English

Diben asesiadau personol

Mae asesiadau ar-lein mewn darllen a rhifedd wedi'u cynllunio i helpu athrawon a dysgwyr ddeall sut mae sgiliau darllen a rhifedd dysgwr yn datblygu a chynllunio'r camau nesaf. Eu bwriad yw cefnogi dysgu ac addysgu fel rhan o drefniadau asesu ehangach ysgolion o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r asesiadau at ddefnydd ffurfiannol, er mwyn i bob ysgol a gynhelir gael gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd eu dysgwyr, ynghyd â dealltwriaeth gyffredin o gryfderau a meysydd i’w gwella o ran y sgiliau hynny. Wrth gynllunio dilyniant, anogir athrawon i roi ystyriaeth lawn i'r sgiliau a nodwyd gan yr asesiadau (nid y sgoriau yn unig), ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r asesiadau yn canolbwyntio ar ddeall cynnydd dysgwyr, ac ni ddylid eu defnyddio at ddibenion perfformiad ysgol nac at ddibenion atebolrwydd.

Gofynion ar gyfer 2023 i 2024

Mae’r asesiadau’n fandadol, ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir (gan gynnwys ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion sefydledig) ymgymryd â’r asesiadau personol mewn rhifedd a darllen o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn ysgol. Gwneir Rhifedd mewn 2 ran: Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu).

Mae'r llawlyfr hwn yn nodi'r trefniadau ar gyfer yr asesiadau personol Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ac yn rhoi arweiniad ar drefniadau gweinyddu, mynediad a datgymhwyso. Mae’n ffurfio llawlyfr gweinyddu’r Profion Cenedlaethol (‘llawlyfr gweinyddu’r PC’) at ddibenion Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013. Mae Profion Cenedlaethol bellach yn cael eu cyflwyno ar-lein a chyfeirir atynt fel 'asesiadau personol’. Felly, at ddibenion y canllawiau hyn, cyfeirir at Brofion Cenedlaethol fel 'asesiadau personol' neu 'asesiadau’. O ran y cyfeirio at amserlen asesu'r Profion Cenedlaethol ('amserlen asesu'r PC') yn y Gorchymyn, mae asesiadau personol ar gael i'w trefnu drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r asesiadau darllen a rhifedd ar-lein yn cynnig profiad asesu unigoledig sy'n addasu lefel yr her yn ddynamig ar gyfer pob dysgwr.

Caiff yr asesiadau personol eu creu o gronfa fawr o gwestiynau (a thestunau ar gyfer yr asesiadau personol Darllen), sy’n seiliedig ar y continwwm o sgiliau yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol sydd wedi’i ailwampio i gyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r asesiadau personol yn ‘addasol’ sy'n golygu y caiff cwestiynau eu dewis ar sail ymateb y dysgwr i'r cwestiwn neu'r cwestiynau blaenorol. Pan fydd dysgwyr yn ateb cwestiynau'n gywir byddant yn derbyn cwestiynau mwy heriol, a phan fydd dysgwyr yn ateb yn anghywir byddant yn derbyn cwestiynau haws. Mae’r dull hwn o bersonoli yn golygu y bydd pob dysgwr yn gweld cyfres wahanol o gwestiynau ac y bydd nifer y cwestiynau yn amrywio.

Mae'r broses hon yn parhau hyd nes bod y system asesu wedi ymdrin â meysydd ar draws y cwricwlwm ac wedi casglu gwybodaeth ddigonol ar sail ymatebion y dysgwr.

Caiff ymatebion eu marcio'n awtomatig a bydd adborth ar gael i staff y diwrnod ar ôl yr asesiad fel arfer.

Amseriad asesiadau personol

Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i drefnu'r asesiadau personol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd sydd fwyaf buddiol yn eu barn hwy i lywio'r dysgu, yr addysgu a’r gwaith o gynllunio dilyniant.

Dylai ysgolion nodi y gellir cynllunio amser segur ar gyfer y system asesiadau personol o bryd i'w gilydd, y rhoddir gwybod amdano drwy'r wefan asesu.

Mae'n ofynnol i ddysgwyr gymryd yr asesiadau personol unwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Mae gan ysgolion hefyd yr opsiwn i ddefnyddio'r asesiadau eilwaith yn ystod y flwyddyn academaidd, a all fod yn ddefnyddiol i gefnogi dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr a grwpiau. Os bydd ysgolion yn penderfynu defnyddio’r asesiad eilwaith, argymhellir na ddylai dysgwyr sefyll yr ail asesiad yn yr un tymor â'r un cyntaf.

Lles dysgwyr

Ni ddylai’r asesiadau personol achosi gofid i ddysgwyr ac mae’n bwysig iawn bod ysgolion yn ystyried sut y caiff yr asesiadau eu cyflwyno. Mae asesiadau ymgyfarwyddo ar gael i ddysgwyr i’w defnyddio unrhyw bryd fel y gallant weld ac ymgyfarwyddo â'r mathau gwahanol o gwestiynau sydd ar gael cyn sefyll asesiad. Ar wahân i ddefnyddio'r rhain, dylid osgoi 'ymarfer' gyda chwestiynau gan fod hyn yn amhriodol ac yn ddiangen yng nghyd-destun asesu ffurfiannol a gall achosi pryder i ddysgwyr.

Mae dysgwyr yn cael cymryd seibiant yn ystod asesiad os oes angen.  Gweler yr adran 'Seibiannau gorffwys' isod.

Mynediad at asesiadau personol

Bydd staff a dysgwyr yn cael mynediad at yr asesiadau personol drwy blatfform Hwb, gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb unigol. Mae canllawiau cam wrth gam manwl i'w gweld yn y canllawiau i ddefnyddwyr, y gall staff eu gweld ar y wefan asesu unwaith y byddant wedi mewngofnodi drwy Hwb.

Cyn y gall dysgwyr sefyll asesiadau personol:

  • mae angen i'r pennaeth, neu'r aelod o staff sy'n gweithredu ar ei ran, fewngofnodi a derbyn y gofynion data a gweinyddu, a neilltuo swyddogaethau a mynediad i staff perthnasol
  • bydd angen i staff drefnu a rhyddhau asesiadau i ddysgwyr drwy fewngofnodi i Hwb a mynd i wefan yr asesiadau personol (drwy glicio ar ‘Asesiadau personol’ yn y ddewislen ar ochr dde uchaf y dudalen neu ar y deilsen ‘Asesiadau personol’ ar dudalen hafan Hwb)
  • bydd angen i ddysgwyr fewngofnodi i Hwb a gweithio drwy’r asesiadau ymgyfarwyddo er mwyn iddynt ddeall fformatau cwestiynau a sut i lywio a gweithio’u ffordd drwy’r asesiadau

I gael gwybod sut y gall defnyddwyr Hwb gael gafael ar eu henwau defnyddwyr a chyfrineiriau, ewch i Dechrau Arni.

Dylai ysgolion nodi bod gwefan yr asesiadau yn dibynnu ar ddata gan systemau gwybodaeth reoli ysgolion a bod data’r asesiadau personol yn symud gyda’r dysgwr pan fydd yn symud ysgol. Rhaid i ysgolion sicrhau bod eu systemau gwybodaeth reoli yn gyfredol a bod eu Cleient Darparu Hwb yn cael ei redeg yn llwyddiannus yn rheolaidd.

Asesiadau mewn lleoliadau eraill, er enghraifft unedau cyfeirio disgyblion

Mae’n rhaid i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol brif ffrwd sefyll yr asesiadau personol o leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr â chofrestriad deuol mewn ysgol brif ffrwd a hefyd mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol arbennig (oni bai bod penderfyniad i ddatgymhwyso wedi’i wneud). Y pennaeth yn yr ysgol brif ffrwd lle mae’r dysgwr wedi’i gofrestru sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr asesiadau’n cael eu gweinyddu, a gall drefnu i'r dysgwyr sefyll yr asesiadau personol yn y naill leoliad neu'r llall.

Ar gyfer dysgwyr unedau cyfeirio disgyblion sydd â chofrestriad deuol, gall athro/athrawes drefnu asesiadau personol yn y naill safle dysgu neu'r llall. Gall y ddwy ysgol gael gafael ar adroddiadau adborth a chynnydd y dysgwr.

Cytundeb penaethiaid a rheoli defnyddwyr

Ysgolion sy'n gyfrifol am ddiogelu data fel rheolyddion data annibynnol. Mae angen i ysgolion sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r egwyddorion diogelu data yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Felly, mae rhaid i ysgolion sicrhau bod mynediad at ddata am ddysgwyr unigol yn cydymffurfio â GDPR y DU. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ddata sy'n ymwneud â'r asesiadau personol statudol.

Mae gan ysgolion ddisgresiwn o ran pa rai o'u staff sydd â mynediad at asesiadau ac adroddiadau. Wrth wneud trefniadau i'w staff drefnu a hwyluso'r asesiadau personol, rhaid i ysgolion fod yn ymwybodol o ddarpariaethau ‘Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol - Medi 2023’ Llywodraeth Cymru neu delerau ac amodau perthnasol.

Er mwyn i asesiadau personol gael eu gweinyddu mewn unrhyw ysgol, mae’n ofynnol i’r pennaeth (neu aelod addas o staff sy’n gweithredu ar ei ran) fewngofnodi i wefan yr asesiadau (drwy Hwb) a neilltuo swyddogaethau a mynediad ar gyfer aelodau perthnasol o staff er mwyn iddynt drefnu a hwyluso asesiadau a gweld adroddiadau ar ddysgwyr a grwpiau.

Mae'r pennaeth yn cael y swyddogaeth ‘Gweinyddu’ yn awtomatig, sy'n ei alluogi i reoli swyddogaethau defnyddwyr eraill. Mae rhagor o wybodaeth am sut i neilltuo swyddogaethau i staff yn adran 3.8 o'r canllawiau i ddefnyddwyr.

Mae angen hefyd i’r pennaeth (neu’r aelod addas o staff sy’n gweithredu ar ei ran) gytuno y bydd yr asesiadau personol yn cael eu gweinyddu yn unol â’r llawlyfr gweinyddu hwn ac mae rhaid ail-lofnodi'r cytundeb hwn ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Bydd mynediad ar gyfer aelodau eraill o staff yn cael ei gyfyngu hyd nes bod hwn wedi’i lofnodi.

Mae’r swyddogaethau a neilltuir gan y pennaeth yn pennu pa weithgareddau y gall staff ymgymryd â hwy ar wefan yr asesiadau. Gellir cyfyngu ar fynediad yn ôl grwpiau blwyddyn neu ddosbarthiadau penodol, er mwyn sicrhau bod staff yn cael mynediad at wybodaeth berthnasol a phriodol. Bydd yr hawliau a'r rolau a ddyrannwyd yn y flwyddyn flaenorol yn parhau i fod yn ychwanegol at staff sy'n aros yn eu swyddi yn yr ysgol, felly dylai'r pennaeth adolygu'r swyddogaethau hyn a gofynion mynediad bob blwyddyn academaidd.

Trefnu asesiadau

Rhaid i’r pennaeth, neu’r aelod enwebedig o staff, neilltuo mynediad cyn y gall defnyddwyr drefnu asesiadau neu gael adborth ac adroddiadau.

Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i drefnu'r asesiadau personol drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion drefnu’r asesiadau ar gyfer dysgwyr unigol, grwpiau bach neu ddosbarthiadau cyfan, yn unol â’u dymuniadau a’u cyfleusterau TG. Gan fod yr asesiadau personol yn wahanol i bob dysgwr, nid oes angen i ddosbarth cyfan o ddysgwyr sefyll yr asesiadau ar yr un pryd.

Rhaid i asesiadau personol gael eu trefnu ar gyfer diwrnod ysgol penodol ac o leiaf y diwrnod cyn y trefnwyd i’r asesiad gael ei gynnal. Gellir eu cynnal ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol. Os na fydd dysgwr yn dechrau asesiad ar y diwrnod a drefnwyd, caiff ei ganslo dros nos a gall yr ysgol aildrefnu’r asesiad. Os bydd dysgwr yn dechrau asesiad ar y diwrnod a drefnwyd ond nad yw’n ei gwblhau, caiff y canlyniadau eu cyflwyno dros nos oni chaiff yr asesiad ei ganslo gan yr ysgol. Yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig bod yr asesiad yn cael ei ganslo a’i aildrefnu gan yr ysgol.

Mae canllaw cam wrth gam ar drefnu asesiadau ar gael ar wefan yr asesiadau.

Ar ddechrau asesiad, dyrennir cwestiwn (neu destun a chyfres o gwestiynau) i'r dysgwyr yn seiliedig ar eu grwp blwyddyn cwricwlwm. Wrth amserlennu, gall yr athro/athrawes ddiystyru'r gosodiad hwn i roi man cychwyn haws os yw'n briodol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn adran 6.13 o’r canllawiau i ddefnyddwyr.

Wrth amserlennu, gall aelodau o staff hefyd ddewis opsiynau hygyrchedd a newidiadau lliw fel y nodir o dan 'Addasiadau i asesiadau personol’.

Trefniadau TG

Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio i fod yn gydnaws ag ystod eang o ddyfeisiau sydd â phorwr modern. Cyn rhedeg unrhyw asesiad, dylai dyfeisiau fod wedi’u gwefru’n llawn a’u diweddaru. Ceir rhagor o wybodaeth am y trefniadau TG yn adran 3 o’r canllawiau i ddefnyddwyr.

Mae rhagor o ganllawiau ar sut y gall ysgolion gael y gorau o'u systemau TG i'w gweld yn y Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg.

Iaith

Gellir sefyll yr asesiadau personol rhifedd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff iaith asesiad dysgwr ei dewis pan fydd aelod o staff yn trefnu’r asesiad. Gall dysgwr weld y cwestiwn yn yr iaith arall ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad, drwy glicio ar eicon y ‘glôb’ ar waelod y sgrin.

Wrth drefnu asesiadau personol Darllen ar gyfer y dysgwyr, gall aelodau o staff ddewis pa asesiadau fydd yn cael eu sefyll: Darllen Cymraeg neu Ddarllen Saesneg. Nid yw’r cwestiynau na’r testunau ar gael yn yr iaith arall, gan fod yr asesiadau yn asesu sgiliau dysgwyr wrth ddarllen y naill iaith neu’r llall. Mae’r gofynion o ran pa asesiadau personol Darllen y dylai dysgwyr eu sefyll yn cael eu trafod o dan ‘Gofynion ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg’ a nodir isod.

Asesiadau ymgyfarwyddo

Cyn cynnal asesiadau personol, dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle i roi cynnig ar asesiadau ymgyfarwyddo ym mhob pwnc. Drwy wneud hynny, gall dysgwyr weld y mathau o gwestiynau a deall sut i’w hateb, yn ogystal â dod yn gyfarwydd â gwneud eu ffordd drwy’r asesiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) sy'n gofyn am ddefnyddio sain.

