Mae ymchwil yn cydnabod ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig fel sgiliau gwybyddol pwysig wrth ddysgu darllen. Dylai ysgolion osod gweithdrefnau clir ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig y dysgwyr yn systematig, gan roi pwyslais ar hyn. Pan mae’n addas ar gyfer y dysgwr, dylai dysgu ffoneg fod yn systematig a chyson, gan ddigwydd gyda gweithgareddau ieithyddol eraill, sy’n hybu datblygiad geirfa a dealltwriaeth. 

Nid yw gallu dadgodio geiriau yn unig yn ddigon. Dylai dysgwyr fod yn gallu gwneud synnwyr o’r hyn y maen nhw’n ei ddarllen. Dylai addysgu alluogi dysgwyr i feithrin ystod o sgiliau a chymhwyso gwahanol strategaethau i ddod yn ddarllenwyr rhugl. Dylai hyn ddarparu sylfaen gadarn iddyn nhw ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau iaith a llythrennedd.

Enghreifftio ehangder

Darperir y canlynol fel enghreifftiau o sut y gallech archwilio dysgu testunol gwahanol yn y Maes hwn. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain.

Gall meithrin gwybodaeth am ieithoedd ddatgloi straeon a hanesion enwau lleoedd megis Cymru (ac Wales) ei hun, neu Glasgow yn yr Alban neu Trelew yn yr Ariannin.  Cynigia amrediad o lenyddiaeth gan lenorion mor amrywiol â T.H. Parry Williams, Shakespeare, Manon Steffan Ros, Eric Ngalle Charles a  Russell T. Davies  wahanol bersbectifau a dehongliadau o Gymru a phrofiadau Cymreig, a allai ysbrydoli dysgwyr i fynegi eu hunaniaeth a deall newidiadau dros amser mewn cymdeithas. Mae gallu cyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol arall yn cynorthwyo dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol a llwyddiannus yng Nghymru a'r byd.

Dylai datblygu sgiliau cyfathrebu a llythrennedd effeithiol, yn ogystal â dysgu am etymoleg o fewn y Maes hwn, hwyluso cynnydd ym mhob maes dysgu a phrofiad trwy roi gwell mynediad i wybodaeth, cysyniadau a therminoleg ar gyfer dysgwyr.

Mae BSL yn gallu gwneud yr holl bethau y gall ieithoedd eraill eu gwneud a gall defnyddwyr BSL byddar ei defnyddio ar draws pob Maes. Mae gan BSL eirfa lefel uwch sy'n berthnasol i feysydd pwnc academaidd. Ar gyfer ymarferwyr sy’n ymwybodol o amrywiadau rhanbarthol BSL, gall adnoddau megis Rhestrau Termau Cwricwlwm BSL Canolfan Scottish Sensory (BSL/Saesneg yn unig) gynnig man cychwyn defnyddiol er mwyn addysgu geirfa pynciau benodol.

Celfyddydau Mynegiannol

Gall disgyblaethau o fewn y Celfyddydau Mynegiannol gael eu defnyddio fel ffordd i ddysgwyr ddatblygu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu gan gynnwys trwy lythrennedd gweledol, meddwl creadigol ac ysgrifennu creadigol, deall cynulleidfa a diben ac addasu iaith ar gyfer cynulleidfa, cyflwyno barddoniaeth, drama, ffilm, amlgyfryngau, chwarae rôl a chanu. Mae profiadau o lenyddiaeth yn ei holl ffurfiau ar draws y ddau Faes hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sensitifrwydd ac empathi diwylliannol.

Gall barddoniaeth BSL, theatr pobl fyddar, comedi pobl fyddar, celfyddydau gweledol y byddar ac iaith y llygaid gefnogi dysgu’r Celfyddydau Mynegiannol yn ogystal â dysgu BSL. Gall hefyd ddyfnhau ymwybyddiaeth o ddiwylliant Byddar.

Iechyd a Lles

Mae’r ddau Faes yma yn cyfuno i ddarparu sgiliau fydd yn galluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol. Bydd hyn yn ei dro yn darparu sail ar gyfer datblygu cydberthnasau iach. Bydd datblygiad corfforol a gwybyddol yn effeithio ar gaffael lleferydd ac iaith a datblygu symudiadau echddygol manwl fel llawysgrifen. Mae sgiliau llythrennedd yn galluogi dysgwyr i archwilio testunau sy’n ymwneud ag iechyd a lles. Mae darllen ac ysgrifennu er mwyn pleser hefyd yn darparu cyfleoedd i wella ymdeimlad o les yn y dysgwr.

Gall sgiliau BSL fod yn gyfle i ddysgwyr fynegi eu hunain yn effeithiol, bod yn agored i safbwyntiau pobl eraill a meithrin cydberthnasau cadarnhaol. Maent yn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr BSL byddar meddu ar hunan-eiriolaeth a gall helpu i liniaru'r risg eu bod yn cael eu hynysu, eu cau allan a theimlo rhwystredigaeth, pethau y gallai pobl fyddar fod yn eu hwynebu. 

Gall dysgu ac addysgu o fewn iechyd a lles wella ymwybyddiaeth o ddiwylliant Byddar a dealltwriaeth o faterion ynghylch hawliau pobl anabl, ieithoedd lleiafrifol a chydnabod BSL.

Dyniaethau

Mae ieithoedd a llenyddiaeth yn chwarae rhan allweddol mewn hunaniaeth ac yn gallu bod o gymorth i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad cymunedau a chymdeithasau. Mae llenyddiaeth yn darparu tystiolaeth werthfawr ar gyfer ymchwiliadau mewn dyniaethau, ac yn gallu bod yn destun yr ymchwiliadau hyn. Gall dysgwyr archwilio llenyddiaeth o ystod o ddiwylliannau a chymdeithasau, o’r gorffennol a’r presennol, o’r ardal leol, o Gymru ac o weddill y byd.

Gall dysgu am hanes BSL ac am bobl fyddar mewn hanes helpu i gyfrannu at well dealltwriaeth o hunaniaeth a diwylliant Byddar heddiw, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gall dysgwyr archwilio cysyniadau cyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau drwy ddysgu am ddiwylliant Byddar a BSL.

Mathemateg a Rhifedd

Gellir defnyddio caneuon a rhigymau i ddysgu rhifedd cynnar ym mhob iaith. Mae dod o hyd i batrymau a’u cymhwyso ar gyfer datrys problemau yn sgil sydd ei hangen ar gyfer cynnydd yn y ddau Faes yma.

Gall dysgu rhifolion BSL ac arwyddion ar gyfer meintiau, amser ac arian, er enghraifft, helpu i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol dysgwyr o fathemateg. Mae systemau cyfrif un llaw BSL yn gallu cefnogi ymwybyddiaeth o wahanol fonau rhifau. 

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae cyfathrebu digidol ac ieithoedd cyfrifiadurol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyswllt i atgyfnerthu dysgu ar draws y ddau Faes yma. Mae dysgwyr yn cymhwyso sgiliau llythrennedd megis iaith gyfarwyddiadol ac arsylwadol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, yn ogystal â chael mynediad at destunau, a’u cynhyrchu, a defnyddio geirfa dechnegol a gwyddonol yn gywir. Mae sgiliau cyfathrebu dylunio yn cyfuno’r ddau Faes yma wrth ddatblygu meddylfryd dylunio dysgwyr ynghyd â chyfathrebu eu syniadau i eraill.

Am ei bod hi’n iaith weledol, gall dysgu ac addysgu trwy BSL helpu i gefnogi ac atgyfnerthu dealltwriaeth gysyniadol dysgwyr mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae cyfathrebu digidol hefyd yn cynnig cyfleoedd i greu cysylltiadau ac atgyfnerthu dysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn BSL.

Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y Maes hwn

Dylai dysgu yn y Maes hwn ysbrydoli a galluogi dysgwyr i:

  • ddod yn amlieithog, gallu defnyddio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith rhyngwladol a datblygu meddwl agored a chwilfrydedd tuag at holl ieithoedd a diwylliannau y byd.
  • mwynhau dysgu ieithoedd a datblygu delwedd gadarnhaol o'u hunain fel defnyddwyr yr ieithoedd hynny
  • defnyddio iaith/ieithoedd a diwylliant/diwylliannau eu cartrefi a’u cymunedau a defnyddio’r rhain fel sail i ddysgu ieithoedd ymhellach
  • cael sail gadarn yn Gymraeg a Saesneg i adeiladu arno wrth ddysgu ieithoedd eraill ac wrth ddyfnhau eu dealltwriaeth o gyd-destunau cenedlaethol a byd-eang
  • myfyrio ar eu treftadaeth ieithyddol personol a lleol
  • dod yn wybodus am amrywiaeth treftadaeth ieithyddol a diwylliannol lleol, yng Nghymru ac yn fyd-eang
  • datblygu eu hymdeimlad o hunaniaeth ieithyddol yn lleol, yng Nghymru ac yn fyd-eang. Ble bynnag y ganwyd y dysgwyr a’u teuluoedd, mae’r dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ysgol yng Nghymru. Byddan nhw felly, dros gyfnod o amser, yn datblygu perthynas â Chymru a’u hymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn ogystal â chyda’r byd ehangach
  • ymdrochi eu hunain mewn diwylliannau ac ieithoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol trwy ymweliadau, gan ymwneud â phobl yn lleol a byd-eang a chysylltu’n ddigidol
  • meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant a hunaniaeth y rhai o’u hamgylch, gan greu ymagwedd o gyd-barch sy’n arwain at gydlyniant cymdeithasol
  • datblygu gwerthfawrogiad o lenyddiaeth, wedi cael ei hysbrydoli gan lenorion a chreuwyr o Gymru a’r byd ehangach.

Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn y Maes hwn

Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith (addysg a phrofiadau byd gwaith) yn galluogi dysgwyr i ddod yn fwyfwy ymwybodol o'r ffordd y bydd sgiliau a ddatblygir yn y Maes hwn yn eu helpu i addasu i sefyllfaoedd a chynulleidfaoedd amrywiol. Dylai dysgwyr ddechrau gwrando ar eraill ac ymateb iddyn nhw mewn ffordd gynyddol briodol. Gellir datblygu hyn er mwyn galluogi dysgwyr i sefydlu cydberthnasau gwaith cadarnhaol ag amrywiaeth eang o bobl. Wrth i ddysgwyr feithrin hyder wrth ddefnyddio eu sgiliau ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, dylai ysgolion a lleoliadau eu hannog i gymhwyso a meithrin y sgiliau hyn drwy addysg a phrofiadau byd gwaith.

Dylai ysgolion a lleoliadau greu cyfleoedd i feithrin dealltwriaeth o lythrennedd yn y gweithle, gan gynnwys defnyddio geirfa sy'n gysylltiedig â byd gwaith. Er enghraifft, dylid darparu enwau swyddi, acronymau a therminoleg sy'n benodol ar gyfer galwedigaeth. Wrth i ddysgwyr gronni'r eirfa hon ac wrth iddyn nhw feithrin hyder yn eu sgiliau cyfathrebu, gallan nhw ddechrau lleisio eu barn yn effeithiol ar eu dyheadau gyrfa a mynd ati'n effeithiol i geisio cyngor ac arweiniad wrth wneud penderfyniadau.

Dylai dysgwyr ddod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd iaith y corff a dulliau cyfathrebu amgen mewn gweithlu amrywiol a chynhwysol. Wrth i sgiliau cyfathrebu dysgwyr aeddfedu, gallan nhw ddod yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau yn y byd gwaith a bod yn fwy hyderus i herio ymddygiad negyddol.

Mae dysgu ieithoedd yn golygu y gellir cael mynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd a byd gwaith mewn cyd-destunau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwybodaeth am ieithoedd gan y gall hyn eu cefnogi i fasnachu'n rhyngwladol, gan sefydlu lle Cymru yn y dirwedd economaidd fyd-eang. Dylai dysgwyr hefyd fod yn ymwybodol o'r galw cynyddol am sgiliau Cymraeg yn y gweithle, wrth i Gymru weithio tuag at y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Addysg hawliau dynol ac amrywiaeth yn y Maes hwn

Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r cyfleoedd yn y Maes hwn i feithrin a datblygu parch ac empathi dysgwyr tuag at ieithoedd a hunaniaeth pobl eraill, tra’n dathlu a pharchu tebygrwydd a gwahaniaethau. Dylid ystyried amlieithrwydd o fewn yr ystafell ddosbarth fel cyfle i godi ymwybyddiaeth dysgwyr o amrywiaeth, a hybu cyfoeth diwylliannol yr ysgol a’r gymuned.

Dylai ysgolion anelu at feithrin perthynas gyda’r cartref a lleoliadau eraill a hybu partneriaethau. Gall cefnogi datblygiad ieithoedd cartref fod o gymorth i hyrwyddo a datblygu ymddiriedaeth, gwerthfawrogiad a pharch ar draws ieithoedd a diwylliannau.

Addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y Maes hwn

Mae siarad, gwrando, ymateb a magu empathi yn sgiliau sy'n hollbwysig i bob mater sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan gynnwys gwneud ffrindiau, gofyn am gyngor ac, yn y dyfodol, ddatblygu cydberthnasau rhywiol iach. Mae'r Maes hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr wneud synnwyr o'r hyn y maen nhw’n ei glywed, ei ddarllen, ei weld a'i deimlo pan fyddan nhw’n ymgysylltu â llenyddiaeth, gwahanol gyfryngau a'r byd o'u cwmpas. Mae hyn yn cynnwys y gallu i ddadansoddi ac ystyried gan ddefnyddio ystod o gyfryngau, arddulliau a genres. Yng nghyd-destun addysg cydberthynas a rhywioldeb, gallai hyn gynnwys ystyried delweddau corfforol neu stereoteipiau o gydberthnasau mewn cartwnau, ffilmiau, barddoniaeth, ffuglen, rhaglenni dogfen ac, yn gynyddol, lwyfannau cyfathrebu ac adrodd storïau digidol.

Mae'r Maes hwn hefyd yn galluogi dysgwyr i brofi ystod o bynciau addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n aml yn heriol ac yn sensitif ac ymateb iddyn nhw fel gwrandawyr, gwylwyr, darllenwyr, adroddwyr a chrewyr. Fel y cyfryw, gall gynnig ffyrdd diogel, cynhwysol a chreadigol o ystyried pynciau addysg cydberthynas a rhywioldeb o safbwyntiau diwylliannol ac ieithyddol amrywiol. Gall dysgwyr ystyried sut y caiff themâu allweddol ym maes addysg cydberthynas a rhywioldeb eu trin mewn llenyddiaeth a'u llywio gan iaith. Gall hyn helpu dysgwyr i ddechrau meddwl yn feirniadol am y modd y mae normau o ran cydberthnasau, rhywedd, rhyw a chyrff yn amlygu eu hunain mewn diwylliannau a chymunedau gwahanol, gan gynnwys eu diwylliant a'u cymuned eu hunain. Gall ystyried addysg cydberthynas a rhywioldeb drwy lenyddiaeth hefyd helpu dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth a gwahaniaeth.

Trosolwg

Mae'r Gymraeg yn eiddo i bawb ac mae'n un o drysorau Cymru. Mae'n rhan o'r hyn sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Yr uchelgais yw bod pawb sy'n dysgu mewn ysgol neu leoliad yng Nghymru yn cael eu cefnogi i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, i wneud cynnydd parhaus wrth ddysgu Cymraeg ac i gael yr hyder a'r sgiliau iaith fel y gallan nhw ddewis defnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pob ymarferydd mewn addysg cyfrwng Saesneg sy’n rhan o drefnu, cynllunio, asesu ac adolygu Cymraeg yn eu cwricwlwm. Ei nod yw helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei ddysgu a’i addysgu, yn ogystal â’u dealltwriaeth o gynnydd. Gall ysgolion ddefnyddio’r canllawiau hyn wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm ac asesu i helpu i nodi’r wybodaeth, sgiliau, profiadau ac ymagweddau a fydd yn ganolog iddo. Yna gellir defnyddio’r egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu i ddatblygu dysgu dros amser ac i sicrhau cynnydd yn y Gymraeg ar gyflymder heriol.

Mae cynnydd wrth ddysgu Cymraeg pedwar diben

Gofynion mandadol y cwricwlwm

Dysgu ac addysgu Cymraeg

Rhaid i gwricwlwm ysgol neu leoliad ymgorffori'r holl ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig a chefnogi'r Cod Cynnydd. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran crynodeb o'r ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r fframwaith.

Mae’r Gymraeg yn ofyniad mandadol o fewn Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (y Maes hwn) yn nodi'r hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cwricwlwm mewn perthynas â dysgu ac addysgu Cymraeg.

Cynnydd

Mae darparu ar gyfer cynnydd priodol dysgwyr yn ofyniad mandadol arall o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr egwyddorion cynnydd yn helpu ysgol neu leoliad i ystyried anghenion dysgwyr ac i fyfyrio ar gyflymder a dyfnder er mwyn sicrhau cynnydd wrth ddysgu Cymraeg.

Mae’n rhaid ystyried anghenion y dysgwyr wrth benderfynu ar fanylion yr hyn a ddysgir ac a addysgir, gan gynnwys sut i asesu ac adeiladu'n effeithiol ar gynnydd blaenorol dysgwyr. Er enghraifft, yn 5 oed efallai y byddwch yn canolbwyntio ar y Gymraeg y gall dysgwyr ei defnyddio pan fyddant yn chwarae; y Gymraeg y gallan nhw ei defnyddio i siarad â chyd-ddisgyblion a staff am yr hyn sy'n bwysig iddynt ac i siarad am yr hyn y maen nhw’n ei wneud ac yn ei ddysgu o ddydd i ddydd. Yn 16 oed, gellir canolbwyntio ar gyfleoedd pellach i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg, er enghraifft, yr iaith sy'n gysylltiedig â’u diddordebau; Cymraeg ar gyfer cymdeithasu; a Chymraeg ar gyfer y gweithle.

Mae camau cynnydd yn ymwneud yn fras ag oedran. Fodd bynnag, nid yw dysgu yn broses linol ac ni fydd cynnydd mewn dysgu iaith yr un fath i bob dysgwr. Bydd angen i'r hyn a ddysgir a'r adnoddau a ddefnyddir adlewyrchu oedran y dysgwyr yn ogystal â lle maen nhw arni ar eu taith dysgu Cymraeg.

Er mwyn sicrhau cynnydd, mae angen bod dysgu’n adeiladu ar y Gymraeg sydd gan ddysgwyr eisoes ac mae angen cynnig sylfaen ar gyfer y cam nesaf o ddysgu iaith (boed yn yr un ysgol neu leoliad neu mewn un arall). Mae angen i ddysgwyr glywed, gweld a darllen Cymraeg yn rheolaidd. Mae angen eu cefnogi hefyd i gymhwyso eu dysgu a defnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destunau newydd.

Mae angen amser ar athrawon a chlystyrau i gynllunio gyda'i gilydd i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Bydd hyn yn parhau i gael ei gefnogi drwy brosiect Camau i'r Dyfodol a fydd yn cefnogi'r proffesiwn i integreiddio cynnydd mewn dysgu, cynllunio’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg yn eu harferion bob dydd.

Dysgu ac addysgu Cymraeg: Ystyriaethau ar gyfer darpariaeth a phrofiadau

Gall ymarferwyr ystyried y cwestiynau canlynol wrth drefnu, cynllunio ac adolygu dysgu a phrofiadau mewn perthynas â’r Gymraeg:

Beth yw gweledigaeth ein hysgol, lleoliad a/neu glwstwr ar gyfer dysgu, addysgu a defnyddio'r Gymraeg?

Sut ydyn ni’n sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn parhau i wneud cynnydd yn y Gymraeg beth bynnag yw eu mannau cychwyn?

Sut ydyn ni’n sicrhau amgylchedd ieithyddol cyfoethog ar gyfer yr holl ddysgwyr fel model ar gyfer eu defnydd eu hunain o'r Gymraeg?

Beth ydyn ni eisiau i'n dysgwyr ei brofi, ei wybod ac i allu ei wneud yn Gymraeg?

Pa ymagweddau ydyn ni eisiau i'n dysgwyr eu datblygu drwy ddysgu Cymraeg?

Ym mha gyd-destunau y mae ein dysgwyr am allu defnyddio eu Cymraeg?

Sut ydyn ni’n darparu cyfleoedd addas a digonol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destunau dilys?

Sut ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr siarad yn ddigymell yn ogystal â siarad mewn sefyllfaoedd wedi’u cynllunio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gyda gwahanol bobl?

Sut ydyn ni’n rhoi amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr glywed, gweld a darllen Cymraeg gyfoethog ac amrywiol?

Sut ydyn ni ‘n gweithio gyda gwahanol bobl a sefydliadau i gefnogi datblygiad diwylliannol?

Gall athrawon ystyried y cwestiynau canlynol wrth edrych ar addysgeg ar gyfer dysgu iaith:

Sut ydyn ni’n adeiladu ar wybodaeth flaenorol dysgwyr am iaith/ieithoedd i gefnogi dysgu Cymraeg?

Sut ydym yn darparu datblygiad systematig o ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig?

Dysgu ac addysgu Cymraeg: Profiadau, gwybodaeth, sgiliau ac ymagweddau

Rôl profiadau, gwybodaeth, sgiliau ac ymagweddau

Cyflwynir isod brofiadau, gwybodaeth, sgiliau ac ymagweddau Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg o dan benawdau 4 datganiad mandadol o'r hyn sy'n bwysig y Maes hwn. Nid yw’r rhain yn rhestri hollgynhwysfawr ond yn fan cychwyn wrth drefnu, cynllunio, ac adolygu'r Gymraeg o fewn cwricwlwm ysgol neu leoliad. Mae deunyddiau ategol ar gyfer cynllunio cwricwlwm gyda phwrpas ar gael ar Hwb.

  • Profiadau

    Mae profiadau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • rhyngweithio'n barhaus â'r Gymraeg a diwylliannau Cymru
    • archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry a beth mae'r Gymraeg yn ei olygu i wahanol bobl mewn gwahanol leoedd ac ar wahanol adegau mewn amser
    • myfyrio ar eu hunaniaeth ddiwylliannol a’u perthynas â'r Gymraeg a datblygu dealltwriaeth o wahanol agweddau a pharch tuag atynt
    • defnyddio'r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd a thrwy gydol y diwrnod ysgol
    • cyfathrebu yn Gymraeg wyneb yn wyneb a thrwy blatfformau digidol mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
    • cael eu cyfoethogi gan amgylcheddau sy'n gyfoethog o ran iaith wrth iddynt glywed a defnyddio'r iaith a fodelwyd ac a addysgir iddynt. Bydd hyn yn adlewyrchu amrywiaeth iaith, gan gynnwys acenion a thafodieithoedd lleol, er enghraifft, taid/tad-cu; .. gyda fe/mae... ganddo fo
    • archwilio esblygiad iaith ac etymoleg, er enghraifft geiriau sy'n deillio o Ladin fel caws (caseus), draig (draco) a meddyg (medicus)
    Gwybodaeth

    Mae gwybodaeth o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • cydnabod Cymru fel gwlad ddwyieithog gyda chymunedau ieithyddol amrywiol
    • cydnabod manteision personol, cymdeithasol, gwybyddol ac economaidd bod yn ddwyieithog neu’n amlieithog
    • deall bod ieithoedd yn rhannu hanes ac yn esblygu dros amser, er enghraifft, bod y Gymraeg wedi datblygu o'r iaith a siaradwyd gan yr hen Frythoniaid; bod cyhoeddi'r Beibl yn Gymraeg yn 1588 wedi gwarchod yr iaith, ei diwylliant a'i thraddodiadau; bod defnyddwyr yr iaith yn parhau i ddatblygu termau mewn ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, er enghraifft geiriau fel rhyngrwyd, hunanynysu, cynaliadwy ac ailgylchu
    • deall y bydd ymdeimlad pawb o hunaniaeth Gymreig yn wahanol a bod gan bawb sy'n cael eu haddysgu yng Nghymru berthynas ag iaith a diwylliannau Cymru, waeth beth fo'u man geni neu iaith/ieithoedd cartref eu teuluoedd 
    • deall bod iaith yn aml yn perthyn i deulu ehangach o ieithoedd (er enghraifft, mae'r Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Celtaidd, tra bod y Saesneg yn perthyn i deulu ieithoedd Germanaidd) ac y gall hyn yn aml esbonio'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng ieithoedd a pham, er enghraifft, fod gennym y gair ‘dwr’ yn Gymraeg, ‘dowr’ yn Gernyweg a ‘dour’ yn Llydaweg; yn ogystal ag ystyried geiriau sy'n swnio a/neu'n edrych yr un fath mewn dwy iaith ond sydd ag ystyron gwahanol, er enghraifft, 'bore', 'brain', 'barn', 'call', 'camp', 'dim', 'man', 'pen'
    Sgiliau

    Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • trosglwyddo'r hyn maen nhw’n ei wybod a'i ddeall o'r Saesneg ac ieithoedd eraill i gefnogi eu cynnydd yn y Gymraeg
    • defnyddio mwy nag un iaith yn eu dysgu wrth gyfryngu neu drawsieithu
    Ymagweddau

    Mae dysgu a phrofiadau yn y Gymraeg yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r ymagweddau canlynol:

    • agwedd agored i ddysgu ieithoedd a dysgu am ddiwylliannau eraill, gan ddeall bod iaith a diwylliant wedi’u rhyngblethu, a’u bod yn dylanwadu ar ei gilydd ac yn hyrwyddo ffyrdd penodol o weld a deall y byd
    • ymwybyddiaeth bersonol o'u hunaniaeth fel defnyddwyr y Gymraeg
    • croesawu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol
  • Profiadau
    • Mae profiadau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:
    • clywed a gweld y Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau gydol y diwrnod ysgol
    • profi gwahanol fathau o siarad a modelu rôl iaith gan amrywiaeth o siaradwyr a ffynonellau
    • datblygu gwahanol sgiliau darllen at ddibenion gwahanol, er enghraifft darllen yn uchel a darllen er mwynhad
    • cyfoethogi eu geirfa ac ehangu eu meddwl trwy destunau clywedol ac ysgrifenedig Cymraeg amrywiol ac ysbrydoledig
    Gwybodaeth

    Mae gwybodaeth o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • gwella eu profiadau yng nghyd-destun yr ysgol a thu hwnt drwy well dealltwriaeth o Gymraeg lafar ac ysgrifenedig
    • trosglwyddo cysyniadau a strategaethau iaith a ddysgwyd yn Saesneg neu ieithoedd eraill i gefnogi dealltwriaeth yn y Gymraeg, er enghraifft strategaethau datgodio, gwybodaeth am atalnodi a gramadeg
    • deall amrywiaeth o ffurfiau a genres a ddewisir gan awduron i gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd ac at ddibenion gwahanol
    • deall sut y gall yr hyn a glywn ac a ddarllenwn ddylanwadu ar ein barn ar lefel ymwybodol ac is-ymwybodol, gan gynnwys effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth
    • deall sut y gellir dehongli testun fod yn wahanol yn ôl persbectif personol, cymdeithasol neu ddiwylliannol y gwrandäwr, y gwyliwr neu'r darllenydd
    Sgiliau

    Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • dehongli ystyr mewn gwahanol fathau o gyfathrebu, gan gynnwys mynegiant yr wyneb a chiwiau di-eiriau 
    • dangos dealltwriaeth o destunau mewn ffyrdd amrywiol
    • gwerthuso dibynadwyedd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud
    • defnyddio strategaethau o’u hieithoedd eraill, gan gynnwys trawsieithu, a dysgu strategaethau newydd i gefnogi eu dealltwriaeth
    Ymagweddau

    Mae dysgu a phrofiadau yn y Gymraeg yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r ymagweddau canlynol:

    • empathi at eraill
    • twf personol drwy ddysgu am wahanol safbwyntiau
  • Profiadau

    Mae profiadau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • cyfleu eu meddyliau, eu teimladau a'u barn go iawn
    • defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchedd lle maen nhw’n teimlo'n hyderus ac yn cael eu cefnogi
    • defnyddio'r Gymraeg at ddibenion gwahanol mewn cyd-destunau dilys, gan ryngweithio ag ystod o wahanol bobl
    • cyfathrebu mewn amrywiaeth eang o ffurfiau, arddulliau a genres, gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau
    Gwybodaeth

    Mae gwybodaeth o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • adnabod seiniau llafar yn y Gymraeg sy'n wahanol ac yn debyg i'r rhai yn eu hieithoedd eraill
    • deall ein bod yn cyfathrebu mewn gwahanol ffyrdd, yn ôl pwrpas a chynulleidfa
    • cydnabod y gall y cywair a ddewisir gyfleu parch neu gynefindra mewn perthynas
    • gwella eu cyfathrebu drwy ddefnyddio ystod o eirfa berthnasol ac uchelgeisiol ar draws y cwricwlwm
    • adnabod agweddau ar ramadeg ac atalnodi sy'n debyg ac yn wahanol i’w hieithoedd eraill
    Sgiliau

    Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • cyfathrebu yn Gymraeg gyda annibyniaeth gynyddol ac yn ddigymell
    • dewis iaith briodol ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd a chynulleidfaoedd
    • addasu neu newid eu hiaith yn ôl y sefyllfa gymdeithasol ac ieithyddol
    • cymhwyso eu gwybodaeth am y Gymraeg, gan gynnwys geirfa, ynganu, sillafu a gramadeg, wrth gyfathrebu
    • trosglwyddo eu Cymraeg i gyd-destunau newydd 
    • defnyddio strategaethau i adolygu a gwella eu cyfathrebu
    • defnyddio ystod o eirfa, cystrawen, ac iaith idiomatig
    Ymagweddau

    Mae dysgu a phrofiadau yn y Gymraeg yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r ymagweddau canlynol:

    • y gallu i fynegi empathi a pharch tuag at eraill
    • dealltwriaeth o'u safbwyntiau am y byd a'u gwerthoedd personol eu hunain
    • chwilfrydedd a chymryd risgiau yn eu mynegiant
  • Profiadau

    Mae profiadau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • cael eu trochi mewn diwylliant darllen cadarnhaol
    • profi deunyddiau dilys, wedi'u dewis ganddyn nhw neu ar eu cyfer, mewn ystod o genres
    • gwrando ar bobl yn darllen iddynt yn Gymraeg
    • ymuno â chaneuon, rhigymau, straeon a cherddi
    • mwynhau gwrando ar lenyddiaeth ac edrych arni
    • ymgysylltu â llenyddiaeth sy'n cynrychioli amrywiaeth ac yn adlewyrchu ystod o brofiadau ac sy'n datblygu ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol
    • cydweithio a datblygu creadigrwydd a mynegiant gan ddefnyddio ystod o gyfryngau
    Gwybodaeth

    Mae gwybodaeth o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • gwerthfawrogi traddodiad a diwylliant llenyddol Cymru
    • cydnabod ystod ac amrywiaeth y llenyddiaeth fodern a chlasurol sydd ar gael yn y Gymraeg
    Sgiliau

    Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

    • mynegi eu hunain yn greadigol, er enghraifft drwy adrodd straeon ac ysgrifennu creadigol
    • gwneud cysylltiadau â phethau y maen nhw wedi'u darllen, eu clywed neu eu gweld o'r blaen 
    • ymateb i lenyddiaeth, gan fynegi eu barn bersonol a dangos parch at safbwyntiau pobl eraill  
    • gwneud dewisiadau gwybodus am yr hyn y maen nhw’n ei ddarllen a'i weld
    Ymagweddau

    Mae dysgu a phrofiadau yn y Gymraeg yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r ymagweddau canlynol:

    • empathi drwy ymgysylltu â llenyddiaeth
    • agwedd agored at wahaniaeth ac amrywiaeth
    • ymdeimlad cynyddol o’u hunain

Disgrifiadau dysgu

Ar ôl nodi gwybodaeth, sgiliau, profiadau ac ymagweddau, gellir defnyddio’r egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu i helpu i ddatblygu dysgu ac addysgu dros amser ac i sicrhau cynnydd ar gyflymder heriol.

Mae’r disgrifiadau dysgu yn y Maes hwn ar gyfer ‘Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd’ yn gyffredin i bob dysgwr ymhob ysgol a lleoliad yng Nghymru.

Mae’r disgrifiadau dysgu ar gyfer y 3 datganiad arall o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn cael eu cyflwyno i adlewyrchu’r cyflymder a’r dyfnder mewn gwahanol gyd-destunau dysgu iaith. Ar gyfer y Gymraeg bydd angen i leoliadau ac ysgolion ystyried y disgrifiadau dysgu sydd fwyaf addas ar gyfer eu dysgwyr.

Mae rhai disgrifiadau dysgu yr un fath ac maen nhw’n ymddangos ar yr un cam cynnydd ar gyfer Cymraeg mewn lleoliadau, ysgolion a ffrydiau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Er enghraifft ‘Rwy’n gallu cynhyrchu nifer o seiniau llafar yn gywir’ yng ngham cynnydd 1 a 'Rwy’n gallu ddarllen ar goedd gyda mynegiant, gan roi sylw i atalnodi' yng ngham cynnydd 2.

Mae rhai disgrifiadau dysgu yn ymddangos mewn cam cynnydd diweddarach i ddysgwyr y mae eu haddysg yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Er enghraifft, mae ‘Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud’ yn ymddangos yng ngham cynnydd 4 ar gyfer lleoliadau, ysgolion a ffrydiau cyfrwng Cymraeg ac yng ngham cynnydd 5 ar gyfer lleoliadau, ysgolion a ffrydiau cyfrwng Saesneg.

Ceir disgrifiadau dysgu sy'n ymddangos yn y disgrifiadau dysgu ar gyfer ysgolion, lleoliadau a ffrydiau cyfrwng Cymraeg yn unig. Er enghraifft, mae ‘Rwy’n gallu gwerthuso cysyniadau allweddol yn feirniadol ynghyd ag effaith dewisiadau iaith a thechnegau ar y darllenwyr neu wylwyr gan ddefnyddio detholiad cadarn o fanylion perthnasol o’r testun’ yn ymddangos yng ngham cynnydd 5. Er bod y cynnydd a ddisgrifir yma yn fwy cyffredin i ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gall dysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg hefyd dangos y cynnydd a ddisgrifir yma.

Felly, mae angen mynd i'r afael ag anghenion unigol dysgwyr wrth gynllunio ar gyfer cynnydd mewn dysgu Cymraeg er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm ac asesu a gynlluniwyd yn galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd wrth ddysgu Cymraeg.

Addysg cyfrwng Saesneg

Ar hyn o bryd nid oes un diffiniad cyfreithiol o ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn deddfwriaeth. Pan fyddwn yn cyfeirio at lleoliadau, ysgolion a ffrydiau cyfrwng Saesneg yn y cwricwlwm, rydym yn golygu'r lleoliadau, ysgolion a ffrydiau hynny sy'n addysgu'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Dim ond fel canllaw y bwriedir hyn a chredwn y bydd lleoliadau, ysgolion a ffrydiau yn gallu adnabod yn gywir a ydynt o fewn y diffiniad hwnnw.

Mae ffilmiau ar gael ar restr chwarae Iaith Arwyddion Prydain Addysg Cymru (YouTube) i helpu dysgwyr a’u teuluoedd ddeall mwy am Gwricwlwm i Gymru ac am BSL yn y cwricwlwm.

Mae fersiynau BSL o’r pedwar diben, datganiadau o’r hyn sy’n bwysig Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a’r disgrifiadau dysgu ar gyfer BSL yn cael eu datblygu. Rydym hefyd yn gweithio i ddatblygu adnodd termau BSL i gyd-fynd â’r cwricwlwm.

Cyflwyniad

Mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn iaith weledol gyda’i gramadeg a lecsicon ei hun. Mae’n iaith leiafrifol gynhenid ac yn iaith gyntaf i lawer o blant byddar a phobl ifanc fyddar yng Nghymru. Cafodd BSL ei hadnabod fel iaith annibynnol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2003. Cafodd ei hadnabod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ionawr 2004.

Mae Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei ddatblygu i fod yn hygyrch i bawb. Gall unrhyw un ddysgu BSL waeth beth yw cyfrwng yr addysg neu iaith y cartref. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer ymarferwyr sy’n ymwneud â chynllunio cwricwlwm sy’n cynnwys BSL ar gyfer defnyddiwr BSL sy’n fyddar, yn ogystal â dysgwyr eraill sy’n dysgu BSL fel ail iaith, trydedd iaith neu iaith ddilynol. Dylid ystyried y canllawiau hyn yng nghyd-destun Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (y Maes).

At ddibenion y canllawiau hyn, mae'r term 'byddar' yn cynnwys pob math o fyddardod waeth beth fo'r amgylchiadau personol neu ddiwylliant, er enghraifft, os yw'r unigolyn yn defnyddio BSL fel iaith gyntaf neu os oes yn well ganddo siarad ar lafar; os oes ganddo fewnblaniadau cochlear neu gymhorthion clywed. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio fod gwahanol bobl yn dewis uniaethu â gwahanol dermau wrth ddisgrifio eu byddardod. Dewis personol yw'r termau hynny a dylai ymarferwyr drafod hyn gyda dysgwyr a'u teuluoedd.

Y pedwar diben

Gall dysgu BSL gyfrannu at wireddu pob un o bedwar diben y Cwricwlwm.

Dysgwyr uchelgeisiol a galluog

Drwy ddysgu BSL, gall dysgwyr sy'n clywed a dysgwyr byddar o bob oedran feithrin eu gallu a'u huchelgais i gyfathrebu drwy ddefnyddio iaith arwyddion o fewn y gymuned Fyddar a'r gymuned sy'n clywed. Drwy ddysgu BSL, gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o gyfathrebu dynol yn fwy cyffredinol a chryfhau'r hyn y maent yn ei wybod am y ffordd y mae ieithoedd yn gweithio, gan roi sylfaen gadarn i ddysgu ieithoedd eraill. Drwy ddysgu BSL gall dysgwyr ddod yn ymwybodol o natur amlgyfrwng cyfathrebu dynol ynghyd â rôl iaith weledol. 

Fel yn achos unrhyw system iaith, mae astudio BSL yn galluogi dysgwyr i feithrin eu dealltwriaeth o gyfathrebu fel rhywbeth sy'n ganolog i'r cyflwr dynol. Yn yr un modd gall gweithio allan sut y caiff BSL ei rhoi at ei gilydd hefyd gefnogi metawybyddiaeth. Mae'r wybodaeth a'r sgiliau a feithrinir drwy ddysgu BSL yn werthfawr ac yn berthnasol i'w defnyddio ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith, a hynny yn y tymor byr a’r tymor hir. 

Cyfranwyr mentrus a chreadigol

Gall sgiliau BSL effeithiol helpu dysgwyr i wneud synnwyr o gysyniadau ym mhob rhan o'r cwricwlwm, er enghraifft drwy eu galluogi i fynegi eu rhesymeg wrth ddatrys problemau a dadansoddi gwybodaeth. Mae sgiliau amlieithog effeithiol yn dyfnhau'r gallu hwn am eu bod yn galluogi dysgwyr i ymateb mewn llawer mwy o gyd-destunau.

Mae cyfathrebu gweledol yn annog dysgwyr i feddwl yn greadigol ac mae'n rhaid iddynt fod yn barod i arbrofi, mentro, ymateb i heriau a chymhwyso strategaethau i ddatrys problemau cyfathrebu. Gall y sgiliau hyn fagu hyder dysgwyr a’u galluogi i achub ar gyfleoedd newydd ac addasu i rolau gwahanol.

Dinasyddion egwyddorol a gwybodus

Wrth i allu dysgwyr i ddeall a defnyddio BSL ddatblygu, gallant hefyd feithrin nifer o sgiliau perthnasol. Gall dysgu BSL annog dysgwyr i gamu y tu hwnt i ffiniau diwylliannol cyfarwydd a datblygu ffyrdd newydd o fynegi a thrafod ystyr, gan eu galluogi i gyfrannu at ddatblygu cymdeithas fyd-eang sy’n gynhwysol i bobl fyddar a phobl sy'n clywed. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, fynd i’r afael â materion ynghylch hawliau pobl anabl, ieithoedd lleiafrifol, cydnabod BSL a chyfathrebu drwy dechnoleg.

Dylai dysgu ac addysgu fod o gymorth i ddysgwyr feithrin eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o ddiwylliannau a hunaniaethau'r gymuned Fyddar a'r gymuned sy'n clywed lle mae BSL yn iaith gyntaf neu'n cael ei defnyddio’n arferol ar gyfer cyfathrebu beunyddiol. Gall hyn gynnwys ymwybyddiaeth o amrywiadau rhanbarthol yn BSL.

