English

Mae’n rhaid i gabinetau rhwydwaith data gynnal a chysylltu’r cysylltiad band eang sy’n cyrraedd eich ysgol â rhwydwaith TG eich ysgol a’r cyfarpar cysylltiedig.

Mae’n gyfarpar hanfodol. Mae cabinet rhwydwaith yn cadw cyfarpar rhwydweithio (fel llwybrydd) yn ddiogel mewn un lle.

  • Mae cabinetau rhwydwaith data yn cadw cysylltiadau rhwydwaith yn daclus. Mae cabinetau da yn hwyluso gwaith uwchraddio, cynnal a chadw, diogelwch ac effeithlonrwydd.

    Mae cabinetau rhwydwaith data yn cadw ac yn cysylltu’r gwasanaeth band eang sy’n cyrraedd eich ysgol â rhwydwaith lleol eich ysgol a’r cyfarpar cysylltiedig. Hefyd, maen nhw’n cadw cysylltiadau gwasanaethau adeilad eich ysgol – fel teledu cylch cyfyng.

    Gweler yr holl Safonau Cabinet Rhwydwaith Data eraill am fwy o wybodaeth

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli, a Safonau Ceblau i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae cabinet addas, wedi’i gadw’n dda yn helpu i reoli’ch rhwydwaith yn fwy effeithlon, ac yn helpu i nodi problemau â’ch rhwydwaith yn haws.

    Hefyd, mae angen cabinetau rhwydwaith data i gadw cysylltiadau gwasanaethau adeilad eich ysgol – fel teledu cylch cyfyng – ond os oes modd, dylid eu cadw mewn cabinet rhwydwaith data ar wahân i’r cabinet sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich gwasanaeth band eang a di-wifr.

    Rhagwelir y bydd y safon yn ateb arfer gorau er mwyn helpu ysgolion i ddiwallu eu hanghenion digidol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod adnoddau ysgolion yn brin a bod angen iddynt gynllunio i fodloni’r safonau dros amser.

    Mae mesurau i fodloni’r safon hon yn cynnwys:

    • Mae ysgolion yn sicrhau bod y llwybrydd craidd yn cael ei gadw mewn cabinet rhwydwaith data priodol a’i fod yn cael ei labelu’n glir; a
    • Mae pob un o’r adnoddau rhwydweithio craidd yn cael eu cadw mewn cabinetau a’u labelu’n glir.
  • Dylai’r cabinet rhwydwaith data fod yn ddigon mawr i gadw holl gyfarpar y rhwydwaith sydd ei angen ar hyn o bryd, a dylid sicrhau bod modd ei ehangu at ddibenion diogelu’r dyfodol.

    Mae angen sicrhau bod modd addasu’r ddarpariaeth er mwyn parhau i fodloni gofynion yr ysgol yn y dyfodol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Cysylltedd (Band Eang); a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Dylai’r cabinet rhwydwaith data fod yn ddigon mawr i sicrhau bod modd gosod y cyfarpar rhwydweithio (llwybrydd, switshis ac ati) sydd ei angen ar gyfer eich ysgol.

    Dylid sicrhau bod modd ehangu’r cabinet wrth i ofynion yr ysgol newid (e.e. mwy o ddisgyblion ar y gofrestr; rhagor o alw am adnoddau ar-lein, gwasanaethau cwmwl, BYOD ac ati).

    Dylai ysgolion drafod hyn â’u Partner Cymorth Technoleg Addysg er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod am unrhyw gyfyngiadau posibl i’w cabinet(au) rhwydwaith data presennol, yn enwedig os nad yw’n gallu derbyn technoleg newydd er mwyn cynyddu lled band.

    Mae cyngor ar isafswm maint cabinetau ar gael trwy’r awdurdod lleol.

    Y dimensiynau sylfaenol a argymhellir yw:

    • dylai prif gabinetau llawr fod yn 48u o uchder x 800mm o led x 800mm o ddyfnder
    • dylai cabinetau ag ymyl fod yn 600mm o ddyfnder o leiaf.

    Hefyd, dylent fod â drysau y gellir eu cloi, ochrau y gellir eu tynnu, a phwer ac awyru priodol.

    Dylid sicrhau bod modd cyrraedd cabinetau yn hwylus at ddibenion cymorth a gwaith cynnal a chadw.

  • Dylai cabinetau rhwydwaith data gael eu lleoli yn ddigon pell o fannau addysgu a dysgu er mwyn sicrhau nad ydynt yn amharu ar wersi. Dylent fod yn wrth-sain, yn oer ac wedi’u hawyru’n dda.

    Yn ddelfrydol, dylai’r cabinet gael ei leoli mewn Ystafell Gyfathrebu y mae modd ei chloi sydd â systemau oeri ac awyru priodol er mwyn sicrhau nad yw’r cyfarpar yn cael ei ddifrodi.

    Mae’n rhaid lleoli cabinetau data mewn lle cyfleus fel bod modd gwneud unrhyw waith mesur, atgyweirio, ehangu neu ymestyn yn ddiogel heb amharu gormod ar yr ysgol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae’r ceblau a’r cyfarpar data mewn cabinetau rhwydwaith data yn elfennau hanfodol i sicrhau bod gan eich ysgol gysylltedd i ddarparu gwasanaethau digidol. Felly, dylai lleoliad eich cabinetau rhwydwaith data sicrhau bod modd gosod systemau aerdymheru a/neu awyru priodol. Hefyd, dylai’r lleoliad ddarparu diogelwch ffisegol ac amgylcheddol ar gyfer y cabinet a’r cyfarpar sy’n cael ei gadw yn y cabinet.

    Gellir sicrhau’r diogelwch hwn trwy ddewis lleoliad priodol a/neu ddyluniad penodol sy’n ystyried yr agweddau canlynol:

    • Tymheredd – gall cyfarpar data greu llawer o wres ychwanegol, felly mae ystafell sy’n cael ei hoeri a’i hawyru’n dda yn lleoliad delfrydol
    • Lleithder
    • Dirgryniad
    • Cysylltiad ag ymbelydredd uwchfioled
    • Cysylltiad â llwch, hylifau neu halogyddion eraill
    • Difrod ffisegol (damweiniol neu fwriadol)
    • Diogelwch
    • Ymyriant electromagnetig
    • Phresenoldeb peryglon eraill.

    Os nad yw aerdymheru yn cael ei ystyried yn ddewis rhesymol – naill ai oherwydd rhwystrau’r ysgol neu oherwydd pryderon yn ymwneud ag effaith amgylcheddol – dylech sicrhau bod y lleoliad wedi’i oeri a’i awyru i’r graddau sy’n bosibl er mwyn helpu i sicrhau bod dyfeisiau cabinet y rhwydwaith yn rhedeg yn effeithiol.

    Mae’r cyfarpar telathrebu sy’n cael ei gadw mewn cabinet data yn gallu bod yn swnllyd iawn, felly os oes modd, dylai’r cabinet gael ei leoli mewn Ystafell Gyfathrebu nad yw’n creu problemau swn neu sy’n ystafell wrthsain.

    Hefyd, gellir ystyried defnyddio raciau gweinydd ynysu sain mewn cabinetau data lle bo hynny’n bosibl ac yn ymarferol.

    Mae’n rhaid lleoli cabinetau data mewn ffordd sy’n sicrhau bod modd mynd ati’n ddiogel i fesur, atgyweirio, ehangu neu ymestyn y ceblau sydd wedi’u gosod.

    Cydnabyddir bod adnoddau ysgolion yn brin a’i bod yn bosibl y bydd cyfyngiadau ar le i gadw’r cabinet data mewn rhai ysgolion oherwydd diffyg lle a diffyg lleoliad addas. Mewn achosion o’r fath, dylai ysgolion gydweithio â’r awdurdod lleol i ystyried yn ofalus ble i gadw cabinetau data.

  • Gall ymyriant amledd radio achosi problemau ar gyfer rhwydwaith yr ysgol. Felly, mae’n bwysig dileu’r broblem bosibl hon os oes modd.

    Mae ffynonellau ymyriant rhwydwaith cyffredin yn cynnwys: systemau tanio ceir, ffonau symudol a microdonnau. Gall lleoli cabinetau rhwydwaith data yn agos at yr eitemau uchod effeithio ar gysylltiadau rhwydwaith mewn ystafelloedd dosbarth, gan arwain at golli gwaith o bosibl.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae cyfarpar ag amleddau radio, fel microdonnau, yn gallu achosi ymyriant â’r cyfarpar rhwydweithio sy’n cael ei gadw yn y cabinet rhwydwaith data. Felly, dylech chi geisio osgoi cadw eitemau o’r fath yn yr un lle â’r cabinet rhwydwaith data.

    Dylai ysgolion ofyn am gyngor gan awdurdod lleol wrth wneud ychwanegiadau neu newidiadau sylweddol i’r ystafell sy’n cadw cabinetau rhwydwaith data.

  • Batri mawr yn y bôn yw cyflenwad trydan di-dor (UPS).

    Gall cynnwys UPS yn eich rhwydwaith TG yr ysgol helpu i gadw data os oes toriad yn y pwer – yn enwedig wrth ddefnyddio dyfeisiau symudol fel llechi neu liniaduron mewn ystafelloedd dosbarth neu o gwmpas yr ysgol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Gall cyflenwad pwer na ellir amharu arno (UPS) ddarparu ffynhonnell pwer (wedi’i fesur mewn munudau) os yw’r prif gyflenwad yn methu. Gall hyn roi digon o amser i gyfarpar y rhwydwaith data gau yn ddiogel, gan leihau’r perygl o golli a difrodi data.

    Mae UPS yn drwm, ac mae’n bwysig ei osod yn isel mewn cabinet. Ni ddylid gosod UPS mewn cabinet sydd wedi’i osod ar y wal heb drafod â pheirianwyr yr awdurdod lleol i gadarnhau uchafswm y pwysau y gellir ei osod ar y wal.

    Rhagwelir y bydd y safon yn ateb arfer gorau er mwyn helpu ysgolion i ddiwallu eu hanghenion digidol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod adnoddau ysgolion yn brin a bod angen iddynt gynllunio i gyrraedd y safon dros amser.

    • Dylai ysgolion uwchradd fod ag UPS ym mhob cabinet, ond os na allant fforddio hyn, dylid rhoi blaenoriaeth i gabinetau craidd
    • Dylai ysgolion bach sydd â gofod ac adnoddau cyfyngedig gytuno ar agwedd at UPS gyda’r awdurdod lleol neu eu Partner Cymorth Technoleg Addysg. Dylent hefyd sicrhau bod uwch arweinwyr yn ymwybodol o’r dadansoddiad peryglon/manteision sy’n gysylltiedig â pheidio â bod ag UPS.
  • Er mwyn sicrhau’r cysylltiad gorau posibl ar gyfer pob dyfais, ac osgoi tagfeydd a phrofiadau cyflymder gwahanol mewn ystafelloedd dosbarth o gwmpas yr ysgol, mae’n hollbwysig defnyddio cebl o’r math a’r hyd cywir rhwng cabinetau.

    Dylai ceblau gael eu gosod yn broffesiynol a’u gwarantu bob amser, ac mae angen defnyddio Ffibr am bellteroedd dros 90m (metr).

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Ceblau; a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Gall cysylltiadau rhwng cabinetau (fel rhwng dau floc ysgol) gludo symiau sylweddol o ddata, a gallant fod dros 90 metr o hyd.

    Argymhellir cysylltiadau ffibr gan eu bod yn cynnig mwy o led band a chyfraddau data, ac imiwnedd i ymyriad electromagnetig. Hefyd, maen nhw’n defnyddio gofod yn fwy effeithlon, maen nhw’n ysgafnach ac yn gyflymach i’w gosod.

    Dylai ceblau ffibr rhwng cabinetau fod yn OM4 o leiaf – cebl aml fodd yw hwn sydd wedi’i optimeiddio i gynnal 10Gbps o gysylltiadau ether-rwyd hyd at 400 metr. Gall ceblau byrrach o hyd at 100 metr gynnal llif data hyd at 100Gbps.

    Mae hyn yn cynnal traffig y rhwydwaith heb ddiraddio’r gwasanaeth dros hyd y cysylltiad, gan leihau mannau cyfyng a gwella prosesau rheoli data. Mae’n annhebygol y bydd angen ffibr un modd mewn amgylchedd ysgol, hyd yn oed wrth gysylltu adeiladau oddi mewn i ffiniau ysgol.

    Fel arfer, defnyddir ffibr un modd pan fydd angen pellteroedd hirach (cilometrau lluosog nid degau neu gannoedd o fetrau). Hefyd, mae rhyngwynebau optegol un modd ar ddyfeisiau’r rhwydwaith yn tueddu i fod yn ddrutach na rhyngwynebau optegol aml fodd cyfatebol.

    Os oes ffibr un modd eisoes ar waith, bydd angen i chi barhau i ‘oleuo’ hyn trwy ddefnyddio rhyngwynebau un modd gan nad yw rhyngwynebau optegol aml fodd yn gallu chwistrellu digon o olau i ffibr un modd.

