English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, hyrwyddwyr digidol mewn ysgolion

Llwyfan trafodaeth fideo ar-lein gan Microsoft yw Flip. Mae’n helpu athrawon i weld a chlywed gan bob dysgwr yn y dosbarth ac i feithrin amgylchedd dysgu sy’n hwyliog, yn gymdeithasol ac yn gefnogol. Yn Flip, mae athrawon yn postio rhywbeth sy’n ysgogi trafodaeth ac mae’r dysgwyr yn ymateb gyda fideo byr, boed hynny wrth ddysgu yn y dosbarth neu yn y cartref.

Mae Flip ar gael i holl staff ysgolion a defnyddwyr Hwb yn y consortia addysg rhanbarthol a’r awdurdodau lleol, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o Wasanaethau Ychwanegol Hwb.

Opsiwn 1: Cael mynediad at Flip drwy ddefnyddio porwr


Athrawon

Mewngofnodi am y tro cyntaf:

  1. Mewngofnodwch i Hwb
  2. Cliciwch ar y deilsen Flip.
  3. Os mai hwn yw’ch tro cyntaf yn Flip gofynnir i chi danysgrifio fel Addysgwr.
  4. Dewiswch Sign up with Microsoft
  5. Llenwch eich manylion
  6. Cliciwch Let’s go

Eisoes wedi tanysgrifio fel addysgwr ar Flip:

  1. Mewngofnodwch i Hwb
  2. Cliciwch ar y deilsen Flip.
  3. Bydd hyn yn mynd a chi yn syth i’ch ardal group

Dysgwyr

Nid oes angen i ddysgwyr danysgrifio i gael cyfrif Flip.  Bydd athrawon yn rhoi cod (Join code) i’r dysgwyr ei ddefnyddio i gael mynediad at y group fideo.

  1. Mewngofnodwch i Hwb
  2. Cliciwch ar y deilsen Flip
  3. Teipio’r Join code a gafwyd gan yr athro
  4. Dewiswch Log in with Microsoft
  5. Dylech fynd yn syth at fideo eich athro

Opsiwn 2: Cael mynediad at Flip drwy ddefnyddio dyfais symudol.

I gael mynediad at Flip ar ddyfais symudol (llechen neu ffôn clyfar) bydd angen lawrlwytho ap rhad ac am ddim Flip.  Mae’r ap ar gael ar gyfer dyfeisiau iOS (Apple) a dyfeisiau Android.

Athrawon:

  1. Lansiwch yr ap
  2. Dewiswch Educator
  3. Caniatewch i’r ap gael mynediad i’ch camera a’ch meicroffon
  4. Os mai hwn yw’ch tro cyntaf yn Flip, gofynnir i chi ddewis yr opsiwn i danysgrifio fel Addysgwr.
  5. Teipiwch god (Join code)  neu dewiswch Educator i gael mynediad i’ch ardal group i athrawon
  6. Dewiswch Microsoft login
  7. Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch enw defnyddiwr Hwb a’ch cyfrinair

Dysgwyr:

  1. Lansiwch yr ap
  2. Dewiswch Student
  3. Teipiwch y cod (Join Code) a gawsoch gan eich athro
  4. Dewiswch Log in with Microsoft
  5. Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch enw defnyddiwr Hwb a’ch cyfrinair

Athrawon

1. Crëwch group i’ch dosbarth.
O fewn i’r Group hwnnw byddwch yn postio rhywbeth i’ch dysgwyr i ddechrau trafodaeth , sef Topics, a fydd yn ysgogi’ch dysgwyr i gyflwyno Responses ar fideo.  

2. Crëwch god (Join Code).
Bydd dysgwyr yn defnyddio’r cod hwn i gael mynediad i’ch grid, ac felly crëwch god sy’n hawdd ei gofio.

Caniatadau
Wrth osod a chreu’ch Groups, byddwch yn dewis sut y bydd dysgwyr yn cael mynediad iddo drwy ddewis y math o group (Group Community Type).  

  • E-bost myfyriwr: dewiswch yr opsiwn hwn i ganiatáu mynediad i’r rhai ag enwau defnyddwyr @hwbcymru.net yn unig.
    Rhaid i chi hefyd ychwanegu ‘@hwbmail.net’ i’r adran ‘Add school email’ er mwyn sicrhau y gall eich holl ddysgwyr gael mynediad i’ch group.
  • Rhestr Rhifau Adnabod Myfyrwyr: bydd myfyrwyr yn ymuno â’r grid drwy ddewis Rhif Adnabod Myfyriwr unigryw o’ch dewis chi, a all fod mor syml â 2 neu fwy o lythrennau neu rifau.
  • Google Classroom: dewiswch yr opsiwn hwn, mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr Hwb a chaniatáu mynediad. Yna gallwch ddewis dosbarth o'ch ystafell ddosbarth Google

3. Ychwanegwch bynciau (Topics)
Mae’r pynciau (Topics) yn ysgogi trafodaeth. Gallwch ychwanegu unrhyw beth yr hoffech i’ch dysgwyr edrych arno cyn recordio ymateb fideo, yn eich pynciau (Topics), megis fideos a dolenni.