Mae asesiadau ymgyfarwyddo ar gael ar wefan yr asesiadau drwy Hwb a gall dysgwyr eu defnyddio ar unrhyw adeg. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 3.13 o’r canllawiau i ddefnyddwyr.

Sefyll yr asesiadau

Cyn y gall dysgwr sefyll asesiad personol, rhaid i aelod o staff sydd â’r mynediad priodol i hwyluso asesiad ryddhau’r asesiad a drefnwyd i’r dysgwr. Gall aelodau o staff ddewis rhyddhau asesiadau ar gyfer dysgwyr unigol, neu ar gyfer dosbarth cyfan.

Mae canllawiau manwl ar drefnu a hwyluso asesiadau ar gael yn y fideos ac yn adrannau 3.9 a 4.1 o’r canllawiau i ddefnyddwyr sydd hefyd yn cynnwys rhestrau gwirio i staff eu defnyddio cyn ac yn ystod asesiad.

Unwaith y bydd asesiad wedi’i ryddhau, gall y dysgwr gael mynediad at yr asesiad ar wefan yr asesiadau drwy Hwb, gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb. Dylai dysgwyr fynd i wefan yr asesiadau a chlicio naill ai ‘Rhifedd (Gweithdrefnol)’, ‘Rhifedd (Rhesymu)’, ‘Darllen Cymraeg’ neu ‘Darllen Saesneg’.

Nodweddion allweddol

Cyn i’r asesiad ddechrau, dylai aelodau o staff atgoffa dysgwyr o nodweddion allweddol yr asesiadau hyn.

  • Y diben yw gallu darparu gwybodaeth i ddysgwyr am eu sgiliau fel eu bod yn deall yr hyn y maent yn gallu ei wneud a’r hyn y mae angen iddynt ei wella.
  • Ni all dysgwyr fynd nôl a newid ateb blaenorol unwaith y byddant wedi symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
  • Os bydd dysgwyr yn mynd yn sownd ar gwestiwn penodol ac yn methu ag ateb, ni ddylent boeni os ydynt yn ei chael yn anodd, dylent symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf.
  • Efallai y bydd angen i ddysgwyr sgrolio i lawr ar sgriniau i weld cynnwys llawn cwestiwn. Bydd hysbysiad gwyrdd yn ymddangos ar y sgrin i’w rhybuddio am hyn.
  • Os bydd dysgwr yn wynebu problemau gyda'i gyfrifiadur neu ddyfais, dylai godi ei law a rhoi gwybod i aelod o staff (os oes angen iddynt newid i ddyfais arall ganol asesiad, bydd yr asesiad yn ailddechrau lle y gadawodd).
  • Er nad oes terfyn penodol o ran hyd ar gyfer asesiadau Rhifedd (Rhesymu) neu Ddarllen, pan fydd y system wedi casglu digon o wybodaeth, daw’r asesiad i ben yn awtomatig.
  • Daw'r asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) i ben ar ôl i 28 o gwestiynau gael eu cwblhau. 

Yn ystod yr asesiadau, dylai’r aelod o staff: 

  • edrych i weld a yw’r dysgwyr yn mynd drwy’r cwestiynau a symud ymlaen os nad ydynt yn gwybod beth yw’r ateb i gwestiwn penodol
  • edrych i weld a yw’r dysgwyr yn gweithio mewn ffordd onest ac yn annibynnol
  • edrych i weld a oes gan y dysgwyr bapur a phen ysgrifennu neu bensil ar gyfer gwaith cyfrifo bras/nodiadau
  • rhoi saib yn ystod yr asesiad ac annog y dysgwr i gymryd toriad, os yw'n teimlo y byddai hyn o'r fudd i'r dysgwr

Os bydd digwyddiad neu ymyriad, gellir oedi asesiadau, eu hailddechrau neu eu canslo ar wefan yr asesiadau.

Amodau asesiadau

Bydd pob dysgwr yn cael cyfres wahanol o gwestiynau, felly nid oes angen i ddosbarthiadau cyfan sefyll yr asesiadau ar yr un pryd. Gall ysgolion drefnu’r asesiadau ar gyfer dysgwyr unigol, grwpiau bach neu ddosbarthiadau cyfan, yn unol â’u dymuniadau a’r cyfleusterau sydd ar gael.

Er mwyn i athrawon gael yr wybodaeth fwyaf cywir am sgiliau dysgwyr, dylai ysgolion sicrhau’r canlynol:

  • bod yr ystafell wedi’i gosod fel y gall dysgwyr weithio ar ddyfeisiau’n annibynnol
  • bod gan ddysgwyr yr holl adnoddau angenrheidiol (papur a phen ysgrifennu neu bensil ar gyfer unrhyw waith cyfrifo bras/nodiadau) a chyfrifiannell neu drinolion ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) os yn berthnasol, ynghyd â chlustffonau ar gyfer gwrando ar elfen sain yr asesiad
  • mai gwaith gwirioneddol y dysgwr ei hun yw’r gwaith a gynhyrchir yn yr asesiadau
  • bod goruchwyliaeth briodol bob amser
  • cynhelir yr asesiadau yn unol â’r canllawiau a roddir yn y llawlyfr hwn

Pan gaiff eu hasesiadau eu rhyddhau gan aelod o staff ar wefan yr asesiadau, dylai dysgwyr fynd i Hwb a mewngofnodi i Hwb drwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi. Dylent gael cymorth i fewngofnodi os bydd angen.

Hyd asesiadau

Nid oes gan yr asesiadau personol hyd penodedig. Mae gan asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) nifer penodedig o gwestiynau; nid oes gan asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu) nac asesiadau personol Darllen nifer penodedig o gwestiynau ond mae'r asesiadau'n dod i ben pan fydd y system asesu wedi gwneud penderfyniad dibynadwy ar allu’r dysgwr. Gall dysgwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain. Gall yr aelod o staff ddefnyddio ei farn broffesiynol i benderfynu pa mor hir i roi'r dysgwr i gwblhau'r asesiad yn seiliedig ar ymarfer ystafell ddosbarth a lles dysgwyr.

Dylai’r aelod o staff sy’n hwyluso’r asesiadau annog dysgwyr i symud ymlaen drwy’r cwestiynau, yn hytrach na threulio gormod o amser ar gwestiynau na allant eu hateb.

  • Yn gyffredinol, mae asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) yn para rhwng 20 a 40 munud.
  • Yn gyffredinol, mae asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu) yn para rhwng 25 a 40 munud.
  • Yn gyffredinol, mae asesiadau personol Darllen yn para rhwng 25 a 45 munud.

Cyn i ddysgwyr sefyll yr asesiadau, bydd angen i chi sicrhau bod digon o amser paratoi, gan gynnwys sicrhau bod pob dyfais yn gweithio a bod gan bob dysgwr ei fanylion i fewngofnodi i wefan Hwb.

Os byddwch yn trefnu ar gyfer grwp o ddysgwyr neu ddosbarth cyfan, efallai y bydd angen i chi gynllunio gweithgarwch addas i’r rhai sy’n gorffen eu hasesiad cyn gweddill y grwp.

Seibiannau gorffwys

Gellir rhoi seibiannau i ddysgwyr o unrhyw oedran ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad, a gellir cynnal asesiad fesul tipyn drwy gydol y diwrnod ysgol. Argymhellir bod aelodau o staff yn rhoi ystyriaeth benodol i ddysgwyr iau, gan ystyried hefyd y dylai dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 a 3 gael seibiannau gorffwys. Yr ysgol sy’n penderfynu ar hyd y seibiant. Gall aelodau o staff benderfynu pryd neu os bydd seibiannau yn briodol i ddysgwyr eraill.

Gall yr aelod o staff oedi’r asesiad ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad, a gall dysgwyr allgofnodi o’r asesiad ac yna mewngofnodi eto ar ôl y seibiant. Mae’n bwysig bod yr aelod o staff yn oedi asesiad y dysgwr pan fydd yn rhoi seibiant; fel arall, gall y dysgwr gael mynediad ato o ddyfais wahanol.

Mae’n rhaid i’r asesiad gael ei gwblhau mewn un diwrnod. Os na all dysgwr ei gwblhau mewn un diwrnod, dylid canslo’r asesiad a’i aildrefnu, neu bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno dros nos.

Pan gaiff asesiad ei oedi neu ei ddirwyn i ben, caiff canlyniadau’r cwestiynau y mae’r dysgwr wedi’u hateb eu lanlwytho am 5.00 p.m. ar y diwrnod y cafodd yr asesiad ei sefyll oni chafodd yr asesiad ei ganslo. Ni ellir ailddechrau asesiad lle mae atebion wedi cael eu cyflwyno.

Absenoldeb

Os bydd dysgwr yn absennol ar y diwrnod y trefnwyd asesiad, gellir aildrefnu’r asesiad i’w gynnal rywbryd arall. Os na fydd y dysgwr wedi dechrau’r asesiad, caiff ei ganslo’n awtomatig dros nos. Os bydd dysgwr wedi dechrau’r asesiad ond na all ei gwblhau, er enghraifft am ei fod wedi cael ei anfon adref yn sâl, yna dylai’r ysgol ganslo’r asesiad.

Ar ôl yr asesiadau

Adborth ac adroddiadau

Mae amrywiaeth o adroddiadau ar gael i ddysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys dosbarthiadau cyfan i'r aelodau staff hynny sydd â swyddogaethau 'Gweinyddu' neu 'Hwyluso a dadansoddi’.

Mae adborth ar sgiliau ar gyfer dysgwyr unigol sydd wedi cymryd asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen ar gael ar wefan yr asesiad y diwrnod ar ôl cwblhau asesiadau fel arfer. Bydd staff yn cael cyfle i fwrw golwg dros yr adborth cyn rhyddhau hyn i gyfrif Hwb dysgwyr. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i ryddhau’r adroddiad i’r dysgwr yn adran 5.3 o’r canllawiau i ddefnyddwyr.

Mae adborth ar sgiliau ar gyfer dysgwyr unigol sydd wedi sefyll yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) fel arfer ar gael ar wefan yr asesiad y diwrnod ar ôl i'r asesiadau gael eu cynnal. Caiff yr adroddiad adborth hwn ei hwyluso gan yr athro ac ni ellir ei ryddhau i'r dysgwr.

Ar ôl i asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu) gael eu cwblhau, bydd gan staff fynediad at gwestiynau sampl (drwy adroddiad adborth y dysgwr ac adroddiad proffil sgiliau grwpiau) y gallant eu defnyddio gyda dysgwyr i gefnogi datblygiad sgiliau rhesymu.

Mae adroddiadau cynnydd ar gyfer pob asesiad hefyd ar gael y diwrnod ar ôl cwblhau asesiadau. Mae adroddiadau cynnydd yn cynnwys siart cynnydd sy'n cael ei ddiweddaru'n awtomatig ar ôl pob asesiad, a hefyd sgôr safonedig ar sail oedran ar gyfer asesiad diweddaraf y dysgwr. Gall staff ryddhau'r rhain i’r dysgwr yn yr un modd ag a wnânt â’r adroddiadau adborth. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn adran 5.4 o’r canllawiau i ddefnyddwyr.

Mae adroddiadau eraill sydd ar gael i ysgolion i gefnogi cynllunio a dilyniant yn cynnwys proffiliau sgiliau ac adroddiadau cynnydd ar gyfer grwpiau a dosbarthiadau. Mae deunyddiau hyfforddi ar ddefnyddio’r wybodaeth yn yr adroddiadau ar gael ar wefan yr asesiadau ac ar Hwb.

Rhaid rhannu adroddiadau gyda rhieni/gofalwyr fel rhan o'r broses adrodd arferol. Dyma'r adroddiadau i'w rhannu: adborth ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen, ac adroddiadau cynnydd dysgwyr unigol ym mhob pwnc. Pan fo modd, argymhellir y dylai ysgolion rannu'r rhain â rhieni/gofalwyr pan fydd yr wybodaeth yn gyfredol. Fodd bynnag, gall athrawon ddefnyddio eu barn broffesiynol i benderfynu sut a phryd i rannu'r adroddiadau, er enghraifft ar sgrin yn ystod noson rieni neu eu hargraffu a’u rhannu ar ddiwedd y tymor yng nghyd-destun ac ochr yn ochr â gwybodaeth arall am gynnydd y dysgwr. Os caiff yr asesiadau eu sefyll ddwywaith yn ystod y flwyddyn academaidd, yna dylai rhieni/gofalwyr gael y ddwy gyfres o adborth.

Dylid ystyried sut y darperir adborth i ddysgwyr a rhieni/gofalwyr nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiadur y tu allan i amgylchedd yr ysgol, sy'n fwy tebygol o fod yn wir yn achos y rheini o aelwydydd incwm is. Dylai pob dysgwr yn ein system addysg gael ei gefnogi i gyflawni ei botensial a’i ddyheadau.

Hwylusir adborth ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) gan athrawon a ni chynhyrchir adroddiad i anfon yn uniongyrchol at rieni/gofalwyr.

Cefnogi arferion da

Mae cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol i fonitro’r trefniadau asesu mewn 10% o’u hysgolion o leiaf. I gefnogi diben ffurfiannol asesiadau personol, bydd gwaith monitro bellach yn canolbwyntio ar hyrwyddo arferion da wrth gyflwyno'r asesiadau ac annog defnyddio gwybodaeth am sgiliau dysgwyr i lywio'r dysgu, yr addysgu a’r gwaith o gynllunio dilyniant.

Gall y gwaith hwn gael ei wneud ar unrhyw adeg gan yr awdurdod lleol neu'r consortiwm addysg rhanbarthol sy’n gweithio ar ran yr awdurdod lleol. Mae dyletswydd ar benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion i roi hawl i’r awdurdod lleol neu’r consortiwm rhanbarthol gael mynediad at safle’r ysgol at y diben hwn.

Mae'r asesiadau wedi'u llunio at ddefnydd ffurfiannol i helpu i nodi cryfderau a chamau nesaf posibl ac i gefnogi cynnydd dysgwyr, ac ni ddylid eu defnyddio at ddibenion perfformiad ysgol nac at ddibenion atebolrwydd. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ysgolion rannu sgoriau asesiadau â'u hawdurdod lleol neu’r consortiwm rhanbarthol.

Cymorth

Mae canllawiau pellach ar yr asesiadau personol, gan gynnwys rheoli mynediad defnyddwyr, trefnu a sefyll asesiadau, yn ogystal â chael hyd i adborth ac adroddiadau, ar gael yn y canllawiau i ddefnyddwyr ar wefan yr asesiadau. Mae deunyddiau hyfforddi ar ffurf gweminarau wedi’u recordio ymlaen llaw ar gael ar wefan yr asesiadau ac ar Hwb hefyd. I gael cymorth ychwanegol, gall ysgolion gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.

Cymerir yr asesiad Rhifedd mewn 2 ran: Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu). Mae'r asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn canolbwyntio ar ffeithiau a gweithdrefnau rhifyddol, yr offer sydd eu hangen i gymhwyso rhifedd o fewn ystod o gyd-destunau. Mae'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) yn rhoi gwybodaeth am ba mor dda y gall dysgwyr gymhwyso eu sgiliau gweithdrefnol i ddatrys problemau rhifyddol.

Mae'n bosibl na fydd rhai dysgwyr Blwyddyn 2 yn barod i gymhwyso eu sgiliau gweithdrefnol i'r problemau a'r cyd-destunau a gynlluniwyd ar gyfer Blwyddyn 2 yn y banc o gwestiynau ar gyfer yr asesiadau Rhifedd (Rhesymu). Cynghorir ysgolion i gynnal asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) Blwyddyn 2 yn gyntaf, ac yna i ddefnyddio eu disgresiwn a'u barn broffesiynol ynghylch a ddylid defnyddio'r asesiadau Rhifedd (Rhesymu) gyda rhai neu bob un o'u dysgwyr Blwyddyn 2.

Ar gyfer pob grwp blwyddyn cwricwlwm arall, mae rhan Rhifedd (Rhesymu) yr asesiad yn orfodol. Atgoffir ysgolion y gall staff, wrth amserlennu, ddechrau asesiad gyda chwestiynau wedi'u cynllunio ar gyfer grwp blwyddyn is os ydynt o'r farn y byddai dechrau ar lefel anhawster is yn briodol. Atgoffir penaethiaid hefyd fod ganddynt y disgresiwn i ddatgymhwyso asesiadau ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gweithio hyd yn oed ar lefel y cwestiynau hawsaf yn y banc cwestiynau asesiadau personol. Yn dilyn asesiad, anogir athrawon i ddefnyddio'r cwestiynau sampl a ddarparwyd gyda'r adroddiadau er mwyn cefnogi eu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau rhesymu.

Defnyddio cyfrifianellau a thrinolion

Asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ni chaniateir defnyddio cyfrifianellau ac/neu offer eraill ar gyfer yr asesiad gweithdrefnol. Dylai dysgwyr gael gafael ar bapur a phennau ysgrifennu/pensiliau a dylid eu hannog i'w defnyddio ar gyfer eu gwaith cyfrifo.

Asesiad personol Rhifedd (Rhesymu)

Dylai dysgwyr Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 gael mynediad at gyfrifiannell a/neu offer arall, a allai gynnwys trinolion, ar gyfer yr asesiad os ydynt fel arfer yn eu defnyddio yn y dosbarth. Dylai dysgwyr ym Mlynyddoedd 4 ac uwch i gyd gael mynediad at gyfrifiannell ar gyfer yr asesiad a gallant ddefnyddio offer arall yn cynnwys trinolion (os yw’r athro/athrawes yn barnu eu bod yn addas). Dylai dysgwyr hefyd gael gafael ar bapur a phennau ysgrifennu/pensiliau a dylid eu hannog i'w defnyddio ar gyfer eu gwaith cyfrifo.

Strwythur yr asesiadau Rhifedd

Mae pob asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) wedi’i deilwra i ymatebion y dysgwr. Mae’r cwestiwn cyntaf mewn asesiad wedi’i ddewis i fod yn briodol i ddysgwr yn ei flwyddyn cwricwlwm bresennol, ond gall yr athro/athrawes newid y cwestiwn hwnnw pan fo angen os yw dysgwr yn gweithio ar lefel dipyn yn is na hyn. Dewisir cwestiynau dilynol o’r gronfa o gwestiynau fel yr amlinellir o dan ‘Manteision asesiadau personol’ a nodir uchod. Nid oes terfyn penodol o ran hyd ar gyfer asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol). Fodd bynnag, daw'r asesiad i ben ar ôl i 28 o gwestiynau gael eu cwblhau.

Mae pob asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) hefyd wedi’i deilwra i ymatebion y dysgwr, mewn ffordd debyg i’r asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol). Fodd bynnag, mae cynnwys yr asesiadau yn amrywio mewn rhai ffyrdd. Mae 2 fath o gwestiwn mewn asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu), sef:

  • cwestiynau un marc
  • cwestiynau aml-farc (gyda chliwiau)

Defnyddir y cwestiynau hyn i strwythuro'r asesiad fel a ganlyn:

  • ar gyfer Blynyddoedd 4 i 9, mae'r asesiad yn dechrau gyda chwestiynau un marc cyn symud ymlaen at gwestiynau aml-farc unigol gyda chliwiau. Daw'r asesiad i ben gydag adran ysgogol, sef tudalennau gwybodaeth a chynnwys sain sy'n sail i nifer o gwestiynau unigol ac aml-farc
  • ar gyfer Blynyddoedd 2 i 3, mae'r asesiad yn cynnwys cwestiynau un marc ac yna'r adran ysgogol a ddisgrifir uchod

Ar gyfer yr asesiad hwn, bydd dysgwyr yn cael mynediad at ffeil sain a rhaid iddynt gael clustffonau wedi’u cysylltu â’u dyfais i wrando arni.

Mae’n bwysig nodi na chaiff dysgwyr fynd yn ôl unwaith y maent wedi symud ymlaen at y cwestiwn nesaf.

Amseru

Asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol)

Bydd dysgwyr yn gweithio wrth eu pwysau, a bydd yr asesiad yn cymryd rhwng 20 a 40 munud fel arfer.

Asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu)

Bydd dysgwyr yn gweithio wrth eu pwysau, a bydd yr asesiad yn cymryd rhwng 25 a 40 munud fel arfer.

Asesiadau ymgyfarwyddo

Darperir asesiadau ymgyfarwyddo er mwyn i staff eu defnyddio gyda dysgwyr cyn iddynt sefyll yr asesiad. Yn dilyn hyn, gellir eu defnyddio hefyd gan ddysgwyr ar eu pennau eu hunain.

Fe'u rhennir yn setiau: Blynyddoedd 2 i 3, Blynyddoedd 4 i 6, a Blynyddoedd 7 i 9. Mae pob un o’r asesiadau ymgyfarwyddo yn cynnwys 8 neu 9 chwestiwn neu sgrin wybodaeth, sy’n cynnwys enghreifftiau o bob un o’r mathau o gwestiynau a ddefnyddir yn yr asesiadau personol.

Ar gyfer Rhifedd (Rhesymu), mae'r asesiad yn cynnwys sain a defnyddio cliwiau. Felly, mae'n bwysig iawn bod staff yn defnyddio asesiad ymgyfarwyddo gyda’u dysgwyr ymlaen llaw fel bod dysgwyr yn gallu profi a deall sut mae'r cwestiynau gyda chliwiau yn gweithio. Dylid annog dysgwyr i geisio pob cwestiwn a defnyddio'r cliwiau i'w helpu.

Efallai na fydd rhai dysgwyr yn gyfarwydd â rhai o’r mathau o gwestiynau neu efallai nad ydynt wedi cwblhau asesiadau ar gyfrifiadur. Felly, mae’n bwysig iawn eich bod yn treulio amser yn helpu dysgwyr i ddod yn gyfarwydd â defnyddio’r deunyddiau hyn fel y bydd yr asesiad, pan fyddant yn ei sefyll, yn rhoi’r wybodaeth orau bosibl am eu sgiliau.

Ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 6, argymhellir eich bod yn darllen y cwestiynau ymgyfarwyddo yn uchel a gweithio drwy bob cwestiwn, gan wneud yn siwr bod dysgwyr yn deall sut i gwblhau pob cwestiwn.

Ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 9, nid oes rhaid i chi ddarllen y cwestiynau yn uchel ond mae’n rhaid i chi sicrhau bod y dysgwyr yn deall sut i gwblhau pob un o’r mathau gwahanol o gwestiynau a dylech drafod y dull mwyaf priodol ar gyfer pob un ohonynt.

Mae modd defnyddio’r asesiadau ymgyfarwyddo ar unrhyw adeg. Dylent gael eu cynnal ychydig cyn asesiad personol (ond nid yn yr un wers o reidrwydd oherwydd cyfyngiadau amser a rhag ofn bod dysgwyr yn blino).

Gosod iaith yr asesiad

Wrth drefnu asesiad personol Rhifedd i ddysgwyr, gall aelodau o staff ddewis p’un a fydd yr asesiad yn cael ei sefyll yn Gymraeg neu’n Saesneg. Yn y naill achos neu'r llall, bydd fersiwn iaith amgen y cwestiwn ar gael fel ffenestr naid ar unrhyw adeg. Mae clicio ar eicon ‘glôb’ ar waelod y sgrin yn caniatáu i ddysgwyr weld cynnwys yr asesiad yn yr iaith arall. Mae'r fersiwn iaith amgen yn cael ei harddangos fel delwedd ac ni all y dysgwr roi ateb yn yr iaith amgen. Yn yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) gall dysgwr glywed y sain yn yr iaith arall drwy ddefnyddio eicon y ‘glôb’ a dewis y sain ar y sgrin berthnasol.

Ymateb i gwestiynau

Gellir darllen cwestiynau’r asesiad yn uchel i ddysgwyr os bydd angen. Ni ddylid rhoi unrhyw gymorth gyda chynnwys rhifyddol y cwestiynau.

Dylech ateb cwestiynau fel ‘Ai dyna’r un cywir?’ drwy ddweud ‘Dewisa’r un sy’n gywir yn dy farn di’.

Hwyluso asesiad personol Rhifedd

Cyn i’r asesiad ddechrau, dylai aelodau o staff atgoffa dysgwyr o nodweddion allweddol yr asesiadau a’u hatgoffa o’r canlynol.

  • Os oes angen help arnynt i ddarllen cwestiwn, dylent godi eu llaw a gofyn i aelod o staff (a gaiff ddarllen y cwestiwn yn uchel i'r dysgwr ond heb helpu gyda'r cynnwys rhifyddol).
  • Os ydynt am weld y cwestiwn yn yr iaith amgen (Cymraeg/Saesneg) dylent glicio ar eicon ‘glôb’ ar waelod y sgrin. Os ydynt am glywed yr adran sain yn yr iaith amgen yn yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) dylent glicio eicon y ‘glôb’ a dewis y sain ar y sgrin berthnasol.
  • Gallant ddefnyddio papur a phen ysgrifennu neu bensil ar gyfer gwaith cyfrifo, ond rhaid iddynt deipio eu hateb ar y sgrin.
  • Nid yw hyd yr asesiad yn adlewyrchu gallu’r dysgwr a dylai dysgwyr weithio wrth eu pwysau eu hunain. Bydd hyd yr asesiadau yn amrywio i bob dysgwr, ond yn gyffredinol byddant yn para rhwng 20 munud a 40 munud yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae'r dysgwr yn gweithio a faint o gwestiynau y maent yn eu cael.

Yn ystod yr asesiad, dylai'r aelod o staff wneud y canlynol:

  • ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol), gwirio nad yw cyfrifianellau ac offer eraill yn cael eu defnyddio
  • gwirio bod dysgwyr yn gweithio'n annibynnol
  • annog dysgwyr i symud ymlaen drwy'r asesiad ar gyflymder sy'n addas iddynt
  • ar gyfer yr asesiad personol Rhifedd (Rhesymu), gwirio bod gan dysgwyr gyfrifianellau neu drinolion (os yn briodol), a chlustffonau yn barod i wrando ar y glipiau sain
  • dywedwch wrth y dysgwyr i beidio â phoeni os ydynt yn cael cwestiwn anodd ac anogwch nhw i symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf os nad ydynt yn gwybod yr ateb
  • rhoi saib yn ystod yr asesiad ac annog y dysgwr i gymryd toriad, os yw'n teimlo y byddai hyn o fudd i'r dysgwr

Strwythur yr asesiadau

Ar ddechrau’r asesiad bydd y dysgwr naill ai’n cael cwestiwn cwblhau brawddeg neu destun byr sydd â 3 chwestiwn cysylltiedig. Bydd y cwestiynau cychwynnol wedi’u dewis i fod yn briodol i ddysgwyr yn y flwyddyn cwricwlwm honno, ond gall yr athro/athrawes ddadwneud hynny lle y bo angen, os yw dysgwr yn gweithio ar lefel dipyn yn is na hyn. Dewisir testunau a chwestiynau dilynol o’r gronfa yn seiliedig ar atebion y dysgwr i gwestiynau blaenorol. Er enghraifft, os bydd testun a 3 chwestiwn cysylltiedig yn cael eu cyflwyno i ddysgwr, bydd y system yn gwerthuso’r ymatebion y maent wedi’u rhoi i’r cwestiynau ac wedyn yn dewis testun a grwp o gwestiynau mwy heriol neu destun a grwp o gwestiynau haws fel sy’n briodol.

Mae’n bwysig nodi na chaiff dysgwyr fynd yn ôl unwaith y maent wedi symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.

Amseru

Bydd dysgwyr yn gweithio wrth eu pwysau, a bydd yr asesiad yn cymryd tua 25 i 45 munud fel arfer.

Asesiadau ymgyfarwyddo

Darperir asesiadau ymgyfarwyddo er mwyn i staff eu defnyddio gyda dysgwyr cyn iddynt sefyll yr asesiad. Mae 3 asesiad ymgyfarwyddo: Blynyddoedd 2 i 3, Blynyddoedd 4 i 6 a Blynyddoedd 7 i 9.

Mae pob asesiad ymgyfarwyddo’n cynnwys un testun darllen ac amrywiaeth o gwestiynau, sy’n cynnwys enghreifftiau o bob un o’r mathau o gwestiynau a ddefnyddir yn yr asesiadau personol. Bydd cwestiwn cwblhau brawddeg yn cael ei gynnwys yn yr asesiadau ymgyfarwyddo ar gyfer Blynyddoedd 2 i 3 a Blynyddoedd 4 i 6.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn treulio amser yn helpu dysgwyr i ddod yn gyfarwydd â’r asesiadau hyn, fel y bydd yr asesiad, pan fyddant yn ei sefyll, yn rhoi’r wybodaeth orau bosibl am eu sgiliau.

Mae’r asesiadau ymgyfarwyddo i’w cael i athrawon yn y tab asesiadau ymgyfarwyddo a gellir eu defnyddio ar unrhyw adeg. Dylent gael eu cynnal ychydig cyn asesiad personol (ond nid yn yr un wers o reidrwydd oherwydd cyfyngiadau amser a rhag ofn bod dysgwyr yn blino).

Caiff y cwestiynau eu cyflwyno mewn ffordd benodol i alluogi staff i egluro’r asesiad ymgyfarwyddo i’r dosbarth cyfan, er enghraifft drwy ddarllen y testun a’r cwestiynau gyda’i gilydd, a thrafod yr ateb a sut i ymateb.

