English

Hwb

Yr Hyn sy’n Bwysig yn y Dyniaethau

Trefnu yn ôl

  • Bydd taith y dysgwyr drwy’r Dyniaethau yn daith o ymholi a darganfod, wrth iddynt gael eu hannog i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Drwy’r ymholi hwn, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r Dyniaethau a’r gallu i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd‑eang. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffyrdd newydd a chreadigol o feddwl. Mae mynd i’r afael â chwestiynau yn rhoi’r modd i ddysgwyr ddeall profiadau dynol a’r byd naturiol.

    Mae dysgwyr yn defnyddio dulliau gweithredu disgyblaethol priodol, gan gynnwys dyniaethau digidol, i gasglu, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o dystiolaeth, ac i gyfleu a chyflwyno eu canfyddiadau. Mae dysgwyr yn dehongli a dwyn ynghyd gwybodaeth er mwyn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd eisoes a llywio eu dealltwriaeth o’r byd ymhellach. Drwy feddwl yn feirniadol am eu canfyddiadau, mae dysgwyr yn dod i gasgliadau gwybodus, ond maent hefyd yn deall mai dim ond casgliadau rhannol neu amhendant a geir weithiau ac y gellir eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Mae dysgwyr yn myfyrio’n ofalus er mwyn gwella eu methodoleg ac ehangu neu ddyfnhau eu hymholiad. Bydd dysgwyr hefyd yn deall mai ymgais i ddeall y cyflwr dynol yw’r ymholi hwn, yn ogystal â phroses. Yn wir, mae’r broses ymholi yn cynnig cyfleoedd i hunanfyfyrio sy’n ychwanegu ystyr at eu bywydau eu hunain ac yn cyfrannu at eu hymdeimlad o’u lle yn y byd.

    Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

    • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

      Bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn helpu dysgwyr i ennill:

      • soffistigeiddrwydd cynyddol o ran dealltwriaeth gysyniadol, a fydd yn caniatáu i ddysgwyr weld y tu hwnt i restr o ffeithiau a mynd i’r afael â’r syniadau hynny sy’n sail i ddisgyblaethau’r Dyniaethau, a’r modd y mae’r rhain yn cysylltu â’i gilydd mewn gwahanol gyd-destunau
      • gwybodaeth ddyfnach, a nodweddir gan y gallu i gysylltu dysgu newydd â gwybodaeth flaenorol, i feithrin dealltwriaeth fwy soffistigedig, ac i ddatrys yr achosion o wrthdaro a all godi pan ddaw gwahanol safbwyntiau ynghyd
      • y gallu i weithio gyda nifer gynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig
      • defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol, gan gynnwys defnydd o eirfa bwnc-benodol
      • annibyniaeth gynyddol a gallu cynyddol i hunanreoli.
    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ofyn cwestiynau syml a chynnig atebion posibl yn seiliedig ar brofiadau blaenorol.

      Gallaf ddechrau cofnodi fy arsylwadau mewn ffyrdd syml a chyfleu fy nghanfyddiadau.

      Rwyf wedi dangos chwilfrydedd am y byd o’m cwmpas.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ofyn amrywiaeth o gwestiynau fel rhan o ymholiadau, ac ymateb iddynt.

      Gallaf wneud awgrymiadau ar gyfer ymholiadau posibl.

      Gallaf wneud a chofnodi fy arsylwadau mewn amrywiaeth o ffyrdd.

      Gallaf gasglu a chofnodi gwybodaeth a data o ffynonellau penodol er mwyn ateb cwestiynau penodol.

      Gallaf ddidoli a grwpio tystiolaeth, gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf mewn perthynas ag ymholiad.

      Gallaf roi esboniadau syml am fy nghanfyddiadau.

      Gallaf ddod i gasgliadau syml.

      Rwyf wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiadau, gan ganolbwyntio ar fy ardal leol, Cymru a’r byd ehangach.

      Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o ysgogiadau a thystiolaeth, gan gynnwys ffynonellau gweledol, ffisegol a llafar a ddarparwyd ar fy nghyfer.

      Rwyf wedi cael amrywiaeth o gyfleoedd i gydweithio ag eraill er mwyn archwilio ac ymgymryd â gwaith ymchwil sylfaenol, gan gynnwys gwaith maes ac ymweliadau, ac i ymchwilio i amgylcheddau neu faterion lleol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m profiadau i fframio ymholiadau priodol.

      Gallaf lunio syniadau, gwneud rhagfynegiadau, a chynllunio sawl gwahanol ffordd o fynd i’r afael â sefyllfa neu dasg benodol, yn ogystal ag arbrofi ag amrywiaeth o opsiynau wrth roi’r syniadau hyn ar waith.

      Gallaf archwilio’r gwahaniaethau rhwng ffeithiau, barn a chredoau.

      Gallaf ganfod a chasglu amrywiaeth o dystiolaeth er mwyn cefnogi fy ymholiad, gan ddangos rhywfaint o annibyniaeth.

      Gallaf gyflwyno fy nghanfyddiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan ddefnyddio dulliau priodol.

      Gallaf werthuso arwyddocâd a defnyddioldeb y dystiolaeth rwy’n ei harchwilio.

      Gallaf ddehongli data a gwybodaeth a’u defnyddio i lywio fy nghasgliadau, gan roi rhesymau.

      Gallaf lunio a chyflwyno casgliadau ar gyfer fy nghanfyddiadau, a gallaf ddisgrifio penderfyniad neu gasgliad a ategir gan dystiolaeth sy’n seiliedig ar y broses ymholi a gynhaliwyd gennyf.

      Gallaf werthuso a myfyrio ar fy ymholiad, gan ddisgrifio’r camau rwyf wedi’u cymryd, a dod o hyd i feysydd i’w gwella.

      Rwyf wedi cymryd rhan weithgar mewn ymholiadau, yn annibynnol ac ar y cyd.

      Rwyf wedi cynnal ymholiadau sy’n canolbwyntio ar themâu rhyngddisgyblaethol.

      Rwyf wedi profi ymholiadau sy’n canolbwyntio ar fy ardal leol, Cymru a’r byd ehangach yn y gorffennol a’r presennol.

      Rwyf wedi profi ymholiadau sy’n canolbwyntio ar fy nghredoau, gwerthoedd a bydolygon fy hun, ynghyd â rhai pobl eraill.

      Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o ffynonellau a thystiolaeth, gan gynnwys ffynonellau ysgrifenedig, gweledol, ffisegol a llafar sy’n deillio o’m gwaith ymchwil.

      Rwyf wedi profi cyfleoedd i ymgymryd â gwaith ymchwil sylfaenol yn fy ardal leol a thu hwnt.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf lunio cwestiynau penagored a chymhleth, ac ymateb iddynt.

      Gallaf ystyried amrywiaeth o strategaethau hysbys er mwyn cynnal ymholiad a dethol yn annibynnol y dull gweithredu mwyaf effeithiol.

      Gallaf ddod o hyd i a dewis amrywiaeth o dystiolaeth berthnasol yn annibynnol, a gallaf dybio’r ystyr er mwyn llunio casgliadau rhesymegol.

      Gallaf ddethol y dulliau ymchwil priodol.

      Gallaf gasglu amrywiaeth o dystiolaeth berthnasol, gan gynnwys data meintiol ac ansoddol.

      Gallaf gyflwyno fy nghanfyddiadau a data, gan ddefnyddio dulliau cynyddol soffistigedig.

      Gallaf ddadansoddi fy nghanfyddiadau, gan ddisgrifio patrymau ac egluro perthnasau ar draws setiau data.

      Gallaf ddisgrifio’r penderfyniad rwyf wedi’i wneud neu’r casgliad rwyf wedi dod iddo.

      Gallaf ddeall y gall eraill ddod i wahanol gasgliadau hyd yn oed wrth ddefnyddio’r un dystiolaeth.

      Gallaf werthuso defnyddioldeb y dystiolaeth a dadansoddi ei dibynadwyedd.

      Gallaf gyfeirio at y ffynonellau rwyf wedi’u defnyddio i ddod i’m casgliadau.

      Gallaf gynnal gwerthusiad effeithiol o’r broses ymholi a ddefnyddiwyd, ac awgrymu rhai gwelliannau.

      Gallaf ddeall fod yr holl bethau uchod yn elfennau gofynnol o fewn proses ymholi, a bod modd eu cymhwyso at amrywiaeth o gwestiynau sy’n ymwneud â’r Dyniaethau.

      Gallaf adnabod ac egluro rhai gwahaniaethau rhwng y broses ymholi yng ngwahanol ddisgyblaethau’r Dyniaethau.

      Rwyf wedi cynnal ymholiadau yn annibynnol ac ar y cyd yn y Dyniaethau.

      Rwyf wedi cael y cyfle i fyfyrio ar y modd y mae fy ymholiad yn ychwanegu gwerth i’m bywyd fy hun a’r modd y mae’n cyfrannu at fy ymdeimlad o’m lle yn y byd.

      Rwyf wedi cynnal ymholiadau sy’n canolbwyntio ar gwestiynau sy’n ymwneud â meysydd pwnc penodol yn y Dyniaethau, yn ogystal â themâu a chwestiynau rhyngddisgyblaethol.

      Rwyf wedi datblygu ac wedi arwain fy ymholiadau fy hun sy’n canolbwyntio ar fy ardal leol, Cymru a’r byd ehangach, nawr ac yn y gorffennol.

      Rwyf wedi datblygu ac wedi arwain fy ymholiadau fy hun sy’n canolbwyntio ar fy nghredoau, gwerthoedd a bydolygon fy hun, ynghyd â rhai pobl eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf lunio cwestiynau penagored, cymhleth, ac ymateb yn annibynnol iddynt.

      Gallaf ddethol yn annibynnol y dulliau ymchwil priodol a’r math priodol o dystiolaeth, gan ddibynnu ar gyd-destun disgyblaeth yr ymholiad.

      Gallaf ddethol yn annibynnol y dull priodol o gyflwyno fy nghanfyddiadau a’m casgliadau, a chyfeirnodi fy ngwaith yn briodol.

      Gallaf gyfleu canlyniadau fy ymholiad, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n briodol i’r pwnc dan sylw, y diben a’r gynulleidfa.

      Gallaf ddehongli tystiolaeth, tybio, a dod i gasgliadau, gan gyfosod amrywiaeth o dystiolaeth.

      Gallaf werthuso defnyddioldeb a dibynadwyedd tystiolaeth ansoddol a meintiol, gan ystyried ei tharddiad, cynnwys, diben, cyd-destun a chyfyngiadau.

      Gallaf ddeall effaith ffynonellau o awdurdod a dadansoddi sut y cânt eu dehongli a’u defnyddio.

      Gallaf lunio a chyfiawnhau ymatebion a barnau cydlynol sy’n gytbwys ac sy’n ystyried amrywiaeth o safbwyntiau.

      Gallaf werthuso’n annibynnol lwyddiant fy ymholiadau, awgrymu gwelliannau a mireinio fy methodoleg ar gyfer ymholiadau yn y dyfodol.

      Gallaf fyfyrio mewn ffordd ystyrlon er mwyn cynnal gwaith ymchwil pellach neu ehangu’r ymholiad.

      Gallaf egluro’r nodweddion tebyg a’r gwahaniaethau rhwng ymholiadau yn y meysydd pwnc sy’n rhan o’r Dyniaethau.

      Rwyf wedi ymgymryd â rôl arweiniol wrth ddatblygu ymholiadau sy’n canolbwyntio ar fy ardal leol, Cymru a’r byd ehangach mewn un neu fwy o ddisgyblaethau’r Dyniaethau.

      Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y rhai o’m gwaith ymchwil fy hun, er mwyn ychwanegu dyfnder i’m hymholiadau.

      Rwyf wedi cael y cyfle i hunanfyfyrio, gan ystyried y modd y gall fy ymholiad ychwanegu gwerth i’m bywyd fy hun a’r modd y gall gyfrannu at fy ymdeimlad o’m lle yn y byd.

      Pan fydd y dysgwyr yn mynd i’r afael ag ymholiadau disgyblaeth-penodol, dylid ychwanegu’r canlynol at Gam cynnydd 5.

      Daearyddiaeth

      Gallaf ragfynegi deilliannau posibl gwaith ymchwil daearyddol.

      Gallaf gasglu data sylfaenol ac eilaidd meintiol ac ansoddol yn gywir.

      Gallaf ddehongli a chyflwyno data ar ffurf graffigol neu gartograffig.

      Gallaf ddod i gasgliadau ar sail data daearyddol, gan ddefnyddio sgiliau ystadegol lle y bo’n briodol.

      Hanes

      Gallaf ddeall natur oddrychol ac anghyflawn tystiolaeth hanesyddol.

      Gallaf ddadansoddi a gwerthuso dibynadwyedd, defnyddioldeb a dilysrwydd tystiolaeth hanesyddol sylfaenol ac eilaidd yng nghyd-destun yr ymholiad penodol.

      Gallaf gyfiawnhau fy nghasgliadau a’u hategu’n llawn, gan gydnabod cyfyngiadau barnau am y gorffennol yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

      Addysg grefyddol

      Gallaf fynd i’r afael ag ymholiad athronyddol gan ystyried amrywiaeth, cymhlethdod a lluosogrwydd bydolygon crefyddol ac anghrefyddol o’r byd.

      Gallaf ddeall bod cwestiynau Eithaf yn gymhleth, ac mai atebion rhannol ac amhendant a geir yn aml.

      Gallaf werthfawrogi ffynonellau o ddoethineb ac awdurdod, a bydolygon crefyddol ac anghrefyddol, uniaethu â nhw a’u gwerthuso’n feirniadol er mwyn llunio fy nghasgliadau rhesymegol fy hun.

      Gallaf arsylwi ar fathau o fynegiant crefyddol ac ymchwilio iddynt, a gallaf gynnal gwerthusiad beirniadol o’r modd y mae agweddau ar grefydd a chred yn effeithio arnaf i, ar unigolion eraill, ar gymdeithas leol ac ar gymdeithas byd-eang.

      Astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol

      Gallaf gynllunio a dilyn methodolegau astudiaethau cymdeithasol neu astudiaethau busnes priodol, gan ddefnyddio dulliau ymchwil cymdeithasol sylfaenol ac eilaidd lle y bo’n briodol.

      Gallaf gasglu, coladu a dadansoddi data sylfaenol gan ddefnyddio technegau samplu priodol.

      Rwyf wedi ystyried fy nghyfrifoldebau egwyddorol fel ymchwilydd astudiaethau cymdeithasol ac astudiaethau busnes, a gweithredu arnynt.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd. Mae datblygu meddwl ymchwilgar a chael profiad o ymholiadau yn caniatáu i’r dysgwyr ymchwilio ac ystyried pob agwedd ar y Dyniaethau.

      Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu canfod, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

      • Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar archwilio gwahanol ddehongliadau.
      • Bydd tystiolaeth eilaidd a ddefnyddir mewn ymholiadau yn dangos amrywiol safbwyntiau, dehongliadau a chynrychioliadau.

      Mae’r byd naturiol yn amrywiol a deinamig, ac mae dylanwad prosesau ffisegol a gweithredoedd dynol arno.

      • Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar gydberthnasau dynol a’r effaith ar y byd naturiol.

      Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maent yn cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

      • Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar y ffordd y mae cymdeithasau yn amrywiol ac yn lluosog.
      • Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar newid a pharhad.

      Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon, egwyddorol a chynaliadwy.

      • Drwy ymholi, mae dysgwyr yn meithrin eu dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth.
    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Celfyddydau Mynegiannol

      • Celf, cerddoriaeth, theatr, llenyddiaeth fel tystiolaeth ar gyfer ymholiadau ac fel canolbwynt iddynt.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Natur ymholiad fel y mae’n berthnasol i Wyddoniaeth a Thechnoleg.

      Iechyd a Lles

      • Defnyddio methodoleg y Dyniaethau i ystyried agweddau ar iechyd a lles megis iechyd meddwl, iechyd corfforol ac iechyd emosiynol.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Llenyddiaeth fel tystiolaeth ar gyfer ymholiadau ac fel canolbwynt iddynt.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Defnyddio data ansoddol fel tystiolaeth ar gyfer ymholiadau.
      • Casglu data sylfaenol.
      • Dulliau samplu a thechnegau ystadegol sy’n gysylltiedig â dadansoddi data.
      • Cynrychioli data ar ffurf graff.
      • Dehongli amrywiaeth o graffiau.
      • Didoli a dosbarthu.
      • Adnabod tueddiadau ac anomaleddau.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Fel rhan o’r datganiad hwn o’r hyn sy’n bwysig, dylai dysgwyr ystyried cysyniadau cwestiynu, tystiolaeth, gwerthuso, dilysrwydd, dibynadwyedd, tuedd, moeseg a barn.

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • amrywiaeth o ysgogiadau sy’n anelu at danio eu brwdfrydedd a’u hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig, ac i archwilio, darganfod a chwestiynu
      • amrywiaeth o gyfleoedd parhaus i archwilio a darganfod drwy chwarae
      • amrywiaeth o gyfleoedd i ymholi a dysgu yn yr awyr agored, yn ogystal â dan do, gan gynnwys dysgu ffisegol a digidol
      • defnyddio amrywiaeth o wahanol ffynonellau gweledol, llafar, ysgrifenedig a ffisegol
      • ymholiadau sy’n canolbwyntio ar ardal leol dysgwyr, Cymru a’r byd ehangach yn y gorffennol a’r presennol.

      Mae angen i ddysgwyr allu a gwybod sut i:

      • archwilio, arsylwi a chwestiynu
      • gwneud a chofnodi arsylwadau a chanfyddiadau, gan ddefnyddio dulliau digidol a dulliau eraill.

      • amrywiaeth o ysgogiadau sy’n anelu at danio brwdfrydedd a’u hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig, ac i archwilio, darganfod a chwestiynu

      • mynd i’r afael ag ymholiadau, yn unigol ac ar y cyd
      • mynd i’r afael â phrosesau cwestiynu athronyddol

      • casglu, didoli a grwpio gwahanol fathau o dystiolaeth
      • gwneud a chofnodi arsylwadau a chanfyddiadau, gan ddefnyddio dulliau digidol a dulliau eraill
      • dod i gasgliad syml a’i egluro
      • cynnal ymholiadau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o themâu rhyngddisgyblaethol
      • archwilio cwestiynau athronyddol am fywyd.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y fethodoleg a ddefnyddir mewn ymholiadau sy’n ymwneud â’r Dyniaethau a’r modd y gall hyn fod yn wahanol ar gyfer gwahanol ddisgyblaethau
      • y gwahaniaeth rhwng ffeithiau, barn a chredoau, a’r modd y mae hyn yn cyfrannu at berthnasedd tystiolaeth a’r defnydd a wneir ohoni.

      • gynnal ymholiadau sy’n ymwneud â themâu disgyblaethol a rhyng-ddisgyblaethol
      • dethol dulliau ymholi sy’n briodol ar gyfer yr ymholiad penodol
      • arsylwi ar wybodaeth flaenorol a’i defnyddio er mwyn creu cwestiynau priodol
      • casglu tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau
      • dehongli canfyddiadau er mwyn dod i gasgliad neu ffurfio barn
      • nodi perthnasedd yr wybodaeth a gasglwyd
      • trefnu a chyflwyno canfyddiadau yn briodol, gan ddefnyddio technegau digidol lle y bo’n briodol
      • myfyrio ar ymholiadau, gofyn cwestiynau am y broses ddysgu, ac edrych ymlaen hefyd i weld beth fydd cam nesaf yr ymholiad
      • myfyrio ar y defnydd a wneir o adnoddau digidol fel rhan o ymholiadau, a gwerthuso’r defnydd hwnnw.

      • ymholiadau sy’n canolbwyntio ar ardal leol dysgwyr, Cymru a’r byd ehangach yn y gorffennol a’r presennol
      • cyfleoedd i hunanfyfyrio wrth iddynt ystyried y modd y gall eu hymholiad ychwanegu gwerth at eu bywyd, a’r modd y gall gyfrannu at eu hymdeimlad o’u lle yn y byd.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • methodolegau priodol ar gyfer casglu data a thystiolaeth
      • y nodweddion tebyg a’r gwahaniaethau rhwng dulliau ymholi ym mhob maes pwnc.

      • gynnal ymholiadau sy’n canolbwyntio ar gwestiynau a materion rhyngddisgyblaethol yn ogystal â rhai pwnc-benodol

      • casglu tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn deillio o ddysgu yn yr awyr agored, gwaith ymchwil sylfaenol ac eilaidd
      • nodi perthnasedd yr wybodaeth a gasglwyd i gyd-destun penodol yr ymholiad
      • defnyddio amrywiol ddulliau i gyflwyno tystiolaeth o ymholiadau, gan gynnwys defnyddio technegau digidol lle y bo’n briodol
      • dehongli, cynnal dadansoddiad beirniadol a gwerthuso amrywiaeth eang o dystiolaeth ysgrifenedig, weledol, ffisegol a llafar, gan gynnwys tystiolaeth ffeithiol, athronyddol a dehongliadol
      • dehongli canfyddiadau er mwyn dod i gasgliad y mae modd ei gyfiawnhau, cyflwyno’r casgliad hwnnw a’i ategu
      • myfyrio ar a gwerthuso effeithiolrwydd ymholiadau
      • myfyrio ar y ffordd y defnyddiwyd adnoddau digidol, a’i gwerthuso.

      • myfyrio ar effeithiolrwydd ymholiadau a’u gwerthuso
      • myfyrio ar y ffordd y defnyddiwyd adnoddau digidol a’i gwerthuso.

      Yn ychwanegol at yr uchod yng Ngham cynnydd 5, fel rhan o’u hymholiadau disgyblaeth-penodol, dylid rhoi’r cyfle i ddysgwyr cynnal y canlynol.

      Daearyddiaeth
      • Ymholiadau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau a themâu amgylcheddol a daearyddol, a fydd yn cynnwys gwaith maes a dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol, casglu data meintiol ac ansoddol, a dadansoddi data rhifyddol mewn modd ystadegol.
      Hanes
      • Ymholiadau hanesyddol a fydd yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o’r defnydd o dystiolaeth ysgrifenedig, weledol a ffisegol (gan gynnwys tystiolaeth uniongyrchol neu sylfaenol, yn ogystal â ffynonellau eilaidd), ynghyd â gwerth tystiolaeth o’r fath, a hynny er mwyn egluro sut a pham y caiff dehongliadau hanesyddol eu llunio.
      Addysg grefyddol
      • Ymholiadau sy’n archwilio cwestiynau athronyddol cymhleth ynghylch ystyr a diben bywyd. Bydd hyn yn cynnwys mynd i’r afael â chwestiynau Eithaf sy’n deillio o’r byd o’u cwmpas, eu profiadau bywyd personol ac agweddau ar grefydd, ynghyd â thrwy ddefnydd o ffynonellau doethineb ac athroniaeth.

      • Ymholiadau sy’n gysylltiedig â themâu busnes ac economaidd, gan ddefnyddio mathau o gyfryngau, data, astudiaethau achos a gwaith ymchwil i’r farchnad.
      • Ymholiadau sy’n archwilio materion cymdeithasol cyfoes a dadleuol, barn a phersbectifau pobl ar faterion cymdeithasol, a’r ffordd y mae pobl yn cymryd rhan mewn cymdeithas ac yn gweithredu’n gymdeithasol.

    Bydd ein holl blant a phobl ifanc:

    yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd:

    • yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
    • yn datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso at wahanol gyd-destunau
    • yn ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
    • yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
    • yn gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maent yn dysgu amdanynt
    • yn gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
    • yn deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
    • yn defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu a dod o hyd i wybodaeth a’i dadansoddi
    • yn ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol

    ac yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

    yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd:

    • yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion
    • yn meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
    • yn adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnynt – yn mentro’n bwyllog
    • yn arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
    • yn mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
    • yn rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa

    ac yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

    yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd:

    • yn canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
    • yn trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
    • yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
    • yn deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
    • yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
    • yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
    • yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned

    ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd

    yn unigolion iach, hyderus sydd:

    • â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
    • yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
    • yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
    • yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
    • yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
    • yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
    • â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
    • yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
    • yn wynebu heriau ac yn eu trechu
    • â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallant

    ac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

  • Mae dysgwyr yng Nghymru byth a beunydd yn ceisio gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas,byd y maent yn ei brofi drwy sawl persbectif. Mae’r Dyniaethau yn eu hannog i adolygu’n feirniadol y ffyrdd y mae digwyddiadau a phrofiadau’r byd hwnnw’n cael eu cynrychioli a’u dehongli, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio eu persbectifau gwybodus eu hunain.

    Mae dysgwyr yn deall sut y gall amrywiol ffactorau ddylanwadu ar eu canfyddiadau a’u dehongliadau personol, ac ar ganfyddiadau a dehongliadau eraill. Trwy hyn cânt feithrin gwerthfawrogiad o sut y caiff naratifau a chynrychioliadau eu llunio, ac archwilio sut a pham y gall dehongliadau fod yn wahanol i’w gilydd. Wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a chynrychioliadau, byddant mewn sefyllfa well i werthuso eu dilysrwydd ac i feithrin dealltwriaeth fwy cyfannol o ddigwyddiadau, profiadau a’r byd naturiol. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr yng Nghymru i feithrin hunanymwybyddiaeth wrth iddynt greu eu safbwyntiau gwybodus eu hunain.

      Gallaf gyfleu fy syniadau am fy mhrofiadau fy hun.

      Gallaf gydnabod y gall fy nheimladau, fy ngweithredoedd a’m barnau personol fod yn wahanol i deimladau, gweithredoedd a barnau personol pobl eraill.

      Gallaf ddeall fod digwyddiadau personol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn arwyddocaol i mi.

      Gallaf ffurfio a mynegi fy marn am faterion cyfarwydd a chydnabod bod fy marn yn werthfawr i mi.

      Rwyf wedi cael cyfleoedd i drafod fy marnau am bethau rwyf wedi’u profi gyda phobl eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gydnabod safbwyntiau pobl eraill am ddigwyddiadau neu brofiadau cyfarwydd.

      Gallaf gydnabod na fydd popeth yn aros yr un fath ac y gall amser achosi newid barn.

      Gallaf ddeall fod pobl eraill yn egluro pethau mewn gwahanol ffyrdd, a gallaf ystyried rhinweddau’r safbwyntiau a’r esboniadau gwahanol hyn.

      Gallaf ddisgrifio fy nheimladau, fy ngweithredoedd a’m barnau ac egluro’r modd y maent yn wahanol i deimladau, gweithredoedd a barnau pobl eraill.

      Gallaf lunio barn am rywbeth sy’n bwysig i mi gan ystyried fy syniadau fy hun a syniadau pobl eraill.

      Rwyf wedi cael cyfleoedd i drafod fy marn a’m syniadau â phobl eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf roi tystiolaeth ar gyfer dadl neu safbwynt a chyflwyno gwrthddadleuon.

      Rwyf wedi gallu dod i gasgliad am farnau, safbwyntiau a dehongliadau pobl o ffynonellau a thystiolaeth.

      Gallaf gydnabod fod gan bobl wahanol farnau am arwyddocâd pobl, digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol a’r presennol.

      Gallaf gydnabod, derbyn a deall fod gan bobl wahanol farnau a safbwyntiau am faterion, a gallaf gymharu gwahanol ddehongliadau o’r un mater.

      Gallaf ailadrodd y dystiolaeth a ddefnyddir gan bobl i ddehongli digwyddiadau a materion mewn gwahanol ffyrdd.

      Rwyf wedi gallu llunio, mynegi a thrafod fy marn ar faterion, ar ôl ystyried tystiolaeth a safbwyntiau pobl eraill.

      Rwyf wedi trafod fy ymatebion fy hun ac eraill i gwestiynau am fywyd, profiadau a’r byd, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i gwestiynau Eithaf, ac rwyf wedi trafod y materion hyn gyda phobl nad ydynt bob amser yn rhannu’r un farn â mi.

      Rwy’n deall y gall safbwyntiau a barnau pobl newid dros amser.