Unigolion iach a hyderus

Mae cysylltiad agos rhwng cyfathrebu a lles. Mae sgiliau iaith effeithiol yn ein helpu i reoli ein bywydau o ddydd i ddydd yn annibynnol. Gall sgiliau BSL a bod yn rhan o’r gymuned Fyddar gefnogi hunaniaeth dysgwyr byddar. Gall sgiliau BSL fod yn gyfle i ddysgwyr fynegi eu hunain yn effeithiol, bod yn agored i safbwyntiau pobl eraill a meithrin cydberthnasau cadarnhaol. Fel iaith weledol mae BSL yn galluogi i ddefnyddwyr fynegi ystod eang o emosiynau a theimladau gyda mwy o arlliw ac awgrym na llawer o ieithoedd llafar. Gall cyfathrebu gweledol helpu i fagu mwy o hyder a chwalu rhwystrau cyfathrebu.

Mae fersiwn BSL o’r pedwar diben i chi ddefnyddio gyda’ch dysgwyr.

Sgiliau trawsgwricwlaidd a’r sgiliau sy'n hanfodol i'r pedwar diben

Rhaid i gwricwlwm ysgol ddatblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a'r sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben. Mae'r canlynol yn nodi rhai agweddau allweddol i ysgolion a lleoliadau eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu BSL.

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Sgiliau digidol

Gall dysgu BSL a dysgu sgiliau digidol gefnogi ei gilydd. Gall dysgwyr ddysgu'r sgiliau i gyfathrebu o bell gan ddefnyddio BSL, dod o hyd i adnoddau BSL ar-lein a'u defnyddio, a chreu a rhannu eu deunyddiau BSL digidol eu hunain. Dylai dysgwyr gael y cyfle i ddefnyddio’r dechnoleg sydd fwyaf addas i'w hanghenion cyfathrebu.

Llythrennedd

Iaith weledol yw BSL ac nid oes ffurf ysgrifenedig arni. Mae testunau BSL yn cael eu creu trwy ffilmio iaith arwyddion.

Gall sgiliau BSL rhugl fod yn sail ar gyfer rhuglder mewn llythrennedd mewn iethoedd eraill.

Rhifedd

Gall dysgu rhifolion BSL ac arwyddion ar gyfer meintiau, amser ac arian helpu i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol dysgwyr. Gall systemau cyfrif BSL un llaw gefnogi ymwybyddiaeth o wahanol fonau rhifau. 

Sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben

Creadigrwydd ac arloesi

Gall dysgu roi cyfleoedd i arbrofi ag iaith a'i defnyddio'n greadigol er mwyn rhoi hyder i ddysgwyr fentro, mynegi barn a chynhyrchu syniadau mewn cyd-destun lluosieithog. Gall hyn arwain at ddeilliannau arloesol. Gallant ddatblygu eu creadigrwydd drwy gyfleoedd i greu a pherfformio llenyddiaeth BSL. Gall mynegiant creadigol wella dealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau allweddol yn ogystal â dulliau mynegiant.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Gall sgiliau derbyn iaith a sgiliau mynegi yn BSL fod yn sail i feithrin y gallu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau. Wrth i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ac ystwythder diwylliannol maent hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu ag erail. Gall hyn eu galluogi i ddeall sefyllfaoedd, mynegi syniadau a datblygu ymatebion i broblemau.

Effeithiolrwydd personol

Gall dysgwyr feithrin eu heffeithiolrwydd personol a'u hunanymwybyddiaeth wrth ddysgu a defnyddio BSL. Gall hyn yn ei dro gefnogi dysgu ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Gall cynnig amgylchedd sy'n llawn iaith ac yn lluosieithog helpu dysgwyr i fyfyrio ar eu cryfderau eu hunain o ran defnydd iaith. Maent yn gallu adnabod eu meysydd datblygu eu hunain er mwyn gwella eu sgiliau iaith a chyfathrebu.

Cynllunio a threfnu

Gall dysgu BSL helpu dysgwyr i feithrin y gallu i drefnu syniadau, gwneud cynlluniau effeithiol a datblygu gwaith creadigol. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau dewis a defnyddio ffynonellau a gwybodaeth briodol. Gall dysgwyr fyfyrio ar eu gwaith a chynllunio a gwneud gwelliannau pellach trwy gyfleodd i gyflwyno cynlluniau a rhoi atebion ar waith.

Cynnydd yn BSL

Bydd rhai dysgwyr yn caffael BSL o enedigaeth, bydd eraill yn dechrau’n hwyrach. Gall hyn ei adlewyrchu yn eu cynnydd. Gallai cynnydd ar gyfer y sawl sy’n dysgu BSL fel trydedd iaith neu iaith ddilynol fod yn fwy tebyg i ieithoedd rhyngwladol a ddysgir yn yr ysgol fel Ffrangeg neu Almaeneg.

Mae astudiaethau ymchwil wedi dangos bod caffael iaith arwyddion yn dilyn patrwm tebyg i gaffael iaith lafar, er gwaethaf y gwahaniaeth rhyngddynt o ran moddolrwydd. Mae hyn hefyd yn wir am ddatblygiad agweddau penodol ar iaith fel ffonoleg, geirfa a naratifau.

Ffonoleg

Yn achos ieithoedd llafar, mae ffonoleg yn cyfeirio at y ffordd y mae seiniau iaith yn cael eu rhoi at ei gilydd i ffurfio geiriau. Yn achos ieithoedd arwyddion, mae ffonoleg yn cyfeirio at y ffordd mae elfennau arwyddion yn cael eu rhoi at ei gilydd: y ffordd mae ffurf y llaw, safle, symudiad, gogwydd a nodweddion heblaw'r dwylo yn cyfuno i ffurfio arwyddion. Fel yn achos y sawl sy’n dysgu ieithoedd llafar, mae datblygiad ffonolegol plant byddar sy'n dysgu sut i arwyddo yn cymryd amser, ac mae plant yn debygol o wneud camgymeriadau yng nghamau cynnar datblygiad iaith. Mae dysgwyr yn aml yn defnyddio siapiau llaw sy'n haws eu ffurfio yn hytrach na rhai anodd. Mae’n bosib hefyd y byddant yn symleiddio symudiadau. 

Geirfa

Fel arfer, bydd plant sy'n caffael iaith arwyddion yn ffurfio eu harwydd cyntaf pan fyddant tua 11 mis oed. Erbyn 18 mis oed, byddant yn adnabod tua 70–80 arwydd. Erbyn 3 oed, byddant yn gallu deall a ffurfio tua 500 arwydd. Fel yn achos ieithoedd llafar, mae ffactorau allanol yn dylanwadu ar y broses o gaffael geirfa, megis y graddau y bydd plentyn yn ymwneud ag iaith arwyddion ac ansawdd yr iaith honno. Hefyd, mae rhuglder BSL y prif ofalwr yn effeithio ar y llwybr datblygu a maint geirfa BSL y dysgwr.

Er bod caffael geirfa yn dilyn amserlen debyg mewn iaith arwyddion ac iaith lafar, mae'n bwysig cofio y bydd plant a phobl ifanc sy'n clywed yn aml yn dysgu geiriau newydd drwy ddysgu anfwriadol. Byddant yn digwydd clywed sgyrsiau ac yn clywed geiriau ar y teledu neu drwy gyfryngau eraill. Byddant hefyd yn dysgu geiriau newydd wrth ddarllen. Yn achos iaith arwyddion, nid oes unrhyw ffurfiau ysgrifenedig.

Bydd angen i blant a phobl ifanc sy'n dysgu iaith arwyddion edrych ar bobl er mwyn dysgu arwyddion newydd. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod plant sy'n dysgu iaith arwyddion yn cael cyfle i ymwneud â modelau arwyddo da yn rheolaidd. Mae hefyd yn golygu y dylai fod modd iddynt gael mynediad i amgylchiadau arwyddo lle y gallant weld sgyrsiau eraill. Ceir rhaglenni teledu a gyflwynir yn BSL neu sydd â dehonglwr ar y sgrin, a gall ysgolion a lleoliadau helpu i hwyluso mynediad dysgwyr at y rhain.

Mae maint geirfa (boed hynny mewn iaith arwyddion neu iaith lafar) yn bwysig o ran rhagfynegi datblygiad llythrennedd yn y dyfodol.

