English

Hwb

Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Trefnu yn ôl

  • Mae dysgu a defnyddio ieithoedd yn ein cysylltu â phobl, lleoedd a chymunedau. Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu wedi’i gynllunio i sicrhau bod dysgwyr, fel dinasyddion Cymru ddwyieithog a byd amlieithog, yn gallu defnyddio’r Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol.

    Drwy godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithoedd o oedran cynnar, bydd dysgwyr yn gallu adnabod nodweddion tebyg rhwng ieithoedd a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau rhyngddynt. Cânt gymorth i feithrin dealltwriaeth o darddiad, esblygiad a nodweddion y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol a fydd yn rhoi set o sgiliau iddynt sy’n mynd y tu hwnt i sgiliau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ac yn cynnwys nodweddion megis creadigrwydd, gwydnwch, y gallu i addasu ac empathi. Mae profiadau dysgu ystyrlon mewn cyd-destun amlieithog yn mynd law yn llaw â’r broses o ddysgu am eich hunaniaeth ddiwylliannol eich hun yn ogystal â hunaniaeth ddiwylliannol pobl eraill. Gan hyn felly, bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn meithrin balchder dysgwyr yn eu hunaniaeth fel dinasyddion Cymru a’r byd.

    Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

    • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad, a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

      Mae’r disgwyliadau ar gyfer yr agwedd hon o’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn berthnasol i bob dysgwr ym mhob lleoliad ac ysgol.

      Bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd o ddangos ymwybyddiaeth o’r ieithoedd a’r diwylliannau sydd o’u cwmpas yn yr ysgol a’r gymuned yn lleol i ddangos dealltwriaeth o gymdeithasau amlddiwylliannol a lluosieithog, nid yn unig yng Nghymru ond dros y byd i gyd.

      Ailymwelir â chysyniadau a syniadau ac ymdrinnir â nhw mewn ffyrdd mwy cymhleth wrth i ddealltwriaeth a gallu’r dysgwyr ddod yn fwy soffistigedig.

      Dylai gwybodaeth a sgiliau mewn un iaith gefnogi datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn iaith arall, a dylai pob dysgwr gael cefnogaeth i ddatblygu ei sgiliau trawsieithu.

    • Deilliannau cyflawniad

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol o’r gwahanol ieithoedd yn fy ysgol ac yn fy nghymuned, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, ieithoedd y cartref/gymuned.

      Gallaf weld cysylltiadau rhwng fy ieithoedd, e.e. tri yn y Gymraeg, three yn Saesneg, a trzy mewn Pwyleg.

      Gallaf gydnabod bod gan bobl wahanol acenion.

      Gallaf rannu agweddau sylfaenol ar fy niwylliant fy hun a’m perthynas â Chymru.

      Gallaf ddeall fod gan rai pobl fwy nag un iaith a bod yr ieithoedd hynny o bosibl yn wahanol i’m hieithoedd i.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gyfathrebu mewn gwahanol ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, ieithoedd y cartref/gymuned.

      Gallaf weld cysylltiadau rhwng patrymau geirfa a geiriau cytras yn yr ieithoedd rwy’n eu siarad ac yn eu dysgu, e.e. car coch/red car/voiture rouge/rotes auto.

      Gallaf gydnabod bod gan bobl wahanol acenion a gwahanol eiriau am bethau.

      Gallaf adnabod a thrafod sawl agwedd ar fy niwylliant a’m credoau fy hun a’m hymdeimlad o Gymreictod, a chydnabod bod gan bobl eraill ddiwylliant gwahanol, cred wahanol ac ymdeimlad gwahanol o Gymreictod.

      Gallaf ddeall fod pobl yn defnyddio ieithoedd amrywiol a bod nodweddion tebyg a gwahanol rhyngom ni a rhwng ein hieithoedd.

      Gallaf ddeall buddiannau dysgu ieithoedd.

      Gallaf ddefnyddio sgiliau trawsieithu yn Gymraeg ac yn Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gyfathrebu mewn amrywiaeth gynyddol o ieithoedd (Cymraeg, Saesneg, iaith ryngwladol a, lle bo hynny’n berthnasol, ieithoedd y cartref/gymuned).

      Gallaf ddefnyddio fy sgiliau iaith a’r hyn rwy’n ei wybod am y cysylltiadau rhwng ieithoedd i ddeall nodweddion cyffredin a gwahaniaethau o ran strwythurau gramadegol, geirfa, iaith idiomatig a rhannau ymadrodd i’m helpu i ddysgu.

      Rwy’n ymwybodol o’r ffordd y mae gwreiddeiriau yn gweithio a’r ffordd y mae ieithoedd wedi datblygu.

      Gallaf adnabod a deall gwahanol acenion a thafodieithoedd.

      Gallaf weld cysylltiadau rhwng ac ar draws ieithoedd, a gallaf ddangos gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o amrywiaeth ieithoedd.

      Gallaf ddeall pam mae lluosieithrwydd o fudd i bobl a chymdeithas a pham mae’n cynyddu cyflogadwyedd.

      Gallaf ddefnyddio sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith ryngwladol, a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddefnyddio fy holl wybodaeth a sgiliau ieithyddol yn llawn, a chael budd ohonynt, gan hwyluso fy ngallu i ddysgu iaith, e.e. drwy gymharu, amnewid ac addasu patrymau cystrawen a gramadeg neu drwy fynegi ystyr gair neu destun mewn iaith arall.

      Gallaf ddefnyddio iaith idiomatig gyfarwydd a chywair priodol.

      Gallaf werthfawrogi ac ymaddasu i dafodieithoedd, acenion ac amrywiaeth o ieithoedd mewn amgylchiadau cyfarwydd.

      Gallaf egluro a thrafod ieithoedd o fewn eu cyd-destun diwylliannol, gan fyfyrio ar werthoedd, credoau ac agweddau, a sut y maent yn rhoi ymdeimlad o berthyn i gymunedau’n lleol neu’n fyd-eang.

      Rwy’n ymwybodol o etymoleg geiriau a sut mae ieithoedd ledled y byd wedi esblygu gydag amser.

      Gallaf weld cysylltiadau rhwng ac ar draws ieithoedd a gallaf drafod fy agwedd bersonol tuag at wahanol ieithoedd ac amrywiaeth ddiwylliannol.

      Gallaf ddadansoddi cysylltiadau diwylliannol, agweddau, rhagdybiaethau, ymddygiadau a nodweddion ieithyddol tebyg a gwahanol.

      Gallaf ddadansoddi sut a pham bod lluosieithrwydd o fudd i bobl ac i gymdeithas a pham ei fod yn cynyddu cyflogadwyedd.

      Gallaf ddefnyddio sgiliau trawsieithu yn annibynnol i’m cefnogi wrth i mi ddysgu a chyfathrebu yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith ryngwladol, a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gyfathrebu a rhyngweithio mewn sawl iaith.

      Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o iaith idiomatig a chywair priodol mewn amrywiaeth o gyd‑destunau.

      Gallaf werthfawrogi ac addasu’n hyderus i dafodieithoedd, acenion ac amrywiaeth o ieithoedd lle bo angen.

      Gallaf ddeall bod dysgu am y cysylltiad rhwng iaith a diwylliant, gwerthoedd a chredoau yn fy mharatoi ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang.

      Gallaf gymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am etymoleg geiriau mewn gwahanol gyd-destunau ieithyddol megis iaith hanesyddol, dechnegol neu arbenigol.

      Rwyf wedi meithrin agwedd agored tuag at ddysgu ieithoedd gwahanol a dysgu am ddiwylliannau gwahanol fel dinesydd Cymru a’r byd.

      Gallaf ddadansoddi a gwerthuso cysylltiadau diwylliannol, agweddau, rhagdybiaethau, ymddygiadau a nodweddion ieithyddol tebyg a gwahanol.

      Gallaf werthuso sut a pham mae lluosieithrwydd o fudd i bobl a chymdeithas a sut a pham mae’n cynyddu cyflogadwyedd i ddinasyddion Cymru a’r byd.

      Gallaf adnabod, yn annibynnol, gyfleoedd i roi fy sgiliau trawsieithu ar waith er mwyn cyfoethogi’r modd rwy’n dysgu a chyfathrebu.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae’r adran hon yn cyflwyno lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau gyda phob un datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Ystyrir gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Mae dysgwyr sy’n gwrando ac yn darllen yn effeithiol yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

      • Sgiliau derbyn: gwrando/gwylio a darllen.

      Mae dysgwyr sy’n siarad ac yn ysgrifennu’n effeithiol yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

      • Sgiliau cynhyrchu: siarad ac ysgrifennu.

      Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

      • Llenyddiaeth a chreadigrwydd.
    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Celfyddydau Mynegiannol

      • Llenyddiaeth weledol (y cyfryngau a ffilm).
      • Terminoleg y Celfyddydau Mynegiannol a’i hetymoleg.
      • Drama, perfformiad, canu.
      • Meddwl yn greadigol.
      • Datblygu empathi a sensitifrwydd diwylliannol.

      Dyniaethau

      • Defnyddio llenyddiaeth fel ffynhonnell ar gyfer y Dyniaethau.
      • Terminoleg y Dyniaethau a’i hetymoleg.
      • Digwyddiadau a phobl sydd wedi dylanwadu ar gymdeithas a hunaniaeth yng Nghymru.
      • Esblygiad ieithoedd (dylanwadau cymdeithasol).
      • Gwareiddiad clasurol ac ieithoedd clasurol.
      • Hunaniaeth ac iaith.
      • Empathi a sensitifrwydd diwylliannol.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Terminoleg Gwyddoniaeth a Thechnoleg a’i hetymoleg.
      • Gwneud penderfyniadau gwybodus.
      • Rôl adnoddau digidol mewn cyfathrebu cyfoes.
      • Ieithoedd cyfrifiadurol.
      • Cyfathrebu digidol.

      Iechyd a Lles

      • Cydberthnasau a gaiff eu meithrin drwy gyfathrebu.
      • Datblygu empathi drwy iaith/llenyddiaeth.
      • Terminoleg Iechyd a Lles a’i hetymoleg.
      • Llenyddiaeth/darllen/ysgrifennu sy’n gysylltiedig â lles.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Defnyddio caneuon a rhigymau i addysgu rhifedd cynnar.
      • Llythrennedd ar gyfer cyfathrebu.
      • Terminoleg fathemategol a’i hetymoleg.
      • Mathemateg fel iaith ryngwladol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • y cyfle i gyfathrebu ag eraill wyneb yn wyneb, drwy ddulliau digidol neu ysgrifenedig
      • y cyfle i ddysgu am eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill, e.e. drwy gyfrwng sain a chyfryngau gweledol a llenyddol, a phrofiadau a chyfnewidiadau
      • y cyfle i glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd, gan ddechrau gydag acenion a thafodieithoedd lleol a chyfarwydd
      • agweddau agored a pharch tuag at ieithoedd a diwylliannau, a’r gwahaniaethau rhyngddynt.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod gwahanol ieithoedd yn eu cymunedau, yng Nghymru ac yn fyd-eang.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dangos agwedd agored a pharch tuag at ieithoedd a diwylliannau, a’r gwahaniaethau rhyngddynt
      • gwerthfawrogi, adnabod a deall gwahanol acenion, tafodieithoedd a phriodieithoedd.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      (o Gam cynnydd 1)

      • agweddau agored a pharch tuag at ieithoedd a diwylliannau, a’r gwahaniaethau rhyngddynt

      (o Gam cynnydd 2)

      • y cyfle i ddysgu am wreiddeiriau a tharddiad ieithoedd er mwyn dathlu’r nodweddion sy’n debyg ac yn wahanol rhwng ieithoedd â’i gilydd
      • y cyfle i ddysgu bod ieithoedd yn perthyn i wahanol deuluoedd iaith.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      (o Gam cynnydd 1)

      • bod gwahanol ieithoedd yn eu cymunedau, yng Nghymru ac yn fyd-eang

      (o Gam cynnydd 2)

      • bod ieithoedd a diwylliannau wedi’u rhyngblethu, eu bod yn dylanwadu ar ei gilydd ac yn hyrwyddo ffyrdd penodol o weld y byd a’i ddeall
      • bod mwy na hanner poblogaeth y byd yn defnyddio dwy iaith neu fwy fel rhan o’u bywyd pob‑dydd a bod amlieithrwydd i’w weld ar draws bob grŵp oedran, ym mhob agwedd ar gymdeithas ac ar bob cyfandir
      • bod ieithoedd yn perthyn i wahanol deuluoedd iaith a’u bod felly yn cynnwys nodweddion tebyg ac annhebyg
      • sut y caiff ieithoedd eu llywio gan eu hanes eu hunain a sut y maent yn dylanwadu ar gymdeithas, gan ddechrau â’r Gymraeg a Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, ieithoedd y cartref/gymuned
      • ein bod, drwy ddysgu gwahanol ieithoedd, yn caffael sgiliau ieithyddol sy’n atgyfnerthu sgiliau yn ein mamiaith
      • bod y modd y caiff ieithoedd eu defnyddio a’u haddasu yn dibynnu ar y sefyllfa a’r cyd‑destun
      • y gall ieithoedd newid dros amser.

      • gwerthfawrogi, adnabod a deall gwahanol acenion, tafodieithoedd a phriodieithoedd

      (o Gam cynnydd 2)

      • cyfathrebu mewn ystod gynyddol o ieithoedd a dangos ymwybyddiaeth o’r modd y mae cymhwysedd mewn un iaith yn gallu bod yn gymorth i ddysgu iaith arall
      • defnyddio’r cysylltiadau rhwng eu hieithoedd er mwyn hyrwyddo eu gallu i ddysgu iaith oddi fewn i Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ogystal â thu hwnt iddo
      • addasu neu newid eu hiaith yn ôl y sefyllfa gymdeithasol ac ieithyddol a chydnabod sut y gall eu hiaith effeithio ar eraill
      • sylwi ar y nodweddion tebyg ac annhebyg yn yr ieithoedd a gaiff eu dysgu
      • myfyrio ar agweddau diwylliannol ac ystyried y buddiannau y gall ieithoedd lluosog eu cyfrannu at gymdeithas
      • datblygu sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned.

      • y cyfle i ddysgu bod ieithoedd yn perthyn i wahanol deuluoedd iaith

      (o Gam cynnydd 3)

      • cyfleoedd i ddysgu am y cysylltiadau rhwng ieithoedd (e.e. mewn terminoleg) ar draws yr holl gwricwlwm.

      • y gall ieithoedd newid dros amser

      (o Gam cynnydd 3)

      • manteision economaidd ieithoedd ar gyfer unigolion a chymdeithas yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

      • datblygu sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned

      (o Gam cynnydd 3)

      • dangos cymhwysedd lluosieithog
      • datblygu sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol, a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned
      • defnyddio sgiliau trawsieithu a sgiliau cyfieithu sylfaenol, gan gynnwys deall sut i ddefnyddio meddalwedd cyfieithu’n effeithiol, ond gan ddeall ei chyfyngiadau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gorddibynnu arni.

    Bydd ein holl blant a phobl ifanc:

    yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd:

    • yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
    • yn datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso at wahanol gyd-destunau
    • yn ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
    • yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
    • yn gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maent yn dysgu amdanynt
    • yn gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
    • yn deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
    • yn defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu a dod o hyd i wybodaeth a’i dadansoddi
    • yn ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol

    ac yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

    yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd:

    • yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion
    • yn meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
    • yn adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnynt – yn mentro’n bwyllog
    • yn arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
    • yn mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
    • yn rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa

    ac yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

    yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd:

    • yn canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
    • yn trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
    • yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
    • yn deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
    • yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
    • yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
    • yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned

    ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd

    yn unigolion iach, hyderus sydd:

    • â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
    • yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
    • yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
    • yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
    • yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
    • yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
    • â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
    • yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
    • yn wynebu heriau ac yn eu trechu
    • â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallant

    ac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

  • Mae ieithoedd a llythrennedd yn hanfodol i alluogi pobl i gyfathrebu â’i gilydd. Maent yn fodd i ddehongli’r hyn a glywn, a ddarllenwn ac a welwn er mwyn datblygu ein dealltwriaeth, ein hempathi a’n gallu i ymateb yn effeithiol.

    Bydd y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr brofi iaith lafar ac ysgrifenedig yn ogystal â delweddau mewn amrywiaeth o ffurfiau a genres. Cynllunnir y profiadau cyfoethog ac amrywiol hyn er mwyn datblygu gallu dysgwyr i ddod yn greadigol ac yn fentrus wrth ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Byddant hefyd yn helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddehongli’n feirniadol a diduedd yr hyn a glywant, a welant ac a ddarllenant, ac er mwyn chwarae eu rhan yn effeithiol fel dinasyddion Cymru a’r byd.

    • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

      Gwrando a darllen

      Mae’r sgiliau gwrando a darllen a ddatblygir mewn un iaith yn darparu sail i’w datblygiad mewn iaith arall, waeth pa iaith ddaeth yn gyntaf, e.e. mae datblygu sgiliau gwrando a darllen yn Gymraeg yn cefnogi datblygiad y sgiliau hyn yn Saesneg ac fel arall.

      Caiff cynnydd mewn gwrando a darllen yn yr ieithoedd rhyngwladol ei nodi o Gam cynnydd 3, tra bo cydnabyddiaeth fod hyn yn adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau ieithyddol a ddysgwyd o Gam cynnydd 1.

      Gwrando

      Wrth ddysgu sgiliau gwrando, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o fod yn wrandawyr goddefol a sylwgar i fod yn wrandawyr gweithredol, myfyriol ac empathetig.

      Yn eu hail a’u trydedd iaith ac yn y blaen, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o ddeall pobl yn siarad yn araf a chlir i ddeall amrywiaeth o siaradwyr sydd ag acenion a thafodieithoedd gwahanol ac sydd o bosib yn siarad yn fwy cyflym.

      Darllen

      Wrth ddysgu darllen, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol i ddatblygu uwch sgiliau darllen megis deall ystyron sydd ymhlyg yn y testun, dod i gasgliad a dehongli. Wrth i sgiliau dysgwyr ddatblygu, gallant ddarllen testunau mwy heriol, amrywiol a chymhleth.

      Cyffredinol

      Mae angen i bob dysgwr gael cefnogaeth i feithrin eu sgiliau trawsieithu.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gwrando

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi’r ystyr yn fras wrth wrando ar iaith gyffredin.

        Gallaf adnabod a dilyn gwybodaeth am bynciau cyfarwydd.

        Gallaf ddeall amrywiaeth o gwestiynau a cheisiadau am wybodaeth yn ymwneud â phynciau neu weithredoedd pob-dydd.

        Gallaf wrando ar eraill a cheisio efelychu eu geirfa, cystrawen, strwythurau gramadeg ac ynganiad er mwyn gwella fy ngallu personol i gyfathrebu.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf sylwi bod rhai llythrennau’n treiglo ar ddechrau geiriau.

        Darllen

        Gallaf ddefnyddio gwybodaeth am odlau, sillafau, llythrennau a’r berthynas rhwng synau a symbolau er mwyn darllen geiriau a phennu ystyr.

        Gallaf adnabod a darllen geiriau aml eu defnydd.

        Gallaf wrando ar destunau y byddaf yn eu clywed, eu gweld neu eu darllen, ac ymateb iddynt.

        Gallaf ofyn ac ateb cwestiynau am y testunau y byddaf yn eu clywed, eu gweld neu eu darllen.

      • Wrth i’r carfanau cyntaf o ddysgwyr gwblhau eu taith drwy Gwricwlwm i Gymru 2022, caiff y deilliannau cyflawniad canlynol ar gyfer y Gymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg eu hadolygu a bydd y disgwyliadau’n cynyddu.

        Deilliannau cyflawniad

        Gwrando

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi, adnabod a dilyn yr ystyr yn fras wrth wrando ar iaith lafar gyffredin sydd yn cael ei hategu, lle bo hynny’n berthnasol, gan luniau neu ystumiau corfforol i gefnogi fy nealltwriaeth.

        Gallaf ymateb gyda geiriau neu heb eiriau wrth wrando.

        Gallaf ddeall cyfarchion a gwybodaeth syml, wedi’u hategu gan luniau neu ystumiau corfforol neu wedi’u hailadrodd lle bo angen.

        Gallaf wrando ar eraill a cheisio efelychu synau a geiriau ac ymadroddion pob-dydd er mwyn gwella fy ngallu personol i gyfathrebu.

        Darllen

        Gallaf adnabod ac ynganu llythrennau a geiriau syml yn Gymraeg.

        Gallaf wrando ar yr hyn a ddarllenir i mi ac ymateb.

        Gallaf ateb cwestiynau am yr hyn a gaiff ei darllen i mi.

      • Deilliannau cyflawniad

        Rwyf wedi meithrin gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn ieithoedd cartref a chymunedol lle bo hynny’n berthnasol, sy’n cynnig sail ar gyfer dysgu iaith ryngwladol (ieithoedd rhyngwladol).

      • Deilliannau cyflawniad

        Gwrando

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi’r ystyr cyffredinol mewn amrywiaeth o gyd-destunau llafar cyfarwydd ac anghyfarwydd.

        Gallaf ddeall gwybodaeth syml am bynciau cyfarwydd, gan sylwi ar negeseuon cyffredinol a manylion penodol.

        Gallaf ddeall ystod o gwestiynau a cheisiadau am amrywiaeth o bynciau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

        Gallaf wrando er mwyn pennu ystyr geiriau newydd, ymadroddion idiomatig a brawddegau, a’u defnyddio wrth gyfathrebu.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf adnabod geiriau cyfarwydd sydd wedi eu treiglo.

        Gallaf ddarllen geiriau a brawddegau o wahanol destunau gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i greu ystyr.

        Gallaf ddarllen ar goedd gyda mynegiant, gan roi sylw i atalnodi.

        Gallaf ddefnyddio ystyron sydd ymhlyg mewn testun a chasgliadau syml wrth ymateb i destunau y byddaf yn eu darllen, gan ofyn cwestiynau a dangos fy mod wedi deall y cynnwys.

        Gallaf ddod o hyd i wybodaeth o wahanol destunau y byddaf yn eu darllen, cymharu’r wybodaeth honno a’i defnyddio.

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi ac adnabod yr ystyr mewn iaith lafar gyffredin.

        Gallaf adnabod iaith a dilyn gwybodaeth ar bynciau cyfarwydd.

        Gallaf ddeall amrywiaeth o gwestiynau a cheisiadau am wybodaeth sy’n ymwneud â phynciau neu weithredoedd cyfarwydd.

        Gallaf wrando ar eraill i efelychu eu hiaith er mwyn gwella fy ynganiad a’m sgiliau iaith ac er mwyn gwella fy nghyfathrebu.

        Gallaf sylwi bod llythrennau yn treiglo ar ddechrau geiriau.

        Gallaf ddefnyddio gwybodaeth am odlau, sillafau, llythrennau a’r perthnasau rhwng synau a symbolau er mwyn darllen geiriau a phennu ystyr.

        Gallaf adnabod a darllen geiriau aml eu defnydd a dysgu geirfa ac iaith idiomatig newydd.

        Gallaf ymateb i’r hyn y byddaf yn ei ddarllen.

        Gallaf ofyn ac ateb cwestiynau am yr hyn y byddaf yn ei ddarllen.

        Rwyf wedi clywed ac wedi gweld ieithoedd rhyngwladol yn cael eu defnyddio.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gwrando

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi’r ystyr cyffredinol mewn gwahanol gyd-destunau ar draws amrywiaeth o bynciau.

        Gallaf ddeall amrywiaeth o gwestiynau a cheisiadau am amrywiaeth o bynciau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

        Gallaf ddeall syniadau a gaiff eu hawgrymu’n unig ac nid eu nodi’n amlwg.

        Gallaf wrando er mwyn creu cronfa o eiriau, iaith idiomatig a brawddegau a’u defnyddio wrth gyfathrebu.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am fathau cyffredin o dreigladau i bennu ystyr.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am wreiddeiriau, teuluoedd o eiriau, cystrawen a’r ffordd y caiff testunau eu trefnu er mwyn fy helpu i ddeall.

        Gallaf ddarllen ar goedd gan ddangos rhuglder a hyder.

        Gallaf ennyn diddordeb y gwrandäwr yn briodol, fel y bo angen.

        Gallaf ddefnyddio ystyron sydd ymhlyg mewn testun a chasgliadau cymhleth, a gofyn cwestiynau wrth werthuso cynnwys testunau y byddaf yn eu darllen.

        Gallaf ystyried dibynadwyedd yr hyn y byddaf yn ei ddarllen er mwyn helpu i lywio fy safbwyntiau a’m syniadau.

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi ac adnabod ystyr mewn gwahanol gyd-destunau ar draws amrywiaeth o bynciau cyfarwydd.

        Gallaf ddeall gwybodaeth am bynciau cyfarwydd, gan sylwi ar negeseuon cyffredinol a manylion penodol.

        Gallaf ddeall ystod o gwestiynau a cheisiadau am amrywiaeth o bynciau.

        Gallaf ddefnyddio cyfleoedd gwrando er mwyn deall geiriau newydd, iaith idiomatig a chystrawen brawddegau, a gallaf eu defnyddio wrth gyfathrebu.