      Gallaf egluro’r modd y cafodd rhai agweddau ar y gorffennol eu cynrychioli a’u dehongli mewn gwahanol ffyrdd.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf egluro’r rhesymau a all fod gan bobl neu y gall pobl eu defnyddio i egluro digwyddiadau a materion o bwys mewn gwahanol ffyrdd.

      Gallaf ddeall fod amrywiaeth o ffactorau yn dylanwadu ar ddehongliadau.

      Gallaf egluro rhai rhesymau pam y mae gan bobl wahanol farnau am arwyddocâd pobl, digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol a’r presennol, a gallaf lunio fy marn fy hun am eu harwyddocâd.

      Gallaf werthuso a dod i gasgliad am ddehongliadau a safbwyntiau o amrywiaeth o ffynonellau a thystiolaeth.

      Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o ddehongliadau er mwyn llunio persbectif personol rhesymegol.

      Gallaf fynegi, cyfiawnhau a thrafod fy marnau personol mewn trafodaethau ac ar bapur.

      Gallaf werthfawrogi fod fy hunaniaeth, fy mhrofiadau a’m credoau yn dylanwadu ar fy nehongliadau.

      Gallaf ddeall y gall dehongliadau, gan gynnwys fy rhai i, newid dros amser, yn enwedig o ystyried tystiolaeth newydd neu o ystyried y mater o bersbectif gwahanol.

      Gallaf weld fod rhai dehongliadau a barnau yn fwy dilys nag eraill.

      Gallaf egluro’r modd y gall dehongliadau ddylanwadu ar weithredoedd pobl, ar draddodiadau ac ar ffurfiau o fynegiant.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf dderbyn bod cwestiynau am fywyd, profiadau a’r byd yn gymhleth ac mai ymatebion rhannol ac amhenodol a geir yn aml, a gallaf drafod hyn.

      Gallaf ddadansoddi effeithiau gwahanol persbectifau mewn ymateb i gwestiynau am fywyd, profiadau a’r byd ar fy mywyd fy hun a bywydau pobl eraill.

      Gallaf egluro a dadansoddi amrywiaeth o resymau pam y mae gan bobl wahanol farnau am arwyddocâd pobl, digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol a’r presennol, a gallaf lunio, amddiffyn a chyfiawnhau fy marnau fy hun ar eu harwyddocâd.

      Gallaf werthuso’n feirniadol ddilysrwydd dehongliadau drwy ystyried y modd y mae lle a chred yn eu llywio ac yn dylanwadu arnynt, a’r modd y gallant newid dros amser.

      Rwyf wedi ymchwilio i’r hyn sy’n dylanwadu ar fy nehongliadau ac yn eu llywio, a gallaf egluro’r modd y mae cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol yn dylanwadu ar fy safbwyntiau.

      Gallaf werthfawrogi’r lensys amrywiol y mae pobl yn eu defnyddio i weld y byd a chydnabod cyfyngiadau fy mhersbectif personol.

      Rwyf wedi dechrau herio fy ngwerthoedd a’m persbectifau personol.

      Gallaf werthuso hygrededd a dilysrwydd amrywiaeth o bersbectifau a defnyddio’r gwerthusiad hwn er mwyn helpu i ddatblygu a chyfiawnhau fy marn gwybodus a chytbwys fy hun am fywyd, digwyddiadau a phrofiadau.

      Gallaf integreiddio persbectifau newydd neu ddiwygiedig i’m ffordd o feddwl.

      Gallaf ddod i gasgliad am ddehongliadau cynnil o ffynonellau a thystiolaeth.

      Rwyf wedi archwilio’r modd y mae dehongliadau a safbwyntiau pobl wedi arwain at weithredoedd penodol.

      Rwyf wedi cael cyfleoedd i lunio, mynegi a thrafod barn personol am amrywiaeth o faterion o bwys ar draws y Dyniaethau.

      Gallaf lunio, cyfiawnhau ac ategu fy nehongliadau personol.

      Rwyf wedi cael cyfleoedd i drafod, dadansoddi a gwerthuso’r dehongliadau a gynigir gan eraill.

      Rwyf wedi archwilio cymhlethdod materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, a mynd i’r afael â phersbectifau lluosog mewn perthynas â’r materion hyn.

      Rwyf wedi defnyddio gwahanol persbectifau i archwilio materion.

      Rwyf wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol dros ystod o bynciau llosg cyfoes a dadleuol.

      Gallaf ddeall a disgrifio’r modd y mae amrywiaeth o ffactorau yn dylanwadu ar ddehongliadau daearyddol.

      Gallaf egluro’r modd y gall dehongliadau o le, tirweddau, amgylcheddau a diwylliannau newid dros amser.

      Gallaf ddeall sut y mae dehongliadau pobl o le, tirweddau, amgylcheddau a diwylliannau yn dylanwadu ar eu gweithredoedd.

      Gallaf fynegi a chyfiawnhau fy safbwyntiau am amrywiaeth o leoedd, tirweddau, amgylcheddau a diwylliannau yng Nghymru a’r byd ehangach, a deall y gall fy safbwyntiau newid dros amser.

      Hanes

      Gallaf egluro sut a pham y mae dehongliadau o ddigwyddiadau hanesyddol wedi newid dros amser ac egluro pam y mae haneswyr yn llunio gwahanol ddehongliadau o ddigwyddiadau.

      Gallaf lunio, mynegi ac ategu fy nehongliadau personol o ddigwyddiadau hanesyddol.

      Gallaf ddeall sut y gall fy hunaniaeth, fy mhrofiadau, fy safbwyntiau a’m credoau effeithio ar fy nehongliadau personol a’m dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol.

      Gallaf addasu neu newid fy nehongliadau o ddigwyddiadau hanesyddol yng ngoleuni tystiolaeth newydd.

      Addysg grefyddol

      Gallaf gynnal gwerthusiad beirniadol o agweddau penodol ar grefydd a bydolygon, gan ystyried gwahanol ddehongliadau o ddysgeidiaethau crefyddol a’u heffaith arnaf i, ar unigolion eraill, ar gymdeithas leol ac ar gymdeithas fyd-eang.

      Gallaf ddadansoddi, dehongli a gwerthuso haenau o ystyr mewn mynegiad crefyddol, e.e. symbolaeth, pererindod, arferion, defodau, seremonïau, llenyddiaeth, celf, dawns a cherddoriaeth.

      Rwyf wedi gallu llunio, mynegi ac ategu fy marn ar amrywiaeth o gwestiynau Eithaf.

      Gallaf fynegi a chyfiawnhau fy nheimladau ag uniondeb ac aeddfedrwydd, gan ddangos yn glir sut mae’r hyn rwyf wedi’i ddysgu wedi effeithio ar fy nghredoau a’m gwerthoedd.

      Gallaf ddeall sut y gall ideolegau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol ddylanwadu ar fy nehongliadau personol ac ar ddehongliadau pobl eraill o rôl a swyddogaeth busnes mewn cymdeithas.

      Gallaf ddeall fod amrywiaeth o ddehongliadau o faterion cymdeithasol yn llywio’r modd y mae cymdeithas yn cael ei strwythuro.

      Rwyf wedi mynd i’r afael ag amrywiaeth o safbwyntiau a phersbectifau gwahanol ar faterion cymdeithasol, gan ddefnyddio’r mewnwelediadau hyn i gryfhau fy mhenderfyniadau a’m barnau.

    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Mae datblygu meddwl ymholgar yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymchwilio i’r byd, i’w orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol, drostynt eu hunain.

      • Deall y gall dehongliadau a safbwyntiau ddatblygu o ymholiadau penodol.
      • Dehongliadau a gyflwynir gan ffynonellau a thystiolaeth benodol.

      • Dehongliadau a safbwyntiau ar y gydberthynas rhwng pobl a’r byd naturiol, e.e. newid yn yr hinsawdd.

      • Dehongliadau hanesyddol o bobl a digwyddiadau.
      • Dehongliadau sy’n gysylltiedig ag ideolegau gwleidyddol.
      • Dehongliadau sy’n gysylltiedig â chrefyddau a bydolygon.

      • Safbwynt unigolyn o’i rôl a’i gyfrifoldeb personol fel dinesydd.
      • Gwahanol ddehongliadau o’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu dynoliaeth.

      • Mae’r celfyddydau mynegiannol yn gweithredu fel cyfryngau ar gyfer mynegi dehongliadau a safbwyntiau.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Dehongliadau o ddarganfyddiadau gwyddonol a’u heffaith ar y byd.
      • Canfyddiadau o’r byd naturiol.

      Iechyd a Lles

      • Sut mae pobl yn canfod ac yn dehongli digwyddiadau a phrofiadau mewn gwahanol ffyrdd.
      • Sut mae dinasyddiaeth yn gysylltiedig â dylanwadau cymdeithasol a sut mae dylanwadau cymdeithasol yn effeithio ar ddinasyddiaeth.
      • Sut mae gwerthoedd a normau unigolion yn creu hunaniaeth gyfunol a gwerthoedd cyfunol.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Llenyddiaeth fel ffordd o fynegi dehongliadau.
      • Hunaniaeth ac iaith.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Dehongli data, h.y. tueddiadau economaidd.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Fel rhan o’r datganiad hwn o’r hyn sy’n bwysig, dylai dysgwyr ystyried cysyniadau gan gynnwys canfod ystyr, cwestiynau Eithaf a chwestiynau athronyddol, cynrychioliadau, persbectifau, dehongliadau hanesyddol, arwyddocâd, dilysrwydd a llunio barnau.

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion yn eu cymuned leol er mwyn datblygu eu persbectif personol ar eu hardal leol
      • ysgogiadau sy’n tanio eu brwdfrydedd ac yn eu hysbrydoli i fod yn chwilfrydig am eu hardal leol, i ymwneud â hi a’i harchwilio
      • amrywiaeth o gyfleoedd i lunio a mynegi barnau
      • amrywiaeth o gyfleoedd i glywed a thrafod barnau amgen
      • amrywiaeth o gyfleoedd i fynd i’r afael â dehongliadau o faterion, e.e. drwy ymwneud â siaradwyr gwadd a thrwy ymweld â lleoliadau o ddiddordeb
      • cael gafael ar ddehongliadau a phersbectifau drwy amrywiaeth o gyfryngau ffisegol a digidol
      • amrywiaeth o straeon symbolaidd, arferion, arteffactau, celf, dawns, drama, cerddoriaeth a bwyd.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • beth yw barn, a chydnabod bod ganddynt hwy farnau a bod gan bobl eraill farnau.

      • drafod a mynegi eu barnau am eu profiadau neu faterion cyfarwydd
      • cydnabod bod eu barnau, a barnau pobl eraill, yn werthfawr
      • defnyddio geiriau, arwyddion neu symbolau i gyfleu arsylwadau, meddyliau a theimladau.

      • ysgogiadau sy’n tanio eu brwdfrydedd ac yn eu hysbrydoli i fod yn chwilfrydig am faterion cymhleth a dadleuol, i fynd i’r afael â nhw ac i’w harchwilio er mwyn gwneud synnwyr o’r byd

      • amrywiaeth o gyfleoedd i fynd i’r afael â chwestiynau Eithaf

      • gynnig eu syniadau eu hunain a chreu cysylltiadau
      • archwilio, darganfod a thrafod materion a digwyddiadau o fewn disgyblaethau’r Dyniaethau ac ar draws y disgyblaethau hynny
      • llunio a mynegi eu barn eu hunain ar faterion
      • cyfleu eu harsylwadau, meddyliau a theimladau gan ddefnyddio geiriau, arwyddion neu symbolau
      • cydnabod bod gan bobl wahanol farnau a safbwyntiau ac y gallant fod yn wahanol i’w barnau a’u safbwyntiau personol.

      • trafodaeth gydweithredol am amrywiaeth eang o safbwyntiau a dehongliadau amrywiol, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol

      • bod gan bobl wahanol farnau ac ailadrodd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i ategu’r barnau hyn
      • y modd y gall ffynonellau a thystiolaeth ddarparu dehongliadau
      • y modd y defnyddir ffynonellau a thystiolaeth i lunio a chyfiawnhau dehongliadau pobl.

      • archwilio materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, a mynd i’r afael â phersbectifau lluosog mewn perthynas â’r materion hyn
      • mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion a chymharu gwahanol ddehongliadau o’r un digwyddiad neu fater, ac ystyried y modd y mae gan bobl farnau gwahanol am arwyddocâd pobl, digwyddiadau neu newidiadau
      • llunio, mynegi a thrafod barnau
      • mynd i’r afael â dehongliadau a gyflwynir mewn ffynonellau, a defnyddio’r dehongliadau hyn i ategu eu dehongliadau personol
      • archwilio haenau o ystyr o fewn cynrychioliadau symbolaidd.

      • yr hyn sy’n gwneud dehongliad yn ddilys
      • y modd y caiff dehongliadau eu llywio a’u ffurfio
      • y modd y mae’r broses o ddethol tystiolaeth yn dylanwadu ar eu dehongliadau a’u barnau personol.

      • archwilio cymhlethdod materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, a mynd i’r afael â phersbectifau lluosog mewn perthynas â’r materion hyn
      • archwilio gwahanol ddehongliadau o bobl, cymdeithasau, cyfnodau amser a digwyddiadau; rôl busnes; bydolygon crefyddol ac anghrefyddol, credoau, gwerthoedd, ffynonellau a thestunau cysegredig; lleoedd, tirweddau, diwylliannau ac amgylcheddau
      • llunio, mynegi a thrafod barnau personol am amrywiaeth o faterion ar draws y Dyniaethau
      • manteisio ar amrywiaeth o ddehongliadau a barnau er mwyn llunio persbectif personol rhesymegol
      • defnyddio gwahanol persbectifau i archwilio materion
      • mynd i’r afael â’r dehongliadau a geir mewn amrywiaeth o ffynonellau, a’u defnyddio er mwyn ategu neu wrthbrofi eu dehongliadau a’u hymatebion personol
      • archwilio’r modd y mae gan bobl wahanol ddehongliadau mewn perthynas ag arwyddocâd digwyddiadau, pobl, newidiadau a phrofiadau

      • yr ystod o ffactorau sy’n cyfrannu at ddilysrwydd dehongliadau

      • y modd y mae’r broses ddethol a barnau am ddilysrwydd tystiolaeth yn dylanwadu ar eu dehongliadau a’u barnau personol.