Naratifau

Mae ymchwil BSL yn awgrymu bod datblygu naratif yn debyg mewn ieithoedd arwyddion ac ieithoedd llafar, gyda phlant byddar sy’n defnyddio iaith arwyddion yn dechrau cynhyrchu naratifau pan fyddant tua 2 oed. Mae'r gallu i roi naratif geiriol at ei gilydd (boed hynny drwy arwyddo neu ar lafar) yn rhagfynegydd pwysig o ran sgiliau llythrennedd da, felly dylai naratifau gael eu cyflwyno i arwyddwyr ifanc yn gynnar, yn benodol gan fodelau arwyddo da. 

Mae gan ganolfan ymchwil Gwybyddiaeth ac Iaith Byddardod UCL (DCAL) (BSL/Saesneg yn unig) fwy o wybodaeth am ymchwil BSL.

Cynnydd yn BSL a’r Cwricwlwm i Gymru

Mae pedwar datganiad sy’n cyfleu’r hyn sy’n bwysig ym Maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Mae fersiwn BSL o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i chi ddefnyddio gyda’ch dysgwyr.

Mae’r disgrifiadau dysgu sy’n dangos y ffordd mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o ran y datganiad o’r hyn sy’n bwysig ‘Mae ieithoedd yn ein cysylltu â'n gilydd’ yn gyffredin i bob dysgwr ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae dilyniant yn yr agwedd hon yn arbennig o berthnasol i'r sawl sy'n dysgu BSL gan ei fod yn cynnwys:

  • hunaniaeth, sy’n gallu cynnwys hunaniaeth fel person byddar a defnyddiwr BSL yng Nghymru a'r byd ehangach
  • perthyn, sy’n gallu cynnwys perthyn i'r gymuned Fyddar (leol ac ehangach) yn ogystal â chymunedau eraill
  • diwylliant, sy’n gallu cynnwys diwylliant Byddar yn ogystal â diwylliannau eraill
  • cyfryngu, sef cyfathrebu ystyr o un berson i berson arall, sy’n gallu digwydd o fewn BSL neu o un iaith i iaith arall
  • etymoleg ac esblygiad iaith, sy’n gallu cynnwys tarddiad arwyddion unigol, newidiadau dros amser a hanes a statws BSL
  • amrywiaeth iaith, sy’n gallu cynnwys amrywiad geiriol rhanbarthol BSL. Mae arwyddion rhanbarthol Cymru o bwysigrwydd cymdeithasol a gwleidyddol, yn ogystal ag ieithyddol, i gymuned Fyddar Cymru. Gall defnyddiwr BSL sy hefyd yn defnyddio’r Gymraeg ddefnyddio arwyddion a phatrymau gwefus gwahanol

Mae cyfeiriadau at drawsieithu yn y disgrifiadau dysgu yn arbennig o berthnasol i ddysgwyr byddar y gallai eu dilyniant cydamserol mewn BSL a Chymraeg/Saesneg olygu eu bod yn fwy abl na'u cymheiriaid clyw i symud rhwng ieithoedd a diwylliannau. Cydnabyddir eu gallu i ddeall nad oes gan eiriau ac arwyddion gyfatebiaeth uniongyrchol bob amser, ac i adnabod gwahanol ddehongliadau ac egluro'r rhain i eraill, yn y disgrifiadau dysgu fel sgil gwerthfawr.

Ar gyfer y datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig yn y Maes hwn, mae disgrifiadau dysgu yn dangos taith dysgu BSL ar hyd continwwm o gam cynnydd 1 i gam cynnydd 5. Gall dysgwr sydd wedi caffael BSL o’i enedigaeth symud ymlaen ar hyd y continwwm yn gynt na dysgwr sydd ond wedi cael ychydig o brofiad neu sydd heb brofiad o BSL cyn cychwyn addysg ffurfiol. Bydd dysgwyr hyn sy'n dechrau dysgu BSL hefyd yn dechrau ar gam cynnydd 1 a symud ymlaen tuag at gam gynnydd 5. Bydd cyflymdra cynnydd bob dysgwr  ar hyd y continwwm dysgu yn amrywio yn ôl ei allu a'i gyd-destun unigol.

Fel yn achos ieithoedd eraill, ni fydd y sawl sy’n dysgu BSL fel iaith rhyngwladol yn gwneud cynnydd yn yr un modd â dysgwyr sy’n defnyddio BSL yn yr ysgol a mewn mannau eraill fel un o’u prif ieithoedd. Dylid gofalu fod cynnydd defnyddwyr BSL mwy rhugl ddim yn cael ei lesteirio.

Bydd disgrifiadau dysgu ar gyfer y camau cynnydd cynnar yn adlewyrchu cynnydd dysgwyr sy’n cwblhau cwrs byr yn BSL megis cwrs BSL Lefel 1.

Asesu

Mae cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu o 3 i 16 oed yn ganolog i Gwricwlwm i Gymru. Mae asesu yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymdra priodol, gan sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a'i herio yn unol â hynny.

Nid oes asesiadau statudol ar gyfer BSL yng Nghymru. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o adnoddau asesu priodol ar gael ar gyfer defnyddwyr byddar BSL. 

  • Prawf Sgiliau Derbyn BSL (BSL-SRT): Yn bennaf yn asesu morffoleg BSL ar gyfer plant 3 i 12 oed
  • Prawf Sgiliau Cynhyrchu BSL: Sgiliau Naratif BSL-PT: Asesu sgiliau naratif BSL ar gyfer plant 4 i 11 oed
  • Prawf Geirfa BSL (VT): Asesiad cyfrifiadurol o sgiliau deall a chynhyrchu ar gyfer plant 4 i 15 oed

Mae'r asesiadau'n addas ar gyfer BSL ym mhob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig. Mae rhagor o wybodaeth am yr asesiadau hyn ar gael drwy adran asesu DCAL (UCL) (BSL/Saesneg yn unig).

Themâu trawsgwricwlaidd ar gyfer dylunio cwricwlwm  

Dylai fod gan ysgolion ac ymarferwyr fethodoleg ar gyfer cynllunio cwricwlwm sy'n ymgorffori cyfleoedd ar gyfer ystyried y themâu trawsgwricwlaidd, lle mae hynny’n briodol. 

Hawliau dynol a hawliau plant

Yn ogystal a chanllawiau’r cwricwlwm ar gyfer hawliau dynol a hawliau plant, ar gyfer y rhai sy’n rhan o gynllunio cwricwlwm sy’n cynnwys BSL, bwriad yr wybodaeth ddilynol yw cefnogi dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

Mae’r CCUHP yn datgan bod gan blant yr hawl i ddefnyddio eu hiaith ac arfer eu diwylliant eu hunain hyd yn oed os nad yw'r rhain yn gyffredin i’r rhan fwyaf o bobl yn y wlad lle maent yn byw. BSL yw iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar.

Mae gan blant yr hawl i fynegi eu barn yn ddirwystr ar faterion sy'n effeithio arnynt. Dylai defnyddwyr BSL allu defnyddio BSL i gyfranogi’n llawn at benderfyniadau sy’n effiethio arnynt. Mae’r CCUHP yn dweud y dylai oedolion wrando ar blant a'u cymryd o ddifri. Mae gan blant yr hawl hefyd i rannu ag eraill yn ddirwystr yr hyn y maent yn ei ddysgu, yn ei feddwl ac yn ei deimlo. Gall BSL hwyluso hyn.

Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth o'r rhyngrwyd, radio, teledu, papurau newydd, llyfrau a ffynonellau eraill. Gall dysgu ac addysgu felly helpu dysgwyr i gael gafael ar wybodaeth briodol yn BSL yn ogystal ag mewn ieithoedd eraill y maent yn eu deall. 

Dylai addysg plant eu helpu i feithrin eu personoliaethau, eu doniau a'u galluoedd yn llawn. Dylai eu haddysgu i ddeall eu hawliau eu hunain, a pharchu hawliau a diwylliannau pobl eraill ac i ddeall a pharchu gwahaniaethau. Gellir defnyddio BSL fel cyfrwng i gyflawni hyn.

Mae gan bob plentyn hefyd yr hawl i orffwys, ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chreadigol. Mae cael mwy o ddysgwyr ac ymarferwyr sy’n gallu defnyddio BSL yn gallu cefnogi cynhwysiant.

Mae erthyglau’r CCUHP ar gael yn BSL (YouTube).

Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ymarferwyr fod yn ymwybodol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) (BSL/Saesneg yn unig) sy’n cyfeirio'n benodol at ieithoedd arwyddion 7 gwaith mewn 5 erthygl.

Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Mae’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnig safbwyntiau allweddol i ddysgwyr ac maent yn arbennig o bwysig o ran cefnogi dysgwyr i wireddu’r pedwar diben.

  • dod yn amlieithog, gan feddu ar y gallu i ddefnyddio BSL, Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol arall; gallai hyn fod yn iaith arwyddion ryngwladol megis iaith arwyddion America (ASL)
  • datblygu agwedd agored tuag at holl ieithoedd a diwylliannau'r byd ynghyd â chwilfrydedd yn eu cylch
  • mwynhau dysgu ieithoedd a datblygu canfyddiad cadarnhaol ohonyn nhw eu hunain fel defnyddwyr yr ieithoedd hynny
  • defnyddio ieithoedd a diwylliannau eu cartrefi a'u cymunedau, gan gynnwys diwylliant Byddar, fel sylfaen i ddysgu ieithoedd eraill
  • datblygu sylfaen gadarn yn BSL, Cymraeg a Saesneg i adeiladu arni wrth ddysgu ieithoedd eraill ac wrth ehangu eu dealltwriaeth o gyd-destunau cenedlaethol a byd-eang
  • myfyrio ar eu treftadaeth ieithyddol bersonol a lleol, gan gynnwys amrywiadau BSL rhanbarthol
  • dod yn wybodus am amrywiaeth y dreftadaeth ieithyddol a diwylliannol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • datblygu eu hymdeimlad o hunaniaeth ieithyddol yn eu hardal leol, yng Nghymru ac yn y byd ehangach
  • ymdrochi mewn diwylliannau ac ieithoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy ymweliadau, gan ymgysylltu â phobl yn lleol ac yn fyd-eang a chysylltu'n ddigidol
  • meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant a hunaniaeth y rhai o'u hamgylch, er mwyn datblygu cyd-barch a chydlyniant cymdeithasol

Gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith 

Wrth ddylunio cwricwlwm sy’n cynnwys BSL, dylai ysgolion a lleoliadau gynnwys dysgu am yrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith. Trwy hyn bydd dysgwyr yn gallu:

  • meithrin gwybodaeth am y cyfleoedd gyrfa ychwanegol sydd ar gael drwy BSL
  • deall y gall bod yn ddwyieithog neu'n amlieithog agor drysau ym myd gwaith
  • meithrin sgiliau cyfathrebu effeithiol yn eu holl ieithoedd a magu hyder i ryngweithio ag eraill a meithrin cydberthnasau ym mhob gweithle
  • datblygu BSL sy'n gysylltiedig â gwaith
  • ystyried sut y gall eu sgiliau iaith fod yn fuddiol iddynt wrth baratoi ar gyfer gweithio'n ystwyth ac yn hyblyg yng Nghymru a thu hwnt
  • cael modelau rôl sy’n defnyddio BSL mewn amrywiaeth o swyddi

Dylunio cwricwlwm

Ystyriaethau ar gyfer darpariaeth

Wrth gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm, dylid ystyried natur y ddarpariaeth, adnoddau, cynnydd dysgwyr a'r ystod o brofiadau ieithyddol a diwylliannol a gynigir o fewn BSL.

Gall dysgwyr byddar a dysgwyr sy’n clywed elwa o amgylchedd sy'n llawn iaith a lle mae statws BSL fel un o ieithoedd cynhenid Cymru yn cael ei adnabod a lle y gall ei defnyddio ar draws yr ysgol gyfan a thrwy gydol y diwrnod ysgol, fel y mae’n briodol i’r dysgwyr.

Defnyddio tystiolaeth ac arbenigedd

Dylai dysgu ac addysgu BSL cael eu llywio gan dystiolaeth ac arbenigedd cadarn sy’n cynnwys:

  • y gymuned Fyddar yn ogystal â thiwtoriaid BSL ac Athrawon y Byddar
  • dealltwriaeth o ymchwil a thystiolaeth addysgol o ansawdd uchel
  • gwybodaeth berthnasol am ddysgwyr a'u cymunedau
  • dysgu o ymchwiliad proffesiynol
  • tystiolaeth ac arbenigedd a rennir drwy rwydweithiau lleol, clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol
  • partneriaeth ag addysg bellach ac uwch
  • dysgu proffesiynol

Bydd datblygu cwricwlwm ar y cyd yn cynnwys gweithio gyda:

  • dysgwyr
  • y gymuned Fyddar
  • Athrawon y Byddar ac ymarferwyr eraill
  • rhieni, gofalwyr a rhanddeiliaid
  • sefydliadau, gwasanaethau ac asiantaethau eraill
  • ysgolion, lleoliadau a sefydliadau addysg bellach

Cyflwyno BSL fel iaith ryngwladol

Mae'r adran ystyriaethau penodol ar gyfer y Maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnwys ystyriaethau ar gyfer dewis pa iaith rhyngwladol i'w haddysgu. Gall ystyriaethau ychwanegol wrth ystyried BSL gynnwys:

  • cefnogi cynnydd mewn BSL ar gyfer plant sydd â rhieni, brodyr a chwiorydd neu ffrindiau byddar sy’n defnyddio BSL
  • helpu plant sy’n clywed i gyfathrebu â phlant byddar yn y dosbarth/ysgol

Dylai ysgolion gynnwys dysgwyr, rhieni a llywodraethwyr yn y broses o wneud penderfyniadau.

Cwestiynau i ymarferwyr eu ystyried

Darperir cwestiynau isod i ysgolion a lleoliadau eu ystyried wrth gynllunio a datblygu eu cwricwlwm ac asesu yn ogystal â’u dysgu ac addysgu.

  • Beth yw tirwedd ieithyddol bresennol ein hysgol?
  • Faint o ddefnyddwyr BSL sydd yn yr ysgol?
  • Sut rydyn ni’n gweithio gyda'r gymuned Fyddar?
  • Beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio ein tirwedd ieithyddol i helpu ein dysgwyr i wneud cynnydd ym mhob un o'u hieithoedd?
  • Sut ydyn ni’n sicrhau bod pob dysgwr yn parhau i wneud cynnydd yn BSL o'u mannau cychwyn gwahanol?
  • Sut ydyn ni’n darparu ar gyfer datblygu BSL mewn ffordd systematig? 
  • Sut ydyn ni’n asesu cynnydd dysgwyr yn BSL?
  • Sut ydyn ni’n sicrhau bod amgylchedd sy'n llawn iaith arwyddo yn datblygu’n fodel i ddysgwyr wella eu sgiliau BSL?
  • Sut ydyn ni’n sicrhau ehangder a dyfnder ar gyfer dysgu BSL?
  • Sut ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr byddar wneud cynnydd yn Gymraeg, yn Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol yn ogystal â BSL?
  • Sut ydyn ni’n cefnogi cynnydd ar draws y cwricwlwm drwy BSL i ddefnyddwyr BSL byddar?
  • Sut ydyn ni’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio BSL mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, er enghraifft, drwy gwrdd â modelau rôl byddar, ymgysylltu â chymunedau BSL lleol, a thrwy gymryd rhan yng ngweithgareddau a digwyddiadau i bobl fyddar?
  • Sut ydyn ni’n sicrhau ansawdd dysgu ac addysgu, cymorth a rhyngweithio BSL?
  • Sut ydyn ni’n gweithio gyda’r gymuned Fyddar a sefydliadau allanol i gefnogi cynllunio a dylunio cwricwlwm ac asesu yn ogystal â chefnogi dysgu ac addysgu?

Sut ydyn ni’n cefnogi defnyddwyr BSL ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft arwyddo cyffwrdd (arwyddo llaw-dros-law) neu addasu maes gweld arwyddo?

Ystyriaethau ar gyfer diwylliant, llenyddiaeth a chreadigrwydd

  • Sut ydyn ni’n dewis llenyddiaeth BSL ar gyfer y dysgwyr?
  • Sut mae dysgwyr yn cael mynediad i lenyddiaeth BSL?
  • Sut ydyn ni’n darparu amrywiaeth eang o lenyddiaeth BSL i ddysgwyr er mwyn meithrin eu mwynhad o ddeunydd gwylio pwrpasol, a'u hannog i ddarganfod llenyddiaeth yn BSL ac ieithoedd eraill?
  • Sut ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brofi digwyddiadau penodol ar gyfer pobl fyddar megis digwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a chelfyddydol?