English

Hwb

Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am strwythur ac elfennau Cwricwlwm i Gymru 2022, y dull gweithredu o ran cynnydd, a sut mae’n rhaid i’r cwricwlwm fod yn gynhwysol ar gyfer pob dysgwr.

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am elfennau dysgu sy’n cwmpasu’r cwricwlwm cyfan. Dylai pob ymarferydd ystyried yr elfennau hyn a’u cynnwys yn briodol yn yr holl dysgu.

Yr hanes hyd yma

Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol. Mae Cwricwlwm i Gymru 2022, sydd wedi’i wneud yng Nghymru ond sydd wedi’i lunio gan y gorau o bob cwr o’r byd, yn rhan hanfodol o gyflawni’r genhadaeth hon.

Mae’r blynyddoedd nesaf yn hollbwysig o ran cyflawni uchelgeisiau a rennir – ac a fynnir – ledled Cymru. Mae angen i ni sicrhau y gall ein plant a’n pobl ifanc fyw bywyd personol, dinesig a phroffesiynol cyflawn yn ein democratiaeth fodern.

Ar lefel genedlaethol a lefel lleoliad ac ysgol, mae angen i’r cwricwlwm baratoi plant a phobl ifanc i ffynnu mewn dyfodol lle mae sgiliau digidol, y gallu i addasu a chreadigrwydd yn hanfodol, a lle ceir cymysgedd o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau sy’n seiliedig ar werthoedd a diwylliant Cymreig.

Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 yn ceisio caniatáu ar gyfer ehangu’r dysgu, gan gefnogi lleoliadau ac ysgolion i fod yn fwy hyblyg o ran eu dulliau gweithredu, ac yn darparu mwy o asiantaeth i arweinwyr addysg ac ymarferwyr, ac felly eu galluogi i fod yn arloesol a chreadigol.

Yn ganolog i hyn mae pedwar diben y cwricwlwm, sy’n amlinellu’r dyheadau ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc erbyn 16 oed, er mwyn eu galluogi i fod yn ddysgwyr llwyddiannus, sy’n chwarae rhan weithgar yn eu cymuned a’r gymdeithas ehangach, ac sy’n barod i ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth.

Mae’r ymgynghoriad Papur Gwyn Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol yn nodi’r cynigion deddfwriaethol ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Y cynnig yw y bydd lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion o dan ddyletswydd i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys a fydd yn cynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Rhaid i’r meysydd dysgu a phrofiad gynnwys Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, fel sy’n briodol.

Bydd gan leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ddisgresiwn o ran sut i ddylunio’u cwricwlwm nhw i gyflawni dyletswyddau’r cwricwlwm. Fodd bynnag, rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru 2022 a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu y dylent ddilyn y canllawiau oni fod ganddynt reswm da i beidio.

Mae’r canllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru 2022 drafft yn cynnwys:

  • y canllaw hwn i Gwricwlwm i Gymru 2022
  • y canllawiau ar gyfer pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad
  • canllawiau asesu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr hyn a ddaw o’r ymgynghoriad Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol wrth wneud penderfyniadau ar gynigion terfynol ar gyfer deddfwriaeth ar y cwricwlwm.

Y broses ddiwygio

Datblygwyd canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 drafft gan ymarferwyr drwy rwydwaith o arloeswyr sy’n cynrychioli pob math o ysgol yng Nghymru. Mae’r rhwydwaith hwnnw’n gweithio mewn partneriaeth â chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, Estyn, y sectorau addysg bellach ac uwch, ac arbenigwyr allweddol a rhanddeiliaid allweddol eraill. Maent wedi ymchwilio i arferion gorau a modelau cwricwlwm, ac wedi ystyried cyngor arbenigol er mwyn ceisio gweithredu canfyddiadau ac argymhellion Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwriclwlm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru (2015).

Nod y canllaw hwn a chanllawiau’r meysydd dysgu a phrofiad yw darparu fframwaith cenedlaethol y gall lleoliadau ac ysgolion adeiladu arno i ddatblygu eu cwricwla eu hunain. Nid ydynt wedi’u bwriadu i fod yn faes llafur hollgynhwysfawr nac yn ganllaw ar gyfer trefnu amserlenni. Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 yn nodi:

  • yr hyn y dylai lleoliadau ac ysgolion roi ystyriaeth iddo wrth ddylunio’r cwricwlwm
  • yr hyn a ddisgwylir gan ddysgwyr, yn fras, ar gyfer pob cam cynnydd.

Y cam nesaf yn y broses gyd-ddatblygu yw casglu sylwadau’r proffesiwn addysg cyfan, plant a phobl ifanc, a rhieni/gofalwyr, yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliad eraill sydd â diddordeb. Mae hyn yn gyfle i bawb gyfrannu at ganllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022, rhoi adborth ar yr hyn a ddatblygwyd eisoes a darparu awgrymiadau i’w fireinio. Bydd y cyfnod ar gyfer rhoi adborth yn dod i ben ar 19 Gorffennaf 2019 a bydd yr adborth yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried gan weithwyr proffesiynol addysg a oedd yn rhan o’i ddatblygiad. Wedyn, bydd canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 yn cael eu mireinio cyn eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2020 er mwyn ei gyflwyno ym mis Medi 2022 i bob blwyddyn ysgol mewn ysgolion cynradd a Blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd. Bydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno i Flwyddyn 8 ym mis Medi 2023 flwyddyn ar ôl blwyddyn hyd nes y’i cyflwynir i Flwyddyn 11 yn 2026.

Beth yw cwmpas Cwricwlwm i Gymru 2022?

Cynlluniwyd Cwricwlwm i Gymru 2022 ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed. Yn ôl y cynigion deddfwriaethol presennol, bydd y cwricwlwm newydd ar gyfer:

  • plant 3 i 5 oed sy’n mynychu dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion a gynhelir a phlant sy’n mynychu lleoliadau a ariennir nas cynhelir
  • plant 5 i 16 oed sy’n mynychu ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Yn ôl y cynigion presennol, bydd unedau cyfeirio disgyblion yn gorfod addysgu cwricwlwm eang a chytbwys ond ni fydd angen iddynt addysgu’r cwricwlwm cyfan. Mae hyn yn unol â’r gofynion cyfredol ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylid ehangu’r gofynion ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion ymhellach yn dilyn yr ymgynghoriad Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol.

Mae pedwar diben y cwricwlwm, fel yr amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, wedi bod yn sail i’r holl waith o gynllunio a datblygu Cwricwlwm i Gymru 2022. Dyma’r man cychwyn ar gyfer pob penderfyniad am Gwricwlwm i Gymru 2022 a dylid dylunio a llywio cwricwla ar lefel ysgol yn unol â’r pedwar diben hwn. Mae ‘cwricwlwm’ yn cynnwys yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu a gynlluniwyd er mwyn cyflawni pedwar diben y cwricwlwm, sef datblygu plant a phobl ifanc i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 wedi’i gynllunio i helpu pob dysgwr i wireddu’r pedwar diben hwn. Mae pob diben yn fwy na phennawd; fe’u disgrifir hefyd yn nhermau nodweddion allweddol. Dylent, yn eu cyfanrwydd, fod yn sail i’r holl addysgu a dysgu yng Nghymru.

Bwriedir i ganllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 gynorthwyo athrawon ac ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ym myd addysg i fanteisio ar yr ymreolaeth i wneud penderfyniadau ar lefel ysgol o fewn fframwaith cyffredin, a chynllunio a datblygu cwricwla sy’n berthnasol i gyd-destun ac anghenion penodol dysgwyr. Mae hyn hefyd yn berthnasol i leoliadau a ariennir nas cynhelir.

Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 hefyd wedi’i ddatblygu i adlewyrchu’r cryfderau y mae’r Cyfnod Sylfaen wedi eu cyfrannu i addysg yng Nghymru. Bydd ethos, egwyddorion ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn parhau i fod yn ganolog i addysg y blynyddoedd cynnar ac maent wedi’u hymgorffori ar draws Cwricwlwm i Gymru 2022 er mwyn sicrhau ei fod yn briodol ac yn hygyrch i bob ymarferydd a dysgwr.

Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 yn trefnu dysgu o gwmpas chwe maes dysgu a phrofiad sef:

Cynlluniwyd pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad i helpu dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm, ac maent yn darparu’r man cychwyn a’r dyhead wrth ddatblygu cwricwlwm ar lefel ysgol. Maent yn cwmpasu’r pynciau a’r disgyblaethau cyfredol, a’u nod yw hyrwyddo dull cydweithredol a thrawsddisgyblaethol o gynllunio a datblygu cwricwlwm ysgol.

Mae’r canllawiau ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad yn cynnwys:

  • datganiad sy’n egluro sut mae’r maes dysgu a phrofiad yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm
  • datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn dysgu
  • egwyddorion cynnydd, gan gynnwys deilliannau cyflawniad a ddatblygwyd ar sail cynnydd yn y maes dysgu a phrofiad
  • cymorth i gynllunio ar gyfer dysgu.