        Gallaf adnabod geiriau cyfarwydd sydd wedi eu treiglo.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am synau llythrennau a gwreiddeiriau Cymraeg i ddadgodio geiriau.

        Gallaf ddefnyddio geiriau, iaith idiomatig, ymadroddion, brawddegau a thestunau rwyf wedi’u darllen i wella fy sgiliau siarad ac ysgrifennu.

        Gallaf ddarllen geiriau a brawddegau o wahanol destunau gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i bennu ystyr.

        Gallaf ddarllen ar goedd i eraill gyda mynegiant i gyfleu ystyr.

        Gallaf ddarllen gwahanol fathau o destun a deall eu hystyr a’u dibenion.

        Gallaf adnabod yr ystyr cyffredinol mewn brawddegau syml.

        Gallaf adnabod a deall geiriau cyfarwydd, geiriau cytras ac ymadroddion, sgyrsiau a chwestiynau sylfaenol am fy mywyd bob dydd a’m hamgylchedd uniongyrchol.

        Gallaf ddefnyddio cyfleoedd gwrando i wella fy ynganiad, fy ngoslef a’m hacen er mwyn gwella fy sgiliau iaith.

        Gallaf adnabod y llythrennau/cymeriadau a’r synau cyfatebol wrth ddarllen.

        Gallaf ynganu’r rhan fwyaf o eiriau yn gywir pan fyddaf yn darllen geiriau ac ymadroddion cyfarwydd ar goedd.

        Gallaf ddarllen ac adnabod geirfa a brawddegau cyfarwydd mewn testunau byr sy’n codi o gyd-destun bob-dydd y dosbarth.

        Gallaf ddefnyddio offer, gan gynnwys geiriadur neu restr geirfa, a strategaethau eraill er mwyn deall geiriau anghyfarwydd.

        Gallaf ddeall strwythurau brawddeg syml a gallaf ddeall rhai geiriau, geiriau cytras, arwyddion a symbolau.

        Gallaf ddarllen a deall testunau sy’n addas i’r cam cynnydd.

        Gallaf gytuno neu anghytuno â ffeithiau sylfaenol y byddaf yn eu darllen.

        Gallaf adnabod a rhagfynegi’r ystyr cyffredinol mewn gwahanol gyd-destunau ar draws amrywiaeth eang o bynciau a chyd-destunau cymhleth.

        Gallaf ddeall iaith lafar estynedig mewn amrywiaeth o dafodieithoedd ac acenion.

        Gallaf nodi’n annibynnol syniadau a gaiff eu hawgrymu’n unig ond nid eu nodi’n amlwg.

        Gallaf ddangos fy mod yn deall cwestiynau agored ar amrywiaeth o bynciau drwy ddarparu’r wybodaeth fanwl sydd ei hangen mewn ymateb.

        Gallaf wrando er mwyn creu cronfa gynhwysfawr o eiriau, iaith idiomatig a brawddegau i’w defnyddio wrth gyfathrebu.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am bob math o dreigladau i bennu ystyr.

        Gallaf ddefnyddio ystyron sydd ymhlyg mewn testun a chasgliadau i werthuso techneg a diben awdur yn feirniadol.

        Gallaf gymharu a chyferbynnu themâu a materion ar draws amrywiaeth o destunau y byddaf yn eu darllen, gan ddod o hyd i ffeithiau, tystiolaeth a thuedd.

        Gallaf grynhoi, cyfosod a dadansoddi gwybodaeth er mwyn meithrin dealltwriaeth fanwl.

        Gallaf adnabod a rhagfynegi’r ystyr mewn gwahanol gyd-destunau ar draws amrywiaeth o bynciau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

        Gallaf ddeall iaith lafar safonol, ar bynciau cyfarwydd ac anghyfarwydd, mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

        Gallaf ddefnyddio cyfleoedd gwrando er mwyn creu cronfa o eiriau, iaith idiomatig a brawddegau i’w defnyddio wrth gyfathrebu.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am fathau cyffredin o dreigladau i bennu ystyr.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwyf wedi’i ddarllen i roi ystyriaeth i’r byd ehangach.

        Gallaf ddarllen amrywiaeth o destunau sy’n gwella fy sgiliau siarad ac ysgrifennu fy hun.

        Gallaf ddefnyddio ystyron sydd ymhlyg mewn testun a chasgliadau a gofyn cwestiynau wrth werthuso cynnwys testunau.

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi’r ystyr cyffredinol mewn sgyrsiau pob-dydd.

        Gallaf adnabod a deall ymadroddion, prif bwyntiau, ffeithiau, syniadau, barnau cyferbyniol, patrymau geiriau anghyfarwydd a chwestiynau ar bynciau cyfarwydd mewn gwahanol gyd‑destunau.

        Gallaf ddefnyddio cyfleoedd gwrando mewn gwahanol gyd-destunau i werthuso a gwella yr hyn rwy’n ei wybod am ynganiad, goslef, acen, strwythurau a geirfa er mwyn gwella fy sgiliau iaith.

        Gallaf ddarllen ac adnabod geirfa a brawddegau cyfarwydd o fewn testunau sy’n codi o amgylchiadau pob-dydd.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau llythrennedd er mwyn deall, dod i gasgliadau a gwerthuso testunau.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am ramadeg i ddadansoddi testun er mwyn didynnu’r ystyr.

        Gallaf ddarllen a deall testunau ffeithiol syml ar bynciau sy’n ymwneud â’m profiad a’m diddordebau.

        Gallaf ynganu’r rhan fwyaf o’r geiriau yn gywir gydag acen briodol wrth ddarllen ar goedd.

        Gallaf gytuno, anghytuno neu fynegi barn yn seiliedig ar destunau sy’n addas i’r cam cynnydd.

        Gallaf adnabod a rhagfynegi’r ystyr cyffredinol ar draws amrywiaeth eang o gyweiriau, cyd-destunau a phynciau ffurfiol ac anffurfiol.

        Gallaf adnabod themâu neu syniadau a awgrymir mewn gwahanol gyd-destunau.

        Gallaf ddeall cwestiynau manwl neu estynedig.

        Gallaf wrando ar syniadau a safbwyntiau a fynegwyd gan eraill er mwyn ystyried, addasu a gwerthuso’n feirniadol y modd yr wyf fi fy hun yn cyfathrebu.

        Gallaf ddarllen yn feirniadol er mwyn llunio safbwynt gwybodus a chytbwys.

        Gallaf gynnig dehongliadau craff a/neu wreiddiol o’r hyn y byddaf yn ei ddarllen.

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi ac adnabod yr ystyr mewn gwahanol gyd-destunau ar draws amrywiaeth eang o bynciau.

        Gallaf ddeall gwybodaeth fanwl wrth wrando ar iaith lafar estynedig mewn amrywiaeth o dafodieithoedd ac acenion.

        Gallaf ddefnyddio cyfleoedd gwrando er mwyn creu cronfa gynhwysfawr o eiriau, iaith idiomatig a brawddegau i’w defnyddio wrth gyfathrebu.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am bob math o dreigladau i bennu ystyr.

        Gallaf ddefnyddio gwybodaeth am wreiddeiriau, berfau, cystrawen a dulliau trefnu testun i ategu uwch sgiliau darllen.

        Gallaf ddarllen ar goedd gan ddangos lefel dda o ruglder a hyder, ac mae fy narllen yn ennyn diddordeb y gwrandäwr.

        Gallaf ymateb yn wybodus i destunau.

        Rwyf wedi darllen yn eang er mwyn gwella fy sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.

        Gallaf ddefnyddio ciwiau i ragfynegi’r ystyr mewn gwahanol gyd-destunau ar draws amrywiaeth o bynciau a chyweiriau.

        Gallaf ddeall manylion penodol, gwybodaeth berthnasol, sgyrsiau estynedig, cwestiynau a strwythurau brawddegau am gyd-destunau pob-dydd neu bynciau arbenigol cyfarwydd.

        Gallaf ddefnyddio cyfleoedd gwrando mewn llawer o wahanol gyd‑destunau i werthuso’n feirniadol yr hyn y byddaf yn ei glywed ac i wella fy mynegiant llafar fel ieithydd annibynol.

        Gallaf ddarllen a dadansoddi testunau hwy er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen a chasglu gwybodaeth o wahanol rannau o destun neu o wahanol ffynonellau er mwyn cwblhau tasg benodol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarllen a deall testunau anghyfarwydd er mwyn dod i gasgliadau.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am ieithoedd eraill er mwyn dehongli, rhagfynegi a dod i gasgliad ynghylch ystyr tebygol geiriau anghyfarwydd mewn testunau heriol.

        Gallaf ddeall testunau estynedig mewn amrywiaeth o arddulliau a ffurfiau.

        Gallaf ynganu geiriau yn gywir ag acen briodol wrth ddarllen ar goedd.

        Gallaf ymateb i destun a’i ddadansoddi, llunio barnau a dod i gasgliadau, a chreu cysylltiadau yn seiliedig ar yr hyn y byddaf yn ei ddarllen.

      Mae dysgu am hunaniaeth a diwylliant drwy ieithoedd yn ein paratoi i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.

      • Hunaniaeth a diwylliannau trwy ieithoedd.

      Mae sgiliau ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu da yn hanfodol ym mhob maes dysgu a phrofiad, er enghraifft er mwyn:

      • canfod ystyr, a deall y testunau a ddarllenir
      • trafod yr hyn y maent wedi’i ddarllen a dod i ddeall testun yn llawn
      • defnyddio technegau asesu ar gyfer dysgu sy’n gofyn iddynt werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill, a gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella.

      • Y cysylltiadau rhwng sgiliau meddwl yn feirniadol/dadansoddol.
      • Gwneud penderfyniadau gwybodus.
      • Ymdrin â gwybodaeth gymhleth a’i dadansoddi.

      • Llythrennedd er mwyn deall.
      • Sgiliau cyfathrebu ar gyfer datrys problemau mewn ffordd gydweithredol.

      • amgylcheddau iaith cyfoethog
      • amrywiaeth o wahanol fathau o sgyrsiau (unigol, grŵp, ffurfiol ac anffurfiol) o amrywiaeth o ffynonellau
      • modelau iaith gan amrywiaeth o siaradwyr
      • cyfleoedd i ymgysylltu a rhyngweithio ag amrywiaeth o bobl
      • geirfa uchelgeisiol ac iaith idiomatig er mwyn gwella dewisiadau iaith
      • cyfleoedd i gwestiynu er mwyn meithrin dealltwriaeth
      • cyfleoedd i brofi gwahanol bynciau mewn cyd-destunau dilys, gan gynnwys drwy feysydd dysgu a phrofiad eraill
      • sgyrsiau sy’n eu herio ac yn eu hannog i archwilio meysydd o ddiddordeb gyda dyfnder cynyddol
      • cyfleoedd i fyfyrio ar eu gwaith gwrando eu hunain er mwyn meithrin eu sgiliau ymhellach
      • cyfleoedd i glywed testunau sy’n addas i’r cam cynnydd yn yr iaith (ieithoedd) y gallant ei (eu) deall, nid yn unig o fewn ond tu hwnt i Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut i ofyn am help pan na fyddant yn deall.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • gwrando er mwyn pennu hanfod, manylion a chwestiynau a dadgodio eu hystyr
      • rhagfynegi ar sail ciwiau llafar yr hyn sy’n mynd i ddigwydd
      • dehongli mynegiad wyneb a chiwiau dieiriau
      • defnyddio iaith y corff er mwyn dangos eu bod yn talu sylw
      • cymryd rhan wrth ryngweithio mewn grŵp ac yn gymdeithasol gan wybod pa adegau sy’n briodol i ymuno
      • dilyn y patrymau sain/geiriau mewn caneuon a rhigymau
      • meithrin sgiliau iaith drwy ganeuon a rhigymau a thrwy wrando ar straeon, eu hailadrodd a dangos diddordeb
      • gwrando ar y prif bwyntiau er mwyn ailadrodd
      • gwrando er mwyn ffurfio cwestiynau ac ymateb iddynt.

      Darllen

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • datblygu ymwybyddiaeth ffonolegol mewn modd systematig
      • amrywiaeth eang o destunau, gan gynnwys testunau amlfodd, ar ffurf papur, digidol, electronig a byw, sy’n meithrin eu mwynhad o ddarllen a gwylio pwrpasol, ac yn eu hannog i archwilio llyfrau a thechnolegau newydd
      • cyfleoedd i ddewis eu deunyddiau darllen eu hunain yn ôl eu diddordebau neu ddiben
      • cyfleoedd i drafod testunau, gan eu cysylltu â’u profiadau eu hunain
      • cyfleoedd i ddarllen testunau sy’n addas i’r cam cynnydd yn yr iaith (ieithoedd) y gallant ei (eu) deall, nid yn unig o fewn ond tu hwnt i Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
      • testunau heriol
      • cyfleoedd i fyfyrio ar eu gwaith darllen eu hunain er mwyn gwella eu sgiliau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut mae llythrennau yn mapio i synau a bod un llythyren, neu glwstwr o lythrennau, yn cael ei hynganu (eu hynganu) mewn sawl ffordd
      • bod gan ddarllen wahanol ddibenion.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio amrywiaeth o strategaethau er mwyn adnabod geiriau anghyfarwydd
      • defnyddio amrywiaeth o strategaethau er mwyn deall testun(au)
      • dod o hyd i rannau o destun sydd o ddiddordeb penodol iddynt.

      • cyfleoedd i glywed testunau sy’n addas i’r cam cynnydd yn yr iaith (ieithoedd) y gallant ei (eu) deall, nid yn unig o fewn ond tu hwnt i Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      (o Gam cynnydd 2)

      • iaith y gellir ei dehongli mewn gwahanol ffyrdd
      • trafodaethau a all fod yn ddadleuol.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      (o Gam cynnydd 1)

      • sut i ofyn am help pan na fyddant yn deall

      (o Gam cynnydd 2)

      • y termau sy’n gysylltiedig â siarad (e.e. cywair, tôn, tafodiaith)
      • bod y ffordd y caiff sgwrs ei strwythuro, ei threfnu a’i chyflwyno yn effeithio ar ddealltwriaeth gwrandawyr o’i chynnwys
      • bod yr hyn y byddwn yn ei glywed yn dylanwadu ar ein safbwyntiau ar lefel ymwybodol ac isymwybodol.

      • gwrando er mwyn ffurfio cwestiynau ac ymateb iddynt

      (o Gam cynnydd 2)

      • gwrando ar y prif bwyntiau er mwyn crynhoi
      • defnyddio amrywiaeth o strategaethau gwrando er mwyn awgrymu ystyr a dod i gasgliad ynghylch ystyr
      • defnyddio technegau er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau lle mae angen gwrando am gyfnodau estynedig
      • cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau gan adeiladu ar safbwyntiau eraill ac ymateb iddynt
      • adnabod diben ac effaith gwahanol fathau o sgwrs a myfyrio’n feirniadol arnynt
      • defnyddio sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned.

      • cyfleoedd i fyfyrio ar eu gwaith darllen eu hunain er mwyn gwella eu sgiliau

      (o Gam cynnydd 2)

      • cyfleoedd i drafod testunau, gan eu cysylltu â’u profiadau eu hunain, gan gynnwys trafodaethau cydweithredol ar-lein
      • testunau, gan gynnwys testunau amlfodd, sy’n eu hannog i ystyried themâu cymhleth a materion cyfoes, ac i drafod a chwestiynu’r gwerthoedd a gyflwynir yn y testunau hynny.

      • bod gan ddarllen wahanol ddibenion

      (o Gam cynnydd 2)

      • y gellir dehongli testunau mewn ffyrdd gwahanol yn ôl profiadau personol a chefndir cymdeithasol a diwylliannol a dealltwriaeth y darllenwr
      • y gellir darllen rhai testunau ar sawl lefel ac y gall testunau ddylanwadu
      • nodweddion trefniadol a strwythurol gwahanol destunau, gan gynnwys testunau amlfodd.

      • dod o hyd i rannau o destun sydd o ddiddordeb penodol iddynt

      (o Gam cynnydd 2)

      • dod o hyd i wybodaeth a’i hadfer o ffynonellau priodol ac mewn amrywiaeth o destunau, gan gynnwys testunau amlfodd
      • adnabod, trafod a chymharu diben gwahanol destunau, gan gynnwys testunau amlfodd
      • cwestiynu ac ymateb i destunau, yn annibynnol ac ar y cyd, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ganolbwyntio ar ystyr delweddau, sain, print, cyflwyniad a symudiad
      • cydnabod nad yw’r testun bob amser yn golygu’r hyn y mae’n ei ddweud
      • darllen gan fod yn ymwybodol o fwriad a/neu safbwynt yr awdur

      • trafodaethau a all fod yn ddadleuol

      (o Gam cynnydd 3)

      • trafodaethau sy’n caniatáu iddynt ddod i gasgliadau a chanolbwyntio ar ystyron sydd ymhlyg mewn testunau
      • trafodaethau a all fod yn ddadleuol, gan gynnwys rhyngweithio ar-lein
      • amgylcheddau amlieithog.

      • bod yr hyn y byddwn yn ei glywed yn dylanwadu ar ein safbwyntiau ar lefel ymwybodol ac isymwybodol

      (o Gam cynnydd 3)

      • bod y ffordd y caiff iaith lafar ei dehongli yn wahanol yn ôl profiadau personol a chymdeithasol a chefndir diwylliannol a dealltwriaeth y gwrandäwr
      • sut i ddeall swyddogaethau geiriau er mwyn pennu ystyr geiriau anghyfarwydd mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd.

      • defnyddio sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned

      (o Gam cynnydd 3)

      • defnyddio sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol, a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned.

      • testunau, gan gynnwys testunau amlfodd, sy’n eu hannog i ystyried themâu cymhleth a materion cyfoes, ac i drafod a chwestiynu’r gwerthoedd a gyflwynir yn y testunau hynny

      (o Gam cynnydd 3)

      • cyfleoedd i ymchwilio i ystyron llythrennol a symbolaidd.

      • gwerthuso testunau o ran ansawdd, effaith a dibynadwyedd
      • defnyddio sgiliau trawsieithu yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol, a, lle bo hynny’n berthnasol, yn ieithoedd y cartref/gymuned
      • defnyddio sgiliau cyfieithu sylfaenol, gan gynnwys deall sut i ddefnyddio meddalwedd cyfieithu’n effeithiol ond ar yr un pryd gan ddeall ei wendidau a’r risg a ddaw o orddibynnu arno.

  • Mae cyfathrebu clir ac effeithiol drwy iaith lafar ac ysgrifenedig yn sgil bywyd pwysig. Mae’n gofyn am allu defnyddio ac addasu iaith mewn amrywiaeth o rolau, genres, ffurfiau, cyfryngau ac arddulliau a hynny mewn cywair addas. Mewn cyd-destun dwyieithog ac amlieithog, mae hyn hefyd yn gofyn am allu dewis iaith briodol.

    Ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, rhoddir cyfleoedd i ddysgwyr siarad ac ysgrifennu er mwyn iddynt fod yn effeithiol wrth iddynt ryngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth a meithrin cydberthnasau. Cânt eu galluogi i ddod yn ymwybodol o sut y maent yn defnyddio iaith (ieithoedd) wrth iddynt brofi cyfleoedd i fynegi eu hunain at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ogystal â mewn ieithoedd rhyngwladol.

      Siarad ac ysgrifennu

      Mae’r sgiliau siarad ac ysgrifennu a ddatblygir mewn un iaith yn darparu sail i’w datblygiad mewn iaith arall, waeth pa iaith ddaeth yn gyntaf, e.e. mae datblygu sgiliau siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn cefnogi datblygiad y sgiliau hyn yn y Saesneg ac fel arall.

      Mae dysgwyr yn myfyrio ar eu siarad ac ysgrifennu er mwyn datblygu eu sgiliau ymhellach.

      Caiff cynnydd siarad ac ysgrifennu yn yr ieithoedd rhyngwladol ei arddangos o Gam cynnydd 3, tra bo cydnabyddiaeth fod hyn yn adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau ieithyddol a ddysgwyd o Gam cynnydd 1.

      Siarad

      Daw dysgwyr yn gynyddol groyw wrth siarad, a gallant fynegi syniadau a safbwyntiau mwy cymhleth mewn amrywiaeth gynyddol o gyd-destunau.

      Ysgrifennu

      Wrth ysgrifennu, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o dynnu lluniau a ffurfio llythrennau i fynegi eu hunain a drafftio a mireinio eu gwaith ysgrifenedig.

        Gallaf ynganu synau, geiriau ac ymadroddion, gan efelychu’r ynganiad cywir.

        Gallaf siarad yn glir, gan gyfleu ystyr i eraill drwy ddefnyddio ystumiau priodol.

        Gallaf drefnu, dethol a defnyddio ffurfiau a strwythurau iaith syml.

        Gallaf newid y ffordd rwy’n siarad gan ddibynnu gyda phwy rwy’n siarad.

        Gallaf ddefnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd ac arbrofi â geiriau a chystrawen newydd.

        Gallaf egluro gwybodaeth a rhannu syniadau a theimladau.

        Gallaf ofyn ac ateb cwestiynau syml, a gallaf wneud ac ymateb i ddatganiadau syml ar bynciau cyfarwydd.

        Gallaf fynegi fy hoff bethau a’m cas bethau, a gallaf fynegi barn ar bynciau cyfarwydd.

        Gallaf gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gan gymryd tro a dangos dealltwriaeth o foesau sgwrsio.

        Gallaf fabwysiadu rôl gan ddefnyddio iaith briodol.

        Ysgrifennu

        Gallaf ddeall y gellir ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

        Gallaf ysgrifennu ar y cyd ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd ac at wahanol ddibenion.

        Gallaf ysgrifennu’n annibynnol mewn ffurf gyfarwydd gan ddefnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd yn briodol.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddangos ymwybyddiaeth o dreigladau.

        Gallaf ysgrifennu geiriau ac ymadroddion syml gan ddefnyddio gwybodaeth am lythrennau a’r synau maent yn eu cynrychioli.

        Gallaf ddefnyddio priflythrennau ac atalnodau llawn.

        Gallaf fwrw golwg dros fy ngwaith er mwyn gwella fy ngwaith.

        Gallaf ffurfio llythrennau bras a llythrennau bach.

        Gallaf ddefnyddio meddalwedd priodol i greu cydrannau aml-gyfryngol.

        Gallaf greu testun, delwedd, sain, animeiddiadau a fideo, ac archwilio’u defnydd.

        Gallaf ailadrodd synau, geiriau ac ymadroddion, gan efelychu ynganiad.

        Gallaf ynganu synau llythrennau a geiriau ac ymadroddion pob-dydd syml yn Gymraeg.

        Gallaf ddethol a defnyddio iaith gyfarwydd i gyfleu ystyr i eraill.

        Gallaf ateb cwestiynau syml a mynegi teimladau a barnau sylfaenol.

        Gallaf fabwysiadu rôl yn ailadrodd iaith gyfarwydd.

        Ysgrifennu

        Gallaf fynegi synau, geiriau ac ymadroddion cyfarwydd Cymraeg ar ffurf ysgrifenedig.

      • Deilliannau cyflawniad

        Rwyf wedi meithrin gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn ieithoedd cartref a chymunedol lle bo hynny’n berthnasol, sy’n cynnig sail ar gyfer iaith ryngwladol (ieithoedd rhyngwladol).

      • Deilliannau cyflawniad

        Siarad

        Gallaf siarad yn glir, gan amrywio mynegiant ac ystumiau er mwyn cyfleu fy syniadau.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio’r treigladau mwyaf cyffredin wrth siarad.

        Gallaf ynganu geiriau ac ymadroddion cyfarwydd yn eglur.

        Gallaf drefnu, dethol a defnyddio ffurfiau a strwythurau iaith priodol.

        Gallaf newid y ffordd rwy’n cyfathrebu, gan ddibynnu ar ble rwyf i a chyda phwy.

        Gallaf ddefnyddio geirfa a chystrawen briodol, gan gynnwys geirfa pwnc-benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf egluro gwybodaeth a rhannu syniadau, safbwyntiau syml a theimladau gan ddefnyddio geirfa berthnasol.

        Gallaf ofyn ac ateb cwestiynau a chyfnewid syniadau a gwybodaeth am bynciau cyfarwydd mewn sefyllfaoedd pob-dydd.

        Gallaf fabwysiadu amrywiaeth o rolau penodedig mewn trafodaethau grŵp a rheoli fy nghyfraniad yn briodol.

        Gallaf aros yn fy rôl a helpu eraill wrth chwarae rôl.

        Gallaf gynllunio ac ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

        Gallaf drefnu fy ngwaith ysgrifennu mewn dilyniant neu strwythur rhesymegol mewn paragraff.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o eiriau, ymadroddion ac iaith idiomatig er mwyn creu effaith, mewn brawddegau syml a chyfansawdd.

        Gallaf ddefnyddio geirfa weledol a’r hyn rwy’n ei wybod am synau a phatrymau llythrennau i sillafu’r rhan fwyaf o eiriau cyfarwydd yn gywir.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio’r treigladau mwyaf cyffredin lle bo hynny’n briodol.

        Gallaf ddefnyddio atalnodi cyfarwydd yn gywir.