Mae'n ofynnol i ddysgwyr ym Mlwyddyn 2 mewn addysg cyfrwng Cymraeg sefyll yr asesiadau personol Darllen Cymraeg yn unig. Mae'n ofynnol i ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 3 sefyll yr asesiad personol Darllen Cymraeg. I'r dysgwyr hyn mae asesiad personol Darllen Saesneg hefyd ar gael fel opsiwn. Mae’n ofynnol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 4 i 9 mewn addysg cyfrwng Cymraeg sefyll yr asesiadau personol Darllen Cymraeg a Saesneg. Nid oes asesiad personol Darllen Cymraeg ar gyfer dysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg.

Wrth drefnu asesiad i ddysgwyr, bydd yr aelodau o staff yn dewis asesiadau personol Darllen Cymraeg neu Saesneg, fel sy’n briodol.

Hwyluso asesiad personol Darllen

Cyn i'r asesiad ddechrau, dylai’r aelodau o staff atgoffa dysgwyr o nodweddion allweddol yr asesiadau a'u hatgoffa o'r canlynol.

  • Efallai y byddant yn cael cwestiynau cwblhau brawddegau, ac efallai na fydd y rhain ar ddechrau'r asesiad.
  • Pan fydd ganddynt destun i’w ddarllen, dylent ei ddarllen yn ofalus cyn symud ymlaen i’r cwestiynau.
  • Bydd cyfarwyddyd i ddefnyddio’r botwm ‘Nesaf’ i ateb y cwestiynau ar ôl i’r dysgwyr ddarllen y testun.
  • Bydd y cwestiynau (ac eithrio’r cwestiynau cwblhau brawddegau) yn ymddangos â botwm y gellir ei ddefnyddio i agor y testun darllen, fel y gall y dysgwyr gyfeirio yn ôl ato.
  • Gall dysgwyr ddewis y botwm ‘X’ i gau’r testun darllen.
  • Os bydd y testun yn cuddio cwestiwn, gellir llusgo’r testun i un ochr i weld y cwestiwn eto.
  • Ni ellir darllen testunau na chwestiynau i ddysgwyr, gan mai asesiad o’u sgiliau darllen yw hwn.
  • Nid yw hyd yr asesiad yn adlewyrchu gallu’r dysgwr a dylai dysgwyr weithio wrth eu pwysau eu hunain. Bydd yr asesiadau yn cymryd tua 40 munud, ond bydd hynny’n amrywio, yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae’r dysgwr yn gweithio a faint o destunau a chwestiynau y mae’n eu cael.
  • Os nad yw dysgwyr yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn, dylent symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.

Mae’r asesiadau wedi cael eu cynllunio gan gadw mynediad dysgwyr mewn cof. Disgwylir y gall bron pob dysgwr eu sefyll heb drefniadau arbennig. Fodd bynnag, lle bydd angen fersiynau hygyrch mae’r asesiadau wedi cael eu llunio i ddiwallu’r amrywiaeth ehangaf posibl o anghenion mynediad, gan weithio gydag amrywiaeth eang o dechnolegau mynediad a ddefnyddir yn gyffredin a threfniadau mynediad arferol. Lle y bo modd, dylai dysgwyr gael cymorth i sefyll yr asesiadau yn yr un modd ag y maent yn cael cymorth i weithio ar gyfrifiadur yn yr ystafell ddosbarth o ddydd i ddydd. Mae adran 6 o’r canllawiau i ddefnyddwyr yn amlinellu gwybodaeth bellach am y canlynol:

  • defnyddio diagramau cyffyrddadwy a llyfrynnau Darllen Braille (adran 6.1)
  • newid lliw (adran 6.2.3)
  • defnyddio darllenwyr sgrin (adran 6.3, ond sylwch na all darllenydd sgrin gael ei ddefnyddio gyda’r asesiadau personol Darllen gan mai asesiad o sgiliau darllen y dysgwr yw hwn)
  • fersiynau mwy o faint neu offer chwyddo (adran 6.4)
  • defnyddio ysgrifenyddion (adran 6.10)
  • defnydd o ddarllenwyr (adran 6.11, ond sylwer y gellir darllen y cyfarwyddiadau i’r dysgwyr yn yr asesiadau personol Darllen, ond rhaid peidio â darllen y testunau a'r cwestiynau)
  • cynnwys sain (adran 6.9)
  • darllen yn uchel (adran 6.12)
  • man tawel (adran 6.2.2)

Noder

Gellir cael copïau o’r llyfryn o ddiagramau cyffyrddadwy ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) drwy gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru

Ar gyfer yr asesiadau Darllen, mae’r llyfrynnau darllen Braille ar gael ar ffurf Braille gradd 1 a gradd 2. Gellir cael copïau o’r llyfrynnau drwy gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru

Rhaid i staff ganiatáu pythefnos i ddarparu'r deunyddiau hyn ar gyfer unrhyw asesiadau sydd wedi'u trefnu.

Iaith Arwyddion Prydain

Yn yr asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu) gellir arwyddo unrhyw gwestiwn neu gyfarwyddyd i'r dysgwr. Gellir defnyddio cymorth iaith arwyddion arferol y dysgwr i arwyddo testun i’r dysgwr, gan weithio yn ôl cyflymder y dysgwr. Cewch arwyddo cwestiwn cyfan neu ran ohono a chofnodi ymatebion iaith arwyddion y dysgwr os yw’n briodol, ac os mai dyna’r hyn a wneir fel arfer yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd dysgwyr sy'n defnyddio ac yn dysgu drwy Iaith Arwyddion Prydain yn ddibynnol ar ddehonglwr cymwys y deunydd asesu sy'n gallu gweithio ar lefel sy'n briodol ar gyfer yr asesiad ac sy'n gyfarwydd â defnydd dysgwyr o arwyddion ar gyfer geirfa benodol i'r pwnc.

Ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) lle mae stori sain yn cefnogi'r cynnwys ar y sgrin, mae sgriptiau y gellir eu hargraffu ar gael i'w cyrchu a/neu eu lawrlwytho er mwyn arwyddo i ddysgwyr. Gellir cael llyfryn o’r sgriptiau stori sain drwy gysylltu â Desg Gymorth yr Asesiadau ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru

Yn yr asesiadau personol Darllen, dim ond y cyfarwyddiadau y gellir eu harwyddo i’r dysgwyr. Ni ellir darllen nac arwyddo’r testunau a chwestiynau i’r dysgwr gan mai asesiad o sgiliau darllen y dysgwr yw hwn.

Cymorth cyfathrebu ychwanegol

Dylai dysgwyr sydd yn derbyn cymorth cyfathrebu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth i ddysgu gael mynediad at yr un cymorth, yn unol â’r arferion safonol yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer pob dysgwr, pan fyddant yn gwneud asesiadau ar-lein.

Newid man cychwyn yr asesiad

Pennir y cwestiwn cyntaf mewn asesiad yn ôl grwp blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol presennol y dysgwr. Mae’n bosibl i’r athro/athrawes newid lefel y cwestiwn cychwynnol, a’i wneud yn haws na’r hyn a gyflwynir i ddysgwyr yn eu blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol fel arfer. Mae’r gallu i wneud hyn ar gael i’r athro/athrawes ar wefan yr asesiadau wrth drefnu asesiad i ddysgwr. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 6.13 o’r canllawiau i ddefnyddwyr.

Noder, ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 2, y man cychwyn yn yr asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu) yw un o’r cwestiynau hawsaf yn y gronfa. Ar gyfer asesiadau personol Darllen, mae nifer o destunau a chwestiynau hawdd yn y gronfa wedi’u hanelu at ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd ateb sgiliau darllen Blwyddyn 2 yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Mae’r asesiadau personol wedi cael eu cynllunio i’w gwneud yn bosibl i gynifer o ddysgwyr â phosibl eu sefyll ac mae disgwyliad y bydd bron pob dysgwr yn gwneud hynny. Gall staff newid y lefel anhawster ar gyfer dechrau pob asesiad (gweler adran 6.13 o’r canllawiau i ddefnyddwyr) lle y maent yn ystyried bod hynny'n briodol. Fodd bynnag, efallai y bydd nifer bach o ddysgwyr yn methu â sefyll yr asesiadau, hyd yn oed gydag addasiadau yn eu lle.

