English

1. Cyflwyniad

Mae datblygiad mathemateg wedi mynd law yn llaw â datblygiad gwareiddiad ers y cychwyn cyntaf. Mae’n ddisgyblaeth wirioneddol ryngwladol, ac mae o’n cwmpas ni i gyd ac yn sail i gynifer o agweddau ar ein bywydau bob dydd, megis pensaernïaeth, celfyddyd, cerddoriaeth, arian a pheirianneg. Er bod mathemateg ynddi hi ei hun, ac wrth gael ei chymhwyso, yn greadigol ac yn hardd, mae hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnydd mewn meysydd dysgu a phro?ad eraill.

Yn ychwanegol at hyn, mae rhifedd, sef defnyddio mathemateg i ddatrys problemau yn y byd go iawn, yn chwarae rhan allweddol yn ein bywydau bob-dydd, ac yng nghy?wr economaidd y genedl. Mae’n hanfodol felly fod pro?adau mathemateg a rhifedd mor gyffrous, diddorol a hygyrch â phosibl i ddysgwyr, a bod y profiadau hyn yn fodd i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu gwydnwch mathemategol.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae chwarae yn rhan bwysig yn y broses o ddatblygu mathemateg a rhifedd, gan alluogi dysgwyr i ddatrys problemau, archwilio syniadau, creu cysylltiadau a chydweithio ag eraill. Yn ystod y blynyddoedd diweddarach, mae angen cynnig cy?eoedd i ddysgwyr weithio’n annibynnol ac ar y cyd er mwyn adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn ystod y blynyddoedd cynnar.

Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd (Maes) yn cynnwys datblygu pum hyfedredd  cysylltiedig a rhyngddibynnol. Dydyn nhw ddim yn nhrefn pwysigrwydd, ac mae ystyried yr hyfedreddau hyn yn hollbwysig wrth i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm er mwyn sicrhau cynnydd dysgwyr.

  • Dealltwriaeth gysyniadol
  • Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau
  • Cymhwysedd strategol
  • Rhesymu rhesymegol
  • Rhuglder

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn pedwar datganiad sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae mathemateg ffur?ol wedi datblygu drwy resymu rhesymegol trylwyr. Mae’n cynnwys dyfeisio neu ddarganfod gwrthrychau haniaethol, ynghyd â sefydlu’r berthynas rhyngddyn nhw. Mae hefyd yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng dyfaliad, tebygrwydd a phrawf.

Mae meddwl mathemategol yn cynnwys rhoi ar waith yr un math o resymu rhesymegol, y tro hwn wrth archwilio’r berthynas sydd o fewn cysyniadau a rhyngddyn nhw, ynghyd â chy?awnhau a phro? canfyddiadau. Yn wir, mae deall cysyniadau mathemategol a gallu cymhwyso cynrychioliadau haniaethol y cysyniadau hynny, a gallu rhesymu â nhw, yn greiddiol i ddysgu mathemateg. A hanfodol i hyn yw deall y symbolau a’r systemau symbolau a ddefnyddir mewn mathemateg, a’r gallu i’w defnyddio.

Er mwyn cymhwyso mathemateg mae angen gallu strategol o ran defnyddio syniadau haniaethol a modelu. Mae dysgwyr yn datblygu gwydnwch, yn ogystal â phro? ymdeimlad o lwyddiant a mwynhad, wrth iddyn nhw oresgyn yr heriau sy’n codi. O ganlyniad, mae gweithgareddau mathemategol yn dysgu’r dysgwyr i beidio â bod ag ofn problemau anghyfarwydd neu gymhleth. Mae hyn oherwydd y gellir eu crynhoi i gyfres o broblemau symlach ac, yn y pen draw, i gyfrifiannau sylfaenol. Wrth iddyn nhw fyfyrio ar y dulliau a ddefnyddiwyd, ac ar yr hyn a ddysgwyd ganddyn nhw am fathemateg a rhifedd, gall dysgwyr ddatblygu’r sgiliau metawybyddol sydd o gymorth iddyn nhw wybod pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn gwella eu perfformiad. Trwy hyn gallan nhw ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes.

Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith. Gall hyn annog dysgwyr i fod yn greadigol, gan fod gofyn iddyn nhw chwarae, arbro?, cymryd risg a bod yn hyblyg wrth fynd i’r afael â phroblemau mathemategol.

Gan fod mathemateg yn haniaethol yn ei hanfod, mae’n galluogi dysgwyr i ymwneud â gwrthrychau nad ydyn nhw’n bodoli’n f?segol, ac i ddefnyddio a datblygu eu creadigrwydd er mwyn dychmygu a darganfod realiti newydd. Mae hefyd yn ategu gwaith modelu a rhagfynegi rhifyddol sy’n gallu, yn ei dro, annog ffordd o feddwl entrepreneuraidd.

Mae mathemateg a rhifedd hefyd yn gallu helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy eu harfogi i ddadansoddi data yn feirniadol, gan eu galluogi i ddatblygu safbwyntiau gwybodus ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol. Mae’n annog meddwl clir, gan alluogi dysgwyr i ddeall a gwneud penderfyniadau sy’n dangos rhesymeg.

Yn y Maes hwn, gall dysgwyr ddod ar draws sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag iechyd a chyllid personol, lle gallan nhw ddatblygu’r sgiliau i reoli eu cyllid eu hunain, gwneud penderfyniadau gwybodus a dod yn ddefnyddwyr beirniadol. Bydd profiadau yn y Maes hwn o gymorth iddyn nhw ddysgu dehongli gwybodaeth a data er mwyn asesu risg, a defnyddio eu sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm er mwyn gwneud dewisiadau effeithiol. Gall hyn oll fod o gymorth iddyn nhw ddod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

  • Nesaf

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig