English

Hwb

Maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dysgu am Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd angen ichi ddarllen y trosolwg hwn ar y cyd â Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022

Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn dwyn ynghyd feysydd bioleg, cemeg, cyfrifiadureg, dylunio a thechnoleg, a ffiseg, a hynny er mwyn cyfoethogi ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r byd.

Bu datblygiadau mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn sbardun i newidiadau mewn cymdeithas erioed, gan arwain at arloesi sydd wedi dylanwadu ar fywydau pawb, yn faterol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Yn hyn o beth, bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn gyson berthnasol yn y cyfleoedd a ddaw i ran pobl ifanc ac yn y dewisiadau bywyd a wnânt.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd llythrennedd gwyddonol a thechnolegol yn ein byd modern. Nid yw’n ddigon i ddysgwyr allu ‘gwneud’ Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae mynediad parod i symiau sylweddol o wybodaeth yn golygu bod angen i bob dysgwr allu asesu mewnbynnau mewn ffordd feirniadol, deall sail yr wybodaeth a gyflwynir fel ffaith, ac i ddod at farn wybodus sy’n effeithio ar eu hymddygiad a’u gwerthoedd. Mae angen iddynt feithrin y gallu i ofyn y cwestiwn ‘A yw’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylwn ni?’.

Cwricwlwm gweddnewidiol

Mae’r Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol1 yn nodi’r cynigion deddfwriaethol manwl ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022.

Y cynnig yw y bydd gofyn i leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n bodloni pedwar diben y cwricwlwm ac sy’n cynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd dysgu Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, i gyd yn ddyletswyddau statudol. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y gall Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg gefnogi hyn yn adran ‘Datblygu cwricwlwm eang a chytbwys’ o’r ddogfen hon.

Bydd hawl gan leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion i ddewis sut i gynllunio’u cwricwlwm ar lefel ysgol er mwyn cyflawni eu dyletswyddau cwricwlaidd. Fodd bynnag, wrth arfer yr hawl honno, bydd rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau statudol a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, golyga hyn y dylent ddilyn y canllawiau statudol oni bai bod ganddynt reswm da i beidio.

Nod y canllawiau statudol hyn ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy’n rhan o’r canllawiau statudol ehangach ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, yw rhoi fframwaith cenedlaethol y gall lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ei ddefnyddio i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Ni fwriedir iddynt fod yn faes llafur hollgynhwysfawr, nac yn ganllaw ar gyfer trefnu amserlenni. Maent yn nodi:

  • yr hyn y dylai lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion roi ystyriaeth iddo wrth lunio’u cwricwlwm, a sut y gellir ei strwythuro
  • y disgwyliadau eang ar gyfer dysgwyr ar bob cam cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn defnyddio dulliau rhagfynegi, profi a chwestiynu i ddatblygu damcaniaethau a newidiadau arloesol sy’n gwella ein dealltwriaeth o’n byd ffisegol a’n byd digidol, ac yn anelu at wella ein bywydau.

Mae dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes yn deall, os nad yw arsylwadau, prototeipiau neu ganlyniadau arbrofol y gellir eu hailadrodd yn cefnogi syniad, y dylai’r syniad gael ei wrthod neu ei addasu a’i roi ar brawf unwaith eto. Mae dysgwyr sy’n gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith yn croesawu heriau o’r fath, oherwydd cânt eu hannog i gymryd risg, i arloesi a gwerthuso, a dysgu sut i daro ar atebion. Felly, gallant ddod yn ddysgwyr mwy gwydn a phwrpasol ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad.

Drwy werthuso tystiolaeth wyddonol a thechnolegol mewn ffordd gadarn a chyson, caiff dysgwyr eu cefnogi yn y broses o ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd, a fydd yn abl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gweithredoedd yn y dyfodol. Caiff unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas eu llywio gan wybodaeth am eu corff a’r ecosystemau o’u hamgylch, ac am sut y gall datblygiadau technolegol arloesol gefnogi gwelliannau mewn perthynas ag iechyd a ffordd o fyw. Yn wir, y gobaith yw y bydd yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddofn a ddaw yn sgil profi’r Hyn sy’n Bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn eu helpu i fyw bywydau annibynnol a llawn, ac i gyfrannu at gymdeithas mewn amryw ffyrdd.

Y mae’r chwe datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn nodi agweddau allweddol ar gyfer dysgu mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Fe’u cynlluniwyd i’w gweithredu ar y cyd, ac i helpu lleoliadau ac ysgolion i ddatblygu cwricwlwm mwy manwl a holistaidd ar gyfer dysgu ac addysgu.

Nid yw’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cyfateb yn union i’r meysydd pwnc traddodiadol. Fodd bynnag, gellir nodi agweddau ar y pynciau Gwyddoniaeth a Thechnoleg traddodiadol drwy gydol y maes dysgu a phrofiad hwn. Beth ddaw i’r amlwg hefyd yw’r cysylltiadau rhwng yr hyn sy’n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Er enghraifft, mae darganfod gwybodaeth newydd, yn ogystal â dilysu gwybodaeth flaenorol gan ddefnyddio dulliau rhesymu gwyddonol a thechnolegol, yn cysylltu’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig drwy gydol y maes dysgu a phrofiad. Yn yr un modd, mae egni yn gysyniad creiddiol ar draws yr holl ddisgyblaethau.

Mae’r datganiad cyntaf o’r hyn sy’n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cwmpasu defnydd o dystiolaeth, a gesglir mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn cwestiynu syniadau, llunio barnau a dyfnhau dealltwriaeth wyddonol a thechnolegol, gan amlygu hefyd ddylanwad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig sy’n ymwneud â dylunio a pheirianneg yn pledio achos y profiadau, y sgiliau a’r wybodaeth dechnegol a chreadigol sydd eu hangen i ddylunio a llywio datrysiadau peirianyddol. Pethau byw a’r broses o astudio organebau a sut y maent yn cystadlu er mwyn goroesi yw’r hyn sy’n ganolog i’r trydydd datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Mae’r pedwerydd wedyn yn annog dysgwyr i ddarganfod mwy am natur mater a chyfansoddiad pethau, a sut maent yn ymddwyn ac yn rhyngweithio. Mae’r berthynas rhwng grymoedd ac egni a sut mae’n effeithio arnom yn dod i’r amlwg yn y pumed datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Mae’r datganiad olaf yn cyflwyno agwedd newydd i’r cwricwlwm, un sy’n mynd i’r afael â sut y gellir cymhwyso cyfrifiant er mwyn datrys problemau ym mhob rhan o Wyddoniaeth a Thechnoleg.

Caiff cynnydd dysgwr mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg ei ddatblygu drwy gael profiadau a datblygu gwybodaeth mewn perthynas ag amrywiaeth o syniadau, cysyniadau ac egwyddorion cysylltiedig, gan ymgorffori sgiliau ymarferol ac ehangach i ddiffinio problemau, archwilio syniadau, llunio atebion a chyfiawnhau dewisiadau. Mae’r ‘Egwyddorion cynnydd’ a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu deilliannau cyflawniad yn y maes dysgu a phrofiad hwn i’w gweld yn yr adran ‘Dysgu’ ym mhob un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig.

Gan ddechrau ag ymdeimlad mwy uniongyrchol o’r byd, mae dysgwyr yn meithrin y gallu i ystyried eraill a’r byd ehangach. Mae dysgwyr yn symud ymlaen o ddisgrifio syniadau i allu eu hegluro, ac mae eu gwaith dadansoddi a disgrifio yn datblygu o’r ansoddol i’r meintiol. Wrth wneud cynnydd, mae dysgwyr yn dechrau drwy adnabod ffactorau unigol cyn meithrin y gallu i ystyried ffactorau lluosog. Mae eu sgiliau syml a feithrinir drwy ddynwared a thrin a thrafod yn aeddfedu’n sgiliau mwy cymhleth sy’n eu galluogi i berffeithio ac egluro.

Er bod cynnydd yn y maes dysgu a phrofiad hwn yn debyg ar draws y disgyblaethau, mae yna wahaniaethau allweddol rhwng y ffordd y gallai dysgwr wneud cynnydd yn y gwyddorau o gymharu â dylunio. Gellir cynrychioli cynnydd ar gyfer y rhan fwyaf o’r maes dysgu a phrofiad drwy naill ai ddeilliant ffisegol neu ddeallusol. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn wir yn achos dylunio a pheirianneg, gan y bydd y deilliant fel arfer yn un ffisegol. Yn achos gwyddoniaeth a chyfrifiant, mae’r meddylfryd fel arfer yn symud o syniadau diriaethol i ddealltwriaeth haniaethol, ond yn achos dylunio a pheirianneg, mae dysgwyr yn gallu symud o syniadau mwy haniaethol i allbynnau diriaethol.

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

Mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cefnogi bron yr holl ddysgu ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cymryd rhan yn llwyddiannus ac yn hyderus yn y byd modern.

Llythrennedd

Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr feithrin eu sgiliau llythrennedd. Mae angen pob cyfle ar ddysgwyr i egluro eu meddylfryd, archwilio a thrafod syniadau, a defnyddio eu sgiliau llythrennedd yn briodol er mwyn cyfleu eu syniadau. Byddant yn disgrifio ac yn cyfiawnhau eu dealltwriaeth gan ddangos dyfnder cynyddol.

Bydd llafaredd, boed hynny ar ffurf dadleuon neu drafodaethau grŵp, yn ategu sgiliau ysgrifennu dysgwyr ac yn rhoi llais iddynt wrth ysgrifennu, yn enwedig pan fyddant yn cael eu herio gan gysyniadau anodd. Mae angen iddynt gael cyfleoedd i ‘feddwl yn uchel’, gan wrando, trafod ac archwilio syniadau gyda’i gilydd.

Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gyfoethog o ran geiriau arbenigol, y mae i lawer ohonynt ddiffiniadau pob-dydd yn ogystal â rhai technegol. Mae gwella sillafu a geirfa dechnegol dysgwyr, yn ogystal â’u dealltwriaeth o darddiad termau, yn gwella eu dealltwriaeth o Wyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd defnyddio geirfa arbenigol hefyd yn meithrin sgiliau ysgrifennu, yn ogystal ag amrywiaeth o dechnegau darllen, megis darllen yn agos, cip ddarllen (sgimio) a llithr ddarllen (sganio), a hynny drwy astudio amrywiaeth o destunau arbenigol a fydd yn dyfnhau dealltwriaeth ac yn ysgogi trafodaethau gweithredol.

Rhifedd

Gall dysgwyr atgyfnerthu eu sgiliau rhifedd a chymhwyso gwybodaeth fathemategol o fewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn ystod eang o dasgau ymchwilio cydweithredol. Yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt gallant ddysgu sut i ddylunio, creu, mesur, dehongli data, gwneud didyniadau a dod i gasgliadau ar sail tystiolaeth.

Gall dysgwyr weithio mewn modd ansoddol, gan gasglu data drwy wneud arsylwadau a chymryd mesuriadau. Gan weithio’n annibynnol ac ar y cyd, byddant yn dylunio ac yn creu prototeipiau a chynhyrchion peirianneg â chywirdeb a manylder.

Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddatblygu a mireinio eu rhifedd wrth iddynt brosesu data gan ddefnyddio sgiliau cyfrifo, tablu a graffio i ymchwilio a datblygu eu syniadau. Bydd meithrin y sgiliau hyn yn galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau am gywirdeb data ag aeddfedrwydd cynyddol. Bydd dysgwyr yn datblygu ymhellach drwy newid gwybodaeth o destun i ddata, ac i’r gwrthwyneb, e.e. drwy ddehongli data a gyflwynir mewn tablau a graffiau er mwyn adnabod patrymau a disgrifio tueddiadau.

Cymhwysedd digidol

Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhoi llu o gyfleoedd i ddysgwyr feithrin a chymhwyso sgiliau digidol yn briodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod nad y maes dysgu a phrofiad hwn yw’r unig un sy’n canolbwyntio ar gymhwysedd digidol nac yn cynnig cyfle i feithrin y sgiliau hyn.

Dylai dysgwyr werthuso’r wyddoniaeth a’r dechnoleg y maent yn eu defnyddio mewn modd beirniadol, a hynny fel eu bod yn barod ar gyfer yr agweddau cadarnhaol a negyddol sy’n gysylltiedig â bod yn ddinesydd digidol. Er enghraifft, wrth iddynt ddod o hyd i wybodaeth a deall sut i storio data yn briodol ar systemau gwahanol, byddant yn dod yn fwy ymwybodol o oblygiadau’r gyfraith o ran data. Dylent hefyd archwilio dulliau electronig o gyfathrebu a phenderfynu pa rai sydd fwyaf effeithiol ar gyfer sefyllfaoedd penodol.

Wrth i ddysgwyr weithio, yn annibynnol ac ar y cyd, dylent gael cyfleoedd i gymryd rhan yn y broses iterus o gynllunio, creu, gwerthuso a gwella cynnwys digidol. Gellir meithrin sgiliau ymchwilio, datrys problemau a meddwl, gan alluogi dysgwyr i ddeall problemau â chymhlethdod cynyddol ac, yn bwysig, pryd i ddefnyddio technoleg yn briodol i’w datrys.

Bydd dysgwyr yn cyfuno elfennau amlgyfrwng mewn ffyrdd cynyddol gymhleth, gan olygu bod angen iddynt roi mwy o ystyriaeth i’r gynulleidfa a diben y cynnwys digidol. Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i feithrin eu dealltwriaeth o bwysigrwydd llythrennedd gwybodaeth a data drwy archwilio agweddau ar y prosesau casglu, cynrychioli a dadansoddi sy’n gysylltiedig â thrin a modelu data.

Y dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol

Dylai dysgwyr ystyried y modd y mae daearyddiaeth, adnoddau a gweithlu Cymru wedi llywio diwydiant technolegol a gweithgarwch gwyddonol y wlad, ynghyd â’r modd y gallent ddylanwadu ar ein cymdeithas, ein diwylliant a’n heconomi yn y dyfodol.

Mae dysgu am hanes pobl sydd â chysylltiadau â Chymru sydd wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r byd a datblygiadau technolegol allweddol yn werthfawr. Bydd dathlu unigolion o Gymru sy’n gweithio’n llwyddiannus ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg yn ysbrydoli dysgwyr mewn modd hygyrch a pherthnasol. Mae cyfraniad pobl o amrywiol genhedloedd sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru yr un mor werthfawr.

Dylid defnyddio’r cyd-destunau a ddarperir gan ddiwydiant Cymru i ennyn diddordeb dysgwyr ar draws y maes dysgu a phrofiad. Mae cyfleusterau diwydiannol Cymru, boed yn rhai traddodiadol neu gyfoes, yn cynnwys cyfoeth o agweddau gwyddonol a thechnolegol rhyngddibynnol y gellir eu defnyddio i atgyfnerthu’r dysgu mewn cyd-destun Cymreig. Mae Cymru yn elwa ar brosiectau gwyddoniaeth a thechnoleg rhyngwladol, ac yn cyfrannu atynt, gan ddarparu’r arbenigedd a’r sgiliau sy’n ofynnol i helpu i wneud y cydweithrediadau hyn yn llwyddiant.

Mae ein heffaith amgylcheddol yn mynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol a gwleidyddol. Lle y bo’n briodol, dylid canolbwyntio ar effeithiau gweithgareddau diwydiannol ar ecoleg Cymru, ynghyd ag effaith gweithgareddau Cymru ar ecosystemau mewn gwledydd eraill.

Sgiliau ehangach

Drwy Wyddoniaeth a Thechnoleg gall pob dysgwr feithrin a chymhwyso’r holl sgiliau ehangach er mwyn dod yn ddysgwyr mwy medrus, gwydn ac annibynnol. O ganlyniad, byddant yn gallu delio’n fwy effeithiol â’r cyfleoedd a’r heriau y maent yn eu hwynebu fel unigolion ac aelodau o gymdeithas, nawr ac yn y dyfodol.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Mae meddwl yn feirniadol a datrys problemau wrth wraidd Gwyddoniaeth a Thechnoleg wrth ddadansoddi problemau i ddatblygu modelau, atebion a datblygiadau arloesol. Mae’n helpu dysgwyr i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau a’r cymwyseddau sy’n ofynnol er mwyn gwneud cynnydd. Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn darparu cyd-destunau cyfoethog i ddysgwyr lunio barn, gwneud penderfyniadau a dod i gasgliadau mewn ffordd resymol, a datblygu eu syniadau, gan gynnwys ym maes cyfrifiant. Bydd dysgwyr yn gallu meithrin eu sgiliau datrys problemau a’u gwydnwch personol drwy ddysgu o fethiannau ac o adborth gan eraill. Byddant yn meithrin eu sgiliau hunanwerthuso drwy brosesau meddwl yn feirniadol.