Efallai y bydd rhai dysgwyr, yn bennaf ond nid yn unig ym Mlwyddyn 2, nad ydynt eto’n gweithio ar lefel y cwestiynau hawsaf yn y banc ar gyfer un neu fwy o’r asesiadau personol. Mae cyfrifoldeb ar ysgolion i adnabod dysgwyr y maent yn ystyried na allant weithio ar lefel y cwestiynau hawsaf yng nghronfa gwestiynau’r asesiadau personol neu na allant sefyll yr asesiadau gydag addasiadau ar waith.

Mater i’r pennaeth yw penderfynu p’un a ddylai dysgwr sefyll asesiadau personol ai peidio. Wrth wneud penderfyniad, rhaid i’r pennaeth:

  • ystyried y canllawiau statudol hyn
  • fod wedi ystyried p’un a fyddai unrhyw rai o’r trefniadau mynediad sydd ar gael yn helpu’r dysgwr i sefyll yr asesiadau personol

Nid oes angen i benaethiaid ddatgymhwyso neu addasu rhannau o’r cwricwlwm neu’r cwricwlwm cyfan er mwyn gwneud hyn.

Rhaid gwneud pob penderfyniad datgymhwyso yn unigol. Er enghraifft, nid yw dysgwr sydd wedi'i ddatgymhwyso o'r asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) yn cael ei ddatgymhwyso'n awtomatig o'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) na'r asesiad personol Darllen.

Er mwyn lleihau unrhyw faich gweinyddol i ysgolion, nid yw’n ofyniad bellach i benaethiaid gynnal rhestr o ddatgymwysiadau. Fodd bynnag, os gofynnir iddynt gan eu consortia neu eu hawdurdod lleol, dylai penaethiaid allu esbonio'r seiliau dros nifer y datgymwysiadau yn eu hysgol, ar sail y canllawiau yn y llawlyfr hwn.

Datgymhwyso ar sail llesiant

Ni ddylai cymryd asesiad personol fod yn destun pryder i unrhyw ddysgwr. Efallai y bydd athrawon yn penderfynu bod achosion lle maent yn credu y byddai lles dysgwr yn cael ei effeithio'n andwyol. Yn y flwyddyn academaidd hon felly, gall y pennaeth barhau i wneud penderfyniadau i ddatgymhwyso ar sail llesiant, os ydynt yn barnu eu bod yn briodol. Dylid gwneud y penderfyniad ar sail dysgwr unigol, ac nid ar gyfer dosbarthiadau cyfan neu grwpiau blwyddyn.

Dysgwyr na allant gael mynediad at yr asesiadau personol hyd yn oed gydag addasiadau

Bydd anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion eraill rhai dysgwyr yn ddigon sylweddol neu ddifrifol fel na allant, ym marn y pennaeth, sefyll yr asesiadau personol hyd yn oed gyda defnydd llawn o'r asesiadau personol wedi'u haddasu a'r trefniadau mynediad sydd ar gael.

Felly, gall penaethiaid benderfynu nad yw’n ofynnol i ddysgwyr o’r fath sefyll yr asesiadau personol.

Dysgwyr y mae adrannau perthnasol o’r cwricwlwm wedi cael eu datgymhwyso mewn perthynas â nhw

Efallai y bydd gan rai dysgwyr ddatganiad AAA (fel y darperir ar ei gyfer yn adran 113 o Ddeddf Addysg 2002) neu gynllun datblygu unigol (CDU, fel y darperir ar ei gyfer yn adran 41 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018) sy'n addasu neu'n datgymhwyso rhywfaint o'r cwricwlwm neu bob rhan ohono. Hefyd, o dan adrannau 113 i 116 o Ddeddf Addysg 2002, gall penaethiaid ddatgymhwyso’r cwricwlwm dros dro i ddysgwr penodol os yw’n amhriodol, am y tro, cynnig y cwricwlwm fel y mae’n gymwys i’r dysgwr ar y pryd. Lle mae datgymhwyso o’r fath yn cael effaith ar yr elfennau o’r cwricwlwm sy’n ymwneud â llythrennedd a/neu rifedd fel y byddai effaith andwyol ar allu’r dysgwr i sefyll yr asesiadau personol, gall y pennaeth benderfynu nad oes angen i’r dysgwr hwnnw eu sefyll.

Dysgwyr sy’n dod o systemau addysg gwahanol ac na ellir cadarnhau eu gallu i sefyll yr asesiadau personol

Oherwydd y cyfleuster i addasu cwestiwn cychwynnol yr asesiadau, a'r ffaith eu bod ar gael drwy gydol y flwyddyn, mae'n annhebygol y byddai ysgol yn ystyried datgymhwyso ar y sail hon. Fodd bynnag, os nad oes digon o amser i ysgol gadarnhau gallu dysgwr i sefyll yr asesiadau personol cyn diwedd y flwyddyn ysgol, er enghraifft am ei fod wedi cyrraedd o system addysg wahanol yn ddiweddar, gall y pennaeth benderfynu nad oes angen i’r dysgwr hwnnw sefyll asesiadau personol yn ystod y flwyddyn ysgol honno. Dim ond i asesiadau personol y flwyddyn honno y bydd y ddarpariaeth hon yn gymwys.

Datgymhwyso mewn perthynas â dysgwyr sy'n dysgu Cymraeg fel iaith ychwanegol neu Saesneg fel iaith ychwanegol

Byddai datgymhwyso yn briodol dim ond ar gyfer nifer cymharol fach o ddysgwyr sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae rhaid i benaethiaid sy’n dewis yr opsiwn hwn fod yn barod i esbonio eu penderfyniad i'w consortiwm rhanbarthol neu awdurdod lleol a rhieni neu ofalwyr y dysgwr. Wrth wneud penderfyniad, mae’n rhaid i’r pennaeth wneud y canlynol:

  • rhoi sylw i’r canllawiau statudol hyn
  • ystyried p’un a fyddai unrhyw un o’r trefniadau mynediad yn helpu’r dysgwr i sefyll yr asesiadau personol

Dysgwyr sy’n newydd i system addysg y DU

Ni ellir datgymhwyso dysgwyr sy'n newydd i system addysg sy'n seiliedig ar y Gymraeg neu'r Saesneg o'r asesiadau personol am y rheswm hwn yn unig. At ddefnydd ffurfiannol mae’r asesiadau personol ac felly mae’n rhaid i bob dysgwr eu sefyll oni phenderfynir na allant eu sefyll, neu na all yr ysgol asesu eu gallu i wneud hynny.

I ystyried dysgwr yn ddisgybl sy'n newydd i system addysg sy’n seiliedig ar y Gymraeg neu’r Saesneg, mae'n rhaid bodloni'r meini prawf canlynol:

  • nid Cymraeg na Saesneg yw iaith gyntaf y dysgwr
  • mae'r dysgwr wedi cyrraedd o system addysg nad yw'n seiliedig ar y Gymraeg na'r Saesneg
  • mae’r dysgwr wedi ymuno â system addysg y Deyrnas Unedig (DU) ar neu ar ôl dechrau blwyddyn ysgol 2022 i 2023 (1 Medi 2022)