English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, rhieni, staff ysgol, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Yn dilyn datganiad i’r wasg y Gweinidog Addysg ym mis Mawrth 2019, mae trwyddedau Microsoft 365 A3 nawr ar gael i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae'r trywddedau yma yn cynnwys diweddariad Windows 10, Office 365 Pro Plus, Minecraft* a nodweddion Enterprise Mobility and Security.

Mae trwydded Microsoft 365 (A3) yn cynnwys myrdd o nodweddion ychwanegol, sy'n ategu trwydded wreiddiol Hwb ar gyfer Office 365 (A1). Gallwch gymharu cynlluniau Microsoft Education ar dudalen Microsoft 365 Education (Saesneg yn unig).

Bydd y cytundeb hwn o fantais i staff ysgolion ac i ddysgwyr:

  • Dyfeisiau ysgol
    • Gellir trwyddedu pob dyfais a ddefnyddir gan aelodau'r staff a/neu gan ddysgwyr.

  • Dyfeisiau personol (yn y cartref)
    • Caniateir gosod fersiynau bwrdd gwaith o Office ar hyd at 5 cyfrifiadur personol neu Mac fesul defnyddiwr trwyddedig.
    • Caniateir gosod apiau Office ar hyd at 5 llechen a 5 ffôn fesul defnyddiwr trwyddedig.
    • Rhaid sicrhau bod gan ddysgwyr caniatâd wedi’i gadarnhau a rhaid dyrannu trwydded i aelodau'r staff (gweler isod am ragor o wybodaeth).

Mae Gwasanaeth Rheoli Allweddi (KMS) yn ymdrin â thrwyddedau.

Mae'r awdurdodau lleol wedi derbyn y wybodaeth gofynnol er mwyn rhoi cymorth i ysgolion gyda hyn. 

Bydd pob defnyddiwr yn cael trwydded yn awtomatig, gan eu galluogi i elwa ar y cytundeb hwn.

Pan fydd dysgwr wedi’i nodi fel ‘ymadawr’ yn y MIS a’r Cleient Darparu wedi rhedeg, bydd y cyfrif yn cael ei analluogi’n awtomatig a’r trwyddedau’n cael eu tynnu.

Staff ysgolion

Darganfod sut i osod Minecraft Education Edition 

Bydd defnyddwyr â thrwydded Microsoft A3 yn gallu lawrlwytho Office 365 ProPlus ar hyd at 5 dyfais bersonol gan gynnwys cyfrifiaduron personol, Macs a dyfeisiau symudol.

Bydd y Porth Rheoli Defnyddwyr a’r gwasanaeth darparu yn ymdrin â dyrannu trwyddedau, ond bydd modd lawrlwytho meddalwedd yn uniongyrchol o denant Office 365 Hwb.

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Office 365
  2. Cliciwch ar y gwymplen Install Office (yng nghornel dde uchaf y dudalen)
  3. Cliciwch Install software
  4. O dan My installs, cliciwch Install Office
  5. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin (gall gymryd amser i’w osod yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad â’r rhyngrwyd).
  6. Pan fyddwch wedi'i osod, agorwch ap fel Word a darllenwch a derbyn "Y print mân".
  7. Bydd ffenestr naid yn ymddangos ac yn gofyn i chi ddewis Default File Type. Dewiswch Office Open XML formats > Cliciwch OK.
  8. Cliciwch Sign in to get the most out of Office (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb. Bydd hyn yn cysylltu’r gwasanaethau ychwanegol â’r gosodiad Office, fel OneDrive.
  9. Os ydych chi’n defnyddio Windows 10, mae’n rhaid i chi dderbyn y neges sy’n ymddangos. Efallai y byddwch yn dymuno tynnu’r tic ar Allow my organization to manage my device a dewis This app only.

*Minecraft

  • Ni ellir cyflunio Minecraft EE drwy'r KMS.
  • Dim ond staff y dyrannwyd trwydded iddynt drwy Borthol Rheoli Defnyddwyr Hwb fydd yn gallu mewngofnodi i Minecraft EE.
  • Bydd pob dysgwr â chaniatâd yn gallu mewngofnodi.
  • Mae rhagor o wybodaeth am Minecraft EE ar gael yng Nghanolfan Cymorth Hwb.