English
  • O 31 Ionawr 2024, mae canllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru wedi’u diweddaru.

    Mae’r newidiadau yn cynnwys:

    • adran ddiwygiedig ar y daith i weithredu’r cwricwlwm (‘Ymlaen â’r daith’ fel y’i gelwir bellach) i adlewyrchu lle mae ysgolion a lleoliadau arni o ran eu taith weithredu. Mae’r adran ddiwygiedig hon yn cefnogi ysgolion (gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion a’r rheini sy’n gyfrifol am Addysg Heblaw yn yr Ysgol mewn lleoliadau eraill) gyda’r camau ymarferol o gynllunio, gweithredu ac adolygu eu cwricwlwm yn gyson. Mae wedi’i datblygu gan ymarferwyr a phartneriaid eraill, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus
    • cywiriadau o ran diffiniadau a hyperddolenni
    • mwy o eglurder drwy fân-newidiadau i’r naratif yn dilyn adborth
    • diweddariadau i sicrhau terminoleg gywir

    Ym mis Gorffennaf 2024, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus llawn, caiff adran newydd ei chyhoeddi yn y canllawiau ynghylch datblygu cwricwlwm ar gyfer dysgwyr 14-16 oed.

    Bydd canllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn parhau i gael eu diweddaru ym mis Ionawr bob blwyddyn.

Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr

Cymorth ymarferol ynghylch cynllunio cwricwlwm, sicrhau ansawdd a hunanwerthuso

Dechrau arni

  • Cyflwyniad i ganllawiau Cwricwlwm i Gymru

    Cyflwyniad i’r pedwar diben, beth sy’n newydd, pam fod pethau’n newid ac ar gyfer pwy y mae’r canllawiau

  • Crynodeb o'r ddeddfwriaeth

    Esboniad o statws cyfreithiol canllawiau’r cwricwlwm, y dyletswyddau cyfreithiol ar ysgolion a beth fydd hyn oll yn ei olygu’n ymarferol

  • Cynllunio’ch cwricwlwm

    Canllawiau cyffredinol ar gyfer cynllunio’ch cwricwlwm ar draws pob maes dysgu a phrofiad

  • Trefniadau asesu

    Canllawiau a gwybodaeth ar gyfer cynllunio trefniadau asesu o fewn cwricwlwm ysgol

  • Ymlaen â’r daith

    Diben y canllawiau hyn yw cefnogi ysgolion drwy ddarparu casgliad cyffredin o ddisgwyliadau, blaenoriaethau a gwybodaeth ategol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm

Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn cynnig cyfle i bob ymarferydd sydd â diddordeb gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ar y cyd i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyffredin.

Rhagor o ganllawiau