English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio â Microsoft er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn gallu manteisio i’r eithaf ar raglen Microsoft Shape the Future.

Mae’r rhaglen hon, gan Microsoft, yn cydweithio â gwneuthurwyr dyfeisiadau fel bod gan fwy o fyfyrwyr fynediad at dechnoleg cyfrifiadura. Yna, mae Microsoft yn sicrhau’r prisiau gorau i ysgolion am ddyfeisiadau newydd Windows. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amrywiaeth o ddyfeisiau enghreifftiol, ar gael yn y daflen hon.

Mae partneriaid Microsoft yn cynnig pob math o ddyfeisiau ar gyfer addysg am brisiau amrywiol, sy’n cynnwys:

  • Llechi
  • Dyfeisiau 2-mewn-1 a chyfrifiaduron amnewidiol (convertibles)
  • Nodiaduron (Notebooks)
  • Byrddau Gwaith a Byrddau Gwaith Popeth-Mewn-Un (All in One)

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau llythyr cymhwystra canolog i bob ysgol yng Nghymru gael gafael ar y dyfeisiadau addysg hyn am bris gostyngol. Cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb (hwb@llyw.cymru / 03000 25 25 25) i gael y rhif LOE i sicrhau'r gostyngiadau priodol cyn gofyn am ddyfynbrisiau gan wneuthurwr eich dyfais. Bydd cymhwystra’r ysgol yn cael ei wirio yn erbyn rhestr o ysgolion, sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru.