English

Dyma’r ddogfen allweddol y dylai ysgolion a cholegau ei defnyddio i adolygu a datblygu’r ddarpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) bresennol er mwyn sicrhau eu bod yn cynllunio a darparu rhaglen eang, gytbwys o ABCh a fydd yn diwallu anghenion penodol y dysgwyr.

Dogfennau

Manylion

Mae’r fframwaith diwygiedig, 'Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru', yn cynnig strwythur symlach tra’n cadw’r elfennau hynny o’r fframwaith presennol y rhoddir gwerth arnynt. Mae’r deilliannau dysgu yn y fframwaith yn cwmpasu disgyblion o 7 i 19 mlwydd oed ac yn cynnig agenda ddysgu gwerthfawr ac eang ei gorwelion.

Gweithredir y fframwaith diwygiedig ar gyfer pob dysgwr ym mis Medi 2008.