English

Dylai ysgolion sicrhau bod seilwaith ehangach eu rhwydwaith yn cefnogi'r math o ddatrysiad VoIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd) y byddant yn penderfynu ei ddefnyddio.

Gan nad yw pob awdurdod lleol yn darparu VoIP fel gwasanaeth, dylech ymgynghori â'ch awdurdod lleol cyn penderfynu pa ddatrysiad y byddwch yn ei roi ar waith.

  • Mae teleffoni Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) yn defnyddio rhwydwaith a rhyngrwyd yr ysgol yn hytrach na llinellau ffôn traddodiadol.

    Mae’n gallu arbed arian i ysgolion ar gyfer galwadau ffôn, ond mae llawer o ddewisiadau gwahanol ar gael, a dylai ysgolion sicrhau eu bod yn dewis system sy’n diwallu eu hanghenion.

    Bydd eich awdurdod lleol neu Bartner Cymorth Technoleg Addysg priodol yn gallu cynnig atebion, cyngor a chymorth.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli i gael rhagor o fanylion ar rwydweithiau TG ysgolion.

    Gall ystyriaethau sy’n gysylltiedig â VoIP fod yn gymhleth ac mae angen i ysgolion ystyried nifer o faterion wrth benderfynu ar ddatrysiad VoIP priodol:

    • Dylid cynllunio systemau ffôn newydd
    • Mae’n rhaid ystyried Safonau’r Gymraeg
    • Mae’n rhaid caffael systemau’n effeithiol i leihau costau parhaus
    • Mae’n rhaid ystyried opsiynau prydlesu’n ofalus, yn enwedig os oes angen dychwelyd y cyfarpar a bod taliadau cosb yn bosibl.

    Dylai ysgolion sicrhau bod ganddynt fesurau cadarn ar waith rhag ofn i’r rhyngrwyd fethu. Gallai’r rhain gynnwys cael datrysiad dargyfeirio galwadau awtomatig ar gyfer ffonau symudol penodol neu gael llinell dir ychwanegol.

    Dylai ysgolion fanteisio ar ddatrysiadau VoIP sy’n cael eu darparu gan yr awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn derbyn y datrysiad gorau posibl ar gyfer eu hanghenion.

  • Er mwyn sicrhau bod modd gwneud galwadau Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) yn effeithiol, dylai’r ysgol sicrhau bod capasiti cyffredinol y rhwydwaith yn gallu cynnal y system, heb effeithio ar ddefnydd mewn ystafelloedd dosbarth.

    Os nad oes unrhyw ganlyniadau niweidiol ar gyfer y lled band sydd ar gael, dylech alluogi Ansawdd Gwasanaeth neu QoS i helpu i flaenoriaeth traffig llais ar eich rhwydwaith.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safon G4 i gael rhagor o wybodaeth am effaith VOIP ar rwydwaith TG ehangach yr ysgol.

    Fel yr amlinellwyd yn Safonau Llwybryddion a Switsys; mae angen i’r seilwaith sylfaenol allu cynnal teleffoni Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP).

    Dylai switsys ar gyfer VoIP fod wedi’u galluogi â PoE (Pwer dros Ether-rwyd) hefyd.

    Dylai gallu sylfaenol switsys allu cynnig digon o drwybwn ar gyfer traffig VoIP i gynnal ansawdd cysylltiadau drwy flaenoriaethu teleffoni dros draffig data arall.

    Lle bo’n bosibl, dylech alluogi Ansawdd Gwasanaeth (QoS) i flaenoriaethu traffig llais ar eich rhwydwaith ysgol a chynnal ansawdd galwadau a wneir drwy VoIP. Bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg i sicrhau nad yw defnyddio QoS yn cael effaith andwyol ar y lled band sydd ar gael i addysgu a dysgu.

  • Dylai ysgolion sicrhau bod llwybryddion a waliau tân wedi’u ffurfweddu fel bod modd gwneud galwadau VoIP yn effeithlon ac yn effeithiol.

    Fel yr amlinellwyd yn Safon G2 uchod, dylech ffurfweddu QoS os nad oes ganddo unrhyw effaith negyddol ar weddill eich rhwydwaith.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Llwybryddion a Switsys; a Safon G2 i gael rhagor o wybodaeth am effaith VOIP ar rwydwaith TG ehangach yr ysgol.

    Dylai ysgolion sicrhau bod eu darparwr band eang a’u Partner Cymorth Technoleg Addysg yn gallu cywiro wal dân a gosodiadau porth i gefnogi VoIP yn llawn.

    Mae angen galluogi a monitro trefniadau ffurfweddu switsys, llwybrydd ac unrhyw wal dân a hidlo fel rhan o’r trefniadau cynllunio a rheoli a amlinellwyd yn y Canllawiau Cynllunio a Rheoli.

    Fel yr amlinellwyd yn Safon G2 uchod, dylech ystyried QoS fel ffordd o gefnogi traffig llais, ond dim ond mewn ymgynghoriad â’ch awdurdod lleol neu’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg.

  • Mae Pwer dros Ether-rwyd yn sicrhau bod modd cynnal data a llais yn effeithiol. Mae’n dileu’r angen am leoli ffonau wrth ymyl ffynhonnell trydan, ac mae’n lleihau faint o wres sy’n cael ei allbynnu. Ym mhob achos, dylech chi sicrhau bod capasiti’r rhwydwaith yn gallu cynnal y system sydd wedi’i dewis.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli a Safonau Llwybryddion a Switsys i gael rhagor o wybodaeth am effaith VoIP ar rwydwaith TG ehangach yr ysgol.

    Bydd switsys sydd wedi galluogi gan Pwer dros Ether-rwyd (PoE) yn cefnogi dyfeisiau VoIP drwy ganiatáu un cysylltiad cebl sy’n pweru’r ffôn yn ogystal â darparu dolenni data a photensial rheoli o bell (lle mae’r datrysiad yn caniatáu hynny).

    Gweler Safonau Llwybryddion a Switsys am ragor o wybodaeth am seilwaith switsys.

    Dylid osgoi cysylltu sawl dyfais (‘daisy chaining’) lle bo’n bosibl – gall hyn ddigwydd pan fo’r pwynt data’n cysylltu â’r set law ac yna’r set law yn cysylltu â’r cyfrifiadur. Dylai pob ystafell weinyddu newydd gael dau bwynt data ar bob desg er mwyn cael cysylltiad ar wahân i’r rhwydwaith ar gyfer y set ddata VoIP a dyfais y rhwydwaith.

  • Os oes gennych chi Bartner Cymorth Technoleg Addysg gwahanol ar gyfer eich system VoIP, dylech ddeall pa bartner sy’n gyfrifol am rannau penodol o’r system er mwyn datrys unrhyw broblemau’n gyflym heb effeithio’n ormodol ar yr ysgol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli a Safonau Llwybryddion a Switsys i gael rhagor o wybodaeth am effaith VoIP ar rwydwaith TG ehangach yr ysgol.

    Dylai ysgolion sicrhau bod ganddynt lwybr clir ar gyfer uwchgyfeirio i gefnogi eu datrysiad VoIP.

    Pan fo’r VoIP yn cael ei ddarparu gan y prif Bartner Cymorth Technoleg Addysg, fel yr Awdurdod Lleol, dylai hyn fod yn rhan o’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer cymorth. Pan fydd yna sawl darparwr, dylai ysgolion fod yn fodlon bod pob partner yn ymwybodol o’r rhannau o’r datrysiad maent yn eu cefnogi a dylid cytuno ar brosesau uwchgyfeirio rhag ofn i unrhyw broblemau godi.