Cynllunio a threfnu

Mae cynllunio a threfnu yn rhan allweddol o brosesau gwyddonol a thechnolegol. Bydd dysgwyr yn gallu trefnu a chynllunio eu prosiectau a’u syniadau eu hunain, gan osod eu nodau eu hunain yn unol â gofynion penodol. Byddant yn gallu gwerthuso eu cynnydd a’u canlyniadau’n feirniadol er mwyn gwella eu syniadau a’u deilliannau ymhellach.

Creadigrwydd ac arloesi

Mae chwilfrydedd a holgarwch yn meithrin creadigrwydd ac arloesi; dylai dysgwyr archwilio a datblygu syniadau, a’u rhoi ar waith. Ystyrir bod meddwl yn greadigol yn galluogi dysgwyr i gymhwyso eu dychymyg er mwyn creu syniadau, dyluniadau, cwestiynau a damcaniaethau, arbrofi â dewisiadau amgen, a gwerthuso eu syniadau, eu prosesau a’u cynhyrchion terfynol eu hunain, yn ogystal â rhai eu cyfoedion. Mae’r rhain yn hanfodol er mwyn datrys problemau a chreu dyluniadau effeithiol.

Effeithiolrwydd personol

Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn galluogi dysgwyr i fyfyrio ar eu dealltwriaeth eu hunain o’r byd o’u cwmpas. Drwy hyn gallant lunio gwerthoedd clir a chadarn, sy’n llywio nodau bywyd cyraeddadwy, er mwyn iddynt ddatblygu’n ddinasyddion effeithiol. Gall myfyrio ar brosesau gwyddonol a thechnolegol ddatblygu effeithiolrwydd personol, yn ogystal â’r gallu i werthuso cryfderau a meysydd i’w datblygu, canfod atebion gwell i broblemau, a chreu datblygiadau arloesol newydd.

Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dysgu o wybodaeth am yrfaoedd a’r farchnad lafur

Mae hwn yn faes allweddol ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a hynny am ei bod yn hollbwysig bod dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o’r byd go iawn a chyd-destunau ar gyfer cyflogaeth bosibl, yn ogystal â sgiliau bywyd. Mae’r angen am wybodaeth a sgiliau gwyddonol a thechnolegol yn parhau’n gryf ymhlith cyflogwyr.

Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn allweddol i lwyddiant Cymru. Mae sefydliadau gwybodaeth‑ddwys a phobl fedrus iawn yn gwneud cyfraniad mawr at ddatblygiadau arloesol, twf economaidd ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus. Er bod galwedigaethau cysylltiedig fel arfer yn talu’n dda ac yn rhoi boddhad, mae yna brinder sgiliau parhaus sylweddol mewn llawer ohonynt, ynghyd â phrinder ymgeiswyr addas i lenwi swyddi gwag.

Cysylltu’r maes dysgu a phrofiad â gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dylid annog dysgwyr i ymgymryd â gwaith ymchwil ac i ystyried y cysylltiadau rhwng Gwyddoniaeth a Thechnoleg a’u llwybrau gyrfa cysylltiedig. Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddilyn gyrfa sy’n gysylltiedig â’r disgyblaethau hyn. Yn bwysicach, mae’r sgiliau trosglwyddadwy sydd wrth wraidd dealltwriaeth wyddonol a thechnolegol yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer proffesiynau a swyddi nad ydynt yn bodoli eto.

Mae’r sgiliau a feithrinir drwy Wyddoniaeth a Thechnoleg yn drosglwyddadwy ac yn werthfawr iawn, ac mae galw mawr amdanynt yn y farchnad gyflogaeth ehangach. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau, dehongli data a gwybodaeth, y gallu i resymu a’r gallu i feddwl yn rhesymegol. Er nad oes yr un swydd ‘nodweddiadol’ ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, mae’r stereoteipiau traddodiadol yn parhau, ac mae angen eu herio. Nid yw merched, pobl ag anableddau na’r rhai sy’n perthyn i grwpiau lleiafrifol neu sy’n wynebu anfantais gymdeithasol yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, a hynny’n gyson. Drwy gyflwyno addysg sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd mewn ysgolion cynradd gellir mynd i’r afael â’r mathau hyn o stereoteipiau o oedran cynnar – oedran pan fyddant yn aml yn cael eu ffurfio. Yn ogystal â bod yn ddymunol o ran cydraddoldeb, mae creu gweithlu mwy amrywiol sy’n meddu ar ddealltwriaeth wyddonol a thechnolegol gyflawn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynifer o gyfleoedd â phosibl i bob dysgwr, yn ogystal â diwallu anghenion economaidd Cymru.

Mae cynnydd dysgwyr o ran gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhan o gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Gallai llwyddiant i ddysgwr ifanc ysgol gynradd gynnwys:

  • chwarae rôl ar gyfer amrywiaeth o wahanol swyddi
  • y gred y gallant gyflawni unrhyw swydd – gan fynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd
  • cyfathrebu â’r bobl yn eu cymuned am y gwahanol swyddi y maent yn eu gwneud a’r boddhad a all ddeillio ohonynt.

Drwy wneud cynnydd dysgu, gallai llwyddiant i ddysgwyr 16 oed gynnwys:

  • dangos a chymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd mewn perthynas â’r byd gwaith
  • canfod diddordebau, cryfderau a sgiliau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ôl-16
  • deall ac arddangos y mathau o ymddygiad mae cyflogwr yn dymuno eu gweld mewn cyflogai da
  • gwerthuso risg wrth ddatblygu syniad busnes ac ystyried gwahanol ffyrdd o sefydlu a chynnal menter.

Profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae dysgwyr yn meithrin diddordebau, cryfderau, gwybodaeth, sgiliau a dyheadau drwy eu profiadau addysgol yn yr ysgol a thu hwnt. Mae amrywiaeth o bartneriaid ynghlwm â’r teithiau cyffrous hyn drwy gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno, a, gyda’i gilydd, maent yn llywio penderfyniadau dysgwyr am eu dyfodol a’r llwybrau y byddant yn eu dilyn. Gall cyfleoedd megis ymweliadau, siaradwyr gwadd a gweithgareddau ymarferol, helpu i wella’r dysgu a’i roi mewn cyd-destun.

Mae cydweithredu a’r gallu i gysylltu ag unigolion a chyflogwyr yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am waith, cyflogaeth a’r sgiliau a werthfawrogir yn y gweithle. Gall dysgwyr ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a feithrinir drwy gymryd rhan mewn profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith i ddatblygu gweithgareddau menter llwyddiannus. Gall y rhain gynnig profiad dysgu dilys sy’n eu helpu i ddatblygu’n gyfranwyr creadigol, blaengar, gan greu cysylltiadau â’r byd gwaith.

Mae arweiniad gyrfaoedd effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau’r llwybr mwyaf priodol ar gyfer dyheadau dysgwyr, gan roi gwybod iddynt am yr amrywiaeth eang o bwyntiau mynediad a llwybrau i ddysgu pellach ac i fyd gwaith. Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i feithrin sgiliau entrepreneuraidd ac i ddysgu am fanteision sefydlu menter.

Deall cyfleoedd ôl-16 ac addysg uwch

Mae’n hanfodol bod dysgwyr yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ôl-16. Felly, yn ogystal â deall am gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau, dylid rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am ddarparwyr dysgu a chynnig y cyfle iddynt ymgysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr o’r fath. Dylai’r cyfleoedd ymgysylltu gynnwys mynychu ffeiriau gyrfaoedd a sgiliau, sgyrsiau gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch ac ymweliadau gan y darparwyr hynny, yn ogystal â chyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch. Dylid hefyd gyfeirio dysgwyr at adnoddau ymchwil ar‑lein sy’n cynnig gwybodaeth am gyrsiau a chynnydd, er mwyn eu helpu i ddeall yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac i helpu i godi eu dyheadau a chynnig sail iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cynnig cyfle i ddysgwyr astudio sylfaen wyddonol addysg cydberthynas a rhywioldeb. Gellir atgyfnerthu’r cyfleoedd yn unol â dull yr ymarferydd. Mae yna gysylltiadau clir rhwng y maes dysgu a phrofiad hwn ac iechyd a lles.