Cynlluniwyd y meysydd dysgu a phrofiad i weithredu gyda’i gilydd fel rhan o gwricwlwm holistaidd. Nid ydynt yn adrannau digyswllt ond yn hytrach maent yn caniatáu i’r dysgu gael ei dynnu o bob un maes dysgu a phrofiad. Dylai’r penderfyniadau ynghylch sut i’w troi’n weithgareddau dyddiol gael eu gwneud mewn lleoliadau ac ysgolion. Dylai’r dysgu fod yn gydlynol ac wedi’i gynllunio ar draws y meysydd dysgu a phrofiad gwahanol, gan adeiladu ar gysylltiadau, dibyniaethau a rhyngddibyniaethau cynhenid. Dylid defnyddio’r cysylltiadau hyn wrth gynllunio a datblygu’r cwricwlwm ar lefel ysgol, wrth i ymarferwyr weithio’n greadigol ac ar y cyd i gefnogi dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae canllawiau’r meysydd dysgu a phrofiad yn egluro sut y gellir cynnwys meysydd pwnc gorfodol mewn maes dysgu a phrofiad, yn ogystal â’r Gymraeg a’r Saesneg, addysg grefyddol, ac addysg cydberthynas a rhywioldeb. Dylai ymarferwyr gynnwys dysgu i gyflawni’r dyletswyddau hyn o fewn a, lle’n briodol, ar draws y meysydd dysgu a phrofiad, a dylai’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol gael eu cynnwys ym mhob maes dysgu a phrofiad fel y bo’n briodol.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 yn trefnu’r dysgu o fewn pob maes dysgu a phrofiad ar sail datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn cyfleu cysyniadau allweddol sylfaenol sy’n mynegi’r hyn sydd bwysicaf mewn maes dysgu a phrofiad penodol, ac yn cynnwys pennawd a rhesymeg neu naratif ategol. Pwrpas y pennawd yw nodi hanfod y cysyniad dysgu sylfaenol, ac mae’r naratif ategol yn archwilio’r maes dysgu ymhellach, ac yn egluro pam mae’n bwysig.

Maent yn amlinellu’r dysgu hanfodol yn y maes dysgu a phrofiad gan adeiladu tuag at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm, ac maent yn nodi’n glir beth y mae’n ei olygu i fod yn ddysgwr sydd wedi’i addysgu’n dda erbyn 16 oed yng Nghymru. Maent hefyd yn tynnu ar y disgyblaethau lle maent yn berthnasol i’r maes dysgu a phrofiad ac yn darparu cyd-destun ar gyfer y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau cysylltiol.

Gall y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig hefyd helpu i wneud synnwyr o wahanol agweddau ar ddysgu a allai, fel arall, ymddangos yn anghysylltiedig. Ar draws y continwwm ar gyfer plant 3 i 16 oed, bydd deall yr hyn sy’n bwysig yn helpu dysgwyr i gydnabod pam mae agweddau penodol ar eu dysgu’n bwysig: gan wneud cysylltiadau dros amser a rhwng profiadau, gwybodaeth a sgiliau gwahanol.

Mae canllawiau’r meysydd dysgu a phrofiad hefyd yn defnyddio’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig fel sail ar gyfer trefnu dilyniant dysgu a chynnydd. Bydd dysgwyr yn ailymweld â’r rhain drwy gydol eu taith ddysgu, gan ddatblygu dealltwriaeth fwyfwy soffistigedig a’r gallu i gymhwyso eu dysgu mewn cyd-destunau ehangach ar draws y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r meysydd dysgu a phrofiad.

Y bwriad yw y bydd pob dysgwr yn symud ar hyd yr un continwwm dysgu ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad, a hynny o 3 i 16 oed. Caiff cynnydd ei nodi drwy gamau cynnydd ar bum pwynt ar y continwwm dysgu, sy’n cyfateb yn fras i’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Efallai y bydd cyflymder cynnydd dysgwyr ar hyd y continwwm yn amrywio – gellir caniatáu, felly, ar gyfer amrywiaeth o ran hyblygrwydd i wyro, ailadrodd a chyfle i ystyried wrth i feddwl dysgwr ddatblygu dros amser i lefelau soffistigeiddrwydd newydd.

Yng nghanllawiau’r meysydd dysgu a phrofiad, mynegir camau cynnydd drwy gyfres o ddeilliannau cyflawniad ar gyfer pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Cyfeirbwyntiau yw’r rhain ar gyfer cynllunio dysgu ac addysgu, gan gynnwys asesu, a gallant hefyd gael eu defnyddio’n barhaus i fonitro sut mae dysgwyr yn dod yn eu blaenau, i ddarparu eglurder o ran cyflymder cynnydd a phennu lle bo angen ymyriadau. Fel mae’r ddogfen Cynigion asesu fel sail i ddatblygu canllawiau statudol yn esbonio, nid y bwriad yw i gamau cynnydd gael eu defnyddio at ddibenion crynodol ar oedran penodol neu gyfnod penodol.

Deilliannau cyflawniad

O fewn canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022, mae deilliannau cyflawniad yn ddatganiadau a wneir o safbwynt y dysgwr ar ffurf megis ‘Rwyf wedi ...’, ‘Gallaf ...’, ac maent yn nodi’r hyn y disgwylir yn gyffredinol i ddysgwyr ei ddysgu dros ddwy neu dair blynedd. Wrth ddatblygu canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022, mae’r grwpiau arloesi wedi defnyddio cysyniadau o ddysgu dwfn neu ddiogel, sy’n golygu dysgu sy’n tynnu ynghyd ystod o wybodaeth a sgiliau y gall dysgwyr eu defnyddio a’u cymhwyso mewn cyd-destunau newydd a heriol. Gall dysgu dwfn helpu i sicrhau bod y disgrifiadau dysgu yn y deilliannau cyflawniad yn cael eu cyflawni.

O fewn canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022, nid yw’r deilliannau cyflawniad a fynegir ar gyfer pob cam cynnydd wedi’u bwriadu i fod y model ‘ffit orau’, hynny yw ni ddylid eu defnyddio fel meini prawf unigol ar gyfer barnu cyflawniad cyffredinol. Yn hytrach, dylid eu defnyddio fel sail i greu darlun cywir o sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd mewn perthynas â’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau amrywiol ar draws y meysydd dysgu a phrofiad, yn ogystal â phedwar diben y cwricwlwm. Byddai hyn yn cynnig cipolwg i ymarferwyr a dysgwyr o ran eu cynnydd, ble mae angen cefnogaeth a beth y dylid ei wneud nesaf.

Mae’r cynigion deddfwriaethol presennol yn gosod dyletswydd ar benaethiaid i bennu deilliannau cyflawniad ar gyfer pob cam cynnydd. Bydd gan benaethiaid ddisgresiwn i bennu’r deilliannau cyflawniad ond bydd angen iddynt ystyried y canllawiau. Cynigir hefyd bod dyletswydd yn cael ei roi ar ysgolion i ddarparu cwricwlwm sy’n galluogi’r mwyafrif o ddysgwyr i gyrraedd y deilliannau cyflawniad a osodir gan yr ysgol, neu i fynd y tu hwnt iddynt, ac i wneud cynnydd ar hyd y continwwm am y camau cynnydd yn unol â datblygiad addysgol y dysgwr dan sylw.

Mae’r canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n cael ei ystyried yn hanfodol ar gyfer cynllunio a datblygu cwricwla mewn lleoliadau ac ysgolion.

Cysylltiadau o fewn ac â meysydd dysgu a phrofiad eraill

Mae perthynas naturiol yn bodoli o fewn ac ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Bwriedir i’r rheini a ddarperir yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 fod yn enghreifftiau yn unig, ac maent yn syniad o’r ystyriaethau cydweithredol ehangach yn ystod y broses o gynllunio a datblygu cwricwla ar lefel ysgol.

Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

Ym mhob canllaw ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad, mae’r adran hon yn tynnu sylw at yr hyn sy’n cael ei ystyried yn allweddol i gyflawni’r hyn sy’n bwysig mewn dysgu, ac o ganlyniad yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm. Gallai’r agweddau hyn ar ddysgu fod yn gymwys ar draws y continwwm dysgu, neu mae modd iddynt gael eu gosod yn erbyn camau cynnydd penodol, yn dibynnu ar y maes dysgu a phrofiad.

Nid yw’r datganiadau o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau yn gyflawn ond fe’u darperir i gefnogi’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, fel man cychwyn cyffredin ar gyfer cynllunio a datblygu cwricwlwm mewn lleoliadau ac ysgolion, ac i gefnogi’r dysgu a wneir drwy’r deilliannau cyflawniad. Bwriad hyn yw rhoi syniad clir o’r hyn y dylid ei ystyried a hefyd rhoi hyblygrwydd i ddatblygu cwricwla ysgol mewn ymateb i anghenion penodol y dysgwyr.

Er mwyn datblygu cwricwlwm cyfoethog sy’n gydnaws â’r nodau yn Dyfodol Llwyddiannus, rhaid cynnwys amrywiaeth o elfennau pellach o fewn y meysydd dysgu a phrofiad. Y cynigion cyfredol ar gyfer deddfwriaeth yw y dylai fod dyletswyddau i addysgu’r Gymraeg; Saesneg; llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol; addysg cydberthynas a rhywioldeb; ac addysg grefyddol.

I helpu ysgolion i gyflwyno’r cwricwlwm newydd, mae’r meysydd dysgu a phrofiad yn darparu canllawiau ar gefnogi dysgu a chynllunio sy’n cyfrannu at yr elfennau hyn. Maent hefyd yn cynnwys deunyddiau ategol sy’n egluro sut mae’r maes dysgu a phrofiad yn cefnogi’r dysgu yn yr elfennau hyn.

Y cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

Mae’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn sail i bron pob math o ddysgu ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cymryd rhan yn llwyddiannus ac yn hyderus yn y byd modern.

