English

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu rhai o’r prif ystyriaethau wrth weithredu cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun. Oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chynlluniau o’r fath, argymhellir yn gryf eich bod yn trafod unrhyw drefniadau gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg yn gyntaf.

Mae cynlluniau Dod â’ch Dyfais eich Hun yn caniatáu i ddysgwyr a/neu athrawon ddefnyddio eu ‘dyfeisiau personol’ i addysgu a dysgu yn y dosbarth. Gall ‘dyfeisiau personol’ gynnwys amrywiaeth eang o ddyfeisiau, gan gynnwys ffonau clyfar, gliniaduron a chyfrifiaduron llechen.

Mae cynlluniau Dod â’ch Dyfais eich Hun yn ei gwneud yn bosibl cysylltu ‘dyfeisiau personol’ â rhwydwaith TGCh ysgolion, gan gynyddu mynediad i rwydwaith ‘gwesteion/y cyhoedd’, ond dylid nodi y gall ystod y gwasanaethau sydd ar gael amrywio’n fawr. Fel rheol, nid yw cynlluniau Dod â’ch Dyfais eich Hun yn caniatáu mynediad i ffeiliau neu yriannau rhwydwaith safle, er bod hyn yn bosibl gyda’r gwasanaethau rhwydwaith, y rheolaethau diogelwch a’r gweithdrefnau ysgol iawn.

Mae opsiynau eraill y byddwch am eu hystyried efallai cyn penderfynu p’un a fyddai cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun yn gweithio yn eich ysgol chi. Dylech drafod yr opsiynau amrywiol gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg a all roi cyngor ar yr hyn sydd ar gael o fewn eich awdurdod lleol.

Bydd angen seilwaith cadarn er mwyn sicrhau diogelwch y dysgwyr, ond hefyd ddiogelwch y gwasanaeth. Gallai cynnydd yn nifer y dyfeisiau a’r traffig data gael effaith sylweddol hefyd ar y rhwydwaith presennol. Gall eich Partner Cymorth Technoleg Addysg roi cyngor ynghylch p’un a oes angen buddsoddi’n fwy yn seilwaith yr ysgol er mwyn sicrhau cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun effeithiol.

Gall cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun godi cwestiynau rheoli y mae angen eu hystyried a chynllunio ar eu cyfer ymlaen llaw. Cyn gweithredu cynllun o’r fath, felly, dylid sefydlu polisïau cadarn, gan gynnwys, ymhlith elfennau eraill:

  • Y defnydd sy’n dderbyniol gan y staff a’r dysgwyr
  • Diogelwch a chyfleuster hidlo’r rhyngrwyd

Dylid datblygu polisi newydd ar gyfer cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun a’i integreiddio â pholisïau sydd eisoes yn bodoli. Dylai eich Partner Cymorth Technoleg Addysg allu eich helpu i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng diogelwch yr ysgol a phreifatrwydd personol y dysgwyr.

Dyma rai elfennau arferol mewn polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun:

  • Mathau o ddyfeisiau a gymeradwywyd
  • Perchnogaeth data a diogelwch
  • Lefelau cymorth TG a ddarperir ar gyfer dyfeisiau personol
  • Rheoli achosion, ee colli, dwyn neu ddifrodi dyfais;
  • Pryd y ceir defnyddio dyfeisiau
  • Sut y gall athrawon ymgorffori neu reoli’r defnydd ohonynt mewn gwersi
  • Goblygiadau eu camddefnyddio

Bydd angen i’r ysgol ystyried hefyd elfennau Iechyd a Diogelwch cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun, megis Cyfarpar Sgrin Arddangos; treulio gormod o amser o flaen sgrin; a hwylustod mynediad i’r dyfeisiau.

Bydd angen i’r ysgol ystyried sut y caiff cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun ei ddefnyddio a sut y gall staff gefnogi dysgwyr yn briodol. Dylid ystyried sut caiff gwersi eu haddysgu a sut y caiff defnydd o’r dyfeisiau ei reoli yn y gwersi hynny. Dylech ystyried p’un a yw’n ofynnol defnyddio rhai o raglenni penodol (lleol) yr ysgol neu p’un a allwch ddibynnu ar feddalwedd cwmwl (ee Hwb). Bydd eich Partner Cymorth Technoleg Addysg yn gallu eich helpu gyda’r ystyriaethau hyn.

Bydd angen i’r ysgol ystyried hefyd sut y bydd athrawon yn cynllunio eu gwersi o amgylch yr amrywiaeth bosibl o ddyfeisiau a systemau gweithredu. Gweler hefyd yr adran ar gyfyngiadau.

Mae dyletswydd statudol ar bob ysgol i weithredu mewn ffordd sy’n ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant fel yr amlinellir yn Cadw dysgwyr yn ddiogel.

Fel rhan o’r gwaith o gynllunio a gweithredu unrhyw gynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun, mae’n hynod bwysig bod ysgolion yn rhoi sylw i ddiogelwch eu dysgwyr. Bydd angen i ysgolion, mewn cydweithrediad â’u Partner Cymorth Technoleg Addysg, ystyried pa brosesau, gweithdrefnau neu gyfyngiadau hyd yn oed y bydd eu hangen. Byddai’n arfer da llunio polisi ar gyfer y cynllun sy’n gydnaws â pholisïau diogelwch cyffredinol a diogelwch ar-lein.