4. Rhannu’ch group a chasglu fideos gan eich dysgwyr
Unwaith y byddwch wedi gosod eich Group a chreu eich pwnc (Topic) cyntaf, rhannwch god (Join code) eich group gyda’r dysgwyr. Gallwch gopïo/gludo dolen i’ch group yn Google Classroom, Microsoft Teams, neu beth bynnag yr ydych chi’n ddefnyddio i gyfathrebu â’ch dosbarth.

Dyna ni! Mae’r dosbarth yn barod i ddefnyddio Flip!

  1. Cliciwch ar yr eicon pensil ar y grid yr hoffech ei addasu
  2. Sgroliwch i lawr i weld yr opsiynau ar gyfer hysbysiadau, penawdau a mwy.
  3. Gwnewch eich group yn un personol gyda llun clawr.
  4. Cliciwch Update group.
  5. Yna byddwch yn group details. Yma gallwch ychwanegu cymedrolwr (co-pilot) – gwahodd athro arall i’ch helpu i gymedroli’ch group drwy ychwanegu cyfeiriad e-bost Hwb yr athro hwnnw. Sylwer, bydd rhaid i’r athro hwnnw fod wedi tanysgrifio fel addysgwr ar Flip cyn y bydd yn gallu cymedroli eich group chi. 

Pwysig:

  • Fel gyda phob gofod dysgu rhithwir ar-lein, rhaid i chi bob amser ychwanegu ymarferwr addysg arall at ddibenion diogelu.
  • Mae'n bwysig bod perchennog y Group yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu a thynnu aelodau eraill o'r staff fel y bo'n briodol.

Ychwanegu Topic o fewn group

Unwaith y byddwch ym manylion eich group (group details) fe welwch yr opsiwn Add new topic.

  1. Dewiswch bwnc
  2. Ychwanegwch gyfarwyddiadau, meini prawf llwyddiant, neu bwyntiau cyffredinol i ysgogi dysgwyr
  3. Gosodwch amser recordio (15 eiliad hyd at 10 munud)
  4. Gwasgwch y botwm Video moderation i On i sicrhau bod fideo yn cael ei guddio oddi wrth ddysgwyr hyd nes y byddwch chi'n eu actifadu
  5. Dewisol: ychwanegwch ffynhonnell gyfryngol i gefnogi’ch dysgwyr
  6. Dewiswch More options i atodi adnoddau ar gyfer dysgwyr ac i gael mynediad at osodiadau pwnc ychwanegol, fel dewis pa nodweddion fideo sydd wedi’u galluogi a’r rhai nad ydynt ar gael i ddysgwyr, gan gynnwys yr opsiwn i recordio ymatebion fideo i fideos dysgwyr eraill
  7. Dewiswch Create topic

Addasu pwnc

  1. Cliciwch ar y group sy’n cynnwys y pwnc yr hoffech ei addasu
  2. Cliciwch ar yr eicon pensil ar y pwnc yr hoffech ei addasu
  3. Diweddarwch osodiadau’r pwnc, gan gynnwys y nodweddion fideo.
  4. Dewiswch Update topic

Pwysig:

  • Dylech sicrhau bod Video Moderation yn cael ei wasgu i On.  Os caiff ei gymedroli, bydd fideos yn cael eu cuddio gan ddysgwyr hyd nes y byddwch chi'n eu actifadu.
  1. Cliciwch ar yr eicon pensil ar y grid rydych am ei ddileu
  2. Dylai'r botwm dileu fod yn weladwy yn y gornel waelod chwith.

Newid gwelededd group

  1. Cliciwch ar yr eicon pensil ar y grid yr hoffech ei addasu
  2. Sgroliwch i lawr i weld Features
  3. Dewiswch wneud eich group yn Active neu'n Hidden  Nid yw groups cudd yn hygyrch i ddysgwyr.

Pwysig

  • Rhaid i athrawon ddileu groups nad oes eu hangen arnynt mwyach.

Gall athrawon ddewis ‘MixTapes’ er mwyn ychwanegu unrhyw ymateb fideo o unrhyw un o’ch gridiau i greu un ‘MixTape’.

Gall athrawon nodi’r drefn yr hoffent chwarae’r ymatebion.
Gellir ond gweld MixTapes a gellir eu rhannu unrhyw le.

Creu MixTape o fewn Pwnc (Topic)

  1. Canfod y pwnc
  2. Dewiswch unrhyw Ymateb rydych eisiau ei ychwanegu i’r MixTape
  3. Defnyddiwch y gwymplen Actions a chliciwch Add to MixTape
  4. Cliciwch Create!

Creu MixTape o fewn eich ardal weinyddu Educator

  1. Yn eich Educator Admin, gallwch ddewis y nodwedd MixTapes ar dop eich sgrin
  2. Dewis Add New MixTape, llenwch eich manylion i greu MixTape newydd
  3. Ychwanegwch fideos drwy ddefnyddio’r gwymplen Actions neu’r eicon casét MixTape wrth edrych ar ymateb.