Mae angen ystyried llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wrth gynllunio cwricwlwm lefel ysgol ar draws pob maes dysgu a phrofiad. Maent wedi’u hymgorffori ar draws canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022, lle maent yn cefnogi’r dysgu a amlinellir yn y canllawiau meysydd dysgu a phrofiad. Mater i bob lleoliad ac ysgol fydd cynllunio cynnydd ar draws yr ystod lawn o sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn modd hyblyg, sy’n briodol i anghenion dysgwyr unigol.

I sicrhau bod dysgwyr yn datblygu lefelau cymhwysedd uchel yn y sgiliau hyn a’u bod yn cael digon o gyfleoedd i’w datblygu, eu hehangu a’u cymhwyso ym mhob rhan o’r cwricwlwm, bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn parhau i fod ar gael. Caiff cynnwys y fframweithiau ei ddiwygio eleni er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â’r cynnydd a nodir yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae cynigion deddfwriaethol presennol yn nodi y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn orfodol ym mhob lleoliad a ariennir nas cynhelir a phob ysgol a gynhelir i ddysgwyr 3 i 16 oed. Mae pedwar diben y cwricwlwm yn cefnogi dysgwyr i dyfu yn unigolion iach, hyderus sy’n gallu ffurfio cydberthnasau cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, a datblygu eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol i gefnogi hyn a dylai roi’r profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau cadarnhaol.

Fel rhan o’r ymgynghoriad Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol, gwahoddodd Llywodraeth Cymru farn ynghylch pa rôl fyddai gan yr hawl bresennol sydd gan rieni/gofalwyr i dynnu plentyn allan o addysg cydberthynas a rhywioldeb yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru 2022, a bydd yn cadarnhau cynigion yn dilyn yr ymgynghoriad.

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio sut y gall eu profiadau, eu penderfyniadau, y modd y maent yn ymwneud â phobl yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol, a’u cydberthnasau, eu helpu i feithrin empathi a rhoi parch dyledus i eraill a’r byd o’u cwmpas. Bydd hyn yn cael ei wneud ar lefel ryngbersonnol mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol, ar lefel y Deyrnas Unedig ac ar lefel fyd-eang. Mae’n ymwneud â meithrin dealltwriaeth dysgwyr o’r dylanwadau sy’n gallu cael effeithiau gadarnhaol a negyddol arnynt a datblygu’r dealltwriaeth honno, wrth iddynt geisio datblygu a sefydlu ystod o gydberthnasau iach a pharchus. Mae hyn yn cynnwys dysgu am:

  • gydberthnasau
  • gwerthoedd, hawliau, diwylliant a rhywioldeb
  • deall rhywedd
  • trais a chadw’n ddiogel
  • cydberthnasau a rhywioldeb, ac iechyd a lles
  • y corff dynol a’i ddatblygiad
  • rhywioldeb ac ymddygiad rhywiol.

Egwyddorion craidd addysg cydberthynas a rhywioldeb yw y dylai fod:

  • yn gynhwysol
  • yn holistaidd
  • yn berthnasol, yn ddiddorol ac wedi’i chyd-gynhyrchu
  • wedi’i chynllunio’n greadigol
  • yn rymusol ac yn weddnewidiol
  • yn amddiffynnol ac yn ataliol.

Mae datblygu addysg cydberthynas a rhywioldeb drwy feysydd dysgu a phrofiad gwahanol yn rhoi golwg gyfoethog ac eang i ddysgwyr ar gydberthnasau dynol a rhywioldeb, o ddisgyblaethau amrywiol.

Yn y cynigion deddfwriaethol presennol, bydd y ddyletswydd bresennol i roi canllawiau statudol ar addysg rhyw yn cael ei chadw (ac yn cael ei hymestyn i gynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb) ond bydd yn cael ei diwygio fel ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi canllawiau i sicrhau bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n berthnasol i oedran a datblygiad y dysgwyr.

Addysg grefyddol

Mewn cynigion ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, bydd addysg grefyddol yn parhau i fod yn orfodol. Nid ydym yn cynnig y bydd yn ofynnol i leoliadau a ariennir nas cynhelir addysgu’r maes llafur cytûn, ond bydd angen iddynt roi sylw i ganllawiau ar y ffordd orau o’i addysgu.

Nid ydym yn bwriadu newid y gofyniad i ysgolion gyflwyno’r maes llafur cytûn. Bydd ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol yn parhau i allu cyflwyno meysydd llafur eu henwad, a gall rhieni/gofalwyr dysgwyr sy’n mynychu ysgolion gwirfoddol a reolir barhau i ofyn i’w plentyn gael astudio’r maes llafur enwadol yn hytrach na’r maes llafur cytûn lleol, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae fframwaith newydd yn cael ei ddatblygu er mwyn darparu rhagor o fanylion am y berthynas rhwng addysg grefyddol, y maes llafur cytûn, a’r meysydd dysgu a phrofiad. Caiff y gwaith hwn ei wneud gan grŵp o ymarferwyr addysg grefyddol, arloeswyr y cwricwlwm, academyddion, a chynrychiolwyr o Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (CYSAGau) a Phanel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol.

