English

Hwb

Dysgu am Iechyd a Lles

Bydd angen ichi ddarllen y trosolwg hwn ar y cyd â Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn ymwneud ag agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol ar ein bywydau.

Mae’n gweld iechyd a lles fel ffactor allweddol yn y broses o alluogi dysgu llwyddiannus. Bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn helpu dysgwyr nid yn unig i ddatblygu a chynnal iechyd a lles y corff, ond hefyd iechyd a lles y meddwl a’r emosiynau, ynghyd â datblygu cydberthnasau cadarnhaol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Er mwyn galluogi hyn, bydd hefyd yn meithrin gallu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles ac yn eu helpu i ymwneud yn feirniadol ag amrywiaeth o ddylanwadau cymdeithasol a all effeithio ar eu gwerthoedd a’u hymddygiad.

Mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn helpu dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut y mae’r agweddau hyn yn gysylltiedig â’i gilydd, a’r ffordd maent yn cyfrannu’n gadarnhaol at ein lles ni. Bydd y dysgu yn y maes dysgu a phrofiad hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin yr ymddygiad, yr arferion a’r ymagweddau a fydd yn cefnogi eu hiechyd a’u lles mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Cwricwlwm gweddnewidiol

Mae’r Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol yn nodi’r cynigion deddfwriaethol manwl ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022.

Y cynnig yw y bydd gofyn i leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n bodloni pedwar diben y cwricwlwm ac sy’n cynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd dysgu Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, i gyd yn ddyletswyddau statudol. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y gall Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles gefnogi hyn yn adran ‘Datblygu cwricwlwm eang a chytbwys’ o’r ddogfen hon.

Bydd hawl gan leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion i ddewis sut i gynllunio’u cwricwlwm ar lefel ysgol er mwyn cyflawni eu dyletswyddau cwricwlaidd. Fodd bynnag, wrth arfer yr hawl honno, bydd rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau statudol a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, golyga hyn y dylent ddilyn y canllawiau statudol oni bai bod ganddynt reswm da i beidio.

Nod y canllawiau statudol hyn ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, sy’n rhan o’r canllawiau statudol ehangach ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, yw rhoi fframwaith cenedlaethol y gall lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ei ddefnyddio i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Ni fwriedir iddynt fod yn faes llafur hollgynhwysfawr, nac yn ganllaw ar gyfer trefnu amserlenni. Maent yn nodi:

  • yr hyn y dylai lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion roi ystyriaeth iddo wrth lunio’u cwricwlwm, a sut y gellir ei strwythuro
  • y disgwyliadau eang ar gyfer dysgwyr ar bob cam cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Bydd dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am y ffordd y mae amrywiaeth o ffactorau yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Byddant yn ymwneud yn feirniadol ag amrywiaeth o wybodaeth i’w helpu i wneud penderfyniadau a datblygu eu gwerthoedd a’u hunaniaeth. Bydd hyn yn ei dro yn datblygu eu hyder a’u huchelgais. Bydd gweithgareddau corfforol ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu cydberthnasau yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr chwarae amrywiaeth o rannau sy’n gofyn am gydweithredu. Drwy hyn, byddant yn datblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau gweithio mewn tîm a fydd yn eu galluogi i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ymwneud â syniadau sy’n herio emosiynau a chydberthnasau, a byddant yn cael eu hannog i ddatrys yr heriau hyn mewn ffyrdd creadigol a mentrus. Drwy ddatblygu’r sgiliau i siarad am y rhain, byddant yn datblygu ymhellach fel cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.

Byddant yn dysgu sut i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy amrywiaeth o brofiadau, gan gynnwys cyfleoedd i:

  • wneud dewisiadau cadarnhaol, ac i ddysgu sut mae’r rhain yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd a lles eraill
  • ymwneud ag eraill o fewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol
  • ymgysylltu â gwahanol ddylanwadau cymdeithasol, gan werthfawrogi pwysigrwydd parchu eraill
  • ystyried y materion cymdeithasol a moesegol sy’n effeithio ar iechyd a lles eraill.

Byddant hefyd yn datblygu’r sgiliau a’r ymagweddau sy’n eu galluogi i ddod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, drwy ddysgu:

  • beth sy’n dylanwadu ar eu hiechyd a’u lles, gan gynnwys deiet cytbwys, gweithgareddau corfforol a chamddefnyddio sylweddau
  • sut i wneud penderfyniadau sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles
  • pwysigrwydd gwydnwch a rheoli’ch hunan
  • sut i geisio cymorth
  • sut i ddatblygu cydberthnasau diogel ac iach.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y maes dysgu a phrofiad hwn yn ceisio disgrifio’r ffactorau hanfodol sy’n sail i’n hiechyd a’n lles. Nid ydynt yn cyfleu pob pwnc neu fater posibl, ac ni allant wneud hynny. Yn hytrach, maent yn rhoi’r hyblygrwydd i weithwyr proffesiynol adnabod y pynciau a’r materion hynny sy’n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, eu hysgol a’u cymuned. Bwriedir iddynt weithredu fel lensys ar gyfer archwilio gwahanol bynciau a materion.

Er mwyn gweithredu yn y dull holistaidd hwn, dylai gweithwyr proffesiynol geisio defnyddio amrywiol rannau o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig wrth ystyried sut i addysgu a dysgu ym maes Iechyd a Lles. Mae gweithredu fel hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ystyried sut y gall ymddygiad neu fater penodol effeithio ar eu hiechyd a’u lles mewn gwahanol ffyrdd.

Dylai’r drefn ar gyfer dysgu am unrhyw fater ddefnyddio pob rhan o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig lle y bo’n bosibl. Ceir enghraifft o sut gellir gwneud hyn yma ar gyfer ymddygiad ar-lein (a gallai hyn gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, dod o hyd i gymar ar-lein, ôl-troed digidol a chynnwys rhywiol ar-lein).

Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

  • Defnyddio ffynonellau ar-lein er mwyn datblygu strategaethau i gefnogi iechyd a lles y corff.
  • Effaith ymddygiad ar-lein ar y ddelwedd o’r corff a dewisiadau o ran bwyd ac ymarfer corff.
  • Defnyddio technoleg ac iechyd a lles y corff.

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

  • Defnyddio technoleg a chymunedau ar-lein i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol.
  • Effaith ymddygiad ar-lein cadarnhaol a negyddol ar iechyd meddwl a lles emosiynol.
  • Ystyried mathau o brofiadau cadarnhaol a negyddol ar-lein.

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

  • Gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun ar-lein.
  • Defnyddio ffynonellau ar-lein er mwyn gwneud penderfyniadau a dod o hyd i wybodaeth a chymorth.
  • Rheoli risg a diogelwch ar-lein megis rhannu gwybodaeth bersonol (gan gynnwys delweddau) a goblygiadau cyfreithiol.

Mae’r ffordd rydym yn ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol gwahanol yn siapio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles.

  • Ymddygiad ar-lein cadarnhaol a dinasyddiaeth ddigidol.
  • Rôl gadarnhaol cymunedau ar-lein.
  • Gwahanol agweddau a normau a gyflwynir ar-lein (e.e. am wahanol fathau o gydberthnasau).
  • Normau ac agweddau o ran cyswllt priodol a chynnwys priodol ar-lein.
  • Ystyried, hyrwyddo a herio normau a gwerthoedd ar wahanol lwyfannau digidol (gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol).

Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein hymdeimlad o berthyn ac ar gyfer ein lles.

  • Cydweithredu, parch o’r ddwy ochr wrth feithrin cydberthnasau ar-lein.
  • Defnyddio llwyfannau ar-lein er mwyn eirioli.
  • Y rôl y mae technolegau a llwyfannau digidol yn ei chwarae wrth feithrin a chynnal cydberthnasau.
  • Dod o hyd i gymar ar-lein.
  • Effaith ymddygiad ar-lein ar gydberthnasau penodol.
  • Nodweddion cydberthnasau niweidiol ar-lein.
  • Bwlio a throlio ar-lein.

Un o nodweddion pwysig y maes dysgu a phrofiad hwn yw bod cynnydd yn aflinol. Gellir symud yn ôl ac ymlaen rhwng camau cynnydd, o ystyried newidiadau mewn amgylchiadau personol sy’n effeithio ar iechyd a lles. Mae pedwar model cynnydd yn gweithredu ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles a gellir eu gweld i raddau amrywiol ym mhob datganiad o’r hyn sy’n bwysig a nodir isod.

Dysgu gwell hunanreolaeth – Caiff cynnydd ei fodelu fel symud o wneud rhywbeth â chymorth gan eraill sy’n fwy medrus, tuag at allu ei wneud yn annibynnol ac yn gynyddol fedrus. Mae hyn yn cynnwys elfennau megis pennu nodau personol a chymryd cyfrifoldeb personol dros benderfyniadau a gweithredoedd. Mae canolbwyntio ar brofiadau sy’n gofyn i ddysgwyr wneud penderfyniadau a chyfleu rhesymeg dros eu dewis yn helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i fod yn annibynnol yn y dyfodol (Y Gymdeithas Llythrennedd Corfforol Ryngwladol, 2017).

Dod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol – Caiff cynnydd ei fodelu fel symud o’r unigolyn i bobl eraill, ac o’r lleol i’r cenedlaethol i’r byd-eang. Mae dysgwyr yn symud o feddwl sut y mae eu gweithredoedd yn effeithio arnynt yn bersonol tuag at feddwl sut y cânt effaith ehangach ar gymdeithas. Mae symud tuag at ymwybyddiaeth gymdeithasol yn ogystal â phwysigrwydd symud o’r lleol, i’r cenedlaethol, i’r byd-eang yn gysylltiedig â’r Fframwaith Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghymru, y dimensiwn Cymreig, persbectif rhyngwladol a fframwaith cymhwysedd byd-eang PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Soffistigeiddrwydd gwybodaeth a sgiliau – Mewn perthynas ag elfennau gwybodaeth a sgiliau’r maes dysgu a phrofiad, caiff cynnydd ei fodelu fel dod yn fwy soffistigedig dros amser; deall yr un cysyniad ond yn fanylach (ailystyried gwybodaeth/sgiliau ond ar lefel ddyfnach); mewn symudiadau cysyniadol (symud o un sgil/dealltwriaeth i wahanol sgil/dealltwriaeth); neu o ran ehangder (ychwanegu mwy o wybodaeth/sgiliau newydd). Yn gyffredinol, caiff cynnydd ei ystyried mewn dyfnder dros amser ac o ran dyfnhau gwybodaeth a sgiliau.

Twf datblygiadol – Caiff y modelau eu llywio gan waith ymchwil i ddatblygiad plant. Fel y nodwyd gan Pellegrino (2017), er nad yw cynnydd mewn dysgu yn anochel yn ddatblygiadol, gall camau datblygiadol gyfyngu arno. Mae cynnydd yn ddeinamig; yn aml‑ddimensiwn; yn gydnaws â cherrig milltir datblygiadol ehangach ac yn droellog yn ogystal â llinol. Felly, mae’r trywydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn ategu datblygiad naturiol plant. Mae hefyd yn disgrifio’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymagweddau y dylid eu datblygu yn ystod profiadau addysgol dysgwyr yng Nghymru.

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

Mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn ategu bron yr holl ddysgu ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cymryd rhan yn llwyddiannus ac yn hyderus yn y byd modern.

Llythrennedd

Mae Iechyd a Lles yn cynnig y cyfleoedd i ddysgwyr feithrin eu sgiliau llythrennedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau wrth iddynt baratoi eu hunain ar gyfer bywyd y tu hwnt i addysg. Bydd dysgwyr, er enghraifft, yn dechrau trefnu eu gwaith ysgrifennu, dangos ymwybyddiaeth o wahanol ddarllenwyr ac yn addasu eu hiaith mewn ffordd hyderus sy’n berthnasol ar gyfer llwybr gyrfa neu ddysgu o’u dewis.

Wrth i ddysgwyr ymwneud yn feirniadol ag amrywiaeth o destunau er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau, byddant yn mynegi eu safbwyntiau mewn ffordd gynyddol hyderus ac yn datblygu eu gwerthoedd a’u hunaniaeth ymhellach a fydd, yn ei dro, yn datblygu eu hyder a’u huchelgais.

Mae llythrennedd yn ffactor sylfaenol wrth alluogi lles. Mae lleferydd, yn arbennig, yn darparu ffordd i ddysgwyr gyfleu eu teimladau a meithrin cydberthynas. Mae rôl cyfathrebu wrth fynegi emosiynau yn hanfodol, ac mae gan lenyddiaeth botensial sylweddol i ategu empathi, iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr.

Rhifedd

Bydd Iechyd a Lles yn darparu’r cyd-destun go iawn i helpu i feithrin sgiliau rhifedd. Bydd dysgwyr yn echdynnu ac yn dehongli gwybodaeth o amrywiaeth o ddiagramau a graffiau er mwyn dod i gasgliadau am ffactorau a all ddylanwadu ar eu hiechyd a’u lles, neu’n syml er mwyn olrhain a chofnodi eu cynnydd wrth wneud gweithgareddau corfforol. Mae rhifedd yn ffactor allweddol sy’n galluogi nifer o benderfyniadau gwybodus, yn arbennig rheoli arian ac ategu penderfyniadau ariannol doeth, ac ymgysylltu’n feirniadol â normau cymdeithasol ynghylch arian. Mae rhifedd hefyd yn chwarae rhan wrth brynu a pharatoi bwyd er mwyn sicrhau maeth.

Cymhwysedd digidol

Gellir datblygu cymhwysedd digidol drwy amrywiaeth o brofiadau diddorol a hygyrch wrth i ddysgwyr feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw a gweithio mewn byd cynyddol ar-lein a digidol. Gellir helpu dysgwyr, er enghraifft, i ddatblygu algorithmau syml ar gyfer ryseitiau iach neu i gydweithio er mwyn creu a dylunio modelau sy’n cynrychioli problemau go iawn.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod dylanwad cynyddol technoleg ar ein bywydau beunyddiol. Bydd angen i ddysgwyr ddeall goblygiadau hyn ar gyfer eu hiechyd a’u lles ac, yn arbennig, yr effaith bosibl ar iechyd a lles y corff, ac iechyd a lles meddyliol ac emosiynol. Dylid ystyried prosesau gwneud penderfyniadau, asesu risg a sefyllfaoedd diogel ac anniogel, oll o fewn cyd‑destunau digidol. Mae hyn yn cynnwys eu cydberthnasau, diogelwch ar-lein, goblygiadau cyfreithiol a dylanwadau cymdeithasol ar-lein (gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol).

Y dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol

Caiff hunaniaeth dysgwyr ei llywio drwy feithrin dealltwriaeth o normau, gwerthoedd a diwylliannau’r gymuned. Mae angen i ddysgwyr feithrin ymdeimlad cadarn o’u hunain yn ogystal â dealltwriaeth o’u statws ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn cynnig cyfle i ysbrydoli a galluogi dysgwyr i fodelu empathi a thegwch ac i ddod yn ddinasyddion gweithgar. Dylai materion lleol a byd-eang a ffactorau sy’n effeithio ar wahanol elfennau o iechyd a lles lywio’r dysgu. Mae prosesau gwneud penderfyniadau yn helpu dysgwyr i ystyried effaith eu penderfyniadau ar iechyd a lles eraill ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Sgiliau ehangach

Mae dysgu ym maes Iechyd a Lles yn helpu i feithrin sgiliau ehangach mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys y canlynol.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

  • Cynnal gwerthusiad beirniadol o’r newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd wrth fod yn actif.
  • Mae ymgysylltu â phrofiadau bywyd yn gofyn am sgiliau dadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfarnu er mwyn diogelu iechyd meddwl a lles emosiynol.
  • Mae’r broses o wneud penderfyniadau, yn enwedig yn ystod y camau cynnydd uwch, yn dibynnu’n sylweddol ar brosesau beirniadol a rhesymegol, megis dadansoddi buddiannau/risg camau gweithredu penodol. Caiff dysgwyr hefyd eu helpu i ddatblygu ymatebion a datrysiadau i brofiadau y byddant yn eu hwynebu ac i gynnal dadansoddiad beirniadol o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir, megis gwerthoedd, credoau a thuedd.
  • Ymwneud yn feirniadol â’r ffordd y mae dylanwadau cymdeithasol yn effeithio ar les.
  • Datrys problemau er mwyn atal a rheoli gwrthdaro.

Cynllunio a threfnu

  • Cynllunio a gweithredu mathau o ymddygiad cynaliadwy, cytbwys a chadarnhaol i gefnogi iechyd a lles y corff, gan gynnwys deiet cytbwys a gweithgareddau corfforol cynaliadwy. Bydd angen i ddysgwyr fonitro a myfyrio ar ganlyniadau er mwyn llywio ymddygiad yn y dyfodol.
  • Mae hunanymwybyddiaeth yn galluogi dysgwyr i fod yn fyfyriol, sy’n eu helpu i addasu eu hymddygiad a’u gweithredoedd i wahanol sefyllfaoedd. Mae hefyd yn eu galluogi i fod yn agored i hynny. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn cynllunio ac yn datblygu strategaethau er mwyn hunanreoleiddio mewn ffordd annibynnol.
  • Cynllunio a phennu nodau byrdymor a hirdymor a chymryd camau i’w cyflawni.
  • Nodi a myfyrio ar effeithiau eu penderfyniadau er mwyn eu gwerthuso a gwella penderfyniadau a wneir yn y dyfodol.
  • Cynllunio a threfnu cyllid a gweithio’n unol â chyllideb.

Creadigrwydd ac arloesi

  • Meddwl am syniadau er mwyn creu pryd o fwyd maethlon.
  • Creadigrwydd wrth wneud gweithgareddau corfforol, cyfleoedd i feddwl am syniadau ac i roi strategaethau a ddatblygwyd ganddynt ar waith er mwyn llwyddo mewn cystadleuaeth.
  • Parodrwydd i archwilio syniadau, gan ystyried barnau eraill, a’r dewrder i fynegi eu barnau personol.

Effeithiolrwydd personol

  • Mae deall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a lles y corff yn helpu dysgwyr i ofalu amdanynt eu hunain ac eraill ac i barchu eu hunain ac eraill. Mae datblygu iechyd a lles y corff cadarnhaol yn gwella hyder a chymhelliant dysgwyr.
  • Mae deall yr amodau sy’n hyrwyddo ac yn effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol yn helpu dysgwyr i ymdopi â’u profiadau ac i ymddwyn gan ddangos empathi, cydymdeimlad a charedigrwydd tuag atynt hwy eu hunain ac eraill.
  • Mae deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau ystyriol a gwybodus y gallant eu cyfiawnhau a’u hegluro. Deall risg a chanlyniadau posibl eu penderfyniadau iddynt hwy eu hunain ac eraill.
  • Drwy allu gwrthod a herio normau ac agweddau, gall dysgwyr osgoi ymddwyn mewn ffordd sy’n niweidio eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd a lles eraill; gan barchu gwahaniaethau lle y bo’n briodol, cydnabod hunaniaeth a gwerthoedd pob unigolyn.
  • Meithrin y sgiliau a’r agweddau sy’n galluogi dysgwyr i feithrin cydberthnasau iach, gwybod eu hawliau, gwybod sut i reoli gwrthdaro, adnabod cydberthnasau nad ydynt yn iach, i fod yn ddiogel, a deall pryd a sut i ofyn am gymorth iddynt hwy eu hunain ac eraill.

Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dysgu o wybodaeth am yrfaoedd a’r farchnad lafur

Mae’n hanfodol i ddysgwyr gael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am yrfaoedd a’r farchnad lafur a deall yr hyn y mae’n ei olygu iddynt, er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a chynaliadwy am eu gyrfa.

Mae angen i ddysgwyr brofi cyfleoedd a gynlluniwyd i godi eu hymwybyddiaeth o ddewisiadau yn y dyfodol, ac i godi eu disgwyliadau a’u dyheadau. Dylent hefyd feithrin y sgiliau ar gyfer cynllunio personol ac ar gyfer gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun y cwricwlwm, dysgu a chyflawniad a fydd yn eu paratoi ar gyfer y cyfnodau nesaf mewn bywyd.

Dylai dysgwyr brofi gweithgareddau sy’n eu galluogi i feithrin y sgiliau a’r nodweddion y bydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni a chynnal cyrchfannau cadarnhaol ar ôl gadael yr ysgol. Mae gofynion a phatrymau cyflogaeth yn newid yn barhaus, felly mae’n bwysig iawn bod pobl ifanc yn meithrin lefel sgiliau uchel a dealltwriaeth o’r byd gwaith, hyfforddiant a dysgu gydol oes er mwyn iddynt allu manteisio ar y cyfleoedd hyn.

Cysylltu’r maes dysgu a phrofiad â gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae profiadau a deilliannau iechyd corfforol yn creu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan a pherfformio ar eu lefel uchaf mewn chwaraeon ac, os oes ganddynt ddiddordeb, i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau iechyd a hamdden.

Mae dysgu drwy yrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith ym maes Iechyd a Lles yn hyrwyddo hyder, meddwl annibynnol ac agweddau ac ymagweddau cadarnhaol. Mae’n darparu cyd-destun a realaeth, ac yn codi dyheadau dysgwyr mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • codi ymwybyddiaeth ynghylch y llwybrau gyrfa sydd ar gael drwy iechyd a lles y corff
  • datblygu hunanymwybyddiaeth, gan eu galluogi i werthuso sgiliau, cryfderau, priodweddau a meysydd i’w datblygu, er mwyn gwneud penderfyniadau realistig, ystyrlon a chynaliadwy ynghylch eu llwybr gyrfa
  • cael gafael ar amrywiaeth eang o wybodaeth, data a phobl, sy’n darparu help, cymorth, cyngor ac arweiniad, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus a chynaliadwy am yrfaoedd
  • ystyried a herio eu barnau eu hunain a barnau pobl eraill am ddysgu, gyrfaoedd a’r byd gwaith er mwyn llywio barn a phenderfyniadau
  • ystyried normau cymdeithasol a herio stereoteipiau yn y gweithle
  • meithrin cydberthnasau proffesiynol: gwrando’n astud, ymateb mewn ffordd adeiladol, a nodi cryfderau a gwendidau safbwyntiau pobl eraill
  • meithrin y sgiliau rhyngweithio cymdeithasol sydd eu hangen i weithio’n llwyddiannus ag eraill, megis cydweithredu, negodi, cyfathrebu.

Mae profiadau a deilliannau gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith yn helpu wrth feithrin sgiliau rheoli gyrfa. Gall dysgwyr gymhwyso’r sgiliau hyn er mwyn:

  • datblygu ymwybyddiaeth bersonol ynghylch hoffterau, cas bethau, cryfderau a gwendidau
  • casglu, dehongli a dadansoddi gwybodaeth am yrfaoedd, dysgu a’r farchnad lafur
  • ystyried opsiynau o ran dysgu a gweithio, a chysylltu hyn â blaenoriaethau a chryfderau personol
  • cymryd camau er mwyn llunio llwybr gyrfa.

Mae cynnydd dysgwyr o ran gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhan o gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Gallai llwyddiant i ddysgwr cynradd ifanc gynnwys:

  • chwarae rôl ar gyfer amrywiaeth o wahanol swyddi
  • y gred y gallant gyflawni unrhyw swydd – gan fynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd
  • cyfathrebu â’r bobl yn eu cymuned am y gwahanol swyddi y maent yn eu gwneud a’r boddhad a all ddeillio ohonynt.

Drwy wneud cynnydd dysgu, gallai llwyddiant i ddysgwyr 16 oed gynnwys:

  • dangos a chymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd mewn perthynas â’r byd gwaith
  • nodi diddordebau, cryfderau a sgiliau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ôl-16
  • deall ac arddangos y mathau o ymddygiad y mae cyflogwr yn dymuno eu gweld mewn cyflogai da
  • gwerthuso risg wrth ddatblygu syniad busnes ac ystyried gwahanol ffyrdd o sefydlu a chynnal menter.

Profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae dysgwyr yn datblygu diddordebau, cryfderau, sgiliau a dyheadau drwy brofiadau fel rhan o’r cwricwlwm ac mewn bywyd y tu hwnt i’r ysgol. Mae amrywiaeth o bartneriaid ynghlwm â’r teithiau cyffrous hyn drwy gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno a, gyda’i gilydd, maent yn llywio penderfyniadau dysgwyr am eu dyfodol a’r llwybrau y byddant yn eu dilyn. Gall cyfleoedd, megis ymweliadau, siaradwyr gwadd a gweithgareddau ymarferol, helpu i wella’r dysgu a’i roi mewn cyd-destun.

Mae cydweithredu a chyfleoedd i gysylltu ag unigolion a chyflogwyr yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am waith, cyflogaeth a’r sgiliau a gaiff eu gwerthfawrogi yn y gweithle. Gall dysgwyr ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a feithrinwyd drwy gymryd rhan mewn profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith i ddatblygu gweithgareddau menter llwyddiannus. Gall y rhain gynnig profiad dysgu dilys sy’n datblygu dysgwyr fel cyfranwyr creadigol a mentrus, gan greu cysylltiadau â’r byd gwaith.

Mae arweiniad gyrfaoedd effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau’r llwybr mwyaf priodol ar gyfer dyheadau dysgwyr, gan eu hysbysu am yr amrywiaeth o bwyntiau mynediad a’r llwybrau amrywiol i mewn i’r byd gwaith. Mae angen i ysgolion gynnig cyfleoedd i feithrin sgiliau entrepreneuraidd a dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o’r buddiannau sy’n gysylltiedig â sefydlu menter.

Deall cyfleoedd ôl-16 ac addysg uwch

Mae’n hanfodol bod dysgwyr yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ôl-16. Felly, yn ogystal â deall am gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau, dylid rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am ddarparwyr dysgu a chynnig y cyfle iddynt ymgysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr o’r fath. Dylai cyfleoedd i ymgysylltu gynnwys mynychu ffeiriau gyrfaoedd a sgiliau, sgyrsiau gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch ac ymweliadau gan y darparwyr hynny, yn ogystal â chyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch. Dylid hefyd gyfeirio dysgwyr at adnoddau ymchwil ar‑lein sy’n cynnig gwybodaeth am gyrsiau a chynnydd, er mwyn eu helpu i ddeall yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac i helpu i godi eu dyheadau a chynnig sail iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ffactor allweddol sy’n galluogi iechyd a lles. Mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn cynnig cyfleoedd eang a hanfodol i ystyried addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan gynnwys y canlynol.

Cydberthnasau

  • Pwysigrwydd empathi a chydymdeimlad wrth feithrin cydberthnasau cadarnhaol.
  • Pwysigrwydd cyfleu teimladau mewn cydberthnasau.
  • Gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun gwahanol gydberthnasau (gan gynnwys cydsyniad).
  • Meithrin cydberthnasau, gan ddefnyddio dulliau datrys problemau a negodi i ategu penderfyniadau ar y cyd.
  • Meithrin cydberthnasau a chydweithredu drwy gemau tîm.
  • Meithrin cydberthnasau o fewn gwahanol grwpiau cymdeithasol.
  • Datganiad o’r hyn sy’n bwysig: Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein hymdeimlad o berthyn ac ar gyfer ein lles.

Gwerthoedd, hawliau, diwylliant a rhywioldeb

  • Ymwybyddiaeth o’r ffordd mae eu hunaniaeth, eu gwerthoedd, eu hagweddau a’u hymddygiad yn cael eu siapio gan y grwpiau cymdeithasol y maent yn perthyn iddynt a’r sefyllfaoedd y maent yn gweithredu o’u mewn.
  • Deall a pharchu y caiff hunaniaeth, gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad pobl eraill eu llywio gan eu grwpiau cymdeithasol.
  • Deall sut mae gwahanol grwpiau cymdeithasol a chymdeithasau yn cyflwyno normau gwahanol gydberthnasau.
  • Parch, tegwch a chydnabod hawliau eich gilydd mewn cydberthnasau.
  • Gwrthod a herio rheolau, normau, agweddau, gwerthoedd, stereoteipiau a rhagfarnau niweidiol.
  • Ymgysylltu’n feirniadol â normau cymdeithasol a dylanwadau sy’n llywio cydberthnasau a rhywioldeb.
  • Sut y gall agweddau a normau cymdeithasol effeithio ar hunanddelwedd gorfforol, hunaniaeth a chydberthnasau; cydnabod y gallant fod yn gadarnhaol neu yn niweidiol (gan gynnwys grwpiau cyfoedion a’r cyfryngau).

Deall rhywedd

  • Y cysylltiadau rhwng ffisioleg ac iechyd meddwl a lles emosiynol, gan gynnwys delwedd y corff, hunaniaeth a newidiadau ffisiolegol mewn perthynas ag emosiynau.
  • Rôl a phwysigrwydd y corff fel rhan o hunaniaeth person.
  • Ymgysylltu’n feirniadol â dylanwadau cymdeithasol sy’n llywio safbwyntiau am rywedd.

Trais ac aros yn ddiogel

  • Ble a sut i gael cymorth a gwybodaeth i helpu i wneud penderfyniadau a sicrhau diogelwch personol.
  • Deall sut i ymateb yn briodol mewn sefyllfaoedd niweidiol neu anniogel.
  • Adnabod cydberthnasau nad ydynt yn iach neu sy’n niweidiol a chael help i ymateb iddynt.
  • Cael gafael ar gymorth a gwybodaeth er mwyn sicrhau diogelwch personol mewn cydberthnasau.

Y corff dynol a’i ddatblygiad

  • Sut mae hunanddelwedd yn effeithio ar iechyd meddwl a lles.
  • Ymateb i effaith y glasoed ar les emosiynol.
  • Y cyswllt rhwng y glasoed, rhywioldeb a pherthnasau rhywiol.
  • Y cysylltiadau rhwng ffisioleg ac iechyd meddwl a lles emosiynol, gan gynnwys delwedd y corff.

Rhywioldeb ac ymddygiad rhywiol

  • Datganiad o’r hyn sy’n bwysig: Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein hymdeimlad o berthyn ac ar gyfer ein lles.

Iechyd rhywiol ac atgynhyrchiol

  • Yr effaith ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl a lles emosiynol.
  • Gwneud penderfyniadau ac atgynhyrchu.
  • Perthnasau rhywiol ac iechyd rhywiol.

Cyfoethogi a phrofiadau

Dylai’r profiadau a gynigir i ddysgwyr wella eu hiechyd a’u lles. Mae angen iddynt ddysgu amdanynt eu hunain ac eraill, am eu cymunedau a’r byd ehangach, drwy brofiadau cyfoethog, ystyrlon a phleserus.

Pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored

Gall dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn lleoliadau anffurfiol helpu dysgwyr i:

  • brofi a deall eu hemosiynau sy’n aml yn afreolus yn ystod y glasoed
  • dysgu sut i weithredu’n llwyddiannus â’u cyfoedion a chydag oedolion
  • gweld cyfleoedd i brofi tawelwch ac i ymlacio drwy fyfyrio
  • rhyddhau egni a gwella iechyd corfforol drwy weithgareddau corfforol.

Ceir tystiolaeth sylweddol i awgrymu y gall profiadau yn yr awyr agored gael effaith gadarnhaol ar agweddau, credoau a hunanganfyddiadau plant a phobl ifanc. Mae enghreifftiau o ganlyniadau profiadau o’r fath yn cynnwys gwell annibyniaeth, hyder, hunan-barch, hunaneffeithiolrwydd, effeithiolrwydd personol a strategaethau ymdopi. Gallant hefyd helpu i feithrin sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol megis effeithiolrwydd cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu, cydlyniad grŵp a gwaith tîm.

Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles

Mae chwarae yn hanfodol er mwyn datblygu ymennydd iach ac mae’n helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu cyrff a meddyliau iach yn ogystal â datblygu eu galluoedd cymdeithasol ac emosiynol. Mae chwarae yn cynnig amser pwysig i addysgu plant a phobl ifanc am gydberthnasau, gan eu helpu i ddeall sut mae eu hymddygiad yn effeithio ar eraill ac i ddatblygu ymdeimlad o empathi. Gall chwarae leihau lefelau straen ac mae’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i fod yn greadigol ac yn ddychmygus. Dylai gweithwyr proffesiynol werthfawrogi pwysigrwydd chwarae wrth feithrin yr holl nodweddion sydd eu hangen ar gyfer y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn Iechyd a Lles.

Ymweliadau, ymwelwyr a’r gymuned

Wrth i gysylltiadau dysgwyr â’r byd ehangach a’u dealltwriaeth o’r byd hwnnw ehangu, mae eu dealltwriaeth o’r ffordd y mae eu cymdeithas yn gweithredu a pha ran y gallant ei chwarae wrth gyfrannu at ei diogelwch a’i hiechyd yn ehangu hefyd. Dylai ysgolion fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gynnwys rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach, a allai gynnwys gweithio’n agos â gweithwyr iechyd proffesiynol, creu grwpiau rhyng-genhedlaeth a rhoi cyd-fentrau ar waith i hybu ffitrwydd.

Dylai’r dysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles gael ei lywio gan anghenion dysgwyr wrth wireddu pedwar diben y cwricwlwm. Mae angen cynllunio’r cwricwlwm mewn ffordd ddigon hyblyg i ddiwallu amrywiaeth eang o anghenion cyfnewidiol. Bydd natur y maes dysgu a phrofiad hwn yn golygu y gall ysgolion lunio cwricwlwm sy’n seiliedig ar anghenion lleol ond dylai hefyd ystyried tueddiadau a materion cenedlaethol a byd-eang sy’n effeithio ar iechyd a lles. Dylai’r dysgu hefyd fod yn gwbl seiliedig ar werthoedd, gweledigaeth ac ethos yr ysgol a dylai hefyd adlewyrchu anghenion cymunedau o fewn yr ysgol a’r tu hwnt iddi. Gellir gwneud hyn drwy osod llais y dysgwr wrth wraidd gwaith cynllunio a dylai gweithwyr proffesiynol hefyd geisio cydweithredu ag amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu eu cwricwlwm.

Dylai’r addysgu hefyd fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac arbenigedd. Dylai’r dystiolaeth ddeillio o wybodaeth leol, clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, e.e. data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol. Dylai gweithwyr proffesiynol hefyd geisio cydweithredu ag amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu eu cwricwlwm.

Mae amrywiaeth eang o bynciau y gallai gweithiwr proffesiynol eu hystyried wrth ddatblygu cwricwlwm Iechyd a Lles. Dylid dewis y pynciau yn seiliedig ar anghenion y dysgwyr. Gallai’r dysgu fod mor eang â chydsyniad, cymorth cyntaf a sgiliau achub bywyd, rhywedd a stereoteipiau, neu ddeiet iach.

Gweithio ar draws meysydd dysgu a phrofiad

Ceir cyfleoedd sylweddol ar gyfer gorgyffwrdd rhwng y maes dysgu a phrofiad hwn a’r meysydd dysgu a phrofiad eraill ac mae’n bwysig cynllunio ar gyfer Iechyd a Lles ar y cyd â meysydd dysgu a phrofiad eraill.

Dull gweithredu ysgol gyfan

Mae angen adlewyrchu’r gwaith o ddatblygu a chynllunio’r cwricwlwm Iechyd a Lles yn ethos ac amgylchedd yr ysgol, ei gwasanaethau cymorth a’i pholisïau. Oni chaiff yr addysgu ei ategu ganddynt, yna bydd yr hyn a ddysgir ym maes Iechyd a Lles yn y fantol i raddau helaeth. Er enghraifft, bydd y bwyd a ddarperir yn ystod amser cinio yn dylanwadu ar yr hyn a ddysgir am ddeiet iach.

Mae dull gweithredu ysgol gyfan mewn perthynas â lles yn treiddio i bob agwedd ar fywyd ysgol. Yn y bôn, dylai hyn feithrin diwylliant sy’n rhoi blaenoriaeth i les cymuned gyfan yr ysgol. Dylai hyn olygu y caiff pob unigolyn sy’n rhan o gymuned yr ysgol ei gynnwys – dysgwyr, rhieni/gofalwyr, a phob aelod o staff a gwirfoddolwyr. Mae’n gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys arweinyddiaeth; llais y dysgwr; polisi, diwylliant a’r amgylchedd; cwricwlwm a datblygiad staff.

Gweithio gyda phartneriaid, grwpiau a sefydliadau allanol

Efallai y bydd ysgolion yn adnabod y rhannau o’r cwricwlwm lle mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt. Gall sefydliadau allanol gynnig y gefnogaeth hon gan gyfoethogi’r dysgu drwy ddod â mewnbwn arbenigol. Fodd bynnag, er bod sefydliadau allanol yn cynnig cyfleoedd ardderchog, ni ddylid eu defnyddio yn lle gweithwyr addysgu proffesiynol sydd mewn gwell sefyllfa i roi’r addysg orau i gwrdd ag anghenion y dysgwyr ac i greu cysylltiadau â’r cwricwlwm ehangach. Gall cyrff allanol hefyd gynorthwyo ysgolion i ddatblygu cysylltiadau â’r gymuned ehangach a chefnogi ymgysylltiad rhieni.

;