English

Hwb

Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Trefnu yn ôl

  • Mae chwilfrydedd am Wyddoniaeth a Thechnoleg yn ein hannog i ofyn cwestiynau am y byd o’n cwmpas. Gan ddefnyddio rhesymeg, dychymyg a chreadigrwydd, gallwn gymhwyso gwybodaeth wyddonol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o sut mae’r byd yn gweithio. Gallwn ddatblygu a phrofi modelau defnyddiol i’n helpu i wneud synnwyr o’n byd cymhleth. Gyda thystiolaeth arsylwadau gellir datblygu damcaniaethau newydd, a gellir mireinio neu herio syniadau sy’n bodoli eisoes.

    Mae angen i ni allu gwerthuso honiadau gwyddonol i’n helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar ein byd ac ar ein lles. Mae’r dewisiadau a wnawn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys ein safbwyntiau moesegol a’n credoau personol. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil trylwyr a chadarn, ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer ein penderfyniadau. Fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus mae angen i ni ystyried effaith ein gweithredoedd a datblygiadau technolegol ar Gymru a’r byd ehangach, gan ofyn ‘A yw’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylwn ni?’.

    Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

    • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

      • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r diriaethol i’r haniaethol.
      • Mae dysgwyr yn datblygu o ddisgrifio ansoddol i feintioli.
      • Mae dysgwyr yn symud o ddisgrifio syniadau i allu egluro syniadau.
      • Mae dysgwyr yn dechrau drwy gydnabod ffactorau unigol ac yn datblygu i allu ystyried ffactorau lluosog.
      • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml cyn meithrin sgiliau mwy cymhleth.
      • Mae dysgwyr yn dechrau drwy feddu ar safbwynt myfïol ond maent yn datblygu i allu ystyried eraill a’r byd ehangach.
    • Deilliannau cyflawniad

      Ymholi

      Gallaf ddangos chwilfrydedd a chwestiynu sut mae pethau’n gweithio.

      Gallaf archwilio fy amgylchedd, gwneud arsylwadau a chyfleu fy syniadau am yr hyn sy’n digwydd.

    • Deilliannau cyflawniad

      Ymholi

      Gallaf ofyn cwestiynau a defnyddio fy mhrofiad i awgrymu dulliau ymholi syml.

      Gallaf gasglu data a chyfleu fy nghanfyddiadau.

      Gallaf adnabod tueddiadau a phatrymau ar sail fy arsylwadau a’m hymchwiliadau.

      Effaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      Gallaf gydnabod y gall yr hyn a wnaf, a’r pethau a ddefnyddiaf, gael effaith ar fy amgylchedd ac ar bethau byw.

      Gallaf awgrymu sut y dylid defnyddio a gwaredu defnyddiau pob-dydd mewn ffordd gyfrifol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Ymholi

      Gallaf awgrymu dulliau ymholi addas, gan adnabod newidynnau lle y bo’n briodol, er mwyn ymchwilio i gwestiynau gwyddonol.

      Gallaf gasglu a chyflwyno data mewn fformat addas.

      Gallaf adnabod tueddiadau, patrymau a pherthnasau er mwyn dod i gasgliadau.

      Gallaf werthuso dulliau ac arferion gweithio er mwyn awgrymu gwelliannau.

      Modelau

      Gallaf ddefnyddio modelau ffisegol a chysyniadol i gynrychioli ymddygiad systemau ffisegol a digidol go iawn.

      Gwerthuso tystiolaeth

      Gallaf fynd i’r afael â materion gwyddonol a thechnolegol er mwyn llywio fy safbwyntiau personol.

      Effaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      Gallaf gymryd camau cyfrifol yn fy mywyd pob dydd sy’n ystyried yr effaith ar yr amgylchedd ac ar eraill.

      Gallaf ddisgrifio effeithiau cadarnhaol a negyddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn fy mywyd pob-dydd.

      Gallaf adnabod pa rai o adnoddau’r Ddaear sy’n brin a disgrifio sut y gellir eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy.

    • Deilliannau cyflawniad

      Ymholi

      Gallaf gynnal gwaith ymchwil ac awgrymu dulliau ymholi addas, gan adnabod a rheoli newidynnau, er mwyn ymchwilio i gwestiynau gwyddonol.

      Gallaf gasglu data dibynadwy, eu prosesu a’u cyflwyno’n gywir mewn fformat addas.

      Gallaf ddisgrifio tueddiadau, patrymau a pherthnasau mewn data, a defnyddio fy ngwybodaeth wyddonol i’w hegluro.

      Gallaf ddefnyddio fy nghanfyddiadau er mwyn dod i gasgliadau dilys.

      Gallaf werthuso dibynadwyedd data, gan ystyried anomaleddau.

      Modelau

      Gallaf wneud a defnyddio modelau ffisegol, mathemategol a chysyniadol i egluro a rhagfynegi ymddygiad systemau go iawn.

      Gallaf ddisgrifio cryfderau a gwendidau modelau er mwyn adnabod eu cyfyngiadau.

      Gwerthuso tystiolaeth

      Gallaf ddewis gwybodaeth wyddonol berthnasol o amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth er mwyn gwerthuso honiadau a gyflwynir fel ffeithiau gwyddonol.

      Gallaf adolygu fy safbwyntiau fy hun yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol newydd.

      Effaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      Gallaf egluro pam ein bod weithiau yn dewis ymddwyn mewn ffyrdd sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

      Gallaf ddisgrifio effeithiau cadarnhaol a negyddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar gymdeithas.

      Gallaf ddadansoddi argaeledd adnoddau naturiol allweddol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Ymholi

      Gallaf lunio a chyfiawnhau dulliau ymholi systematig er mwyn ymchwilio’n drylwyr i gwestiynau gwyddonol.

      Gallaf adnabod a disgrifio tueddiadau, patrymau a pherthnasau cymhleth.

      Gallaf gysylltu canfyddiadau arbrofol a gwybodaeth ddamcaniaethol er mwyn dod i gasgliadau dilys.

      Gallaf gynnal gwerthusiad beirniadol o ansawdd data ac awgrymu gwelliannau i ddulliau ymchwil cysylltiedig.

      Modelau

      Gallaf ffurfio modelau ffisegol, mathemategol a chysyniadol i egluro a rhagfynegi ymddygiad systemau go iawn.

      Gallaf ddefnyddio modelau i gefnogi neu wrthbrofi damcaniaethau.

      Gallaf werthuso effeithiolrwydd modelau a’u mireinio er mwyn sicrhau eu bod yn gweddu’n well i’r dystiolaeth sydd ar gael.

      Gwerthuso tystiolaeth

      Gallaf ymchwilio i honiadau a gyflwynir fel ffeithiau gwyddonol a’u gwerthuso drwy ystyried dilysrwydd y dystiolaeth ategol.

      Gallaf werthuso damcaniaethau amgen, lle nad yw’r dystiolaeth sydd ar gael yn cefnogi un canlyniad pendant, er mwyn llunio barn ystyrlon.

      Effaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      Gallaf egluro a chyfiawnhau ffyrdd y gall cymdeithas ddatblygu, gan ystyried effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol nawr ac yn y dyfodol.

      Gallaf werthuso effeithiolrwydd ac effaith datrysiadau technolegol ar lefel bersonol, gymdeithasol ac amgylcheddol.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      • Archwilio pethau byw, gan gynnwys cynefinoedd naturiol, wrth gynnal gweithdrefnau ymholi.
      • Ymholiadau mewn perthynas â phriodweddau ffisegol defnyddiau a natur gronynnol mater.
      • Ymchwilio i strwythur a deinamig y bydysawd.
      • Cefnogi problemau peirianneg a gwella’r broses ddylunio.
      • Deall rôl Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a herio rhagdybiaethau, yn gysylltiedig â chyfleoedd cyd‑destunol i fynegi barn a thrafod honiadau sy’n seiliedig ar ddilysrwydd gwybodaeth.
      • Ymwneud â dysgu ar oblygiadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn gysylltiedig â dylunio, peirianneg, cyfrifiant a’r gwyddorau er mwyn cynnig cyfleoedd a chyd-destunau cyfoethog.
    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Dyniaethau

      • Datblygu sgiliau ymholi.

      Iechyd a Lles

      • Gwneud penderfyniadau a goblygiadau penderfyniadau.
      • Lles personol a phenderfyniadau ar ddiogelwch.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Cyfleu canfyddiadau a safbwyntiau, cyflwyno dadleuon.
      • Mynediad i destunau ffeithiol, gan gynnwys deunydd cyfarwyddo ac ysgrifennu esboniadol.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Rhif, data ac ystadegau.
      • Cyflwyno canfyddiadau ymholiadau.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Ymholi

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • dysgu arbrofol amlsynhwyraidd
      • amgylchedd dysgu cyfoethog dan do ac yn yr awyr agored
      • defnyddio amrywiaeth o offer i arsylwi ac archwilio, e.e. offer chwyddhau a chamerâu.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dilyn cyfarwyddiadau syml a gweithio’n ddiogel.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Ymholi

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • oedolion yn dangos iddynt sut i greu cysylltiadau rhwng profiadau bywyd ac ymchwiliadau
      • gwahanol fathau o ymholiadau, gan gynnwys dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, chwilio am batrymau, dosbarthu ac adnabod, archwilio, gwneud pethau ac ymchwilio i fodelau.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • gweithio’n ddiogel a bod yn ymwybodol o risg
      • defnyddio amrywiaeth o offer gwyddonol priodol i arsylwi, mesur a chofnodi.

      Effaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gall rhai o’u gweithredoedd effeithio ar eu hamgylchedd lleol ac ar y byd ehangach.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Ymholi

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • defnyddio technolegau, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i arsylwi ar amrywiaeth o ffenomena
      • gwahanol fathau o ymholiadau, gan gynnwys dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, profi teg, chwilio am batrymau, dosbarthu ac adnabod, archwilio, gwneud pethau ac ymchwilio i fodelau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y gall gwahanol fathau o newidynnau effeithio ar ganlyniadau ymchwiliadau.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • rhagfynegi lle y bo’n briodol
      • bod yn ymwybodol o risg a chymryd camau gweithredu angenrheidiol er mwyn rheoli risg a pheryglon
      • defnyddio amrywiaeth o offer a thechnoleg ddigidol briodol i arsylwi, mesur a chofnodi.

      Modelau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • sut i ddefnyddio modelau i ddatblygu dealltwriaeth.

      Gwerthuso tystiolaeth

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • amrywiaeth o honiadau gwyddonol, gan gynnwys y rheini sy’n gyfredol neu’n berthnasol i’w bywydau pob-dydd
      • cyfleoedd i drafod a lleisio barn ar honiadau gwyddonol.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gall ymchwiliadau gwyddonol a datblygiadau technolegol cyfredol a blaenorol gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar gymdeithas.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • ystyried hygrededd tystiolaeth.

      Effaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • trafod manteision ac anfanteision technoleg a gweithgarwch gwyddonol
      • ymchwilio i effeithiau gweithgarwch dynol ar eu hamgylchedd lleol a’r byd ehangach.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut mae diwydiant, yn y gorffennol a’r presennol, wedi effeithio ar iechyd pobl a’r amgylchedd.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • disgrifio sut mae’r dewisiadau a wneir gennym yn effeithio ar y byd naturiol, cymdeithas, pobl eraill ac arnom ni ein hunain
      • datblygu a gwerthuso strategaethau gwybodus er mwyn lleihau effaith negyddol gweithgarwch dynol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Ymholi

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • defnyddio technolegau, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i arsylwi ar amrywiaeth o ffenomena gwyddonol a thechnolegol

      • sut i gydnabod gwahanol fathau o newidynnau a sut y gallant effeithio ar ganlyniadau ymchwiliadau
      • pryd y gall technolegau digidol wella ymholiad.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • rhagfynegi lle y bo’n briodol
      • adnabod risg a chymryd camau angenrheidiol i reoli risg a pheryglon
      • dewis a defnyddio amrywiaeth o offer a thechnoleg ddigidol briodol i arsylwi, mesur a chofnodi.

      Modelau

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod rhai modelau yn hanfodol er mwyn meithrin dealltwriaeth o syniadau gwyddonol a thechnolegol allweddol.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio modelau i egluro a rhagfynegi ymddygiad o dan amrywiaeth o amodau gwahanol
      • defnyddio, gwneud, gwerthuso a mireinio modelau.

      Gwerthuso tystiolaeth

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • amrywiaeth o honiadau gwyddonol sy’n amrywio o ran dilysrwydd, dibynadwyedd a hygrededd

      • hidlo tystiolaeth o ran dilysrwydd, dibynadwyedd a hygrededd.

      • ymchwilio i effeithiau gweithgarwch dynol ar eu hamgylchedd lleol ac ar y byd ehangach.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut mae diwydiant, yn y gorffennol a’r presennol, wedi effeithio ar iechyd pobl a’r amgylchedd
      • pam mae rhai datblygiadau gwyddonol a thechnolegol wedi bod yn ddadleuol.

      • datblygu a gwerthuso strategaethau gwybodus er mwyn lleihau effaith negyddol gweithgarwch dynol
      • egluro sut mae amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ystyriaethau amgylcheddol ac economaidd, wedi llywio penderfyniadau cymdeithas.

      • cymharu a chyferbynnu gwahanol fodelau
      • astudio modelau blaenorol a sut maent wedi cael eu datblygu a’u mireinio yn sgil darganfyddiadau gwyddonol a thechnolegol
      • defnyddio eu sgiliau dadansoddol a chreadigol i gynhyrchu modelau
      • defnyddio modelau i ddatrys problemau a dod i ben â heriau.

      • llunio, defnyddio, gwerthuso a mireinio modelau.

      Gwerthuso tystiolaeth

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • amrywiaeth o dystiolaeth sy’n amrywio o ran dilysrwydd, dibynadwyedd a hygrededd
      • cyfle i drafod a lleisio barn ar dystiolaeth.

      • sut mae diwydiant yn y gorffennol a’r presennol wedi effeithio ar iechyd pobl a’r amgylchedd

      • egluro sut mae amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ffactorau amgylcheddol ac economaidd, wedi llywio penderfyniadau cymdeithas.

    Bydd ein holl blant a phobl ifanc:

    yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd:

    • yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
    • yn datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso at wahanol gyd-destunau
    • yn ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
    • yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
    • yn gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maent yn dysgu amdanynt
    • yn gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
    • yn deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
    • yn defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu a dod o hyd i wybodaeth a’i dadansoddi
    • yn ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol

    ac yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

    yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd:

    • yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion
    • yn meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
    • yn adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnynt – yn mentro’n bwyllog
    • yn arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
    • yn mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
    • yn rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa

    ac yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

    yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd:

    • yn canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
    • yn trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
    • yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
    • yn deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
    • yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
    • yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
    • yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned

    ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd

    yn unigolion iach, hyderus sydd:

    • â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
    • yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
    • yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
    • yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
    • yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
    • yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
    • â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
    • yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
    • yn wynebu heriau ac yn eu trechu
    • â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallant

    ac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

  • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae dysgwyr yn defnyddio eu profiadau ac yn cymhwyso eu sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn dylunio a llunio datrysiadau peirianyddol arloesol. Fel rhan o broses ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym yn datblygu syniadau, yn rheoli ac yn lliniaru risg, ac yn lleihau cymhlethdodau cymaint â phosibl. Wrth greu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau, mae angen i ni ddeall a rheoli’r rhyngweithio rhwng defnyddiau, cydrannau, strwythurau a defnyddwyr. Drwy gymhwyso prosesau peirianyddol, mae dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu cywirdeb, manylder, deheurwydd a chrefftwriaeth. Drwy ddylunio a chreu canlyniadau mewn ymateb i anghenion, dymuniadau neu broblemau, mae dysgwyr yn dod yn ddatryswyr problem blaengar sydd mewn sefyllfa dda i gyfrannu at gymdeithas.

      • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r haniaethol i’r diriaethol.

      • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml trwy ddynwared a thrin a thrafod, gan symud tuag at sgiliau mwy cywrain sy’n galluogi perffeithio ac egluro.

      • Mae dysgwyr yn symud o ddynwared i greu cynnwys gwreiddiol.
    • Deilliannau cyflawniad

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Gallaf ddylunio wrth i mi wneud pethau wrth chwarae.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Gallaf gyfleu’r hyn rwyf yn ei wneud.

      Prototeipio a gwneud

      Gallaf ddefnyddio offer, defnyddiau a chyfarpar syml yn ddiogel er mwyn adeiladu a dadadeiladu.

    • Deilliannau cyflawniad

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Gallaf gynhyrchu dyluniadau yn seiliedig ar fy syniadau fy hun mewn ymateb i gyd-destunau penodol.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Gallaf wneud penderfyniadau dylunio gan ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am ddefnyddiau a chynhyrchion sy’n bodoli eisoes.

      Gallaf wella fy nyluniadau o ganlyniad i waith gwerthuso.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Gallaf gyfleu fy syniadau dylunio cyn gwneud.

      Meddylfryd systemau

      Gallaf ystyried sut mae gwahanol gydrannau yn cydweithio.

      Prototeipio a gwneud

      Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o offer, defnyddiau a chyfarpar yn ddiogel er mwyn adeiladu am amrywiaeth o resymau.

      Gallaf ddefnyddio dulliau prototeipio sylfaenol i wella fy nghanlyniadau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Gallaf ymateb yn greadigol i anghenion a dymuniadau’r defnyddiwr, ar sail y cyd-destun a’r dystiolaeth a gesglir.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Gallaf adnabod ac ystyried ffactorau a chyfyngiadau wrth ddatblygu cynigion dylunio.

      Gallaf brofi a mireinio fy mhenderfyniadau dylunio heb ofni methu.

      Gallaf gymhwyso fy ngwybodaeth a’m sgiliau er mwyn gwneud fy mhenderfyniadau dylunio.

      Gallaf ystyried sut y bydd fy nghynigion dylunio yn gwella ar gynhyrchion sy’n bodoli eisoes a sut y gallant effeithio ar yr amgylchedd.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Gallaf ddefnyddio dulliau cyfathrebu i ddatblygu a chyflwyno syniadau yn glir, gan ymateb i adborth.

      Meddylfryd systemau

      Gallaf gyfuno cydrannau, defnyddiau a phrosesau er mwyn sicrhau bod y cyfan yn weithredol ac i wella effeithiolrwydd fy nghanlyniad.

      Prototeipio a gwneud

      Gallaf ddewis a defnyddio offer, defnyddiau a chyfarpar priodol yn ddiogel i sicrhau canlyniadau pwrpasol mewn ffordd resymegol.

      Gallaf ddefnyddio dull prototeipio fel cyswllt rhwng dylunio a gwneud.

      Gallaf weithio mewn ffordd gyfrifol gan ystyried effeithiau ar yr amgylchedd ac ar gymdeithas.

    • Deilliannau cyflawniad

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Gallaf gael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o ffynonellau, ymchwilio iddynt a’u dadansoddi, a’u defnyddio wrth i mi weithio mewn cyd-destunau bywyd go iawn.

      Gallaf gydnabod anghenion a dymuniadau defnyddwyr a gweithredu arnynt mewn cyd‑destunau cynyddol heriol.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Gallaf adnabod a blaenoriaethu ffactorau a chyfyngiadau er mwyn llywio fy nghynigion dylunio.

      Gallaf fabwysiadu proses iterus sy’n llywio ac yn gwella fy meddylfryd dylunio.

      Gallaf ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau newydd i’m helpu gyda’m penderfyniadau dylunio.

      Gallaf addasu fy nghynigion dylunio a’u gwella gan leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd ac ar y gymdeithas.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau cyfathrebu dylunio er mwyn datblygu a chyflwyno syniadau yn glir, a gallaf ymateb yn adeiladol i adborth yn ystod y broses hon.

      Meddylfryd systemau

      Gallaf ymchwilio, gwerthuso, dethol a chyfuno cydrannau, defnyddiau neu brosesau er mwyn gwella ymarferoldeb ac effeithiolrwydd fy nghanlyniad.

      Prototeipio a gwneud

      Gallaf ddewis a defnyddio offer a thechnegau arbenigol yn ddiogel er mwyn gwella effeithlonrwydd fy ymdrechion i ddatblygu cynnyrch.

      Gallaf ddefnyddio technegau prototeipio i brofi syniadau a helpu gyda’m gwaith gwneud.

      Gallaf ddefnyddio fy sgiliau gwneud a’m gwybodaeth am ddefnyddiau i gynhyrchu canlyniadau pwrpasol a safonol.

      Gallaf werthuso a chymhwyso arferion gweithio cyfrifol sy’n ystyried effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol.

      Rwyf wedi ystyried sut y bydd defnyddwyr a chymdeithas ehangach yn rhyngweithio â’r canlyniadau a gynhyrchir gennyf.

    • Deilliannau cyflawniad

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Gallaf ddadansoddi a chael ysbrydoliaeth o sawl ffynhonnell, er mwyn llunio cynigion sy’n arloesol ac yn amrywiol.

      Gallaf fynd i’r afael â phroblemau anodd, ar fy mhen fy hun a chydag eraill, er mwyn ymdrin â gofynion dylunio mewn cyd-destunau cynyddol anghyfarwydd.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Gallaf flaenoriaethu a chyfiawnhau ffactorau lluosog a chyfyngiadau dylunio er mwyn gwella effeithiolrwydd fy mhenderfyniadau dylunio.

      Gallaf werthuso ac addasu fy nghynigion dylunio mewn modd iterus wrth ymdrin â phroblemau heriol.

      Gallaf fwrw ati’n annibynnol i adnabod strategaethau i ddatblygu fy natrysiadau dylunio.

      Gallaf ystyried canlyniadau bwriadol ac anfwriadol posibl fy nyluniadau, ynghyd â dyluniadau a wnaed gan eraill, er mwyn addasu a chyfiawnhau cynigion.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Gallaf gyfleu fy meddylfryd dylunio yn effeithiol a mynd i’r afael yn adeiladol â’r adborth a gaf er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion defnyddwyr.

      Meddylfryd systemau

      Gallaf ddewis, cyfiawnhau a chyfuno cydrannau, defnyddiau a phrosesau yn annibynnol er mwyn gwella ymarferoldeb.

      Gallaf werthuso effeithiolrwydd fy nghanlyniad yn barhaus.

      Prototeipio a gwneud

      Gallaf ddewis a chyflawni tasgau aml-gam cymhleth yn effeithiol mewn ffordd annibynnol a diogel, gan ddefnyddio offer arbenigol mewn ffordd fanwl gywir.

      Gallaf ddewis a chymhwyso prototeipiau manwl a bras yn annibynnol er mwyn rhoi syniadau, defnyddiau a strwythurau ar brawf, gan amlygu ystyriaethau ac archwilio cysyniadau.

      Gallaf ddefnyddio fy sgiliau gwneud a’m gwybodaeth am ddefnyddiau i gynhyrchu canlyniadau effeithiol o ansawdd uchel.

      Gallaf gymhwyso a chyfiawnhau arferion gweithio cyfrifol sy’n ystyried effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol.

      Gallaf ddadansoddi a gwerthuso sut y gellir pennu llwyddiant canlyniad ar sawl lefel, gan gynnwys ei effaith ar y defnyddiwr ac ar y gymdeithas ehangach.

      • Cyfansoddiad defnyddiau, eu priodweddau a’r defnydd a wneir ohonynt yn gysylltiedig â’r datganiad mater.
      • Goblygiadau datblygiadau gwyddonol a chyfyngiadau o ran adnoddau ar benderfyniadau dylunio, gan gynnwys materion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol.
      • Rôl egni wrth ddylunio ac mewn systemau peirianyddol.
      • Pethau byw o ran sut mae natur yn darparu ysbrydoliaeth wrth ddylunio.
      • Rhesymu gwyddonol a thechnolegol o ran arsylwi, mesur a rhagfynegi wrth wneud penderfyniadau dylunio, gan gynnwys dod o hyd i ddefnyddiau a phriodweddau ffisegol y defnyddiau hynny.
      • Egni a grymoedd er mwyn ategu’r egwyddorion a ddefnyddir i rymuso a rheoli canlyniadau.
      • Mynegi’r fframwaith ar gyfer creu canlyniadau creadigol arloesol drwy gyfrifiant.

      Celfyddydau Mynegiannol

      • Prosesau dylunio a gwneud.
      • Datblygu sgiliau echddygol wrth ddefnyddio offer.
      • Creadigrwydd mewn dylunio.
      • Defnyddio defnyddiau, cyfarpar a sain.

      Dyniaethau

      • Ymholi gan ddefnyddio ffynonellau a thystiolaeth.
      • Pobl mewn cymdeithasau blaenorol a’u dylanwad ar heddiw.
      • Esblygiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
      • Effeithiau gwastraff a defnyddio adnoddau naturiol ar yr amgylchedd.
      • Datblygiadau cymdeithasol, economaidd a thechnolegol a’u heffaith ar gyflogaeth.
      • Entrepreneuriaeth a thechnoleg dylunio.

      Iechyd a Lles

      • Maeth a thechnoleg bwyd.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Cyfleu safbwyntiau a syniadau dylunio, cyflwyno esboniadau.
      • Mynediad i destunau ffeithiol.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Ystyried newidynnau a datblygu dulliau rhesymu.
      • Cyfrifo gofod a siâp.
      • Cyflwyno canfyddiadau o waith dylunio.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • amgylcheddau cyfoethog dan do ac yn yr awyr agored sy’n eu helpu gyda’u gwaith gwneud.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd, yn ystod eu gwaith gwneud, i gyfleu eu syniadau dylunio i oedolyn
      • oedolion yn chwarae wrth eu hymyl ac yn eu helpu i feddwl drwy gwestiynu sensitif.

      Prototeipio a gwneud

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • defnyddio amrywiaeth o offer a chyfarpar yn ddiogel dan do ac yn yr awyr agored.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • trin amrywiaeth o ddefnyddiau, a defnyddio offer gan ddangos deheurwydd cynyddol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i ddylunio mewn ffordd arloesol ar gyfer amrywiaeth o gyd-destunau, sefyllfaoedd a chynulleidfaoedd
      • cyfleoedd i fynegi eu syniadau drwy dreialu a gwella wrth ddylunio.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dod i wybod am wahanol ddiwylliannau a chyd-destunau i gefnogi eu meddylfryd dylunio
      • deall bod, yn aml, fwy nag un datrysiad
      • ystyried anghenion a dymuniadau’r defnyddwyr terfynol.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i ddatblygu a gwella cynigion dylunio, drwy gwestiynu a gwerthuso gyda chyfoedion, mewn awyrgylch cefnogol
      • sut y gall offer a strategaethau dylunio eu helpu i wneud penderfyniadau.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • ystyried cyd-destunau cyn datblygu cynigion dylunio priodol
      • defnyddio enghreifftiau sy’n bodoli eisoes i lywio eu prosesau meddylfryd dylunio
      • ystyried materion amgylcheddol fel rhan o’u cynigion.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i gyfleu a chyflwyno syniadau dylunio i eraill mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd cyn cychwyn ar y gwaith gwneud.

      Meddylfryd systemau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i fabwysiadu meddylfryd systemau sy’n ystyried sut y caiff cydrannau lluosog eu hintegreiddio fel rhan o’r broses gwneud.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • llunio neu greu canlyniadau sy’n cynnwys agweddau ar reolaeth, pŵer a strwythur.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut mae priodweddau defnyddiau yn effeithio ar ymarferoldeb canlyniadau.

      Prototeipio a gwneud

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • gwneud amrywiaeth o bethau am amrywiaeth o resymau, dan do ac yn yr awyr agored
      • cyfleoedd i ymgymryd â gwaith gwneud ffisegol a digidol
      • prosesau peirianyddol neu waith gwneud a’r modd y cânt eu cymhwyso mewn ardaloedd lleol, drwy ymwneud â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a chrefftwyr.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio amrywiaeth ehangach o offer a chyfarpar gan ddangos deheurwydd, sgiliau a diogelwch cynyddol
      • trin amrywiaeth ehangach o ddefnyddiau
      • cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o briodweddau defnyddiau er mwyn helpu gyda’r prototeipio a’r gwaith gwneud.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd, lle y bo’n bosibl, i ddylunio o fewn cyd-destunau dilys, bywyd go iawn, gan ystyried hefyd gyd-destunau damcaniaethol ar gyfer y dyfodol, a hynny mewn perthynas ag amrywiaeth o sefyllfaoedd a chynulleidfaoedd
      • cyfleoedd i ddylunio mewn ffordd arloesol sydd y tu hwnt i gyfyngiadau eu sgiliau ymarferol, ac argaeledd defnyddiau a chyfarpar.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am wahanol ddiwylliannau a chyd-destunau, lle y bo’n briodol, i gefnogi eu meddylfryd dylunio.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio creadigrwydd a dychymyg i ddeall bod fwy nag un datrysiad yn aml
      • cymhwyso ffordd o feddwl arloesol drwy gymryd risg sydd wedi ei phwyso a’i mesur, a defnyddio dull o dreialu a gwella
      • datblygu empathi drwy ystyried anghenion a dymuniadau defnyddwyr terfynol.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i archwilio cynhyrchion sy’n bodoli eisoes, er mwyn llywio eu gwaith dylunio

      • defnyddio offer a strategaethau dylunio i’w helpu i wneud penderfyniadau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am waith dylunwyr ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a chyd-destunau, er mwyn llywio eu meddylfryd dylunio.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cyfiawnhau penderfyniadau dylunio yn seiliedig ar ffactorau, e.e. ystyriaethau esthetig, adeiladol a marchnata
      • defnyddio ffynonellau sylfaenol ac eilaidd i ymchwilio i gyd-destun a llywio eu meddylfryd dylunio
      • ystyried materion amgylcheddol a moesegol fel rhan o’u cynigion.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd lle y gallant feithrin sgiliau llythrennedd gweledol.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • datblygu a dewis y dulliau cyfathrebu gweledol mwyaf priodol, sy’n ategu’r broses o ddatblygu syniadau dylunio
      • defnyddio dulliau prototeipio fel ffordd o gyfleu syniadau dylunio.

      Meddylfryd systemau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • sut y mae gweithio cydweithredol a gweithio annibynnol yn arwain at ganlyniadau peirianyddol effeithiol.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y bydd priodweddau defnyddiau priodol ac effeithiolrwydd technegau yn effeithio ar ymarferoldeb canlyniadau
      • am feddylfryd systemau sy’n ystyried sut y caiff cydrannau lluosog eu hintegreiddio fel rhan o’r broses gwneud.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cymryd rhan mewn gwaith gwneud sy’n cyfuno cydrannau mewn system sy’n rhoi strwythur, rheolaeth a phŵer.

      Prototeipio a gwneud

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i weithio mewn gwahanol amgylcheddau
      • ymwneud â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a chrefftwyr er mwyn ehangu eu profiadau o brosesau peirianyddol
      • cyfleoedd i feithrin sgiliau gwaith gwneud ymarferol heb fod angen dylunio.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cymhwyso eu gwybodaeth am briodweddau gweithredol defnyddiau a thechnegau cysylltiedig er mwyn helpu gyda’r gwaith prototeipio a gwneud
      • datblygu deheurwydd, cywirdeb, manylder a chrefftwriaeth drwy ddefnyddio offer, taclau, cyfarpar, defnyddiau priodol a chynhwysion
      • ymgymryd â gwaith gwneud ffisegol, electronig a digidol.

      • caffael a chymhwyso gwybodaeth newydd am wahanol ddiwylliannau a chyd-destunau, er mwyn llywio eu prosesau meddylfryd dylunio

      • mabwysiadu ffordd o feddwl arloesol a chadarnhaol drwy gymryd risg sydd wedi ei phwyso a’i mesur, a defnyddio dull o brofi a gwella.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i archwilio cynhyrchion sy’n bodoli eisoes er mwyn llywio eu gwaith dylunio

      • am waith dylunwyr ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a chyd-destunau, er mwyn llywio eu meddylfryd dylunio eu hunain
      • am ddefnyddiau a thechnolegau sy’n ymddangos o’r newydd, a’r priodweddau a’r posibiliadau newydd y maent yn eu cynnig
      • am ddulliau dylunio cylchol a darfodiad bwriadus.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dadansoddi cyd-destunau a datblygu cynigion dylunio drwy gwestiynu a gwerthuso gydag eraill
      • cyfiawnhau penderfyniadau dylunio yn seiliedig ar ffactorau megis ystyriaethau cysyniadol, technegol, esthetig, adeiladol a marchnata
      • defnyddio gwybodaeth dechnolegol a gwyddonol i gefnogi penderfyniadau dylunio
      • ymchwilio i ffynonellau sylfaenol ac eilaidd a’u dadansoddi er mwyn ysbrydoli prosesau meddylfryd dylunio
      • ystyried materion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol fel rhan o’u cynigion.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd lle y gallant feithrin eu sgiliau llythrennedd gweledol.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio dulliau prototeipio fel ffordd o gyfleu syniadau dylunio
      • dewis a chymhwyso’r dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer cyfleu a datblygu eu syniadau, ac ymateb mewn ffordd adeiladol i adborth gan bobl eraill hyddysg.

      Meddylfryd systemau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • sut mae cydweithio a gweithio annibynnol yn arwain at ganlyniadau peirianyddol effeithiol
      • sut y caiff systemau a phrosesau eu defnyddio mewn amgylcheddau peirianneg a gweithgynhyrchu.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y bydd priodweddau defnyddiau yn effeithio ar ymarferoldeb canlyniadau.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cymhwyso meddylfryd systemau lle caiff cydrannau neu rannau lluosog eu hintegreiddio fel rhan o’r broses gwneud
      • ymgymryd â gwaith gwneud sy’n cyfuno cydrannau mewn system sy’n rhoi strwythur, rheolaeth a phŵer.

      Prototeipio a gwneud

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • ymwneud â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a chrefftwyr er mwyn ehangu eu profiadau o brosesau peirianneg a gwaith gwneud
      • defnyddio prototeipiau manwl a bras er mwyn profi syniadau, defnyddiau a strwythurau, gan amlygu ystyriaethau ac archwilio cysyniadau

      • am natur amlddisgyblaethol peirianneg ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o briodweddau gweithredol amrywiaeth o ddefnyddiau a thechnegau cysylltiedig, er mwyn helpu’r gwaith prototeipio a gwneud
      • datblygu deheurwydd, cywirdeb, manylder a chrefftwriaeth drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer, taclau, cyfarpar, defnyddiau a chynhwysion

      • adnabod cyd-destunau dilys, bywyd go iawn yn annibynnol, gan ystyried hefyd gyd‑destunau damcaniaethol ar gyfer y dyfodol, a hynny mewn perthynas ag amrywiaeth o sefyllfaoedd a chynulleidfaoedd
      • caffael a chymhwyso gwybodaeth newydd am wahanol ddiwylliannau a chyd-destunau mewn ffordd greadigol, er mwyn llywio eu prosesau meddylfryd dylunio
      • defnyddio eu creadigrwydd a’u dychymyg i archwilio nifer o gynigion
      • rhoi dull treialu a gwella ar waith drwy brawf, lle mae cymryd risg sydd wedi ei phwyso a’i mesur yn arwain at ffordd o feddwl arloesol.

      Gwneud penderfyniadau dylunio

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am ddefnyddiau a thechnolegau sy’n ymddangos o’r newydd, a’r priodweddau a’r posibiliadau newydd y maent yn eu cynnig.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o waith dylunwyr ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a chyd-destunau er mwyn llywio eu meddylfryd dylunio eu hunain
      • dadansoddi cynhyrchion sy’n bodoli eisoes gyda’r bwriad o lywio eu gwaith dylunio eu hunain

      • dewis a defnyddio amrywiaeth o offer a strategaethau dylunio
      • cyfiawnhau penderfyniadau dylunio yn seiliedig ar ystyriaethau cysyniadol, technegol, esthetig, adeiladol a marchnata, a’r cyd-ddibyniaethau rhyngddynt

      • mabwysiadu dulliau dylunio cylchol ac ystyried darfodiad bwriadus

      • defnyddio eu sgiliau llythrennedd gweledol yn fedrus i gyfleu eu syniadau dylunio

      • sut mae gweithio cydweithredol a gweithio annibynnol yn arwain at ganlyniadau peirianyddol effeithiol

      • gwybod priodweddau defnyddiau a’u cymhwyso er mwyn sicrhau neu wella ymarferoldeb canlyniadau
      • cymhwyso meddylfryd systemau, lle caiff cydrannau neu rannau lluosog eu hintegreiddio fel rhan o’r broses gwneud

      • ymwneud â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a chrefftwyr er mwyn ehangu eu profiadau o brosesau peirianneg a gwneud

      • am natur holistaidd peirianneg dros amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.

      • mireinio deheurwydd, cywirdeb, manylder a chrefftwriaeth drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer, taclau, cyfarpar, defnyddiau a chynhwysion
      • ymgymryd â gwneud ffisegol, electronig a digidol.

  • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, rydym yn adnabod bod pethau byw yn amrywiol, yn rhyngweithio â’u hamgylchedd ac yn esblygu dros genedlaethau. Mae angen amodau ac adnoddau penodol ar bob peth byw er mwyn goroesi, a gall fod yn rhaid iddynt gystadlu ag organebau eraill er mwyn gwneud hynny. Mae pobl hefyd yn rhan o’r byd hwn o bethau byw, a gall ein penderfyniadau a’n gweithredoedd, ynghyd â’r broses ddetholiad naturiol, gael effaith sylweddol ar amrywiaeth bywyd. Mae gwybod am strwythurau a swyddogaethau pethau byw yn ein galluogi i ddeall sut maent yn tyfu, datblygu ac atgenhedlu’n llwyddiannus. Mae datblygu dealltwriaeth o ffactorau niweidiol yn ein hamgylchedd yn caniatáu i ni wneud penderfyniadau gwybodus, gan gynnwys chwilio am ffyrdd o atal a thrin clefydau.

      Amrywiaeth bywyd

      Gallaf adnabod bod planhigion ac anifeiliaid yn bethau byw.

      Gallaf gydnabod bod pethau byw yn tyfu.

      Gallaf adnabod pethau byw o fewn eu cynefinoedd naturiol.

      Iechyd a chlefydau

      Gallaf arsylwi, gydag oedolyn, ar bethau yn yr amgylchedd a all achosi niwed.

    • Deilliannau cyflawniad

      Amrywiaeth bywyd

      Gallaf adnabod a chymharu rhai o nodweddion pethau byw a thrafod beth sy’n debyg ac yn wahanol rhyngddynt.

      Gallaf gymharu a gwrthgyferbynnu sut mae pethau byw yn datblygu ac yn cael epil.

      Gallaf archwilio sut mae gwahanol gynefinoedd yn darparu adnoddau er mwyn i bethau byw oroesi.

      Prosesau biolegol

      Gallaf adnabod rhannau o bethau byw a’u swyddogaeth.

      Iechyd a chlefydau

      Gallaf adnabod pethau yn yr amgylchedd a all fod yn niweidiol, a gweithredu er mwyn atal niwed i fi fy hun ac i eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Amrywiaeth bywyd

      Gallaf ddefnyddio meini prawf gwyddonol i ddisgrifio nodweddion pethau byw a’u defnyddio i’w dosbarthu.

      Gallaf ddisgrifio sut mae pethau byw wedi newid dros genedlaethau.

      Gallaf ddisgrifio sut mae pethau byw yn cystadlu am adnoddau penodol ac yn dibynnu ar ei gilydd er mwyn goroesi.

      Gallaf drafod effaith cadarnhaol a negyddol newidiadau yn yr amgylchedd a gweithgarwch dynol ar bethau byw a chynefinoedd.

      Prosesau biolegol

      Gallaf enwi a disgrifio swyddogaethau organau yn fy nghorff ac mewn planhigion.

      Gallaf ddisgrifio sut mae rhai organau yn cydweithio er mwyn cyflawni swyddogaeth.

      Iechyd a chlefydau

      Gallaf ddisgrifio effaith dewisiadau ffordd o fyw ar systemau organau, datblygiad ac iechyd.

      Gallaf adnabod ffyrdd y gall y corff amddiffyn ei hun rhag heintiau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Amrywiaeth bywyd

      Gallaf egluro sut y gall addasiad organebau effeithio ar y siawns y byddant yn goroesi.

      Gallaf egluro sut y gall atgenhedlu, mwtaniadau a’r amgylchedd arwain at amrywiad.

      Gallaf egluro cyd-ddibyniaeth organebau mewn ecosystem a sut mae hyn yn arwain at oroesi.

      Gallaf ddadansoddi sut y gall ffactorau amgylcheddol a gweithgarwch dynol gyfrannu at newidiadau mewn cynefinoedd ac ym maint y boblogaeth.

      Prosesau biolegol

      Gallaf ddisgrifio celloedd o fewn organebau a chysylltu strwythur â swyddogaeth.

      Gallaf ddisgrifio prosesau biolegol o fewn organebau ac egluro sut mae’r rhain yn cyfrannu at eu datblygiad a’u goroesiad.

      Gallaf ddisgrifio’r newidiadau a achosir gan hormonau yn ystod y glasoed, ac mae hyn yn helpu i mi ddeall beth yw datblygiad a thwf.

      Iechyd a chlefydau

      Gallaf egluro effaith gwahanol ddewisiadau ffordd o fyw ar systemau organau a’u heffaith ar iechyd.

      Gallaf wahaniaethu rhwng clefydau a achosir gan bathogenau a rhai a achosir gan etifeddiad genetig, er mwyn pennu triniaethau priodol.

      Gallaf ddisgrifio sut mae’r corff yn amddiffyn ei hun rhag heintiau a achosir gan bathogenau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Amrywiaeth bywyd

      Gallaf egluro’r berthynas rhwng yr amgylchedd â phroses detholiad naturiol, a gallaf gysylltu hyn a’i gymhwyso at fy nealltwriaeth o esblygiad a difodiant.

      Gallaf gymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am y gwahanol ffyrdd y mae celloedd yn ymrannu er mwyn egluro sut y gall hyn arwain at amrywiad genetig.

      Gallaf ddisgrifio datblygiad technoleg genynnol a chynnal gwerthusiad beirniadol o’i heffaith ar gymdeithas.

      Gallaf egluro pwysigrwydd cylchredau maetholion o ran parhad bywyd.

      Gallaf werthuso materion cyfoes sy’n effeithio ar fioamrywiaeth, gan gynnwys ffactorau amgylcheddol a gweithgarwch dynol.

      Prosesau biolegol

      Gallaf egluro sut mae organebau yn gweithredu drwy gyfnewid a chludo, cydlynu a rheoli, ffotosynthesis a resbiradaeth gellog.

      Gallaf egluro sut y caiff amgylchedd mewnol organebau ei reoli er mwyn cynnal bywyd.

      Gallaf egluro rôl hormonau mewn twf ac atgenhedlu rhywiol.

      Iechyd a chlefydau

      Gallaf egluro’r mecanwaith croesiadau genetig er mwyn rhagfynegi anhwylderau a gaiff eu hetifeddu.

      Gallaf egluro sut y gall pathogenau achosi clefydau a sut mae systemau’r corff, ynghyd ag ymyrraeth feddygol, yn atal ac ymladd y clefydau hyn.

      Gallaf egluro rôl fuddiol microbau yn y broses o amddiffyn rhag clefydau.

      • Cynnal ymholiadau gwyddonol a defnyddio modelau.
      • Deall natur goblygiadau datblygiadau gwyddonol.
      • Defnyddio offer a chyfarpar.
      • Natur mater a’i briodweddau.
      • Trosglwyddo egni.
      • Cyfraddau adweithiau biolegol.
      • Peirianneg eneteg a’i heffaith.

      • Gwyddoniaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd ac amaethyddiaeth.

      • Effeithiau gweithgarwch dynol ar fioamrywiaeth.

      Iechyd a Lles

      • Agweddau biolegol ar dwf ffisegol, iechyd a lles (gan gynnwys effaith clefydau, atgenhedlu, gweithgarwch corfforol a maeth).
      • Y berthynas rhwng ffisioleg ac iechyd meddwl ac emosiynol (gan gynnwys twf a strwythur yr ymennydd dynol).
      • Gwneud penderfyniadau gwybodus am ein hiechyd ac iechyd pethau byw eraill.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Mynediad i destunau ffeithiol.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Defnyddio rhif, data, dosbarthu ac ystadegau.
      • Cyflwyno canfyddiadau ymholiadau.
      • Defnyddio fformiwlâu.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Amrywiaeth bywyd

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • arsylwi ar bethau byw
      • tyfu pethau byw
      • archwilio cynefinoedd naturiol, gan gynnwys microgynefinoedd, e.e. o dan garreg, o dan bot planhigyn, craciau mewn waliau ac ardaloedd compostio.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Amrywiaeth bywyd

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cyfleu beth sy’n wahanol a thebyg mewn pethau byw, gan ddefnyddio nodweddion gweladwy i ddidoli a threfnu’n grwpiau.

      Prosesau biolegol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • sut mae pethau’n symud, yn tyfu ac yn cynnal bywyd, e.e. tyfu llysiau, arsylwi’n uniongyrchol ar newidiadau ffisegol mewn pobl ac anifeiliaid.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • enwau rhai rhannau mewnol ac allanol pethau byw
      • y gall pethau byw atgenhedlu a bod ganddynt gylchredoedd bywyd.

      Iechyd a chlefydau

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gall pethau gweladwy ac anweladwy ein niweidio, e.e. lledaenu germau, gwenwyn (gan gynnwys planhigion) a defnydd amhriodol o feddyginiaethau.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Amrywiaeth bywyd

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • archwilio cynefinoedd naturiol, gan ddefnyddio allweddi adnabod a thechnegau samplu i fesur bioamrywiaeth
      • defnyddio modelau i ddeall perthnasau bwydo, e.e. cadwyni bwyd a gweoedd bwyd
      • ymchwilio i rai o’r amodau sydd eu hangen ar bethau byw er mwyn goroesi.

      Iechyd a chlefydau

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y gall dewisiadau ffordd o fyw, gan gynnwys deiet a chamddefnyddio cyffuriau, effeithio ar y corff
      • rhwystrau naturiol y corff, e.e. dagrau, y croen a mwcws.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Amrywiaeth bywyd

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • y broses o gasglu data o gynefinoedd naturiol drwy dechnegau samplu er mwyn mesur bioamrywiaeth
      • defnyddio rhywogaethau dangosol er mwyn ymchwilio i lygredd
      • defnyddio modelau i gynrychioli cyd-ddibyniaeth.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y caiff gwybodaeth enetig ei storio mewn DNA a’i throsglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf
      • sut y caiff egni ei drosglwyddo drwy ecosystem.

      Prosesau biolegol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • arsylwi ar gelloedd
      • ymchwilio i adeiledd mewnol planhigion neu anifeiliaid
      • defnyddio modelau i gynrychioli prosesau biolegol
      • ymchwilio i brosesau biolegol, megis resbiradaeth, ffotosynthesis a threulio.

      Iechyd a chlefydau

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • mai pathogenau yw’r enw a roddir i facteria, firysau a ffyngau sy’n achosi clefydau
      • bod celloedd gwaed gwyn yn cyfrannu at ymateb imiwnedd.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Amrywiaeth bywyd

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • y broses o gasglu data o wahanol gynefinoedd drwy dechnegau samplu er mwyn cymharu bioamrywiaeth
      • defnyddio a llunio modelau er mwyn deall cyd-ddibyniaeth, cylchredau maetholion ac etifeddiad.

      Prosesau biolegol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • defnyddio modelau i esbonio prosesau biolegol
      • ymchwilio i’r ffactorau sy’n effeithio ar brosesau biolegol.

      Iechyd a chlefydau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • y broses o dyfu microbau mewn ffordd aseptig.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am ddatblygiad triniaethau newydd ar gyfer clefydau, gan gynnwys cyffuriau, brechlynnau a bôn-gelloedd.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • gwerthuso effaith ymyriadau meddygol ar iechyd pobl, e.e. rhaglenni brechu, gorddefnyddio gwrthfiotigau a defnyddio fflworid.

  • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae deall mater a’i briodweddau yn ein galluogi ni i gydnabod y rôl y mae cemeg yn ei chwarae yn y byd o’n cwmpas. Yn yr un modd, mae gallu gwahanu, adnabod a thrin sylweddau yn ein galluogi i ddeall cyfansoddiad ein byd, a’n cyrff ein hunain, yn well. Wrth i ni wedyn ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fater a’i briodweddau, gallwn ddylunio a chreu sylweddau a defnyddiau newydd sy’n cyfoethogi ein bywydau. Dyma weithgarwch sy’n arbennig o berthnasol yng Nghymru, lle bu cymhwyso diwydiannol sylweddol ar hyn ac lle mae arloesi’n parhau.

      Priodweddau defnyddiau

      Gallaf archwilio priodweddau defnyddiau a dewis defnyddiau gwahanol at ddefnydd penodol.

      Adweithiau cemegol

      Gallaf gymysgu gwahanol ddefnyddiau wrth chwarae.

    • Deilliannau cyflawniad

      Priodweddau defnyddiau

      Gallaf archwilio a disgrifio priodweddau defnyddiau a chyfiawnhau’r defnydd a wneir ohonynt.

      Adweithiau cemegol

      Gallaf arsylwi ar a disgrifio’r ffyrdd y mae defnyddiau yn newid o’u cymysgu.

      Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi

      Gallaf archwilio ffyrdd o wahanu defnyddiau pob-dydd.

    • Deilliannau cyflawniad

      Priodweddau defnyddiau

      Gallaf ddosbarthu a chymharu gwahanol ddefnyddiau yn ôl eu priodweddau ffisegol, a’u cysylltu â’r defnydd a wneir ohonynt.

      Gallaf ddefnyddio fy arsylwadau i adnabod effaith newid tymheredd ar ddefnyddiau.

      Gallaf gydnabod bod màs yn aros yr un peth pan fydd sylwedd yn newid cyflwr.

      Adweithiau cemegol

      Gallaf ddefnyddio cemegau cyffredin i ddangos adweithiau cemegol ac adnabod rhai o arwyddion adwaith cemegol.

      Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod a’m profiadau mewn perthynas â defnyddiau i ddewis y technegau priodol ar gyfer gwahanu amrywiaeth o gymysgeddau.

      Gallaf gydnabod mai’r Ddaear sy’n darparu’r defnyddiau a ddefnyddir gennym, a gallaf ddisgrifio’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r defnyddiau hyn ar eu ffurf naturiol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Strwythur defnyddiau

      Gallaf ddefnyddio’r model gronynnol i ddisgrifio ac egluro cyfansoddiad elfennau, cyfansoddion a chymysgeddau.

      Priodweddau defnyddiau

      Gallaf ddisgrifio ac egluro priodweddau elfennau, cyfansoddion a chymysgeddau, a’u cysylltu â’r defnydd a wneir ohonynt.

      Gallaf ddefnyddio’r model gronynnol i egluro gwahanol briodweddau ac ymddygiadau sylweddau mewn cyflyrau gwahanol.

      Adweithiau cemegol

      Gallaf ddisgrifio gwahanol fathau o adweithiau cemegol, egluro eu defnyddiau ac adnabod unrhyw effeithiau sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchion a gaiff eu ffurfio.

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am adweithiau cemegol i egluro beth sy’n digwydd i’r gyfradd adwaith pan gaiff rhai amodau penodol eu newid.

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am adweithiau cemegol i ddisgrifio sut y mae màs yn aros yr un peth yn ystod newid cemegol.

      Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am briodweddau defnyddiau i ddewis a defnyddio’r dechneg briodol er mwyn gwahanu cymysgeddau.

      Gallaf ddisgrifio gwahanol brofion gyda dangosyddion cemegol a’u defnyddio i adnabod sylweddau a chymharu a dosbarthu defnyddiau.

      Gallaf ddeall bod defnyddiau yn dod o adnoddau naturiol y Ddaear a gallaf egluro pam maent yn gallu dod i ben.

    • Deilliannau cyflawniad

      Strwythur defnyddiau

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am strwythur atomig ac electronig i egluro bondio a strwythur gwahanol fathau o ddefnyddiau.

      Gallaf awgrymu’r math o fondio sydd mewn sylwedd ar sail ei briodweddau.

      Priodweddau defnyddiau

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am strwythur a bondio atomig er mwyn egluro a rhagfynegi priodweddau defnyddiau ac er mwyn cyfiawnhau’r defnydd a wneir ohonynt.

      Gallaf gymharu natur a phriodweddau gwahanol fathau o ymbelydredd niwclear a chyfiawnhau defnyddio isotopau ymbelydrol at ddiben penodol.

      Adweithiau cemegol

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am strwythur a phriodweddau defnyddiau i egluro adweithedd mewn gwahanol fathau o adweithiau cemegol.

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am ddamcaniaeth gronynnol i egluro sut y gellir rheoli adweithiau er mwyn cyrraedd yr amodau optimwm ar gyfer adweithiau diwydiannol.

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am egwyddorion cadwraeth màs a hafaliadau symbol i egluro, rhagfynegi a chyfrifo’r meintiau a’r newidiadau egni sy’n gysylltiedig ag adweithiau cemegol.

      Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod a’m dealltwriaeth o fater i egluro sut y gellir defnyddio gwahanol dechnegau i echdynnu a choethi neu buro sylweddau at amrywiaeth o ddibenion.

      Gallaf ddefnyddio profion cemegol i ddadansoddi defnyddiau, a gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am adweithiau cemegol er mwyn adnabod sylweddau a’u cyfansoddiad.

      • Ystyried effaith y defnydd o ddefnyddiau ac adweithiau.

      • Defnyddio defnyddiau a chyfarpar.
      • Priodweddau defnyddiau a’r defnydd a wneir ohonynt mewn dylunio a pheirianneg.
      • Trydan ac ymbelydredd niwclear.
      • Adweithiau biolegol ffotosynthesis a resbiradaeth.
      • Newidiadau egni a gwarchod màs.
      • Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi, a’u cysylltiadau â grwpiau bwyd.

      • Daearyddiaeth ffisegol a daeareg.
      • Gwyddoniaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd (gan gynnwys egni adnewyddadwy) ac amaethyddiaeth.

      • Coginio a datblygiad bwyta’n iach.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Mynediad i destunau ffeithiol.
      • Ysgrifennu cyfarwyddiadol ac esboniadol.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Rhif, data, dosbarthu ac ystadegau.
      • Cyflwyno canfyddiadau ymholiadau.
      • Egluro ac adnabod, amcangyfrif a mesur.
      • Defnyddio fformiwlâu.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Priodweddau defnyddiau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • trin amrywiaeth o ddefnyddiau, wrth chwarae ac wrth ddysgu drwy brofiad.

      • cyfleu eu syniadau am briodweddau ffisegol defnyddiau a chyflyrau, gan gynnwys solidau, hylifau a nwyon.

      Adweithiau cemegol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • creu defnyddiau newydd drwy gymysgu defnyddiau eraill, e.e. wrth goginio neu wrth gymysgu soda pobi a finegr.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gall defnyddiau newid, ac o dan rai amodau penodol y byddant yn adweithio er mwyn ffurfio rhywbeth newydd.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Priodweddau defnyddiau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • sut mae màs sylwedd yn aros yr un peth pan fydd ei gyflwr yn newid.

      Adweithiau cemegol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • adweithiau cemegol pob-dydd, e.e. tanio matsien, rhydu a phobi
      • gwahanol ddangosyddion adweithiau cemegol, e.e. ffisian neu gynhyrchu swigod, newid lliw ac allyrru gwres.

      Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • defnyddio amrywiaeth o dechnegau gwahanu, e.e. defnyddio magnedau, hidlo ac anweddu.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • rhai enghreifftiau o ddefnyddiau a ddaw o’r Ddaear
      • bod yn rhaid prosesu’r rhan fwyaf o ddefnyddiau crai cyn y gellir eu defnyddio.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Strwythur defnyddiau

      Mae angen i ddysgwyr:

      • wybod trefniant elfennau yn y tabl cyfnodol.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • gwahaniaethu rhwng elfennau, cyfansoddion a chymysgeddau.

      Priodweddau defnyddiau

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y mae priodweddau cyfansoddion yn wahanol i’w helfennau unigol.

      Adweithiau cemegol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • gwahanol fathau o adweithiau cemegol, e.e. niwtralu, ocsidio, ac adweithiau ecsothermig ac endothermig.

      Mae agen i ddysgwyr wybod:

      • bod ffactorau gan gynnwys tymheredd, crynodiad ac arwynebedd arwyneb yn effeithio ar gyfraddau adwaith.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio hafaliadau geiriol a dehongli fformiwlâu cemegol syml.

      Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod technegau gwahanu a dadansoddi penodol yn briodol at ddibenion gwahanol, e.e. distyllu, hidlo a chromatograffaeth

      • bod yn rhaid prosesu mwyafrif y defnyddiau crai cyn y gellir eu defnyddio
      • am wahanol brofion cemegol, e.e. profion bwyd, profion fflamau a phrofion dangosydd.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Strwythur defnyddiau

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gwahanol fathau o fondio
      • y gwahanol strwythurau atomig a molecwlaidd sy’n bodoli.

      Priodweddau defnyddiau

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • priodweddau metelau ac anfetelau
      • sut mae priodweddau defnyddiau yn cael eu heffeithio gan eu strwythur, e.e. dargludedd, ymdoddbwynt, hydrinedd
      • am wahanol fathau o ymbelydredd, e.e. alpha, beta a gama.

      Adweithiau cemegol

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • tueddiadau mewn adweithedd o fewn y tabl cyfnodol.

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • gwahanol fathau o adweithiau cemegol, e.e. dadleoliad, rhydwythiad a pholymeru
      • bod cyfraddau adwaith yn cael eu heffeithio gan ffactorau eraill megis defnyddio catalydd neu newid y gwasgedd.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cyfrifo’r priodweddau ffisegol sy’n gysylltiedig ag adweithiau, e.e. masau, crynodiadau, cyfeintiau ac egni.

      Echdynnu, coethi neu buro a dadansoddi

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • dulliau echdynnu, e.e. electrolysis, rhydwythiad a distyllu ffracsiynol.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cymhwyso gwahanol brofion cemegol.

  • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gellir defnyddio grymoedd ac egni er mwyn disgrifio ymddygiad popeth, o flociau adeiladu lleiaf mater i fudiant sêr a phlanedau. Mae deall grymoedd ac egni yn ein helpu i ragfynegi a rheoli ymddygiad ein hamgylchedd. Gellir modelu’r syniadau hyn a’u mynegi’n ffurfiol, gan ddarparu fframwaith mathemategol cyson ar gyfer disgrifio systemau ffisegol. Mae hyn wedi arwain at rai o ddarganfyddiadau gwyddonol a chyflawniadau peirianyddol mwyaf cymdeithas. Fel dinasyddion cyfrifol yng Nghymru a’r byd, bydd dealltwriaeth o rymoedd ac egni yn ein helpu i ddod i ben â’r heriau yn y dyfodol ac i ddefnyddio adnoddau ein planed yn effeithlon.

      Grymoedd a mudiant

      Gallaf archwilio’r ffordd y mae gwrthrychau’n symud.

      Egni

      Gallaf archwilio egni drwy brofiadau amlsynhwyraidd.

      Tonnau

      Gallaf archwilio golau a chysgodion, a gallaf gyfleu fy syniadau.

      Magnetedd

      Gallaf archwilio effeithiau magnedau drwy brofiadau amlsynhwyraidd.

    • Deilliannau cyflawniad

      Grymoedd a mudiant

      Gallaf ymchwilio a rhagfynegi effeithiau grymoedd mewn bywyd pob-dydd.

      Egni

      Gallaf adnabod rhai mathau o egni drwy brofiad amlsynhwyraidd.

      Trydan

      Gallaf archwilio sut mae trydan yn ymddwyn mewn cylchedau syml.

      Tonnau

      Gallaf archwilio a chyfleu priodweddau sylfaenol golau a sain.

      Magnetedd

      Gallaf archwilio magnedau a’u priodweddau drwy brofiadau amlsynhwyraidd.

    • Deilliannau cyflawniad

      Grymoedd a mudiant

      Gallaf ddefnyddio modelau i ddisgrifio’r grymoedd sy’n gweithredu ar wrthrych.

      Gallaf archwilio sut y gellir dylanwadu ar fudiant gwrthrych drwy gymhwyso grymoedd ato.

      Egni

      Gallaf ddisgrifio sut mae egni yn trosglwyddo neu’n trawsffurfio o storfa egni er mwyn i ddyfeisiau pob-dydd allu gweithredu.

      Gallaf adnabod ac egluro’r modd y mae un storfa egni’n lleihau pan fo’r llall yn cynyddu.

      Trydan

      Gallaf ymchwilio i ffactorau sy’n effeithio ar gylchedau trydanol a’u hegluro.

      Tonnau

      Gallaf ymchwilio i briodweddau gwahanol fathau o donnau a’u hegluro.

      Magnetedd

      Gallaf ymchwilio i feysydd magnetig er mwyn disgrifio eu heffeithiau a’r defnydd a wneir ohonynt.

    • Deilliannau cyflawniad

      Grymoedd a mudiant

      Gallaf ddefnyddio modelau mathemategol i ddisgrifio’r grymoedd sy’n gweithredu ar wrthrych.

      Gallaf ddadansoddi effeithiau grymoedd.

      Egni

      Gallaf gymhwyso egwyddor cadwraeth egni at amrywiaeth o gyd-destunau a gwneud cyfrifiadau syml.

      Trydan

      Gallaf ymchwilio i wahanol gylchedau trydanol a disgrifio perthnasau.

      Tonnau

      Gallaf ddisgrifio amrywiaeth o donnau, gan ddefnyddio termau a gwerthoedd allweddol, a chymharu eu hymddygiad.

      Magnetedd

      Gallaf ymchwilio i ffactorau sy’n effeithio ar gryfder a ffurfiau meysydd magnetig.

    • Deilliannau cyflawniad

      Grymoedd a mudiant

      • Gallaf gymhwyso strategaethau yn annibynnol ac yn effeithiol er mwyn datrys problemau drwy fodelu systemau grymoedd.
      • Gallaf ymchwilio i weld sut a pham y mae cyrff yn symud, gan gyfeirio at ddeddfau ffisegol perthnasol.

      Egni

      • Gallaf gymhwyso egwyddor cadwraeth egni ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd.

      Trydan

      • Gallaf ymchwilio i gylchedau trydanol analog a digidol lle ceir amrywiaeth o gydrannau perthnasol, a’u dadansoddi.

      Tonnau

      • Gallaf feintioli nodweddion allweddol tonnau ac esbonio’r effaith ar eu mudiant wrth iddynt deithio drwy wahanol gyfryngau.
      • Gallaf ddisgrifio ac egluro beth sy’n debyg a gwahanol rhwng technegau cyfathrebu analog a digidol, a beth yn eu tro yw eu manteision a’u hanfanteision.

      Magnetedd

      • Gallaf ddefnyddio modelau sy’n disgrifio’r cysylltiadau rhwng grym, cerrynt a meysydd magnetig er mwyn egluro amrywiaeth o gymwysiadau electromagnetig.

      • Deall sut mae egni a grymoedd yn ymddwyn o fewn pethau byw ac mewn perthynas â phethau byw.
      • Natur mater a’i briodweddau.
      • Systemau electronig digidol a chyfrifiannu.
      • Electroneg ddigidol a chyfathrebu.

      • Tonnau a cherddoriaeth ddigidol.

      • Gwyddoniaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd (gan gynnwys egni adnewyddadwy).

      • eu hunain yn symud, a phrofi gwrthrychau’n symud, mewn amrywiaeth o amgylcheddau dan do ac yn yr awyr agored.

      Egni

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • y broses o archwilio egni wrth chwarae mewn amgylchedd amlsynhwyraidd cyfoethog dan do ac yn yr awyr agored.

      Tonnau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • arsylwi ar olau a chysgod yn eu hamgylchedd naturiol
      • cyfleoedd i chwarae â golau a chysgod.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y dylent ddiogelu eu llygaid rhag yr haul.

      Magnetedd

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • chwarae â magnedau.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Grymoedd a mudiant

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • mudiant mewn amrywiaeth o gyd-destunau, â chyfleoedd i ddisgrifio a mesur arsylwadau
      • cynrychioliadau o gysawd yr haul.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • arsylwi ar effeithiau grymoedd ar fudiant gwrthrychau.

      Egni

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • ymchwilio i’r ffyrdd y gellir storio a throsglwyddo egni, e.e.mewn sbringiau a batris.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod y rhan fwyaf o’r adnoddau egni rydym yn eu defnyddio yn dod o egni’r haul.

      Trydan

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • adeiladu cylchedau trydanol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod rhai defnyddiau (dargludyddion) yn caniatáu i drydan lifo a bod rhai defnyddiau (ynysyddion) yn atal y llif
      • sut i aros yn ddiogel wrth ddefnyddio trydan.

      Tonnau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i arsylwi ar ffenomena tonnau a’u disgrifio
      • cynrychioliadau diriaethol o donnau wrth chwarae, e.e. mewn dŵr, sbringiau a rhaffau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod angen golau er mwyn gweld gwrthrychau
      • mai dirgryniadau sy’n achosi synau.

      Magnetedd

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • arbrofi gyda meysydd magnetig.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod rhai defnyddiau yn fagnetig a bod meysydd magnetig yn effeithio arnynt.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Grymoedd a mudiant

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • mudiant mewn amrywiaeth o gyd-destunau, â chyfleoedd i fesur, disgrifio a meintioli arsylwadau
      • sut mae grymoedd a mudiant yn berthnasol i gyrff wybrennol yn y gofod.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am y berthynas rhwng grymoedd a mudiant.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • disgrifio effeithiau grymoedd ar fudiant gwrthrychau.

      Egni

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • ymchwilio i’r ffyrdd y gellir storio a throsglwyddo egni.

      • dylunio ac adeiladu cylchredau trydanol, a gwneud mesuriadau ohonynt.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gwahanol fathau o drydan a’r defnydd a wneir ohonynt
      • y cysyniad o gerrynt, foltedd a gwrthiant.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dylunio a dadansoddi cylchedau sgematig.

      Tonnau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • ystod o arbrofion sy’n darlunio ffenomena tonnau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • priodweddau tonnau a sut maent yn symud ac yn trosglwyddo egni
      • priodweddau tonnau ardraws a thonnau hydredol, a’r hyn sy’n eu gwneud yn debyg ac yn wahanol i’w gilydd.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • disgrifio tonnau.

      • adnabod meysydd magnetig a gwybod sut maent yn rhyngweithio.

      • am y berthynas rhwng grym, strwythur a mudiant.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • arsylwi ar effeithiau grymoedd ar fudiant gwrthrychau
      • dadansoddi mudiant gwrthrychau a’r grymoedd cysylltiedig.

      • yr egwyddor cadwraeth egni, a’r mathau o egni sydd mewn systemau ffisegol ac ecosystemau
      • am drosglwyddo a thrawsffurfio egni
      • bod y rhan fwyaf o’r ffynonellau egni rydym yn eu defnyddio yn dod o egni’r haul.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cymhwyso egwyddor cadwraeth egni er mwyn gwneud rhagfynegiadau ynghylch amrywiaeth o sefyllfaoedd.

      • sut y caiff trydan statig ei achosi gan drosglwyddiad electronau
      • y berthynas rhwng pŵer, foltedd, cerrynt, gwrthiant, gwefr ac egni
      • mewnbynnau ac allbynnau adwyon rhesymeg.

      • ffenomena tonnau trwy ymarferion ac arbrofion.

      • disgrifio tonnau’n feintiol.

      Magnetedd

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • arbrofi gyda meysydd magnetig.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod rhai defnyddiau yn fagnetig a bod meysydd magnetig yn effeithio arnynt
      • y gall ceryntau trydanol achosi meysydd magnetig.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • adnabod meysydd magnetig a gwybod sut maent yn rhyngweithio
      • cymhwyso gwybodaeth am fagnedau a meysydd trydanol er mwyn rhagfynegi eu hymddygiad.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Grymoedd a mudiant

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • mudiant mewn amrywiaeth o gyd-destunau, a chyfleoedd i fesur, disgrifio a meintioli arsylwadau

      • y berthynas rhwng grymoedd, strwythur a mudiant.

      • ymchwilio i ffyrdd y gellir storio a throsglwyddo egni
      • rôl egni a grymoedd mewn deddfau thermodeinameg a nwy.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • yr egwyddor cadwraeth egni a’r mathau o egni sydd mewn systemau ffisegol ac ecosystemau

      • cyfleoedd i ddylunio ac adeiladu cylchredau trydanol, a gwneud mesuriadau ohonynt.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut mae defnyddio a lleddfu effeithiau trydan statig
      • y gwahaniaethau rhwng pŵer, foltedd, cerrynt, gwrthiant, gwefr ac egni
      • sut y gellir cymhwyso adwyon rhesymeg er mwyn datrys problemau rhesymeg syml.

      • priodweddau tonnau ardraws a thonnau hydredol, a’r hyn sy’n eu gwneud yn debyg ac yn wahanol i’w gilydd
      • sut y caiff gwybodaeth ei chludo gan donnau ar ffurf ddigidol ac analog.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • disgrifio tonnau, gan gynnwys disgrifio priodweddau ton ar ffurf fathemategol.

  • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae prosesau cyfrifiannol wedi newid y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â’i gilydd a’u hamgylchedd, yn ogystal â sut mae pobl yn rhoi trefn ar eu gwaith, eu cymunedau a’u bywydau. Mae cymdeithas, yn ei thro, wedi dylanwadu ar y broses o ddatblygu cyfrifiant a hynny oherwydd y newidiadau yn anghenion pobl o ran prosesu gwybodaeth. Drwy’r prosesau cyfrifiannol hyn mae’r byd wedi cael ei gyfoethogi ac mae datblygiad technolegol wedi cyflymu ac mae’n debygol o barhau i wneud hynny. Er mwyn defnyddio a chreu’r technolegau hyn i’w llawn botensial, mae angen i ddysgwyr wybod sut maent yn gweithio. Gall datblygu dulliau gweithredu algorithmig a chyfrifiannol creadigol ddatrys problemau heriol yn y byd go iawn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol bod cyfyngiadau i’r hyn y gall cyfrifiaduron ei gyflawni. Mae deall bod canlyniadau cyfreithiol, cymdeithasol a moesegol ehangach hefyd i’r ffordd y caiff technoleg ei defnyddio yn galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am gymhwyso technolegau cyfrifiannol.

      • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r diriaethol i’r haniaethol ac o’r gweladwy i’r anweladwy.

      • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml drwy fabwysiadu ac addasu, gan symud tuag at greu cynnwys gwreiddiol.
    • Deilliannau cyflawniad

      Algorithmau

      Gallaf adnabod, creu a dilyn dilyniannau a phatrymau mewn gweithgareddau pob-dydd.

      Gallaf ddilyn cyfres syml o gyfarwyddiadau.

      Gallaf adnabod gwallau mewn cyfresi syml o gyfarwyddiadau.

      Systemau cyfrifiannol

      Gallaf arbrofi ag amrywiaeth o dechnolegau cyfrifiadura yn y byd o’m cwmpas a deall sut cânt eu defnyddio.

    • Deilliannau cyflawniad

      Algorithmau

      Gallaf ddefnyddio technegau meddylfryd cyfrifiannol gan ddefnyddio gweithgareddau di‑blwg neu all-lein, e.e. echdynnu (extract) gwybodaeth, dadelfennu ac adnabod patrymau.

      Gallaf roi cyfresi syml o gyfarwyddiadau.

      Data

      Gallaf egluro pwysigrwydd data cywir a dibynadwy er mwyn sicrhau canlyniad dymunol.

      Gallaf ddidoli a chwilio drwy ddata gan ddefnyddio maen prawf unigol a’u cyflwyno mewn amrywiaeth o wahanol fformatau mewn cyd-destunau cyfarwydd.

      Systemau cyfrifiannol

      Gallaf ddilyn cyfarwyddiadau er mwyn adeiladu, profi a rheoli dyfais ffisegol.

      Seiberddiogelwch

      Gallaf ddefnyddio manylion mewngofnodi yn ddiogel er mwyn cadw gwybodaeth yn ddiogel.

    • Deilliannau cyflawniad

      Algorithmau

      Gallaf ddadelfennu problem drwy greu tasgau penodol llai.

      Gallaf greu rhaglenni syml er mwyn cyflawni tasg benodol, gan ddefnyddio iaith raglennu briodol.

      Data

      Gallaf drin a chwestiynu data er mwyn fy helpu i wneud penderfyniadau a rhagfynegiadau gwybodus.

      Gallaf ddefnyddio meini prawf lluosog wrth gwestiynu data.

      Systemau cyfrifiannol

      Gallaf ddiffinio, datblygu, profi a dadfygio systemau sydd â meddalwedd a chaledwedd sy’n rhyngweithio â’i gilydd.

      Seiberddiogelwch

      Gallaf ddisgrifio sut mae cyfrifiaduron yn cyfathrebu, ac yn rhannu data ac adnoddau yn ddiogel.

    • Deilliannau cyflawniad

      Algorithmau

      Gallaf ddefnyddio technegau meddylfryd cyfrifiannol i addasu dyluniadau a rhaglenni, ac wedyn gwerthuso eu heffeithiolrwydd.

      Data

      Gallaf ddefnyddio ieithoedd rhaglennu priodol i drin a chwestiynu data er mwyn fy helpu i wneud penderfyniadau a rhagfynegiadau gwybodus.

      Systemau cyfrifiannol

      Gallaf gymhwyso ffyrdd o feddwl rhesymegol a beirniadol wrth addasu a phrofi systemau.

      Seiberddiogelwch

      Gallaf ddefnyddio, disgrifio a gwerthuso dulliau mwyfwy soffistigedig o sicrhau bod data a systemau yn ddiogel.

    • Deilliannau cyflawniad

      Algorithmau

      Gallaf ddefnyddio ystod o dechnegau meddylfryd cyfrifiannol i ymdrin â phroblemau penagored.

      Data

      Gallaf werthuso defnydd sefydliadau o algorithmau er mwyn trin data mewn cyd-destunau cyfreithiol a moesegol.

      Gallaf gael gafael ar wybodaeth mewn ffordd foesegol drwy ddadansoddi setiau data o amrywiol feintiau.

      Systemau cyfrifiannol

      Gallaf ddyfalbarhau wrth ddatblygu meddalwedd a systemau sy’n datrys problemau penagored.

      Seiberddiogelwch

      Gallaf adnabod seiberymosodiadau, amddiffyn yn eu herbyn a’u hatal.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      • Defnyddio dulliau gweithredu gwyddonol i gwestiynu a dadansoddi data.
      • Dylunio, peirianneg a’r gwyddorau yn darparu cyd-destunau cyfoethog i ystyried goblygiadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan gynnwys y materion moesegol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â dysgu drwy beiriant.
      • Rôl adnoddau digidol wrth ddatblygu a chyfleu datrysiadau dylunio, datrysiadau peirianneg a datrysiadau gwyddonol.
      • Sut mae systemau digidol yn llywio ac yn cynnig cyd-destun ar gyfer datblygu dull meddylfryd systemau.
    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Celfyddydau Mynegiannol

      • Defnyddio technoleg ddigidol wrth greu a dylunio.

      Dyniaethau

      • Ymholi gan ddefnyddio ffynonellau a thystiolaeth.
      • Effaith gymdeithasol technoleg ddigidol.

      Iechyd a Lles

      • Yr effeithiau a’r ymddygiadau caethiwus mewn perthynas â thechnoleg ac mewn cyd-destunar-lein.
      • Diogelwch ar-lein a’r broses o wneud penderfyniadau, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer yr unigolyn ac eraill.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Rôl adnoddau digidol mewn cyfathrebu cyfoes.
      • Mynediad i destunau ffeithiol.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Adnabod patrymau, sillafau, tueddiadau a dilyniannau.
      • Rhif, data, dosbarthu ac ystadegau.
      • Cyflwyno canfyddiadau ymholiadau.
      • Ystyried newidynnau a datblygu dulliau rhesymu.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Algorithmau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • dilyn cyfresi syml o gyfarwyddiadau
      • adnabod gwallau mewn setiau syml o gyfarwyddiadau
      • rheoli dyfeisiau rhaglenadwy wrth chwarae.

      Systemau cyfrifiannol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg wrth chwarae.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • defnyddio’r cyfarpar digidol sydd ar gael yn briodol.

      Seiberddiogelwch

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cadw gwybodaeth ddigidol yn ddiogel ac yn breifat.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Algorithmau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • rhagfynegi canlyniad cyfarwyddiadau
      • codio rhaglen syml er mwyn creu a mireinio cyfres o gyfarwyddiadau drwy weithgareddau di-blwg neu all-lein
      • dilyn cyfres fwyfwy gymhleth o gyfarwyddiadau.

      Data

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • mewnbynnu data i system gyfrifiadurol
      • gweithgareddau di-blwg neu all-lein sy’n ymchwilio i bwysigrwydd data cywir a dibynadwy.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gellir storio data mewn gwahanol fformatau, e.e. cronfeydd data, taenlenni a siartiau marciau rhifo.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • casglu a gwneud synnwyr o ddata a gasglwyd drwy ymchwiliadau ymarferol
      • dadansoddi data drwy drefnu a chwilio gan ddefnyddio un maen prawf
      • cyfleu data mewn amrywiaeth o fformatau.

      Systemau cyfrifiannol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • defnyddio amrywiaeth o dechnoleg wrth chwarae
      • rhaglennu cydrannau syml (megis moduron, synwyryddion a botymau gwthio), gan ddefnyddio dyfais ddigidol i adeiladu a pheri i rywbeth ddigwydd.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dethol a defnyddio’r cyfarpar digidol sydd ar gael yn briodol.

      Seiberddiogelwch

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • mewnbynnu manylion mewngofnodi.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod angen iddynt gadw rhai gwybodaeth yn ddiogel.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Algorithmau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • creu datrysiadau digidol gan ddefnyddio systemau ffisegol a systemau rhithwir
      • defnyddio cymwysiadau dysgu drwy beiriant.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • datrys problemau drwy gymhwyso technegau cyfrifiannol megis dadelfennu, echdynnu, meddwl algorithmig, rhaglennu ac efelychu, drwy ddefnyddio iaith bloc ac iaith sy’n seiliedig ar destun
      • rhagfynegi canlyniad dilyniannau cyfarwyddiadau
      • canfod a chywiro camgymeriadau yn eu halgorithmau eu hunain ac yn algorithmau eraill.

      Data

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • y ffordd y mae unigolion, cwmnïau masnachol ac asiantaethau’r llywodraeth yn defnyddio data o fewn algorithmau
      • y gellir storio data mewn fformatau gwahanol
      • amrywiaeth o ddulliau priodol er mwyn cadarnhau a dilysu data.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • gwneud penderfyniadau gwybodus drwy ddefnyddio dulliau gwyddonol i gwestiynu a dadansoddi data
      • casglu ac yna mewnbynnu data i mewn i system gyfrifiadurol
      • cwestiynu data drwy ddefnyddio meini prawf a threfniadau lluosog
      • cyfleu data mewn amrywiaeth o fformatau priodol
      • cymhwyso amrywiaeth o ddulliau priodol er mwyn cadarnhau a dilysu data.

      Systemau cyfrifiannol

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i arbrofi ag amrywiaeth o ddyfeisiau sydd, lle y bo’n briodol, yn defnyddio synwyryddion mewnbynnu ac allbynnau ffisegol i greu datrysiad.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod cysylltiad rhwng y byd rhithwir a’r byd ffisegol
      • y gellir defnyddio systemau cyfrifiadurol i ddatrys problemau yn y byd go iawn
      • y caiff data o’r byd go iawn eu cynrychioli y tu mewn i gyfrifiadur
      • bod synwyryddion yn adnabod data am y byd go iawn
      • bod cyfrifiaduron yn cymryd y data a fewnbynnir, yn eu storio, eu prosesu, a’u hallbynu ar ffurf gwybodaeth.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • mewnbynnu data mewn amrywiaeth o ffyrdd, eu prosesu i greu gwybodaeth a’u cyflwyno mewn fformat priodol.

      Seiberddiogelwch

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • efelychu proses gyfathrebu rhwydwaith cyfrifiadurol ac i ddisgrifio’r mannau gwan.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am ddulliau diogelwch sy’n amddiffyn yn erbyn seiberymosodiadau personol, gwleidyddol a masnachol
      • am gyfraniadau Cymru at ddatblygiad parhaus technolegau cyfrifiannol a’r defnydd a wneir ohonynt, a’u dylanwad ar faterion Cymreig.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • seilio penderfyniadau ynghylch y defnydd o gyfrifiaduron ar ystyriaethau moesegol a chyfreithiol
      • rheoli manylion mewngofnodi systemau cyfrifiadurol mewn modd cyfrifol
      • disgrifio rhannau allweddol perchenogaeth cydsyniad ac atebolrwydd data
      • disgrifio mannau gwan rhwydwaith.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Algorithmau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • creu datrysiadau digidol, gan ddefnyddio systemau ffisegol a systemau rhithwir
      • adeiladu a beirniadu

      • datblygu cymwysiadau drwy hyfforddi dyfais ddysgu drwy beiriant
      • cymhwyso dulliau dilysu soffistigedig er mwyn sicrhau cadernid ac integriti eu systemau

      • defnyddio gwahanol fathau o ddata mewn cymwysiadau meddalwedd priodol
      • dadansoddi a gwerthuso’r defnydd priodol o fathau o ddata a strwythurau mewn rhaglenni.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am y ffordd y mae unigolion, cwmnïau masnachol ac asiantaethau’r llywodraeth yn defnyddio data o fewn algorithmau
      • bod angen data dibynadwy ar systemau cyfrifiadurol a bod dulliau y gellir eu defnyddio i sicrhau integriti data
      • y gellir casglu a defnyddio data mewn ffyrdd moesegol ac anfoesegol

      • amrywiaeth o ddulliau priodol i gadarnhau a dilysu data.

      • defnyddio cod rhaglen er mwyn echdynnu (extract) data a’u cwestiynu

      • defnyddio amrywiaeth o gydrannau
      • cymhwyso cod er mwyn rheoli cydrannau
      • creu a defnyddio cynllun profi.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am y cysylltiad rhwng y byd rhithwir a’r byd ffisegol
      • sut y mae systemau cyfrifiadurol yn datrys problemau yn y byd go iawn
      • sut y caiff data o’r byd go iawn eu cynrychioli y tu mewn i gyfrifiadur
      • sut mae synwyryddion yn casglu data am y byd go iawn
      • sut mae cyfrifiaduron yn cymryd y data a fewnbynnir, yn eu storio, eu prosesu, a’u hallbynu ar ffurf gwybodaeth.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dewis a defnyddio amrywiaeth o gydrannau i greu system sy’n cyflawni briff
      • datblygu, mireinio a gwerthuso system sy’n cyflawni briff, ar y cyd ac yn annibynnol
      • egluro a chyfiawnhau eu penderfyniadau dylunio.

      Seiberddiogelwch

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • canfod a lliniaru seiberymosodiadau
      • efelychu proses gyfathrebu rhwydwaith cyfrifiadurol.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • am ddulliau diogelwch er mwyn amddiffyn yn erbyn seiberymosodiadau personol, gwleidyddol a masnachol

      • rheoli manylion cofnodi systemau cyfrifiadurol mewn modd cyfrifol

      • disgrifio mannau gwan systemau a rhwydweithiau.

      • defnyddio cymwysiadau dysgu drwy beiriant
      • cyfleoedd i drafod y materion moesegol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â dysgu drwy beiriant.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut mae dysgu drwy beiriant yn gweithio.

      • bod angen data dibynadwy ar systemau cyfrifiadurol a’r dulliau y gellir eu defnyddio i sicrhau integriti data

      • defnyddio amrywiaeth o gydrannau sy’n rhyngweithio
      • cymhwyso cod er mwyn rheoli cydrannau
      • creu a defnyddio cynllun profi
      • dylunio briff ar sail angen a nodwyd
      • adnabod gofynion cyfrifiannol a chyfyngiadau’r angen
      • gwahanol rolau o fewn tîm prosiect.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut mae’r byd rhithwir a’r byd ffisegol yn rhyngweithio
      • sut mae systemau cyfrifiadurol yn datrys problemau yn y byd go iawn
      • sut caiff data o’r byd go iawn eu cynrychioli mewn cyfrifiadur

      • sut mae cyfrifiaduron yn cymryd y data a fewnbynnir, yn eu storio, eu prosesu, a’u hallbynnu ar ffurf gwybodaeth
      • cyfyngiadau cyfrifiannol prosiectau
      • cyfyngiadau’r sgiliau o fewn timau prosiect.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • gweithio fel tîm er mwyn defnyddio dulliau cyfrifiannol i ddatrys problem yn eu cymuned.

      Seiberddiogelwch

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • canfod a lliniaru seiberymosodiadau
      • efelychu proses gyfathrebu rhwydwaith cyfrifiadurol a disgrifio’r mannau gwan.

      • seilio penderfyniadau ar ystyriaethau moesegol a chyfreithiol mewn perthynas â dulliau cyfrifiannol
      • amddiffyn yn erbyn ymosodiadau ar-lein
      • rheoli manylion systemau cyfrifiadurol mewn modd cyfrifol

      • disgrifio mannau gwan rhwydwaith
      • gwerthfawrogi ystyriaethau moesegol seiberymosodiadau.

  • Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

    • Mae chwilfrydedd am Wyddoniaeth a Thechnoleg yn ein hannog i ofyn cwestiynau am y byd o’n cwmpas. Gan ddefnyddio rhesymeg, dychymyg a chreadigrwydd, gallwn gymhwyso gwybodaeth wyddonol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o sut mae’r byd yn gweithio. Gallwn ddatblygu a phrofi modelau defnyddiol i’n helpu i wneud synnwyr o’n byd cymhleth. Gyda thystiolaeth arsylwadau gellir datblygu damcaniaethau newydd, a gellir mireinio neu herio syniadau sy’n bodoli eisoes.

      Mae angen i ni allu gwerthuso honiadau gwyddonol i’n helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar ein byd ac ar ein lles. Mae’r dewisiadau a wnawn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys ein safbwyntiau moesegol a’n credoau personol. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil trylwyr a chadarn, ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer ein penderfyniadau. Fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus mae angen i ni ystyried effaith ein gweithredoedd a datblygiadau technolegol ar Gymru a’r byd ehangach, gan ofyn ‘A yw’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylwn ni?’.

      • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

        • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r diriaethol i’r haniaethol.
        • Mae dysgwyr yn datblygu o ddisgrifio ansoddol i feintioli.
        • Mae dysgwyr yn symud o ddisgrifio syniadau i allu egluro syniadau.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy gydnabod ffactorau unigol ac yn datblygu i allu ystyried ffactorau lluosog.
        • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml cyn meithrin sgiliau mwy cymhleth.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy feddu ar safbwynt myfïol ond maent yn datblygu i allu ystyried eraill a’r byd ehangach.

      Deilliannau cyflawniad

      Ymholi

      Gallaf ddangos chwilfrydedd a chwestiynu sut mae pethau’n gweithio.

      Gallaf archwilio fy amgylchedd, gwneud arsylwadau a chyfleu fy syniadau am yr hyn sy’n digwydd.

    • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae dysgwyr yn defnyddio eu profiadau ac yn cymhwyso eu sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn dylunio a llunio datrysiadau peirianyddol arloesol. Fel rhan o broses ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym yn datblygu syniadau, yn rheoli ac yn lliniaru risg, ac yn lleihau cymhlethdodau cymaint â phosibl. Wrth greu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau, mae angen i ni ddeall a rheoli’r rhyngweithio rhwng defnyddiau, cydrannau, strwythurau a defnyddwyr. Drwy gymhwyso prosesau peirianyddol, mae dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu cywirdeb, manylder, deheurwydd a chrefftwriaeth. Drwy ddylunio a chreu canlyniadau mewn ymateb i anghenion, dymuniadau neu broblemau, mae dysgwyr yn dod yn ddatryswyr problem blaengar sydd mewn sefyllfa dda i gyfrannu at gymdeithas.

      • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

        • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r haniaethol i’r diriaethol.
        • Mae dysgwyr yn symud o ddisgrifio syniadau i allu egluro syniadau.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy gydnabod ffactorau unigol ac yn datblygu i allu ystyried ffactorau lluosog.
        • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml trwy ddynwared a thrin a thrafod, gan symud tuag at sgiliau mwy cywrain sy’n galluogi perffeithio ac egluro.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy feddu ar safbwynt myfïol ond maent yn datblygu i allu ystyried eraill a’r byd ehangach.
        • Mae dysgwyr yn symud o ddynwared i greu cynnwys gwreiddiol.

      Deilliannau cyflawniad

      Cyd-destun dylunio a meddwl arloesol

      Gallaf ddylunio wrth i mi wneud pethau wrth chwarae.

      Cyfleu syniadau dylunio

      Gallaf gyfleu’r hyn rwyf yn ei wneud.

      Prototeipio a gwneud

      Gallaf ddefnyddio offer, defnyddiau a chyfarpar syml yn ddiogel er mwyn adeiladu a dadadeiladu.

    • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, rydym yn adnabod bod pethau byw yn amrywiol, yn rhyngweithio â’u hamgylchedd ac yn esblygu dros genedlaethau. Mae angen amodau ac adnoddau penodol ar bob peth byw er mwyn goroesi, a gall fod yn rhaid iddynt gystadlu ag organebau eraill er mwyn gwneud hynny. Mae pobl hefyd yn rhan o’r byd hwn o bethau byw, a gall ein penderfyniadau a’n gweithredoedd, ynghyd â’r broses ddetholiad naturiol, gael effaith sylweddol ar amrywiaeth bywyd. Mae gwybod am strwythurau a swyddogaethau pethau byw yn ein galluogi i ddeall sut maent yn tyfu, datblygu ac atgenhedlu’n llwyddiannus. Mae datblygu dealltwriaeth o ffactorau niweidiol yn ein hamgylchedd yn caniatáu i ni wneud penderfyniadau gwybodus, gan gynnwys chwilio am ffyrdd o atal a thrin clefydau.

      • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

        • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r diriaethol i’r haniaethol.
        • Mae dysgwyr yn datblygu o ddisgrifio ansoddol i feintioli.
        • Mae dysgwyr yn symud o ddisgrifio syniadau i allu egluro syniadau.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy gydnabod ffactorau unigol ac yn datblygu i allu ystyried ffactorau lluosog.
        • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml cyn meithrin sgiliau mwy cymhleth.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy feddu ar safbwynt myfïol ond maent yn datblygu i allu ystyried eraill a’r byd ehangach.

      Deilliannau cyflawniad

      Amrywiaeth bywyd

      Gallaf adnabod bod planhigion ac anifeiliaid yn bethau byw.

      Gallaf gydnabod bod pethau byw yn tyfu.

      Gallaf adnabod pethau byw o fewn eu cynefinoedd naturiol.

      Iechyd a chlefydau

      Gallaf arsylwi, gydag oedolyn, ar bethau yn yr amgylchedd a all achosi niwed.

    • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae deall mater a’i briodweddau yn ein galluogi ni i gydnabod y rôl y mae cemeg yn ei chwarae yn y byd o’n cwmpas. Yn yr un modd, mae gallu gwahanu, adnabod a thrin sylweddau yn ein galluogi i ddeall cyfansoddiad ein byd, a’n cyrff ein hunain, yn well. Wrth i ni wedyn ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fater a’i briodweddau, gallwn ddylunio a chreu sylweddau a defnyddiau newydd sy’n cyfoethogi ein bywydau. Dyma weithgarwch sy’n arbennig o berthnasol yng Nghymru, lle bu cymhwyso diwydiannol sylweddol ar hyn ac lle mae arloesi’n parhau.

      • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

        • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r diriaethol i’r haniaethol.
        • Mae dysgwyr yn datblygu o ddisgrifio ansoddol i feintioli.
        • Mae dysgwyr yn symud o ddisgrifio syniadau i allu egluro syniadau.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy gydnabod ffactorau unigol ac yn datblygu i allu ystyried ffactorau lluosog.
        • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml cyn meithrin sgiliau mwy cymhleth.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy feddu ar safbwynt myfïol ond maent yn datblygu i allu ystyried eraill a’r byd ehangach.

      Deilliannau cyflawniad

      Priodweddau defnyddiau

      Gallaf archwilio priodweddau defnyddiau a dewis defnyddiau gwahanol at ddefnydd penodol.

      Adweithiau cemegol

      Gallaf gymysgu gwahanol ddefnyddiau wrth chwarae.

    • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gellir defnyddio grymoedd ac egni er mwyn disgrifio ymddygiad popeth, o flociau adeiladu lleiaf mater i fudiant sêr a phlanedau. Mae deall grymoedd ac egni yn ein helpu i ragfynegi a rheoli ymddygiad ein hamgylchedd. Gellir modelu’r syniadau hyn a’u mynegi’n ffurfiol, gan ddarparu fframwaith mathemategol cyson ar gyfer disgrifio systemau ffisegol. Mae hyn wedi arwain at rai o ddarganfyddiadau gwyddonol a chyflawniadau peirianyddol mwyaf cymdeithas. Fel dinasyddion cyfrifol yng Nghymru a’r byd, bydd dealltwriaeth o rymoedd ac egni yn ein helpu i ddod i ben â’r heriau yn y dyfodol ac i ddefnyddio adnoddau ein planed yn effeithlon.

      • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

        • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r diriaethol i’r haniaethol.
        • Mae dysgwyr yn datblygu o ddisgrifio ansoddol i feintioli.
        • Mae dysgwyr yn symud o ddisgrifio syniadau i allu egluro syniadau.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy gydnabod ffactorau unigol ac yn datblygu i allu ystyried ffactorau lluosog.
        • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml cyn meithrin sgiliau mwy cymhleth.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy feddu ar safbwynt myfïol ond maent yn datblygu i allu ystyried eraill a’r byd ehangach.

      Deilliannau cyflawniad

      Grymoedd a mudiant

      Gallaf archwilio’r ffordd y mae gwrthrychau’n symud.

      Egni

      Gallaf archwilio egni drwy brofiadau amlsynhwyraidd.

      Tonnau

      Gallaf archwilio golau a chysgodion, a gallaf gyfleu fy syniadau.

      Magnetedd

      Gallaf archwilio effeithiau magnedau drwy brofiadau amlsynhwyraidd.

    • Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae prosesau cyfrifiannol wedi newid y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â’i gilydd a’u hamgylchedd, yn ogystal â sut mae pobl yn rhoi trefn ar eu gwaith, eu cymunedau a’u bywydau. Mae cymdeithas, yn ei thro, wedi dylanwadu ar y broses o ddatblygu cyfrifiant a hynny oherwydd y newidiadau yn anghenion pobl o ran prosesu gwybodaeth. Drwy’r prosesau cyfrifiannol hyn mae’r byd wedi cael ei gyfoethogi ac mae datblygiad technolegol wedi cyflymu ac mae’n debygol o barhau i wneud hynny. Er mwyn defnyddio a chreu’r technolegau hyn i’w llawn botensial, mae angen i ddysgwyr wybod sut maent yn gweithio. Gall datblygu dulliau gweithredu algorithmig a chyfrifiannol creadigol ddatrys problemau heriol yn y byd go iawn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol bod cyfyngiadau i’r hyn y gall cyfrifiaduron ei gyflawni. Mae deall bod canlyniadau cyfreithiol, cymdeithasol a moesegol ehangach hefyd i’r ffordd y caiff technoleg ei defnyddio yn galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am gymhwyso technolegau cyfrifiannol.

      • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

        • Mae meddwl dysgwyr yn datblygu o’r diriaethol i’r haniaethol ac o’r gweladwy i’r anweladwy.
        • Mae dysgwyr yn datblygu o ddisgrifio ansoddol i feintioli.
        • Mae dysgwyr yn symud o ddisgrifio syniadau i allu egluro syniadau.
        • Mae dysgwyr yn dechrau drwy gydnabod ffactorau unigol ac yn datblygu i allu ystyried ffactorau lluosog.
        • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau syml drwy fabwysiadu ac addasu, gan symud tuag at greu cynnwys gwreiddiol.

      Deilliannau cyflawniad

      Algorithmau

      Gallaf adnabod, creu a dilyn dilyniannau a phatrymau mewn gweithgareddau pob-dydd.

      Gallaf ddilyn cyfres syml o gyfarwyddiadau.

      Gallaf adnabod gwallau mewn cyfresi syml o gyfarwyddiadau.

      Systemau cyfrifiannol

      Gallaf arbrofi ag amrywiaeth o dechnolegau cyfrifiadura yn y byd o’m cwmpas a deall sut cânt eu defnyddio.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae chwilfrydedd am Wyddoniaeth a Thechnoleg yn ein hannog i ofyn cwestiynau am y byd o’n cwmpas. Gan ddefnyddio rhesymeg, dychymyg a chreadigrwydd, gallwn gymhwyso gwybodaeth wyddonol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o sut mae’r byd yn gweithio. Gallwn ddatblygu a phrofi modelau defnyddiol i’n helpu i wneud synnwyr o’n byd cymhleth. Gyda thystiolaeth arsylwadau gellir datblygu damcaniaethau newydd, a gellir mireinio neu herio syniadau sy’n bodoli eisoes.

      Mae angen i ni allu gwerthuso honiadau gwyddonol i’n helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar ein byd ac ar ein lles. Mae’r dewisiadau a wnawn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys ein safbwyntiau moesegol a’n credoau personol. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil trylwyr a chadarn, ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer ein penderfyniadau. Fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus mae angen i ni ystyried effaith ein gweithredoedd a datblygiadau technolegol ar Gymru a’r byd ehangach, gan ofyn ‘A yw’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylwn ni?’.

      • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

        • Archwilio pethau byw, gan gynnwys cynefinoedd naturiol, wrth gynnal gweithdrefnau ymholi.
        • Ymholiadau mewn perthynas â phriodweddau ffisegol defnyddiau a natur gronynnol mater.
        • Ymchwilio i strwythur a deinamig y bydysawd.
        • Cefnogi problemau peirianneg a gwella’r broses ddylunio.
        • Deall rôl Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a herio rhagdybiaethau, yn gysylltiedig â chyfleoedd cyd‑destunol i fynegi barn a thrafod honiadau sy’n seiliedig ar ddilysrwydd gwybodaeth.
        • Ymwneud â dysgu ar oblygiadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn gysylltiedig â dylunio, peirianneg, cyfrifiant a’r gwyddorau er mwyn cynnig cyfleoedd a chyd-destunau cyfoethog.
      • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

        Dyniaethau

        • Datblygu sgiliau ymholi.

        Iechyd a Lles

        • Gwneud penderfyniadau a goblygiadau penderfyniadau.
        • Lles personol a phenderfyniadau ar ddiogelwch.

        Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

        • Cyfleu canfyddiadau a safbwyntiau, cyflwyno dadleuon.
        • Mynediad i destunau ffeithiol, gan gynnwys deunydd cyfarwyddo ac ysgrifennu esboniadol.

        Mathemateg a Rhifedd

        • Rhif, data ac ystadegau.
        • Cyflwyno canfyddiadau ymholiadau.

      Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

  • Cyhoeddwyd gyntaf 30 Ebrill 2019
  • Diweddarwyd diwethaf 30 Ebrill 2019