Ein bwriad, hefyd, yw bod addysg grefyddol yn adlewyrchu ein perthynas hanesyddol a chyfoes â safbwyntiau athronyddol a chrefyddol, gan gynnwys credoau anghrefyddol. Felly, caiff y ddeddfwriaeth gyfredol ei diwygio i sicrhau bod y maes llafur cytûn ar gyfer addysg grefyddol yn rhoi ystyriaeth i fydolygon anghrefyddol - rhai sy’n cyfateb i grefyddau (e.e. dyneiddiaeth).

Y Gymraeg a Saesneg

Un o brif nodweddion pedwar diben y cwricwlwm yw datblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Dylai pob dysgwr gael llwybrau priodol ar gyfer dysgu’r Gymraeg a Saesneg i’w galluogi i ddatblygu’r hyder i ddefnyddio’r ddwy iaith mewn bywyd pob-dydd.

Y cynigion cyfredol ar gyfer deddfwriaeth yw y bydd dyletswydd ar bob lleoliad a ariennir nas cynhelir ac ysgol i ddysgu Cymraeg i ddysgwyr 3 i 16 oed.

Mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth a thu hwnt (gan gynnwys ar blatfformau digidol) yn helpu dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus a gwerthfawrogi pa mor ddefnyddiol yw’r Gymraeg o ran cyfathrebu mewn Cymru ddwyieithog. Mae hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, drwy ddilyniant ieithyddol sydd wedi’i gynllunio drwy bob cyfnod addysg o 3 i 16 oed, ac fel rhan o’r dull ysgol gyfan, yn cynnig cyfleoedd i bob dysgwr ddatblygu’n ddwyieithog.

Byddwn yn adolygu’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu’r Gymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg ac yn cynyddu’r disgwyliadau hynny wrth i’r carfannau weithio trwy Gwricwlwm i Gymru 2022, ac wrth i sgiliau methodolegol a phrofiad ymarferwyr gynyddu. Bydd hyn yn cyfrannu at wireddu’r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn dod â Chymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol ynghyd. Dylai lleoliadau ac ysgolion gefnogi datblygiad sgiliau dysgwyr yn y Gymraeg ar draws y cwricwlwm cyfan. Ein cynnig yw y bydd y cwricwlwm newydd yn parhau i ganiatáu i leoliadau, megis y cylchoedd meithrin ac ysgolion, drochi plant yn gyfan gwbl yn y Gymraeg.

Fframwaith cenedlaethol yw’r Siarter Iaith sy’n galluogi pob lleoliad ac ysgol i ddarparu sail holistaidd ar gyfer cynllunio profiadau ar draws y cwricwlwm i gynyddu defnydd dysgwyr o’r Gymraeg a datblygu eu hyder yn yr iaith. Mae’n cefnogi cyfleoedd cynyddol i ddysgwyr siarad Cymraeg mewn cyd-destunau amrywiol a sefydlu a gwreiddio’u defnydd o batrymau’r Gymraeg o oedran cynnar. Mae’r egwyddorion a nodir yn y Siarter Iaith yn cyd-fynd â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022.

Er mwyn datblygu cwricwlwm cyfoethog sy’n gydnaws â’r nodau yn Dyfodol Llwyddiannus, nodir amrywiaeth o elfennau pellach o fewn cynnwys canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 y mae’n rhaid eu trin fel rhan annatod o gynllunio a datblygu cwricwlwm lefel ysgol. Cynigir na fydd yr elfennau hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaeth statudol ar wahân.

Lle bo’n briodol, mae’r canllawiau ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad yn egluro sut y mae’r maes dysgu a phrofiad dan sylw’n cefnogi’r dysgu yn yr elfennau hyn.

Y dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol

Un o’r prif themâu o fewn pedwar diben y cwriwlcwm yw bod angen i ddysgwyr gael eu gwreiddio yn eu diwylliannau eu hunain a bod â hunaniaeth gref yn eu hardal leol, Cymru, a’r byd ehangach.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 yn cydnabod y dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddatblygu eu hunaniaeth drwy archwilio cwestiynau am ddiwylliant, iaith ac ymdeimlad o berthyn yn eu hardal leol ac yng Nghymru. Dylai roi dealltwriaeth iddynt o’r hanes, y diwylliannau, y gwerthoedd a’r dreftadaeth amrywiol sy’n bodoli yn y Gymru fodern, a’r cyfraniad y gallant ei wneud i’w cymunedau. Dylai’r cwricwlwm newydd ddarparu’r modd i ddysgwyr allu dychmygu dyfodol Cymru a’u cyfraniad nhw i’r dyfodol hwnnw.