    Ni ddylid byth defnyddio cebl Cat5e neu CAT6 ar gyfer hyd o 90m neu fwy gan fod perfformiad yn diraddio’n sylweddol ar ôl hyn.

    Os yw hyd cebl dros 90m, dylai ysgolion ystyried a oes angen cabinet ymyl ychwanegol i gynnal seilwaith y rhwydwaith yn gyffredinol.

    Dylai ceblau gael eu gosod gan weithwyr â’r cymwysterau priodol sy’n defnyddio deunyddiau addas, gan sicrhau bod protocolau ar gyfer gweithio’n gywir a chadw deunyddiau yn briodol yn cael eu dilyn.

    Dylai ysgolion ymgynghori â’r awdurdod lleol i gael arweiniad ar osod cysylltiadau rhwng cabinetau, yn enwedig os ydynt yn cysylltu adeiladau.

  • Os ydych chi’n rhestru ac yn labelu’ch cyfarpar yn glir, bydd yn haws ychwanegu dyfeisiau newydd i’r rhwydwaith a chanfod namau. Hefyd, bydd yn cynorthwyo’r broses gynllunio os ydych chi am fuddsoddi yn eich technoleg a’ch seilwaith yn y dyfodol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; Safonau Ceblau; a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae cadw dogfennau’n allweddol i ddeall sut mae rhwydwaith TG eich ysgol yn gweithredu, nodi unrhyw namau, adnoddau segur/diangen a phan fydd angen uwchraddio neu newid eitemau o bosibl.

    Mae’n bosibl y bydd cadw cofnod o gyfarpar drud yn ofyniad allweddol ar gyfer darparwyr yswiriant ysgolion.

    Mae angen cadw copi caled o ddogfennau allweddol fel Cynllun Adfer yn dilyn Trychineb / Cynllun Parhad Busnes, unigolion cyswllt allweddol ac ati. Dylid cadw copïau yn ystafell y gweinydd a swyddfa’r pennaeth.

    Bydd dogfennau’n ymwneud â thopoleg y rhwydwaith yn gyffredinol yn helpu i reoli rhwydwaith TG yr ysgol a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd gan dimau arweinyddiaeth ysgolion hefyd y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i flaenoriaethu gwariant a nodi ble mae problemau’n debygol o godi yn y rhwydwaith yn gyffredinol.

  • Am resymau iechyd a diogelwch ac er mwyn sicrhau bod dyfeisiau’r rhwydwaith wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith o hyd, mae’n hollbwysig bod cabinetau data a chyfarpar TG o bob math yn ddiogel o safbwynt trydan.

    Gwneir hyn trwy ddaearu cabinetau data neu sicrhau eu bod wedi’u rhwymo i fan daearu.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae angen daearu cabinetau data er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel o safbwynt trydanol a’u bod yn ddiogel ar gyfer pobl sy’n dod i gysylltiad â nhw.

    Mae’n rhaid i’r gwaith o osod man draen daear gydymffurfio â’r rheoliadau a nodir yn y fersiwn diweddaraf o Reoliadau Gwifro BS7671 IET, sy’n pennu’r safonau ar gyfer gosodiadau trydanol yn y DU. Hefyd, dylai’r gwaith sy’n cael ei wneud gydymffurfio â chodau gosod lleol a chenedlaethol perthnasol.

    Dylai ysgolion ymgynghori â’r awdurdod lleol i sicrhau bod gweithdrefnau cywir ar gyfer daearu a bondio cabinetau ar waith.

  • Mae’n hanfodol sicrhau cyflenwad trydan sefydlog ar gyfer cabinetau rhwydwaith data a chyfarpar rhwydwaith o bob math er mwyn osgoi amrywiadau pwer a cholli data.

    Dylid gwirio a chynnal a chadw’r cyflenwad yn unol â rheoliadau trydan perthnasol.

    Gweler y Canllawiau Cynllunio a Rheoli; a Safon B1 i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae’n rhaid i gabinetau rhwydwaith data fod â chyflenwad pwer dynodedig sy’n cael ei brofi’n rheolaidd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw orlwytho, bod y cyflenwad pwer yn parhau i fod yn briodol ar gyfer gofynion cyfarpar y rhwydwaith wrth i’r ysgol ehangu.

    Dylai hefyd gydymffurfio â’r fersiwn diweddaraf o Reoliadau Gwifro BS7671 IET fel y nodwyd.