      • archwilio cymhlethdod materion lleol, cenedlaethol a byd-eang a mynd i’r afael â phersbectifau lluosog mewn perthynas â’r materion hyn
      • archwilio ystod eang o wahanol ddehongliadau o bobl, cymdeithasau, cyfnodau amser a digwyddiadau; rôl busnes; bydolygon, credoau, gwerthoedd, ffynonellau a thestunau cysegredig crefyddol ac anghrefyddol; lleoedd, tirweddau, diwylliannau ac amgylcheddau
      • ymchwilio i a deall yr hyn sy’n dylanwadu ar eu dehongliadau a’u barnau personol ac yn eu llywio, a manteisio ar amrywiaeth o ddehongliadau a barnau er mwyn llunio persbectif personol rhesymegol
      • archwilio sut a pham y caiff dehongliadau eu llywio a’u ffurfio a sut y gallant newid dros amser
      • archwilio sut a pham y mae gan bobl wahanol ddehongliadau mewn perthynas ag arwyddocâd digwyddiadau, pobl, newidiadau a phrofiadau
      • gwerthuso dilysrwydd a hygrededd dehongliadau drwy drafod y modd y caiff dehongliadau eu llywio a’r modd y gallant newid dros amser
      • archwilio’r modd y mae dehongliadau a safbwyntiau pobl eraill wedi effeithio ar eu gweithredoedd
      • llunio, mynegi a thrafod barnau personol ar amrywiaeth o faterion ar draws y Dyniaethau
      • trafod, dadansoddi a gwerthuso’r dehongliadau a gynigir gan eraill
      • defnyddio gwahanol persbectifau i archwilio materion o bwys
      • archwilio persbectifau lluosog a gweledigaethau amgen ar gyfer y dyfodol
      • mynd i’r afael â’r dehongliadau a geir mewn amrywiaeth eang o ffynonellau, a’u defnyddio er mwyn cefnogi ac amddiffyn eu dehongliadau a’u hymatebion personol.

      Wrth gynllunio dysgu disgyblaeth-penodol, dylai’r canlynol gael eu hychwanegu at yr uchod yng Ngham cynnydd 5.

      Daearyddiaeth

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am wahanol ddehongliadau o themâu daearyddol
      • sut y gall dehongliadau amrywio gan ddibynnu ar bethau gan gynnwys diwylliant, statws cymdeithasol-economaidd, oedran, rhywedd, addysg, profiadau teithio, unigolion
      • sut mae cynrychioliadau o le, diwylliannau ac amgylcheddau yn newid dros amser, e.e. mewn daearyddiaeth ddiwylliannol, sut y caiff lle, amgylcheddau a diwylliannau eu cynrychioli drwy gerddoriaeth, llenyddiaeth, ffilmiau, ac ati
      • sut mae canfyddiadau pobl yn dylanwadu ar y ffordd y maent yn rhyngweithio â lleoedd, amgylcheddau a diwylliannau
      • arwyddocâd gwahanol safbwyntiau a chanfyddiadau o ran deall newidiadau mewn amgylcheddau ffisegol a dynol ar bob graddfa o Gymru i’r byd ehangach.
      Hanes

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y cafodd pobl a digwyddiadau’r gorffennol yng Nghymru a’r byd ehangach eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd
      • sut a pham y mae haneswyr wedi llunio eu dehongliadau
      • sut a pham y mae haneswyr yn llunio gwahanol ddehongliadau o’r un digwyddiad neu berson
      • sut mae gwahanol safbwyntiau a dehongliadau wedi effeithio ar ddigwyddiadau mewn hanes.

      • gymhwyso dulliau gwerthuso priodol wrth ystyried dilysrwydd dehongliadau hanesyddol.
      Addysg grefyddol

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am ganfyddiadau, dehongliadau a chynrychioliadau o fydolygon, credoau ac arferion, symbolaeth, pererindod, arferion, defodau, seremonïau, llenyddiaeth, celf, traddodiadau, dawns a cherddoriaeth crefyddol ac anghrefyddol
      • am ddehongli a gwerthuso testunau, ffynonellau o ddoethineb ac awdurdod a thystiolaeth arall.

      • gyfleu credoau, syniadau, gwerthoedd a phrofiadau personol mewn ffordd glir a chydlynus ond gan barchu hawliau eraill i fod yn wahanol.

      • am ideolegau a phersbectifau gwleidyddol, economaidd a busnes
      • y cyfraniadau a wnaed gan unigolion busnes yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a ledled y byd yn y gorffennol a’r presennol
      • sut mae penderfyniadau economaidd busnesau a diwydiannau wedi effeithio ar brofiadau a phersbectifau
      • am ddehongliadau o faterion cymdeithasol ac anghydraddoldeb cymdeithasol
      • safbwyntiau a dehongliadau o gymdeithas drwy ‘lensys’ hunaniaeth, amlddiwylliant, rhywedd a rhywioldeb.

  • Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd i feithrin chwilfrydedd ynghylch y byd naturiol, a deall sut a pham mae’n newid. Yn ei dro, bydd hwn yn helpu dysgwyr i adnabod beth sy’n gwneud lle yn wahanol ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r rhyng-gysylltiadau sydd rhwng pobl a’u hamgylchedd. O ganlyniad, mae dysgwyr mewn sefyllfa well i wneud cysylltiadau rhwng y gorffennol a’r presennol ac i ddychmygu dyfodol posibl.

    Drwy ddeall amrywiaeth o brosesau ffisegol, a’u hachosion a’u heffeithiau, bydd dysgwyr yn gwerthfawrogi sut mae lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yn newid yng Nghymru a’r byd ehangach. Byddant hefyd yn meithrin eu dealltwriaeth o’r ffordd y mae gweithredoedd dynol yn y gorffennol a’r presennol yn effeithio ar y byd naturiol a sut mae’r byd naturiol yn effeithio ar fodau dynol. Bydd hyn yn dwysáu ymwybyddiaeth dysgwyr o’r modd y mae gweithredoedd dynol yn dylanwadu ar gynaliadwyedd ein byd yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn annog dysgwyr yng Nghymru, fel cynhyrchwyr a defnyddwyr, i ddeall eu heffaith hwy eu hunain ar y byd naturiol.

    Bydd dysgwyr yn archwilio amrywiaeth o gredoau ac athroniaethau am y byd naturiol, a sut y maent yn dylanwadu ar y modd y mae’r byd â’i bobl yn rhyngweithio. Byddant yn dysgu hefyd ystyried sut y gall profiad o’r byd naturiol gyfrannu at eu datblygiad ysbrydol a’u lles, ac ennyn ynddynt ymdeimlad o le ac ymdeimlad o berthyn, fel sy’n cael ei ymgorffori yn y gair cynefin.

      Gallaf gydnabod ble mae lleoedd a sut y maent yn wahanol i’w gilydd ac yn debyg i’w gilydd.

      Gallaf gyfleu fy nheimladau am y byd naturiol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddisgrifio nodweddion ffisegol penodol lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yng Nghymru a’r byd ehangach.

      Gallaf adnabod rhai credoau crefyddol ac anghrefyddol am y byd naturiol a’r modd y gallai hyn ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â’r byd.

      Gallaf adnabod rhai gofodau, lleoedd a ffenomena arwyddocaol yn y byd naturiol.

      Gallaf ddisgrifio’r modd y mae gweithredoedd pobl a’r byd naturiol yn effeithio ar ei gilydd, a hynny yn y gorffennol a’r presennol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddisgrifio a lleoli lleoedd, amgylcheddau a thirweddau, gan gynnwys nodweddion a thirffurfiau nodedig, gan ddefnyddio sgiliau mapio lle y bo hynny’n briodol.

      Gallaf ddisgrifio patrymau dosbarthu nodweddion yn y byd naturiol a dechrau rhoi rhesymau dros y patrymau hyn.

      Gallaf ddangos dealltwriaeth o achosion ac effeithiau y digwyddiadau a phrosesau ffisegol sy’n llywio lleoedd, amgylcheddau, tirweddau a phobl.

      Gallaf ddisgrifio’r modd y mae gweithredoedd dynol wedi arwain at barhad a newid yn y byd naturiol yn ystod gwahanol gyfnodau hanes.

      Gallaf ddisgrifio’r modd y mae prosesau ffisegol wedi effeithio ar gymdeithasau dynol mewn hanes a’r modd y maent wedi arwain at newid a pharhad.

      Gallaf ddangos dealltwriaeth o’r cysyniad o gynaliadwyedd.

      Gallaf ddisgrifio amrywiaeth o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol am y byd naturiol.

      Gallaf ddisgrifio rhai arferion crefyddol ac anghrefyddol sy’n gysylltiedig â gofodau, lleoedd a ffenomena arwyddocaol yn y byd naturiol.

      Gallaf ddisgrifio’r modd y gall credoau effeithio ar weithredoedd dynol yn y byd naturiol.

      Gallaf gyfleu fy safbwyntiau a’m teimladau am y byd naturiol a’r rhan rwy’n ei chwarae yn y byd hwnnw.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf egluro nodweddion cymhleth lleoedd, amgylcheddau a thirweddau ar amrywiaeth o raddfeydd, gan ddefnyddio sgiliau map lle y bo hynny’n briodol.

      Gallaf ddisgrifio dosbarthiad a phatrymau cyfnewidiol dros amser mewn perthynas â lleoedd, gofodau ac amgylcheddau, a’r cysylltiadau sydd rhyngddynt.

      Gallaf egluro achosion ac effeithiau newid ar leoedd, amgylcheddau, tirweddau a phobl, dros amser, gan ystyried rhyng-gysylltiadau rhwng ffactorau.

      Gallaf egluro patrymau parhad a newid yn y byd naturiol yn ystod gwahanol gyfnodau hanes.

      Gallaf egluro arwyddocâd effaith prosesau ffisegol ar gymdeithasau dynol yn y presennol a’r gorffennol.

      Gallaf ddeall y cyfrifoldeb sydd ar bobl i greu byd naturiol cynaliadwy.

      Gallaf archwilio ystod eang o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol am y byd naturiol, a’r cyfrifoldeb sydd gan y ddynoliaeth i’w warchod.

      Gallaf ddisgrifio amrywiaeth o arferion crefyddol ac anghrefyddol sy’n gysylltiedig â gofodau, lleoedd a ffenomena arwyddocaol yn y byd naturiol.

      Gallaf egluro rhai bydolygon crefyddol ac anghrefyddol am natur bywyd a marwolaeth, a chredoau am fywyd ar ôl marwolaeth a’r cysyniad o Realiti Eithaf.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf roi disgrifiadau ac esboniadau cynhwysfawr o leoedd, amgylcheddau a thirweddau, gan gynnwys nodweddion a thirffurfiau nodedig, a chymhwyso’r wybodaeth hon at amgylcheddau anghyfarwydd.

      Gallaf greu mapiau, a dethol a rhoi ar waith amrywiaeth o sgiliau mapio cymhleth yn briodol er mwyn canfod lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yn gywir, gan gynnwys defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol digidol soffistigedig.

      Gallaf esbonio patrymau dosbarthu nodedig nodweddion yn y byd naturiol, a hynny ar wahanol raddfeydd.

      Gallaf ddethol a gwerthuso addasrwydd y dulliau digidol a’r dulliau eraill a ddefnyddir i ganfod lleoedd, amgylcheddau, tirweddau a phatrymau dosbarthu gofodol.

      Gallaf werthuso cost amgylcheddol gweithgarwch busnes ac awgrymu strategaethau o’r modd y gall gwahanol fusnesau ymateb i faterion amgylcheddol.

      Gallaf egluro’n gynhwysfawr amrywiaeth eang o brosesau ffisegol sydd wedi cyfrannu at ffurfio’r byd naturiol.

      Gallaf egluro a gwerthuso’n feirniadol y cysylltiadau rhwng achosion ac effeithiau newid ar leoedd, amgylcheddau, tirweddau a phobl.

      Gallaf werthuso’n feirniadol gynaliadwyedd strategaethau i leihau risg ac effaith prosesau ffisegol ar bobl a’u hamgylchedd.

      Gallaf werthuso ac egluro patrymau parhad a newid yn y berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd yn y presennol a’r gorffennol, a’r effaith a gaiff y naill ar y llall dros ystod o gyd-destunau ac ar amrywiaeth o raddfeydd, a gallaf awgrymu strategaethau posibl i leihau’r effeithiau hyn.

      Gallaf ddeall ac egluro’r modd y gall amgylcheddau fod o dan fygythiad.

      Gallaf ddeall ac egluro canlyniadau byw mewn ffordd anghynaliadwy ac awgrymu enghreifftiau posibl o ddyfodol cynaliadwy.

      Gallaf werthuso’n feirniadol ystod o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol am natur y byd naturiol, a’r cyfrifoldeb sydd gan y ddynoliaeth i’w warchod.

      Gallaf werthuso amrywiaeth o arferion crefyddol ac anghrefyddol sy’n gysylltiedig â gofodau, lleoedd a ffenomena arwyddocaol yn y byd naturiol.

      Gallaf egluro a gwerthuso ystod o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol sylweddol am y cysyniadau o Realiti Eithaf, natur bywyd a marwolaeth, a chredoau am fywyd ar ôl marwolaeth.

      • Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar y gydberthynas rhwng pobl a’r byd naturiol.

      • Dehongliadau o newidiadau i’r byd naturiol.
      • Dehongliadau o gyfrifoldeb dynol tuag at y byd naturiol.

      • Effaith gymharol gwahanol gymdeithasau ar wahanol adegau ar y byd naturiol.
      • Sut mae’r byd naturiol wedi effeithio ar esblygiad cymdeithasau dynol ac wedi cyfrannu at newid.

      • Yr heriau amgylcheddol sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd.
      • Rôl a chyfrifoldeb unigolion wrth ddiogelu’r amgylchedd.

      • Y byd naturiol fel ysgogiad ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Rôl gwyddoniaeth wrth egluro’r byd o’n cwmpas a sut y cafodd ei ffurfio.
      • Effaith datblygiadau gwyddonol a thechnolegol ar y byd naturiol.
      • Pethau byw a’u lle yn y byd naturiol.

      Iechyd a Lles

      • Cyfraniad y byd naturiol at ein hiechyd a’n lles.
      • Ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar iechyd a lles.
      • Cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Y byd naturiol fel ysgogiad ar gyfer llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol.
      • Empathi a sensitifrwydd diwylliannol.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Defnyddio offer priodol i fesur yn gywir.
      • Graddfa.
      • Amser a threfn gronolegol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Fel rhan o’r datganiad hwn o’r hyn sy’n bwysig, dylai dysgwyr ystyried cysyniadau sy’n gysylltiedig â lle, gofod, yr amgylchedd, prosesau ffisegol, arwyddocâd, achos ac effaith, a newid a pharhad.

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • dysgu yn yr awyr agored, sy’n cynnwys archwilio a phrofiadau uniongyrchol o leoedd, amgylcheddau a thirweddau, er mwyn deall sut mae’r byd naturiol yn gweithio (dylai hyn gynnwys ardal leol y dysgwr ei hun)
      • cyfleoedd i feithrin chwilfrydedd ynghylch y byd naturiol a gwerthfawrogiad ohono
      • cyfleoedd i brofi ymdeimlad o barchedig ofn a rhyfeddod, ac i fyfyrio ar y byd naturiol a’u cysylltiad ag ef.

      • adnabod nodweddion penodol lleoedd, amgylcheddau a thirweddau drwy archwiliadau uniongyrchol
      • cyfleu eu teimladau a’u syniadau am nodweddion lleoedd cyfarwydd
      • adnabod newid o fewn lleoedd cyfarwydd ar wahanol adegau o’r flwyddyn
      • adnabod rhai o’r effeithiau y mae pobl yn eu cael ar leoedd, amgylcheddau a thirweddau
      • mynegi eu teimladau tuag at y byd naturiol.

      • ganfod lleoedd, amgylcheddau a thirweddau gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau
      • cydnabod nodweddion ffisegol penodol amgylcheddau, ac adnabod y nodweddion tebyg a’r gwahaniaethau rhyngddynt
      • cydnabod bod lleoedd yn newid dros amser ac awgrymu rhai rhesymau dros hyn
      • dangos ymwybyddiaeth o rai bydolygon crefyddol ac anghrefyddol am y byd naturiol, gan gynnwys am darddiadau’r byd naturiol
      • disgrifio’r modd y mae credoau pobl yn dylanwadu ar y ffordd y maent yn ymddwyn tuag at y byd
      • disgrifio rhai o’r effeithiau y mae pobl fel defnyddwyr a chynhyrchwyr yn eu cael ar leoedd, amgylcheddau a thirweddau
      • disgrifio’r modd y mae’r byd naturiol wedi effeithio ar bobl a’u hamgylcheddau yn y gorffennol a’r presennol

      • ddangos dealltwriaeth o nodweddion ffisegol lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yng Nghymru a’r byd ehangach
      • defnyddio mapiau a diagramau â nodiadau arnynt, lle y bo’n briodol
      • creu mapiau syml a defnyddio amrywiaeth o sgiliau mapio er mwyn canfod lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yn gywir, gan ddefnyddio dulliau digidol a dulliau eraill
      • disgrifio dosbarthiad a phatrymau cyfnewidiol dros amser mewn perthynas â lleoedd, gofodau ac amgylcheddau, gan ddefnyddio sgiliau mapio priodol, rhai digidol ac eraill
      • adnabod digwyddiadau arwyddocaol yn y gorffennol a disgrifio’r modd y maent wedi newid lleoedd, amgylcheddau a thirweddau
      • adnabod sut mae’r byd naturiol wedi effeithio ar bobl yn y gorffennol a’r presennol mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol
      • egluro’r modd y mae prosesau ffisegol wedi cyfrannu at ffurfio tirweddau ffisegol
      • disgrifio ystyr cynaliadwyedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau, megis y modd y gall ein gweithredoedd ni fygwth amgylcheddau os na fyddwn yn byw mewn modd cynaliadwy, yng Nghymru a’r byd ehangach
      • disgrifio ystod o gredoau crefyddol ac anghrefyddol am y byd naturiol a’r modd y gallai’r rhain ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn ffurfio credoau ac yn rhyngweithio â’r byd
      • disgrifio’r credoau crefyddol ac anghrefyddol am y rhyng-gysylltiad rhwng pobl a’r amgylchedd ac am gyfrifoldeb dynol am y byd naturiol
      • cyfleu eu teimladau a’u safbwyntiau am y ffordd y maent yn rhyngweithio â’r byd naturiol.

      • am ystod o themâu a chysyniadau, gan gynnwys newid amaethyddol a diwydiannol, newid hinsawdd, prynwriaeth, cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol, cyflogaeth, natur, peryglon a thrychinebau naturiol, mudo, mythau, chwedlau a straeon, pererindod, llygredd, poblogaeth, prinder adnoddau, lleoedd cysegredig, aneddiadau, masnach, rhyfel a gwrthdaro
      • am effaith busnesau a weithredoedd pobl, yn eu rôl fel cynhyrchwyr a defnyddwyr, ar y byd naturiol
      • am ddylanwad grwpiau a sefydliadau gwleidyddol ar y byd naturiol
      • achosion ac effeithiau y prosesau ffisegol sy’n llywio lleoedd, amgylcheddau a thirweddau
      • achosion ac effeithiau newid i leoedd, amgylcheddau, tirweddau a phobl dros amser, gan gynnwys ffactorau economaidd, gwleidyddol, technolegol a chymdeithasol
      • bod ystod o brosesau ffisegol yn rhyngweithio er mwyn datblygu tirweddau penodol ar amrywiaeth o raddfeydd
      • am gynaliadwyedd yng nghyd-destun strategaethau i leihau risg ac effaith prosesau ffisegol ar bobl a’u hamgylchedd
      • am amrywiaeth o ffactorau sydd wedi cael effaith gadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r byd ehangach, ac sy’n parhau i gael effeithiau o’r fath.

      • roi disgrifiadau manwl o leoedd, amgylcheddau a thirweddau, gan gynnwys nodweddion a thirffurfiau nodedig, a nodi’r mathau o gymunedau dynol a natur y cymunedau hynny
      • creu a defnyddio amrywiaeth o fapiau, a rhoi sgiliau mapio ar waith er mwyn canfod lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yn gywir, a hynny drwy ddulliau digidol a dulliau eraill, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol
      • disgrifio ac egluro patrymau a rhesymau dros newidiadau o ran dosbarthiad gofodol aneddiadau a nodweddion, megis mudo, poblogaeth neu ddiwydianeiddio
      • egluro amrywiaeth o arferion crefyddol ac anghrefyddol sy’n gysylltiedig â gofodau, lleoedd a ffenomena arwyddocaol yn y byd naturiol
      • disgrifio rhai bydolygon crefyddol ac anghrefyddol am gysyniadau Realiti Eithaf, natur bywyd a marwolaeth, a chredoau am fywyd ar ôl marwolaeth
      • disgrifio bydolygon crefyddol ac anghrefyddol am newid, achos ac effaith, a’r rhyng‑gysylltiad rhwng pobl a’r byd naturiol
      • egluro’r modd y mae ystod o fydolygon yn llywio barn am gynaliadwyedd y byd, gan gynnyws bydolygon crefyddol ac anghrefyddol
      • archwilio ystod o gredoau, moesegau ac athroniaethau am y byd naturiol a’r modd y maent yn dylanwadu ar y modd y mae pobl a’r byd yn rhyngweithio
      • mynegi eu profiadau a’u gwerthfawrogiad o ryngweithio â’r byd naturiol a’r effaith y mae hyn wedi’i chael arnynt
      • defnyddio mapiau a diagramau â nodiadau arnynt
      • archwilio amrywiaeth o amgylcheddau lleol a chael cyfleoedd i feithrin eu chwilfrydedd ynghylch yr amgylcheddau hynny a’u gwerthfawrogiad ohonynt.

      • am effaith busnesau a gweithredoedd pobl, yn eu rôl fel cynhyrchwyr a defnyddwyr, ar y byd naturiol

      • cydsyniad cynaliadwyedd yng nghyd-destun strategaethau i leihau risg ac effaith prosesau ffisegol ar bobl a’u hamgylchedd, megis sut y gall llywodraethau, busnesau a sefydliadau eraill ymateb i faterion amgylcheddol
      • am amrywiaeth o gredoau, athrawiaethau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol sy’n gysylltiedig â gofodau, lleoedd a ffenomena arwyddocaol yn y byd naturiol
      • am fydolygon crefyddol ac anghrefyddol am newid, ac am achos ac effaith, yng nghyd‑destun y byd naturiol, a all hyn gynnwys syniadau am rhyng-gysylltedd a tharddiad dibynnol
      • am effeithiau cadarnhaol a negyddol pobl ar y byd naturiol yn y gorffennol a’r presennol, yng Nghymru a’r byd ehangach
      • am effeithiau y byd naturiol ar bobl, yn y gorffennol a’r presennol, yng Nghymru a’r byd ehangach.

      • roi disgrifiadau ac esboniadau cynhwysfawr o leoedd, amgylcheddau a thirweddau, gan gynnwys nodweddion a thirffurfiau nodedig, a nodi mathau o gymunedau dynol a natur y cymunedau hynny
      • creu, defnyddio a gwerthuso priodolrwydd amrywiaeth o fapiau cymhleth, a rhoi eu sgiliau mapio ar waith er mwyn canfod lleoedd, amgylcheddau a thirweddau yn gywir, a hynny drwy ddulliau sy’n cynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol digidol soffistigedig
      • gwerthuso addasrwydd y dulliau digidol a’r dulliau eraill a ddefnyddir i ganfod patrymau dosbarthu gofodol
      • egluro achosion patrymau dosbarthu nodedig nodweddion yn y byd naturiol, a hynny ar wahanol raddfeydd
      • disgrifio dosbarthiad a phatrymau cyfnewidiol lleoedd, gofodau ac amgylcheddau dros amser a’r cysylltiadau rhyngddynt
      • disgrifio ac egluro datblygiad amrywiaeth o nodweddion ffisegol, amgylcheddau a thirweddau yng Nghymru a’r byd ehangach
      • egluro bod amrywiaeth o brosesau ffisegol yn rhyngweithio er mwyn llywio tirffurfiau penodol ar amrywiaeth o wahanol raddfeydd
      • meithrin dealltwriaeth feirniadol o effaith gweithredoedd pobl ar amrywiaeth o leoedd, amgylcheddau a thirweddau
      • gwerthuso’n feirniadol ystod o strategaethau i leihau risg ac effaith prosesau ffisegol ar bobl a’u hamgylchedd
      • egluro sut y gall gweithredoedd pobl fygwth amgylcheddau os na fyddwn yn byw mewn modd cynaliadwy
      • gwerthuso’n feirniadol ystod o ffactorau sydd wedi cael effaith ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r byd ehangach ac sy’n parhau i gael effeithiau, megis newid yn yr hinsawdd a chanlyniadau byw mewn modd anghynaliadwy
      • gwerthuso achosion ac effeithiau newid cadarnhaol a negyddol ar leoedd, amgylcheddau, tirweddau a phobl dros amser, gan gynnwys ffactorau economaidd, busnes, gwleidyddol, technolegol a chymdeithasol, gan feithrin dealltwriaeth o’u cysylltiad â chynaliadwyedd
      • gwerthuso amrywiaeth o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol o’r byd am gysyniadau Realiti Eithaf, natur bywyd a marwolaeth, a chredoau am fywyd ar ôl marwolaeth
      • gwerthuso amrywiaeth o gredoau, moesegau ac athroniaethau crefyddol ac anghrefyddol am newid, am achos ac effaith, a’r rhyng-gysylltiad rhwng profiad dynol, ymddygiad dynol a’r byd naturiol, gan ystyried sut y maent yn dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio ag ef
      • egluro’r modd y mae amrywiaeth o fydolygon yn llywio barnau am gynaliadwyedd y byd, gan gynnwys bydolygon crefyddol ac anghrefyddol
      • egluro ac asesu arwyddocâd newidiadau a digwyddiadau hanesyddol ar y byd naturiol
      • archwilio amrywiaeth o amgylcheddau a chael cyfleoedd i feithrin eu chwilfrydedd ynghylch yr amgylcheddau hynny a’u gwerthfawrogiad ohonynt
      • mynegi eu profiadau o ryngweithio â’r byd naturiol a’r effaith y mae hyn wedi’i chael arnynt.

  • Gall gwethfawrogiad o hunaniaeth, treftadaeth a chynefin ddylanwadu’n emosiynol ac yn ysbrydol ar ddysgwyr, a helpu i greu ymdeimlad o hunan ac o berthyn. Drwy ddeall eu hunain, mae dysgwyr yn meithrin eu hunaniaeth eu hunain ac ymwybyddiaeth o sut y gallant, fel unigolion, ddylanwadu ar y cymunedau y maent yn byw ynddynt. O ganlyniad, daw dysgwyr i ddeall y gall y dewisiadau y mae pob un ohonom yn eu gwneud, yn unigol ac ar y cyd, gael effeithiau sylweddol.

    Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o natur gymhleth, luosol ac amrywiol cymdeithasau yng Nghymru a’r byd ehangach. Dros amser, mae’r cymdeithasau hyn wedi esblygu, gan brofi parhad a newid sydd wedi effeithio ar eu bywydau nhw a bywydau pobl eraill, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae’r esblygiad hwn yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng amryw o ffactorau, gan gynnwys gweithredoedd a chredoau pobl, a grymoedd ffisegol. Mae’r Dyniaethau yn meithrin dealltwriaeth o achosion, canlyniadau ac arwyddocâd y newidiadau a’r grymoedd sydd wedi dylanwadu ar gymdeithasau.

    Mae’r Dyniaethau yn annog dealltwriaeth feirniadol o’r modd y caiff amrywiol gymdeithasau yng Nghymru a’r byd ehangach eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain. Caiff cymdeithasau eu nodweddu gan amrywiaeth o normau a gwerthoedd diwylliannol, economaidd, cyfreithiol a gwleidyddol. Maent hefyd yn ddeinamig, gan sbarduno newidiadau ac ymateb iddynt, ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Bydd dysgwyr yn archwilio’r cysylltiadau rhwng y cymdeithasau hyn yn y gorffennol a’r presennol. Cânt eu hannog hefyd i archwilio a meithrin dealltwriaeth oddefgar ac empathetig o’r amrywiol gredoau, gwerthoedd, traddodiadau a moesegau sy’n sail i gymdeithas ddynol ac sy’n dylanwadu arni.

      Gallaf ddilyniannu digwyddiadau a ddigwyddodd dros gyfnod byr o amser er mwyn dangos fy mod yn deall bod rhai pethau yn newid dros amser.

      Gallaf adnabod amseroedd, digwyddiadau a thraddodiadau arbennig yn fy nghymuned a’r byd ehangach.

      Gallaf adnabod digwyddiadau sy’n arwyddocaol i mi ac sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

      Gallaf ddangos ymwybyddiaeth o bwy ydwyf ac fy mod yn debyg ac yn wahanol i eraill.

      Gallaf sôn am beth sy’n debyg ac yn wahanol rhwng pobl yn fy nghymuned.

      Gallaf ddangos ymwybyddiaeth fy mod yn rhan o wahanol gymunedau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddilyniannu digwyddiadau a deall y gellir rhannu’r gorffennol yn gyfnodau amser.

      Gallaf adnabod beth sy’n debyg ac yn wahanol rhwng bywydau pobl yn y gorffennol a’r presennol.

      Gallaf adnabod agweddau ar fy nghymuned, a’r modd y gall rhai ohonynt fod wedi bod yn wahanol yn y gorffennol.

      Gallaf adnabod rhai achosion a chanlyniadau digwyddiadau a newidiadau yn y gorffennol a’r presennol.

      Gallaf adnabod rhai ffactorau sy’n cyfrannu at fy hunaniaeth, a’r ffyrdd rwy’n debyg ac yn wahanol i eraill.

      Gallaf ddisgrifio amseroedd, digwyddiadau, traddodiadau a phobl arbennig yn fy nghymuned a’r byd ehangach, a gallaf egluro eu bwysigrwydd.

      Gallaf ddeall fod cymdeithasau yng Nghymru a’r byd ehangach yn cynnwys amrywiol grwpiau o bobl.

      Gallaf ddangos ymwybyddiaeth o wahanol gredoau pobl.

      Gallaf gydnabod pwysigrwydd y gwahanol reolau, rolau a chyfrifoldebau yn yr amrywiol gymunedau rwy’n perthyn iddynt.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddefnyddio llinellau amser ar raddfa i roi trefn ar ddigwyddiadau, a’u defnyddio i ddisgrifio sut mae cymdeithasau wedi newid neu wedi aros yr un peth dros amser yng Nghymru a’r byd ehangach.

      Gallaf ddefnyddio termau cyffredin i ddisgrifio cyfnodau amser a threigl amser.

      Gallaf gysylltu a rhoi trefn ar achosion neu ganlyniadau lluosog sy’n gysylltiedig â digwyddiadau arwyddocaol.

      Gallaf ddangos y gall canlyniadau penderfyniadau a digwyddiadau fod yn gadarnhaol ac yn negyddol.

      Rwy’n ymwybodol o’m hunaniaeth ac yn parchu’r ffaith bod gan eraill wahanol hunaniaeth.

      Gallaf adnabod rhai ffactorau sy’n cyfrannu at fy hunaniaeth a gwerthfawrogi’r ffyrdd rwy’n debyg ac yn wahanol i eraill.

      Gallaf egluro amseroedd, digwyddiadau a thraddodiadau arbennig yn fy nghymuned a’r byd ehangach a chyfleu fy nheimladau amdanynt.

      Gallaf ddeall fod gwahanol brofiadau, crefyddau, bydolygon, credoau ac arferion yn cyfrannu at gymdeithasau amrywiol yng Nghymru a’r byd ehangach.

      Gallaf ddeall yr amrywiaeth o ddiwylliannau a chymdeithasau sy’n bodoli y tu hwnt i’m profiad personol, a gwerthfawrogi pwysigrwydd iaith, credoau a gwerthoedd yn y broses o ffurfio hunaniaethau diwylliannol.

      Gallaf ymateb yn sensitif i syniadau am gymunedau a diwylliannau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddefnyddio fy nealltwriaeth o gronoleg i egluro a dadansoddi’r modd y mae gwahanol gymdeithasau wedi newid neu wedi aros yr un peth dros amser, a hynny yng Nghymru a’r byd ehangach.

      Gallaf adnabod trobwyntiau arwyddocaol sy’n dylanwadu ar newid mewn cymdeithas ac egluro sut y gallant gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar fywydau pobl.

      Gallaf gategoreiddio ac egluro achosion a chanlyniadau digwyddiadau yn y gorffennol, gan gydnabod natur gymhleth a dadleuol esboniadau.

      Gallaf egluro ffyrdd y caiff fy hunaniaeth bersonol a hunaniaeth pobl eraill eu mynegi.

      Gallaf egluro’r effaith y gall gweithredoedd a phenderfyniadau’r bobl hynny mewn awdurdod a grym ei chael ar unigolion ac ar fywydau pobl eraill.

      Gallaf ddeall fod tensiynau o fewn cymunedau a chymdeithasau, a gallaf ymateb yn sensitif wrth drafod y materion dadleuol hyn.

      Gallaf egluro a gwerthuso cyfraniadau pobl at gymdeithas yng Nghymru a’r byd ehangach.

      Gallaf ddeall fod ymddygiad a pherthnasau pobl yn y gorffennol yn dylanwadu ar amrywiaeth ddiwylliannol.

      Gallaf egluro ffyrdd y gall amrywiol gymunedau gyd-fyw er budd pawb.

      Gallaf greu cysylltiadau a chymariaethau ystyrlon rhwng cymdeithasau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddefnyddio fy nealltwriaeth fanwl o natur a graddau newid a pharhad dros gyfnod estynedig o amser i ddadansoddi’n feirniadol y ffordd y mae diwylliannau wedi addasu ac wedi newid.

      Gallaf gymharu a chyferbynnu trobwyntiau arwyddocaol, gan ddefnyddio amrywiol feini prawf sy’n ystyried yr effeithiau cadarnhaol a negyddol ar fywydau pobl.

      Gallaf ddadansoddi ac egluro’r modd y mae amrywiol ffactorau achosol yn rhyng-gysylltiedig, dros amrywiaeth o raddfeydd amser, a’r modd y gellir dadlau ynghylch arwyddocâd y ffactorau hyn.

      Gallaf ddadansoddi ac egluro arwyddocâd a chanlyniadau newidiadau mewn amrywiaeth o gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol.

      Gallaf egluro natur gymhleth fy hunaniaeth bersonol a hunaniaeth pobl eraill, y modd y cânt eu ffurfio a’r effaith a gânt ar ymddygiad pobl.

      Gallaf ddadansoddi’n feirniadol ystod o nodweddion tebyg a gwahaniaethau cymhleth rhwng amrywiol gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol, gan gynnwys lleoliad daearyddol, diwylliannol, crefyddol, gwleidyddol, bydolygon ac economaidd.

      Gallaf werthuso arwyddocâd y perthnasau rhwng amrywiaeth eang o gymdeithasau, eu cysylltiadau a’u cyd-ddibyniaethau.

      Gallaf egluro achosion a natur anghydraddoldebau rhwng cymdeithasau ac o fewn cymdeithasau.

      • Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau cymdeithasol.

      Mae digwyddiadau a phrofiadau yn gymhleth a chânt eu canfod, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

      • Dehongliadau hanesyddol.

      • Cyfiawnder a thegwch mewn cymdeithasau.
      • Datblygiad economaidd cymdeithasau.
      • Strwythurau gwleidyddol mewn cymdeithasau.
      • Natur dinasyddiaeth.
      • Rolau a chyfrifoldebau cymdeithasol.

      • Pwysigrwydd y celfyddydau mynegiannol wrth lywio diwylliant a chymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol.
      • Ystyried y celfyddydau o amrywiol adegau, diwylliannau a chymdeithasau.
      • Ystyried ein diwylliant ni a diwylliannau eraill.
      • Rôl y celfyddydau mynegiannol fel cyfrwng ar gyfer mynegi dehongliadau a chynrychioliadau.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Rôl technoleg ddigidol mewn cymdeithasau modern.
      • Dylanwad gwyddoniaeth a thechnoleg ar economïau gwahanol gymdeithasau yn y presennol a’r gorffennol.
      • Dylanwad dyfeisiadau a darganfyddiadau ar esblygiad cymdeithasau dynol.

      Iechyd a Lles

      • Gwerthoedd a normau cymdeithasol mewn cymdeithasau.
      • Dylanwadau cymdeithasol ar unigolion.

      • Llenyddiaeth o amrywiaeth o ddiwylliannau a chymdeithasau.
      • Dylanwad llenyddiaeth wrth lywio diwylliant mewn cymdeithasau.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Data i ddangos gwahaniaethau ac anghydraddoldebau cymdeithasol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Fel rhan o’r datganiad hwn o’r hyn sy’n bwysig, dylid cynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio cysyniadau, gan gynnwys cronoleg, newid a pharhad, amrywiaeth, achos ac effaith, rhyng‑gysylltedd, cymuned, hunaniaeth a pherthyn, awdurdod a llywodraethu.

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i archwilio ac arsylwi ar agweddau ar y cymunedau y maent yn rhan ohonynt, megis eu hystafell ddosbarth, ysgol, teulu ac ardal leol, a hynny drwy straeon, dathliadau, gwrthrychau, digwyddiadau a thraddodiadau yn eu cymunedau, ac i gyfleu eu teimladau amdanynt
      • cyfleoedd i archwilio a gwerthfawrogi dathliadau, traddodiadau a ffyrdd o fyw allweddol yng Nghymru a’r byd ehangach
      • dysgu yn yr awyr agored a chyfleoedd i ymweld ag amgueddfeydd; safleoedd hanesyddol; mannau o arwyddocâd gwleidyddol, crefyddol neu ysbrydol; nodweddion neu safleoedd daearyddol; a busnesau neu fanwerthwyr.

      • ddefnyddio llinellau amser syml i ddilyniannu digwyddiadau sy’n gyfarwydd iddynt dros raddfa amser fer, a defnyddio geiriau allweddol priodol i amcangyfrif, mesur a disgrifio treigl amser
      • adnabod eu hunain a phobl gyfarwydd
      • archwilio ac arsylwi ar agweddau ar eu cymuned a’u hardal leol
      • dwyn i gof a chyfleu gwybodaeth am ddigwyddiadau yn eu bywydau
      • adnabod rhai o’r ffyrdd yr oedd bywydau plant a phobl ifanc yn y gorffennol yn wahanol i’w bywydau nhw.

      • cyfleoedd i archwilio ac arsylwi ar agweddau ar y cymunedau y maent yn rhan ohonynt, megis eu hystafell ddosbarth, ysgol, teulu ac ardal leol, a hynny drwy straeon, dathliadau, gwrthrychau, digwyddiadau a thraddodiadau, ac i gyfleu eu teimladau amdanynt

      • cyfleoedd i ddefnyddio technoleg ddigidol i gymryd rhan mewn ymweliadau rhithwir ac i gyfathrebu ag amrywiaeth o bobl mewn cymuned fyd-eang

      Dylai dysgwyr wybod:

      • bod gan rai cyfnodau penodol o hanes nodweddion penodol
      • yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng y ffordd yr oedd ac y mae pobl yn byw mewn gwahanol leoedd ac ar wahanol adegau, gan gynnwys dealltwriaeth benodol o’r modd y gallai bywydau plant a phobl ifanc yn y gorffennol fod wedi bod yn wahanol i fywydau plant a phobl ifanc heddiw.

      Dylai dysgwyr allu a gwybod sut i:

      • ddangos ymwybyddiaeth o amser ac o newid dros amser, a defnyddio termau cyffredin ar gyfer treigl amser
      • dilyniannu digwyddiadau a deall y gellir rhannu’r gorffennol yn gyfnodau amser
      • dwyn i gof a chyfleu gwybodaeth am ddigwyddiadau yn eu bywydau nhw neu ym mywydau pobl eraill
      • cymharu a chyferbynnu agweddau ar eu bywydau nhw â chyfnod yn y gorffennol neu bobl mewn gwahanol leoliad.

      • cyfleoedd i archwilio ac ymgysylltu â’u cymunedau a thu hwnt, drwy straeon, dathliadau, gwrthrychau, digwyddiadau a thraddodiadau, a chyfleu eu teimladau amdanynt
      • cyfleoedd i archwilio ac ymwneud â dathliadau, traddodiadau a ffyrdd o fyw allweddol yng Nghymru a’r byd ehangach

      • am hanes ac amrywiaeth y cymunedau y maent yn rhan ohonynt
      • bod cymdeithasau yn amrywiol ac yn newid dros amser, ac y gall y newidiadau hyn fod yn gadarnhaol ac yn negyddol ar gyfer gwahanol grwpiau ac mewn gwahanol sefyllfaoedd
      • bod cymdeithasau wedi cael eu trefnu a’u harwain mewn gwahanol ffyrdd ac yn parhau i fod felly
      • sut mae bywydau pobl yn wahanol o fewn cymdeithasau, ac mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol adegau, ac yn gallu rhoi rhesymau dros y gwahaniaethau hyn
      • am y ffyrdd y gall amrywiol gymunedau gyd-fyw er budd pawb
      • am y ffyrdd y caiff ymrwymiad a hunaniaeth eu mynegi
      • am sut mae busnesau ac economïau wedi cael eu llywio ac wedi newid dros amser, ac am yr effaith y maent wedi’i chael ar gymdeithasau
      • prif achosion ac effeithiau newidiadau mewn cymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol
      • am amrywiaeth o unigolion a grwpiau o bobl, rhai enwog a rhai llai amlwg, sydd wedi cael effaith ar gymdeithasau
      • nad oes gan bawb yr un credoau ac y gall hyn achosi gwrthdaro ac anghytuno.

      Dylai dysgwyr allu a gwybod sut i:

      • ddatblygu map cronolegol o’r gorffennol a chreu cysylltiadau a chyferbyniadau rhwng nodweddion penodol gwahanol gyfnodau
      • cydnabod effaith gwahanol grefyddau a bydolygon ar gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol
      • ymateb yn sensitif i syniadau am gymunedau a diwylliannau.

      • am hanes ac amrywiaeth y cymunedau a’r cymdeithasau y maent yn rhan ohonynt
      • yr amrywiol ffyrdd a ddefnyddir ac a ddefnyddiwyd i drefnu a llywodraethu cymdeithasau
      • cysylltiadau a chymariaethau rhwng gwahanol gyfnodau o amser er mwyn gallu creu map cronolegol o’r gorffennol
      • sut a pham y mae cymdeithasau a bywydau pobl wedi newid neu wedi aros yr un peth, a gallu esbonio a llunio barn am effaith newid a pharhad
      • am natur amrywiol crefyddau a bydolygon, credoau, arferion a thraddodiadau mewn gwahanol gymdeithasau, a’u heffaith
      • sut a pham mae bywydau pobl yn wahanol o fewn cymdeithasau, ac mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol adegau, gan gynnwys pwyslais ar fywydau, profiadau a chredoau pobl gyffredin mewn amrywiaeth o wahanol gymdeithasau ar wahanol adegau
      • am achosion, effeithiau a natur ystod o newidiadau mewn cymdeithasau
      • am yr ystod o ffyrdd y gall amrywiol gymunedau gyd-fyw’n gydweithredol er budd pawb
      • am ffyrdd y mynegir ymrwymiad a hunaniaeth
      • am bobl a grwpiau o bobl sydd wedi cael effaith ar gymdeithasau
      • am natur amrywiol cymdeithasau, gan gynnwys am eu credoau, arferion a thraddodiadau; sefydliadau diwylliannol; ethnigrwydd; cydraddoldeb ac anghydraddoldeb; cyfiawnder; crefydd a bydolygon; hawliau; mudo; poblogaeth; ffigyrau crefyddol, gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, busnes, cymunedol ac elusennol o bob rhyw a chyfeiriadedd; ideolegau, sefydliadau a strwythurau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd
      • am natur a hyd a lled newid dros amser, gan gynnwys am newidiadau mewn systemau ac arweinyddiaeth gwleidyddol, ynghyd â democratiaeth a datganoli; newidiadau mewn amaethyddiaeth a diwydiant; arloesi a datblygiadau technolegol; goresgyniad, protest a gwrthryfel; heddwch a gwrthdaro; newidiadau mewn poblogaeth a mudo; masnach.

      Dylai dysgwyr allu:

      • disgrifio ac egluro nodweddion ystod o wahanol gymdeithasau, gan gynnwys yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhyngddynt, a hynny yn y gorffennol a’r presennol, yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a rhannau eraill o’r byd
      • ymateb yn sensitif ac yn graff i syniadau am gymunedau a diwylliannau, gan gynnwys undod a lluosogrwydd o fewn ac ar draws crefyddau, bydolygon a gwleidyddiaeth.

      • am y ffyrdd y caiff ymrwymiad a hunaniaeth eu mynegi o fewn amrywiaeth eang o gymdeithasau a diwylliannau
      • yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng cymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a rhannau eraill o’r byd
      • sut a pham mae bywydau pobl yn wahanol mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol adegau, gan sicrhau pwyslais ar fywydau, profiadau a chredoau pobl gyffredin mewn amrywiaeth o wahanol gymdeithasau ar wahanol adegau, gan gynnwys y rheini a gafodd eu tangynrychioli’n draddodiadol yn astudiaethau’r Dyniaethau

      • ddefnyddio map neu fframwaith cronolegol cynyddol fanwl er mwyn creu cysylltiadau a chymariaethau ystyrlon rhwng nodweddion gwahanol gyfnodau o amser, a fydd yn galluogi dysgwyr i adnabod deinamig parhad a newid dros gyfnodau o amrywiol hyd, ac i gysylltu patrymau a thueddiadau â phrosesau hanesyddol mwy o faint
      • dadansoddi a gwerthuso achosion a chanlyniadau penderfyniadau a digwyddiadau, a newid a pharhad, gan gynnwys ffactorau economaidd, gwleidyddol, technolegol, bydolygon crefyddol ac anghrefyddol, a ffactorau diwylliannol a chymdeithasol
      • dadansoddi’n feirniadol ystod o ffyrdd y gall amrywiol gymunedau gyd-fyw’n gydweithredol er budd pawb
      • ymateb yn sensitif ac yn graff i fydolygon crefyddol ac anghrefyddol am gymdeithas, cymunedau a diwylliannau, a deall sut y gellir eu dehongli yn ystod gwahanol gyfnodau mewn gwahanol ddiwylliannau a lleoedd.

  • Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o’u rolau fel dinasyddion a phwysigrwydd creu dyfodol cyfiawn a chynaliadwy iddynt hwy eu hunain a’u cymunedau mewn byd rhyng‑gysylltiedig. Mae’n annog dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol, gwybodus a chyfrifol sy’n gallu uniaethu â’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang a chyfrannu atynt, nawr ac yn eu bywydau yn y dyfodol.

    Bydd y Dyniaethau yn gwahodd dysgwyr i uniaethu a mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol sy’n eu hwynebu hwy eu hunain, eu cymuned leol,Cymru a’r byd ehangach. Daw dysgwyr hefyd i ddeall cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, cyfiawnder, rhyng-gysylltedd ac awdurdod, a sylweddoli arwyddocâd byw mewn cymdeithas decach a mwy cynhwysol, ac arwyddocâd cyfrannu at y gymdeithas honno. Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth nid yn unig o’u hawliau hwy eu hunain, ond hefyd o hawliau, anghenion, pryderon a theimladau pobl eraill wrth greu byd cynaliadwy a rhyng-gysylltiedig.

    Bydd cwestiynu a gwerthuso ymatebion sydd eisoes yn bodoli i heriau a chyfleoedd yn helpu dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus ac egwyddorol sy’n myfyrio’n feirniadol ar eu credoau a’u gwerthoedd eu hunain. Byddant yn gallu ystyried effaith eu gweithredoedd wrth iddynt wneud dewisiadau ac arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd. Bydd dysgwyr hefyd yn gallu cyfiawnhau eu penderfyniadau wrth weithredu mewn ffordd gymdeithasol, wleidyddol, economaidd ac entrepreneuraidd. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion gofalgar a chyfranogol o’u cymunedau lleol a byd-eang, gan ddangos ymrwymiad i gyfiawnder, amrywiaeth a diogelu’r amgylchedd. Ar ben hyn oll, drwy ymateb i heriau, a manteisio ar gyfleoedd i weithredu’n gymdeithasol a chynaliadwy, byddant yn creu ystyr a diben yn eu bywydau eu hunain.

      Gallaf adnabod moesau a rheolau sylfaenol mewn cymunedau cyfarwydd.

      Gallaf gydnabod bod gan fy ngweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill ganlyniadau.

      Gallaf ddangos rhywfaint o ymwybyddiaeth o’r heriau a’r cyfleoedd rwyf i, fy nheulu a’m ffrindiau yn eu hwynebu.

      Gallaf ofalu am yr amgylchedd a phobl eraill mewn amrywiaeth o ffyrdd.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddisgrifio moesau a rheolau sylfaenol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

      Gallaf ddisgrifio effeithiau cadarnhaol a negyddol fy ngweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill.

      Gallaf sôn am yr heriau a’r cyfleoedd rwyf i, pobl yng Nghymru a’r byd ehangach yn eu hwynebu, a disgrifio’r modd y mae pobl yn ymateb iddynt.

      Gallaf ddeall y gwahaniaeth rhwng dymuniadau, anghenion a hawliau.

      Gallaf adnabod rhai o’r ffyrdd rwyf i ac eraill yn cael effaith gadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd ac ar amrywiaeth o gymunedau.

      Gallaf gydnabod y modd y gall ymateb i heriau a chyfleoedd fod o fudd i mi ac i eraill.

      Rwyf wedi meithrin agweddau a sgiliau blaengar wrth ymateb i amrywiaeth o heriau a chyfleoedd.

      Rwyf wedi bod yn rhan o grŵp sy’n dangos cyfrifoldeb cymdeithasol yn fy nghymuned leol er mwyn gwneud newid cadarnhaol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gydnabod bod gan bobl yr un hawliau â’i gilydd, ond na chaiff rhai eu trin yn gyfartal a bod yna sefydliadau sy’n ymgyrchu ar eu rhan.

      Gallaf ddeall y modd y mae safbwyntiau pobl yn dylanwadu ar eu hymddygiad, eu gweithredoedd a’u penderfyniadau.

      Gallaf ddeall canlyniadau fy ngweithredoedd, a gweithredoedd pobl eraill, a’r modd y maent yn effeithio ar faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.

      Gallaf adnabod y modd y gall heriau a chyfleoedd gysylltu gwahanol bobl a gwledydd.

      Gallaf ddeall achosion ac effeithiau heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, ynghyd â’r ymatebion iddynt.

      Gallaf ddisgrifio effaith bosibl fy ngweithredoedd arnaf i fy hun ac ar genedlaethau’r dyfodol.

      Rwyf wedi cynllunio ac wedi ymgymryd â rôl weithgar fel dinesydd cyfrifol, mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn fy nghymuned leol, yng Nghymru neu yn y byd ehangach.

      Rwyf wedi bod yn rhan o grŵp sy’n dangos cyfrifoldeb cymdeithasol yn fy nghymuned leol, neu yng Nghymru, er mwyn gwneud newid cadarnhaol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddeall achosion a chanlyniadau anghyfiawnder ac anghydraddoldeb.

      Gallaf egluro effeithiau penderfyniadau a wneir ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang ar bobl a’r amgylchedd.

      Gallaf egluro’r modd y gall gwahanol gredoau a phrofiadau ddylanwadu ar benderfyniadau moesol ac egwyddorol.

      Gallaf egluro’r cysylltiadau sydd rhwng yr heriau a’r cyfleoedd a wynebwyd gan bobl yng Nghymru a’r byd ehangach yn y gorffennol a’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir yn yr oes sydd ohoni ac yn y dyfodol.

      Gallaf egluro pwysigrwydd materion a mudiadau hawliau dynol cyfoes yng Nghymru a’r byd ehangach, a phwysigrwydd unigolion, sefydliadau a chymdeithasau wrth ddiogelu neu atal hawliau pobl.

      Rwyf wedi adnabod cyfleoedd i weithredu, eu cynllunio a’u cymryd fel dinesydd cyfrifol yn fy nghymuned leol, neu yng Nghymru neu’r byd ehangach, er mwyn gwneud newid cadarnhaol, a hynny’n unigol neu ar y cyd.

      Gallaf asesu effaith a gwerthuso effeithiolrwydd fy ngweithredoedd arnaf i fy hun ac ar genedlaethau’r dyfodol, gan awgrymu gwelliannau.

      Gallaf ddeall bod gweithredu cymdeithasol o fudd o ran hunanddatblygiad, yn ogystal â bod o fudd i bobl eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddadansoddi achosion sylfaenol anghyfiawnder ac anghydraddoldeb a’r modd y mae llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol yn ymateb iddynt.

      Gallaf ddefnyddio lensys disgyblaethol wrth ystyried yr heriau a’r cyfleoedd a wynebir gan bobl yng Nghymru a’r byd ehangach.

      Gallaf werthuso safbwyntiau pobl eraill a’u hymatebion i heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, gan ddeall yr effaith y gallant ei chael ar benderfyniadau moesol ac egwyddorol.

      Gallaf gyfosod amrywiaeth o ymatebion i heriau a chyfleoedd cymhleth er mwyn dod i gasgliad annibynnol, cydlynol a gadarnhawyd.

      Gallaf werthuso achosion sylfaenol materion a mudiadau hawliau dynol cyfoes yng Nghymru a’r byd ehangach, a’r amrywiol ffactorau sy’n tanseilio neu’n ategu hawliau pobl.

      Gallaf ddefnyddio’r sgiliau sydd eu hangen i gyfrannu’n effeithiol i’r byd gwaith a’m llwybr gyrfa disgwyliedig yn y dyfodol.

      Rwyf wedi cymryd rhan weithredol wrth godi ymwybyddiaeth o heriau a chyfleoedd yn lleol, yn genedlaethol neu’n fyd-eang.

      Gallaf adnabod, cynllunio, gweithredu a gwerthuso’r rôl rwy’n ei chwarae fel dinesydd cyfrifol yn fy nghymuned leol a’m cymuned ehangach, yng Nghymru ac yn y byd ehangach, gan wneud hynny’n annibynnol neu ar y cyd.

      Gallaf werthuso effaith ac effeithiolrwydd fy ngweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill, adnabod cryfderau a gwendidau penodol, a chynllunio gwelliannau strategol.

      Gallaf gynnal gwerthusiad beirniadol o’r modd y gall fy nghredoau a’m gweithredoedd fy hun gyfrannu at fy rôl fel dinesydd egwyddorol, gwybodus, a’r modd y mae o fudd i mi ac i’m hunanddatblygiad.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Mae datblygu meddwl ymholgar yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymchwilio i’r byd, i’w orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol, drostynt eu hunain.

      • Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth.

      Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu canfod, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

      • Barn unigolyn am ei rôl a’i gyfrifoldeb personol fel dinesydd.
      • Gwahanol ddehongliadau o’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu dynoliaeth.

      Mae’r byd naturiol yn amrywiol a deinamig, ac mae dylanwad prosesau ffisegol a gweithredoedd dynol arno.

      • Yr heriau amgylcheddol sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd.
      • Rôl a chyfrifoldeb unigolyn wrth ddiogelu’r amgylchedd.
      • Effaith gweithredoedd ar yr amgylchedd.

      Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac yn cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

      • Cyfiawnder a thegwch mewn cymdeithasau.
      • Datblygiad economaidd cymdeithasau.
      • Strwythurau gwleidyddol mewn cymdeithasau.
      • Natur dinasyddiaeth.
      • Rolau a chyfrifoldebau cymdeithasol.
      • Effaith gweithredoedd ar gymdeithas.
    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Celfyddydau Mynegiannol

      • Ffyrdd o fynegi a chynrychioli’r themâu o hawliau, parch, cydraddoldeb a chyfiawnder drwy Gelfyddydau Mynegiannol.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Yr heriau gwyddonol, technolegol a digidol sy’n wynebu’r ddynoliaeth.
      • Datrysiadau gwyddonol a thechnolegol posibl i’r heriau sy’n wynebu’r ddynoliaeth.
      • Rhyngddibyniaeth ddigidol.
      • Yr economi ddigidol.

      Iechyd a Lles

      • Pwysigrwydd gwneud penderfyniadau er mwyn ategu ymatebion egwyddorol a chynaliadwy i heriau a chyfleoedd.
      • Cydnabod ymddygiad priodol mewn gwahanol sefyllfaoedd.
      • Ymateb yn sensitif i anghenion eraill.
      • Meithrin perthnasau i ategu dinasyddiaeth.
      • Dylanwadau cymdeithasol a dinasyddiaeth.
      • Deall hawliau, parch a thegwch.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Trafod materion cymdeithasol.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Rôl economaidd unigolyn, gan gynnwys llythrennedd ariannol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Fel rhan o’r datganiad hwn o’r hyn sy’n bwysig, dylai dysgwyr ystyried cysyniadau gan gynnwys cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; dinasyddiaeth; grym ac awdurdod; rhyng-gysylltedd; cyfiawnder a chydraddoldeb; hawliau; a chamau gweithredu a chyfrifoldeb cymdeithasol.

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i drafod ac ymwneud â heriau a chyfleoedd yn eu hardal leol, yng Nghymru neu’r byd ehangach
      • cyfleoedd i gynllunio a chymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang
      • cyfleoedd i ddangos gofal, cyfrifoldeb, pryder a pharch wrth ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaliadwyedd y blaned
      • cyfleoedd i feithrin ymdeimlad o empathi gyda phobl ar raddfa leol, genedlaethol neu fyd-eang
      • cyfleoedd i ymwneud â grwpiau, sefydliadau a busnesau lleol.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am gysyniadau da a drwg a theg ac annheg, o fewn cyd-destun cyfarwydd
      • y gall gweithredoedd pobl eraill effeithio arnynt ac y gall eu gweithredoedd nhw hefyd effeithio ar bobl eraill
      • am rai o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n eu hwynebu nhw a’u cymunedau.

      Mae angen i ddysgwyr allu a gwybod sut i:

      • gymryd rhan mewn gweithredoedd a digwyddiadau mewn ymateb i heriau a chyfleoedd, yn eu hamgylchedd uniongyrchol.

      • cyfleoedd i ymwneud â grwpiau, sefydliadau a busnesau lleol
      • cyfleoedd i fod yn flaengar a meithrin sgiliau entrepreneuraidd.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y rheolau, y rolau a’r cyfrifoldebau o fewn yr amrywiol gymunedau y maent yn perthyn iddynt
      • beth sy’n dda ac yn ddrwg ac ystyr tegwch mewn amrywiaeth o gyd-destunau
      • y gall eu gweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill gael effaith gadarnhaol a negyddol ar bobl eraill a’r amgylchedd
      • bod gweithredoedd pobl a grwpiau yn y gorffennol wedi arwain at newidiadau mewn bywydau pobl
      • am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n eu hwynebu nhw, Cymru a’r byd ehangach
      • y gwahaniaeth rhwng dymuniadau, anghenion a hawliau, a’r modd y gall anghenion lywio hawliau dynol
      • fod gan blant hawliau a bod y rhain wedi eu diogelu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
      • pwysigrwydd parchu hawliau pobl eraill
      • am ymatebion cynaliadwy ac anghynaliadwy i heriau a chyfleoedd, gan gynnwys y modd y gall masnachu egwyddorol a gwaith sefydliadau ac elusennau gael effaith arnynt hwy eu hunain ac ar gymunedau, a’r modd y mae pobl yn difrodi neu’n gwella’r amgylchedd mewn gwahanol ffyrdd.

      Dylai dysgwyr allu a gwybod sut i:

      • feithrin agweddau a sgiliau blaengar drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau yn eu cymuned leol
      • cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn eu hamgylchedd lleol.

      • cyfleoedd i drafod ac ymateb i heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yng Nghymru a’r byd ehangach

      • cyfleoedd i feithrin ymdeimlad o empathi gyda phobl ar raddfa leol, genedlaethol neu fyd‑eang, ac i ddeall effeithiau anghydraddoldeb ac anghyfiawnder
      • cyfleoedd i ymwneud â grwpiau, sefydliadau a busnesau fel rhan o’r broses o gynllunio a chymryd camau gweithredu cymdeithasol
      • archwilio grwpiau, sefydliadau a busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a’r ffyrdd y maent yn achosi ac yn ymateb i heriau a chyfleoedd a wynebir gan eu hardal leol, Cymru a’r byd ehangach

      • am gysyniadau tegwch a chydraddoldeb

      • am yr heriau i hawliau dynol ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang yn y presennol a’r gorffennol
      • am waith sefydliadau sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bawb a thros hawliau dynol
      • effaith eu gweithredoedd eu hunain a gweithredoedd pobl eraill, a’u canlyniadau lleol, cenedlaethol a byd-eang posib, megis y modd y gall gweithredoedd defnyddwyr effeithio ar yr amgylchedd ac ansawdd bywyd pobl
      • am eu cyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd, gan gynnwys y modd y mae eu ffordd o fyw a ffordd o fyw pobl eraill yn effeithio ar y blaned ac ar bobl eraill
      • am ddylanwad safbwyntiau pobl ar eu hymddygiad, eu gweithredoedd a’u penderfyniadau
      • am y modd y gall yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach fod yn gysylltiedig â phobl a lleoedd eraill
      • am achosion heriau a chyfleoedd yn y gorffennol a’r presennol, a’r rhai a ragwelir yn y dyfodol
      • am arwyddocâd heriau a chyfleoedd yn y gorffennol a’r presennol
      • am y gwahanol ffyrdd y gwnaed newidiadau cymdeithasol yn y gorffennol
      • am ganlyniadau y ffyrdd cynaliadwy ac anghynaliadwy y mae pobl yn ymateb i heriau a chyfleoedd, gan gynnwys manteision ac anfanteision masnachu egwyddorol a gwaith sefydliadau ac elusennau
      • am gynaliadwyedd cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol, a phwysigrwydd perthnasau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol
      • am rai credoau, dysgeidiaethau ac arferion sy’n dylanwadu ar weithredu cymdeithasol.

      • feithrin agweddau a sgiliau blaengar drwy gynllunio a chymryd rhan mewn digwyddiadau yn eu cymuned leol
      • cynllunio a chymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang.

      • cyfleoedd i feithrin ymdeimlad o empathi gyda phobl ar raddfa leol, genedlaethol neu fyd‑eang, ac i ddeall effeithiau anghydraddoldeb ac anghyfiawnder (o Gam cynnydd 3 ymlaen)

      • y gwahanol gyd-destunau lle y gall anghydraddoldeb fodoli, megis cyd-destunau rhywedd, rhywioldeb a hil
      • y gwahaniaeth rhwng anghyfiawnder ac anghydraddoldeb
      • am achosion a chanlyniadau anghyfiawnder ac anghydraddoldeb
      • pwysigrwydd amrywiaeth a’r ffaith na ddylai amrywiaeth arwain at anghyfiawnder nac anghydraddoldeb
      • am hawliau dynol, gan gynnwys bod gan blant hawliau a bod y rhain wedi eu diogelu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

      • am ystod o ffyrdd y gwnaed newidiadau cymdeithasol yn y gorffennol, a’r modd y mae’r newidiadau hyn wedi effeithio ar fywyd pobl
      • y rhyng-gysylltiadau rhwng yr heriau a’r cyfleoedd sy’n eu hwynebu nhw, Cymru a’r byd ehangach
      • y gall barnau a safbwyntiau egwyddorol a moesol ddylanwadu ar achosion a chanlyniadau heriau a chyfleoedd yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol
      • am rym ac awdurdod sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol lleol, cenedlaethol a byd‑eang, megis mewn materion amgylcheddol ac wrth ddiogelu neu atal hawliau dynol
      • am ddefnyddio a chamddefnyddio grym, gan gynnwys gwrthdaro, democratiaeth, yr anghydbwysedd grym rhwng gwledydd cyfoethog a gwledydd tlawd, arwyddocâd sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol
      • am economïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfnewidiol, gan gynnwys sut gall technoleg gael effaith economaidd
      • am eu rôl a’u cyfrifoldeb amgylcheddol nhw eu hunain a phobl eraill yn y broses o greu dyfodol cynaliadwy
      • am rai credoau, dysgeidiaethau ac arferion sy’n dylanwadau ar weithredu cymdeithasol.

      • ddefnyddio eu hagweddau a’u sgiliau blaengar drwy gynllunio a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau
      • cynllunio, cymryd rhan mewn a gwerthuso eu gweithredu cymdeithasol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

      • am achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb a’u perthynas â pholisïau, grym a systemau
      • y gwahanol safbwyntiau ar dlodi, anghydraddoldeb ac anghyfianwder
      • am ganlyniadau mentrau cenedlaethol a rhyngwladol i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb
      • am achosion sylfaenol enghreifftiau o dreisio hawliau dynol a hawliau plant yn y gorffennol ac yn y presennol, a’r ffactorau gwleidyddol, cyfreithiol, cymdeithasol-ddiwylliannol, crefyddol ac economaidd sy’n ategu neu’n tanseilio hawliau dynol yng Nghymru a’r byd ehangach

      • am yr heriau i hawliau dynol ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang yn y gorffennol a’r presennol
      • am achosion a natur yr heriau a’r cyfleoedd sy’n eu hwynebu nhw, Cymru a’r byd ehangach
      • y cysylltiadau rhwng yr heriau a chyfleoedd cymhleth yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol a wynebwyd, ac a wynebir, ganddynt eu hunain, Cymru a’r byd ehangach
      • am yr ystod o ffyrdd y gwnaed newidiadau cymdeithasol yn y gorffennol, a’r modd y mae’r rhain wedi cael effeithiau arwyddocaol ar gymdeithasau a chymunedau
      • pwysigrwydd rôl unigolion, gan gynnwys nhw eu hunain, a rôl grwpiau, gan gynnwys llywodraethau, busnesau a sefydliadau anllywodraethol, yn y gwaith o greu dyfodol cynaliadwy
      • y modd y gall unigolion, grwpiau a sefydliadau gydweithio wrth ymateb i heriau a chyfleoedd
      • y modd y gall ehangu grym a dylanwad gwledydd neu sefydliadau effeithio ar ddiwylliannau, agweddau a phrofiadau’r rheini dan sylw
      • y modd y gallant gyfrannu at y byd gwaith a’r economi
      • y modd y mae moesau, moesegau, crefydd a bydolygon yn effeithio ar ymatebion i heriau a chyfleoedd, ac ar gamau gweithredu cymdeithasol.

      • ddefnyddio eu hagweddau a’u sgiliau blaengar drwy gynllunio a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, a gwerthuso effeithiolrwydd eu rôl nhw eu hunain
      • defnyddio eu llythrennedd cymdeithasol a gwleidyddol i feithrin dealltwriaeth gydwybodol o’u rôl a’u cyfrifoldebau tuag at eraill a thuag at yr amgylchedd
      • dangos sensitifrwydd tuag at bersbectifau gwahanol a normau diwylliannol.

  • Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

    • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

      Bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn helpu dysgwyr i ennill:

      • soffistigeiddrwydd cynyddol o ran dealltwriaeth gysyniadol, a fydd yn caniatáu i ddysgwyr weld y tu hwnt i restr o ffeithiau a mynd i’r afael â’r syniadau hynny sy’n sail i ddisgyblaethau’r Dyniaethau, a’r modd y mae’r rhain yn cysylltu â’i gilydd mewn gwahanol gyd-destunau
      • gwybodaeth ddyfnach, a nodweddir gan y gallu i gysylltu dysgu newydd â gwybodaeth flaenorol, i feithrin dealltwriaeth fwy soffistigedig, ac i ddatrys yr achosion o wrthdaro a all godi pan ddaw gwahanol safbwyntiau ynghyd
      • y gallu i weithio gyda nifer gynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig
      • defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol, gan gynnwys defnydd o eirfa bwnc-benodol
      • annibyniaeth gynyddol a gallu cynyddol i hunanreoli.
    • Bydd taith y dysgwyr drwy’r Dyniaethau yn daith o ymholi a darganfod, wrth iddynt gael eu hannog i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Drwy’r ymholi hwn, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r Dyniaethau a’r gallu i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd‑eang. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffyrdd newydd a chreadigol o feddwl. Mae mynd i’r afael â chwestiynau yn rhoi’r modd i ddysgwyr ddeall profiadau dynol a’r byd naturiol.

      Mae dysgwyr yn defnyddio dulliau gweithredu disgyblaethol priodol, gan gynnwys dyniaethau digidol, i gasglu, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o dystiolaeth, ac i gyfleu a chyflwyno eu canfyddiadau. Mae dysgwyr yn dehongli a dwyn ynghyd gwybodaeth er mwyn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd eisoes a llywio eu dealltwriaeth o’r byd ymhellach. Drwy feddwl yn feirniadol am eu canfyddiadau, mae dysgwyr yn dod i gasgliadau gwybodus, ond maent hefyd yn deall mai dim ond casgliadau rhannol neu amhendant a geir weithiau ac y gellir eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Mae dysgwyr yn myfyrio’n ofalus er mwyn gwella eu methodoleg ac ehangu neu ddyfnhau eu hymholiad. Bydd dysgwyr hefyd yn deall mai ymgais i ddeall y cyflwr dynol yw’r ymholi hwn, yn ogystal â phroses. Yn wir, mae’r broses ymholi yn cynnig cyfleoedd i hunanfyfyrio sy’n ychwanegu ystyr at eu bywydau eu hunain ac yn cyfrannu at eu hymdeimlad o’u lle yn y byd.

      Deilliannau cyflawniad

      Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

;
  • Cyhoeddwyd gyntaf 30 Ebrill 2019
  • Diweddarwyd diwethaf 30 Ebrill 2019