Mae persbectif rhyngwladol yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ystyried eu rolau a’u cyfrifoldebau fel dinasyddion byd-eang sy’n byw mewn cymdeithas amrywiol o ran diwylliant ac iaith, ac ymateb i’r heriau wrth anelu at ddyfodol cynaliadwy a theg.

Dylai dysgwyr brofi cyd-destunau sy’n eu helpu i archwilio a gweld y cysylltiadau rhwng eu hardal leol, Cymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a materion byd-eang ehangach. Bydd hyn yn eu helpu i archwilio cydberthnasau cadarnhaol sydd wedi’u seilio ar gyd-barch, goddefgarwch ac urddas mewn cymdeithas amrywiol.

Rydym yn creu gwricwlwm i Gymru ac, o’r herwydd, dylai Cymru a phersbecitf rhyngwladol fod yn amlwg ar draws Cwricwlwm i Gymru 2022 a dylid eu cynnwys yn nhaith dysgu pob dysgwr ym mhob maes dysgu a phrofiad.

Dylai dysgwyr ddeall, dadansoddi a gwerthfawrogi’n llawn:

  • eu hardal leol a lleoliad a chyfraniad Cymru i’r Deyrnas Unedig a’r byd ehangach
  • effaith bresennol a hanesyddol y byd ehangach, gan gynnwys gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ar Gymru ac ardal eu lleoliad neu eu hysgol
  • effaith yr adwaith rhwng y cydberthnasau amrywiol hyn.

Wrth gynllunio a datblygu cwricwlwm lefel ysgol, dylid ymdrin â’r agweddau hyn ar ddysgu mewn ffordd sy’n briodol ac ystyrlon i bob maes dysgu a phrofiad. Ar gyfer rhai meysydd dysgu a phrofiad, mae hyn yn rhan allweddol o gynnwys neu ffocws y dysgu ei hun; mewn rhai eraill mae’n rhoi cyd‑destun ar gyfer gwneud synnwyr o brosesau, theorïau neu egwyddorion, e.e. drwy enghreifftiau, cymhwyso’r dysgu mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn, neu astudiaethau achos.

Yn achos llawer o’r meysydd dysgu a phrofiad, efallai y byddai’r dull gweithredu hwn yn golygu cychwyn yn yr ardal leol ac yng Nghymru, gan gydnabod yr amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol, a mynd ati wedyn i ddatblygu dealltwriaeth o gyd-destunau ehangach. Lle y bo’n briodol, dylid annog dysgwyr i gymharu a/neu roi ystyriaeth i’r ffordd y mae’r ardal leol, Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd ehangach yn dylanwadu ar ei gilydd o hyd.

Sgiliau ehangach

Ein harweiniad yw bod y sgiliau ehangach canlynol yn greiddiol i’r cwricwlwm ac wrth gynllunio’r meysydd dysgu a phrofiad. Maent yn ystyriaeth hanfodol wrth gynllunio a datblygu cwricwlwm lefel ysgol.

  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau – mabwysiadu prosesau beirniadol a rhesymegol i ddadansoddi a deall sefyllfaoedd a llunio ymatebion a datrysiadau.
  • Cynllunio a threfnu – gweithredu atebion a syniadau, a monitro ac ystyried y canlyniadau.
  • Creadigrwydd ac arloesi – meddwl am syniadau, bod yn agored a magu hyder i archwilio syniadau a mynegi barn.
  • Effeithiolrwydd personol – ystyried eich hun ac eraill a deall eich hun ac eraill, ymddwyn mewn modd effeithiol a phriodol; bod yn ddysgwr effeithiol.

Mae’n hanfodol bwysig bod dysgwyr yn datblygu amrywiaeth eang o sgiliau hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer bywyd modern a’r gweithle. Mae’r sgiliau ehangach hyn yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr ddatblygu gwytnwch a gallu ymateb yn well i’r heriau sy’n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r diagram canlynol wedi’i ddatblygu i gefnogi integreiddiad y sgiliau ehangach hyn ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad wrth gynllunio a datblygu’r cwricwlwm mewn lleoliadau ac ysgolion.

Priodoleddau, nodweddion a gwerthoedd y sgiliau ehangach

Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith yn cynnwys addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Bydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu ymwybyddiaeth ac uchelgais o ran amrywiaeth o ddewisiadau gyrfa, gan greu gweithlu mwy amrywiol sy’n ymgysylltu’n economaidd yng Nghymru.

Mae sgiliau rheoli a chynllunio gyrfa fel ysgogiad, hunanymwybyddiaeth, bod yn ymwybodol o gyfleoedd, gwneud penderfyniadau, cymhwyso a gwytnwch yn helpu dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm. Caiff hyn ei gefnogi gan bob maes dysgu a phrofiad. Dylai gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith alluogi dysgwyr i ddatblygu:

  • dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n arwain, sy’n llunio ac sy’n dylanwadu ar ragolygon gyrfa a datblygiad, a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen â’u cynlluniau a’u datblygiad o ran gyrfa
  • ymwybyddiaeth o sgiliau unigol, rhinweddau a diddordebau, a sut y maent yn effeithio ar ddewisiadau gyrfa, gan godi dyheadau dysgwyr a dealltwriaeth o ganlyniadau
  • gwybodaeth am gyflogaeth a mentergarwch, y gellir ei defnyddio wrth chwilio ac ymgeisio am gyflogaeth, neu hunangyflogaeth, a’u cynnal
  • y sgiliau i ymdopi â bywyd pob-dydd mor annibynnol ag y bo modd.

Dylid dechrau meithrin dealltwriaeth o’r byd gwaith yn gynnar. Dylai dysgwyr oedran ysgol gynradd elwa ar gael gwell ymwybyddiaeth o rolau swyddi, manteision gweithio a chanlyniadau negyddol stereoteipio. Mae hyn yn sylfaen ar gyfer dysgu parhaus, sy’n galluogi dysgwyr uwchradd i wneud penderfyniadau gyrfa deallus a phriodol.

Mae dyletswydd yn bodoli ar hyn o bryd i ddarparu rhaglen o addysg gyrfaoedd i ddysgwyr 13 i 16 oed, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y darpariaethau deddfwriaethol y bydd eu hangen yn y dyfodol yn dilyn yr ymgynghoriad Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol.

Dewis y dysgwr yng Nghamau cynnydd 4 a 5

Bydd gan bob dysgwr hawl i addysg ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Dylid cyflawni’r ehangder dysgu ar draws y meysydd dysgu a phrofiad drwy ddysgu parhaus hyd at 16 oed er mwyn rhoi sylfaen addysgol gadarn i ddysgwyr ar gyfer eu bywyd, eu hastudiaethau a’u gwaith yn y dyfodol.

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, byddant yn dechrau arbenigo a gwneud dewisiadau. Mae’r holl ganllawiau ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad wedi’u cynllunio i gefnogi dysgwyr i arbenigo a chael profiadau eang, a thrwy hynny yn caniatáu i’r dysgwr ddewis.

Dylai pedwar diben y cwricwlwm fod yn ganolog i drafodaethau â dysgwyr ynghylch eu cynnydd a’u dewisiadau, yn ogystal â’u gyrfaoedd yn y dyfodol a chyrsiau a chymwysterau ategol. Byddai hyblygrwydd i adeiladu proffil sydd wedi’i deilwra ar gyfer pob dysgwr yn helpu’r rheini sy’n gallu mynd y tu hwnt i’r deilliannau cyflawniad a nodir yng Ngham cynnydd 5 drwy barhau i gryfhau eu dysgu.

Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn ymwneud yn agos â’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm. Byddant yn adeiladu ar y cydweithio hwn drwy ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol sydd wedi bod wrthi’n datblygu’r cwricwlwm, er mwyn ystyried sut y dylai cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd.

Erbyn i’r dysgwyr cyntaf sy’n dechrau astudio’r cwricwlwm newydd yn 2022 gyrraedd y cyfnod TGAU, bydd gwaith Cymwysterau Cymru ar hyn wedi’i gwblhau a bydd unrhyw drefniadau newydd yn eu lle.

Addysg hawliau dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Hawliau dynol yw’r rhyddid a’r amddiffyniadau y mae gan bawb yr hawl iddynt. Mae gan ddysgwyr hawliau dynol penodol sydd wedi’u gwarantu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Gall Cwricwlwm i Gymru 2022 chwarae rhan bwysig wrth ddeall a hyrwyddo parch at hawliau dynol a hawliau’r plentyn. Ein harweiniad yw y gellid cyflawni hyn mewn ysgolion drwy hyrwyddo:

  • dysgu am hawliau dynol: caffael gwybodaeth a sgiliau am hawliau dynol, a ffynonellau’r hawliau hynny gan gynnwys CCUHP
  • dysgu drwy hawliau dynol: datblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy’n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol
  • dysgu ar gyfer hawliau dynol: cymell gweithredu cymdeithasol a grymuso dinasyddiaeth weithredol er mwyn datblygu parch at hawliau pawb.

Mae canllawiau gan Gomisiynydd Plant Cymru i gefnogi dulliau gweithredu seiliedig ar hawliau plant mewn addysg. Mae’r canllawiau yn cynnwys mapio sut mae erthyglau’r CCUHP yn sail i bob maes dysgu a phrofiad a phedwar diben y cwricwlwm. Gellir gweld y canllawiau ar-lein ar wefan Comisiynydd Plant Cymru.