Bydd angen i ysgolion drafod hefyd ddiogelwch y dyfeisiau a sicrhau bod eu Partneriaid Cymorth Technoleg Addysg wedi ystyried mesurau seiberddiogelwch priodol. Mae cyngor y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar seiberddiogelwch cynlluniau Dod â’ch Dyfais eich Hun yn awgrymu nifer o faterion sydd angen sylw.

Mae cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun yn ei gwneud yn bosibl i ddyfeisiau personol amrywiol gael mynediad i rwydwaith yr ysgol, ac efallai i ddata personol a gedwir gan yr ysgol. Gallai hyn godi nifer o gwestiynau i reolwr y data mewn perthynas â rhwymedigaethau GDPR. 

Mae GDPR yn nodi’n benodol bod yn rhaid i ddata personol fod o dan reolaeth rheolwr y data sy’n gyfrifol amdano bob amser (ni waeth pwy yw perchennog y ddyfais). Un o nodweddion sylfaenol cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun yw mai’r defnyddiwr sy’n berchen ar y ddyfais ac yn ei chynnal a’i chadw. Mae hynny’n golygu y bydd gan reolwr y data lai o lawer o reolaeth dros ystod eang o ddyfeisiau, o gymharu â dyfeisiau a gefnogir ac a reolir gan ysgol.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnig cyngor ac arweiniad i sefydliadau sy’n ystyried cynllyn Dod â’ch Dyfais eich Hun.  

Bydd angen i’r ysgol ystyried telerau ac amodau perthnasol defnyddio cynlluniau o’r fath er mwyn diogelu’r ysgol a pherchennog y ddyfais.

Dylai’r ysgol ystyried, er enghraifft, sut i reoli’r posibiliadau o ran colli, difrodi a/neu ddwyn dyfeisiau. Byddai angen i’r ysgol ystyried pwy sy’n gyfrifol am y ddyfais yn ystod y diwrnod ysgol (hy yr ysgol neu berchennog y ddyfais) a dylai holi p’un a oes angen yswiriant ychwanegol.

Bydd angen i’r ysgol ystyried pa dechnoleg a ganiateir o dan gynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun, a ph’un a yw pob dyfais yn cyd-fynd â chyfyngiadau’r seilwaith presennol.

Bydd angen i’r ysgol ystyried sut y gall gefnogi modelau diweddaraf dyfeisiau newydd, modelau hyn a systemau gweithredu gwahanol.

Bydd eich Partner Cymorth Technoleg Addysg yn gallu rhoi cyngor a chyfarwyddyd ichi yn y maes hwn, ac ynghylch unrhyw gyfyngiadau o ran y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau personol.

Bydd angen i’r ysgol ystyried sut caiff trwyddedau meddalwedd rhaglenni hanfodol eu rheoli. Mae’n bwysig ystyried p’un a fydd trefniadau trwyddedu’r ysgol yn ddigonol ar gyfer dyfeisiau personol. Mae’n werth nodi bod trefniant trwyddedu cenedlaethol Microsoft yn caniatáu i athrawon a dysgwyr osod rhaglenni sylfaenol Microsoft ar ddyfeisiau personol.

Bydd eich Partner Cymorth Technoleg Addysg yn gallu rhoi cyngor a chyfarwyddyd pellach ichi yn y maes hwn. 

Bydd angen i ysgolion ystyried p’un a yw ei Phartner Cymorth Technoleg Addysg yn barod ar gyfer trefniant Dod â’ch Dyfais eich Hun ac yn gallu ei gefnogi. Mae yna ystod eang o reolaethau technegol y byddai angen eu hystyried. Yn eu plith mae Rheoli Dyfeisiau Symudol; dilysu effeithiol a model rheoli mynediad priodol. Fodd bynnag, bydd unrhyw reolaethau technegol yn dibynnu ar ddiffiniad yr ysgol o gynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun, integredd y ddyfais sylfaenol a’r effaith ar y defnydd ohoni.

Mae angen i’r ysgol ddeall pa gyfyngiadau neu eithriadau y gallai’r Partner Cymorth Technoleg Addysg eu pennu. Mae angen i ysgolion deimlo’n gyffyrddus bod y lefel iawn o gymorth a chefnogaeth ar gael. Dylai’r trefniadau cymorth perthnasol ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw broblemau adlewyrchu hyn.

Dylech drafod gyda’ch Partner Cymorth Technoleg Addysg sut y byddai’n rheoli ac yn cefnogi cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun, a beth fyddai rhwymedigaethau a chyfrifoldebau yr ysgol.

Bydd angen i’r ysgol ystyried yr effaith ar y gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol ymhlith ei disgyblion ac unrhyw broblemau a allai godi yn sgil hynny. Dylid ystyried cydraddoldeb a chysondeb o ran y dysgwyr yn ogystal â’r pwyntiau mwy cyffredinol a nodwyd yn yr adran ar ddiogelwch uchod.

Gall eich Partner Cymorth Technoleg Addysg roi cyngor a chyfarwyddyd pellach ichi yn y maes hwn.

Bydd angen i’r ysgol ystyried hefyd yr angen posibl am fannau gwefru ychwanegol a chyfleusterau diogel i gadw dyfeisiau yn ystod y diwrnod ysgol. 

Gall eich Partner Cymorth Technoleg Addysg roi cyngor a chyfarwyddyd pellach ichi ar yr ystyriaethau ffisegol ychwanegol y bydd eu hangen er mwyn gweithredu cynllun Dod â’ch Dyfais eich Hun effeithiol.