        Gallaf ddarllen dros fy ngwaith a defnyddio amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau cyfarwydd i wella fy ngwaith ysgrifennu.

        Gallaf egluro’n syml ble a pham rwyf wedi gwneud unrhyw newidiadau neu gywiriadau.

        Gallaf greu a golygu cydrannau aml-gyfryngol.

        Gallaf ynganu geiriau ac ymadroddion cyfarwydd yn glir.

        Gallaf ddethol, trefnu a defnyddio amrywiaeth o ffurfiau a strwythurau iaith cyfarwydd.

        Gallaf ddeall fod gwahanol ffyrdd o siarad â gwahanol bobl, e.e. chi/ti.

        Gallaf ddefnyddio geiriau, ymadroddion, iaith idiomatig a brawddegau cyfarwydd, gan gynnwys geirfa pwnc‑benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf gyfleu gwybodaeth a rhannu syniadau a theimladau am bynciau cyfarwydd.

        Gallaf ofyn ac ateb cwestiynau syml, gwneud ac ymateb i ddatganiadau syml ar bynciau cyfarwydd.

        Gallaf fynegi safbwyntiau ar bynciau cyfarwydd.

        Gallaf gyfrannu mewn trafodaethau grŵp, gan gymryd tro yn briodol.

        Gallaf fabwysiadu rôl, gan ddefnyddio iaith gyfarwydd.

        Gallaf drefnu fy ngeiriau i strwythur neu ddilyniant rhesymegol.

        Gallaf ysgrifennu amrywiaeth gynyddol o eiriau ac ymadroddion cyfarwydd mewn brawddegau syml.

        Gallaf ddefnyddio yr hyn rwy’n ei wybod am ffonig i sillafu geiriau.

        Gallaf ddefnyddio strategaethau cyfarwydd i’m helpu i ddarllen drwy fy ngwaith ysgrifennu ac i chwilio am gamgymeriadau.

        Rwyf wedi cael y cyfle i ddefnyddio ieithoedd rhyngwladol.

      • Deilliannau cyflawniad

        Siarad

        Gallaf siarad yn rhugl, gan ddefnyddio iaith briodol.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio amrywiaeth gynyddol o dreigladau.

        Gallaf amrywio mynegiant, tôn a chryfder y llais er mwyn cynnal diddordeb gwrandawyr.

        Gallaf drefnu, dethol a defnyddio ffurfiau a strwythurau iaith amrywiol a phriodol.

        Gallaf siarad yn effeithiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a chyda gwahanol gynulleidfaoedd at wahanol ddibenion ac mewn gwahanol gyd-destunau.

        Gallaf fod yn uchelgeisiol wrth ddewis geirfa a chystrawen, gan gynnwys geirfa pwnc-benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf siarad am faterion a mynegi syniadau yn glir, gan resymu a rhoi enghreifftiau a chan ddefnyddio geirfa pwnc-benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf ofyn cwestiynau er mwyn cadarnhau a gwirio gwybodaeth.

        Gallaf adnabod y prif bwyntiau drwy grynhoi’r hyn rwyf wedi’i glywed.

        Gallaf ddeall ystyr sydd ymhlyg, gan gynnwys coegni, iaith idiomatig a throsiadau.

        Gallaf egluro gwybodaeth, syniadau, fy safbwyntiau i a safbwyntiau eraill.

        Gallaf fabwysiadu amrywiaeth o rolau mewn trafodaethau grŵp mewn ffordd gynyddol annibynnol, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i gynllunio fy ngwaith ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau a genres.

        Gallaf addasu fy arddull ysgrifennu er mwyn bod yn addas at y diben ac ar gyfer y gynulleidfa.

        Gallaf ddatblygu fy syniadau a threfnu fy ngwaith ysgrifennu.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth eang o eirfa addas, gan gynnwys iaith idiomatig, geiriau pwnc‑benodol a geiriau ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiol strategaethau i sillafu amrywiaeth gynyddol o eiriau cyfarwydd, anghyfarwydd, pwnc‑benodol ac ar gyfer cyd-destunau penodol yn gywir.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strwythurau brawddeg, gan gynnwys brawddegau cymhleth.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o atalnodi yn gywir.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau i brawf-ddarllen, drafftio a golygu fy ngwaith ysgrifennu.

        Gallaf egluro ble a pham y gwnaed unrhyw newidiadau neu gywiriadau gennyf.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd i gynhyrchu a mireinio cydrannau aml-gyfryngol.

        Gallaf ddewis a chyfuno amrywiaeth o destun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo i sicrhau canlyniad at ddiben penodol.

        Gallaf ddefnyddio dulliau meddalwedd i wella’r canlyniadau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.

        Gallaf siarad yn glir, gan ddechrau amrywio mynegiant ac ystum er mwyn cyfleu fy syniadau.

        Gallaf amrywio tôn a chryfder y llais er mwyn denu sylw gwrandawyr.

        Gallaf ddethol, trefnu a defnyddio amrywiaeth o ffurfiau a strwythurau iaith priodol.

        Gallaf newid y modd rwy’n cyfathrebu, yn ôl lle’r wyf i a chyda phwy.

        Gallaf ddefnyddio geirfa, iaith idiomatig a chystrawen briodol, gan gynnwys geirfa pwnc‑benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf egluro gwybodaeth a rhannu syniadau, gan roi rhesymau syml dros safbwyntiau a theimladau.

        Gallaf egluro gwybodaeth a syniadau gan ddefnyddio geirfa berthnasol.

        Gallaf ymgymryd ag amrywiaeth o rolau penodedig mewn trafodaethau grŵp a rheoli fy nghyfraniadau yn briodol.

        Gallaf ddefnyddio gwahanol strategaethau i gynllunio fy ngwaith ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau a genres.

        Gallaf drefnu fy ngwaith ysgrifennu yn baragraffau.

        Gallaf ysgrifennu gan ddefnyddio amrywiaeth o eirfa briodol, gan gynnwys cystrawen gywir a geiriau pwnc‑benodol a geiriau ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf ddefnyddio brawddegau cyfansawdd.

        Gallaf ddefnyddio amrywiol strategaethau i sillafu’r rhan fwyaf o eiriau cyfarwydd yn gywir ac i ddefnyddio’r treigladau mwyaf cyffredin.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau a gwybodaeth o strwythur ffonetig i adolygu a gwella fy ngwaith.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau i brawf-ddarllen, ailddrafftio a golygu fy ngwaith ysgrifennu.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o eirfa syml.

        Gallaf ddefnyddio patrymau syml yn amseroedd cyffredin y ferf er mwyn sôn am faterion cyfarwydd.

        Gallaf ddefnyddio ymadroddion sylfaenol er mwyn sôn am fy hoff bethau a’m cas bethau.

        Gallaf ddangos lefel dda o gywirdeb mewn patrymau iaith a ddysgwyd.

        Rwyf wedi dod yn ymwybodol o ynganiad a goslef dda ac yn efelychu hyn wrth siarad.

        Gallaf ailadrodd geiriau ac ymadroddion, gan efelychu acen ac ynganiad yn gywir.

        Gallaf siarad mewn brawddegau byr, gan aros i feddwl a chywiro fy hun.

        Gallaf ddefnyddio ymadroddion a brawddegau i roi gwybodaeth.

        Gallaf ofyn cwestiynau sylfaenol er mwyn casglu gwybodaeth syml gan eraill, a gallaf ymateb i’r cwestiynau hyn pan ofynnir i mi.

        Gallaf gopïo geiriau ac ymadroddion yn gywir ac yn ddarllenadwy.

        Gallaf ddysgu, cofio a defnyddio sillafiadau cyfarwydd.

        Gallaf ysgrifennu ymadroddion syml a brawddegau mwy cymhleth gan ddefnyddio geirfa gyfarwydd.

        Gallaf fyfyrio ar ansawdd fy ngwaith er mwyn ei wella.

        Gallaf ddefnyddio fy rhestr eirfa neu eiriadur wrth wirio fy sillafu.

        Gallaf siarad yn rhugl, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, mynegiadau ac ystumiau.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o dreigladau.

        Gallaf ddefnyddio tôn, goslef ac iaith y corff i gyfathrebu’n well.

        Gallaf drefnu, dethol a defnyddio ffurfiau a strwythurau iaith amrywiol a phriodol er mwyn creu effeithiau.

        Gallaf addasu fy ffordd o siarad yn effeithiol, yn ôl diben, cynulleidfa a chyd‑destun.

        Gallaf ddefnyddio geirfa a chystrawen amrywiol ac uchelgeisiol, gan gynnwys terminoleg pwnc-benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf ddeall bod ystyr yn gallu newid yn ôl y ffordd y caiff pethau eu dweud.

        Gallaf gyflwyno syniadau a materion mewn ffordd sy’n argyhoeddi gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau er mwyn cael effaith.

        Gallaf ymateb mewn trafodaethau grŵp i syniadau eraill mewn ffyrdd ystyrlon ac ystyriol, gan gynnwys gofyn am eglurhad drwy ddulliau cwestiynu priodol.

        Gallaf ddehongli ystyr ac adnabod themâu a syniadau sydd ymhlyg.

        Gallaf ymateb yn feirniadol a/neu’n greadigol, gan gyfiawnhau fy safbwyntiau.

        Gallaf gynhyrchu gwaith ysgrifennu, gan gynnwys darnau estynedig, sy’n defnyddio tôn ac arddull briodol at ddibenion penodol ac ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.

        Gallaf strwythuro fy ngwaith ysgrifennu mewn gwahanol ffurfiau, er mwyn ennyn diddordeb y darllenwr a sicrhau bod fy syniadau yn gydlynus.

        Gallaf ddefnyddio geirfa eang ac iaith idiomatig yn effeithiol i gyfleu ystyr ac i ennyn diddordeb y gynulleidfa.

        Gallaf ddefnyddio amrywiol strategaethau i sillafu amrywiaeth gynyddol o eiriau cymhleth yn gywir, gan gynnwys geiriau pwnc-benodol a geiriau ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth eang o strwythurau brawddeg wrth ysgrifennu.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth eang o atalnodi yn gyson ac yn gywir.

        Gallaf wneud gwelliannau i’m gwaith ysgrifennu sydd wedi’u hystyried yn ofalus, drwy brawf‑ddarllen, drafftio a golygu.

        Gallaf egluro’n fanwl ble a pham y gwnaed unrhyw newidiadau neu gywiriadau gennyf.

        Gallaf ddewis a defnyddio amrywiaeth o feddalwedd, dulliau a thechnegau priodol i greu, addasu a chyfuno cydrannau aml-gyfryngol.

        Gallaf ddefnyddio dulliau meddalwedd i greu, gwella a chyfuno testun, delweddau, sain, fideo ac animeiddiad ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a dibenion.

        Gallaf ddatblygu ystod o strwythurau dogfen testun ffurfiol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion.

        Gallaf siarad yn glir, gan amrywio fy mynegiant a’m hystum er mwyn cyfleu fy syniadau.

        Gallaf amrywio tôn a chryfder y llais er mwyn cynnal diddordeb gwrandawyr.

        Gallaf ddethol, trefnu a defnyddio ffurfiau a strwythurau iaith amrywiol ac addas.

        Gallaf siarad yn effeithiol mewn gwahanol sefyllfaoedd a chyda gwahanol gynulleidfaoedd at wahanol ddibenion ac mewn gwahanol gyd-destunau.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth eang o eirfa a chystrawen, gan gynnwys geirfa pwnc-benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol.

        Gallaf fynegi materion a syniadau yn glir, gan resymu a rhoi enghreifftiau.

        Gallaf ddangos fy mod yn deall y prif bwyntiau drwy grynhoi’r hyn rwyf wedi’i glywed.

        Gallaf ddefnyddio iaith idiomatig a throsiadau i gyfoethogi’r ffordd rwy’n siarad.

        Gallaf egluro gwybodaeth, syniadau a’m safbwyntiau i a safbwyntiau eraill.

        Gallaf fabwysiadu amrywiaeth o rolau yn annibynnol mewn trafodaethau grŵp, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol.

        Gallaf gynhyrchu gwaith ysgrifennu cydlynus, gan gynnwys darnau estynedig sydd wedi’u strwythuro’n addas mewn amrywiaeth o ffurfiau, gan ddefnyddio tôn briodol ar gyfer cynulleidfa benodol ac at ddiben penodol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth eang o eirfa a chystrawen gywir i gyfleu ystyr ac i ennyn diddordeb y gynulleidfa.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strwythurau brawddeg, gan gynnwys rhai brawddegau cymhleth.

        Gallaf ddefnyddio amrywiol strategaethau i sillafu geiriau cyfarwydd a nifer gynyddol o eiriau anghyfarwydd, pwnc-benodol ac ar gyfer cyd-destunau penodol yn gywir.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth gynyddol o dreigladau.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i wirio fy ngwaith ysgrifennu ac i wneud gwelliannau gofalus i’m gwaith.

        Gallaf egluro ble a pham y gwnaed newidiadau neu gywiriadau gennyf.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o eirfa berthnasol, syml, gan gynnwys strwythurau gramadegol a chysyllteiriau amrywiol.

        Gallaf gysylltu ymadroddion er mwyn disgrifio profiadau a digwyddiadau mewn amrywiaeth o amseroedd y ferf lle bo hynny’n berthnasol.

        Gallaf roi rhai rhesymau ac esboniadau manwl i gyfiawnhau safbwyntiau, gan gytuno neu anghytuno ag eraill.

        Gallaf ddangos lefel dda o gywirdeb mewn strwythurau cyfarwydd.

        Gallaf siarad ag ynganiad clir, yn ymwybodol o ddiben pwyslais a goslef.

        Gallaf gychwyn ac arwain sgyrsiau a thrafodaethau sylfaenol â gwrandäwr cydymdeimladol sy’n cynnwys rhywfaint o wybodaeth fanwl a pherthnasol.

        Gallaf siarad yn barhaus mewn ymadroddion byr, gan aros i feddwl ac o bosibl ailddechrau a chywiro fy hun.

        Gallaf ofyn cwestiynau ac rwy’n ymateb i gwestiynau dilynol sylfaenol pan gânt eu gofyn yn glir ar bynciau cyfarwydd.

        Gallaf ddefnyddio rhywfaint o iaith yn ddigymell.

        Gallaf gynllunio testunau a chynnwys rhywfaint o wybodaeth fanwl a pherthnasol a gallaf strwythuro testun yn baragraffau.

        Gallaf ddefnyddio cysyllteiriau i strwythuro’r testun a dangos ymwybyddiaeth o arddull a chywair.

        Gallaf ddefnyddio adnoddau cyfarwydd wrth gynllunio fy ngwaith, i’m helpu i gyfleu fy mhwyntiau.

        Gallaf sillafu geiriau ac ymadroddion cyfarwydd yn gywir ac yn daclus.

        Gallaf ysgrifennu’n gydlynus gan ddangos manylder cynyddol, gan gynnwys sillafu ac atalnodi.

        Gallaf ddysgu, cofio ac adolygu sillafiadau a geirfa gyfarwydd.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o eirfa a strwythurau gramadegol, gan gynnwys rhai brawddegau cymhleth.

        Gallaf gyfeirio at ddigwyddiadau mewn amrywiaeth o amseroedd y ferf lle bo hynny’n berthnasol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiol strategaethau i fyfyrio ar ansawdd fy ngwaith er mwyn ei wella.

        Gallaf ddethol deunyddiau cyfeirio priodol wrth wirio gwaith.

        Gallaf gyflwyno syniadau a materion yn rhugl ac yn hyderus mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o dreigladau yn gywir mewn cyd-destun.

        Gallaf ddefnyddio tôn, goslef ac iaith y corff i gyfathrebu’n well mewn cyd-destunau cynyddol heriol.

        Gallaf drefnu, dethol a defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu effeithiol yn fanwl iawn.

        Gallaf gyflawni gofynion amrywiaeth o rolau yn annibynnol, fel sy’n ofynnol gan y gynulleidfa a’r diben.

        Gallaf ddefnyddio geirfa gyfoethog ac uchelgeisiol, a gallaf ddefnyddio cystrawen i greu effaith neu i gyfleu union ystyr, sy’n berthnasol i gyd-destunau.

        Gallaf gyflwyno syniadau a materion mewn ffordd sy’n dwyn perswâd gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau er mwyn cael effaith.

        Gallaf ddilyn a mynd dan groen dadleuon er mwyn gofyn cwestiynau a gosod heriau.

        Gallaf bennu ystyron a dod i gasgliadau gan ddefnyddio ystyron sydd ymhlyg.

        Gallaf fyfyrio’n feirniadol ar fy nefnydd o iaith a siarad mewn ffordd sy’n argyhoeddi o amrywiaeth o safbwyntiau.

        Gallaf ymateb yn hyderus ac yn sensitif i syniadau eraill mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

        Gallaf ysgrifennu mewn modd cadarn a hyderus er mwyn cynhyrchu gwaith ysgrifennu sydd wedi’i strwythuro’n dda ac wedi’i addasu’n effeithiol at y diben ac ar gyfer y gynulleidfa.

        Gallaf ennyn a chynnal diddordeb y darllenwr.

        Gallaf ddefnyddio geirfa soffistigedig er mwyn ysgrifennu mewn amrywiaeth o arddulliau a ffurfiau i gyfleu ystyr mewn ffordd sy’n argyhoeddi.

        [Datganiad Cymraeg] Gallaf ddefnyddio amrywiaeth lawn o dreigladau yn gywir mewn cyd‑destun.

        Gallaf sillafu amrywiaeth o eiriau cymhleth a soffistigedig yn gywir.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o atalnodi yn gywir er mwyn egluro ystyr, amrywio cyflymder a chreu effeithiau bwriadol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i wella cynnwys a strwythur fy ngwaith a chywirdeb fy ngwaith ysgrifennu.

        Gallaf ystyried effaith fy ngwaith ysgrifennu mewn ffordd wrthrychol.

        Gallaf ddefnyddio ystod o feddalwedd, dulliau a thechnegau i greu canlyniad proffesiynol i brosiect, boed yn unigol neu ar y cyd, a hynny gan gynnwys ystod o gydrannau aml-gyfryngol.

        Gallaf greu dogfennau testun ffurfiol ar gyfer cynulleidfa broffesiynol, gan gynnwys defnyddio dulliau adolygu ar y cyd yn y gweithgareddau.

        Gallaf ddefnyddio dulliau mynegeio a chyfeirio i wella dogfennau.

        Gallaf siarad gyda hyfedredd gan ddefnyddio ystod o dechnegau gan gynnwys amrywio mynegiant ac ystum.

        Gallaf ddefnyddio tôn, goslef ac iaith y corff i ddangos ystyr ac i gyfathrebu’n well.

        Gallaf ddethol, cynllunio a threfnu’r hyn rwy’n ei ddweud gan ddefnyddio ffurfiau a strwythurau iaith amrywiol a phriodol er mwyn creu effeithiau.

        Gallaf gyfathrebu’n effeithiol at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a chyd-destunau.

        Gallaf ddefnyddio geirfa, idiomau a chystrawen amrywiol, gan gynnwys terminoleg pwnc‑benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol, ac rwy’n deall y gall fod gwahanol ffyrdd o ddweud yr un peth.

        Gallaf ymateb i syniadau pobl eraill yn briodol a gallaf ofyn cwestiynau priodol.

        Gallaf ymateb i safbwyntiau pobl eraill yn annibynnol yn ystod trafodaethau grŵp, gan ddangos parch ac empathi.

        Gallaf gynhyrchu gwaith ysgrifennu sydd wedi’i strwythuro’n dda, wedi’i addasu’n effeithiol ar gyfer y gynulleidfa ac at y diben, ac sy’n ennyn diddordeb y darllenwr.

        Gallaf ysgrifennu gan ddefnyddio amrywiaeth eang o eirfa yn effeithiol mewn amrywiaeth o arddulliau a ffurfiau i gyfleu ystyr mewn ffordd sy’n argyhoeddi.

        Gallaf amrywio strwythurau brawddegau wrth ysgrifennu er mwyn creu effeithiau penodol.

        Gallaf sillafu amrywiaeth gynyddol o eiriau cymhleth, gan gynnwys geiriau pwnc-benodol a geiriau ar gyfer cyd‑destunau penodol, yn gywir.

        Gallaf ddefnyddio amrediad llawn o dreigladau yn gynyddol gywir.

        Gallaf ddefnyddio amrediad llawn o atalnodi i ddangos ystyr, amrywio cyflymder a chreu effeithiau bwriadol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i wella cynnwys, strwythur a chywirdeb fy ngwaith ysgrifennu.

        Gallaf ystyried yn wrthrychol effaith fy ngwaith ysgrifennu.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth eang o eirfa, strwythurau a phatrymau gramadegol, gan gynnwys strwythurau cymhleth, i gyfleu ystyr yn glir.

        Gallaf gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau, gan ddisgrifio fy ymatebion iddynt a symud rhwng amrywiaeth o amseroedd y ferf.

        Gallaf roi rhesymau ac esboniadau estynedig a manwl i gyfiawnhau meddyliau a safbwyntiau, gan gytuno neu anghytuno ag eraill.

        Gallaf gywiro fy hunan er mwyn gwella lefel fy nghywirdeb.

        Rwyf wedi datblygu ynganiad a goslef dda, ac rwy’n siarad ag acen sy’n argyhoeddi.

        Gallaf siarad yn barhaus am gyfnodau hir, gan aros o bryd i’w gilydd i feddwl a chywiro fy hun.

        Gallaf gychwyn ac arwain sgyrsiau a thrafodaethau yn hyderus, gan ddefnyddio gwybodaeth fanwl a pherthnasol.

        Gallaf ofyn amrywiaeth o gwestiynau ar amrywiaeth o bynciau mwy heriol ac ymateb yn ddigymell i gwestiynau dilynol, gan ofyn iddynt gael eu hailadrodd lle bo angen.

        Gallaf gynllunio a mireinio cynnwys testunau er mwyn cynnwys gwybodaeth berthnasol a manwl, mewn arddull a chywair priodol.

        Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau yn annibynnol i’m helpu i gyfleu fy mhwyntiau.

        Gallaf ysgrifennu mewn ffordd ddealladwy a darllenadwy, gan ddefnyddio manylder, sillafu ac atalnodi rhesymol.

        Gallaf ysgrifennu’n gywir am gyfnod estynedig mewn cyd-destunau cyfarwydd heb ddeunydd cyfeirio.

        Gallaf gynhyrchu gwaith cydlynus gan ddefnyddio amrywiaeth eang o eirfa a strwythurau gramadegol, gan gynnwys strwythurau cymhleth.

        Gallaf gyfeirio at ddigwyddiadau, gan symud rhwng amrywiaeth o amseroedd y ferf gan ddangos soffistigeiddrwydd cynyddol.

        Gallaf ddefnyddio arddull a chywair addas.

        Gallaf ddefnyddio amrywiol strategaethau i fyfyrio ar ansawdd a manylder fy ngwaith er mwyn ei wella.

      • ysgrifennu i fynegi ystyr mewn ffordd glir a chywir

      • ymarfer a mireinio syniadau cyn iddynt ysgrifennu

      • Ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu sgriptiau.

      • Y gallu i egluro syniadau/prosesau yn glir.

      • amgylcheddau iaith cyfoethog, ac iaith (ieithoedd) mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd go iawn trwy brofiadau uniongyrchol
      • gweithgareddau siarad a gwrando wedi’u cynllunio a rhai digymell gydag amrywiaeth o gyfoedion ac oedolion
      • gwylio, cyrchu a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o sgyrsiau a thrafodaethau
      • cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae rôl
      • modelau iaith mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd
      • amrywiaeth o ffynonellau cyfryngau sydd â gwahanol ddibenion
      • cyfleoedd i fyfyrio ar eu gwaith siarad eu hunain er mwyn gwella eu sgiliau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y dylid gofyn cwestiynau er mwyn cael eglurhad o’r ystyr pan na fyddant yn deall.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • ffurfio synau sy’n benodol i’w hiaith (hieithoedd)
      • cymryd eu tro wrth sgwrsio
      • cydnabod teimladau ac emosiynau a chyfleu sut y maent yn teimlo
      • llunio barnau a’u mynegi
      • gofyn cwestiynau sy’n cadarnhau dealltwriaeth
      • ailadrodd gwybodaeth.

      Ysgrifennu

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i archwilio ac arbrofi gyda’u gwaith ysgrifennu
      • deunydd ysgogi perthnasol, diddorol a heriol i’w hysbrydoli a’u helpu i baratoi i ysgrifennu mewn ffordd bwrpasol
      • amrywiaeth gynyddol o eirfa ar gyfer cyd-destunau penodol a phynciau penodol
      • cyfleoedd i archwilio a defnyddio amrywiaeth o eirfa uchelgeisiol a phriodol
      • y rhyddid i fentro a bod yn greadigol
      • confensiynau a strategaethau sillafu sy’n defnyddio cyfuniad o ddulliau.

      • cyfleoedd i fyfyrio ar eu gwaith siarad eu hunain er mwyn gwella eu sgiliau

      (o Gam cynnydd 2)

      • cyfleoedd i siarad ar gyfer amrywiaeth o ddibenion, e.e. darbwyllo, cwestiynu, diddanu, hysbysu
      • siarad mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd anffurfiol a ffurfiol, gan gynnwys sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig â gwaith
      • gwylio, cyrchu a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o berfformiadau, cyflwyniadau, areithiau a dadleuon
      • cymryd rhan mewn trafodaethau am faterion cyfoes a dadleuol
      • sefyllfaoedd sy’n herio eu safbwyntiau a’u gwerthoedd eu hunain
      • cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith (ieithoedd) y maent yn ei (eu) dysgu o fewn a thu hwnt i Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      (o Gam cynnydd 1)

      • y dylid gofyn cwestiynau er mwyn cael eglurhad o’r ystyr pan na fyddant yn deall

      (o Gam cynnydd 2)

      • bod nodweddion, strwythur, trefn a chyflwyniad sgwrs yn newid gan ddibynnu ar y diben a’r gynulleidfa
      • bod ffurfiau iaith yn defnyddio gwahanol gonfensiynau sefydlog a chyweiriau
      • geirfa pwnc-benodol a geirfa ar gyfer cyd-destunau penodol
      • sut i siarad am bynciau mwy heriol sy’n briodol ar gyfer y cam cynnydd (gan gynnwys siarad am iaith), gan ddefnyddio iaith briodol
      • y gall fod gan wahanol siaradwyr wahanol rolau mewn grŵp
      • y gall y modd y trefnir iaith newid yr ystyr a’r effaith
      • y gall pobl weithiau ddod i gasgliad o ran ystyr na fwriadwyd gan y siaradwyr
      • bod gan eiriau effaith ac y gallant effeithio ar wrandawyr mewn gwahanol ffyrdd gan ddibynnu ar eu safbwyntiau eu hunain
      • sut i ymateb i safbwyntiau pobl eraill a all fod yn wahanol iawn i’w safbwyntiau eu hunain.

      • ailadrodd gwybodaeth

      (o Gam cynnydd 2)

      • myfyrio ar y defnydd o iaith a gwerthuso effaith
      • defnyddio confensiynau cymdeithasol sgwrs a ffurfioldeb, e.e. ymateb ac ymddwyn yn briodol mewn sgyrsiau grŵp a chaniatáu i’r sgwrs ddatblygu mewn modd cydweithredol
      • defnyddio geirfa a strwythurau penodol gan ddibynnu ar y diben a’r gynulleidfa
      • cyfiawnhau barnau
      • rhannu eu safbwyntiau gyda gwahanol gynulleidfaoedd
      • defnyddio profiadau personol a’r hyn a ddysgwyd i lywio ac ategu barnau
      • gwerthfawrogi y dylid defnyddio neu drefnu iaith lafar mewn gwahanol ffyrdd gan ddibynnu ar y gynulleidfa
      • ailadrodd a chrynhoi gwybodaeth
      • gofyn cwestiynau sy’n gwella dealltwriaeth
      • gofyn cwestiynau sy’n herio syniadau
      • ail-fframio dadleuon er mwyn profi eu bod yn gwneud synnwyr
      • defnyddio syniadau newydd a diddorol i ystyried pam mae ganddynt farnau penodol
      • defnyddio sgiliau trawsieithu.

      • confensiynau a strategaethau sillafu sy’n defnyddio cyfuniad o ddulliau

      (o Gam cynnydd 2)

      • cyfleoedd i adolygu, diwygio, golygu a phrawf-ddarllen eu gwaith ysgrifennu
      • cyfleoedd i gyflwyno gwaith ysgrifennu mewn gwahanol ffurfiau ac arddulliau, gan gynnwys yn ddigidol ac ar‑lein, at amrywiaeth o ddibenion ac ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
      • amrywiaeth eang o arddulliau, genres a ffurfiau ysgrifennu wedi’u modelu’n dda ym mhob math o gyfrwng, gan gynnwys technolegau digidol

      • strategaethau a strwythurau i baratoi ar gyfer ysgrifennu
      • y gall defnyddio amrywiaeth gynyddol o eirfa ac iaith idiomatig berthnasol ac uchelgeisiol wella eu gwaith ysgrifennu
      • amrywiaeth o gonfensiynau, patrymau a strategaethau sillafu
      • bod confensiynau gramadeg ac atalnodi sy’n ein helpu i ysgrifennu mewn ffordd eglur ac ystyrlon
      • nodweddion ffurfiau, genres ac arddulliau penodol
      • y defnyddir geirfa benodol mewn sefyllfaoedd penodol
      • bod y ffordd y caiff testun ei drefnu yn dibynnu ar y gynulleidfa a’r diben y cafodd ei greu ar ei gyfer
      • y bydd diben testun yn diffinio’r nodweddion iaith a ddefnyddir
      • y gall y ffordd yr ymdrinnir â hyd brawddegau ac arddulliau newid cyflymder ac effaith yr hyn a gaiff ei gyfleu
      • bod gan eiriau wahanol lefelau o ystyr (emosiynol/cymdeithasol/ac ati)
      • y gall y modd y trefnir geiriau ac atalnodi o fewn brawddeg newid effaith/ystyr brawddeg.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      (o Gam cynnydd 2)

      • cynllunio eu defnydd o strategaethau a defnyddio amrywiaeth gynyddol o strwythurau
      • ysgrifennu’n hyderus a chyda diben ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
      • cymhwyso nodweddion amrywiaeth gynyddol o genres mewn gwahanol ffurfiau er mwyn creu eu gwaith ysgrifennu
      • cymhwyso’r hyn maent yn ei wybod am gyfatebiaeth graffem–ffonem a morffoleg er mwyn sillafu geiriau’n gywir
      • defnyddio strategaethau ar gyfer dysgu, storio, galw i gof a chadarnhau sillafiad geiriau a ddefnyddir ganddynt
      • ysgrifennu’n eglur ac yn ystyrlon, gan gymhwyso confensiynau gramadeg ac atalnodi priodol
      • defnyddio strategaethau annibynnol a chydweithredol a fydd yn eu helpu i adolygu a gwella eu gwaith ysgrifennu
      • myfyrio ar eu hiaith, ffurf a strwythur mewn ffordd feirniadol er mwyn drafftio, addasu a golygu eu gwaith ysgrifennu
      • defnyddio geirfa a therminoleg briodol i drafod, ystyried a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill
      • defnyddio geirfa ac iaith idiomatig uchelgeisiol sy’n briodol i’r cam cynnydd ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd ac at amrywiaeth o ddibenion
      • cynhyrchu arddull lawysgrifen daclus a phersonol
      • defnyddio technoleg ddigidol i gynhyrchu a chyflwyno ar y cyd

      • cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith (ieithoedd) y maent yn ei (eu) dysgu o fewn a thu hwnt i Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • sut i ymateb i safbwyntiau pobl eraill a all fod yn wahanol iawn i’w safbwyntiau eu hunain

      (o Gam cynnydd 3)

      • sut i ddefnyddio technegau rhethregol a darbwyllol i gael yr effaith a ddymunir.

      • defnyddio sgiliau trawsieithu

      (o Gam cynnydd 3)

      • deall bod nodweddion megis rhethreg a’r gallu i ddarbwyllo yn dibynnu ar y cyd-destun lle’u defnyddir ac nad ydynt o reidrwydd yn creu effaith ar eu pen eu hunain
      • cynnal gwerthusiad beirniadol o ddadleuon pobl eraill
      • llywio dadleuon wrth gynnal dadl/trafodaeth
      • defnyddio iaith mewn ffordd hyblyg er mwyn ymateb i her.

  • Mae llenyddiaeth yn ehangu gorwelion. Mae’n ein hysbrydoli ac yn ein cymell, gan ein helpu hefyd i ddysgu mwy am iaith.

    Bydd y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnig profiadau llenyddol i ddysgwyr a fydd yn ennyn eu diddordeb a’u dychymyg fel darllenwyr, gwrandawyr, gwylwyr, awduron a llenorion. Byddant nid yn unig yn gallu gwerthfawrogi crefft y llenor ond byddant hefyd yn gallu meithrin eu sgiliau creadigol eu hunain. Byddant yn profi ac yn ymateb i amrywiaeth o lenyddiaeth sy’n rhoi dealltwriaeth iddynt o ddiwylliant, pobl a hanes Cymru yn ogystal â’r byd ehangach. Drwy hyn, wrth i’w dealltwriaeth o’u profiadau, eu credoau a’u diwylliannau eu hunain a phobl eraill wella, caiff dysgwyr gymorth i ddatblygu eu gallu i ddangos empathi. Yn ei dro, bydd hyn yn cyfrannu at eu lles emosiynol a’u lles meddwl. Gyda’i gilydd, bydd y profiadau a gynigir fel rhan o’r maes dysgu a phrofiad hwn yn tanio dychymyg a chreadigrwydd dysgwyr ac yn helpu i feithrin cariad gydol oes tuag at lenyddiaeth.

      Bydd dysgwyr yn dod i gyswllt â deunydd llenyddol heriol sy’n briodol ar gyfer y cam cynnydd yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol

      Mae dysgwyr yn gwneud cynnydd werthfawrogi llenyddiaeth yn oddrychol i’w werthfawrogi’n wrthrychol.

      Mae llenyddiaeth yn ysgogi creadigrwydd. Bydd dysgwyr yn efelychu llenyddiaeth y maent wedi’i darllen/gweld yn ogystal â chreu eu gwaith gwreiddiol eu hunain yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol.

      Bydd dysgwyr yn myfyrio ar eu gwaith er mwyn gwella eu sgiliau.

        Gallaf ddeall fod gwahanol fathau o lenyddiaeth.

        Gallaf adnabod bod nodweddion tebyg rhwng yr hyn rwy’n ei glywed, ei weld a’i ddarllen.

        Gallaf sôn am y llenyddiaeth rwy’n ei chlywed, yn ei gweld neu yn ei darllen, a mynegi barnau syml.

        Gallaf ailadrodd straeon.

        Gallaf wrando ar ganeuon, rhigymau, straeon a cherddi ac ymuno ynddynt.

        Gallaf fabwysiadu rôl a pherfformio’n greadigol yn seiliedig ar fy mhrofiad o lenyddiaeth.

        Gallaf ddefnyddio fy nychymyg i ymateb yn greadigol i’r llenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu’n ei darllen.

        Gallaf wrando ar ganeuon a rhigymau Cymraeg ac ymuno.

        Rwyf wedi meithrin gwybodaeth a sgiliau sy’n addas i’r cam cynnydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn ieithoedd cartref a chymunedol lle bo hynny’n berthnasol, sy’n cynnig sail i mi ddysgu iaith ryngwladol (ieithoedd rhyngwladol).

      • Deilliannau cyflawniad

        Gallaf adnabod nodweddion gwahanol fathau o lenyddiaeth a defnyddio iaith briodol i siarad amdanynt.

        Gallaf sôn am blot, cymeriad a phrif themâu’r llenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu ei darllen, gan fynegi fy marnau.

        Gallaf ailadrodd straeon mewn ffordd greadigol.

        Gallaf wrando ar farddoniaeth, drama a rhyddiaith, a’u cofio a’u haddasu mewn ffordd greadigol.

        Gallaf ddangos dealltwriaeth o’r emosiynau rwy’n eu profi ac a brofir gan eraill.

        Gallaf greu cysylltiadau rhwng barddoniaeth, drama a rhyddiaith y byddaf yn eu clywed, eu gweld neu eu darllen.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am wahanol gymeriadau mewn llenyddiaeth i fabwysiadu a pherfformio rôl.

        Gallaf ddefnyddio fy nychymyg i ymateb i lenyddiaeth a chreu fy llenyddiaeth fy hun.

        Gallaf adnabod gwahanol fathau o lenyddiaeth yn Gymraeg.

        Gallaf gynnig ymateb sylfaenol a mynegi barnau syml yn Gymraeg ar y llenyddiaeth Gymraeg y byddaf yn ei chlywed, ei gweld a’i darllen.

        Gallaf wrando ar gerddi, caneuon a straeon Cymraeg a’u perfformio.

        Gallaf gydweithio i greu llenyddiaeth, e.e. drwy addasu strwythurau syml o destunau Cymraeg cyfarwydd.

        Rwyf wedi profi llenyddiaeth o ddiwylliannau eraill a llenyddiaeth wedi’i hysgrifennu mewn gwahanol ieithoedd.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gallaf adnabod nodweddion gwahanol genres mewn llenyddiaeth, a chyflwyno sylwadau arnynt, gan ddefnyddio iaith briodol.

        Gallaf drafod plot, cymeriad, thema a chyd-destun y llenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu ei darllen, gan fynegi fy syniadau a’m barnau.

        Gallaf ailadrodd ac addasu stori mewn ffordd greadigol, gan ei mynegi o safbwynt newydd a defnyddio strategaethau cyfarwydd i symud rhwng adrodd ac ysgrifennu straeon.

        Gallaf cefnogi fy marnau gan ddefnyddio enghreifftiau.

        Gallaf ddangos empathi a chydnabod y gall fod gan bobl eraill farnau gwahanol i mi.

        Gallaf greu cysylltiadau ar draws amrywiaeth o lenyddiaeth, gan gynnwys o ieithoedd gwahanol.

        Gallaf fabwysiadu, creu a pherfformio rolau yn seiliedig ar yr hyn rwy’n ei wybod am gymeriadau a’m profiadau o lenyddiaeth.

        Gallaf greu llenyddiaeth gan ddefnyddio fy nychymyg a’r hyn rwy’n ei wybod am arddulliau ysgrifennu a nodweddion gwahanol genres.

        Gallaf sylwi ar nodweddion sylfaenol, gan gynnwys elfennau tebyg ac annhebyg mewn gwahanol genres o fewn llenyddiaeth Gymraeg.

        Gallaf sôn am y plot a’r cymeriadau yn y llenyddiaeth Gymraeg a glywaf, ac a welaf ac a ddarllenaf, gan fynegi fy marnau yn Gymraeg gan ddefnyddio iaith gyfarwydd.

        Gallaf roi rhesymau addas i’r cam cynnydd yn Gymraeg am fy marnau yn Gymraeg sy’n addas i’r cam cynnydd.

        Gallaf wrando ar gerddi, sgetsys, caneuon a straeon yn Gymraeg a’u perfformio â mynegiant sy’n dangos fy mod wedi’u deall.

        Gallaf wrando ar farddoniaeth, drama a rhyddiaith, eu cofio, eu hailadrodd a’u haddasu mewn ffordd greadigol yn Gymraeg.

        Gallaf greu fy straeon, sgetsys a cherddi syml fy hun yn unol â’m cam cynnydd.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gallaf siarad yn fy newis iaith am yr hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol a mynegi fy marnau, gan ddefnyddio enghreifftiau i ategu fy safbwyntiau.

        Gallaf ailadrodd, yn yr iaith ryngwladol, ddarnau o’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld, gan addasu strwythurau syml yn fy ngwaith creadigol fy hun.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gallaf fynd i’r afael ag amrywiaeth eang o genres, gan ddadansoddi dewisiadau a thechnegau ieithyddol a ddefnyddir gan yr awduron.

        Gallaf ddisgrifio’r effaith ar y darllenwr, gan ddefnyddio terminoleg ac enghreifftiau perthnasol.

        Gallaf archwilio a dadansoddi materion drwy blot, cymeriad, thema, hunaniaeth a chyd-destun y llenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu ei darllen.

        Gallaf gefnogi fy marnau â thystiolaeth.

        Gallaf ddangos goddefgarwch ac empathi yn fy ymatebion a gwerthfawrogi y gellir dehongli testunau mewn gwahanol ffyrdd.

        Gallaf ddadansoddi a chymharu syniadau o fewn ac ar draws amrywiaeth o lenyddiaeth, gan gynnwys ar draws gwahanol ieithoedd.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n wybod a’m dealltwriaeth o wahanol gymeriadau a phrofiadau o lenyddiaeth i addasu a pherfformio rolau, gan fynegi fy hun mewn ffordd greadigol.

        Gallaf ddatblygu fy nghrefft a’m creadigrwydd ysgrifennu, gan arbrofi â nodweddion ieithyddol a ddefnyddir gan amrywiaeth o awduron ac mewn amrywiaeth o genres.

        Gallaf adnabod nodweddion a defnyddio’r termau Cymraeg am wahanol genres mewn llenyddiaeth Gymraeg.

        Gallaf drafod plot, cymeriadau a phrif themâu llenyddiaeth Gymraeg rwy’n ei chlywed, ei gweld a’i darllen, gan fynegi fy syniadau a’m barnau yn Gymraeg gan ddefnyddio patrymau iaith amrywiol.

        Gallaf roi rhesymau estynedig am fy marn.

        Gallaf ddehongli a pherfformio amrywiaeth o lenyddiaeth yn Gymraeg gyda chywirdeb, mynegiant a dealltwriaeth.

        Gallaf greu cysylltiadau ar draws amrywiaeth o lenyddiaeth.

        Gallaf ailadrodd ac addasu stori mewn ffordd greadigol o safbwynt newydd.

        Gallaf ddefnyddio fy nychymyg er mwyn creu fy llenyddiaeth fy hun, gan ddefnyddio iaith amrywiol.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gallaf ymateb yn fy newis iaith i’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol, gan ddisgrifio themâu allweddol, cymeriadau a phlot a’u cysylltu â’m diwylliant a’m profiadau fy hun.

        Gallaf fynegi, yn fy newis iaith, fy marnau ar yr hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol, gan ddangos empathi ac egluro pam mae rhywbeth o ddiddordeb i mi.

        Gallaf ddefnyddio fy nychymyg ac ymateb yn greadigol yn yr iaith ryngwladol i’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld, drwy ailadrodd ac addasu darnau ohono.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gallaf fynd i’r afael yn fanwl ag amrywiaeth o genres.

        Gallaf ddadansoddi a gwerthuso effaith dewisiadau iaith a thechnegau ar y darllenwyr gan ddefnyddio terminoleg ac enghreifftiau perthnasol.

        Gallaf archwilio, dadansoddi a gwerthuso materion drwy blot, cymeriad, thema, hunaniaeth a chyd-destun amrywiaeth o lenyddiaeth berthnasol a heriol.

        Gallaf gefnogi fy marnau â thystiolaeth berthnasol.

        Gallaf ddangos goddefgarwch ac empathi, gan werthuso gwahanol ddehongliadau o destunau, gan gynnwys fy rhai fy hun.

        Gallaf ddadansoddi, cymharu a gwerthuso syniadau o amrywiaeth o destunau llenyddol cymhleth, gan gynnwys ar draws ieithoedd gwahanol.

        Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod a’m dealltwriaeth o wahanol gymeriadau a phrofiadau i addasu a pherfformio rolau, gan fynegi fy safbwyntiau a safbwyntiau pobl eraill mewn ffordd greadigol.

        Gallaf lunio fy ngwaith ysgrifennu fy hun at ddibenion creadigol, gan ymwneud ag amrywiaeth eang o lenyddiaeth er mwyn archwilio a datblygu fy ngwaith ysgrifennu fy hun.

        Gallaf sylwi ar nodweddion tebyg ac annhebyg rhwng mathau o destunau yn Gymraeg, drwy wneud sylwadau ar brif nodweddion genres, gan ddefnyddio terminoleg berthnasol.

        Gallaf ymateb yn Gymraeg i’r amrywiaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg y byddaf yn ei chlywed, ei gweld a’i darllen gan ddangos empathi a defnyddio iaith yn uchelgeisiol, gan drafod agweddau megis plot, cymeriadau a themâu.

        Gallaf gyfiawnhau fy marnau gan gyflwyno tystiolaeth i ategu fy safbwyntiau.

        Gallaf ddehongli a pherfformio amrywiaeth eang o lenyddiaeth yn Gymraeg gyda chywirdeb, mynegiant a dealltwriaeth.

        Gallaf ddadansoddi a chymharu syniadau mewn amrywiaeth o lenyddiaeth ac ar draws y llenyddiaeth honno.

        Gallaf arbrofi â nodweddion iaith er mwyn archwilio a datblygu fy nghreadigrwydd, gan ddefnyddio iaith anturus i greu fy llenyddiaeth wreiddiol fy hun.

      • Deilliannau cyflawniad

        Gallaf ymateb, yn fy newis iaith, yn greadigol ac yn feirniadol i brif nodweddion yr hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol.

        Gallaf gymharu, gwerthuso a dadansoddi’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld yn yr iaith ryngwladol gan ystyried fy niwylliant a’m profiadau fy hun.

        Gallaf egluro’n fanwl, yn fy newis iaith, pam mae rhywbeth o ddiddordeb i mi, gan ddangos empathi, mynegi safbwyntiau a’u cyfiawnhau.

        Gallaf ddefnyddio fy nychymyg ac ymateb yn greadigol yn yr iaith ryngwladol i’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld, drwy addasu darnau ohono a bod yn fentrus o ran defnyddio amrywiaeth o iaith.

      • canfod ystyr mewn testunau a ddarllenir a'u deall

      • Defnyddio llenyddiaeth i feithrin dealltwriaeth bellach o ddatblygiadau gwyddonol.

      • diwylliant darllen cadarnhaol â chyfleoedd i ddethol a gwerthfawrogi amrywiaeth o lenyddiaeth yn seiliedig ar eu hoffterau personol a dewisiadau gwybodus yn Gymraeg, yn Saesneg (gan gynnwys awduron a beirdd o Gymru sy’n ysgrifennu yn Saesneg) a llenyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys llenyddiaeth mewn ieithoedd rhyngwladol a gweithiau sydd wedi’u cyfieithu
      • amgylcheddau lle maent yn mwynhau darllen a gwrando ar ymrywiaeth gynyddol o straeon, cerddi a dramâu yn yr iaith (ieithoedd) sy’n berthnasol i’r cam cynnydd
      • cyfleoedd i wrando ar lenyddiaeth na fyddent o bosibl yn ei dewis eu hunain, neu na fyddent yn gallu ei darllen ar eu pen eu hunain, yn cael ei pherfformio neu ei darllen gan fodelau rôl cadarnhaol
      • cyfleoedd i ailymweld â llenyddiaeth sy’n gyfarwydd iddynt ac ailymweld â’u hoff lenyddiaeth
      • cyfleoedd i fentro a herio eu ffordd o feddwl o fewn cyd-destun profiadau go iawn a phrofiadau dychmygol
      • cyd-destunau lle y cânt eu hannog i gydweithio, perfformio, mynegi a datblygu’n greadigol gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau
      • llenyddiaeth mewn amrywiaeth o gyfryngau, fformatau a genres, gan gynnwys pob math o gyfryngau digidol a chyfryngau print
      • ysbrydoliaeth y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ar gyfer creu eu llenyddiaeth eu hunain.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • ailadrodd, rhagfynegi, addasu, dehongli a pherfformio mewn ffordd llawn dychymyg, cydweithredol a chreadigol, gan ymgymryd â gwahanol rolau.

      • ysbrydoliaeth y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ar gyfer creu eu llenyddiaeth eu hunain

      (o Gam cynnydd 2)

      • amrywiaeth heriol ac eang o lenyddiaeth lafar, ysgrifenedig a gweledol sy’n briodol ar gyfer y cam cynnydd, gan gynnwys amrywiaeth eang o genres, themâu a gwahanol gyd‑destunau
      • llenyddiaeth sy’n caniatáu iddynt ystyried materion cyfoes a myfyrio arnynt.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      (o Gam cynnydd 2)

      • bod amrywiaeth o lenyddiaeth o wahanol ddiwylliannau o’r gorffennol a’r presennol yn Gymraeg, yn Saesneg (gan gynnwys awduron a beirdd o Gymru sy’n ysgrifennu yn Saesneg) ac mewn ieithoedd rhyngwladol, a gweithiau sydd wedi’u cyfieithu
      • yr hyn sy’n gwneud llenyddiaeth yn effeithiol.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      (o Gam cynnydd 1)

      • ailadrodd, rhagfynegi, addasu, dehongli a pherfformio mewn ffordd llawn dychymyg, cydweithredol a chreadigol, gan ymgymryd â gwahanol rolau

      (o Gam cynnydd 2)

      • dangos dealltwriaeth ohonynt eu hunain, dealltwriaeth o eraill ac o wahanol ddiwylliannau wrth ymateb i lenyddiaeth
      • ystyried sut mae llenyddiaeth yn effeithio arnynt, drwy fynegi eu safbwyntiau personol a dangos gwerthfawrogiad a pharch tuag at wahanol safbwyntiau
      • darllen llenyddiaeth heriol sy’n briodol ar gyfer y cam cynnydd
      • darllen llenyddiaeth sy’n datblygu eu hymwybyddiaeth o faterion cyfoes, goddefgarwch, natur feddwl agored ac ymdeimlad o hunaniaeth
      • creu cysylltiadau a chymariaethau rhwng gwahanol awduron a genres, gan gynnwys ar draws gwahanol ieithoedd.

      • creu cysylltiadau a chymariaethau rhwng gwahanol awduron a genres, gan gynnwys ar draws gwahanol ieithoedd

      (o Gam cynnydd 3)

      • gwerthuso a dadlau pwyntiau yn effeithiol, gan fynegi eu barnau, nodi tuedd a dangos empathi.

  • Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

      Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

;
  • Cyhoeddwyd gyntaf 30 Ebrill 2019
  • Diweddarwyd diwethaf 30 Ebrill 2019