Cydberthnasau

Drwy Wyddoniaeth a Thechnoleg, bydd dysgwyr yn deall bod gallu pobl i oroesi yn seiliedig ar gydberthnasau rhwng unigolion. Mae’r rhyngddibyniaeth hon yn hanfodol i barhad bywyd. Mae plant, yr henoed, ac unigolion sy’n agored i niwed yn fwy dibynnol ar eraill.

Gwerthoedd, hawliau, diwylliant a rhywioldeb

Drwy astudio pethau byw, bydd dysgwyr yn dod i ddeall bod pob un ohonom yn unigryw, a hynny o ganlyniad i amrywiad genetig a dylanwadau amgylcheddol. Mae gan bawb yr hawl i gael ei barchu ac i gyfrannu at gymdeithas, ni waeth beth fo’u gwahaniaethau. Mae pob un ohonom yn werthfawr, ac mae gennym yr hawl i gael ein trin ag urddas a pharch. Gall stereoteipiau a thybiaethau anghywir, a all arwain at stigma a gwahaniaethu, fod yn niweidiol i les unigolion a thorri eu hawliau dynol. Gall meithrin dealltwriaeth wyddonol dysgwyr helpu i chwalu tybiaethau o’r fath a lleihau stereoteipio.

Deall rhywedd

Drwy astudio pethau byw, bydd dysgwyr yn archwilio’r gwahaniaeth rhwng rhyw a bennir yn enetig a rhywedd, ynghyd â phwysigrwydd y gwahaniaeth hwnnw. Drwy hyn, bydd dysgwyr yn gallu deall efallai na fydd hunaniaeth rywiol unigolyn bob amser yn cyd-fynd â’i ryw fiolegol.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb ac iechyd a lles

Mae astudio iechyd a chlefydau yn rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth wyddonol i gefnogi eu penderfyniadau gwybodus eu hunain am eu hiechyd a’u lles rhywiol.

Y corff dynol a’i ddatblygiad

Drwy astudio pethau byw, bydd dysgwyr yn dod i wybod enwau a swyddogaeth eu horganau rhywiol ac atgenhedlu. Byddant yn dysgu am rôl hormonau wrth dyfu, aeddfedu ac atgenhedlu, a’r ffordd y gall hynny hefyd effeithio ar emosiynau pobl.

Rhywioldeb ac ymddygiad rhywiol

Drwy astudio iechyd a chlefydau, dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddeall sut y mae dulliau atal cenhedlu yn gweithio, o safbwynt biolegol, ynghyd â’u heffeithlonrwydd perthynol o ran atal gwahanol glefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Bydd yr wybodaeth hon yn eu galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu hymddygiad rhywiol eu hunain.

Cyfoethogi a phrofiadau

Mae cyfoethogi a phrofiadau yn rhan annatod o Wyddoniaeth a Thechnoleg, ac yn cynnig cyfleoedd i bob dysgwr ymdrin â chyd-destunau holistaidd a dilys. Drwy wneud cysylltiadau sylfaenol o fewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth well o’r byd o’u cwmpas, yn ogystal â’u lle ynddo.

Mae archwilio a phrofi’r byd drwy ymchwil (gan gynnwys gwaith maes, archwilio amgylcheddau dan do ac awyr agored mewn ffordd ddiogel a systematig) yn hanfodol i bob dysgwr. Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth well o faterion amgylcheddol gwahanol ac yn dysgu sut i ddangos gofal, cyfrifoldeb, ystyriaeth a pharch tuag at bob peth byw a’r amgylchedd o’u cwmpas.

Gall datblygu amrywiaeth o bartneriaethau ac ymwneud â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a chrefftwyr ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ehangu profiadau dysgwyr er mwyn gwella eu dealltwriaeth o brosesau, a’u gallu i’w cymhwyso. Dylent gael profiad o dechnolegau electronig a digidol er mwyn gwella eu dysgu a gwella eu dealltwriaeth o ddatblygiadau arloesol yn y dyfodol.

Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i weithio’n annibynnol, yn ogystal ag ar y cyd, i ymchwilio, dylunio, datblygu a gwerthuso eu deilliannau. Dylent weithio mewn modd iterus tuag at ganlyniad pwrpasol i ddatblygu gwydnwch a dyfalbarhad, lle y gellir ystyried methiant yn garreg camu tuag at lwyddiant a lle y caiff creadigrwydd ei ddathlu.

Bydd angen i leoliadau ac ysgolion ddefnyddio Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan sicrhau bod pedwar diben y cwricwlwm yn greiddiol i’r broses o gynllunio’r profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws. Felly, rhaid i ymarferwyr ystyried sut mae eu haddysgu a’u darpariaeth gwricwlaidd yn cyfrannu at ddatblygu’r nodweddion hyn ymhlith dysgwyr yng Nghymru.

Fel mater o egwyddor, dylai ymarferwyr allu penderfynu ar drefniadaeth y maes dysgu a phrofiad hwn, gan wneud penderfyniadau pwysig am ddilyniannu cysyniadau gwyddonol a thechnolegol. Dylai penderfyniadau o’r fath gael eu llywio gan natur hierarchaidd a chysylltiedig y cysyniadau a nodir yn y maes dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr amrywiaeth o ‘linynnau’ cynnydd a awgrymir, er mwyn sicrhau yr adeiledir ar y sylfeini sy’n rhan o’r dysgu a bod cysylltiadau rhwng y profiadau.

Drwy fanteisio i’r eithaf ar ddull gweithredu amlddisgyblaethol mewn perthynas â datblygu’r cwricwlwm, cynigir profiad dysgu mwy cydlynol i ddysgwyr. Gellir meithrin dealltwriaeth ddwfn drwy gynllunio ar draws y chwe datganiad o’r hyn sy’n bwysig wrth ddysgu gwyddoniaeth a thechnoleg, a’u cysylltu a’u cymhwyso mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Gall yr hyn a ddysgir mewn un agwedd atgyfnerthu a chefnogi gwaith o fewn gwahanol ddisgyblaethau mewn modd amserol. Er mwyn cyflawni hyn, mae prosesau cydlynol a chydlynus ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm ar draws ffiniau disgyblaethau traddodiadol yn hanfodol. Fodd bynnag, bydd ymarferwyr hefyd yn awyddus i ystyried yr angen am ddulliau dysgu ac addysgu mwy penodol o fewn disgyblaethau; daw hyn yn gynyddol bwysig wrth i ddysgwyr wneud cynnydd.

Dylai’r dilyniant y bwriedir ei roi ar waith wrth ddysgu ac addysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg ystyried y broses o feithrin yr wybodaeth neu’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr, cyn gofyn iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau neu ymholiadau mwy ymarferol. Dylai profiadau dysgu ymarferol o natur benodol, thematig neu amlddisgyblaethol atgyfnerthu dysgu blaenorol a dealltwriaeth gysyniadol, yn hytrach na dim ond cynnig tasgau cofiadwy y mae dysgwyr yn eu mwynhau. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd wrth ddysgu ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn arbennig mewn lleoliadau uwchradd, disgwylir iddynt brofi dulliau addysgu arbenigol o fewn pynciau. Dylai dulliau addysgu arbenigol wella dulliau gweithredu amlddisgyblaethol mewn perthynas â chynllunio’r cwricwlwm a bod yn rhan annatod o’r broses, ac maent yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dysgwyr wedi’u paratoi yn y ffordd orau bosibl ar gyfer dysgu pellach ôl-16. Dylai’r broses hon wella safonau a thrylwyredd.

Dylai’r addysgu fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac arbenigedd cadarn. Dylid defnyddio tystiolaeth o wybodaeth leol, gwybodaeth o glystyrau, gwybodaeth ranbarthol a chenedlaethol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau sefydledig, e.e. y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dylai ymarferwyr hefyd geisio cydweithredu ag amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid wrth ymgymryd â gwaith i ddatblygu’r cwricwlwm, gan gynnwys busnesau lleol a sefydliadau rhanddeiliaid gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

;
  • Cyhoeddwyd gyntaf 30 Ebrill 2019
  • Diweddarwyd diwethaf 30 Ebrill 2019