English

Hwb

Asesiadau personol: gwybodaeth i rieni a gofalwyr

  • Mae'r asesiadau personol yn addasol, sy'n golygu y caiff y cwestiynau eu dewis ar sail ymateb dysgwr i'r cwestiynau blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob dysgwr a bydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau drwy ddeall yr hyn y gallant ei wneud, yr hyn y mae angen iddynt ei wella, a'u camau nesaf.
  • Mae'r asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau dysgwyr unigol a dosbarthiadau cyfan.
  • Nid oes unrhyw 'cyfnod prawf' ar gyfer asesiadau personol; mae amseru yn ôl disgresiwn yr ysgol.
  • Gall y dysgwyr sefyll yr asesiadau personol naill ai mewn grwpiau bach neu grwpiau mawr, yn dibynnu ar ddewisiadau a chyfleusterau'r ysgol, ac nid oes angen nifer fawr o ddyfeisiau ar ysgolion.
  • Mae'n ofynnol i ddysgwyr sefyll yr asesiad unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion hefyd ddefnyddio'r asesiad unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd.